Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Tanio'r Deml, cwymp Caersalem

Oddi ar Wicidestun
Yr ymladd chwerw, galar Rahel Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
At yr Eifionwyson

Caersalem, deg em digymar,—oeddit
Addurn yr holl ddaear,
Wedi'th gwymp pwy gwyd a'th gâr?
Ymgelant yn mhau galar—

Udaf, can's daeth fy adeg,
Ni sai dim o'r ddinas deg;
Och! nid oes o'r gwychion dai
Aneddol gongl a'm noddai;
O! 'r llysoedd a ddrylliasant
I lawr o'n cwrr lawer cant;
Dinas gadarn yn garnedd,
Addien fu—Ow! heddyw'n fedd.
MYNYDD SION dirionaf,
Yn ddu i gyd heddyw gaf;
Eirian barth, arno y bu
Dyledog adeiladu;
Prif balas y ddinas dda,
Oedd eurog, emog, yma,
Trowd yn adfail, sail y sedd
Freninol, firain annedd;
Torri, difa Twr Dafydd,
O'i dirion sail, darnau sydd;
Y mynydd oll, man oedd wych,
A'i gyrrau yn aur gorwych,
Heddyw â lludw ddilledir,
Sawyr tân sy ar y tir.

Meirwon sy lle bu'r muriau—rhai waedant,
Ddrewedig domennau;
Ni wyddir bod neuaddau,
Neu byrth erioed yn y bau.

Darfu'r aberthu am byth,
Dir, o gof yn dragyfyth.
Wylofus gweld y Lefiaid
Yn feirw, yn y lludw a'r llaid.

Plaid y Rhufeiniaid o'r fan
Ar hynt oll droant allan;

Rhyfelwyr llawn gorfoledd,
A llu gwych mewn dull a gwedd;
Mawrhydri ymerodrol
Ddanghosant, pan ant yn ol;
A da olud i'w dilyn,
Byddin gref—heb ddyn a gryn.

Wele y ddinas heb liw o ddynion,
O! O! drwm haeriad, ond y rhai meirwon;
Heb le aneddawl i bobl newyddion,
Rhuddwaed ac ulw yw'r eiddo âd gâlon,
O! mor wael, a marwolion!—ceir hyll drein
Mwy ar GAERSALEM, er gwae'r oesolion.

Y fan, i fwystfilod fydd,
Tynn rhai gwylltion o'r gelltydd;
Byw wrth eu melus borthiant
Yma ar gyrff y meirw gânt;
Cigfrain yn gerain o gwrr
Draw y pant, gyda'r pentwr;
A'r lle glân, wedi'r holl glod,
Llenwir o ddylluanod;
Pob bwystfil yma gilia,
Hoffi yn hon ei ffau wna;
Diau af finnau o'r fan,
Mae'n well i minnau allan;
A gado'r fan rwygedig,
Ddi drefn, i'r sawl ynddi drig.

Ah! wylaf, ac af o'i gŵydd,
Hi nodaf yn annedwydd;
Distryw a barn ddaeth arni,
Er gwae tost gorwygwyd hi.


Nodiadau

[golygu]