Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Bywyd Eben Fardd Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad

Rhagair

WELE dair o awdlau Eben Fardd, a rhai o'i adgofion am fore ei oes ac am gymdeithion ei febyd. Gwaith gwanwyn ei fywyd yw Awdl Dinistr Jerusalem. I ennill cader Eisteddfod Powys yr ysgrifennodd hi, yn haf a gaeaf 1823 a gwanwyn a haf 1824. Yr oedd wedi darllen ei Feibl yn ofalus, a darllennodd yr hanes rydd Josephus chwerw rhwng y Rhufeiniaid a’r Iddewon. Enillodd Josephus ei gydymdeimlad hefyd. Nid yw cynllun yr awdl yn berffaith, ond y mae saerniaeth fanwl a chelfydd arni; a thybiodd Gwallter Mechain, wrth ei darllen, ei fod uwchben meddyliau athrylithgar Dewi Wyn. Y mae yr awdl hon hyd heddyw y fwyaf adnabyddus o awdlau Eben Fardd, oherwydd ei bod yn ferr, yn llawn darluniau by w, ac ar destyn adnabyddus.

Gwaith haf ei fywyd yw AWDL BRWYDR MAES BOSWORTH. I ennill cader Eisteddfod Llangollen, yn 1858, yr ysgrifennodd hon. Dengys ef ar ei oreu fel cynllunydd medrus ac fel chwiliwr manwl Er ei fod yn rhoi gormod o glod i Syr Rhys ap Thomas, a rhy ychydig i Stanley, y mae wedi llwyddo i roddi bywyd y canol oesoedd yn gywir a byw. Ynni'r frwydr, a gwladgarwch brwd, yw prif swyn yr awdl hon.

Gwaith cynhaeaf euraidd addfed bywyd Eben Fardd yw Awdl y Flwyddyn. I ennill cader Eisteddfod Caernarfon, yn 1862, yr ysgrifennwyd hi. Enillodd y ddwy awdl arall gader, ond ni roddwyd buddugoliaeth i hon. Eto hi yw camp bywyd y bardd, ac erys yn un o drysorau pennaf yr iaith Gymraeg. Gellir ei darllen bob dydd heb flino arni, a daw rhyw dlysni newydd i'r golwg yn barhaus. Nid o dudalennau Josephus neu Fabyan y cafodd ddefnyddiau at hon, ond o fywyd o graffu, gyda phleser angerddol, ar haf a hydref, gaeaf a gwanwyn, yn swyn byth-newydd eu tro, ac yng nghyfoeth dihysbydd eu tlysni. Y mae yn yr awdl ugeiniau o ddarluniau, a phob un mor fyw fel y dug lawenydd i'r meddwl drwy ddeffro adgofion am olygfeydd tebyg. Y mae pob peth mor wir, y mae pob darlun mor gain, y mae'r cydymdeimlad mor fyw, fel y mae ystor o hyfrydwch yn drysoredig yn Awdl y Flwyddyn. Nis gwyddom pa un ai plentyn aiddgar ai athronydd hapus yw'r bardd amlaf. Gellir dechreu lle y mynnwn, gellir aros hynny fynnwn uwch pob darlun,—teimlwn o hyd mor onest, mor bur, mor wylaidd yw Eben Fardd wrth ddilyn camrau creadigol Duw.

Nodiadau

[golygu]