Gweithiau Eben Fardd/Ymweliad a Llangybi
| ← Gwanwyn | Gweithiau Eben Fardd gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Eifionnydd → |
YMWELIAD A LLANGYBI
Yn Medi 23, 1854.
LLANGYBI!—Os wyf fi fardd,
Pa ehud!—pwy a wahardd
Un awdl fer, o anadi 'foes,
Un annerch, brydnawn einioes,
I ti, fy Llangybi gu,
Fan o'i gwrr wyf yn garu?
Hoff o Fon oedd Goronwy,
Tydi a garaf fi yn fwy;
Yn dynn ar dy derfyn di
Ynganaf gael fy ngeni;
Mae bendith fy mabandod
Yn wir ar dy dir yn dod.
Hiraeth heddyw yw'r arwr
Egyr y gân o gwrr i gwrr;
Y fynwent a'i beddfeini
Yn flaenaf, fyfyriaf fi;
Y mae rhan o'm rhieni
O fewn ei swrth fynwes hi;
Deil eu llwch, nes y del llaw
Duw Anian i'w dihunaw.
Isaac Morys gymerwyd
I gwrr ei llawr a'i gro llwyd;
Ni eithrwyd yr hen Athro,
Yn anad 'r un, yn ei dro.
Dyna fedd Dewi Wyn a fu—hen bardd,
Heb neb uwch, yng Nghymru;
Ond ple mae adsain cain, cu,
Tinc enaid Dewi'n canu?
Mae degau o'm cymdogion,
A'u tai yn y fynwent hon:

TYWYSENNAU'R HYDREF.
Duwiesaidd yw'r dywysen,
Grym ei phwys a grymai phen."
A mi'n ieuanc, mwyaheais,
Ag aidd llon, eu gwedd a'u llais;
Ond O! y modd! dyma hwy
Isod, ar dde ac aswy,
Yn fudion lwch-hanfodau,
A neb o'i hun yn bywhau.
Codwch codwch! lwch di lun,
Gwyntiwch, o'ch tawel gyntun,
Echwynwch un fach einioes,
Neu ddarn o ryw newydd oes,
I siarad hen amserau
Gyda'ch gilydd, ddydd neu ddau;
Buoch bobl, a baich y byd
Ar eich gwarrau uwch gweryd;
O! mor chwai, pan delai dydd
A'ch galwad at eich gilydd,
Fel hyn, gryn fil o honoch,
Y gwnaech lawen grechwen groch;
Gan annerch, yn gynhennid,
Y naill y llall, heb un lliw llid:
Torrech trwy holl faterion
Hyn o blwy, yn wyneb lon;
Dilynai eich dylanwad
Trwy fywing lu tref a gwlad;
Lloer eich dawn, fel llewyrch dydd
Hwyliai'r genedl ar gynnydd.
Ond wele'n awr, delw neb
Ni ymwâna im wyneb;
Heddyw'n dlawd-ddienaid lu,
Mae'ch olion yn ymchwalu,
Yn llwch, o un bedd i'r llall,
Andwyol, heb un deall;
Ebrwydd y llun, yn bridd llwyd,
I aflerwch faluriwyd.
O mae'n dost i'm henaid i,
Raianach sal, arnoch sylwi;
Ddof dorf!--mor ymddifad y'ch
O'r ganwyll fu'n hir gennych!
Y meddwl a'i ymwyddiant
Ymaith ffodd, a chiliodd chwant.
Cysgwch! cysgwch! lwch y wlad!
Hyd foreu yr adferiad;
Eich Duw yn unig a'ch deall
Yn y llawr llwch, y naill a'r llall.
Af i'r Llan, fan o fonedd,
Hyd yr hen Lan,—hi dry'n wledd;
Cofion ar gofion gyfyd
O lwybrau mêl boreu myd.
Ah! dyma'r Fedyddfa deg,
Man bedydd, 'min bo'i adeg;
Er ystod faith cristiwyd fi
Yn nawdd hon, newydd eni;
Duw i fy rhan! a'i dwfr rhydd
Fe'm mwydwyd yn fy medydd;
Boed da y ffawd, bedydd ffydd
Fo y ddefawd, fyw Ddofydd.
Bedydd ffydd, boed da y ffawd,
Fyw Ddofydd, fo y ddefawd.
Roberts, beriglor hybarch,
Y mwyn wr, mae yn ei arch;
Urddasai'r Llan ar Ddywsul,
Am hir dalm, gyd â'i Salm Sul;
Lle seiniai'r holl Wasanaeth
Yn dawdd ffrwd o weddi ffraeth;
Pan i'w bulpud symudai,
Ar ol Pader ferr, ddi fai.
O'i ben y gangen gyngor
Ddeuai dwf yn ddi dorr;
A llais lym, da'i rym, di rus,
Seiniai eiriau soniarus;
A'i ddygiad yn fon'ddigaidd,
A iach o bryd, uwch ei braidd;
O'r hen ddull ei rinwedd oedd,
Caredig mewn cur ydoedd;
Da i'r tlawd, er atal loes,
A diddanu dydd einioes;
Eto gwyllt, nid at y gwan,
Wr gonest, rhywiog anian,
Ond at y gweilch beilch, di bwyll,
Na ddywedent yn ddidwyll;
Ymawyddai am heddwch;
Ni haeddai lai,—hedd i'w lwch.
Trof yn awr, trwy y fan hon,
Hyd y grisiau lled-groesion,
Ar osgo, i le'r Ysgol,
Oedd fwy o nwyf, ddydd fu'n ol,
Sef llofft y Llan, man mwyniant,
Ddesgiau'r plwyf at ddysgu'r plant.
O! dyma olygfa lwys
Ar waglofft brudd yr eglwys;
Nid oes twrw!--hun distawrwydd
Dwng yma'i le, ers tri deng mlwydd;
Mae hynny'n oes, fel mewn un awr,—
Fel dim onid dim yw'r tymawr!
Onid dim, dim ond dameg,
Yw ein hynt oll i henaint teg.
Estyll y lleoedd eistedd
Ynt o'r un waith, eto'r un wedd,
Lle gallwyd, â llaw-gyllell,
Gwneyd bwlch, neu gnoad, o bell,
A tharo brath i ryw bren,
Neu ysu twll mewn ystyllen,
Gan hogiau go anhygar,
Taeog o wedd, tew eu gwarr;
Pery 'rhen graith i faith fyw,
Ai naddiad yr un heddyw;
Ond yr awdwyr o'r direidi,
Neu ddim o'u nod, ni wyddom ni.
Tonn ar ol tonn a'u laenodd,
Pwy ŵyr eu rhan, na'u man, na'u modd?
Dyma fainc, a chainc ar ei chwrr,
O! 'r dyndod mawr ei dwndwr
Hyd-ddi gynt ydoedd dda'i gwedd,
Yn gostwng, codi, ac eistedd;
A throi llyfr, a tharo llaw,
Cynllwyn o boblu'r canllaw,
Yn gu, rosynog, res anwyl,
Yn gariad i gyd, mewn gwrid gwyl.
Yr un fath yw yr hen fainc,
Lle safai'r lluaws ifainc;
Ond, O Dduw ne'! p'le, p'le mae'r plant
Heinif, hoewon, yna fuant?
Trosglwyddwyd yr ysgolyddion
Fu yn eu cylch ar y fainc hon,
I lawer math o leoedd
O dreigl chwyrn, dirgel a choedd;
Un i'w le yn yr hen wlad,
Trofa ei hen gartrefiad;
Rhyw bell fangre yw lle'r llall,
Wyneb dŵr,—neu y byd arall!
Rhyw gwm sy'n rhy drwm i'w dramwy,
Am obaith mainc yma byth mwy.
Dyma fi, Langybi gu,
A fannerch yn terfynu,
Bellach, mae'm gwyneb allan
O wynt y lle, fynwent a Llan;
Mae tynged yn mud longian,
Gan ysgog at Glynog lan;
Hi ddengys, pwy faidd wingo?
A brwd frys, y briod fro;
Cyfeiria'i bys cyfarwydd
I greu i'm rhan awgrym rhwydd
Mai Clynog, i'm cu lonni,
Ar fin mor, yw'r fan i mi.