Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Yr ymladd chwerw, galar Rahel

Oddi ar Wicidestun
Titus a'r Rhufeiniaid yn dynesu Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tanio'r Deml, cwymp Caersalem

Imi, och! y mae achaws—i wylo
O weled y lluaws,
Yma'n chwyrn oll mewn chwerw naws,
Modd ingol yn ymddangaws.

Aerawg weilch enwog yn awr gylchynant
Yr holl furiau, a dewr y llafarant;
Lewion uchelwyr! yn ol ni chiliant,
Aml fyrddiynau yn rhesau ni rusant,
Eithr i fewn rhuthro fynnant—yn wrol
A'r lle addurnol yn ddrylliau ddarniant.

Suddir y dinasyddion—o 'ngolwg
Yngwaelod trallodion,
O echrys air! chwerw yw son
O! 'r gwelwi mae'r trigolion!

Ffoant rai o'r ffiniau trist
O ethryb y braw athrist;
Llesg, gweinion, a blinion blanl,
Tra 'mddifaid, trwm oddefant,
Heb un tad wedi'i adael,
Mwy, mwy chwith, dim mam i'w chael;
Rhieni mawr eu rhinwedd,
Fu'n llon, sy gulion eu gwedd;
A braw tost, ryw fyrdd bryd hyn
A gnoa y dygn newyn.

Gwelaf Rahel, isel, lwys,
Yn wylo, fenyw wiwlwys,
Am ei gŵr yn drom ei gwedd,
A'i henaid mewn anhunedd;

Hi ddywed yn grynedig,—
"Yma nid oes namyn dig.
Llid a chŵyn, trallod a chur,
Dialedd a phob dolur;
O! fy mhriod a godai,
Llon wr rhydd, allan yr ai,
Llwfr oedd, a d'ai llofruddion,
Clwyfent, hwy frathent ei fron;
A thrwy boen fe aeth o'r byd,
Ni welaf mwy f'anwylyd.
Minnau o'm bro a ffoaf,
Cyn y dydd, ac onid af,
Anheg glwyf drwy fin y cledd,
A newyn fydd fy niwedd.
Fy mhlant bychain, eich sain sydd,
Yn boenawl i mi beunydd;
Bellach rhaid gwibio allan,
Hwnt ymhell—Dowch fy mhlant mân."
A deg ochenaid hwy gydgychwynant,
I'w taith, drwy anobaith, draw wynebant;
Ac o furiau y ddinas cyfeiriant
Dua'r mynyddoedd i droi am noddiant;—
Trwy angau nychlyd trengant,—o ogof
I hen wlad angof, yn wael diengant.

Hyf lueddwyr, hwy a floeddiant,—i'r frwydr
Ar frys y goruthrant;
Y Ddjnas a feddiannant,
A'u holl nerth ei dryllio wnant.

Ewybr ennill, â'u hwrdd-beiriannau,
Trwm, erwin ddyrnant, a'r mur yn ddarnau,
Trwy ei ganol torri agenau,
Eu hergydion a wnant rwygiadau;
O! 'r niweidiol ddyrnodiau—a roddant
Hwy fawr dyrfant anhyfryd arfau.


Aerwyr, ymbieidwyr, heblaw—rhyw gannoedd
Drwy gynnen yn unaw;
Eidiog âlon digiliaw,
Gofid, a llid ar bob llaw.

Lliwir â gwaed y llawr gwiwdeg,—o fewn
Afonydd yn rhedeg;
Bywiog gurant bob carreg
O'r muriau a'r tyrau teg.

Trwy eu dymunol heolydd—ffriwdeg
Y ffrydia gwaed beunydd;
Bawdd o fewn,—ba Iddew fydd
Mwy a gâr ei magwyrydd?

Trwy'r ddinas, galanas wna'r gelynion,
A gorwygant yn anrhugarogion;
Lladdant, agorant fabanod gwirion;
Ow! rwygaw, gwae rwyfaw y gwyryfon;
Anniddanawl hen ddynion—a bwyant,
Hwy ni arbedant mwy na'r abwydion.
Swn anniddig sy yn y neuaddau,
I drist fynwes pwy les wna palasau?
Traidd galar trwodd i giliau—gwychion
Holl dai y mawrion, er lled eu muriau.

Nychir y glew gan newyn,
Ac O! daw haint gyda hyn:
Dyna ysa'r dinaswyr,
Hwy ant i'r bedd mewn tro byr;
Bonedd a gwreng yn trengi,
Gweiniaid a'u llygaid yn lli.

Y pennaf lueddwyr, O! pan floeddiant,
Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant;
Eraill gan loesion yn waelion wylant,
Eu hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant;

Gan boen a chur, gwn, byw ni chant,—angau,
Er gwae ugeiniau, dyrr eu gogoniant.
Ys anwar filwyr sy yn rhyfela,
Enillant, taniant gastell Antonia;
Y gampus Deml a gwympa—cyn pen hir;
Ac O! malurir gem o liw eira.
Wele, drwy wyll belydr allan—fflamol
A si anaturiol ail swn taran:
Mirain Deml Moriah'n dân—try'n ulw—
Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian!
Yr adeiladaeth ddygir i dlodi,
Be ba'i cywreiniach bob cwrr o honi;
Tewynion treiddiawl tân a ant trwyddi;
Chwyda o'i mynwes ei choed a'i meini;
Uthr uchel oedd, eithr chwal hi—try'n llwch,
A drych o dristwch yw edrych drosti.
Fflamau angerddol yn unol enynnant,
Diamau y lwyswych DEML a ysant;
Y dorau eurog ynghyda'r ariant,
Y blodau addurn, a'r cwbl a doddant,
Wag annedd ddiogoniant—gyda bloedd
Hyll bwyir miloedd lle bu roi moliant.
Llithrig yw'r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y marmor gwyn.

Eto rhwng udiad y rhai trengedig,
Lleisiau, bloeddiadau y bobl luddedig,
A swn y fflamau, ffyrnau uffernig,
Tristwch oernadau, trwst echrynedig,
A'r fan oedd orfoneddig—olwg drom!
Ow! ow! mae'n Sodom anewisedig.


Nodiadau

[golygu]