Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Titus a'r Rhufeiniaid yn dynesu

Oddi ar Wicidestun
Daroganau galar a gwae Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr ymladd chwerw, galar Rahel

Ha! fradwyr anhyfrydol,
Trech yw Naf, O trowch yn ol!
Gorffwyswch, sefwch dros awr,
Er eich arfog roch erfawr—
Dofydd o'r nef a lefair,
Enciliwch oll, clywch ei air.

Geilw Rufeiniaid, gwroniaid gorenwog,
I wyneb gâlon, eon, bygylog;
Deuant, lladdant mal cewri llueddog,
Titus a'i ddirus fyddinoedd eurog,
Anorfod ddewrion arfog—llawn calon,
Gâlon terwynion, glewion, tariannog.

O dir ochain, edrychaf,
Neud lu a'r nen troi a wnaf;
Mewn cur rhyw gysur geisiaf
Diau mae'n chwith, dim ni chaf;
Rhyw gwynaw gan rai gweinion
Sy ar bob llaw, braw i'm bron.
I'r ddinas mae myrddiynau
Megis seirff am agoshau;
Gwelaf, debygaf o bell,
Ymwibiant ger fy mhabell;
A'u hedrychiad yn drachwyrn,
Dewrllu yn canu eu cyrn.
Wynebu a gwanu gwynt,
O'u blaen gyrru blin gorwynt,
Tincian eirf glân, dyrfawg lu,
Chwai bennwn yn chwibanu;
Rhedant, eu meirch ant mor chwyrn
Hwnt ergydiant trwy gedyrn;

A phar anadl eu ffroenau,
Yn un llen i'r nen wyllhau—
Nifwl yn gwmwl a gerdd,
Hyd wybr deg hed brwd agerdd—
Chwyrn welediad ofnadwy,
Annof, y meirch ofnaf mwy,
Eu llygaid tanbaid bob tu,
Oll tanynt yn melltennu,
Ysgogant mewn rhwysg agwrdd,
Ymdaflant, hyrddiant mewn twrdd.

Golygaf, ac af o'm cell
Allan, caf weled wellwell,
Dda drefn yr holl luoedd draw,
Ba ddynion sy'n byddinaw?

Titus flaenora'r dyrfa frwd arfawg,
Canan wna'n brif-ffordd i'w osgordd ysgawg,
O mor ddiflin ei fyddin arfeiddiawg,
Rhai'n trin y bwa, rhont droion bywiawg;
A'u dieisor dywysawg—uchelfron,
Trecha ei elynion tra chalonnawg.

Ac allan daw'r picellwyr,—hwy fwriant
Rai'n farwol gan wewyr;
Anturiol, gwrol y gwŷr,
A dewrion esgud aerwyr.

Yna'r marchluoedd floeddiant,—rhyfelwyr
Filoedd a ddilynant,
Ni luddir, iawn lueddant,
Cedyrn, lluon chwyrn, llawn chwant.

Eto rhyfeddaf ar hynt arfeiddiog,
Dewrion benaerwyr, cedyrn banerog,
Nesânt i'm gŵydd, a'r arwydd eryrog
Ar eu llumanau, llennau cynlluniog:

Yn ol y rhain, wele'r enwog—filwyr
A'r holl udganwyr, lleiswyr lliosog.


Nodiadau

[golygu]