Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gweithiau Eben Fardd (testun cyfansawdd)

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Gweithiau Eben Fardd
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia
-

Eben Fardd

Eben Fardd.
Ab Owen, Llanuwchllyn.

Argraffwyd i Ab Owen gan R. E. Jones a'i Frodyr,
CONWY

BYWYD EBEN FARDD

AWST 1802 y ganwyd Eben Fardd; bu farw Chwefror 10, 1863. Ganwyd ef mewn bwthyn, sydd erbyn hyn wedi diflannu, ar un o lethrau Llanarmon yn Eifion; mae ei fedd ger mur eglwys Clynog.

Mewn tlodi dygn, mewn afiechyd, mewn myfyrdod dwys a darllen aiddgar, y treuliodd fore ei oes. Dilynai ysgol lle bynnag y cai un,—yn Llanarmon, Llangybi, Abererch, a dysgai grefft bob yn ail. Ymgymhwysodd i fod yn athraw, ond blynyddoedd celyd oedd y blynyddoedd hyny; tra yr oedd ef yn ysgrifennu ei Awdl Dinistr Jerusalem, dywed fod y plwy yn chwilio am lety i’w dad afiach a thlawd.

Ond yr oedd cewri ar y ddaear yr adeg honno,—clywodd yr ysgolfeistr hyawdledd John Elias, eisteddai yn aml wrth draed Dewi Wyn a Robert ab Gwilym Ddu, a mynych yr ymwelai â Sion Wyn o Eifion. A phan enillodd gader Eisteddfod Powys, yn 1824, gwelwyd fod bardd arall wedi codi yn Eifion.

Bu’n athraw yn ei gartref tan 1827. Yna, pan oedd yn dywyll iawn arno, cafodd wahoddiad i gadw ysgol yn Nghlynog. Aeth, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Rhyw £25 yn y flwyddyn oedd ei gyflog, ar ei fwyd ei hun. Priododd, dysgodd rwymo llyfrau, a medrai ei wraig bobi bara. Gweithiodd yn galed, magodd ei blant yn anwyl, ymdrechodd i ddod yn ddyn da ac yn fardd da. Llwyddodd, a daeth ei fywyd yn llawnach o hyd.

Rhoddodd agwedd lenyddol iir Diwygiad; a phwy fedr fesur ei waith ynglŷn a chyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau ei wlad? Fel athraw ac fel beirniad, credai ei ddisgyblion nad oedd yn bosibl iddo fod yn well. Cymerodd ei le gyda chymwynaswyr Cymru,—Gwilym Hiraethog, Ellis Owen Cefn y Meusydd, Dr. Edwards, Cynddelw, Nicander, a’r llu o gewri y bendithiwyd Cymru â hwy yr adeg honno. Ac ni fu yn ol i'r un ohonynt,—er mai gŵr a'i wyleidd-dra mud yn ymylu ar ofn oedd,—yn ei wasanaeth a'i ddylanwad.

Y casgliad gore o'i waith yw casgliad Hywel Tudur a W. Jones, Bryngwydion. Y mae ei brif ddarnau wedi eu cyhoeddi lawer gwaith, ac y mae'n sicr y deuant yn fwy-fwy poblogaidd. Dengys ei hunangofiant a'i lythyrau, gadwyd trwy ofal Myrddin Fardd, mor hoffus oedd ei fywyd, ac mor ddyledus yw parch iddo.

Rhagair

WELE dair o awdlau Eben Fardd, a rhai o'i adgofion am fore ei oes ac am gymdeithion ei febyd. Gwaith gwanwyn ei fywyd yw Awdl Dinistr Jerusalem. I ennill cader Eisteddfod Powys yr ysgrifennodd hi, yn haf a gaeaf 1823 a gwanwyn a haf 1824. Yr oedd wedi darllen ei Feibl yn ofalus, a darllennodd yr hanes rydd Josephus chwerw rhwng y Rhufeiniaid a’r Iddewon. Enillodd Josephus ei gydymdeimlad hefyd. Nid yw cynllun yr awdl yn berffaith, ond y mae saerniaeth fanwl a chelfydd arni; a thybiodd Gwallter Mechain, wrth ei darllen, ei fod uwchben meddyliau athrylithgar Dewi Wyn. Y mae yr awdl hon hyd heddyw y fwyaf adnabyddus o awdlau Eben Fardd, oherwydd ei bod yn ferr, yn llawn darluniau by w, ac ar destyn adnabyddus.

Gwaith haf ei fywyd yw AWDL BRWYDR MAES BOSWORTH. I ennill cader Eisteddfod Llangollen, yn 1858, yr ysgrifennodd hon. Dengys ef ar ei oreu fel cynllunydd medrus ac fel chwiliwr manwl Er ei fod yn rhoi gormod o glod i Syr Rhys ap Thomas, a rhy ychydig i Stanley, y mae wedi llwyddo i roddi bywyd y canol oesoedd yn gywir a byw. Ynni'r frwydr, a gwladgarwch brwd, yw prif swyn yr awdl hon.

Gwaith cynhaeaf euraidd addfed bywyd Eben Fardd yw Awdl y Flwyddyn. I ennill cader Eisteddfod Caernarfon, yn 1862, yr ysgrifennwyd hi. Enillodd y ddwy awdl arall gader, ond ni roddwyd buddugoliaeth i hon. Eto hi yw camp bywyd y bardd, ac erys yn un o drysorau pennaf yr iaith Gymraeg. Gellir ei darllen bob dydd heb flino arni, a daw rhyw dlysni newydd i'r golwg yn barhaus. Nid o dudalennau Josephus neu Fabyan y cafodd ddefnyddiau at hon, ond o fywyd o graffu, gyda phleser angerddol, ar haf a hydref, gaeaf a gwanwyn, yn swyn byth-newydd eu tro, ac yng nghyfoeth dihysbydd eu tlysni. Y mae yn yr awdl ugeiniau o ddarluniau, a phob un mor fyw fel y dug lawenydd i'r meddwl drwy ddeffro adgofion am olygfeydd tebyg. Y mae pob peth mor wir, y mae pob darlun mor gain, y mae'r cydymdeimlad mor fyw, fel y mae ystor o hyfrydwch yn drysoredig yn Awdl y Flwyddyn. Nis gwyddom pa un ai plentyn aiddgar ai athronydd hapus yw'r bardd amlaf. Gellir dechreu lle y mynnwn, gellir aros hynny fynnwn uwch pob darlun,—teimlwn o hyd mor onest, mor bur, mor wylaidd yw Eben Fardd wrth ddilyn camrau creadigol Duw.

Cynhwysiad


Y Darluniau

EBEN FARDD

"Bardd ydwyf. heb air i'w ddwedyd,
Na barn ar ddim yn y byd."


CLYNOG, S. Maurice. Jones

"Mor glysion mae'r eglwysydd,
Rhwng cedyrn oelion coedydd"


JERUSALEM

"Jerusalem fawr islaw mi fydd—gain
Ar gynnar foreuddydd "


GWYNTOEDD Y GWANWYN, Arthur E. Elias

"Yn ei gôb fawr yn gwibio
Drwy'r ffyrdd, â'i odre ar ffo."


PLADURWYR YR HAF, Arthur E. Elias

"Gwisgo'i glun ac esgair,
Di ludd eu hynt at ladd gwair."


TYWYSENNAU'R HYDREF Arthur E. Elias

"Orchuddir gan geirch a heiddiau—llawn, glân.
A digon weithian o deg wenithau."


FFRYDLIFOEDD Y GAEAF Arthur E. Elias

Agenir v clogwyni
I eigion llawr gan y lli."


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Awdl Dinistr Jerusalem
ar Wicipedia

JERUSALEM

"Cref iawn oedd, ac ar fynyddau—dilyth
Adeiladwyd ei chaerau"


Dinistr Jerusalem.

"AH! dinistr! dinistr yn donnau—chwalodd
Uchelion ragfuriau,
A thirion byrth yr hen bau,
Caersalem sicr ei seiliau.

Cref iawn oedd, ac ar fynyddau—dilyth
Adeiladwyd ei chaerau;
Yn ei bri hon wnai barhau
Yn addurn byd flynyddau.

Af yn awr i fan eirian,—golygaf
O glogwyn eglurlan,
Nes gweld yr holl ddinas gan,
Y celloedd mewn ac allan.

Jerusalem fawr islaw im fydd—gain
Ar gynnar foreuddydd;
Ei chywrain byrth a'i chaerydd
I'w gweld oll mewn goleu dydd.

Ceinwech brifddinas Canan—oludog,
Fawladwy, gysegrlan;
O uthr byrth a thyrau ban,
Myrdd ogylch—mor ddiegwan!

Ei hoff balasau, a'i phobl luosog,
Dawnus lywiawdwyr, dinas oludog,

Ei berthawg rannau, hen byrth gorenwog,
Muriau diadwy, O mor odidog!
Addien serenawl ddinas ariannog,
Cywrain a llawen, ceir hi'n alluog;
Heddyw o'i rhwysg nid hawdd yr ysgog—
Hawddamor iddi, le hardd mawreddog.

Uwch ei rhagfur, ban, eglur binaglau,
Tai cyfaneddol, tecaf neuaddau,
Lluon i'w 'nabod, llon eu wynebau,
Sy'n chwai a diwyd mewn masnach deiau,
Heirddion eu gwedd drwyddi'n gwau—yn drwyadl,
Tawchog anadl ddyrch hwnt o'i cheginau.

Ni bu le eisor, llawn o balasau,
Iesinawg agwedd ei synagogau,
Eu gwedd arnodwyd âg addurniadau,
le, llawn addurn ei holl aneddau;
Ac o fewn y trigfannau—ffrwyth y tir
Er budd monwesir heb ddim yn eisiau.

Urddedig ddysgedigion,
Ddawnus wŷr, drwy'r ddinas hon
Ymrodiant mewn mawrhydi,
Addurnant, a harddant hi;
Y rabbiniaid a'r bonedd,
Eu dysg da ddadguddia'u gwedd,
Wele, rhinwedd olrheiniant,
Fawrion wŷr, myfyrio wnânt:
Heirddion ser y ddinas hon
Yw ei thrwyawl athrawon:
Addas beunydd esboniant,
Geiriau Ner agor a wnant:
Ac efryd yn y Gyfraith
Ddofn a gwir, ddeddf enwog iaith.


Ni fu ddinas mwy llawn o feddiannau
Yn trin cymaint o arian ac emau;
Un orhoff, orlawn o aur a pherlau;
Ceir ynnod luosog gywrain dlysau,
Aroglus, wiw-goeth, rywiogawl seigiau,
Olewydd, gwinwydd, i'r genau—rydd hon,
O! ddinas wiwlon, ddaionus, olau.

Lliwdeg ddyffrynnoedd Ilydain,
Sy o gylch y ddinas gain;
Llwyni fyrdd yn llawn o faeth,
Llwyni, llennyrch, llawn lluniaeth;
Y blodau wynebledant,
Ac yn eu nôdd gwenu wnant;
Dyferion gloewon y gwlith
Clau, ar eginau'r gwenith,
Glaswellt a gwyrddfrig lysiau
Ymhlith y blodau'n amlhau:
Gerddi teg, iraidd eu twf,
Dillyn ardai llawn irdwf.
Cu ydynt y cawodau,
Y fro sech a wnant frashau;
Haul glwys i loewi y glyn
Ergydia'i belydr gwedyn.

Aml res euraidd, mil o ros Saron,
Geir, a lili a'i gwawr oleulon,
Ar dwf iraidd, yn rhoi dyferion,
O deg liwiau, hynod, a gloewon.

Acw yn y tiroedd clywir cantorion
A'u syml, luosawg, leisiau melysion;
Anian ogleisiant—O donau glwysion!
Ar gangen eiddil, per gynganeddion;
Pereidd-der, mwynder eu meindon—chwâl fraw,
Ffy, derfydd wylaw a phwdr-feddylion.


O! hardd frodir ddyfradwy,
Ei dwfr glân adfer o glwy
Y dyn fo dan waeau fyrdd,
Gloesion iachâ'i dwfr glaswyrdd:
Gerllaw o du'r gorllewin
Wele, rhed yn loew ei rhin
Hen ffrwd lon Gihon deg wawr,
Dirionlif, hyd raianlawr;
Deifr Etam, Siloam lyn,
Pereiddflas, wyrddlas harddlyn,
Yn ei godrau hen Gidron,
Tra gloew o hyd treigla hon:
Dŵr llonydd gyda'r llwyni,
Tra llawn yw y tir o'i lli.

Ond O! i'r uchel harddfryn edrychaf,
Moriah amryliw mewn marmor welaf.

Ah! dacw ymlaen acw y Deml enwocaf
O'r un a seiliwyd, arni y sylwaf;
Gweled i gyd ei golud gaf,—a hi,
Damlygir ini, yw'r Deml gywreiniaf.
Heirdd golofnau, eiliadau goludog,
Canpwyth cywreiniawl, cnapwaith coronog;
Gwnaed mewn dulliau y gwniad mandyllog,
Wynebir ogylch â gwinwydd brigog:
Sypiau gawn o'r grawn yn grôg,—gwyrddion ddail
I'r hynod adail eirian odidog.

O'r melyn aur amlenni—roed yn wych
Ar hyd ei nen drosti;
Anfon ei lon oleuni
Mae'r haul ar ei muriau hi.

Ond O! alar a'n dilyn,
O!'r wylo hallt ar ol hyn;

Holl anian fyddo'n llonydd,
Na seinied edn nos na dydd;
Distawed, na chwythed chwa,
Ac ust! eigion, gostega!
Na fo'n dod fyny i dir
Eildon o'r Môr Canoldir;
lorddonen heb dwrdd ennyd,
Gosteg! yn fwyndeg drwy fyd,
Na fo dim yn rhwystr imi,
Na llais trwm i'm llestair i.
Rhagwelaf drwy argoelion,
Na saif yr hardd ddinas hon,
Am hiroes yn ei mawredd,
Adfeilia, gwaela ei gwedd.


Ger bron mae gwawr wybrenawl—darlleniad
O'r lluniau rhyfeddawl;
A ddengys ei gwedd ingawl,
Lleiheir mwy yn llwyr ei mawl.

Ceir Anian oll yn crynnu
A braw llawn, crynn wybr a'i llu;
Aruthr yw! hi wrth red
Er dangos ei chwerw dynged;
Ac O! lef drom glywaf draw,
Hynod swn yn adseiniaw;

Yn awr darogana rhyw drigienydd,
Rhua drwy alar hyd yr heolydd,
Ac o'i ben "Gwae!" "Gwae!" beunydd—a glywaf,
Effro y sylwaf ar ei phreswylydd.

Ond Duw ar unwaith sydd yn taranu,
Ail swn llifeiriant ei lais yn llafaru;
Ei air gorenwog wna i'w mur grynnu
Geilw'n ddiatal y gâlon o'i ddeutu;

Ysa y farn y ddinas fu—yn gref,
Ofnadwy'r fanllef wna dewr Rufeinllu.
Dor hagdraethwyd y rhwygiad i'r eithaf,
Gan Grist, ddwyfol, urddonol hardd Wiwnaf.
Gwir daw garw adwyth, gair Duw a gredaf,
Mwy ar Gaersalem, a mawr gur, sylwaf;
Daw dydd yn wir, dywedodd Naf—y dryllir
Mar acw dernir ei muriau cadarnaf.

Maen ar faen yma yn hir fu—ond ow!
Andwyir, medd lesu;
Dyma le gaed yn Deml gu,
Hon, och! welir yn chwalu.

Yn fuan y nodawl fan annedwydd,
Wiw, gysegredig, a wisg waradwydd,
Gwaela ei chyflwr, gwelwch ei haflwydd;
Agos ei rhwygiad inegis ar ogwydd,
Deffroa Ilid, a phar i'w llwydd—beidio,
Cyn ei malurio y cawn aml arwydd.

Y grasol lesu a groeshoeliasant,
Am hynny gofid miniawg a yfant;
Un Duw ein bywyd ni adnabuant;
Llu o goeg enwau yn lle gogoniant,
I'r IESU anwyl, roisant—a bythol,
Tragwyddol, ddwyfol lid a oddefant.

Gorffwysaf, safaf yn syn,
Nodaf am un munudyn;
Cynnwrf a thwrf sy'r waith hon,
Rhyw fygwth rhwng arfogion,
Mewn goror. man a gerid,
Níd oes lle nad ysa llid;
Marwolion amryw welir
O fewn tai cryfion y tir.


Y ddinas oedd i Anian—yn addurn,
Heddyw'n ddienyddfan;
Anhawdd fydd cael ynddi fan
Heb och gan fawr a bychan

Eleasar bar loesion—a niwaid
Wna Ioan a Simon;
Dewr dylwyth, diriaid âlon
A neshant i'r ddinas hon.

Llid geir oddifewn, trallod, griddfannau
Swn trueiniaid ac adsain tariannau,
Gorthrech, gwrthrestr, a'u callestr bicellau,
Ochrant i wared yn chwyrn o'u tyrau,
Gwelwch y meirwon o gylch y muriau,
Ba ryw gelanedd! briwa galonnau.
Gwynfydodd gan ofidiau—'r ddinas gain,
Mae'n mawr wylofain mewn amryw lefau.

Bwâu a welir gan y bywiolion
Cedyrn, dirus, ryfygus arfogion,
Tra hyf trywananl eu heirf trwy weinion;
We'e'n y ddinas fu llawn o ddynion
Le anhymoraidd, geleiniau meirwon;
Miloedd gwaeddant, amlhaodd y gweddwon;
Bu â chig y beichiogion—frashau gwer
Hyd ryw nifer o'r adar annofion.
Lladron, llofruddion yn llu afrwyddawl
Ysant y ddinas, O! nid diddanawl;
Gan aml lueddu â gwŷn ymladdawl,
Drwy dân ysant bob gwychder dinasawl,
O! wastraff a rhwyg dinistriawl—a wnant,
O! chwyrn ddifiant a chur anoddefawl.

Ar Jerusalem y tremiaf—ddinas
A ddenai'r rhan fwyaf,

Heddyw'n ei chylch hedd ni chaf,
Garw y swn! ah! gresynaf.


Ha! fradwyr anhyfrydol,
Trech yw Naf, O trowch yn ol!
Gorffwyswch, sefwch dros awr,
Er eich arfog roch erfawr—
Dofydd o'r nef a lefair,
Enciliwch oll, clywch ei air.

Geilw Rufeiniaid, gwroniaid gorenwog,
I wyneb gâlon, eon, bygylog;
Deuant, lladdant mal cewri llueddog,
Titus a'i ddirus fyddinoedd eurog,
Anorfod ddewrion arfog—llawn calon,
Gâlon terwynion, glewion, tariannog.

O dir ochain, edrychaf,
Neud lu a'r nen troi a wnaf;
Mewn cur rhyw gysur geisiaf
Diau mae'n chwith, dim ni chaf;
Rhyw gwynaw gan rai gweinion
Sy ar bob llaw, braw i'm bron.
I'r ddinas mae myrddiynau
Megis seirff am agoshau;
Gwelaf, debygaf o bell,
Ymwibiant ger fy mhabell;
A'u hedrychiad yn drachwyrn,
Dewrllu yn canu eu cyrn.
Wynebu a gwanu gwynt,
O'u blaen gyrru blin gorwynt,
Tincian eirf glân, dyrfawg lu,
Chwai bennwn yn chwibanu;
Rhedant, eu meirch ant mor chwyrn
Hwnt ergydiant trwy gedyrn;

A phar anadl eu ffroenau,
Yn un llen i'r nen wyllhau—
Nifwl yn gwmwl a gerdd,
Hyd wybr deg hed brwd agerdd—
Chwyrn welediad ofnadwy,
Annof, y meirch ofnaf mwy,
Eu llygaid tanbaid bob tu,
Oll tanynt yn melltennu,
Ysgogant mewn rhwysg agwrdd,
Ymdaflant, hyrddiant mewn twrdd.

Golygaf, ac af o'm cell
Allan, caf weled wellwell,
Dda drefn yr holl luoedd draw,
Ba ddynion sy'n byddinaw?

Titus flaenora'r dyrfa frwd arfawg,
Canan wna'n brif-ffordd i'w osgordd ysgawg,
O mor ddiflin ei fyddin arfeiddiawg,
Rhai'n trin y bwa, rhont droion bywiawg;
A'u dieisor dywysawg—uchelfron,
Trecha ei elynion tra chalonnawg.

Ac allan daw'r picellwyr,—hwy fwriant
Rai'n farwol gan wewyr;
Anturiol, gwrol y gwŷr,
A dewrion esgud aerwyr.

Yna'r marchluoedd floeddiant,—rhyfelwyr
Filoedd a ddilynant,
Ni luddir, iawn lueddant,
Cedyrn, lluon chwyrn, llawn chwant.

Eto rhyfeddaf ar hynt arfeiddiog,
Dewrion benaerwyr, cedyrn banerog,
Nesânt i'm gŵydd, a'r arwydd eryrog
Ar eu llumanau, llennau cynlluniog:

Yn ol y rhain, wele'r enwog—filwyr
A'r holl udganwyr, lleiswyr lliosog.


Imi, och! y mae achaws—i wylo
O weled y lluaws,
Yma'n chwyrn oll mewn chwerw naws,
Modd ingol yn ymddangaws.

Aerawg weilch enwog yn awr gylchynant
Yr holl furiau, a dewr y llafarant;
Lewion uchelwyr! yn ol ni chiliant,
Aml fyrddiynau yn rhesau ni rusant,
Eithr i fewn rhuthro fynnant—yn wrol
A'r lle addurnol yn ddrylliau ddarniant.

Suddir y dinasyddion—o 'ngolwg
Yngwaelod trallodion,
O echrys air! chwerw yw son
O! 'r gwelwi mae'r trigolion!

Ffoant rai o'r ffiniau trist
O ethryb y braw athrist;
Llesg, gweinion, a blinion blanl,
Tra 'mddifaid, trwm oddefant,
Heb un tad wedi'i adael,
Mwy, mwy chwith, dim mam i'w chael;
Rhieni mawr eu rhinwedd,
Fu'n llon, sy gulion eu gwedd;
A braw tost, ryw fyrdd bryd hyn
A gnoa y dygn newyn.

Gwelaf Rahel, isel, lwys,
Yn wylo, fenyw wiwlwys,
Am ei gŵr yn drom ei gwedd,
A'i henaid mewn anhunedd;

Hi ddywed yn grynedig,—
"Yma nid oes namyn dig.
Llid a chŵyn, trallod a chur,
Dialedd a phob dolur;
O! fy mhriod a godai,
Llon wr rhydd, allan yr ai,
Llwfr oedd, a d'ai llofruddion,
Clwyfent, hwy frathent ei fron;
A thrwy boen fe aeth o'r byd,
Ni welaf mwy f'anwylyd.
Minnau o'm bro a ffoaf,
Cyn y dydd, ac onid af,
Anheg glwyf drwy fin y cledd,
A newyn fydd fy niwedd.
Fy mhlant bychain, eich sain sydd,
Yn boenawl i mi beunydd;
Bellach rhaid gwibio allan,
Hwnt ymhell—Dowch fy mhlant mân."
A deg ochenaid hwy gydgychwynant,
I'w taith, drwy anobaith, draw wynebant;
Ac o furiau y ddinas cyfeiriant
Dua'r mynyddoedd i droi am noddiant;—
Trwy angau nychlyd trengant,—o ogof
I hen wlad angof, yn wael diengant.

Hyf lueddwyr, hwy a floeddiant,—i'r frwydr
Ar frys y goruthrant;
Y Ddjnas a feddiannant,
A'u holl nerth ei dryllio wnant.

Ewybr ennill, â'u hwrdd-beiriannau,
Trwm, erwin ddyrnant, a'r mur yn ddarnau,
Trwy ei ganol torri agenau,
Eu hergydion a wnant rwygiadau;
O! 'r niweidiol ddyrnodiau—a roddant
Hwy fawr dyrfant anhyfryd arfau.


Aerwyr, ymbieidwyr, heblaw—rhyw gannoedd
Drwy gynnen yn unaw;
Eidiog âlon digiliaw,
Gofid, a llid ar bob llaw.

Lliwir â gwaed y llawr gwiwdeg,—o fewn
Afonydd yn rhedeg;
Bywiog gurant bob carreg
O'r muriau a'r tyrau teg.

Trwy eu dymunol heolydd—ffriwdeg
Y ffrydia gwaed beunydd;
Bawdd o fewn,—ba Iddew fydd
Mwy a gâr ei magwyrydd?

Trwy'r ddinas, galanas wna'r gelynion,
A gorwygant yn anrhugarogion;
Lladdant, agorant fabanod gwirion;
Ow! rwygaw, gwae rwyfaw y gwyryfon;
Anniddanawl hen ddynion—a bwyant,
Hwy ni arbedant mwy na'r abwydion.
Swn anniddig sy yn y neuaddau,
I drist fynwes pwy les wna palasau?
Traidd galar trwodd i giliau—gwychion
Holl dai y mawrion, er lled eu muriau.

Nychir y glew gan newyn,
Ac O! daw haint gyda hyn:
Dyna ysa'r dinaswyr,
Hwy ant i'r bedd mewn tro byr;
Bonedd a gwreng yn trengi,
Gweiniaid a'u llygaid yn lli.

Y pennaf lueddwyr, O! pan floeddiant,
Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant;
Eraill gan loesion yn waelion wylant,
Eu hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant;

Gan boen a chur, gwn, byw ni chant,—angau,
Er gwae ugeiniau, dyrr eu gogoniant.
Ys anwar filwyr sy yn rhyfela,
Enillant, taniant gastell Antonia;
Y gampus Deml a gwympa—cyn pen hir;
Ac O! malurir gem o liw eira.
Wele, drwy wyll belydr allan—fflamol
A si anaturiol ail swn taran:
Mirain Deml Moriah'n dân—try'n ulw—
Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian!
Yr adeiladaeth ddygir i dlodi,
Be ba'i cywreiniach bob cwrr o honi;
Tewynion treiddiawl tân a ant trwyddi;
Chwyda o'i mynwes ei choed a'i meini;
Uthr uchel oedd, eithr chwal hi—try'n llwch,
A drych o dristwch yw edrych drosti.
Fflamau angerddol yn unol enynnant,
Diamau y lwyswych DEML a ysant;
Y dorau eurog ynghyda'r ariant,
Y blodau addurn, a'r cwbl a doddant,
Wag annedd ddiogoniant—gyda bloedd
Hyll bwyir miloedd lle bu roi moliant.
Llithrig yw'r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y marmor gwyn.

Eto rhwng udiad y rhai trengedig,
Lleisiau, bloeddiadau y bobl luddedig,
A swn y fflamau, ffyrnau uffernig,
Tristwch oernadau, trwst echrynedig,
A'r fan oedd orfoneddig—olwg drom!
Ow! ow! mae'n Sodom anewisedig.


Caersalem, deg em digymar,—oeddit
Addurn yr holl ddaear,
Wedi'th gwymp pwy gwyd a'th gâr?
Ymgelant yn mhau galar—

Udaf, can's daeth fy adeg,
Ni sai dim o'r ddinas deg;
Och! nid oes o'r gwychion dai
Aneddol gongl a'm noddai;
O! 'r llysoedd a ddrylliasant
I lawr o'n cwrr lawer cant;
Dinas gadarn yn garnedd,
Addien fu—Ow! heddyw'n fedd.
MYNYDD SION dirionaf,
Yn ddu i gyd heddyw gaf;
Eirian barth, arno y bu
Dyledog adeiladu;
Prif balas y ddinas dda,
Oedd eurog, emog, yma,
Trowd yn adfail, sail y sedd
Freninol, firain annedd;
Torri, difa Twr Dafydd,
O'i dirion sail, darnau sydd;
Y mynydd oll, man oedd wych,
A'i gyrrau yn aur gorwych,
Heddyw â lludw ddilledir,
Sawyr tân sy ar y tir.

Meirwon sy lle bu'r muriau—rhai waedant,
Ddrewedig domennau;
Ni wyddir bod neuaddau,
Neu byrth erioed yn y bau.

Darfu'r aberthu am byth,
Dir, o gof yn dragyfyth.
Wylofus gweld y Lefiaid
Yn feirw, yn y lludw a'r llaid.

Plaid y Rhufeiniaid o'r fan
Ar hynt oll droant allan;

Rhyfelwyr llawn gorfoledd,
A llu gwych mewn dull a gwedd;
Mawrhydri ymerodrol
Ddanghosant, pan ant yn ol;
A da olud i'w dilyn,
Byddin gref—heb ddyn a gryn.

Wele y ddinas heb liw o ddynion,
O! O! drwm haeriad, ond y rhai meirwon;
Heb le aneddawl i bobl newyddion,
Rhuddwaed ac ulw yw'r eiddo âd gâlon,
O! mor wael, a marwolion!—ceir hyll drein
Mwy ar GAERSALEM, er gwae'r oesolion.

Y fan, i fwystfilod fydd,
Tynn rhai gwylltion o'r gelltydd;
Byw wrth eu melus borthiant
Yma ar gyrff y meirw gânt;
Cigfrain yn gerain o gwrr
Draw y pant, gyda'r pentwr;
A'r lle glân, wedi'r holl glod,
Llenwir o ddylluanod;
Pob bwystfil yma gilia,
Hoffi yn hon ei ffau wna;
Diau af finnau o'r fan,
Mae'n well i minnau allan;
A gado'r fan rwygedig,
Ddi drefn, i'r sawl ynddi drig.

Ah! wylaf, ac af o'i gŵydd,
Hi nodaf yn annedwydd;
Distryw a barn ddaeth arni,
Er gwae tost gorwygwyd hi.


At yr Eifionwyson

PAN oeddwn gynt yn laslanc llwyd,
Fe'm magwyd yn eich mysg;
Yn ŵyl a syn wrth draed Sion Wyn
Y bum yn derbyn dysg.

Cydgan,—
Ond er na chân eich llais di lyth
Dôn mwyach byth i mi,
Bydd cof hyd fedd o'ch pryd a'ch gwedd
Yn wledd i nghynnal i.

Gwyr Eifion deg! Rhyw funud awr
O oes neu dymawr dyn
Y ces y rhad o ganiatad
I fod â 'ngwlad ynglŷn.

Yn hir caiff eraill eich mwynhau,
A minnau draw ymhell;
I dŷ nid af, a chwrr ni chaf,
Lle gallaf weld eich gwell.

Gynt eich cerddorion llon eu llais,
Eu sain a glywais i;
Pa le mae Sal, a ganai 'i gwal,
Hoff oedd ei hardal hi.

Ond er na chân eu llais di lyth
Dôn mwyach byth i mi,
Bydd cof hyd fedd o'u pryd a'u gwedd,
Yn wledd i nghynnal i.


Gwyntoedd y Gwanwyn

"Dacw'r hutyn dyn Ar daith,
A'i amwisg ar fynd ymaith.'

Y Flwyddyn

Gair at yr Awen

"Y FLWYDDYN," mawr fawl iddi,
"Y Flwyddyn" yw 'nhestyn i;
"Y Flwyddyn" sy' destyn da
I'r awen a'i hamrywia;—
Gan hynny rhag un anaf
I gof nôd Gaeaf a Haf,
Tyrd, Awen, tro dy hewyd
At amcan y gân i gyd.

Deffiniad anianyddol y Flwyddyn

Blwyddyn, mesuryn amserol—ydyw,
O'i adeg dymhorol,
Y dyry'r glôb daearol,
Drwy emau ser, dro am Sol.

Hyd eu blwyddyn tynn plant dynion—yn ddoeth
Oddi ar yr un safon;
Er nad yw eu diwrnodion
O'r un rhi a ni yn hon.

Y Ddaear i bawb ddywed
Eu blwyddyn,—sef yr hyn 'red
O dreigl i dreigl, un llawn dro,
Gwmpas Palas Apolo;
Dyna flwyddyn dyn, â'i deg
Bentymor, heb wneud dameg.

Annerch Pellach at yr Awen, ar iddi
ymddyrchafu i Alban Eilir yn arwydd yr Hwrdd
ac ymsefydlu yno at waith y gân. Deisyfiad
am ei hysbrydoliaeth.

Hed, Awen, i ben y byd,
Hed ar enfys dwyreinfyd;

Yna'n uwch, o nen i nen,
Hofia trwy y ffurfafen;
Esgyn, disgyn, ar d' esgyll,
Trwy dragwyddawl wawl neu wyll;
Yna sefydla'n fodlon
Ar ryw hirbell linell lon,
Yn nhalaeth Alban Eilir,
Lle mae'r Hwrdd, y llamwr hir,
Yn troedio crib trideg gradd,
Yn ehud iawn, i wahadd
Ato yr haul, yn hynt ei rod,
I westa am ryw ystod:
Dyna lle cei weld anian,
O'i thirion gylch, i'w throi'n gân,—
Y ddaear yn ymddeawl
Yn bêl bach, o bawl i bawl,
A'i threiglad trwy uthr wagle
I uchel nôd, gylch haul ne;
Gan wneyd, fel hyn, y testyn tau,
"Y FLWYDDYN," yn fil o weddau.

O'th le balch, wrth haul y byd,
Llanw fi, yr holl ennyd,
A'th nefol anian ganu,
At wedd gas, neu at wedd gu,
I'w troi yn wir bortreiad
Hardd o fodd, yn y gerdd fad,
Fel anian ei hunan,—hyn
Deifl addysg da y flwyddyn.

Dan dy sel, mewn haul belydr,
Gyrr i mi y geiriau mydr,
A'th ysprydiaeth sibrydol,
I'm rhaid, na bo dim ar ol.


I. Y Gwanwyn
Yr wyn bach

Dechreu 'nghân fydd y Gwanwyn,
Yr adeg i eni ŵyn,
Bethau clysion, gwirion, gwâr,
A dimwaid yn naear.
Ymlamant yn aml yma,
A'u "me" mwyn, a'u "ma," "ma" "ma";
Gan heidio, gwylltio trwy'r gwellt,
Yn glysion hyd y glaswellt:
Miwsig oen ym maes gwanwyn,
O! y mae yn fiwsig mwyn!
A mamog weithiau'n mwmian
Yn fwy cre' 'i "me" na'r ŵyn mân;—
Bref côr yn brefu cariad,
Neb yn medru brefu brad;
Neb i gynnyg bugunad
Rhyw filain, oer, ryfel nâd. •
Yr ŵyn, dangosant ronyn
O gamp Duw, cyn i gwymp dyn
Anurddo eirian arddull
Anian deg, union ei dull;
Cyn y codwm, drwm dremynt,
Anian gain oedd yn oen gynt.
Heibio'n bur ar ben bore
Daear â'i llwyth droi i'w lle;
Yn chwern rôd, chwareuai'n rhwydd
Yn hoewdra diniweidrwydd,
Yn gyson, heb ddygasedd,
Fei yr oen mewn hoen a hedd:
Mwyn oedd anian ym mŷr,
A diniwed yn awyr.
O! lwys baradwys, berr ydoedd;
Brudded yw mai mal breuddwyd oedd!

Awelon y Cyhydedd.

Awelon uchel a lawenychant,
Adeg cyhydedd eu nwydau codant;
Ag ynni edlym bywiog anadlant
Anadl i anian yn ei hadloniant;
Y neint, o wallus nwyon, wyntylliant,
A hwyr a bore, yr awyr burant;
Y rhingyll-wyntoedd a groch gyhoeddant,
Fod y gwanwyn, a'i fyd o ogoniant,
Yma yn neshau, ym monwes ieuant;
Hwnt o or-daflu natur o'i diflant,
Oes y gwyrdd-ddail i mewn osgorddant,
Oes o hedd i'r llysiau wahoddant,
Oes o bwysi hysbysant,—yn bybyr,
Siriol, a difyr,—oes yr ail-dyfiant.

Arluniau yn y gwynt, megis teithiwr ar
draed, a'r gwynt i'w wyneb.


Dacw'r hutyn dyn ar daith
A'i amwisg ar fynd ymaith,
Yn ei gôb fawr yn gwibio
Drwy'r ffyrdd, â'i odre ar ffo;
Mewn llawn dynn, mae un llaw'n dal
Ar ei het, er ei hatal,
Rhag, odid fawr, y gedy
Ei ael frwd, i'r awel fry.

Llong yn "gorwedd wrthi"

Dacw y llong o'r doc ollyngwyd,
Yn "gorwedd wrthi," mewn lli llwyd;
Hi aeth lom a noeth-lymun,
Yn nwydd moel, heb hwyl, ddim un;—
Hwylbrennau, llathau lleithion,
Ac ambell raffbraif, ger bron;
Dyna'i threc dan noeth ddrycin
Ym murmur blwng môr mawr blin.


Y goedwig dan bwys gwynt

Dacw'r goedwig lom-frigog,
Lle yn fuan y cân côg,
Drwyddi'n clecian gan y gwynt,
Yn gorwedd dan y gyrrwynt;
Y crin-wydd mân yn cronni,
Tua'r llwyn, gwter y lli;
Er hyn i gyd, mae'r hen gainc
Yn gref o flagur ifainc;
Argoel mawr fod gwawr dydd gwell,
Yn hapus, heb fod nepell.

Yr arddwr pylgryf.

Yr arddwr ar dalar deg,
Ni ystyr wynt neu osteg;
Ei fryd maith yw gwaith y gŵys,
O gam i gam, yn gymwys;
Milain yrr ymlaen ei waith,
Gan chwiban uwch ei obaith;
Ei " wedd " gref gerdd yn ddi gryn,
Yn hywaith, bob tenewyn;
Ni ddawr yntau ddewr wyntoedd,
A'i " wedd " o'i flaen yn ddi floedd;
Yn unig rhag un anhap,
'E ddeil â gên ddol ei gap,
I gyd gael gyda'u gilydd
Troed a dwrn at raid y dydd.

Y gwyntyn torri i Wanwyn tawel hinonaidd,
y cawodydd maethlon.


Eto nid gwynt yw'r helynt rheolaidd
Yn y tymor hwn, ond "Taw" morwynaidd,
Anian yn llithro'n Wanwyn llathraidd,
I linell eurog awelon llariaidd,
I foeth ddylanwad cawod faethlonaidd,

I eglur wybren, a nen hinonaidd,
A dydd estynnol, meiriol tymhoraidd;
Ple i edrych nad yw'r haul pelydraidd
Yn troi, yn araf, Natur yn iraidd,
Ac yn lleshau.yr egni llysieuaidd?
Rhed o'r gwres i'r had o'r gwraidd—rym tyfu,
Gan adnewyddu ail gnydau noddaidd.

Golygiad y bardd ar y fro o amgylch

Af, orig, i fyfyrio,
Gyferbyn, ar fryn o'r fro,
Ar y wlad fawr, or-ledol,
Mal hyn geir ymlaen ac ol;
Syllaf ar y brys allan;
Mae byw a mynd ym mhob man.

Yr Amaethwr a'i lafur

Yma a thraw amaethwyr rhydd—welaf,
O oleu bwygilydd;
Cymhwysant acw i'w meusydd
Hadau da ar hyd y dydd.

Yr ôg ddanheddog enhudda—yr had,
Yr hwn sydd at fara;
Hin nawsaidd a'i cynhesa
I gnwd ir o egin da.

Y llongwr a'i anturiaethau, llongwriaeth. Y
môr yn agor i drafnidiaeth


Y llongau hwythau weithion,
Ant i'w dawns ar hynt y don;
Trwy wynt, oll troant allan,
O bob modd, ac am bob man:
Ac wele rhed clo yr iâ
Oddi ar y moroedd eira;
Bala bydd, o bawl i bawl,
Holl-foriog a llifeiriawl.

Llongwriaeth ry' 'i law yngoror
Pob llynn o faint, pob llain o fôr;
A'i dwrn gwlyb hi dery'n glau
Wrth ddrws aur ei thrysorau;
Y tunelli tynn allan,
Buan rhydd bawb yn eu rhan.

Pob llong â'i thrum dan luman—gan awel
A gyniwair allan;
A'i mentyll yn ymwyntian,
Hi fynn fôr, o fan i fan.

Gyd â ffrwst a thrwst a thrin,
Rhai llywiant i'r gorllewin;
Rhed yn wych i'r de y naill,
I'r dwyrain y rhed eraill;
Rhai i'r tuedd gogleddol,
Is rhin pwynt Seren y Pôl.
Y myfyr a ymofyn,
A da 'i hawl,—Beth ydyw hyn?
Trefn yw dweyd,—Trafnid ydyw,
Y ddawn fawr i ddyn i fyw.

Daeth tymor agor eigion,
Pryd tramwy maith daith y donn;
Daeth dydd i bob llong hongian
Ffunen berl ei phennwn ban;
Gwynt i'w nawf dan gant y nen,
Ar ei hwyliau, gwawr haulwen;
Dyna fyd yn nofiadwy
1 bebyll môr, bob lle mwy;
A'u hclw ddaw'n hael i ddyn
Yn fael—eiddo Y Flwyddyn.

Y llwyni a r adar

Awen fwyn! gad yna fôr,
A thyred tu a'th oror;

Trwy y llwyni, twyni teg,
Ymrodia,—dynia'r adeg
Nodi hoen, a gwrando ar
Ddrydwst nwyf-gerddi'r adar;
Pawb â'i gymar yn barau
O wedd deg, yn ddau a dau,
Yn llygadlon gynffonni
Yn y llwyn, ym min y lli;
Miwsig masw a leinw lwyn
O'u gyddfau pluog addfwyn.
Pob pig fel pib a chwiban,
Ac o frig îr, cwafria gân;
Pob pig drwy'r wig draw ar waith
Yn crynnu cainc ar unwaith;
Pob pig ei miwsig moesa,
Pob siol a phig, pib sol ffâ.

Rhagor sy rhwng rhywogaeth,
Rhagor maint, a rhagor maeth,
Rhagor llun, a rhagor lliw,
Rhai'n or-las, rhai yn eurliw;
Rhagor llais, rhai gwâr a lleddf,
Yn eu cân, dyna'u cynneddf;
A rhai llon yn chware'u llais
Sain-eglur, nes ein hoglais;
Amrywia eu mir awen
Heb un bwlch o ben i ben,
O'r gryglyd wich i'r greglais,
O wâr lef i'r eryr lais;
O'r dawn wng i'r dôn angel,
O'r sïan main i'r swn mêl.

O!'r ehedydd fydd mor falch
O'i fywyd ef a'r fwyalch;
A'r fronfraith fwria'i hunfryd
Ar y gân yn awr i gyd.

Y gwanwyn ddwg y wennol
A'i thelyn a'i theulu'n ol
"O dir sy 'mhell dros y môr
I Frydain wen yn frodor,
I wneyd nyth drwy syth yn sad,
A'i gleio yn dynn gload,
Na syfi oddi ar ais oflaen
I ffwrdd fyth, mwy na phridd faen ;
A'i hediadau'n nodedig
I osgo'i ffordd wysg ei phig;
Tu a'r llawr yn troell-wyro,
Gwna frad ednogion y fro;
Braidd na hed heb rydd wanhau,
Yn saeth, i'r fonwes weithiau ;
Ond heibio 'r a, i'w hynt bryf,—
Dyna'i hannel, edn heinyf.

Ym mon to, ym mhen teiau,—ym mol coed,
O! mal y cân heidiau;
Nyddu y dôn, ddau a dau,
Yn gân cariad, gainc orau.

Y deusain priodasol—chwareua'r
Wych yr awen adarol,
I aml swynion mil-seiniol,
Nad ŵyr un wneyd ar eu hol.

Nythu a magu megis—eu rhiaint,
Dyna'u rheol hysbys;
Dyna'u greddf leddf, a di-lŷs,
Dan foli ar dôn felys.

Ond i adar yn dodwy,—Ow! lunio
Galanas ofnadwy;
Gwae i'r plyf gan hogiau'r plwy,
A'u chwiw drem sy'n chwai dramwy.


Blodeueg y tymor.

Ym miri cân mawr y coed,
Emyn-gar gôr y man-goed,
Blodeueg y teg bryd hwn
A dau lygad olygwn;
Briallu, pob rhyw wullion,
Aml wawr frith, ymyla’r fron.
O! O!’r blodau!—un,—dau,—deg,
Na, uwch hynny, ychwaneg;
Dwedwch "deg cant," ar antur,
Na, "mil," pam o liwiau pur;
Na, deng mil,—mwy, " deng miliwn,"—
Ofer rhoi y cyfri’ hwn.—
At hyn, dyn, eto nid aeth
I feiddio ei rifyddiaeth;
Ni ŵyr yr hyn sy aneirif,
Culach y w rhod y cylch rhif;
Dyrysa, os a dros hon,
Aneirif a'i gwna’n wirion.

Dyn gwael uwch ben y flodlen flawdlyd,
Sì’a’i ymennydd os sai’ un munyd,
Yn y gwanwyn ryw unig ennyd,
Yn y gwastadedd, i geisio dwedyd
Pa sawl newyddlun pwysiol, noddlyd,
Lliwiedig, ifanc, o’r llaid a gyfyd;
Daear chwardd, fel gardd i gyd,—a chwardd nen,
Trybelid wybren, tua'r blodeubryd.

O ! dlysau, nad ail esyd
Neb eu bath ar wyneb y byd,—
Namyn Efe y Crewr;
Dyna gamp nad edwyn gŵr.

Llun en dail a'u lliwiau'n deg,
Yn hydwf yn eu hadeg;
Llwyr hanfod lliwiau'r enfys.
Dyfal fath y dwyfol fys.

Adgan ar fore gwanwyn

Byr genir borau gwanwyn,
Toriad y dydd fydd yn fwyn;
Trwy fon gwawr y terfyn gylch,
Awyr deg ddaw'n wrid ogylch.
Godreu cwmwl gwawrddwl gwyn,
A ddaw mal eddi melyn,
Neu amleniad melynaur
Ar daen syw, mewn rhidens aur.

Draw, draw, trwy'r wyfre dawel,
Gwelir banau, mannau mêl,
O gwsg dwl, yn gwisgo'u dydd,
Eulain awyr haul newydd;
Y boreu glas, mewn byr glog,
Eryri dry'n oreurog;
Tyrau, dan olchiad terydd.
A llawr tre, yn lliw aur trydd.

Parhad y flodeueg.

Pa ryw arogl pêr, iraidd,
Drwy yr awelon a draidd?
Awyr sawyr bwysiau
Ym mhob cwrr i'm bywiocau;

Teg yr addurnwyd, bab tu,
Y llwybr oll â briallu;
A blodau gob y wlad gain,
Ymagora'n em gywrain;
With dlws, tlws yn ystlysu,
A bywyd twf, ar bob tu.

Pob blodyn em, ei drem draidd
I nen anian hinonaidd;
A'r nen ddi len a ddeil ar
Y wedd newydd yn naear;

Daear a nen dry'n Wanwyn;
Try môr, yntau, er eu mwyn;
Yn awr yn Wanwyn a hi;
Doed Anian i'w dadeni;
Ir dir ac awyr derydd,
A hinon dda gwanwyn ddydd,

Yr eginau.

A gwlad deg, lle gwelwyd hau,
Yn gaenen o eginau;

Y gôg.

Y coed yn llawn o "Gw cw,"
O fwyn adarol fân dwrw;
Nen lân yn gyngan i gyd,
A nawf awyr gan fywyd.

Y gwanwyn yn elyn Gwendid a Henaint.

Eto, Henaint, dilioena,
Tymor wyt a'i marwha;
Ti, Wanwyn, wyt i weiniaid,
Hynod beth, yn ofn di baid;
Hen gwynant yn y Gwanwyn,
Ni ddeil llawer un i'w ddwyn.

F' ewyrth a lwnc "Fawrth i ladd,"
Mal rhyw syn englyn angladd;
Ac Ebrill ing i flingo
Yn fwy na'i Feibl ofna fo.

Y fan nad oes elfen dw,
Y naill hedyn a'n lludw,
Tra blaguro'n llon y llall,
Neu'r erys dymor arall;

Od yw yn ber hedyn byw,
Yn perchen elfen eilfyw.

Twf di had, (byf y d'wedwn,)
Lladd y tir mae'r lludded hwn;
Lle na bo cn'wyllyn bywyd,
Siga gwedd y plisg i gyd;
A gwanwyn nerth, gwenwyn yw,
I'r llwydfoch waelwr lledfyw.


II. YR HAF.

Rhaid symud, Awen huda
Fi yn rhwydd i fewn i'r Ha;
Nid oes fferf linell-derfyn
Im rhwng y tymhorau hyn;
Ha mwyn trwy Wanwyn wena,
A rhed y Gwanwyn i'r Ha;
Felly Flwyddyn dynn yn deg
I'w chynnydd yn ychwaneg.

Y'r haul yn Alban Hefin yn arwydd y Cranc.

Nwyfus yw Phoebus ar ffin
Hafod yr Alban Hefin;
Fe bair des o wres yr hin
Yn Nhy Haf Alban Hefin;
A'r gwres yn lles i'r llysiau,
Ceir ei fudd at eu cryfhau.

Y cynhesneydd tymharaidd.

Cawn dywydd i'r cnwd ieuanc
Trwy fwa crwm Tref y Cranc;
Gan ei wres fe gynhesir
Amrywiaeth hardd môr a thir;
Cynnes gan des yw'r gain donn,
A rhywiogaidd yw'r eigion.

Cynesir y tir; a'r toraeth
Gwlaw ar y twf, glaiared daeth!
Awel oer a glaiarodd,
Yr ias drwg yn wres a drodd.

Y man bryfaid yn heidio allan.

Daw'r pryfaid o'u llaid a'u llwch,
Hen nawdd eu hun a'u heddwch,
I'w Haf hynt, i ail fywhau,
O'u lleoedd, yn bob lliwiau;
Haid o arliw diweir-lan,
Beryl glwys neu berlau glân,
Milonos fel melynaur,
Dymchwel y dom chwilod aur.

Y gloyn byw

Y gloyn byw, glân ei bais,
Oddi amgylch ddaw i ymgais
Yn ei awyr wen, newydd,
Neu, a'i draed ar flodau'r dydd.

Cacwn

Cacwn â'i swn unseiniol,
Lunia gylch ymlaen ac ol;
Ei bwysig gainc mewn bys coch[1],
Chwery, pan y'i carcharoch;
Ond gwyliwch nod ei golyn,
Gwna wayw tost trwy gnawd dyn.

Y gwenyn.

Y gwenyn o'n ceginau—a heidiant
Hyd y newydd flodau,
Ar eu mêl hynt, er amlhau
Hardd olud eu pêr ddiliau.


Yr eog, y genweirio.

Nwyfus eog yn afon—yn araf
Enweiria rhyw Walton;
Genweirir i dir o donn
Llawer brithyll i'r Brython.

Y cnwd toreithiog.

O'r gorifyny ar gwrr y faenol
I fasw dwynen y llinell feisdonol,
Wele'r ydau a'r gweiriau rhagorol
Yn gnydau cyforiog, tonnog, taenol;
O dan awyriad awel dynerol:—
Porfaoedd breision, meithion, a maethol,
Yo taflu drwyddynt flodau ireiddiol;
Pob rhyw ddanteithion meillion cymhellol
Yn lithio dannedd y llwyth eidionol,
Oran pêr fywyn eu rhin porfaol;
Ac i'w dawn gwig a dôl,—a'r lleddf wynt,
A byncia erddynt alaw bencerddiol.

Y tes mawr.

Chwysu a dyddfu mae dyn,
Ai gadach sych ei gudyn;
Cais gysgodfan dan ryw do,
Rhyw dwyn i wyraw dano;
Ai iad frwd, ynghyd a'i fron
Yn furum o ddyferion.

Da yn wisg denen, ysgawn,
Fyddai gwe edafedd gwawn,
Oni bai twym danbaid dês
A wna'r gwawn yn rhy gynnes.

Mae'n dyheu,—'n myned a'i hwyl
Ac archwaeth at bob gorchwyl;
Diosga hyd ei wasgod,—
Hyd ei grys,—bai'n felys fod
Hab un cerpyn, bretyn brau,
Ond rhyw lain ddeutu'r lwynau.


Y cynhaeaf gwair.

Ond siarad am y bladur
Finia bwynt ei elfen bur,
At amod fawr y tymor,
Awchus fydd, pe chwysai for!
"Diau, rhaid lladd gwair," dywed
"Rhaid add y gwair, myn crair cred."

Y pladurwyr.

Pladurwyr, gwŷr miniog wedd.
Gwŷr y maes a'r grymusedd,
Gwisgi o glun ac esgair,
Di lûdd eu gwynt at ladd gwair,
Ant oll yn fintai allan,
Yn arfog, miniog, i'w man;
Abl a dewr o bladurwr,
A bywiog iawn yw pob gŵr;
A'i fraich ef, gref a di gryn,
Dery arfod â'r erfyn;
Egyr wanaf gywreiniol,
Rhed ei ddur ar hyd y ddôl;
A'i bladur gaboledig,
Glaer wawr, yn goleuo'r wig.

Adgan ar fechgyn yn ymdrochi.

Edrychwn ar ymdrochi,
Gan fechgyn yn llynn y lli;
Suddant, nofiant yn nwyfus,
Yn ddewr oll ac yn ddi rus;
Ac ar ddwr, y corro ddyn
Ysgydwa fel pysgodyn.

Diwrnod trin gwair.

Dwthwn gwair daeth i'n gwydd—yn hyn o le,
Gwnawn ei lun yn ebrwydd;
Caf weirwyr da, cyfarwydd,
I'w drin, ac mae'r hin yn rhwydd.



PLADURWYR YR HAF
"Egyr wanat gywreiniol,
Rhed ei ddur ar hyd y ddol.


Bloeddiadau y bobl ddodant—wynt amlwg
I'w teimlad o foddiant;
Gau ddadwrdd a chwrdd chwarddant,
Dadsain llen y nen a wnant.

Un a gân, tra yn gweini,—un rŷ ffrwd
O eiriau ffraeth, digri;
A'i ddiflin gribin grwbi,
Wrth ei hoen, ar waith â hi.

Daw rhyw herlod ar hirlam,—ymyrra
A morwyn mewn cylgam,
I dynnu chwaren dinam
Heb fryd drwg, na gwg, neu gam.

Hwy feglir ymhlith carfaglan—y gwair,
I gwymp a bydd gawriau
Meibion y ddôl am ben y ddau,
Yn grych iawn o grechwennau,

Bras-dyrrir mewn brys diriaid,—a rhencir
Ar winciad y llygaid,
Gan lwytho, beichio'n ddibaid,
Er cludo llawer clwydaid.

Ym mhen y llwyth mae un llanc,—ar y llawr
Wele'r llall, gryf hoywlanc,
Nerth ei gefn yn porthi gwanc
A thro y llwythwr ieuanc.

Mae un dyn ym mhen y dâs,—a chwaneg
Yn gwych weini'r gadlas;
Mae 'stwr a gwib meistr a gwas
At ardeb twt y weir-dâs.

Taranan!

Ond och! Dacw ryw fann du—draw yn awr
Drwy y nen yn lledu,

A lliw tân yn mellteanu,
A thwrw gwan, froch;—rhoch a rhu,

Y tawch sydd yn tewychu,—y mae'r 'storm
A'r 'stwr yn dynesu;
A dilyn ar fwdylu.
Yw rheol y ddol,—mae'n ddu!

Dyna hi, 'n torri! taran—a dreigl hwnt,
A'r gwlaw sy'n pistyllian;
Bellach ni erys neb allan,
Pawb wna i'w fwth, pob un i'w fan.

Y buaid yn ymloddesta ar yr adladd, yn
gorwedd ac yn cnoi eu cil, yn fystodi.


Eto, pan glirio, bydd glân
Orielau awyr wiwlan,
A'u gloyw asur yn glysach
Nag erioed, mor liwgar iach;
Nesha'r haul yn siriolach,
Nag un pryd, at ein byd bach:
Yn naear, ceir gwedd newydd,
Gwyrddlas faes, gardd-lysiau fydd;
Adladd o radd ireiddiol,
A masw dŵf, mewn maes a dôl;
Ei nodd a adnewyddir,
Efe a a yn fwy ir.
A buaid teg a'i bwytânt,
Hwy ddistaw ymloddestant
Ar ei frasder per puraidd
A newydd rin nodd ei wraidd;
Iraidd fydd eu gorweddfau
Ar laswellt a pherlysiau,
Yn cnoi cil, ac yn coledd
Ymarhôus dymer o hedd;


Nes daw adeg pysdodi,—ac wedyn
Codam i'w dirieidi,
Dros ffos a rhos yn rhesi
I'w hynt i'r llaid tua'r lli;

Neu at dwyn, am wynt dano,—a chysgod
Iach asgell y deildo,
Gan faint y gwres sy 'n tesio
Drwy awyr frwd ar y fro.

Adgan ar regen yr yd.

Y rhegen yn hwyr hogi
Trwy'r nos yw ein heos ui;
Mae ei thrwst yma a thraw,
Chwysem ped aem i'w cheisiaw:
Ei chug swn ar gilio sydd
I gel o fan bwygilydd;
Diane oddiar y gwrandawydd,
Ac yn ei ben canu bydd.

Y cynhaeaf yd, yr arlwy a'r paratoi ato.

Ar warthaf yr Haf, yr ŷd—addfeda
Yn wyddfodol buryd;—
Crymanau ceir am ennyd
Yn ben ymddiddan y byd.

Ceir i'w min y crymanau,—a dwylo
Medelwyr i'w stumiau;-
Y fedel a'i defodau
Hidla i mewn dâi am hau.

Llawenydd yr amaethon,
golwg ffrwythlon y cuydau.


Hauwr yn awr ŵyr ei nerth,
Try i hoffi pob trafferth;
Canys o amidra'r cynnyrch,
Ei hawl, o gae, a'i elw gyrch;


Mwyniant ddaeth o'i amynedd,
Yd faes, am ei had, a fedd:—
Dytech ddwyn diolch i Dduw,
O! ddynion, yn ddiannuw.

Ar fin y faenol, o'r fan a fynnir,
Yn syn ar drwchus heiniar edrychir;
"O! feusydd gwynion!" a fawsaidd genir
Acw o'i minion, gan lanc a meinir;
Ei wawr felen orfolir, yn ddi hall
Heddyw, un ddiwall Flwyddyn addewir.
Cyfrifiadau hyderus yr yd-fasnachwyr.

Amaethwyr, maelwyr, ymwelant—a'r maes,
Er mwyn gwneyd cyfrifant;
Ac yno y damcanant
Y gwerth a'r farchnad a gânt.

Wyneb holl dir ein pellderan—meithion
Mewn amaethol barthau,
Orchuddir gan geirch a beiddiau—llawn, glan,
A digon weithian o deg wenithau.

Duwiesaidd yw'r dywysen;
Grym ei phwys a grymai phen.

Medi.

Bellach ati, i'w dorri'n hyderus;—
Mor dda, eilchwyl, fa'i tymer ddiolchus
Yn ein dylenwi i'n Duw baelionus,
Am rad y cynnydd fu mor dyciannus;
Am y grawn, ac nid mwg o'r us-gorwag,
Ie, grawn dinag o rin daionus.

Adgan ar oeriad tymheredd.

Ymoeri mae y tymheredd;—nid yw
Yn dês mor gyfannedd;

Awyr glir yn awr yw gwledd
Mireinwyr y maranedd.

Yma, deufwy mwy difyr—i fynwes,

Yw'r elfennau pybyr;
O denenad yr awyr
Ymburo mae wybyr a mŷr.
Y lleuad nawnos oleu.
Try y lloer fel troell arian,
Uwch byd, yn yr entrych ban;
Yn ei chlir liw a'i chlaer led
A llun llon ei llawn lluned;
Wyneb ei rhod wna barhau
Nes el yn naw-nos olau,
I roi i drinwyr yr yd
Loew ffafr ei gwawl hoff hyfryd;
Ac a'n hwy, ddydd cynhaeaf,
Na goleuddydd hirddydd haf,
Y cynnull.

Diderfyn erlyn ac arlwy, —lledu

Pob Llidiart ac adwy,
A menni trymion at dramwy
I lawr maes a welir mwy.

Prysurir, heb hir siarad,—i hylwyr.

Hela pob seldremiad,
Er ydlannu'r adlenwad
Yn 'stor dlos at raid y wlad.
Y lloffa.

Namyn tywys y minteioedd—tlodion,

A'n taliadau cyhoedd
Dan of Duw y nefoedd;
Eiddynt yw, a'u heiddynt oedd.

Dyledus i dylodion,—wrth ddwyfol

Raith-ddefod, yw'r lloffion;
</poem>

Addef rhaid y ddeddf fawr hon
Ym mhethau yr amaethon.

Hoen-dyrrant i'r rhandiroedd,—a synnanl
Ar dwysennau filoedd;
I'w rhan dyrneidiau gannoedd
A leinw’u blys, a lonna'u bloedd.

Mae y plant yn mhob helyntion—yn swp
O sypiau y lloffion;
Mae cefn dan faich,—braich a bron
Sy' haenfa tywys anfon.

Ar eu hol hwy, yr ail haid—ydyw’r gwyllt
A’r gwâr anifeiliaid,
A'r gwâr adar,—ehediaid
Sy’ aml eu rhif, syml eu rhaid.

Adgan ar y gwenoliaid yn parotoi i ymfudo.

Ust! tewch! mae acw ryw 'stwr,
Ho! gwennol a wna gynnwr;—
Beth yw’r gyfrinach ddi baid
Gynalia y gwenoliaid
Ar bennau tai, ar bwynt tŵr,
Adein-dorf fawr ei dwndwr?—
Paratoi y maenty pryd hyn
I fudo a chwifio edyn
Trwy'r ne, o un lle i'r llall,
I diroedd rhyw wlad arall;
O Walia gain i fol gwig,
I siffrwd trwy gyrs Affrig;

Neu i fargod pagoda—i wrando
Gwiriondeb y Bramah;
Yn ol eu hynt, ni leiha
Rhin eu hoender yn India.


III. YR HYDREF,
Yr haul yn Alban Elfed, yn arwydd y Fantol.

Down funud!—gadawn faenor
A thwrw maes, a thir a môr,
At droi ein nod tu a'r nen
Ar hoewbryd teyrn y wybren,
Tra'i aur gant yn troi ar gyrch
I'r Fantol yn nhref entyrch,
Eirian ei drych, o'r hon dref
Ar ddidro y rhydd Hydref
I addfedu nodd-fwydion
Grawn y brig ar waen a bron.

Addfediad y coed ffrwythau.

O boen ei wylfa yn Alban Elfed
'E dry ei euraidd belydri waered;
Wrth ei ddeddfau, coedd ffrwythydd addfed
Yn eu teg olwg fyddant i'w gweled;
O y perllennydd,—pwy ŵyr eu llawned?
Dyna gain froydd dan gnau afrifed;
Gwedd afal-lwyni, i'n gwadd, fel yned!
Y FLWYDDYN wych enfyn ar ei chanfed
Yn ddobr i'n gwaith, ddibrin ged,—ffrwyth di drai,
Ba fywiol osai! na bu'i felysed.

Melyna amliw Anian—drwy y tir,
Daw'r twf i'w lawn oedran;
Oi safle glwys afal glan
A gwymp a hono'i bunan.

Sgrympiau Gŵyl y Grog.

I gyfarch Sol, Eolus—a eilw
Ei awelon grymus:

Yn nerthoedd croch a brochus
Ar wedd dreng hyrddiau di rûs.

A'r gwynt o'i glwyd, ar gant glyn—dyrr osteg,
O ddeutu'r adeg fe ddetry'i edyn;
Ysgydwa ei fraisg aden,
A'r chwa chwibana uwch ben.

Mewn troiadau mae'n trydar—hydr wyntoedd
Drwy entyrch y ddaear;
A gwynion genllysg anwar,
Cerrig ôd yn curo gwarr.

Bydd sgrympiau, rai dyddiau 'n dod,
Dirybudd, diarwybod;
R'nuthro wnant o werthyr nen
Drwy ddybryd orddu wybren,
Yn eirwlaw rhydd ar ael rhiw,
Neu gymysg genllysg, gwynlliw.

Haf bach Gwyl Fihangel.

Ond ennyd yw,—a daw'n deg,
Mae haf wrid am ferr adeg.
Y Taw mwyn yn neutu mŷr,
Swyn yw! heb si yn awyr,

Namyn si, neu'n hytrach, mân son—wybrol
Mal sibrwd angylion,
Nad wyr hil daearolion
O ble daw y barabl dôn.

Mae daear mewn amdoad—o osteg
Distaw, digynhyrfiad;
Oddigerth rhyw nerth arw nâd
Bu, ar foreu'n breferâd.

Cwymp y daìl.

At hyn, mae gwyrddliw y tw',
Trwy wên haul, yn troi'n welw;

Anian yn troi yn henaidd,
Maeth ei bron yn methu, braidd;
Coed yn en hoed yn hadu,
Y berth yn llai nag y bu
Dail ar ol dail yn dilyn
I lawr gwlad, neu i li'r glyn,
Yn gawod trwy y gwiail,-
Camp y dydd yw cwymp y dail.
Ac ail i'r dail ydyw dyn,
Fel addail mân y flwyddyn;
Y addurnol am ddiwrnod,
Pan dyf,—dyna'i gwymp yn dod;
A'i wrid yn troi i edwi,
A'i ddelw hardd,—O! ni ddeil hi.
Ond ni pharha yr ha byr hwn,
Hyd eithaf trideg dwthwn;
Gwywa y wedd flug-ieuanc,
Mal un trem yw ymlaen tranc.

Adgan grefyddol ar y "Cynhaeaf adre."

Cawn fydru cynhaeaf adref—yn wychr
Yn nechreu yr hydref:—
Mal yn awr y dyrch mawl nef
Acw i entrych pob cantref,

Pryd hau, caed priod dywydd,
A ihwf i'r had, eithaf rhydd;
A phob peth yn ddi feth a fu
O duedd fad i'w addfedu;
Gororau'n esgor irwellt,
O gwrri gwri, gwair a gwellt.

"Awel a gwlaw, haul a gwlith,—in' oeddynt
Weinyddion y fendith,
Nes dwyn yn gyflawn, rawn rith,
I gynnyrch gwair a gwenith.


"Pwy wnaeth hyn? Pennaeth Anian;
Gwledd glws wnaeth ein Harglwydd Glân;
I'w ofyniad elfennau
Oedd o hyd yn ufuddhau.
Yntau oedd yn tueddu
Galluon teg oll o'u tu;
Dwyn y gwlith, denu y gwlaw,
Gwadd haul, a'i gu ddebeulaw,
I Gangell fawr ei Gyngor,
Cadair o'i mewn ceid i'r môr,
A mainc i'r tir -mewn cwrr teg
Eistedd wna'r gwynt ar osteg,
At wrandaw y fad Drindod
Yn erchi i ddyn gynnyrch ddod.

"Cyfleai bob elfen yu ei senedd,
A chu wrandawai ei chywrain duedd:
Cyd-dymherai a rhannai ei rhinwedd;
Hon-yma galwai i weini ymgeledd;
Hon-acw ataliai, seiliai ei sylwedd;
Fe warafunai un fyrr o fonedd;
Agorai llyfr trugaredd y tymor
I gyfri trysor ar gyfer trawsedd.

"Y ddeddf ydoedd addfedu
Gwair yn y cwm, a grawn cu
Gwneyd moelydd yn gawd melyn,
A chowd mawr ar glawr y glynn.

"Duw yw'r llyw, awdwr y lles,
Anian oedd y weinyddes;
O'i law ddwyfol, addefir,
Yn hael daeth foraeth y tir;
Wedi'r fael, Duw lor folwn,
A da yw hawl y Duw hwn.".

Dyna un o dannau haf,
Caneuon y cynhaeaf.

Byrhud y dydd.

Ar ei chil, mewn gorchwyledd
Y Flwyddyn a, gwywa'i gwedd!
Tegwch y wawr gwtoga,
Hyd wddf yr hwyr, dydd fyrha.
Ddoe ddifyr yn fyrr a fu,
Heddyw'n fyrr, i ddwyn foru;
Foru bach, yu fyrrach fydd,
Byrrach, truanach trennydd.

Prudd-der yr adar.

Mae'r adar yn fwy gwaraidd
Ger ein bron, yn bruddion, braidd;
A'n chwiban yn gwynfan gwâr,
Mewn tyle, ym mhen talar;
Pa olwg glaf!—eu plu clyd,
Eu swp hoewblu mor 'spyblyd.

Cyffro y drycinoedd.

Cynnull a wna'r drycinoedd
Eu holl rym, o'r man lle'r oedd
Fel yn huno'n Ain, ennyd,
Ar ol gwasgar bar trwy'r byd;
Ymresiant i amryson
Yn ddihir, ar dir, ar donn;
Gwae filyn, gwae ddyn, gwae dda—gwymp i'w mysg
I'w cau yn nherfysg eu cyniweirfa.

Adgan ar "rwymo yr anifeiliaid."

Dyma adeg 'rhaid mudo
Y praidd i rywfan dan do;
Oddiar fynydd i'r faenawr,
Cynnes loc yn is i lawr;

O hafotir i fetws,
Rhandir glyd yr hendre glws;
Aerwyo o'r oer awel
Y lo a'r fuwch yn llwyr fel
gynnwys cymaint ag annai
O'n buaid all yn eu beudai;
A'r march dihafarch hefyd
Yn glwm wrth ei resel glyd.

Anrhaith y gwyntoedd ar fôr a thir

Gwynt wna helynt anaele
A blinder mewn llawer lle;
Hyrddia'r llong, a chordda'r lli,
Gwna i fôr brigwyn ferwi;
A gyrr o'i flaen y gref long,
Addurnlwys hardd haiarn-long,
Fawr, adeilgref, i'r dalgraig,
Yn gandryll rhwng crigyll craig;
A mi o'i hail, ant mal hi,
I anoddyn yn eddi.

Nid llai y tai ar y tir,
A'r dasau, a ardysir;
A'r coedydd, crwca ydynt,
Heb wisg oll, dan bwys y gwynt.

Y cur-wlaw, y llifogydd.

Ac wele, mwy, y gwlaw mawr
Yn gyrru trwy ein gorawr;
Agenir y clogwyni
I eigion llawr gan y lli
Y gofer cul a gyfyd
Ei ddwr bach, ar foddi'r byd;
Llafara y llifeiriant
Ei daran hir drwy y nant;
Ac ar fyrr, bydd yn cryfhan
Afonydd di derfynau,

Dros y tir, mal rhodres tonn
Fai ar nawf o fôr Neifion.

Yr hin anwadal.

Wedi saib, nid oes wybod
Un dydd, pa dywydd sy'n dod {
Ni edy hin anwadal
I goel dyn am ddim gael dal.

Tarth, niwl.

Weithiau tarth, fel rhyw garth gwyn,
Yn ei rwysg, wna presgyn
Yr awyr, a'r holl riwiau
A harddai bur wedd y bau;
Yna'r niwl a leinw'r nen;
Ni welir, gan y niwlen
A fwriwyd fel cyfaredd
Dros y fro, i guddio'i gwedd,
Oddieithr rhyw fynydd uthrol,
Nad oedd yn uwch, un dydd yn ol,
Na'n meddwl, mewn un moddion,
Yo garn a braich ger ein bran,
Ond heddyw mae'i bwynt addien,
Trwy'r niwl, fel yn taro'r nen.

Chwedl y Tylwyth Teg

Ni wiw son am hen syniad
A ga'i hwyl glew ar goel gwlad,
Mai nifwl oedd, mewn ofeg,
Talaeth tai y Tylwyth Teg;
Rhin a swyn yr hen syniant
Fu i'n plith yn ofni plant;
Ddydd fu, meddir, clybuwyd
Eu erechwen dan y lenn lwyd;
Hoen eu nwyf yn y nifwl,
O olwg dyn halog, dwl.


IV. Y GAEAF.
Y haul yn Alban Arthan, yn arwydd yr Afr, y dydd byr.

Yr haul dry i'w wely'n wan,
I werthyr Alban Arthan;
O'r nos oer fe hwyr nesha
I fuan dreiglo 'i fwa;
Gyd a'i fod yn dod i'w daith,
Isela i'r nos eilwaith.

Y rhew distaw

Gad anian i gadwyni
Yr Iâ mawr i'w rhwymo hi:
A'r Iâ i arbeda'r hyd,
Ei iasau arno esyd:
Ei efyn rwym afon rydd
Yn galed yn ei gilydd;
A'r dŵr a lifai ar daen
Sy eilfydd i risialfaen;
Aber loew, glws, yn berl glân,
Y llyn bir fel llenn arian;
Y gwlybwr yn troi'n globyn,
Eilydd talp o sylwedd tynni
Maes yn llwm, ac ymson lli
Ystwyol, y distewi;
A'r awel fel yn rhewi,
Y tywydd hwn tawodd hi:
Pob annedd mewn pibonwy
O loew rew main, welir mwy;
A gleiniau rhew, fel glân-wydr,
Bob gwedd fel rhyw bibau gwydr,
A gydiant wrth fargodion
O eirian bryd arian bron.


Adgan ar fechgyn yn ysglefrio.

Y bechgyn, er rhynn yr iâ,
Wych rwyfant i'w chwareufa;
Oll yn fyw a llawn o faidd
Ar y lithren or-lathraidd;
Hawdd gamp fydd llithro'n ddigur
Ar ysglent, heb drwsgl antur,
Fel ergyd gwefr i 'sglefrio,
Ar frys, gryn hanner y fro.

Y noswaith loergan, a golygfa y nef serenog.

Cawn gan Sol ryw nefol nos,
Oriau hirion, er aros
Agor ei ddor dde-ddwyrain
I wthio i'n mysg ddwthwn main.

Y mae'r lloer ym mro y Llew,
Talaeth y tanbaid hoew-lew,
Yn gron yn ei gogoniant
Mewn asur gylch, mân ser, gant;
Ar hynt deg, Oreion tyrr
Fawr wib i yrfa'r wybyr;
Gan ddwyn hoew a gloew "gledd,"
Ar "wregys" eurwawr agwedd,
Gwych yw gwawr y "Ci mawr," mâd,
Dihual yn dyheuad.

Raddau 'mlaen, ar ddim o le,
A'u goglud ar y gwagle,
Y chwery llu llachar, llon,
Y Tewdws a'i atodion.

O'r eang nen, rhyngyn' nhŵ;
Terwyn lygada'r Tarw
Ar y llachar Droell uchel,
Loyw bur Rod, mal heibio'r el.


Ystorm eira.

Y glaer wybren disgleirbryd
Sy'n berlau a gemau i gyd;
Noswaith deg, na, 'sywaeth! dydd
Dry wychaf i'r edrychydd;
Rhaid ystyr nad rhew distaw,
Fel hyn, o ddydd i ddydd ddaw.
Na dua haeniad awyr.
Mewn cerbyd iâ, eira yrr;
Ac o'i oerllyd gerbyd gwyn,
Plua y byd, bob blewyn;
Plu fydd drwy'u gilydd yn gwau
Yn belydrog fân bledrau,
I'w hebrwng trwy yr wybren,
Mal afrifaid, gannaid genn,
Neu flawriog feflau oerion,
Nes loi oer grwst daear gron.

Y llwchfeydd.

Ar gantau'r awyr y gwynt a rua,
A chyfyd drycin erwin o eira;
Y nen yn dryfwl o'r plu, 'n un drofa;
Y gaenen d'w'llwch yn genn a'n dalla;
Ein daear farwol dan do oer fwria,
Ein llawr meudwyol yn llwyr amdoa;
A min y tro-wynt, yn awr, mewn traha,
Oddiar y llechwedd a'r rhiw, a'i lluwchia
I ffurf anghelfydd ddi-eilfydd walfa;
Y fro annedwydd a fawr newidia;
Cladd mewn llaid, ddefaid, neu dda;—a'r heol,
Antur amheuol, un a'i tramwya.

Y ty clyd, a'r aelwyd gynnes, a'r teulu dedwydd.

Achles tân, a chael ystôl
Oddi mewn, fydd ddymunol;

Tŷ ac aelwyd deg, wiwlan,
A chwedl yn gymysg â chân!—
Gloewi marwor glo mirain,
A phen ambell fawnen fain,
A bregus flaenau briwgoed,
Neu ddarnau boncyffiau coed,
Noson eira, dyna dân
Sy loni iasol anian!

Y tân, y gân, a'r ymgomio, a'r gweini oddi-mewn

Goleuon ger bron, er bri,
Benywaid heibio'n hoewi,
Yn gwnio diwyg newydd,
Drud, a da, at raid y dydd;
Neu gellwair a'u gwiallen,
Gwau, bob yn ail, a gwneyd gwên,
A gweini bodd i'n gwyneb,
A chalon iach uwchlaw neb.
Rhynwynt tost, ar nen y tŷ
Mal taran yn aml tery;
I'r drysau ar hyrddiau 'r hêd,
I glecian pob rhyw glicied;
Y tŷ, yn nhreigl tonnau'r hin,
Glecia mal rhyw glic melin;
Ond deil ei fur gur y gwynt,
A'i ddorau bwys byddarwynt;
Cliciadau'r cloiau cedyrn
Ni thyrr y chwa uthr a chwyrn.

Y teulu yn swpera, yn darllen a gweddïo
cyn myned i orfwys.


Ac o fewn, nid Gaeaf yw,
Haf nod Mehefin ydyw;
Cynnes gongl, diddos gronglwyd,
I burdda bobi, bwrdd a bwyd;

Ac wedi'r swper peraidd,
Cu nesheir, mewn cynnes aidd,
A dodir heibio'r dadwrdd,
I agor Beibl ar gwrr bwrdd;
'N ol lith a gweddi dda ddwys,
Darffod, a mynd i orffwys.

Parhad y eira ar y ddarar, gwasgfa y
gwylltfilod a'r adar, robin goch.


O! yr eira! Hir erys
Ar y fro, ni thawdd ar frys;
A'r milod oer eu maelawr,
Newyn yw arnynt yn awr;
Yr adar, dan eu rheidiau,
Ynt yn 'swil i'n tai'n neshau:
Cais rhan o'r digyngan gor
Ddrws gobaith yr ysgubor,
Am rawn, yn fan fymrynau,
Er nerth, rhag eu llwyr wanbau;
A robin yn finfin fud,
Mal mewn siom lem yn symud,
I'n drysau picia'n dra-sionc,
I ddrws pawb fe ddyry sponc,
Eto'n brudd, yn un 'spruddach,
Heb ddim miwsig o'i big bach.
Y llwyd folwag wylltfilod,
Gwae ni ni chant ond gwyn ôd,
Yn lle ymborth y llwm-bawr,
Oedd er lles, cyn cuddio'r llawr.

Estyniad y dydd yn arwyddo tymor gwell
gerllaw; rhag gysur am dymor o ddadmeriad.


Ond estyn dernyn mae'r dydd
O un goleu bwygilydd;
Argoel fod oriau Gŵyl Fair
Ar agosi trwy gesair;

Tywydd ir at doddi iâ,
Tywydd er toddi eira;
Gan y gwres, hyd gynhesir;
Daw, o ddwr gwlaw, ddaear glir:
"Ni erys eira mis Mawrth
Mwy na 'menyn ar dwymyn dorth,"
Ebe'r hen air—a barn hyn
Yw, y tawdd ar bob tyddyn.
O'r newydd daw tywydd teg,
A ddetry'r iâ'n ddiatreg;
Pan bydd, o dipyn i beth,
Wyneb hapus gan bopeth;
Daear rwym ddaw yn dir rhydd,
Ac i'r arddwr ceir hirddydd,
I'w chochi ac i'w chychwyn
O lwm ddull i ail-ymddwyn.

Yr haul yn arwydd y Pysg, ar gyffiniau
arwydd yr Hwrdd. Lle y gorffen ei dro yn ei
gylch, ac y dyry ail Wanwyn.


Mae'r haul yn ymwroli—hyd ei daith
O "dŷ "i "dŷ" 'n trosi;
Ei le yn awr welwn ni,
Ym mysg y Pysg yn pesgi.

O'r Pysg, diderfysg y daw—trwy ei rod,
Tua'r Hwrdd i drigaw;
A dyna ei gylch o dan gaw,
A'i ddeupen yn nen yn unaw.

Crynedd y nod angen Anian. Y testun
Yn "flwyddyn gron," ac o ganlyniad yr adwl
Yn awdl gron
.

Y ddau eithaf a ddaethant,
I roi y cwlm ar y cant.
Nes eilfydd yw ein sylfon
I'w henw gwraidd—Blwyddyn gron.

Crynnedd yw'r marc ar anian,
Crwn yw y glôb, cywrain, glân;
Crwn ar len yr wybren rydd,
Ei osodiad, yw'r sidydd;
Os cron yw'r sylfon neu'r sail,
Cron rod ceir yn ar-adail;
Awdl gron yw hon, gan hynny,
Yn fath o droell fyth a dry,
I agos ddangos i ddyn,
Yr aml wedd geir ym mlwyddyn.


Ystyriaethau difrifol ar gylchyniad y flwyddyn.

Y flwyddyn i ddyn a ddwg
Sylwedd ei oes i'w olwg;
Herwydd hi a rydd i oes
Ronynnol rannau einioes;
Hi a dry yn hyd i'r oes,
Hi, 'r unwedd, fyrha'r einioes;
A'i thro, fel mewn gwrth-reol,
Yn gwneyd, a dadwneyd yn ol.
Rhyw olwyn yw, ar lawn waith,
A yrr swm yr oes ymaith;
Seml rôd, sy mal y rhedo,
Bwynt tranc i bawb yn eu tro.
Hi dry fyth, hyd awr y farn,
Luosog ddynol wasarn
Oddiar ei chant addoer, chwyrn,
I gwsg, yn gnawd ac esgyrn;
Hidla yr holl genhedloedd
O'u hoes gylch; ddaw, sy, ac oedd;
Treigla'r byd trwy glawr ei bwrdd,
Er ei ddidor or-ddadwrdd,
I isderau distawrwydd,
A'u lle'n wag allan o wydd;

Dyna fydd;—a da in' fod
Oll yn bur a llawn barod.
dgan ar y Gwyliau.
Nid yw ddrwg diweddu'r awdl,
O rhy Awen air hyawdl,
Yn fyrr, fyrr, i gyfeirio
At Wyl, gan fod Gŵyl ar go'
Byth ar Galendar glandeg,
Cytun, pob Almanac teg.

Ym mlwyddyn Cristion, son sydd—am Wyliau
I ymhel a chrefydd;
Dwyfolaf yw'r dihefelydd
Foesolaidd Wyl, sef y Sul Ddydd.

Nadolig noda alwad—i gynnal
Dydd geni ein Ceidwad;
A'r Croglith, ceir lith a llad
Ar sylwedd y Croeshoeliad.

Ceir gwledd, pwysig hedd y Pasg hael,—a'r Oen,
A'i rinwedd pur, diwael;
A chofion fydd o'r Dyrchafael,
Yn ei gylch, a'r Sulgwyn, i'w gael.

Gwyliau eraill a eglurir—yn rhes,
Gan rai, ac fe'u cedwir;—
A farno neb o'i fron yn wir,
Bid siwr o'i garn, trwy'r farn fernir.

Gwladol, rhai Gwyliau ydynt,—at amod
Pen-tymor,—a helynt
Tir a'i Hawl;—at dwrw a hynt
Ariannol, rai ohonynt.

Ysgrif neu air, Wyl Fair fydd
Ddiogel i'r iawn ddygydd;

Gwyl Fihangel, ei sel sai;
Gwyl unmodd yw'r Galanmai;
"Canol Haf," cawn Wyl Ifan
Pur glws ar y papyr glân;
Yr Holl Saint, wyl arall sydd,
Hon yw Clangaua' newydd;
Pen-tymor, pwynt diamwys,
Tra bo dim mater o bwys;
Gwyl Nadolig lân, deilwng,
At raid byd a chred, cyd rhwng,
Hawlia gario'r ŵyl-goron,
Addien grair y Flwyddyn gron.


MOLAWD CLYNOG.

CAWN gynnyg hyn o ganu
I Glynog, coron Cymru,
Sy'n llannerch deg ar fin y môr,
Iach oror hawdd ei charu.

Nid oes difyrrach mangre,
Dan wenlloer diau'n unlle,
Am a wn, na lle mwy iach,
Na i glanach, ond goleune.

Rhyw olygfeydd godidog
A geir o fryniau Clynog
Ar wastadedd Arfon hardd,
Fel diwael ardd flodeuog.

Di ri' yw 'r llwyni llawnion,
A'r meusydd eang ffrwythlon,
Rhwng llawer lewfrig goedwig ha,
Ymlifa al i afon.

Oddiyma y golygir
Mon gywrain, man a gerir,

Hanes bir o'r Ynys hon,
A'i beirdd, wyr llon, ddarllennir.

Mor glysion mae 'r eglwysydd
Rhwng cedyrn rengau coedydd,
Byth y sai eu clochdai clau,
A'u pennau 'n uwch na'r pinwydd.

Ac acw 'r llongau mawrion,
Cywreindai, ar y wendon,
Yn saethu rhagddynt trwy y lli,
Gan hollti'r toonau heilltion.

A finnau, o Eifionnydd
Y daethum fel ymdeithydd,
I fyw a bod, am bennod bach,
Hyd Glynog iach ei glennydd.


Y GWANWYN.

MAE ael Anian yn ymlonni—mae'n brain
Mewn brys am ddeori,
Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef, yn ein mysg ni.

Mae ein gwanwyn yn min geni—y myrdd
Myrddiwn math o dlysni;
Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni,
Mae tir a môr i'm trem i.

Main laswellt mynn ail oesi—man lle bu
Mewn lliw balch yn codi;
Mae allan drefn meillion di ri'
Mae ail olwg am y lili.

Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r donn
Mor deneu'n ymlenwi;
Moddion tyner meddant ini,—
"Mae yn y Nef Un mwy na ni."


YMWELIAD A LLANGYBI
Yn Medi 23, 1854.

LLANGYBI!—Os wyf fi fardd,
Pa ehud!—pwy a wahardd
Un awdl fer, o anadi 'foes,
Un annerch, brydnawn einioes,
I ti, fy Llangybi gu,
Fan o'i gwrr wyf yn garu?
Hoff o Fon oedd Goronwy,
Tydi a garaf fi yn fwy;
Yn dynn ar dy derfyn di
Ynganaf gael fy ngeni;
Mae bendith fy mabandod
Yn wir ar dy dir yn dod.

Hiraeth heddyw yw'r arwr
Egyr y gân o gwrr i gwrr;
Y fynwent a'i beddfeini
Yn flaenaf, fyfyriaf fi;
Y mae rhan o'm rhieni
O fewn ei swrth fynwes hi;
Deil eu llwch, nes y del llaw
Duw Anian i'w dihunaw.

Isaac Morys gymerwyd
I gwrr ei llawr a'i gro llwyd;
Ni eithrwyd yr hen Athro,
Yn anad 'r un, yn ei dro.

Dyna fedd Dewi Wyn a fu—hen bardd,
Heb neb uwch, yng Nghymru;
Ond ple mae adsain cain, cu,
Tinc enaid Dewi'n canu?

Mae degau o'm cymdogion,
A'u tai yn y fynwent hon:



TYWYSENNAU'R HYDREF.

Duwiesaidd yw'r dywysen,
Grym ei phwys a grymai phen."



A mi'n ieuanc, mwyaheais,
Ag aidd llon, eu gwedd a'u llais;
Ond O! y modd! dyma hwy
Isod, ar dde ac aswy,
Yn fudion lwch-hanfodau,
A neb o'i hun yn bywhau.
Codwch codwch! lwch di lun,
Gwyntiwch, o'ch tawel gyntun,
Echwynwch un fach einioes,
Neu ddarn o ryw newydd oes,
I siarad hen amserau
Gyda'ch gilydd, ddydd neu ddau;
Buoch bobl, a baich y byd
Ar eich gwarrau uwch gweryd;
O! mor chwai, pan delai dydd
A'ch galwad at eich gilydd,
Fel hyn, gryn fil o honoch,
Y gwnaech lawen grechwen groch;
Gan annerch, yn gynhennid,
Y naill y llall, heb un lliw llid:
Torrech trwy holl faterion
Hyn o blwy, yn wyneb lon;
Dilynai eich dylanwad
Trwy fywing lu tref a gwlad;
Lloer eich dawn, fel llewyrch dydd

Hwyliai'r genedl ar gynnydd.
Ond wele'n awr, delw neb
Ni ymwâna im wyneb;
Heddyw'n dlawd-ddienaid lu,
Mae'ch olion yn ymchwalu,
Yn llwch, o un bedd i'r llall,
Andwyol, heb un deall;
Ebrwydd y llun, yn bridd llwyd,
I aflerwch faluriwyd.

O mae'n dost i'm henaid i,
Raianach sal, arnoch sylwi;
Ddof dorf!--mor ymddifad y'ch
O'r ganwyll fu'n hir gennych!
Y meddwl a'i ymwyddiant
Ymaith ffodd, a chiliodd chwant.

Cysgwch! cysgwch! lwch y wlad!
Hyd foreu yr adferiad;
Eich Duw yn unig a'ch deall
Yn y llawr llwch, y naill a'r llall.

Af i'r Llan, fan o fonedd,
Hyd yr hen Lan,—hi dry'n wledd;
Cofion ar gofion gyfyd
O lwybrau mêl boreu myd.
Ah! dyma'r Fedyddfa deg,
Man bedydd, 'min bo'i adeg;
Er ystod faith cristiwyd fi
Yn nawdd hon, newydd eni;
Duw i fy rhan! a'i dwfr rhydd
Fe'm mwydwyd yn fy medydd;
Boed da y ffawd, bedydd ffydd
Fo y ddefawd, fyw Ddofydd.
Bedydd ffydd, boed da y ffawd,
Fyw Ddofydd, fo y ddefawd.

Roberts, beriglor hybarch,
Y mwyn wr, mae yn ei arch;
Urddasai'r Llan ar Ddywsul,
Am hir dalm, gyd â'i Salm Sul;
Lle seiniai'r holl Wasanaeth
Yn dawdd ffrwd o weddi ffraeth;
Pan i'w bulpud symudai,
Ar ol Pader ferr, ddi fai.
O'i ben y gangen gyngor
Ddeuai dwf yn ddi dorr;

A llais lym, da'i rym, di rus,
Seiniai eiriau soniarus;
A'i ddygiad yn fon'ddigaidd,
A iach o bryd, uwch ei braidd;
O'r hen ddull ei rinwedd oedd,
Caredig mewn cur ydoedd;
Da i'r tlawd, er atal loes,
A diddanu dydd einioes;
Eto gwyllt, nid at y gwan,
Wr gonest, rhywiog anian,
Ond at y gweilch beilch, di bwyll,
Na ddywedent yn ddidwyll;
Ymawyddai am heddwch;
Ni haeddai lai,—hedd i'w lwch.

Trof yn awr, trwy y fan hon,
Hyd y grisiau lled-groesion,
Ar osgo, i le'r Ysgol,
Oedd fwy o nwyf, ddydd fu'n ol,
Sef llofft y Llan, man mwyniant,
Ddesgiau'r plwyf at ddysgu'r plant.
O! dyma olygfa lwys
Ar waglofft brudd yr eglwys;
Nid oes twrw!--hun distawrwydd
Dwng yma'i le, ers tri deng mlwydd;
Mae hynny'n oes, fel mewn un awr,—
Fel dim onid dim yw'r tymawr!
Onid dim, dim ond dameg,
Yw ein hynt oll i henaint teg.

Estyll y lleoedd eistedd
Ynt o'r un waith, eto'r un wedd,
Lle gallwyd, â llaw-gyllell,
Gwneyd bwlch, neu gnoad, o bell,
A tharo brath i ryw bren,
Neu ysu twll mewn ystyllen,

Gan hogiau go anhygar,
Taeog o wedd, tew eu gwarr;
Pery 'rhen graith i faith fyw,
Ai naddiad yr un heddyw;
Ond yr awdwyr o'r direidi,
Neu ddim o'u nod, ni wyddom ni.
Tonn ar ol tonn a'u laenodd,
Pwy ŵyr eu rhan, na'u man, na'u modd?

Dyma fainc, a chainc ar ei chwrr,
O! 'r dyndod mawr ei dwndwr
Hyd-ddi gynt ydoedd dda'i gwedd,
Yn gostwng, codi, ac eistedd;
A throi llyfr, a tharo llaw,
Cynllwyn o boblu'r canllaw,
Yn gu, rosynog, res anwyl,
Yn gariad i gyd, mewn gwrid gwyl.
Yr un fath yw yr hen fainc,
Lle safai'r lluaws ifainc;
Ond, O Dduw ne'! p'le, p'le mae'r plant
Heinif, hoewon, yna fuant?
Trosglwyddwyd yr ysgolyddion
Fu yn eu cylch ar y fainc hon,
I lawer math o leoedd
O dreigl chwyrn, dirgel a choedd;
Un i'w le yn yr hen wlad,
Trofa ei hen gartrefiad;
Rhyw bell fangre yw lle'r llall,
Wyneb dŵr,—neu y byd arall!
Rhyw gwm sy'n rhy drwm i'w dramwy,
Am obaith mainc yma byth mwy.

Dyma fi, Langybi gu,
A fannerch yn terfynu,
Bellach, mae'm gwyneb allan
O wynt y lle, fynwent a Llan;

Mae tynged yn mud longian,
Gan ysgog at Glynog lan;
Hi ddengys, pwy faidd wingo?
A brwd frys, y briod fro;
Cyfeiria'i bys cyfarwydd
I greu i'm rhan awgrym rhwydd
Mai Clynog, i'm cu lonni,
Ar fin mor, yw'r fan i mi.


EIFIONNYDD.

EIFIONNYDD, Eifionydd, fy anwyl Eifionnydd,
Eifionnydd, Eifionnydd ar gynnydd yw'r gân;
Er gwyched yw bronnydd goludog y gwledydd,
Yng nghoedydd Eifionnydd mae fanian.

Hen finion Eifionydd a luniant lawenydd
O galon bwygilydd, o fynydd i for;
Mi gara i magwyrydd, a'i llynau dŵr Ilonydd,
Ei choedydd a'i dolydd hyd elor.

Mae bendith mabandod fel gwlith oddiuchod
Yn disgyn yn gawod ar geudod dy gŵys;
Hen, iraidd, gynarol, fro awen forenol,
Dewisol briodol baradwys.

Draw, copa Carn Bentyrch, dan wyntoedd yrentrych,
Rydd achles i'w llennyrch, a chynnyrch ei choed;
Cysgododd yn ffyddlon oludog waelodion
Hen Eifion a'i meibion o'u maboed.


Llangybi, llwyn gwiber pob llondeb a llawnder,
Islaw ar ei chyfer, heb chwerwder a chwardd;
Bro llawn o berlleni, a gwyrddion ei gerddi,
Heb ynddi i 'mhoeni ddim anhardd.

Islaw tew gaeadfrig y Gadair a'r goedwig,
Tardd ffynnon ſoneddig, nodedig, a da;
Daw iechyd diochain, er culed eu celain,
I'r truain ar ddamwain ddaw yma.

Rhandiroedd Llanarmon a welir yn wiwlon,
Mor siriol a Saron, yn minion y môr;
Di anair ei dynion, naturiol, nid taerion,
Ond haelion, drwy gyrion eu goror.

Hyd Chwilog dychwelir, man glwysdeg mewn glasdir,
Ddyfradwy hardd frodir, a gerir yn gu;
Ac yma'n ddigamwedd, Sion Wyn sy'n ei annedd,
Tangnefedd diwaeledd i'w deulu.

Sion Wyn o Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
Sion Wyn o Eifionnydd sy'n gelfydd ei gân;
Gwir Awen a grewyd, a Miwsig gymhwyswyd,
Gyd-blethwyd, hwy unwyd a'i anian.

O Chwilog iach olau, bro anwyl a'i bryniau,
Yn llon at Llanllynau a glannau y gwlith,
Rhown dremiad diatreg a chenir ychwaneg,
Ychwaneg i fwyndeg fro'r fendith,

Gwlad her Llanystumdwy, olndog, fawladwy,
Erioed cymeradwy, clodadwy, clyd yw;
Ireiddiawi fro addien, pau rywiog pêr awen,
Nid amgen gardd Eden,—gwerdd ydyw.


Gwel glogwyn pinaglawg hen Griccieth gastellawg,
Uwch annwfu trochioniawg, ardderchog ei ddull,
Uwch agwrdd grych eigion a'i lidiawg waelodion,
Mor dirion i feirddion ei fawr-ddull.

Hyd Dreflys a'r Ynys fy nhuedd a nhywys,
Tremadawg ymddengys yn drefnus ar draeth,
Goleidiawg waelodion, le treiglai y wendon,
Yn feillion tra hylon, tir helaeth.

Ar fynwes Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
Y magwyd ein Dafydd,[2] dieilfydd ei ddawn;
Mae'r Bardd Du[3] 'n ymlonni oherwydd ei eni
Rhwng llwyni a deri 'r fro diriawn.

Fy anwyl Eihonnydd, bwriadai yn brydydd
Ei Phedr[4] sy mor gelfydd ei gywydd a'i gân.
Ac Eliss[5] o'i goledd, rhad awen o'r diwedd
Droi 'n sylwedd o unwedd a'i anian.

Planhigyn o ganol Eifionydd wiw faenol,
Yw Morys[6] awenol, farddonol ei ddawn;
Paradwys y prydydd yw f anwyl Eifionnydd,
Bro lonydd llawenydd, le uniawn.

Clau wrandaw!-clyw'r wendon yn siaw yn gyson
Hyd lenydd gwyrddleision bro Eifion bêr hardd,
Wrth weld ei wrth-gysgod ar Gantrefy Gwaelod,
Myfyrdod sy'n gorfod y gwirfardd.


MARWNAD JOHN ELIAS.

GWYLWYR Sion! Beth yw'r cynnwrf?
Beth yw'r rhedeg yma a thraw
O dŵr i dŵr ar fur y Ddinas?
Pa ryw berygl sydd gerllaw?
Pam yr ydych yn amneidio,
Yn edrych mor gyffrous i gyd;
A oes ymgyrch o byrth uffern,
Neu ryw newydd boen o'r byd?

Nac oes, Sion! Na frawychia,
Ddinas deg y Brenin mawr-
Amlyga'r gwylwyr iti'r gofid,
Yr hwn a'u gwnaeth mor brudd yn awr;
Nid pyrth uffern gymaint ofnwn,
Gwyddom na orchfygant hwy,
Ein Dinas sydd ar Graig yr Oesoedd,
Pwy a chwal ei meini mwy?

Un o'r gwylwyr heddyw gwympodd,
Hyn a'n gwnaeth ni oll mor drist,
Un o'r tywysogion syrthiodd,
Hen filwr da i Iesu Grist;
Angau gafodd le manteisiol
I ergydio at ei fron,
Mae'r tŵr heb neb yn sefyll arno,
Fel cysgod angau yr awr hon.

Sion! gwel ei gawell saethau,
Edrych ar ei fwa dur;
A'i darian hefyd wedi ei gosod
Yn esgeulus ar y mur;
Pwy o honom sydd ddigonal
I drin ei arfau yn ei le?
Pwy mor ffraeth i gynnyg cymod
I'r gelynion âg efe?


Ar hyn Sion a edrychodd
Yn ofidus ar y mûr;
A chraff sylwodd ar y gwylwyr
Gyda chalon lawn o gur;
Troes ei golwg yn naturiol,
I'r lle safai ei phrif gawr,
Sef Elias fywiog, nerthol,—
Canfu yno'r rhwygiad mawr.

Ar amrantiad gwaeddai'r Ddinas,
Ar lewygu gan y braw,
Nes i adsain ei hochenaid
Dreiddio trwy y byd gerllaw,―
"O Elias efengylaidd,
A fachludodd haul dy oes?
Pwy mor hyawdl bellach draetha
Yr ymadrodd am y groes?"

Ciliais draw i un o'r tyrau
Pellaf oll o boenau'r byd;
Tŵr sancteiddrwydd a gwir gariad,
Lle mae nefol hedd o hyd:
Yno gwyliwr sobr, unigol,
A eisteddai ar y mur,
Gan ddwys ddatgan wrtho i hunan,
Rinwedd ein Elias bur.

Minnau'n ddirgel er mwyn clywed
Ymsefydlais ar y tŵr;
Ysgrifennais ei gofnodau—
Ynna canlyn geiriau'r gwr,—
"O fy mrawd, fy mrawd Elias!
Ei fwa ef arhodd yn gryf
Nes ei alw gan ei Frenin
O'i ymdrechfa lew a hyf.


Llawer brwydyr boeth ymladdodd
Oddiar furiau'r ddinas hon,
Bu byddinoedd halogedig
Y byd yn crynnu ger ei fron;
Pwy o'i fath am drin y cleddyf,
Sydd yn clwyfo ac iachau?
Calon llawer gelyn lesu,
Wrth ei lef fu'n meddalhau.

"O na allwn ei ddarlunio
I feddyliau'r oes a ddel;
A dysgrifio'i araithyddiaeth,
A ddiferai fel dil mêl;
Ni effeithiai presenoldeb
Torf o ddysgedigion byw
Un gwanhad ar ei ewynau,
Ei nerth a wyddai yn llaw Duw.

Pan esgynnai ir areithfa.
Tawai myrddiwn ger ei fron;
Ei ddistaw wên wnai greu teimladau,
Nad hawdd eu traethu y waith hon;
Edrychai, dro—yn fud, o amgylch
Ar y lliaws fai gerllaw,
Ei lygad saethai'r fath ddylanwad
Nes rhoddi'r dyrfa yn ei law.

Dywedai'r gair—tynerai Anian!
Gostyngai'i law—ac wylai myrdd;
Pan wgai'n wrol,—beilchion grynnent,
Arswydai'r coegddyn ffol ei ffyrdd:
Ei law dyrchafai—bloedd gorfoledd
A ddadseiniai drwy y llu,
Roedd hyd yn oed ei atal-dwedyd,
Yn gyfwng o hyawdledd cu.


Pan fai rhês o feddyl-ddrychau
Yn llenwi i enaid eang, mawr;
A throellau iaith yn rhy ddiffygiol,
I gyfleu y rhain ar lawr:
Estynuai'i fraich—dyrchafai'i olwg,
Crynhoai ei wefusau per,—
A'i ddull roi fawredd ar bob meddwl
Uwchlaw un iaith o dan y ser.

Gwir mai gŵr a Gymru ydoedd,
Ni chyfrifir Cymru'n fawr;
Eto ymgystadled Athen,
Os myn, gyda ni yn awr;
Nid oedd Crist yn Araith Athen
Rhyw blisgyn ydoedd, tlws a choeg,
Elias Cymru'n traeth am Iesu,
Gwilyddia holl areithiau Groeg.

Fe allai'r eiddigedda Rhufain,
Yn y gystadleuaeth hon,
Ei hareithiwr ddyry hithau,
Yn y clorian ger ein bron;
Pwyser Araith Groeg a Rhufain,
Ni cheir ynddi unrhyw foes
Dal ei ddangos wrth Elias
Yn areithio gwaed y groes.

"Pam yr enwaf Gymru fechan?
Maes ei lafur oedd y byd!
Gwnaeth gymwynas i'r holl ddaear
Trwy ei ddawn a'i frawdol fryd:
Dweded rhyw negesydd cyflym,
Ei farw yn Americ draw,
Bydd llawer mintai fawr yn wylo,
Cwyn a galar ar bob llaw.


"Duon gynlleidfaoedd Affric
A edrychant oll yn brudd,
Am na chwery dawn Elias
Mwy i wneuthur iddynt fudd:
Hed ochenaid am brif golofn
Achos Iesu ar y llawr,
Draw hyd lethrau'r Himalaya,
Ac hyd lannau'r Ganges fawr.

Ynysoedd traffith Môr y Deau,
Mae'ch dadleuwr yn y bedd!
Hawliodd rym ei holl ffraethineb
I chwi gael cenadwri hedd:
Gwisged Cymdeithasau Prydain
Alarwisgoedd oll yn awr.
Mae eu pen areithiwr cywrain
Yn fud a llonydd yn y llawr.

"Trefnyddion Cymru ocheneidiant
Am y sant a aeth o'u plith,
Yn eu cyfarfodydd pennaf
Teimlant heb eu brawd yn chwith:
Pwy fel ef mewn Cymdeithasfa
A ddwg sylw'r dyrfa'i gyd,
Trwy rin ei bêr hyawdledd nefol
Nes cadwyno eu holl fryd?

"Nid trwy swyn doethineb ddynol
Ond hyawdledd pêr y groes,
A thafod wedi ei ysbrydoli,
Y rhagorodd yn ei oes;
Corff ac enaid efengylwr
A dderbyniodd gan ei Dduw;
Meddwl eang, gwreiddiol, eglur;
Genau ffraeth i'w ddwyn i'n clyw.


Porthai'r praidd â phob danteithion,
Seigiau breision o fwyd cryf
Barotoai'n iach a maethlon,
Heb un cyfeiliornad hyf;
A llaeth y gair meithrinai'r gweiniaid
At fesur oed cyflawnder Crist,
Gan gyfaddasu'r bwyd ysbrydol
At archwaeth gwael y baban trist.

Ei ddawn cyrhaeddgar a ymaflai
Yn holl gyngor rhyfedd Duw,
Eglurai y ddarpariaeth ddwyfol
Wnaed at achub dynol ryw;
O'r cyfamod cryf trag'wyddol
Hyd ogoneddiad Crist a'i had,
Hysbysodd bob gor'chwyliaeth rasol
Yn nhrefn iachawdwriaeth rad.

Pan fai'r Eglwys mewn rhyw syrthni
Yn nghysgodau'r hwyr yn brudd;
Elias godai'i law i'r Nefoedd,
Yn y fan fe wawriai'r dydd:
Ar ben Carmel yr amheuon
Ymresymai'r tan i lawr;
Baal na Jezebel ni ddalient
Y tanbaid bresenoldeb mawr.

Pan gyffyrddai o'r areithle
A llinynau calon dyn,
Teimlid rywfodd fyw neu farw
Fel wrth air ei enau 'nglŷn;
Pelydrai lewyrch pur, angylaidd,
Fel cylch a choron am ei ben,
'R oedd ol y marwor ar ei wefus,
O'r allor bur tu draw i'r llen.


Ffarwel Elias! hyd y bore,
Pan yr adgyfodi'n fyw;
Os gadewaist di y gwersyll
Cawn eto'r golofn dân a Duw;
Fel hyn gobeithiwn dy gyfarfod
Yn y nefol Ganan gu;
Ac adnewyddu'n fil anwylach
Yr hen gyfeillach yma fu.


ANNERCH I'R PARCH. J. JONES, TALYSARN,
Ar farwolaeth ei eneth, yn 14 oed, Hydref, 1845.

FRAWD! Cofiwch, bu Dafydd a'i blentyn ar dranc,
A phrofwyd ei grefydd trwy angau ei lanc;
A Dafydd ymolchodd a chododd drachefn,
Ei Dduw a addolodd pan drodd yn ei drefn.

Beth meddwch, frawd, eilwaith am Job yn y pant,
Ac angau ar unwaith yn llyncu'r holl blant?
"Yr Arglwydd" dywedai "a roddodd am dro,
Yr Arglwydd ddug ymaith, bendigaid a fo."

Ni chollodd eich geneth wrth basio y ser,
Mae'n byw yn ei phalas yn ninas ei Ner;
Yr Hanfod wys dyner a fuoch chwi'n drin,
Rhyw seraff a'i cymer yn awr ar ei lin.

Mae'r meddwl bach cymysg, y bu arnoch boen
I roi iddo addysg am rinwedd yr Oen,
Yn awr o ryw argraff mwy disglaer na dydd
Yn taflu, braidd, Seraff nen Gerub dan gudd.

Pan gaiff ei chorff cryno heb arno ol bedd,
I undeb a'i henaid, bydd gannaid ei gwedd;
I dan ewch i'r awyr, eich geneth ni'ch gâd,
Ond geilw'n ddiwewyr,—"Fy Nhad! O! Fy Nhad!"


FY MHLANT,
Yn Mehefin 23ain, 1855.
Elin yng Nghaernarfon ar neges,—ei chwaer Elizabeth yn ei lle yn y Bont.—James Ebenezer gartref:—a'u hanwyl chwaer Catherine newydd ei chladdu.

MAE un wrth Gei Caerseiont:—
Un yn y bedd;—un yn y Bont;
Dim ond un gartre, lle bu'r lleill,
Naturiol frawd y plant ereill:
Hwnnw a'i fam heno a fydd
I'w gweled gyd â'u gilydd.
Deuddeng mlynedd ryfedd rifais
I gael ger bron yn llon eu llais,
Bedwar o blant i'w bwydo
Yn fwyn a hyd dan fy nho;
Dedwyddol i dad oeddynt,
Pan yn chware gartre gynt.
Ni welaf y rhain eilwaith
Yma yn wir, am un waith,
Yn galw oll gyd â'u gilydd
"Mam!" neu "dad!" mwy am un dydd;
Dychwelodd Duw i'w chwalu;
Cyfran foes fydd cofio'r hyn fu.
Iesu'n nawdd i'r rhai sy'n ol!
Dedwydd fo'm, er ein didol;
Yr un waedd fawr yn weddi fo,
A'r un Duw a'n gwrandawo;
Er crwydro, suddo is âr,
Cymysgu, ac ymwasgar,
Undeb tragwyddoldeb ddaw,
Anwahanol i'n hunaw.


BRWYDR MAES BOSWORTH.
Gair at yr Awen.

O AWEN, bydd imi'n borth,
Am hysbysion Maes Bosworth.
Maes can yw ym mysg cenedl
Y Cymry, a chwery'i chwedl
Yn awyr pob oes newydd.
A ddel, hyd yr olaf ddydd.
Ym Mosworth caed gormeswr,
Dyn i ddiawl, a'i ben dan ddŵr;
Yn Bosworth y bu asio
Darnau brad, er unaw bro
A dreisiasid dros oesau,
Trwy nwydog wŷn teyrniaid gau,
Asgennol oresgynwyr,
Yn lladd eu gwell, eiddig wyr;
Bosworth a wyntiai beiswyn
Ach gyrrith, o'n gwenith gwyn;
Us gwlad, a'i gwael asglodion,
Fwriwyd draw yn y frwydr hon;
Neshai Blaguryn i'n sedd,
Orawn hen ein brenhinedd,—
Rhuddin oedd o wreiddyn iach,
Nid olynwr di linach.

Rhagoriaeth brwydr Bosworth ar frwydrau dinod.

Na hidlwn drwy ein hawdlau
Laeth afiach ymgeintach gau;
Drud hawliau brwydrau teilwng,
I'w hurdd da, y bardd a dwng;
Adroddion brwydrau eiddil,
I lawr a'u math, lawer mil!



FFRYDLIFOEDD Y GAEAF

Llafara y llifeiriant
Ei daran hir drwy y nant



Na laniont mewn ail einioes,
Yn y dydd bo newid oes;
Na roed cân iddynt anadl,
Na beirdd dwys eu bwrdd i'w dadl:
Ym mawl cledd, ni theimla clod
Drydaniaeth brwydrau dinod;
A ganmolir gwŷn malais,
A bradwyr trwch brwydrau trais?
Na edwant i ddinodedd.
Pwnc diwrnod fydd clod eu cledd;
Datroir blaenoriaid eu trin,
Oedd ddoe'n wŷr, heddyw'n werin;
A cheiff holl gleddyfau chwant
Eu gweinio'n ddiogoniant.
Ond ar hawl y brwydrau hedd,
Nis dywaid un oes—"diwedd!"
Ewybr dreiddia Brwydr Rhyddid
Anad a bron cenedl brid,
Yn ffun hunan-ddiffyniad,
Yn gred Glyw, yn gariad Gwlad,
Gwrthrym fydd i'r gorthrwm får,
Dry'n adwyau drwy'n daear.

Ar gleddyf, mae rhyglyddianı,
A wano chŵydd hunan chwant,
A ladd rwysg, a oludd red
Y mathrwr, trwm ei weithred,
Yr hwn gais drwy drais roi 'i droed
Ar freiniau arfer henoed.

Bosworth ar flaenau'n bysedd,
A Waterloo, want hir wiedd;
Brwydrau a gaed, heb rodres,
Yn creu llwydd yn cario lles,
Yn bwrw trais i'r obry trwch,
I adnewyddu dawn heddwch;

Brwydr Bosworth fu'n borth i'r byd,
I ddod drwyddo at Ryddyd;
Bu'n borth i unben o barch
Ddod yma'n Udd ddiamarch,
I ddadrys ein hynys ni
O wdennog gadwyni
Weithiasai penbleth oesoedd
O dreigl a chwymp, dirgel a choedd,
I'm darostwng dan drawsder,
A bwrw baich ar ein bro bêr.
Myrierid im, a'r aur da,
Câd Bosworth a'u cydbwysa.


Golwg yn ol ar gystudd Prydain.

Ym moreu yr helbul mawr ar Albion,
Tremiai Rhufeinwyr tua'r môrfinion;
Ac, o syllu ar Ynys Caswallon,
O bleser golwg, âi blys i'r galon;—
Trwy gadau distryw y giwdawd estron,
A garw fradwriaeth gwyr o frodorion,
Dwrn swrth ar y deyrnas hon—roes Caisar,
Galedodd afar ar ein gwlad-ddefion.

Hyd hyn o'n hanes, yn ein tŷ'n hunain,
Am hir adeg, yr oeddym ym Mhrydain;
Ni bai ymwelwr o wyneb milain,
Neu edn niweidiol daenai ei adain,
I ddwyn diowryd o dde na dwyrain,
Hyd yr awr rhwyfodd dewr Eryr Rhufain,
Ai oslef trwy'n hynyslain—yn cyrraedd,
Yn eres grochwaedd, gan oer ysgrechain.

Gormes y Caisariaid,

Dyna drin wnai'n dwyn dan dreth,
A dirdra, godai ardreth
Echrys ar ein Hynys hon,

I Gaisariaid go surion:
A'u lengoedd mal llu angau,
Oddifewn yn ymddofhau;
Cestyll, gwersyll, a garsiwn,
Yn taeru hawl i'n tir hwn;
A'i holl hyd, i gyd o'i gwrr,
A'i holl led gan allwleidiwr;
Gwnaed ni yn dławd giwdawd gaeth,
Heb enw o anibyniaeth;
Ys taenodd Suetoniaid,
Dros ein bro, drawsion, heb raid;
Gwyr celyd Agricola,
Gaseion dig, ysai'n da;
Nes ein dwyn yn weision dôf,
A thyngu'n nerth i anghof;
Dinerth yr aethom danynt
Am ganrif ar ganrif gynt.

Brud Hen Dderwydd.

Yn nyddiau'r aflonyddwch,
A ni yn llawn yn y llwch,—
Yn gorfod, mewn gweddwdod gwâr,
Rhoi cusan oer i Caisar,
Hen Dderwydd, canmlwydd, mewn coed.—a gofiai
Ar gyfer ei faboed,
Gan honni, er gwŷn henoed,
Y drefn ddeuai eto ar droed.
Dan dewfrig yn y wig werdd,
Dan gangau rhyw edn-gyngherdd
Oedd, o reddf, mewn dof leddfau
Galar rhydd, yn eglurhau
Cwymp Prydain, a'u sain a'u si
Hynaws yn ei ddiloeni;

O'r fan hon, ar fin einioes,
I'w brid wlad y brudiai loes,
Poen drom, ond yn y pen draw—
Y diwedd yn blodeuaw;
Dyma ei Frud am ei fro,
Trwy niwlen, tra yn wylo,—

"Dyn dybiai ddod ein diben,
Hoedl bach ein cenedl, i ben;
Nid felly Hi dyf allan,
I enw mawr, yn y man¦
Er fod, yn awr ar glawr gwlad
Drwst ing ei darostyngiad,
Ie, i sut ddaw'n is eto,—
Ond o'i dwfn ing, dring ryw dro.

"Syrth hirnos ar ei theyrnedd,
A syfl ei brenhinol sedd;
Cyll ei wyf, ac i'w lle naid
Rhestr anwir o estroniaid.

Ei gwddf tega oddef tan—iau'r Eryr,
O! 'r oeri wna'i hanian;
Anad wyw y genedl wan
Ddihoena ynddi 'i hunan.

"Wedi mesur ei gofid am oesoedd,
O dan estroniaid dawnus en trinoedd,
Wedi'r blin oddef drwy y blynyddoedd,
Diluw o aerwyr ddeuant, lawernedd:
Cry' rym anciddil cawri'r mynyddoedd,
Owyllt ymylan, 'n tywallt en miloedd
Ar Ddinas y Dinasoedd.-i'w chwympo
Ac i'w throedio, am draha'i gweithredoedd.

Yn nhrofa'r farn, ar fyrr, fyrr,
I'w ororau a'r Eryr,

A thasga'i anferth esgyll,
Ar bwrdd o gyflymder hyll.

"Awyr Prydain fydd yn daistain,
Trwy ei lefain tra wylofus;
Gedy dalaeth ein brodoriaeth,
Fal ysglylaeth afles, glwyfus.

Er arwain draw yr Eryr,
A'i waedd, o gyrraedd ein gwyr;
Oes drahaus a thost, er hyn,
Arddelwaf i hir ddilyn;
Y genedl, daroganir,
Gyst ddyheu dan gystudd hir;
Gorthrwm a glwm, am ein gwlad,
Wrysgeni goresgyniad;
A llwythau eraill weithion,
Treisiant hi tros ewyn tonn.

Anwariaid a'u banerwyr—anrheithiant
Yn rhith cynorthwywyr;
Trwy linach ein teyrnach tyrr
Ai estronol ystrinwyr:
Heidia'r marwol dramoriaid—i'n hynys,
Yn hanner gwallgofaid,
Hi ddaw i boen, a'i hedd baid
Yn mhenbleth y drom ymblaid.

"Sorrir y Llyw, sarheir Llys
Cynhwynol mainc ein hynys;
Bydd enw mainc, byddin, a mur,
Boenydiol i benadur:
Sefydlir gorsaf waedlyd
Llid a'i hawl, trwy'i lled a'i hyd;
Try n godwm i'n teyrngadair—
Hon a gyll ei henwog air;

Ac o gostrel coeg estron,
Yfir rhêg ar y fro hon;
Wenwyna hawl gynhennid,
Wna'i llyw, un llaw, yn llawn llid,
Ar y llaw arall, gwall gwaeth
A ddryga i rhydd wriogaeth.
Prydain a wel gwymp brodyr,
Ar y maes gwaed, gormes gwyr;
Cyll ei thraed—a'i gwaed ar ei gwedd,
Ymwyra mwy i orwedd.

Ond gwelaf draw y daw yn y diwedd,
Fal gwyrth arni, ryw flagur o'i theyrnedd,
O gyff y genedl—fe gaiff ogonedd,
Bywheir yn ei enw hawl ein brenhinedd,
Pennwn a baner impyn o'n bonedd
Yn awr a chwifia yn yr uchafedd,
Yng ngwên nwyfus Tangnefedd—cân Prydain
Hynod arwyrain wedi hir orwedd."

Hyn oedd air yr hen Dderwydd,
Ai Frud, cyn symud o'i swydd;
Rhy faith ei araeth i'w oed,
Blinai ei anabl henoed;
A phan y llawn orffennodd,— yn y fan
Efe a ymliwiodd,
A buan draw ei ben drodd,
Yn hen, hen; yno hunodd.

Gormes y Saeson.

Pur ffodus y proffwydai
Ein diwrnod niwl, dirnad wnai
Dynesiad y wae nosol,
A hardd wawr hedd, ar ei hol.
Bu'r tonnog chwŷl Brutanaidd,
Yr un funud a'r Brud, braidd;


Oblegyd pan oblygwyd pennwn—Rhwyf
Rhufain ym mro'r Brutwn,
Ymwelodd llawer miliwn
O wŷr trahaus â'r tir hwn.

Prydain orfu gael llu llog
Rhag aerwyr Brithwyr brathiog;
Ys, i'w gwasanaeth Sacsoniaid—buriodd
I heriaw'r dieithriaid;
Yn rhith dod i'n plith, o'n plaid,
Anras trais wnai'r estrysiaid.
Hurio Sais fu yn arw siom,
Drud ernes o'i draed arnom;
Hwt ei lawdrwm, frwnt ledrad,
Dan annleg liw, dwyn ein gwlad.

Gormes y Normaniaid, ymgystlyniad y
gormeswyr yn erbyn y Brython.


Wedi hyn, deuai i hawl
Normaniaid,—yn rym unawl
A'r Saeson,—a'u meibion maeth
Yn honni ein brenhiniaeth;
Dwyblaid yn un grym deublyg,
Yn amlhau i'n dal ymhlyg:-
O'n gwlad fras a'n dinas deg
Y'n hwtiwyd, heb un ateg:
Ag esgud nerth gwasgwyd ni
Ar waered i Eryri;
Talgreig Cymru fu y fan
Ini oll o hyn allan:

Darostyngiad y Cymry dan Iorwerth.

Anorfod oeddym yn nhwrf y dyddiau,
Dan unfon nodded ein hien fynyddau;
Yno daliasem ein hanadl, oesau,
Yn curo y gelyn o'n creig-waliau,

Oni bai i Iorwerth hebu ei eiriau,
Nes y tarawodd ni a'i ystry wian;
Ai Dywysog di eisiau—fe'n twyllodd,
A dir wanychodd ein hen deyrnachau.

Anghydfyddiaethau y Cymry a'r Saeson.

Rhyw fyd terfysglyd a fu,
A phoen wedyn yn ffynmu;
Hen ddant yn dwyn rhyw hin ddu
A didoliad i deulu;
Rhyw sem wŷn a droes aml waith
Ddau deulu yn ddwy dalaeth;
Neu ddau frawd yn ddwy Frydain,
Oll yn ddrwg, a llawn o ddrain;
A'r hen ddrwg droai'n ddreigiau
I annog nwyd i'n gwanhau;
Hen gas a arddai'n gwysi
Ein gwyr nod a'n gwerin ni;
O had-gwysi dygasedd,
Cnwd gwlad ydoedd cnawd i gledd;
A chenedl wrth genedl gynt,
Trwy angau'r cledd y trengynt.

Yn flin i bawb fel hyn bu
Term oesoedd at ormesu;
Odid oes—o daid i dad,
Heb rifres sobr o afrad;
Gnawd i boen ddygn a di baid
Ddeillio oddiwrth rudd wylliaid,
A grwydrent mewn gwrhydri,
A'u dwrn brad i daro'n bri.
A gwedd aethus goddeithiwyd
Ein trefi nawdd, trwy fwy nwyd
O ddial di faddeuant
Yn un â chŵydd hunan chwant;

Ein bonedd a'n hunbennaeth,
Rhwng amryw weilch, yn deilch daeth.
Hwn a darn or hen deyrnas
Ai'n dreisiwr, o gyflwr gwas;
Y llall â dan, ellyll du!
Ar ei draws yn rhodresu;
Ac aerod teg y goron,
Cyfiawn feib or cyfan fôn,
O'u gorsedd yn y gwersyll,
Hawl-yn-hawl â'u halon hyll.


Rhyfeloedd y Rhosynau

Anrhaeth resennog yn rhith Rhosynau,
Ar fyrdd o bleidwyr, fwriodd ei blodau,
Yn haenfa sawyr y cynnen-fwysiau,
Gwnai eu dylanwad i genedl-wyniau
Waedu ein hynys a duo ein henwau;
Gwaed byw raiadrodd, oblegyd brwydrau
Hydra galanas â'i neidr-golynau.
Anferth ydoedd ei gwenwyn-frathiadau;
A Phrydain yng nghyffroadau—y pryd
Hyderai yn iechyd hen deyrnachau.

Meddyliodd fod modd i alw
Teyn i'r wlad, drinai ar lw
Ei llywodraeth helaeth hi,
Yn ddyddiwr a nawdd iddi;
Hwn oedd deyrn na wyddid am
Un mâd enw mwy dinam,
O edryd ymerodron,
Addurn sedd yr ynys hon,
Rismwnt wnai arwr esmwyth,
Yn llyw ar Brydain a'i llwyth;
Oi ddod i'w sedd, hi daw sôn
Am ei rhos a'i hymryson.


Duw oi dosturi hefyd ystyriodd
Lidiog Rosynau 'r wlad, a gresynodd;
Neud y Ddau Rosyn a ddad-ddyrysodd,
Yn nodd gem-within y ddau gymhlethodd,
Eu dail gŵyr-drawsion, dialgar, drwsiodd—
Yr hedd ddilynai a arwydd-luniodd;
O'i benarglwyddiaeth, buan ryglyddodd
I roi ymwared;—i'w air ymwyrodd
Y dial-byrddiau;—nid ail waharddodd,
Nad, wele! 'n weddus, y nwyd lonyddodd,
A moddion ni omeddodd i'n hynys,
Tra gwaedai dinistr i'w gadw danodd.

Rhyw ail wawr a leuerai
Yn glir ar ein tir a'n tai;
O'r prudd ochain,
Angel Prydain,
Fawr ei adain,
Fry eliedodd;
A chan gynted
A'r chwai luched,
Efi waered
A gyfeiriodd.
Gan y porthor yn nôr Nef
Y di-ingnaws Ros-dangnef,
Dderbyniai'n rhodd arbennig,
Rhosyn Duw, er swyno dig;
A thrwsiad y pleth-rosyn
Oedd fal ei foch—goch a gwyn;
Prydwedd dyfodol Prydain,
Yn ardd rôs heb unrhyw ddrain!

Pwy wisg y Rhosyn gwyngoch?

Cymro da, o waed cyfa coch!


Sibrwd lw ysbryd y wlad
Deg fwriai gydgyfeiriad
At Harri, yn anturus,
Yn deyrn da'i radd—dwrn di rus,
I wisgo'r Rhosyn gwyngoch,
Droai'n dawel ryfel rôch.

Anogasant negesaeth,
Sul a gwyl, o dan sêl gaeth;
Gwyr o fri â gwladgar from,
Freiniwyd i ddwyn cyfrinion
I Armorig, drum eurwawr,
Rhwng Harri â ni, yn awr.

Mawr fael oedd caffael Kyffin,
Wr hael, i goledd y rhin;
Dyn doeth oedd y Deon Du,
Wyddai ateb o'r ddeutu;
Eon oedd y Deon Du,
Wrth raid i bur weithredu;
Oi fain fad nid ofnai fôr,
Wrth ddwyn gair rhaith ein goror,
I gyrraedd yr agoriad
A driniai glo dôr ein gwlad;
I Henry'n deilwng anrheg,
Etifed ein teyrnedd teg.

Y cennad gwych, Huw Conwy,
Yn loew ei drefn, elai drwy
Gyswynion ein gwasanaeth,
Gan eu trin yn gyfrin gaeth,
Hyd ddyfodiad addfedol
Awr a rhaith agor y rhôl:
Olwyn mewn olwyn elai,
O bin i bin, heb un bai,
A dirwynent i'r Ynys,
Ar air lw, wir wr ei llys.


Ymgyrch annhymig Buckingham.

Ond Buckingham roes gam gŵyr,
Bras iawn a byr o synwyr:
Rhy deneu'r gwaed Prydeiniawl
Oedd ganddo i eilio'i hawl;
Rhy fan yr ai 'i feiwyr
Dros hawl eu gwlad, i gâd gwyr:
Ow! Buckingham, a'i gam gyrch,
Tra siomgar Iroes ei ymgyrch;
Anffodus yn ei ffwdan
Gyda'i lu, fu yn y fan:
Ni wypai fyned nepell,
Na phrofodd fin rhyw hin hell;
Nef drodd, gwaharddodd ei hynt,
A diluw oedai'i helynt;
Hawdd y daliodd o'i dwylaw,
Mal llestr, ryw gwmwl o'i llaw,
Tywalltodd ef hyd holltau
Cerygog ben creiging bau,
I fyned yn afonydd
O genllif a rhedlif rhydd.
Ai lanw ar frys lynnai'r fro,
O'r corneint, er cau arno,
Och! Hafren! trech na chyfraith
Oedd ei dŵr, i luddio'i daith:
Dull o awgrym nad Lloegrwr
Fyddai flaenaf, gyntaf gwr;
Cymro, mal cynt, yr hynt hon
A drigai yn Bendragon.

Wb Weobley a ddiboblodd
Buckingham, a pham, pan ffodd
Croesodd i grafanc Risiart,
A theimlodd gur ei ddur ddart?


Ond, Risiart! na rodresa,
Elyn hedd, na lawenha;
Fe dyrr y rhwysg—fe dry'r rhod.
Mwynha d' ofwy,—mae'n dyfod.
Gwae di, daeog! daw dial,
A myn Rhys y maen i'r wal.
Mesur hawl y mae Syr Rhys,
I'r Aer iawn ar yr Ynys,—
Mesurir maes i Harri,
Eang, teg,—ond ing i ti!
Ai argoel drwg rhyw ddirgel drefn,
Yn swcro ymgais y Crwmgefn,
Oedd dryglam Buckingham? Ho!
Na, digwyddiad, gwae iddo!
Wnai ennyn tan o wyniau,
I ysu i fron a'i oes frau,
I droi'i arswyd o'r orsedd,
A'i erwin fyddin i fedd.


Llaw Cymru gyda Harri Tudur, iarll Rismwnt.

Coeliach, yn hytrach, oedd hyn
I ddarbod nawdd i w erbyn:
I rybuddio tair byddin
I uno'u trâs mewn un trin,
Er mysgu dan rwym-wasgiad,
Wridog lu, i wared gwlad
O afael teyrn anghyfiawn,
A'i throï'n ol i'w theyrn iawn;
Yn aerfa fawr anorfod
Gurai falch, lle gore'i fod.
Gwaeddi Her!" a gwa'wdd Harri,
A'u habl nerth, wnai ein pobl ni,—
"O tyred, tyred Harri!
Dyweddia, a nodda ni!"


Syr Rhys ap Thomas lyfasodd―roi 'i air,
A Harri a'i credodd,
Hyd o Lydaw dyludodd,
A phryd trin, i Filffwrd trodd.
A'i rym aer o Armorig,
Yn ddiencil, ddwyfil ddig.

Y tiriad yn Aberdaugleddyf.

Caed yno Rismwnt a'r Hwntw,
Law yn llaw, do, lw yn llw;
Gloywddur Aberdaugleddyf
Wnai'r ddau gawr yn awr yn hyf:
Ap Tudur, yn bur i'w bau,
Ar hyn agorai "i enau—
Areithiai'n gall wrth ein gwyr,
Diofrydai i gyd-frodyr,
I resu'n erbyn Risiard,
A rhoi gwth w wyr o gard;
Nes cyrraedd Ynys Cawri,
A hawl yn ol i'n hil ni.
Ymgrymai, gwenai y gwr,
A dyna i eiriau, dwyn arwr;—
"Os fi'n wir sy' i fwynhau
Y goron, heblaw geiriau
A gwag swi,―profwn mewn pryd―
Dyma mwa a 'mywyd!
Ai ornest hawl teyrnas deg
Fy nheidiau,―hon fo'n hadeg!
A chwithau profwch weithion
Nad sur frad a ysai'r fron,
Ond rhin goreu teyrngariad,
I alw i'w le lyw y wlad.
Yn erbyn malais trais trwch,
Tarian gwyr yw teyrngarwch;

Teyrngarwch at 'r hen goron,
A'r iawn aer i arwain hon.

Baich y brad a'r toriad hwn
At Rhisiart ni a'i troswn;
Dyna'r gwr-bradwr Brydain!
Coll fydd, gan ein picell fain.
Llueddwn â'n llaw iddo—
O'i lurig falch, lawr ag fo!
Chwimrwydd, a Duw a Chymru,
Addawant oll ddydd o'n tu."

Ar y gair hyawdl, O! 'r gorhoïan—fu,
Diatal lamu hyd al ei luman;
Gan swn aml bennwn ban-siffrwdiadau
Hyd y bryniau'n dadebru anian;
Ymwibiai myrdd ym mhob man—i weld brys
Cymry, o wyllys, yn camrio allan.

Ein hesgob, yno 'n wisgi,—agorai
Y Gair, i'w cynghori,—
Eiddunai nawdd Ion i ni,
Bendith Dduw, sef Duw Dewi.


Cychwyniad y lluoedd i Bosworth dan nawdd
cenhedlaethol y Ddraig Goch.

"Y Ddraig Goch roddai'r cychwyn
Hyf weilch dewr fu'n falch o'i dwyn;
Morwriai fel mawr arwydd,
Neu eilum chwai lawn o chŵydd;
Siffrwd drwy ffrwd awyr ffraw,
Drwy uchafion derch chwyfiaw;
Gan chwarau yn nhonnau nen,
Ei phrawf lyf drwy'r ffurfafen;
Dig lacio ac ad-glecian
Drwy sybwb mawr, dros bob man;
Nes troi'r fro yn gyffro gwyllt
O wrhydri rhaiadrwyllt.

Ymweithient tua'r Mwythig,
A'u hanadl dewr yn dal dig;
A'u llun a'u gwedd, yn llawn gwyr—
Galonnog, fywiog feiwyr:
Ac o'u blaen, yn gwbl unol,
Syr Rhys, heb un gwas ar ol,
Siasper, a'r T'wysog Harri,—
Ba wr traws wynebai'r tri?

Y cydgyfarfod ar Gefn Digoll.

Diogel ar Gefn Digoll,
I ddant aer, llueddynt oll;
Perrott, a Wogan, a'r Morganiaid—dewr
Tyrrent gyda'u cyd-blaid;
I ffurfio pleth—ffyrfhau plaid
Ddialai ar gau ddeiliaid.

Bronnau duon "Brain" y Deau—oeddynt
Eiddig ar fanerau;
A "Llewod" o bob lliwiau
Yn ngherrynt y gwynt yn gwau—
A llewod o bob lliwiau.
Di ffug, wedi dod o'u ffau.

Ap Gruffydd deg, ddi freg fron,
Lywiai dorfoedd gwlad Arfon;
A swyn mawrhydi Sion Amhredydd,
Alwai i fyny i Eifionnydd,—
Hwy aent, yn llewod dan eu llywydd,
I gâd y gelyn gyda'u gilydd.
Dichwith oedd Rhys Rodychen,
Yoo 'n bur ar Fôn yn ben;
Gwr Mostyn, mewn grymusder,
A phlant ei ban o Fflint bêr;
A Rhys Fawr, yn gawr a gaf,
I awchu y Wlad Uchaf:

Sel breyr y Salbriaid
Oedd i'n plith—yn nawdd i'n plaid;
Pob enw mawr, pawb yn eu min—ddisgleirynt
A dilwfr oeddynt ar dal y Freiddyn,
A pha Loegyr na phlygai,
Dan gedyrn mor chwyrn a chwai?
Pa wr dreng ddarparai drin,
Fyth i feiddio'r fath fyddin?
Richmond, mewn gwir ffyddlondeb
A'i ryfel, yn awr, o flaen neb,
Rhoddai Corbed grêd ddi gryn,
Ai gein-lu yn ei ganlyn;
A Thalbot, pan ddaeth helbul,
Blaidd blwng, oedd mewn cyfwng cul;
Yntau yn awr, o'n tu ni,
A'i ddwy fil oedd i'w foli.
Coedmor, hys!—cydmar Rhisiart,
Ffei ei ddi bwyll, ffiaidd bart!

Y paratoad i'r frwydr

Ymlaen aent, gan amlhau'r nerth,
Ym mhob cwm ceid meib cymorth
Yn rhuddin o fyddin ferth,
Hwy bwysent tua Bosworth.
Hwn yw'r maes, lle'r hen wir mwy
Frydain yn adferadwy.
Gwyr Cymru, un tu, 'n llawn tân,
Orin ynnir iawn anian;
Mal callestr yn eu rhestrau,
Gwae y syr faidd agoshan
I'w taro â dur—tery dân,
I'w fynwes lyf ei hunan,
Ai difa'n llwyr fel dafn llaith
Ar frigyn glir foregwaith.


Rhisiart frenin,

O'r tu arall, traeturiaid
Ffurfient finfin eu blin blaid;
A Rhisiart oedd eu rhyswr,
Abl un o fil, blaenaf wr;
Ag ael hagyr. gilwgus,
Ar guwch y Ddraig Goch ddi rus
Tremiai mewn dirmyg tramawr—
Yn goeg-amheus, mewn gwg mawr;
Bradawg oedd ei sibrydion
A'i sisial dwys, isel don,—
Swn trahaus o natur herr,
O dordyn lid a dewrder,
Ynghyd ag ias o gas gur
At edyn nerthol Tudur.

Trwy'r drem, torrai ar ei draws,
I dyngu'n groch, a dangaws
Enyniad ei flin wyniau,
Hydri gwyllt ei hyder gau.
Ac ebe fe, yn y fan,
O gynnwrf ei ddrwg anian:—

"Am eu Draig, mae darogan
Y baidd wneyd y Baedd yn wan!
Ond, myn Sant Sior! byddaf bôr byw,
Heinyf, rhydd, neu farw heddyw!"


Desgrifiad o weithrediadau y frwydr.

Gan barodrwydd gwyniau brwydrol,—iasau
O ysiant ymladdol
Anadl eiddig dialeddol,
Y ddwy fyddin ar wedd feiddiol,
A gyfeirient olwg farwol,
Un at arall, yn naturiol;
A diflin gâd, flaen ac ol—ar ddechrau
Ing—wacau angenol.

Rhagluniaeth, ar baladr goleuni―ter,
Hwnt, oedd yn penodi
Rhesau treiswyr i astrusi,
A hwyl hyrwydd i lu Harri,
I ail ynnill yn ol inni,
Ein tir anwyl a'n tirioni;
A brwydr er adfer en bri,—ydoedd hon,
I'n Brython bur wythi.

Gerwin wŷs anwar yr udgorn seiniai,
A thwrw arwrol uthyr or-awriai,
Trwy'r awyr uchod, hir yr her-wawchiai,—
A swn, hyd adref, hyson a didrai,
O bwyntiau wybyr, a'i bau atebai,
Hedd-luest Anian a ddolysteiniai;
Mal ar wirodydd, y milwr wridai,
Ei ysbryd enwyllt a'i asbri daniai,
A gwyn arf a gynhyrfai—dechreu wnaeth
Mawr rôch aerwriaeth, a'r march weryrai.

O'r rhengoedd!—ein tynged rhyngddynt hongia!
Syr Rhys ap Domos yr yspaid yma
Dasgai ei filwyr, ac nid ysgafala,
Ond tynn i'r byw oedd tynwyr y bwa,—
Tynnent am goron Britannia,—cystal
Ar awr y treial ag arwyr Troia.

Y gwyr o saethyddion gwarsyth oeddynt,
A bywyd-annel y bwa dynnynt,
A thafai cawri saethau fel corwynt,
Yn haenau dallol, y nen dywyllynt;
Yn do arswydus hwy draws ehedynt,
A thrwy dariannau, aruthr drywenynt,
Ein trâs, o gwmpas a gwympynt!—ond mwy
O ach Afarwy i'r llwch a fwrynt.

A phoethach, boethach y bu
Neges wythig y saethu;
Saeth ar ol saeth gyda si
Echrysawl fylchiai'r rhesi;
Ac Angan yn rhygyngawl
Rodianna, i hela hawl;
Gan had amad ei enau,
Lluaws a geid yn llesgha
Am arwr mwy a loriwyd,
Wele i fedd wala o fwyd:
Gweld gwaed. galedai gedyrn
At dwrw a châd dewr a chwyrn,
Can archoll yn cynyrchu
Aidd i ladd, yn y ddau lu.

Gyda hyn, Rhisiard, a'r gâd yn wresog —
Bwria ergydion yn bur gawodog—
Ei ddu ochr yno ddechreuai annog,
A'i milain wasgu ymlaen i ysgog;
Ac yntau i human fal eigion tonnog,
Treiglai i wyniau i'r antur galonung:
Hyn a argoelai Henry wagelog.
A pharotoai i'r cyffro taeog,
Efoi fyddin fyw feiddiog—ni syflai
Ac ni ddorai ei elyn cynddeiriog.

Pwys y rhuthr oedd aruthrol,—ac hedfa
Y cadfeirch llamsachol,
Yn hyrddiau anwaharddol.
Antur i neb eu troi'n ol.

Marchogion ym mroch agwedd—ellylion
Cyllellawg brad—rysedd;
Diangai clust o dinc cledd
Hydri gwŷr di drugaredd.


Ow! Brandon! with ffon praff Faner—Prydain,
Prid oedd ei eonder;
Llumanyddir lle mynner,
Noddwr hyf, na dorai her.

Ar ei luman, carlamu wnaeth Rhisiart,
A throes i'w drywanu,
Mab y fall, a'i fwyall fu,
Wrth-arwr i'w ferthyru.

Ond trwy y fintai troai y fantol;
Y brwd, hyderus, burwaed Tudurol
Ferwai wythenau'r fyddin Frythonol,
Henry orfyddai yr honnwr arfeiddiol,
A bwriai adref yr ynni brwydrol
Yn erchyll foryn, a rhoch lifeiriol
O hyll adladdiad, hallt, dialeddol,
Ar fronnau anwir y dorf frenhinol;
Dyna nawf y donn yn ol,—yn ffodus
Troi wnai'n warthus y teyrn yn ei wrthol.

Mae ffawd ac anffawd wrth gynffon—cadfarch
Cyhydfwng a digllon;
Rhy arwydd a'i weryron,
Lle ffynno honno neu hon.

At Harri ffel troai ffawd
Unffurf,—at Risiart anffawd.

Ap Tudur oedd yn curo—a rhesan
Rhisiart yn teneua;
A chledd Siaspar yn taro,
Ddiwrnod trin, ddau ar un tro.

I ddial teryll ni ddaliai tarian,
Troi wnai rhengoedd y teyrn i ryw hongian,
Ac ar eu gogwydd, gwyro a gwegian—
Yn wyneb eu hamharch yn bwhwman,

Ffroeni, a gwynnu, mewn ffyrnig anian,—
Cnoi gwefl, o ofid, gan y gyflafan;
Rhusai'r tro Rhisiart, druan,—dip neu ddau,
Ai eiddig aeliau mal rhyw ddwy geulan;
Ond O!ei ddewredd!—nid oedd a'i hoerai,
Na dun na diafol, na dawn a'i dofai;
Golygon y Ddraig ai-—gynddeiriogai
Bi galon dirial, gelyn ni ddorai
Fi luon agwrdd a ail anogai,
Cyd wydneiddiwch mewn cad adnewyddai;
T'w holaf autur hwyliai ei fintai—
Tewder ei osgordd ar Tudur wasgai,—
Yn fôr o chwys ei farch chwai—i'r cyrch hwn,
Yn ysbryd annwn, a ysbardunai.
Trwy y canol, mal y Twrc ei hunan,
Ar annel by wiog ei garnol buan,
Ymgeisiai at redeg, megys trydan,
Gopyn llamog, gipio ein lluman,
A bwrw ar Harri, ei'n breyr eirian,
Holl adwyth ynni melldith ei anian,
Nes, â troed dig, ei sathru tan—echrys
Wyniau ei 'wyllys o hynny allan.

Syr Sion, oddiwrth fón y faniar,—druan
Darawyd i'r ddaear;
Yn yr ergyd arwrgar,
Is dwrn bwys gormesdeyrn bâr.

Taer gydiai, trwy y godwrdd,—heb unon
Yn ein Baner agwrdd;
Ni chaffai prin ei chyffwrdd—
'Lawr a'hi oi law, ar hwrdd.

Ym myw yr adeg Rhys Amhredydd,—ar air
Harri, ai 'n llumanydd.—
"Cymro fu—Cymro a fydd "
Benaerwr a banerydd!


Nid Rhisiart a'i gyd-dreiswyr—llurygog
Allai rwygo'n rhestyr;
Trwy'r gwrych-flew o ffynwewyr,
Pa ofer gamp a fu'r gyrr?

Llu Cymru Nid mur llac, amrwd—ydoedd,
Ddatodai ar hergwd,—
Nid cleiach brau, ond calch brwd,
Dinas aer nad ai 'n swrwd.

Crymu wnaeth y Crwm yn ol,
Er ei yriad arwrol;
A'i farch-lu 'n ymdaflu'n dost,
Dratheryll, drythyll drathost;
Pob cadfarch yn tywarchu
Turri y llawr trwy y llu;
A'r gwayw ffyn yn rhwygo'u ffordd,
Rhyfel-dwrf a mawr faldordd,
Mewn dewr-stwr trwm, yn darstain,
Rwyfawg lu! eu harfau glain;
Gan rincian yn yr encil,
O ddig cas, eu dannedd cil;
A'u lluryg, fal croen llawrudd,
Yn wrid trwch o orwaed rhudd;
Neidiai gwaed hyd egwydydd
Pob cadfarchi a rhedfarch rhydd,
Tra'n wasan i'w trwm garniad,
Gyrff gwyr, cymrodyr ym mrad.


Pryder Stanley.

Stanley, i'r cymelrhi mawr,
Dynesai yn wydn aesawr;
Hwyr o'i dwll rhodiai allan,
Ai gâd-dorf fig tua'r fan;
Edrychodd pwy wnai drechu,
Cyn ceisio taro un tu;

Ofnai falais trais trwm,
Eofngryf lid y Cefngrwm.

I Rhisiart eisoes rhoisai
Ei fab yn wystl,—ef be wnai?
Os troi wnai yn yr ystrin
Nerth bron yng ngwrth y Brenin,
Collai ei fab! ond call fo,
Hir oedodd i'w waredu.

Er hynny, mae rhyw anair
O gas liw, ac isel air,
Ir tro hw—rhyw watwor oedd,
Drwc ehud—gyda'r cyhoedd;
Bloedd rhyddid gwlad brid Brydain,
Ro'i wŷs i'w gleddyf o'r wain,
A dylasai gwlad-lesiant
Y bobl oll, heibio i'w blant,
Ei yrru 'mlaen yn arab
Dros y myrdd—Duw dros y mab.[7]

Y genedl ar ei gwyneb,
Hawlia 'n uwch na theulu neb;
Gnawd i arwr gwên—dirion
Aberthu teulu at hon;
Trawsedd i wr betruso,
Os gwel frâd yn siglo'i fro;
I Dd'ledog mae'n ddyladwy,
O gefu ei farch, gofio'n fwy
Am ei wlad, nag am ei les
Ei hun, neu fun ei fynwes;
Ie, yn alfa anwylfab,
Naw mwy yw cenedl na mab,

Ond pa fai, os teimlai tad?
Di-ymliw gyd-ymdeimlad
Haeddai gael; ond eiddig ŷm,
A drwg iawn ei dro gennym,
Yn dywystio mab destlus
Erioed, i lofrudd di rus.
Nacaesai Rhys waneus raib
Ffrom feistr, i offrwm ei fab
A'i rwymo'n swrth, er mwyn saib,
Yngwystl gwir, fyth i'r fath âb;
Ah Stanley Tynnaist donn-loes
Dros dy dŷ, a dristâi d'oes.

Ar Rhisiart ai'n ddyryswch,
Fe welai dro 'r rhyfel drwch;
Twrr o chwyrn gedyrn ei gâd
Yn fferru'n un corfforiad
O gelanedd gwael yno,
Ym maes eu brad, ormes bro.

A Stanley a'i estyn-lin
Ato, mwy, yn troi 'r tu min;
A Siaspar ar wasgar wysg
Eu cefnan, dorfan i derfysg.

Yn ei orddwy anarddun,
Tra yn synio ynddo 'i hun,
Ar warchul effaith ei farchlu hyffordd,
A Siaspar yn ysgar rhan o'i osgordd,
Ai flaenwyr ffel, fil yn rhoi ffordd—yn chwai,
Gerwin gilwgai ar ein gwelygordd.

Ac at ei bencapteniaid—y melltia
Ryw ymwylltiol amnaid,
Gan floeddio,—"Chwyr ruthro raid,
At Harri, ben traeturiaid!


Dewis 'n awr nid oes i ni―ond, nodwch,
Dieneidio Harri;
Herr i'w meib,—Harri a Mi
Ymdynnwn mwy am dani.

"Boed lym—boed gyflym eich gyrr,
A phawb yn chwim a phybyr;
Canlynwch eilfyddwch 6!
Dwrn Coron wna dranc Harri.

Mynn Sant Sior, mi a'i lloriaf!
Y funud yw i fyned—Af!"

Yn mroch y gair, y march gwyn
Ymneidiai mewn munudyn;
Hwnt a Rhisiart a'i ryswyr,
O greulon wg, ar lawn yrr,
Yn drinwyr diarynnaig,
O dan ddrud edyn y Ddraig;
Marc gem-res meiwyr Cymru,
A llawr canolbwynt ein llu.

At Richmond mewn eonder,
Pwysai i ddigllon waywffon fferr;
Yn hynny deuai 'n hoenwych
Syr Rhys ab Thomas, gwas gwych,
Fe wnai at fod yn Gu at fin,
Gyfer-wyneb a'r gau-frenin;
Arwrol oedd gweryriad
A mawr wawch certh eu meirch cad.

Dau farchog mewn hyrddiog hynt-
Pin teyrnas pwyntiai arnynt.

Bu galed y bygylu
A'r hyrddio dewr, o'r ddau du;
Ni ddorai y ddau wron
Unrhyw ffurf wnai'r wayw ffon;

A theflynt o'u gwrthaflau
Ddyrnod am ddyrnod, y ddau;
Nes i Syr Rhys, aswy'r hwrdd,
Gynddeiriogi 'n ddewr agwrdd,
Ac a'i fraich fraisg a'i froch fryd,
Daro i fwyallt drwy i fywyd.
Ar ddyrod mor ddiwyrni-
I lawr ag ef, mal rhyw gi!

A hi yn brin nawn, pen y Breninwyr
Poerid i'w wyneb dan draed Prydeinwyr;
A llywydd du, bradog,—lleiddiad y brodyr,
Felly obrwywyd trwy fwyallt breyr;
Ei gorffyn euog rwygai'r ffynwewyr,
A phwy ofalai?--ffoai ei filwyr,
Gan lwfr redeg o ganol y frwydyr;—
Gorhoenus ydoedd gawriau ein sawdwyr.
Daeth BUDDUGOLIAETH i'n gwyr—uchelfri,
A'n Draig yn hoewi drwy eigion awyr.

Y goron hwyliwyd o goryn halog
Dienaid fradwr, dyn diofrydog,
I'w throi i Harri 'n dalaeth oreurog,
Mal yr aer teilwng—mal arwr talog,
Yrrai bwynt dial ar ben y taeog:
Uwch-raddol linell âch hir-ddolennog
A'i nodasai i fod yn dywysog;
A'i boed yn hannu o edlin enwog
Yr Ynys, a'i choronog—Unbennaeth,
Drwy hen gadwraeth hawl deyrn-gadeiriog.

Cyfryngiad Rhagluniaeth er adferu
Unbennarth Prydain ir Brython.


O dŵr glan da Ragluniaeth,
I le 'r gâd Addoliad ddaeth;
A Heddwch, un llaw iddi,
A Mawl hardd, i'w hymyl hi,

I fwrw llifo ofer llon
I hoewalau'r awelon
O ddifesur ddefosiwn,
Am råd Duw 'r ymwared hwn;
A'n byddin, gyda gwin y gwynt.
Ehedlif gras anadlynt,
I 'mostwng ar y maes-dir,
Mewn Mwch ddiolchgarwch gwir,
I Frenin y Brenhinoedd,
Ddaeth a'r fuddugoliaeth goedd
O du hen Gymru, fu 'n goll
Trwy ystwrf trais diarfoll.

Harri Frenin
Gyda i fyddin,
Ar y ddeulin,
Ior addolent;
"Ti Dduw folwn,"
Mewn cyd-fyrdwn,
A'u gwlad-farwn,
Wiw glodforent.

Llywydd dwrn enillodd deyrnas,
Amhai i gred, ym mawl gras;
Amhai i gerdd mawl gwir-Dduw,
Dogn y dydd oedd-Digon Duw."
Eu teyrnged hwynt, er ungwr,
Ga'i Duw, hollalluog dŵr.
Têr orchwyl patriarchaidd,
O rywiog rin Cymreig wraidd.


Canlyniadau dedwydd buddugoliaethau Harri Tudur.

O gael y fudddugoliaeth,
Nid oedd Cymru'n Gymru gaeth;
Brydain nid oedd wobr heidwyr,
Drawsiai i mewn dros y mur;

Neu gau deyrn euog a du,
O honi i hunan yn hannu;
Ond dedwydd iawn dreftadaeth
Unben mwyn o'i meibion maeth,
Cain etifedd cyntefig.
Yn nhwf ein bro—fon a brig;
Pa wr, uwch pawb, mewn parch pur?
Pwy y tad, ond Ap Tudur?

Bu llawer wyneb llewaidd—o Rufain,
Ar ofwy milwraidd
Llym, i godi'n grym a'n gwraidd,
O'r tyner dir Brutanaidd,
A phlannu cyff o linach—yr Eryr
Ar âr ein hen deyrn-âch;
Ond erioed Prydeinwyr iach
A fethrynt y gyfathrach.

Yn aml donn, Saeson nesasant—ar chŵydd
I orchuddio'n meddiant;
Ond essill Hu gadwasant
Yn loyw i'n plith hawl ein plant.

Daniaid, Normaniaid, o'r minion—treisient
Hir oesoedd ein coron;
Ond heb rith, meddiant Brython
Eto o hyd ytyw hon.

Rhyfedd ogonedd gwiwnef!—O gwelwn,
Yn galw pawb adref,
I hoenus droi 'n hynys dref
O'i du ing i dangnef.

Er holl alar, arwyl Llywelyn,—trais
Trwm arglwyddi'r terfyn,
Aer o waed Cymry wedyn
Rannai Naf yn frenin in'.


Os prid galondid Glyndwr a ballodd
Heb wella ein cyflwr.
Harri gaed a deulu'r gwr,
Ac Harri fu'n gonewerwr;
Enillodd ef hen allu
A llonwych hawl llinach Hu,
I'n dwylo 'n ol, a dal wnaeth
Ein hanwyl hen frenhiniaeth.

Llain Bosworth! Llyna i bwysi,—
Elwa'n ol ein hawl i ni;
Aeth prid Unbennaeth Prydain,
I'r iawn le, ar hyn o lain;
O Fosworth, ti wnei fiwsig,
Hoen di drai ynnod a drig.

Prydain Fawr, o dan wawr well,
O hyn allan â'i 'n well-well
Gwrthodai'r gorthoadol
Wedd trais, oedd eto ar ol,
A dygai wawr diwygiad
I lanw ei le yn y wlad.
Y wawr dorrai 'n wrid arab,
Ar wersyll pebyll y Pab;
Ac wele! y cywilydd
I'w wyneb ddaeth pan bu ddydd ;
Mwy, ofer goel myfyr gau
Pobl dan enw y Pabau,
I faglu ein prif eglwys.
Gaffai 'i ddal a dial dwys;
Y fin-ddu, rwym, drefn ddi ras,
Byth daflwyd fel peth diflas.

Bri ar seremoni mwys,
Coeglyd, mewn gwlad ac eglwys,

O ystryw nwyf estron aidd
Rhith-ddenol an-Frythonaidd,—
Hyn, weithion, a ddynoethwyd,
Tynnwyd Ffydd yn rhydd o'r rhwyd.
Rhith i gyd oedd ymborth gau
O fwydion hen ddefodau;
Eithr o lith Ysgrythyr Lân,
Seigiau moethus gaem weithian.

A derwen hen y deyrn hawl,
Ymgodai'n wrysg mygedawl,
I fawr agwedd tewfrigog.
Yn dwng grair uwch byd yn grog;
Derwen yr hen Duduriaid,
Ei bon ffyrhai yn ddibaid,
A'i cheinc aent mewn chwaon coedd
Yn bleth am bobl a ieithoedd;
Pleth llywodraeth plith lladron,
Cerddai'r gwrysg i'r ddaear gron,
Ac erbyn hyn o'i hanes,
Hi blan ym mhob man ei mes;
I'r wybr gyrr ei brig araul,
Hi saif rhwng gorsalau 'r haul,
O'r Eilir hyd orielau
Haulfod glwys yr Elfed glau;
Epil llwythau pell weithion
Wasg ynghyd is cangau hon;
I'w bro hwynt tardd ei braint hi,
Gwynt Rhyddid a gant drwyddi;
Oi thwf ir, byth ddyferyd
Wna gwlith ei bendith i'r byd.

Ym Mosworth planwyd mesen
Wnelai brif frenhinol bren;
A mesen oedd o'n maes ni,
O iawn ddar ein hen dderi.


Terfyn yr awdl, gyda "Byw fo'r Frenhines."

Felly o Gymru mae'r gwaed.

Rhin eu hanwyl frenhinwaed
A gerdd i sirioli 'n gain
Wyneb wrid Banon Brydain.

O Gymro teg, mae'r gwaed da
Yn naturiaeth Victoria.

Gan hyny, ni gauwn hanes—Bosworth,
A'n bys ar dant cynnes,
Eiddunwn i'n prif ddynes—mewn trwyadl
Ferw o un anadl, —
"Byw for Frenhines,"
Eiddunwn in prif ddynes,
Mewn trwyadl ferw o un anad!,—
"Byw fo'r Frenhines."


Nodiadau

[golygu]
  1. Bys coch, bysedd cochion, digitalis.
  2. Dewi Wyn.
  3. Robert Ab Gwilym Ddu.
  4. Pedr Fardd.
  5. Ellis Owen, Cefn y Meusydd.
  6. Nicander.
  7. Yr oedd mab Stanley yn wystl gan Rhisiart, ac wedi methu dianc.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.