Neidio i'r cynnwys

Gwilym a Benni Bach (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwilym a Benni Bach (testun cyfansawdd)

gan William Llewelyn Williams

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwilym a Benni Bach (testun cyfansawdd)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Llewelyn Williams
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gwilym a Benni Bach
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y nofel Gymraeg
ar Wicipedia


GWILYM A BENNI BACH:

Ffug-Chwedl,

GAN

W. LLEWELYN WILLIAMS.




GWRECSAM:
ARGRAFFWYD GAN HUGHES & SON, HOPE STREET.
1894



CYNNWYS


GWILYM A BENNI BACH.

PENOD I
GWILYM A BENNI BACH.

Yr wyf yn cofio fel ddoe y tro cyntaf y gwelais Gwilym a Benni Bach, er fod blynyddau oddi ar hyny, erbyn heddyw. Teir-blwydd oed oedd Gwilym ar y pryd, ac yr oedd Benni Bach flwydd yn iau. Cerdded уг oeddwn, ar ddiwrnod teg yn yr haf, o stesion Llanelwid i Blas Newydd, lle'r oedd fy chwaer yn byw. Gwyddwn fod Henri fy mrawd-yng-nghyfraith ynghanol y cynauaf gwair, ac nid oeddwn am iddo ddanfon ceffyl i gyfarfod â'r trên ar amser mor stresol. Ac felly, nid oeddwn wedi ynganu gair wrtho pwy awr o'r dydd y cyrhaeddwn Llanelwid; ond yn unig y buaswn ym Mhlas Newydd rywbryd dydd Sadwrn. Hawdd ddigon oedd cael gafael yn y ffordd i'r Plas. Yr oedd yr heol fawr yn rhedeg heibio i'r ty, ac nid oedd dim i wneyd ond ei dilyn, ac, er nad oeddwn yn gyfarwydd iawn â'r ardal, deuais i odrau'r heol fach sydd yn arwain i glôs Plas Newydd, heb un anhap na chamsynied.

Ar waelod yr heol safai dau blentyn. Nis gwyddwn yn siwr p'un a'i merched bach neu fechgyn oeddynt; oblegid yr oedd gwallt y ddau yn hir ac yn gyrliog; ac yr oeddynt wedi eu gwisgo mewn ffroc a phais fach. Yr oedd yr henaf o'r ddau yn cydio yn llaw y llall, ac yn dangos yn eglur ei fod yn barod i'w amddiffyn rhag bob cam. Er na welais hwynt erioed o'r blaen, gwyddwn ar unwaith mai plant fy chwaer oeddynt, sef Gwilym a Benni Bach. Yr oedd gwallt cydynog modrwyog y ddau mor euraidd a'r fanadl; ond tra yr oedd llygaid du chwimwth ei dad gan Gwilym, yr oedd dau lygad ei fam gan Benni Bach, mor lased a'r cenin eu lliw, a dyfnder ynddynt fel pe tae'ch yn edrych i'r nefoedd fry.

Arosais am fynud heb ddweyd gair, yn edrych ar y ddau fychan yn sefyll law yn llaw ar ganol yr heol. Yr oeddynt hwythau yn syllu arnaf finau, y gwr dieithr, ac yn amlwg ddigon yn petruso beth i wneyd. Ond ym mhen eiliad dyma Gwilym yn rhoddi plwc i Benni Bach ac yn gofyn, gan edrych yn syth yn fy ngwyneb,

'Nwncwl Abartawe 'ych chi, ie fe?'

Wel,' meddwn inau, gan chwerthin, mae'n rhaid i fi gael gwbod yn gynta' pwy 'ych chi 'ch dou?'

'Plant Plas Newydd y'n ni, meddai Gwilym, a mae mami wedi gweyd wrtho ni am sefyll man hyn i 'weyd wrth 'nwncwl am fyn'd lan i'r ty drwy'r hewl fach.'

'O dir,' meddwn inau, a shwd 'ych chi'n meddwl mai fi yw'ch 'nwncwl?'

Ro'dd mami'n gweyd y byse 'nwncwl yn siwr o aros i 'ddryched arno' ni, wath 'ro'dd e'n wastod yn ffond o blant, meddai Gwilym.

Brysiais i newid yr ymadrodd.

'A pheth yw'ch enw chi, 'nte?' meddwn.

'Gwilym yw'n enw reit i, ond mae tyta'n ngalw i yn Wil, weithe,' meddai'r gwr bach.

Yr oedd yr un bach lleiaf wedi bod yn aros yn fud hyd yn hyn, heb dynu ei lygaid oddiarnaf fi, ond wrth glywed ei frawd yn siarad mor rhugl, dyma yntau yn dechreu cymeryd calon.

'A-a-a-a-' meddai, gan fethu, yn ei awydd i siarad, a dyfod a'r geiriau allan, 'a-a a-a-Benni Bach yw'n enw ine.'

'Wel, wel, o's cusan i 'nwncwl?' meddwn, gan blygu a gostwng fy mhen.

Yr oedd y ddau yn disgwyl y gofyniad. Gyda'r gair dyma Gwilym yn tynu cadach i boced ac yn sychu gwefusau Benni Bach, ac yn dweyd wrtho, fel, mae'n sicr, y clywodd ei fam yn dweyd lawer gwaith o'r blaen,

'Nawr, Benni bach, cusan neis i 'nwncwl.'

'Cusan neis i 'nwncwl,' adleisiai Benni Bach, gan droi ei wyneb i fyny.

Ac yna codais y ddau yn fy mreichiau. ac wrth eu cario tua'r ty, cefais wybod holl hanes y ffarm i gyd, ffordd yr oedd y lloi i gyd yn y Cae Bach, a'r ebolion yn Rhandir Cae Mawr, a'r gwartheg yn y Ddôl-dan-ty, a bod tyta gyda'r gwasanaeth-ddynion yn cywain gwair o Gors Ganol, a bod y ddau dy gwair wedi eu llanw, ac y byddai'r cynhauaf ar ben gyda'r nos. Cefais wybod, hefyd, enwau'r ceffylau i gyd, sef Duchess a Lester, a Jolly, a Ventin, a Black, a'r ddwy boni, Bess a Silver; ac enwau'r gwasanaeth-ddynion. Ond treuliwyd y rhan fwyaf o'r amser yn siarad am Tom y Waginer, oblegid ni fu erioed y fath wron ag ef, gallwn feddwl. Yr oedd yn gallu gyru wagen i'r calch a phedwar o geffylau ynddi.

'A mae e'n myn'd lawr y Mynydd Ddu fel y tân,' meddai Gwilym.

'Odi,' meddai Benni Bach, 'mae e'n myn'd fel y tân pô'th'

'A mae e'n ffysto waginer Cwmbrân o hewl,' meddai Gwilym.

'Odi, o hewl,' meddai Benni Bach.

'A fe gas y preis yn y preimin,' meddai Gwilym, 'a mae gyda fe slash yn 'i whip gyment a hyna,'—gan estyn ei fraich led y pen.

'A mae e'n yn g'neyd i'r slash fyn'd gric-grac,' meddai Benni Bach.

'A mae gydag e' blyfyn paun yn ochr 'i hat,' meddai Gwilym, fel i ddodi pen ar bob dadl, mai Tom y Waginer oedd y dyn mwyaf yn y byd.

Erbyn hyn, yr oeddym wedi cyrhaedd y clôs, ac nid oedd yn bosibl i gadw'r ddau yn hwy yn fy nghôl. Yr oeddwn er ys peth amser wedi edifarhau i mi fod mor fyrbwyll a'u cario. Cofiais fod dillad newydd am danaf, ac yr oeddwn yn barod i gredu nad oedd traed y ddau yn gwneyd llawer o les i fy nghot.

Gollyngais hwynt yn rhydd, ac ymaith y rhedasant mor gynted a'r ewig, gan waeddi,

'Mami, mami, mae 'nwncwl Abartawe wedi dwad!' Ac wrth y drws gwelais Elen fy chwaer—yr un Elen a chynt, ond ei bod yn dewach ac yn henach, ond nid oedd trafferthion byd na gofalon mam wedi rhychio ei gwyneb ddim.

'Dyma chi wedi dwad, John,' meddai, 'pa'm na fysech chi wedi hala i 'weyd gyda phwy drên yr o'ch chi'n dwad? 'Roedd Henri ddim yn fo'lon o gwbwl na chese fe ddwad i'ch cwrdda chi. Mi adewsoch eich pethe yn y stesion? O mi fyddan yn ddigon sâff yno dyn eitha piwr yw Driscoll y Stesionmaster, er mai Sais yw e; a mi halith Henri Tom y waginer a'r cart i mhoin nhw heno ar ol gellwng. A shwd 'ych chi os lawer dydd? 'Ry'n ni byth yn ca'l cl'wed gair o wrthoch chi 'nawr. 'Ro'en ni'n dechre' credu ein bod ni wedi'ch digio chi r'wffordd. A 'rych chi'n cael iechyd splended? Ond 'dych chi ddim yn dryched cystal ag o'ech chi. Dipyn yn llwydaidd yr 'ych chi-ond, dyna, fe neiff pythewnos o aer y wlad fyd o les i chi. 'Rych chi ddim wedi ca'l dim byd i fyta? Ma'n rhaid i chi gael llamed o dê ar unwaith—rwy bron llwgu'n hynan. Marged, dod y tegil ar y tân yn y fyned, a glanha'r ffrimpan yna ar ol cino. 'Rych chi'n bound o dreio'n ham ni.'

'Mami,' meddai Benni Bach,—yr oedd ef a Gwilym bob ochr i Elen yn cydio yn ei gwn hi, tra'r oedd hi'n fy nghroesawi i 'mami, ga' i ham i dê?'

'Beth sydd ar y crwt, howyr?' meddai Elen. 'Ond ddo' cesoch ch'i ham i frecwast o'r blân.'

'O gad’wch iddyn nhw ga'l peth heddi,' meddwn inau.

'Wel, wel,' meddai Elen gydag ochenaid, 'mae pawb yn spwylo'r ddou blentyn. Wel, os byddwch chi'n fechgyn da,'—gan droi at Gwilym a Benni Bach, a rhedeg ei bysedd drwy eu gwallt, mi gewch chi ham gyda 'nwncwl Ond odi 'nwncwl yn ddyn neis i roi ham i chi fel hyn?'

'Nwncwl neis,' meddai Benni Bach, gan droi ei wyneb i fyny i dderbyn cusan drachefn.

'Na, na, meddai Elen. mae'n rhaid i chi folchyd yn lân cyn ca'l cusan gan 'nwncwl yto. 'Dyw 'nwncwl ddim yn lico cusan brwnt fel hyna. Mae arnai ofan, John bach, fod y plant yma wedi'ch bleino chi ishws, wath do's dim posib' 'i cadw nhw'n llonydd am eiliad yn y dydd. A 'dir gaton ni, mae nhw wedi trochi'ch dillad chi fel hyn ar unwaith! Mae'n rhaid i chi gael brwsh atyn nhw 'nawr yn y fyned. Marged, dere a'r brwsh dillad yma? De'wch miwn i'r nouadd i chi gael ishte lawr. Mi fydd te'n barod yn y fyned—mae'r tegil yn canu ishws.'

Ty ffarm ardderchog yw Plas Newydd, yn gwynebu ar ddyffryn hyfryd Tywi. Eisteddais ar y sciw yn y neuadd ar bwys y ffenestr yn edrych allan ar y caeau gwyrdd a'r coedydd oedd yn britho'r dyffryn tawel, a chyn i mi gael amser i ddyhuno, yr oedd y tê ar y ford, ac Elen (â shôl fach newydd yr oeddwn i wedi roddi'n bresant iddi ar ei hysgwyddau), yn eistedd o flaen y llestri ar ben y ford, a Gwilym a Benni Bach yn eistedd un bob ochr iddi mewn cadeiriau uchel.

'Trowch at y ford, John,' meddai Elen, 'mae'n siwr fod ishe bwyd arnoch chi ar ol trafeilu, a me gewch chi ranu'r ham, os gwelwch chi'n dda. Odi chi'n dewis lla'th a shwgir,—ond, dyna, 'rwy'n g'neyd dyn dierth o honoch chi ar unwaith—wel, 'rych chi wedi cadw'n ddierth iawn o ar priodes i,—ond wi'n cofio'ch bod chi'n ffond iawn o shwgir.'

'Dyna eitha digon o shwgir i fi,' meddwn, oblegid yr oedd Elen wedi dodi tri telpyn eisoes yn y cwpan, ac yr oedd yn barod i ddodi rhagor.

'Neis, neis yw shwgir,' meddai Benni Bach, gan edrych yn wangcus ar y basn, ac yn dangos ei fod yn berchen ar ddant mor felus a'i ewythr.

'Dyw shwgir ddim yn dda i blant bach,' meddai Elen.

'W'i ddim yn blentyn bach, odw i, mami?' meddai Gwilym.

'O mi ddei di'n fachgen mowr, dim, ond i ti stico,' meddai Elen. 'O's gyda chi, John, ddigon o hyfen yn eich tê? Mae'n well i chi helpi'ch hynan.' A gyda'r gair, dyma hi'n rhoddi'r jwg a'r hufen i fi.

Os oes rhywbeth yn y byd yr wyf fi'n hoff o hono, hufen llaeth yw hwnw. Colli hwn yw'r golled fwyaf a gefais pan es i fyw i'r dref, a da y gwyddai Elen nad oedd dim oeddwn yn fwy balch o hono, pan oeddwn yn myned gartref dros y gwyliau er's llawer dydd, na digon o hufen. Ac ar ol cael ут hufen yn fy llaw, arllwysais yn helaeth o hono. Ond yn ddisymwth dychrynwyd fi gan ysgrech oddiwrth Gwilym a Benni Bach. Yr oeddynt yn edrych arnaf gydag arswyd, a'u llygaid fel afalau yn eu pen.

'Y dyn,' meddai Gwilym o'r diwedd, styriwch mai hufen sy' gyda chi!'

Yr unig ateb roddodd Elen, oedd ei siglo yn drwsgl; ond nis gallwn i lai na chwerthin yn iachus. Daeth i'm côf ar darawiad amrant gynghorion fy mam—rhai, yr oedd yn amlwg, a drosglwyddwyd i fy neiaint gan Elen—am beidio rhoddi mwy na llwyaid o hufen. yn fy nhê, canys yr hufen oedd yn talu'r rhent!

Ac fel yna y deuais i adnabod Gwilym a Benni Bach y tro cyntaf erioed.

PENOD II.
Y MODD Y CAFODD GWILYM A BENNI I BACH DDILLAD NEWYDD.

Nid oeddwn wedi codi o'r gwely boreu dranoeth pan ddaeth Gwilym a Benni Bach i ymweled a fi. Yr oeddwn yn gorwedd, rhwng cwsg ac effro, yn gwrando ar gân yr adar bach a sï y myrddiwn pryfed mân sydd yn gwneyd holl awyr Dyffryn Tywi yn fyw yn yr haf, ac yn methu dyfalu paham yr oedd neb yn siarad am dawelwch y wlad, pan glywais lais Gwilym tu allan i ddrws fy ystafell.

'Nwncwl' meddai, yn ei lais treiddgar, 'mae mami yn gofyn i chi pu'n sy' well gyda chi gal brecwast yn y gwely ne' gyda ni yn y nouadd

'O, gwedwch wrth mami,' meddwn inau—oblegid nid oeddwn wedi anghofio hen gwynion Elen gartref er's llawer dydd am y drafferth o roddi brecwast yn y gwely y byddai ar y llawr yn y fyned.'

Ac yna clywwn swn y traed bach yn dringo lawr y grisiau.

Nid oeddwn mewn brys i godi a gwisgo. Yr oedd yr olygfa swynol o'r ffenestr yn tynu gormod ar fy sylw. Cyn i mi fod yn haner parod i ddisgyn, clywais swn dau bâr o draed tu allan i'r drws, a llais Gwilym yn galw drachefn,

'Nwncwl.'

Es at y drws, ac ar ol ei agor gwelais fy neiaint, Gwilym a Benni Bach.

'Nwncwl' meddai Gwilym, 'mae mami am i chi roi'r baish fach i fi sy' yn y chest?'

'O'r gore,' meddwn inau, 'shwt un yw hi?' 'Paish goch sy' gen i,' meddai Gwilym.

'A mae mami'n gweyd' torai Benni Bach i mewn, 'y ca' yne baish goch tro nesa.'

'Wel, bachgen, meddwn, wrth dynu'r bais goch o'r chest of drawers, 'odi ch'i ddim yn myn'd yn rhy fowr 'nawr i wishgo paish fel hyn?'

'O, mae mami'n gweyd,' atebai Gwilym, 'y ca' i a Benni Bach drowsus penlin pan ewn ni i'r ysgol.'

'Ag i bwy ysgol y byddwch chi'n myn'd?' gofynais. Mi fyddwn ni'n myn'd gyda Tom Brynglas i ysgol Llanelwid,' meddai Gwilym.

'Wel, odi chi'n gw'bod rhw'beth am yr A B C?' gofynais eilwaith.

'Wi'n gw'bod hwna,' dywedai Benni Bach. Wel?' meddwn inau.

'ABC
Cath a chi,'

meddai Benni Bach.

'Da machgen i,' meddwn inau, gan dreio celu fy ngwên, a phwy ddysgodd hyna i chi?'

Tom y Waginer, meddai Benni Bach. A mae Gwilym yn gw bod lot yn rhagor.'

Odi chi Gwilym?' gofynais wed'yn.

'Roedd Gwilym yn sefyll yn syth, a'i lygaid yn edrych dros fy ysgwydd draw i'r pellderoedd. Heb ragor o ragymadrodd dyma fe'n dechreu:—

'Mi af i'r ysgol 'fory
A'm llyfr yn fy llaw
Heib'o Castell Newydd.
A'r cloc yn taro naw.

O Malen, Malen cwyn
Mae heddyw'n fore' mwyn,
A'r adar bach yn tiwno,
A'r gwew ar frig y llwyn.'


'Dier mi,' meddwn, 'a Tom y waginer sy' wedi dysgu hyna i gyd i chi?'

'Ie,' meddai Gwilym, 'a mae e'n myn'd i ofyn i mami os cewn ni fyn'd i wel'd y bedyddio.'

'Beth yw'r bedyddio?' gofynais.

Ond cyn i fi gael ateb dyma lais Elen yn esgyn o odrau'r stâr,

'Nawr, blant, beth 'ych chi'n 'neyd i'r lan 'na'r holl amser hyn? Mae'n hen bryd eich bod chi wedi dybenu gwishgo, yn lle cadw nwncwl fel'na!'

Ac i lawr yr aethant gan gario y bais goch, ac nis gwelais hwynt mwyach cyn amser ciniaw.

Erbyn i mi ddisgyn i'r neuadd, nid oedd son am fy neiaint.

'Do'dd dim byw na bywyd gyda nhw,' esboniai Elen, os na chese nhw fyn'd gyda Tom y waginer i wel'd y Baptis yn bedyddio ym Mhwll Hesg. Mae Tom yn eu spwylo nhw mor anghyffredin, ag yw dyn ddim yn fo'lon bod yn gâs iddo 'fe am fod yn garedig wrth y plant. A dim ond i Gwilym gym'ryd rh'wbeth yn ei ben, mae'r un peth i chi dreio hydfan a threio'i droi e'! A phob peth 'wedi'th Gwilym, mae Benni'n siwr o 'weyd ar ei ol e'.'

Cefais ddigon o hanes fy neiaint o hyny nes daeth yn amser cychwyn i'r cwrdd. O'r diwedd cymerodd Henri fy mrawd-yng-nghyfraith drugaredd arnaf a dywedodd,

'Elen fach, yr wyt ti'n meddwl fod John yn cymryd cymaint o ddyddordeb yn y plant ag yr wyt ti.'

'Wel, f'alle bydd gydag e' blant ei hunan rywbryd,' meddai Elen, ag yna mi ddiallith.'

Ac, yn wir, nid oeddwn heb deimlo fod gan Elen esgus dros siarad am danynt.

Mae Gwilym,' meddai, 'yr un spit weithe a'r peth o'ech chi pan yn blentyn (er na allwn i wel'd yr un tebygolrwydd ynddo). Mae'r un tro yn ei lygad e', ag amser bydd e'n 'wherthin, wi fel tawn i'n eich gwel'd chi o hyd o' mlâ'n. Mae rh'wbeth mor ffel yndo fe! Nos Sul dwetha, 'ro'dd 'y mhen i ddim haner da, a mi aroses gatre' o'r cwrdd. 'Ro'dd pawb yn y cwrdd ond fi a Gwilym, me fynodd e' aros gatre' yn gwmpni i fi. Ar ol i fi fyn'd dros y lluniau yn y Beibl a Thaith y Pererin gyda fe, ag yn dodi swper ar y ford, dyma, fe'n gweyd wrtha i, 'Mami,' mynte fe, dyna neis mae i fod yma gyda'n gilydd. Dim ond gwr a gwraig y ty sy' gatre' 'nawr, ynte?'

Pan ddaeth amser ciniaw, yr oedd y ddau blentyn wedi cyrhaedd gartef, ac yr oeddynt yn llawn o'r hyn. a welsant ac a glywsant ar lan yr afon, a mawr oedd holi ynghylch y bedyddio.

'Mami', gofynai Gwilym, 'odi chi wedi ca'l eich bedyddio?

'Nagw i,' meddai Elen.

'Odi e'n ddrwg, 'te, i gâ'l eich bedyddio,' holai Gwilym.

'O nag yw,' meddai Elen, dyw e' ddim yn ddrwg.' 'Pa'm na fysech chi'n cael eich bedyddio, 'te?' gofynai Gwilym.

'Nid oedd Elen yn barod â'i hateb. O,' meddai o'r diwedd, 'dwy i ddim yn credu yn hyny.'

Odi Dafi'r Esger yn credu yndo fe?' dywedai Gwilym.—Dafi'r Esger oedd un o'r bobl fedyddiwyd y boreu hwnw, mae'n debyg.

'O odi,' atebai Elen.

'Pa'm nag 'ych chi'n credu yndo fe?' gofynai Gwilym.

Aeth Elen yn fud, tra rhedai cysgod gwên dros wyneb agored Henri.

'Mrowch chi i ddwad yn fachgen mowr,' meddai Elen o'r diwedd, 'ag yna mi dde'wch chi i w'bod.'

Ac fel yna y terfynodd yr ymddiddan yr adeg hono, ac ni fuasai yn werth ailadrodd yr hanes, oni bai am yr hyn a ddigwyddodd yn y prydnawn a boreu dranoeth.

Ar ol ciniaw, aeth Henri, yn ol ei arfer, i'r Ysgol Sul, ac mi es inau allan ar hyd y caeau i fwynhau'r awyr iach. Ar ol rhodio yma a thraw am awr neu ddwy, deuais i'r cae bach tu ol i'r ty. O'r pen draw elywais yn ddisymwth ysgrech plentyn, a safodd fy nghalon yn fy mynwes. Gwyddwn fod pwll y chwyaid yn y cornel pellaf, a meddyliais ar unwaith mai ysgrech Gwilym neu Benni Bach a glywswn. Rhedais, fel na redais o'r blaen am flynyddau, i gyfeiriad y swn. Pan gyrhaeddais lan y dwfr, nis gwyddwn beth i wneyd p'un ai chwerthin neu ddwrdio. Ynghanol y dwr a'r llaid safai Gwilym a Benni Bach, a'u dillad yn lyb cors, ac hyd yn oed eu gwallt yn dyferu dafnau o ddwr llwydaidd, ac er ei bod yn ddiwrnod twym yn yr haf, yr oedd y dwr oer yn gwneyd i'w danedd guro.

'Beth yn enw'r anwyl 'ych chi'n 'neyd yma, blant? meddwn, dipyn yn wyllt.

'Bedyddio Benni Bach w i,' meddai Gwilym.

'Wel, mi fydd hi'n waeth na gweyd yn deg pan welith mami chi,' meddwn.

'Ond 'wedodd mami nag oedd dim drwg miwn bedyddio?' meddai Gwilym.

'Gewch chi wel'd p'un am hyny,' atebais, mor sarug ag y gallwn.

A gwir a ddywedais. Pan welodd Elen hwynt, nid oedd diwedd ar ei haraeth.

'Yr arsw'd anw'l,' meddai, beth yw'r drych hyn sy arnoch chi, blant? Wedi bod yn bedyddio Benni Bach, ie fe? Mi ro i fedyddio Benni Bach i chi 'ch dou, a g'na! A thithe, Gwilym, a ffroc newydd, a phobo biner glân prydnawn heddi gyda chi'ch dou. A neithwr ddwetha y cesoch chi'ch golchi yn y twba! 'Mi fydd yn rhaid i chi 'ch dou gâ'l eich ymolch a myn'd i'r gwely ar unwaith, a mi ddwa i i siarad a chi yn y bedroom.'

Yr oedd y ddau fychan yn edrych mor ddiniwed a'r wyn, ac yr oedd eu hufudd-dra parod yn gwneyd i fy nghalon waedu drostynt. Ond gwyddwn yn rhy dda mai gwell oedd peidio ymyryd rhwng Elen a'i phlant. Es allan am awr yn ychwaneg, a phan ddychwelais yr oedd fy neiaint yn eu gwelyau'n dawel, a'r forwyn yn cadw cwmni iddynt hyd nes y cysgent, tra yr oedd eu dillad yn sychu wrth y ffwrn yn y gegin.

Pan ddychwelodd Henri o'r ysgol, nid oedd taw ar achwyn Elen.

'Mae'r ddou yn drech yn lân na fi,' meddai. 'Wedi i fi dodi nhw yn y gwely, a thynu'r 'ialen fedw oddiar yr ho'l, 'Mami,' medde Gwilym, a geiff Dafi'r Esger ei whipo am lychu ei ddillad?' a 'dallwn i ddim dodi'n llaw i gwrdda'r crwt wed'yn. A 'dyw e' ddim iws i beido'i gospi e,' ne' mae e'n siwr o fyn'd a Benni Bach i'r pownd yto. Mae'n llawer gwell i chi fyn'd i whipo nhw.'

'Na, wna i'n wir i ti,' meddai Henri. Ti sy' wedi dechre' ar y gwaith. Ond os taw ishe hadel y plant i ddwyno'u dillad sy' arnat ti, mae gen i lawer gwell ffordd.'

'Beth yw hyny?' gofynai Elen.

Rho drowsus penlin i'r ddou,' meddai Henri, mi ddrychan nhw nag a'n nhw ddim i'r pownd wed'yn.' Ac felly fu. Boreu dydd Llun, halwyd i ymofyn John y teiliwr i Blas Newydd, i wneyd dillad newydd i Gwilym a Benni Bach.

PENOD III.
MYND I'R YSGOL.

Pan oedd Gwilym yn chwech mlwydd oed a Benni Bach yn bump, penderfynwyd eu danfon i'r ysgol i Lanelwid. Yr oedd pawb yn meddwl yn uchel am yr ysgolfeistr newydd—Sais o'r enw Hartland. Yr oedd gwr Plas Newydd yn aelod o'r Bwrdd Ysgol; ac, fel llawer iawn o Gymry unieithog, yr oedd yn meddwl y byd o ddyn os gallai siarad Saesneg yn rhwydd neu os byddai yn siarad Cymraeg gyda llediaith. Llawer gwaith y gwelais ef yn dynoethi ei ben, ac yn dodi syr' ym mhob brawddeg, wrth siarad a stiwart meddw a diegwyddor—yr hwn, yn wir, nid oedd deilwng i ddatod carai ei esgid—yn unig am ei fod yn gallu siarad Saesneg. Yr oedd gan Henri feddwl uchel am ei gyd-genedl, ac yr oedd yn hoff o'i heniaith. Ond уг oedd ei gariad tuag ati fel cariad meddwyn at gwrw;-yr oedd yn rhy hoff o honi i'w rhoddi heibio, pe medrai, ond, ar yr un pryd, beiai hi am holl aflwydd a thlodi ei fywyd. Credai yn ddi-ysgog, mai yr iaith Gymraeg oedd wedi ei gadw ef a'i bobl dan draed cyhyd. Ond eto yr oedd yn gas ganddo y rhai hyny a anghofient. eu Cymraeg ar ol bod am dri mis mewn siop yn Llundain neu Abertawe!

Nid oedd yn rhyfedd, felly, i'r neb a'i hadwaenai ei fod o blaid cael Sais yn ysgolfeistr yn Llanelwid. Yn wir, dywedir mai ei araeth ef droiodd y fantol yng nghwrdd y Bwrdd Ysgol. Cyflawnid gwaith y Bwrdd yn Gymraeg, am na allai'r aelodau siarad Saesneg; ond cedwid y cofnodion yn Saesneg gan yr ysgrifenydd, Tom Griffiths y Siop.

Y mae y plant,' meddai Henri yn y cyfarfod, yn clywed digon o Gymraeg ar yr aelwyd gartref, ac y maent yn dysgu'r iaith yn yr ysgol Sul. Eisieu dysgu Saesneg iddynt sydd arnom ni, ac nis gallwn wneyd hyny ond drwy wneyd Saesneg yn iaith yr ysgol. Os mynwn ni Gymro yn feistr, y mae yn sicr o siarad peth Cymraeg a'r plant yn yr ysgol; ond os mynwn ni Sais, ni fydd yn gallu siarad gair o Gymraeg, a daw y plant yn rhwydd i siarad Saesneg.'

Pan ddaeth Mr. Hartland i Lanelwid o Loegr, credai pawb yn y plwyf fod y mil blynyddoedd wedi gwawrio. Nid oedd neb yn ddigon hyddysg i wybod mai Saesneg troednoeth y parthau iselaf o Lundain a siaradai; ac ni freuddwydiai neb, chwaith, nad oedd yn meddu ar bob cymhwysder i ddysgu plant Cymru. Gwnaed yn fawr o hono gan bawb. Gwahoddid ef i dê i'r fan hyn, ac i giniaw i'r fan arall, a rhyfeddai pawb shwd ddyn bach ishel yw e.' Synwyd a llonwyd pawb pan wnaeth ei ymddangosiad yn Salem boreu dydd Sul, ac erbyn y nos, yr oedd y gweinidog yn barod i ddarllen ei destyn yn Saesneg ac i roddi penau ei bregeth hefyd yn yr iaith hono, a'r oll er mwyn boddio Mr. Hartland. Canys hyn yw hanes y Cymry wedi bod am ganrifoedd. Gwnant garedigrwydd a'r Sais er niweidio eu hunain, a gwell ganddynt newynu eu heneidiau na gweled enaid Sais yn dioddef eisieu maeth ysbrydol.

Yr oedd cymaint o'i ofn ar y plant yn yr ysgol fel na fu trafferth ynghylch dim am rai wythnosau. Nid oedd y plant yn ei ddeall—'nit 'r un Sysneg mae e'n siarad a Mr. Thomas,' medde'r plant—ond ni fu gan neb ffydd fawr erioed yn Saesneg Mr. Thomas, yr hen ysgolfeistr; a thybid am Saesneg y meister newydd, fel y gwneir am bregeth llawer gwr—mai goreu i gyd yr oedd po leiaf ei deallid.

Felly yr oedd pethau yn sefyll pan y danfonwyd Gwilym a Benni Bach i'r ysgol am y tro cyntaf ar foreu dydd Llun yn amser Calan Mai. Yr oedd Elen wedi bod wrthi am oriau yn paratoi erbyn yr amgylchiad, a gallech gredu fod y plant yn myned i bellder byd, ac nid i bentref oedd tu fewn i filltir i'r ty, gan gymaint oedd helynt Elen yn eu cylch.

Arosai y ddau yn barod i gychwyn,—yn disgwyl dyfodiad Tom Brynglas, mab cymydog oedd erbyn hyn yn Standard V. Yr oedd gwynebau y ddau yn disgleirio ar ol y dwr a'r sebon; yr oedd eu gwallt cyrliog wedi ei ranu yn ofalus, yr oedd coler glân ar y ddwy got lwyd; nid oedd brycheuyn ar y trowsus penlin rib gwyn, na bai na choll ar y sanau glân ddu'r ddafad.

Dodwch eich cap yn gwmws, Gwilym,' meddai Elen gan edrych gyda balchder ar y ddau, a chan gymhwyso y Scotch cap oedd ar ochr eu cern. A chofiwch chi 'weyd good morning, syr,' wrth Mr. Hartland pan ewch chi miwn a rho'wch chi fow taliedd. iddo fe. Beth i chi fod i 'weyd wrth Mr. Hartland 'nawr?'

Good mornin' syr, meddai Gwilym a Benni Bach gyda'u gilydd, fel pe baent yn adrodd pwnc.

A chyn pen mynud ar ol hyny, dyma Tom Brynglas yn galw heibio.

'Cofiw e', da machgen i,' medde Elen wrth Tom, am fyn'd a nhw yn sâff, a'u cadw nhw rhag trochi eu dillad. A mae slât a'u pensil nhw yn y bag, a mae'r bara menyn gyda Gwilym iddyn nhw erbyn haner dydd.'

'Me fydda nhw'n ol reit, Mrs. Morgan, gyda fi,' atebe Tom Brynglas, gyda phwyslais ar y fi, a chan roddi ei law dde i Benni Bach a'i law chwith i Gwilym. Ac ni fu rhyfelwr erioed yn dychwelyd o'r gâd a'i ysbail gydag ef yn fwy balch nag yr oedd Tom Brynglas wrth gerdded o glôs Plas Newydd a'i fyddin fach wrth ei gwt.

Safai Elen yn y cwrt bach yn edrych ar eu hôl gydag ochenaid.

'Mystres, mystres,' gwaeddai Marged, y llaethwraig, yn ddisymwth, mae Benni Bach wedi gadel ei hancisher ar ol.'

'Rhed ag e' ar eu hol nhw, los,' meddai Elen, a mi dali nhw cyn croesa nhw'r ca' i'r hewl.'

A'r olwg ddiweddaf gafodd hi ar Marged oedd ei gweled yn hedeg fel saeth o fwa drwy gât y clôs, ac ar ôl y plant. A phan ddaliodd Marged nhw ar ganol y cae cafodd Tom gryn drafferth i symud y gwersyll ymlaen drachefn. Nid oedd Marged yn foddlon ar roddi yr hancisher yn ôl, ond yr oedd yn rhaid iddi godi Benni Bach yn ei chôl a'i gusanu a'i wasgu at ei mynwes. Ac уг oedd Benni Bach hefyd yn dechreu teimlo hiraeth, ac nid oedd dim ond ei galon fach ddewr yn ei atal rhag taflu ei freichiad am wddf Marged, a thori allan i lefain.

Ar y ffordd i'r pentref, daeth Gwilym a Benni Bach i ddeall eu bod yn cychwyn ar fywyd newydd. Tom Brynglas, fel y daethant i wybod cyn hir, oedd capten yr ysgol. Efe oedd yn cadw'r bêl ddu; efe oedd i ddweyd pwy oedd i fyn'd i ofyn am bledren at y bêl ddu, ac i ble yr eid i'w chael; ac efe oedd i ddweyd pwy oedd i bigo ochrau wrth chwareu. Nid oedd un gamp yn gyflawn hebddo ef; a chydnabyddid mai efe oedd yr ymladdwr goreu, y niclwr goreu, y chwareuwr pelddu goreu, y cwdwmwr goreu, a'r neidiwr herc a cham a naid, a'r neidiwr caerbedw goreu yn yr ysgol.

Ond y boreu hwn yr oedd brys tu hwnt i'r cyffredin ar Tom.' Newch hast, boys, bach,' meddai 'nawr ac yn y man, 'ne 'r'yn ni'n siwr o fod yn dd'weddar.'

Ac yna ymlaen yr elent cyn gynted ag y gallai Benni Bach lusgo ei draed ar ei ol. 'Nawr ac yn y man bu raid i Tom godi Benni yn ei gôl a'i gario ran o'r ffordd. Erbyn cyrhaedd yr ysgol, gwelwyd nad oedd ond ugain mynud i naw—cwarter awr cyn amser canu'r gloch. Ond er cynared oedd, yr oedd yno yn agos i bedwar ugain o blant wedi crynhoi ynghyd, a gellid canfod yn hawdd ddigon fod rhywbeth anarferol ar waith. Dododd Tom Brynglas Gwilym a Benni Bach i eistedd. gyda'r plant lleiaf yn yr Infants' Room, ac ar ol eu cael oddiar ei ddwylaw, siaradai yn brysur a rhai o'r bechgyn mwyaf. O'r diwedd dyma fe yn rhoddi'r gair i bawb o'r plant i fyn'd i'r ysgoldy. I mewn yr aethant fel deadell o ddefaid, y merched a'r bechgyn gyda'u gilydd rhai yn ufuddhau yn llonydd, ereill yn gofyn. beth oedd yn bod. Arosai Tom mewn dwfn gynghor a thri o'i gyfeillion, John y Bryngwyn, William y Coed, a Dafi Felindre. Nid hir y buont mewn petrusder.

'Cerwch chi boys,' meddai Tom, 'i geuad y shutters, a mi gloia ine'r ddou ddrws.'

Fel уr ufuddha cwch i droad y llyw, felly yr ufuddhaodd ei gyfeillion i orchymynion Tom Brynglas. Cyn bod bys y cloc yn dangos deng mynud i naw, yr oedd pob drws ynghlo, a phob ffenestr ynghau, a'r ysgoldy i gyd mewn haner tywyllwch. Eisteddai'r plant yn dawel,—rhai yn ofni gormod i ddweyd dim, ereill yn sisial â'u gilydd. Tramwyai Tom Brynglas drwy y rhengoedd, fel tywysog, heb ofni gwyneb neb,— yn bygwth y cecrus, yn ysbrydoli y gwan, ac yn rheoli yr oll. Ond eisteddai Gwilym a Benni Bach o hyd ar y ffwrwm yn yr 'Infants' Room,' gan gredu fod hyn oll yn rhan o waith yr ysgol.

Mewn ychydig dyma guro wrth y drws. Yr oedd. Tom wedi gorchymyn nad oedd neb i ateb ond efe. Dyma guro drachefn a thrachefn.

'Open the door at once,' meddai llais y pupil teacher, William Jones y Wern. 'I know who it is. It's Tom Brynglas.'

'Na, agora i ddim,' atebai Tom yn ddigryn—'ryn ni wedi ca'l digon ar yr hen Sais 'na a'i ganen. Os addewith e' i beido'n whado ni ragor am siarad Cwmrag, mi agorwn y drws.'

Yn ofer yr erfyniai William Jones ar i Tom i agor cyn y deuai Mr. Hartland. Safai Tom yn ddewr ac yn ddi-ildio. Ym mhen tipyn, pan oedd y cloc yn taro naw, dyma'r ysgolfeistr ei hunan yn dod.

'Open the door, you rascals,' meddai mewn nwydau. gwyllt, 'or I'll make you regret it.'

Ac yna dechreuodd y frwydr fawr fythgofiadwy rhwng Tom Brynglas a'r Sais. O naw o'r gloch y boreu hyd dri o'r gloch y prydnawn safodd Tom ei dir. Ni thyciai na bygythion Mr. Hartland, nac ymresymiadau William Jones y Wern, nac ofnau y plant. Nid oedd dim allai wneyd i Tom daflu ei arfau i lawr. Gwangalonai ei gadfridogion uchelaf ambell waith; ond yr oedd ewyllys Tom yn drech na'r holl anhawsderau. Dechreuai rhai o'r plant i lefain, ac yr oedd. Gwilym a Benni Bach mewn dagrau cyn canol dydd. Ond cysurai Tom y bychain, ac yr oedd ei arswyd wedi disgyn ar y llwfr. Daeth newyn a syched ar y llu gwarchaeedig; ond yr oedd gan Tom ddwfr i'r sychedig gyda'u tocyn amser ciniaw, a gair o gysur i'r trallodus a'r trwm ei galon. Tua thri o'r gloch yn y prydnawn, yr oedd clôs yr ysgol yn llawn o bobl y plwyf—rhai yn cymeryd rhan y plant, ereill gyda'r meistr. Daeth Tom Griffiths y Siop—ysgrifenydd y Bwrdd Ysgol— i ymresymu a Tom; ond ni roddai y cadfridog hwnw ffordd un fodfedd. Daeth Mr. Edwards, Tynycwm,—cadeirydd y Bwrdd yno, yn chwythu bygythion, ond ni lwyddodd i agor y drysau. O'r diwedd daeth Dafi'r saer yno, a dau o'i brentisiaid, a briwyd y clô, ac agorwyd y drws uchaf led y pen. Safai Tom a ruler yn ei law, a llu arfog y tu cefn iddo. Ond pan ruthrodd y dyrfa oddiallan i fewn, gwasgarwyd llu Tom fel ûs o flaen y gwynt, ac efe ei hunan a adawyd i ymladd dros iawnderau plant yr ysgol. Ond buan ei goddiweddwya gan dynged greulawn; diarfogwyd y gwron, ac ymaflodd Mr. Hartland ynddo, a chyn bo hir, ar ol agor y shutters, a chael goleuni eto i'r ysgoldy, yr oedd pawb yn eistedd yn dawel, a theyrnasai tawelwch fel y môr drwy yr holl le. Yn unig clywid swn yr ysgolfeistr yn galw Thomas Thomas i gyfrif am ei ddrwg weithredoedd, ac, wedi hyny, ynghanol distawrwydd perffaith, dychrynai'r plant yn eu calonau wrth glywed swn maleisus y ganen yn glawio ergydion ar gorff Tom,— ond Tom ei hun ni ddywedodd air ac ni ddiangodd ochenaid dros ei wefusau.

Ond yn yr 'Infants' Room' yr oedd braw a galar ac anhrefn. Yno y cymerodd cynorthwywyr Tom noddfa rhag llid yr ysgolfeistr. Cuddiodd un yn y cwpwrdd lle cedwid y llyfrau, ac aeth y ddau arall dan y ffwrwm ar yr hon yr eisteddai Gwilym a Benni Bach. Gwelodd y ddau fychain hyn, ac arswyd a ddisgynodd drachefn ar eu hysbryd. Yr oedd eu grudd yn lyb gan ddagrau; a'u llygaid yn goch gan wylo. Hiraethent am eu mham ac am ddiogelwch Plas Newydd. Nis gwyddent beth oedd y perygl, ond teimlent ei fod gerllaw. Ac fel y cyrcha pysgod mân i'r rhwyd rhag ofn swn y pysgodwyr, felly y daliwyd Gwilym a Benni Bach. Yn eu braw neidiasant oddiar y ffwrwm ar yr hon yr eisteddent, a dilynasant y ddau isarweinydd, ar eu traed a'u dwylaw, heb feddwl am lwch y llawr nac am eu trowsus rib glân, ac ymguddio a wnaethant o wyddfod y meistr dan gysgod y ffwrwm fach! Nid hir y buont yno. Yr oedd coesau Benni Bach yn amlwg ddigon, ac nid oedd ond ei ben cyrliog o'r golwg. Ar ol llwyr orchfygu'r gwersyll uchaf, cerddodd Mr. Hartland i'r 'Infants' Room,' a golwg sarug ar ei wyneb a'i lygaid yn melltenu. Y cyntaf peth a welodd oedd traed Benni Bach yn ymestyn oddi dan y ffwrwm. Gafaelodd ynddynt, tra'r ysgrechai Benni Bach, a Gwilym gydag ef o gydymdeimlad.

And what, sir do you mean by making this disturbance?' meddai'r ysgolfeistr.

Adwaenai Benni Bach Mr. Hartland. Yr oedd wedi ei wel'd lawer gwaith yn Salem.

Cofiodd gyngor ei fam. Gwnaeth ei oreu i wneyd bow taliedd, a dywedodd yn ei lais trebl, er fod y dagrau heillt yn ffrydio dros ei ruddiau brwnt,

'Good morning, syr. Nid y fi 'nath e', wir.'

Gwyddai'r meistr mai meibion i aelod o'r Brwdd oedd y ddau dan y ffwrwm, a chanfyddai mai dieithriaid yn yr ysgol oeddynt. Dywedodd air caredig wrthynt,— er nad oeddynt yn deall ei ystyr. Arosasant yn haner crio tra y cospwyd y tri gwron am gynorthwyo yr arch-wrthryfelwr; ac yna am bedwar o'r gloch y prydnawn gollyngwyd hwy yn rhydd gyda'r rhan arall o'r ysgol, ac aethant gartref ond y tro hwn heb Tom Brynglas, oblegid yr oedd ef wedi ei ddior i fyn'd adref gyda'r lleill, fel y caffai Mr. Hartland gyfle yn rhagor i'w ddysgu i ufuddhau i'r awdurdodau y sydd.

Hynod a helbulus, felly, y bu diwrnod cyntaf Gwilym a Benni Bach yn ysgol Llanelwid.

PENOD IV.
Y TY PRYDFERTH.

Nid oes llawer o lyfrau ym Mhlas Newydd, ond y mae pob un sydd yno wedi ei ddarllen drosodd a throsodd gan Henri ac Elen. Mae rhai pobl yn credu na all neb fod yn ddysgedig os nad yw wedi darllen hyn a hyn. o lyfrau newyddion. Y maent yn barod i addoli pob un sydd wedi gwario ychydig flynyddoedd yn yr ysgol a'r coleg, neu sydd wedi darllen nofelau diweddaraf a bryntaf y Saeson. Ni fuasai dim yn synu Henri yn fwy na chlywed ei fod yn berchen ar drech diwylliant na haner y bechgyn sydd yn graddio yn Rhydychen a Chaergrawnt. Nid yw wedi ymgydnabyddu a damcaniaethau Hegel a Spencer; ni ddarllenodd air of weithiau Carlyle a Darwin a Ruskin; ni all ddifynu llinell o ysgrifeniadau Shakespeare a Miltwn a Wordsworth. Ond beth am hyny? Y mae yn deall ac yn gwerthfawrogi y llenyddiaeth sydd ganddo,—yr hyn. ni ellir ddweyd am y rhan fwyaf o'r rhai sydd yn cymeryd arnynt fod yn llawer mwy diwylliedig. Y mae yn hyddysg yn yr Ysgrythyr y casgliad goreu o'r lenyddiaeth fwyaf amryfal a'r fwyaf oruchel yn y byd. Beth sydd gan athronwyr Germani i ddweyd am ddirgelwch bywyd dyn a'i berthynas â'r Duwdod yn rhagor nag a ddywedwyd mewn geiriau llawer mwy miniog a grymus yn Llyfr Job? Nis gallant hwy, druain, ond diffynio a manylu; diwedd ei holl ddyfaliadau yw dechreuad hanes Job. Ac nis gall nofelwyr ac ysgrifenwyr yr oes oleuedig hon wneyd dim ond taflu goleu arall ar hen brofiadau'r hil ddynol— profiadau sydd wedi eu cofnodi mewn iaith anfarwol gan y Salmydd tyner, y Pregethwr doeth, y Prophwydi barddonol, ac yn y dirif ystorïau a geir o un pen i'r llall o'r Beibl. Ac am ei fod yn gwybod ei Feibl, ac yn ei deimlo, yr oedd Henri yn gwybod am adnodau (ac yn gweled ystyr newydd ynddynt) na ddaeth i feddwl gwyr ieuainc y prifysgolion.

Yr oedd ganddo hefyd gyfieithiad o 'Daith y Pererin,' —mewn llythyrenau bras a darlun ar bob tudalen, a nodiadau gan Kilsby ar y gwaelod. Hwn, a Beibl Peter Williams, a ddarllenid ar nos Suliau yn y gauaf pan yr oedd yn rhy oer a glyb i Elen a'r plant i fyn'd i'r capel. Yr oedd Gwilym yn gwybod hanes Cristion bob cam o'r ffordd; ie, gwyddai am bob tro yn y daith o Ddinas Distryw i'r Mynyddoedd Dedwydd. Yr oedd ei galon wedi euro ganwaith gyda'r pererin yn y Gors a than fynydd Sinai, yn y Glyn ac yn Ffair Gwagedd, yng Nghastell Cawr Anobaith ac ar Lan yr Afon, ac nid oedd dim oedd Henri ac Elen mor hoff o wneyd a gofyn i Gwilym i esbonio yr hanes ynglyn â phob llun yn y llyfr.

Mynych hefyd y byddai Henri yn darllen Cymru Fu,' a gwaith bendigedig yr hen Theophilus, 'Drych y Prif Oesoedd.' Gwyddai a chredai hanes goresgyniad Prydain gan y Saeson, fel y traethwyd ef gan yr hen ysgrifenwr melus, ac yr oedd ei nwyd wedi ei chynhyrfu lawer gwaith wrth ddarllen ystori bradwriaeth Gwrtheyrn a Modred, a thwyll Hengist a'i ferch ysgeler Rhonwen. Y mae dysgawdwyr yn dweyd mai ffug yw'r cyfan; na fu byw y fath ddyn a Hengist erioed, mai chwedl y beirdd yw'r brenin Arthur, ac mai dychymyg pobl orchfygedig a greodd 'Frad y Cyllill Hirion. Gwelais, yr haf diweddaf, wr ieuanc oedd wedi graddio ym Mhrifysgol Llundain yn edrych gyda gwên o wawd ar yr hen lyfr ym Mhlas Newydd, a chlywais ef yn esbonio wrth Henri mai chwedleuon disail oedd yr hanes i gyd. Ond ofer oedd ei siarad. Gallai yn hawdd ddigon ddangos beiau a diffygion Theophilus Evans; ond bydd Drych y Prif Oesoedd' fyw pan fydd oesau a ddel yn chwilio am bapyrau arholiad Prifysgol Llundain.

Nis anghofiaf byth y dydd pan y rhoddes gopi o 'Rhys Lewis' i Henri. Gyda'r fath flas ac awydd y darllenai ef! O'r fath ddagrau a gollodd uwchben hanes Mari a Ben; a'r fath gyfaill y daeth Wil Bryan iddo! A'r fath chwerthin iachus oedd drwy'r teulu oll pan ddarllenai Henri yn y gegin nos Sadwrn hanes Wil a'r clòc, neu ei siars i Rhys Lewis, neu hanes Thomas Bartley, 'tw bi shiwar,' yn cael ei dderbyn yn aelod, neu yn ymweled â Dr. Edwards yn y Bala! Yn nesaf at y Beibl, Rhys Lewis' a 'Thaith y Pererin' yw ei lyfrau anwyl; ond nid yw yn darllen un llyfr ar nos Sul ond y Beibl a hanes Cristion.

Ond yr wyf wedi cymeryd fy nhemtio i ddweyd mwy nag a feddyliais. Nid hanes Henri yr wyf am ysgrifenu, ond hanes Gwilym a Benni Bach.

Yr hyn oeddwn am ddweyd oedd fod Gwilym yn gwybod Taith y Pererin' yn dda. Weithiau byddai yn cymeryd y gyfrol fawr ac yn ei hagor, ac yn dweyd ystyr y lluniau wrth Benni Bach. Yr oedd y stori o hyd yn newydd. Ni flinai un na'r llall ar glywed am y Bydol Ddoethyn a'r Efengylydd, am Ffyddlon yn marw Ffair Gwagedd, ac Apollyon yn cael ei goncro yn y Dyffryn. Ond o bob peth yn y llyfr, nid oedd dim oedd y plant mor hoff o hono a hanes Cristion yn y Ty Prydferth. Ni flinent byth ar glywed am y genethod glanwedd oedd yn arfogi Cristion cyn iddo ddisgyn i Ddyffryn Darostyngiad. Methai Gwilym yn lân a deall paham y bu Cristion mor ffôl ag ymadael erioed â'r fath gartref dedwydd.

'Pam na fydde fe'n aros yno, mami?' meddai. 'O' medd Elen, 'eisieu myn'd i'r wlad well oedd arno fe.'

'Ond 'ro'dd e'n eitha' sâff yn y Ty Prydferth, ond o'dd e'?'

Wel, o'dd,' meddai Elen.

'Wel, pam o'dd e'n 'madel i fyn'd i ymladd â'r hen Apollyon 'te?'

Ac i hyn nid oedd un ateb boddhaol i'w gael, ****** Cred ddiysgog Gwilym oedd, mai yr ochr arall i Dywi, gerllaw Llangoediog, y safai y Ty Prydferth. Yr oedd weithiau yn gofyn i'w dad, pan oedd yn cychwyn i farchnad ddefaid Llangoediog,

'Dyta, fyddwch chi'n myn'd ar bwys y Ty Prydferth heddi?'

'Wel, gobeitho y bydda i,' atebai Henri, yn ffaelu a bod o'r galon i dori ar ddychmygion diniwed y plentyn.

'Ga i ddwad gyda chi?'

'Na, ddim heddi; mi gei di ddwad yto rywbryd pan fyddi di'n henach.'

Ac felly o fis byddai disgwyliadau Gwilym yn cael eu siomi.

Ond o'r diwedd daeth dydd pan nas gallai Gwilym aros yn hwy. Yr oedd yn ddiwrnod gerwin yn yr Hydref, pan mae'r coed yn cwyno ar ol eu dail ac yn crynu yn yr oerfel. Yr oedd Elen wedi gwahardd y plant i fyn'd i'r ysgol rhag iddynt gael anwyd. Ond wrth edrych ar lun y Ty Prydferth gyda Benni Bach yn y neuadd, daeth hiraeth mawr fel tòn dros galon Gwilym am weled y Ty Prydferth a siarad â'r genethod oedd yn byw yno. Ni ddywedodd air wrth neb, ond aeth allan i'r gegin, lle'r oedd Marged yn golchi'r llawr.

Nawr Gwilym,' meddai Marged, 'peidwch chi dwad ffordd hyn i ddwyno'r llawr ar 'yn ol i â'ch trâd brwnt. 'Cerwch chi i aros i'r nouadd ne' dyma fi yn galw ar eich mami!!

Ni ddywedodd Gwilym air am beth amser. mhen tipyn meddai,

'Faint o ffordd sydd odd'yma i Langoediog, Marged?'

'Yn enw dyn, beth sy' ar y crwt bach' atebai Marged. 'Pwy ishe gw'bod hyny sy arnoch chi?'

'Na gwedwch, Marged fach,' dywedai Gwilym, ac aeth y gwalch bach ymlaen ati a dododd ei law am ei gwddf diraen. Nis gallai Marged ddal yn erbyn hyn. Rhyw filltir a haner, 'y nghalon i' meddai, a'i llais wedi tyneru mewn eiliad. 'Nawr, cerwch o'n ffordd i, dyna fachgen da, ne me ga' i stwr am beido gneyd 'y ngwaith.'

Ymaflodd Gwilym yn ei gap, ac aeth allan i'r awyr oer heb na chot fawr na chrafat i'w ymgeleddu.

Nis gallai Gwilym feddwl am ddim ond am y Ty Prydferth. Aeth allan o'r clôs, a dilynodd y ffordd fawr ar hyd yr hon yr oedd wedi gweled ei dad. yn teithio lawer gwaith tua'r farchnad. Cerddodd yn gyflym nes iddo droi'r tro a myned o olwg Plas Newydd, ac yna, ar ol pasio'r efail, cafodd ei hunan mewn gwlad oedd yn hollol ddieithr iddo. Edrychai gyda syndod a braw ar y coed tàl oedd yn taflu eu cysgodion dros y ffordd, a thybiai na welodd erioed y fath goed mawr o'r blaen. Wrth groesi pont, dan yr hon y rhedai afonig fechan, credai ei fod yn clywed swn oeraidd yr Iorddonen. Yr oedd pob cam a gymerai yn ei adgoffa o rywbeth neu gilydd yn hanes Cristion, ond ni synai—yn wir, ni ddaeth i'w feddwl—fod trefn y daith wedi newid ychydig oddiar pan yr oedd Cristion wedi tramwyo y ffordd. Digwyddai pethau yn blith drafflith, ond ni wnai hyn greu un drwg-dybiaeth nac amheuaeth yn ei feddwl bach. Ar y llaw dde gwelai wàl uchel, yr hon a amgauai berllan y Plas Mawr, a meddyliai mai hon oedd. y mur dros ba un y neidiodd Ffurfioldeb a Rhagrith. Ychydig yn nes ymlaen gwelai afal unig ar 'bren Morgan Niclas yn hongian dros ben y wàl, a thybiai mai ffrwyth y gelyn oedd, o'r hwn y bwytaodd plant Cristiana. Ac yna gwelai gamfa yn y clawdd, a chredai mai dyma'r gamfa oedd yn arwain i Gastell y Cawr, a bu am beth amser yn chwilio yn ofnus am y penillion yr oedd Cristion wedi gerfio ar golofn i rybuddio pererinion o'u perygl. Wedi hyny cyfarfu a gwr yn cerdded i gyfeiriad Plas Newydd. Tosturiodd ei galon wrtho ac nis gwyddai yn iawn p'un a'i Meddal a'i Anwybodus allai fod yn dychwelyd yn ol i Ddinas Distryw. Penderfynodd un waith i siarad â'r ynfyd-ddyn, fel y gwnaeth Cristion o'i flaen, ond fel y dynesai y gwr ato, syrthiodd arswyd a dychryn arno, ac aeth heibio, heb ddweyd gair, gan benderfynu na wnai ef, beth bynag, ddim troi ei gefn ar y wlad well.

Erbyn hyn yr oedd yn teimlo yn oer ac yn finedig, ond er fod hiraeth am gartref yn tynu wrth linynau ei galon, ymlaen yr elai o hyd. Credai ei fod wedi teithio milltiroedd lawer, pan nad oedd lawn filltir o Blas Newydd. Treiai gadw i fyny ei ysbryd drwy feddwl am rai o'r penillion hyny yr oedd Cristion mor hoff o ganu ar y ffordd, ond rywfodd ni roddent iddo gymaint cysur yn yr oerni ar yr heol noeth ag a wnaethent wrth ochr tân y neuadd ym Mhlas Newydd. Mynych y pallai ei benderfyniad. Arosai 'nawr ac yn y man i edrych oddiamgylch, ac weithiau byddai yn gwanobeithio wrth gofio pa mor aml yr oedd Cristion yn yr hanes wedi colli ei ffordd. Ond cymerai gysur drachefn, ac er fod ochenaid yn gwasgu allan o'i anfodd ambell waith, ac er fod ei lygaid yn dechreu llanw o ddagrau, ni roddai fyny yr ymdrech. Ac yn ddisymwth, ar ol troi tro yn y ffordd, gwelai dy, braidd ar ochr yr heol. Hwn, yn ddiau, oedd y Ty Prydferth. Edrychai arno yr ail waith, a sibrydai rhywbeth yn ei glust mai hwn oedd y lle, ac aeth ymlaen yn eofn, fel Cristion, at y drws.

Bu am beth amser yn petruso pa fodd y dylai wneyd yn hysbys i'r merched oddifewn fod pererin yno yn gofyn am letty. Yr oedd knocker ar y drws, ond ni wyddai Gwilym beth oedd ystyr a defnydd hwnw, oherwydd nid oedd y fath beth ar un drws ym Mhlas. Newydd. O'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny i guro â'i ddwrn yn erbyn y drws; ac, ar ol gwneyd, dychrynai wrth swn ei guriad gwylaidd. Ni fu raid iddo. aros yn hir am atebiad. Yn ebrwydd agorwyd y drws. gan y ferch lanaf a thecaf welodd Gwilym yn ei fywyd. Nis gallai y pererin bach wneyd dim ond edrych arni, ac yr oedd ei syndod a'i lawenydd gymaint fel yr anghofiodd ddweyd dim wrthi.

'Beth ych chi 'n 'mofyn, 'y machgen i?' meddai'r eneth o'r diwedd, a thybiai Gwilym na chlywodd y fath lais treiddgar, ac na chanfu y fath lygaid siriol erioed.

'A—a—a dyma'r Ty Prydferth?' gofynai ar ol ymdrech galed.

'Y Ty Prydferth?' ebai'r forwynig. 'Nage, machgen i. Brynhyfryd yw hwn.'

O 'rown i'n meddwl taw hwn odd e,' meddai Gwilym, a siomiant yn llanw ei lais. Mae e'n gwmws yr un peth a'r llun.'

'Pwy lun, fachgen bach?' ebai'r eneth.

'Y llun sy' gyda ni gatre yn Nhaith y Pererin,' atebai Gwilym, 'a 'rodd tyta wedi gweyd wrtha i mai ffor hyn odd e' yn rhwle.'

Wrth glywed y plentyn o'r braidd na wenodd y forwynig, ond disgleiriai ei llygaid fel fioledau dan wlith y boreu.

A phwy ych chi 'nte?' ebai'r eneth ym mhen ysbaid.

'Gwilym Plas Newydd w i,' atebai'r plentyn.

'A pham o'ech chi am wel'd y Ty Prydferth?' ebai'r eneth drachefn.

Yr oedd Gwilym bron wylo erbyn hyn, er holl garedigrwydd y forwynig.

'O, 'rown i'n meddwl,' dywedai, y ceswn ni fyw o hyd yndo fe gyda Phwyll, a Chariad, a nhw i gyd, a fyswn i byth ym myn'd bant o wrthyn nhw, byth, byth. A mae llun Cariad yn gymws yr un peth a chi

'Odi e', machgen bach i!' ebai'r Forwynig, a'i llygaid yn gwlitho yn fwy fyth, wrth godi Gwilym yn ei breichiau, a gwasgu ei ben cyrliog at ei grudd. 'Ag 'rych chi wedi dwad i wel'd Cariad yn y Ty Prydferth, odi chi? Wel, mi gewch chi i gwel'd hi, a cewch !'

A'r Forwynig a gymherth Gwilym i'w nhodded, ac â'i dygodd i'r ty, gan alw ar ei mham. A hi â'i rhoes ef i eistedd wrth dân hawddgar mewn ystafell brydferth, ac a eisteddodd yn ei ymyl, gan ei gynhesu a'i gusanu ac ymddiddan âg ef mewn geiriau caredig a difyr. Ac ym mhen ysbaid ei mham a alwodd ar un o'i llawforwynion, a hi a roddes iddo ddiod a lluniaeth. A Gwilym a drigodd y dydd hwnw ym Mryn Hyfryd, gan wledda ar ddanteithion melus, ac adrodd hanes Cristion wrth y Forwynig a'i mham.

Ac yn y cyfamser, danfonwyd negesydd i Blas Newydd i ddweyd wrth y teulu pryderus fod y pererin bach yn ddiogel yn nhy Mrs. Bevan, gweddw Mr. Bevan, y Siop Fawr, Llangoediog.

A phan oedd y prydnawn yn dechreu cilio o flaen llwydnos, a lleni y nos yn disgyn dros y bryniau ar y dyffryn tawel, daeth Henri i ymofyn Gwilym o Fryn Hyfryd, yn llawn esgusodion dros Gwilym, a diolch am yr oll yr oedd Mrs. Bevan wedi wneyd drosto. Ond nid oedd y Forwynig yn foddlon i ollwng Gwilym i ddychwelyd gartref. Aeth hi a'i mham i hebrwng Henri ac yntau yr holl ffordd i Blas Newydd, ac os byth y blinai Gwilym gerdded, ni ollyngai i neb i'w gario. ond hi ei hunan. Pan ddaethant hyd at Blas Newydd, erfyniodd am faddeuant i Gwilym, ac adroddodd yr hanes gyda'r fath deimlad a swyn fel na allai Elen wneyd dim ond gwasgu y plentyn a gollwyd at ei mhynwes, a dododd ef yn ei wely i gysgu wrth ochr Benni Bach heb ddweyd yr un gair croes wrtho. Ac aeth y Forwynig i'r ystafell wely ar ol i Gwilym ddweyd ei bader, a chusanodd y ddau yn ysgafn, canys yr oeddynt erbyn hyn yn cysgu.

A phan ddihunodd Gwilym a Benni Bach boreu dranoeth, wele, cawsant ddwy dafell fawr o deisen frau ar eu gobenydd, a dywedai Gwilym ei fod yn sicr mai rhodd Cariad oeddynt, ac yn hyn, nid oedd ymhell o'i le.

PENOD V.
GWEDDI GWILYM A BENNI.

Holwr heb ei ail oedd Gwilym. Yr oedd am wybod y cyfan am bawb a phob peth, ac ni fu cyfreithiwr erioed mor anodd ei dwyllo ag atebiad amhenodol. Yr oedd Elen, druan, wedi hen orfod rhoddi y goreu iddo, ac yr oedd ei dad yn dechreu ofni ei gwestiynau treiddgar.

Nid oedd dim yr oedd Gwilym mor hoff o wneyd a gofyn cwestiynau ynghylch y Beibl. Un dydd Sul, pan oedd Gwilym o gylch seithmlwydd oed, yr oedd Mr. Jones, gweinidog Salem, wedi bod yn pregethu ar y geiriau Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.' Arfer Mr. Jones bob amser oedd parotoi bwyd cryf i'r cedyrn, a bwyd gwan i'r gweiniaid. Ei gyngor yn wastad i bregethwr ieuanc oedd,

'Cofiwch, 'y machgen i, fod yn yr Eglwys, fel yn y byd, amrywiol ddoniau, ac mi ddylech roi rhwbeth iddyn nhw gyd. 'Dall Mari Tyffald, druan, ddeall dim ond stori fach,—a 'do's gyda chi ddim hawl ei starfo hi er mwyn esbonio dyrus bethau'r ffydd i'r diaconiaid. Peidwch codi'r rhastal yn rhy uchel, 'y machgen i, neu cheiff yr wyn a'r defaid bach ddim bwyd. Ac nid y rhai sy'n deall fwya sy'n gneyd y crefyddwyr goreu'n wastad.'

Ni fyddai Mr. Jones, felly, byth yn pregethu hyd yn oed bregeth 'athrawiaethol,' heb ddweyd stori fach, neu wneyd cymhwysiad syml ac agos o'r gwirionedd oedd ganddo dan sylw. Dywedai llawer fod hyn yn wendid. ynddo. Yr oedd yn ddoniol gwel'd fel yr oedd Daniel y Bryn, y diacon henaf a'r gwr callaf yn Salem, yn agwrando ar Mr. Jones. Clustfeiniai ar y rhagymdrodd; eisteddai yn syth a byddai gwen foddhaus ar ei wyneb pan fyddai'r pen cyntaf yn cael ei drafod; yna delai'r stori,—a phlygai Daniel ei ben a chauai ei lygaid mewn cywilydd; ond pan ddelai'r pen diweddaf, agorai ei lygaid drachefn, a dangosai yn amlwg ei fwynhad. Ond, boed gwg, boed clod, yr un peth wnelai Mr. Jones.

Tynwch sylw'r bobl a 'ch brawddeg gyntaf, 'y machgen i' arferai ddweyd. Ymresymwch ar eich pwnc yn y pen cyntaf—ceffyl cryf ddylai fod yn y shaft. Cymhwyswch eich gwirionedd yn y diwedd ceffyl pert sydd eisieu yn geffyl blaen; a dodwch eich ceffyl useful rhwng y ddau.'

Beth bynag am werth ei gynghorion, y mae yn sicr fod Mr. Jones yn eu dilyn, ac mai efe yw'r pregethwr mwyaf poblogaidd yn y sir. Ac nid yw, yn ol arfer rhai, wedi enill ei boblogrwydd oddicartref drwy esgeuluso ei eglwys ei hunan, o herwydd y mae yn parhau o hyd yn ei boblogrwydd yn Salem. Ond hyn sydd wedi fy synu lawer gwaith—mai y ceffyl useful, fel dywedodd yntau, sydd yn gwneyd y gwaith goreu. Mae'r pen cyntaf yn boddhau Daniel y Bryn, ac ambell un arall; mae'r cymhwysiadau pert, miniog yn cael effaith angerddol ar y pryd; ond yr hyn a ddywed, megis mewn cromfachau, rhwng y ddau, hwnw sydd yn gafael yng nghof a chydwybod y rhan fwyaf o'r bobl!

Ac fel hyny y bu pan oedd yn pregethu ar daer weddi y cyfiawn.' Bu yn siarad am ychydig fynudau, ynghanol ei bregeth, wrth yr hen wragedd a'r plant. Defnyddiai eiriau syml, dirodres, hawdd eu deall, hawdd eu 'styried,' ys canodd yr Hen Ficar.

'Ie,' dywedai Mr. Jones, 'pe tae gyda chi ond cymaint a hedyn mwstart o ffydd, chi allech wneyd i'r Mynydd Du dreiglo i'r môr. Ond mae'n rhaid fod genych ffydd, mae'n rhaid i chi gredu y ceiff eich gweddi ei hateb. Rhaid i chi beido bod fel yr hen wraig hono fu'n gweddio wrth fyn'd i'r gwely ar i'r Arglwydd symud ymaith y mynydd oedd o flaen drws ei thy. A phan gododd boreu dranoeth a gweld y mynydd yno, 'rown i'n meddwl' meddai, 'mai man hyn y byset ti wedi'r cwbl.'

Yr oedd Daniel y Bryn yn cauad ei lygaid ac yn crychu ei dalcen, ac yr oedd gwên ledwawdlyd ar wyneb Mr. Thomas, yr hen ysgolfeistr, wrth glywed Mr. Jones yn disgyn i 'glebran' fel hyn. Ond, wedi'r cyfan, dyna'r hyn lynodd wrth feddwl y gynulleidfa, ac yn enwedig wrth feddwl Gwilym.

'Mami' meddai ar giniaw, ar ol myn'd gartref, 'a fyse'r mynydd wedi mynd bant i'r môr ta'r hen feniw yn credu y bydde fe'n myn’d?'

'Bydde, o bydde,' ebai Elen yn frysiog, oblegid yr oedd yn ofni beth oedd yn dyfod.

'A roiff Iesu Grist bob peth i fi os bydda i'n credu ca' i e?'

Gneiff' atebai Elen, os bydd e ar eich lles chi i ga'l e.'

'A neiff e i fine, mami?' gofynai Benni Bach. 'O gneiff 'y machgen i,' meddai Elen. Cerwch chi mlan a'ch cino' nawr, ne mi oerith y tato.'

'A ta tyta ddim ond gofyn iddo fe a chredu,' meddai Gwilym, ar ol tipyn o ystyriaeth, 'fyse Tywi ddim yn llifo dros y ceie?'

'Na fyse, wrth gwrs,' dywedai Elen yn swrth, tra 'roedd Henri bron a thori allan i chwerthin.

'Wel, pam na fyse tyta yn gofyn 'te?' meddai Gwilym, oblegid un o brif helbulon Henri yn y gauaf a'r gwanwyn oedd y difrod a wneyd gan lif yr afon.


'Nawr, 'nawr,' ebai Elen, dyna ddigon o holi 'nawr. 'Mrowch chi i fyta'ch cino i chi ga'l mynd 'nol mewn pryd i'r ysgol.'

A therfynodd yr holi a'r ateb, fel y gwnelai bob amser, drwy adael cywreinrwydd Gwilym heb ei ddiwallu. Nis gallai Gwilym lai na meddwl boreu dranoeth am y peth wrth fyn'd i'r ysgol—oherwydd yr oedd y ddau bob dydd yn yr ysgol, Gwilym erbyn hyn yn Standard ii, a Benni Bach newydd gael ei symud i Standard i. Yr oedd yn ddiwrnod glyb, a gollyngwyd y plant lleiaf yn rhydd yn gynar yn y prydnawn. Penderfynodd Gwilym a Benni Bach groesi adref drwy'r caeau, lle dilyn heol y plwyf, a chan gymaint eu brys, ni wnaethant aros i gael cwmni Tom Brynglas a'r bechgyn mwyaf. Daethant yn ddidaro bron hyd at Blas Newydd, ond ar odrau Gwaun-y-Cwm, yr oedd cwter agored. Nid oedd neb wedi meddwl taflu pon-pren drosti, gan mor fechan oedd hi, a gallai Benni Bach gamu drosti, fel rheol, yn rhwydd. Ond y dydd hwnw yr oedd wedi bwrw glaw mor drwm, fel yr oedd y dwr wedi llifo dros geulanau'r rhewyn. Safai Gwilym a Benni Bach yr ochr draw yn ffaelu dyfalu am amser beth i wneyd.

Trueni na fyse jacoise gyda ni,' meddai Benni Bach. 'Rodd Tom Brynglas yn cerdded drw'r pownd pw ddwarnod arni nhw.'

'Ie, ne ta ni'n gallu hydfan fel deryn bach,' meddai Gwilym.

Ac yna yna buont yn cerdded yn ol ac ymlaen i gael gweled os oedd lle y gallent gamu dros y ffrwd fach lidiog, ond methwyd gweled yr un. O'r diwedd meddai Gwilym,

Ta ni ddim ond gweddio a chredu, falle y byse Iesu. Grist yn gneyd i'r dwr 'ma fyn'd bant,'

'Falle fe?' gofynai Benni Bach, braidd yn amheus.

'Byse, wrth gwrs,' dywedai Gwilym, yn fwy penderfynol nag o'r blaen. 'Odi e ddim yn cofio beth wedodd Mr. Jones yn y cwrdd bore ddo?

'Odw,' meddai Benni Bach, gan deimlo mwy o hyder wrth weled fod Gwilym yn bendant ar y pwnc.

'Well i ni weddïo 'te, i'r dwr fyn'd bant?' ebai Gwilym.

O'n goreu,' meddai Benni Bach.

'Ma'n rhaid i ni beido dwyno'n trowsus,' ebai Gwilym, 'ne' ma mami 'n siwr o gadw stwr â ni.'

Aeth y ddau ychydig lathenau tu ol hyd nes y cawsant le sych.

'Dodw e ei hancisher dan ei benlinie,' meddai Gwilym.

Taenodd y plant eu macynau poced ar y llawr, a phenliniodd y ddau arnynt a'u gwynebau at y gwter. 'Mae e'n agor ei lyged, Benni,' meddai Gwilym yn ddisymwth.

'Nag w i,' atebai Benni Bach, gan gauad ei lygaid yn dyn.

'Cofiw e 'te,' dywedai Gwilym, 'ne eiff Iesu Grist ddim a'r dwr bant.'

Wi'n ceuad 'yn llyged yn howld ffast,' meddai Benni Bach.

'O Iesu Grist,' ebai Gwilym, mae eishe myn'd gatre ar Benni Bach a fine, ac yr yn ni am i ti fyn'd a'r dwr yma bant. Amen.'

'Amen,' dywedai Benni Bach, gan agor ei lygaid. Ond yr oedd y dwfr yno o hyd!

Mae'r dwr yma yto, Gwilym,' meddai Benni Bach. 'O nag yw,' meddai Gwilym, ar ol meddwl am eiliad. 'Nid dwr yw hwna.'

Beth yw e 'te?' gofynai Benni a'i lygaid fel afalau surion bach yn ei ben.

'O,' atebai Gwilym gyda chymaint awdurdod a hen dduwinydd, 'y diafol sy'n treio'n twyllo ni mai dwr yw e. Mae Iesu Grist wedi myn'd a'r dwr bant.'

'Odi e?' gofynai Benni Bach, ac anghrediniaeth ym mhob goslef o'i lais.

'O odi, medd Gwilym, gan fagu gwroldeb wrth ymresymu.

Ond nid oedd mor rhwydd argyhoeddi Benni Bach. O'r diwedd cafodd Gwilym yr afael drechaf ar ei amheuaeth, a dyma'r ddau yn cerdded tuag at y dwr. Nid oedd Benni Bach yn eithaf boddlon, feallai, ond elai Gwilym ymlaen yn benderfynol, a Benni Bach yn ei law. Daethant i ochr y dwr, yna aethant iddo. Dechreuodd y dwr redeg at eu traed dros ymylon eu hesgidiau, a chyn pen hir yr oeddynt ynghanol y rhewyn, a'r dwr llwyd i'r lan dros eu penliniau.

Wedi cyrhaedd yr ochr draw, ni ddywedodd Gwilym air.

'Wi'n shwc-shac,' gwaeddai Benni Bach, gan chwerthin, a cherdded ar flaenau ei draed, nes oedd dwr yn pistyllu allan drwy dyllau careion ei esgidiau.

'Dewed, Benni Bach,' meddai Gwilym, mae mami'n siwr o ddyfrio'n ddychrynllyd.'

Gwir a ddywedodd. Nid â geiriau yn unig y cospodd Elen hwynt pan ddaethant i'r ty, ond bu ei llaw mor brysur a'i thafod am beth amser. Gorfu i'r ddau fyned i'r gwely yn union ar ol cael tê, ac yno, yn nistawrwydd yr ystafell dawel, bu Gwilym a Benni Bach yn rhyfeddu ac yn dadleu ynghylch yr helynt.

'Odi Iesu Grist ddim yn folon gneyd beth i ni am iddo neyd?' gofynai Benni.

'O odi, gwlei,' atebai Gwilym gan synfyfyrio.

Wel, pam odd e'n gellwn i ni lychu'n dillad?' meddai Benni.

Ni ddaeth atebiad Gwilym ar unwaith. Ar ol eiliad neu ddwy o betrusder,

'Benni Bach,' meddai, mi agores i'n llyged wrth weddïo.'

Bu distawrwydd am beth amser ar ol hyn.

'Gwilym ?' meddai Benni Bach ym mhen tipyn. 'Ie?' dywedai Gwilym.

'Mi agores ine'n llyged hefyd,' ebai Benni Bach. A chyn pen pum' mynud yr oedd y ddau yn cysgu yn dawel.

PENOD VI.
BREUDDWYD BENNI BACH.

Nis gellir dirnad y gwahaniaeth wnaeth siwrne Gwilym i'r Ty Prydferth ym mywyd y ddau blentyn Yr oedd Cariad,' fel y mynai Miss Bevan iddynt ei galw, byth a hefyd ym Mhlas Newydd ar ol hyny, yn chwareu â'r plant, neu yn adrodd hanesion a dychmygion wrthynt. Ni chafodd neb erioed ffyddlonach gwrandawyr nag a gafodd Cariad yng Ngwilym a Benni Bach. Mynych y dychmygaf weled eto o flaen fy llygaid un o'r golygfeydd dedwydd hyny, pan fyddai Gwilym a Benni o'i hamgylch, yn lygaid ac yn glustiau i gyd, yn clywed am y tro cyntaf yr hanes am ddewrion Arthur a'r Ford Gron, neu am ystranciau y Tylwyth Teg, neu am wrhydri Buddug a Gwenllian, neu ryfeddodau gwlad Arabia, a mil a mwy o bethau ereill na ddaeth i'w gwybod na'u mheddwl erioed o'r blaen. A gwelaf, hefyd, yn eglur, ddarlun prydferth o'r Forwynig hygar, a'i llygaid yn dyhidlo sirioldeb, a'i gwallt eur-sidanaidd yn ffluwch, a'i gruddiau yn wridog gan fywyd nwyfus, a'i gwefusau—ond pa ham y gwnaf geisio desgrifio'r olygfa? Wrth edrych arnynt eill tri gyda'u gilydd nis gallai nag Elen na Henri na finau beidio teimlo'n calonau cynhesu at yr hon oedd wedi llithro i'n bywyd, fel pelydr haul ar foreu teg, i sirioli a goreuro y pethau distadlaf a ddigwyddai i ni.

Nid y plant yn unig oedd yn mwynhau yr ystorïau. Gwnai Elen ryw esgus neu gilydd i fod yn agos i gael clywed am y rhyfeddodau. Eisteddai wrth ochr y bwrdd â sanau i gwyro neu waith gwnio, ac os byth y gallai, tynai Henri ei gadair at y goleu gan esgus darllen ei lyfr newyddaf neu'r Faner,' neu bryd arall, byddai yn llawn helbul yn ceision gosod ar gof a chadw yn y llyfr cownt' faint. oedd wedi dalu i'r wniyddes dros Marged y llaethwraig, neu faint oedd Tom y waginer wedi gael o'i gyflog i fyn'd i ffair Gwyl Barna. Ond fel yr elai Cariad ymlaen â'i stori, anghofiai Elen ei sanau a Henri ei drafferthion arianol, ac yr oeddem ninau ein tri mor awyddus i glywed y diwedd a'r ddau blentyn. Am danaf fi fy hun, nid gwiw i mi wadu i mi wario llawer mwy o amser ym Mhlas Newydd ar fy ngwyliau yr haf hwnw, nag oedd yn weddus mewn bachgen wyth ar hugain oed, oedd ond wedi newydd dechreu byd yn Abertawe fel meddyg. A phan elai Cariad yn ol i'r Ty Prydferth, awn inau i'w hebrwng heibio i goed tywyll y Plas, yn methu dweyd llawer wrthi, ond O! yr oedd fy nghalon yn myn'd mor gynted a chalon Myfanwy yng ngardd Dinas Bran. Ac ar ol i Gariad roddi ei llaw dyner yn fy llaw i wrth ddweyd ei Nost da' serchog ar drothwy drws Bryn Hyfryd, byddwn yn cerdded yn ol i'r heol fawr ac yn gwylio'r ty hyd nes y byddai'r holl le yn dywyll ac yn dawel, ac wrth fyn'd gartref byddwn yn mwmian canu'r 'Deryn Pur,'

Pan ei gwelas, syth mi safas
Yn fy nghalon mi feddylias,
Wele'r ddynas, lana'r deyrnas,
A'i gwên yn harddu'r oll o'i chwmpas,
Ni fynswn gredu un dyn byw
Nad oedd hi ryw angylas.

Maddeu im, ddarllenydd anwyl, am dy dywys fel hyn oddiar y ffordd, ond y mae yn anodd osgoi weithiau dweyd gair o brofiad personol. Ac os y cafodd ymweliadau Miss Bevan â Phlas Newydd gymaint o effaith arnaf fi, yr hwn wyf wr llariaidd a chyffredin, nid oes eisieu dweyd iddynt gael dylanwad llawer mwy ar 'y pererin bach' fel y galwai hi Gwilym, ac ar Benni ei frawd. Ym myd y dychymyg y byddai'r ddau fyw am ddiwrnodau ar ol un o'i hymweliadau, ac yn y nos breuddwydient freuddwydion am bobl a gwledydd a phethau na chlywodd neb son am danynt erioed.

Y mae pawb ym Mhlas Newydd yn credu mewn breuddwydion. Gwir fod Henri yn esgus gwneyd spri am ben Elen a'r morwynion ambell waith am eu bod yn dodi cymaint o dda arnynt, ond yr wyf yn dirgel gredu, ys dywed Mr. Jones, Salem, fod Henri a mwy o ffydd ynddynt nag yw yn foddlon cyfaddef. Yr wyf yn cofio dadi frwd iawn yn yr Ysgol Sul Tin tro ynghylch breuddwyd Pharaoh. Yr oedd Tomos y Crydd yn chwerthin ar ben y cyfan.

'Lol i gyd yw meddwl,' meddai, 'fod dal ar freuddwydon. Hawyr bach, odi dyn yn gallach pan mae e'n cysgu na phan mae e ar ddihun? Os yw e, gore i gyd pwy hwya y cysgwn ni! Gaton ni, pwy synwyr sy yn y fath beth?'

'Wel,' meddai Henri, 'odi chi ddim am ddweyd na ddylen ni ddim credu beth mae'r Beibi yn ddysgu?'

'Daf fi ddim i ddweyd,' atebai Tomos, 'nag o'dd Duw yn llefaru yn yr amser gynt mown llawer dull a llawer modd. Yr oedd e'n arfer gneyd gwyrthie—os gwyrthie i gwei'd 'nawr? 'Rodd prophwydi yn arfer bod ar y ddaear—'do's dim Tin i ga'l 'nawr tu fas i'r Almanac. A pham y credwn ni'n ots am freddwydon?'

Nid yw Elen a Marged y llaethwraig yn cytuno, serch hyny, yn eu dull o ddeongli breuddwydion. Edrycha'r ddwy ar freuddwyd fel alegori. 'Y saith mlynedd newyn yn yr Aifft,' y mae Elen yn hoff o ddweyd, ro'en nhw'n ca'l eu dangos dan ffurf saith o dda culion. Fel'ny,' dyw breuddwyd ddim i ga'l ei ddeongli ond fel cysgod a rwbeth arall' Ond tra yr oedd y ddwy, Elen a Marged, yn cytuno yn hyn, yr oeddynt yn gwahaniaethu yn eu barn ynghylch un peth pwysig iawn. Yr oedd Marged yn dweyd y dylid deongli breuddwyd i'r gwthwyneb.' Fel hyn; os y breuddwydiai hi y cawsai gariad newydd yn Ffair Galan Mai, byddai hyny'n arwyddo na chai gariad newydd am saith mlynedd. O'r ochr arall, yr oedd Elen o'r farn fod breuddwyd yn gysgod o'r hyn oedd i ddigwydd, ac er fod y cysgod, feallai, yn gwahaniaethu rhywfaint oddiwrth y gwrthrych, eto ei fod yn ddigon tebyg iddo, i alluogi dynion hysbys' i adnabod beth oedd i ddisgyn i ran y breuddwydiwr.

Bu amser pan y credai Elen fod dàl ar freuddwydion plant, ond yr oedd hyny cyn i Benni Bach ddadblygu ei gyneddfau breuddwydiol. Nid oedd Elen wedi colli pob ffydd ym mreuddwydion Gwilym, ond am Benni Bach—o'r braidd yr oedd yn foddlon gwrando arno yn adrodd ei freuddwydion wrth y ford ar frecwast. Un noswaith breuddwydiodd Benni fod cyrn wedi tyfu ar ei ben.

A ro'en nhw'n tyfu at eu gilydd,' meddai, 'fel cyrn Crabi,' (un o'r gwartheg).

'Beth sy' ar y plentyn?' dywedai Elen. Cyrn yn tyfu ar eich pen chi? Mi gymersoch chi ormod o gawl i swper neithwr. Rhaid i fi beido rhoi swper i chi o hyn i ma's.'

Ond nid ffolineb oedd y breuddwyd yng ngolwg Marged y llaethwraig.

'Rhaid i chi ei ddeongli e i'r gwrthwyneb, mystres fach, meddai Marged. Ei ystyr e yw, 'stim dowt, na fydd byth gyrn ar ben Benni Bach, ond y bydd cyrn ar ei drad e.'

Ar noswaith arall breuddwydiodd Benni Bach ei fod wedi cael gafael mewn syfien fawr y fwyaf welwyd dan haul yn Rhandir Cae Mawr. Yn ei freuddwyd tybiodd ei fod ef a Gwilym wedi bwyta twll mawr yn y syfien oedd yn ddigon i'w gollwng eill dau i mewn iddi, ac iddynt i fyw am ddiwrnodau dan ei chysgod—fel y bydd milwyr fyw mewn pabell. Mor gryf oedd yr ar graff adawodd y breuddwyd ar ei feddwl, ac mor sicr y teimlai y gallai fyn'd yn gymhwys at y fan a'r lle, fel aeth ef a Gwilym i'r cae i chwilio am dani; ond er chwilio am oriau, ni welwyd byth mor syfien.

Ond breuddwyd mwyaf nodedig Benni Bach oedd breuddwyd 'Brenhin y Tylwyth Teg.' Yr oedd Miss Bevan wedi bod yn dweyd hanes y Tylwyth Teg wrth y plant, ac yn desgrifio'r bobl fychain a welodd y Bardd Cwsg yn dawnsio yn eu capau coch, fel haid o Šipsiwn, ar ben y mynydd. A'r noswaith hono, breuddwydiodd Benni Bach ei freuddwyd mwyaf hynod.

'Gwilym,' meddai yn gynar boreu dranoeth, gan eis— tedd yn syth yn y gwely, a'i lygaid heb eithaf agor.

Yr oedd Gwilym yn cysgu'n drwm wrth ei ochr. Edrychodd Benni Bach arno am fynud. Yna gorwedd— odd yn esmwyth, tynodd y dillad dros ei ben cyrliog, a cheisiodd fyn'd i gysgu drachefn, gan furmur wrtho ei hun;

'Treuni ei ddyhuno fe.'

Mewn ychydig anesmwythodd drachefn, taflodd y dillad gwely oddiar ei wyneb, ar arosodd am rai mynudau yn syllu ar ddwy gleren yn chwareu rhwng ei ben a'r ceiling. Ond yn fuan cododd ar ei eistedd yr ailwaith. Edrychodd drachefn ar ei frawd; dododd ei law ar ei ysgwydd,

'Gwilym,' meddai yn ddistaw yn ei glust, 'Gwilym.' 'Be' sy'n bod?' gofynai Gwilym heb agor ei lygaid. 'O, dyna freuddwyd ges i neithwr,' dywedai Benni. 'O, gellw i fi gysgu,' meddai Gwilym yn go sarug. Arosodd Benni Bach yn ddistaw am beth amser, ond eto aeth ei awydd i ddweyd yr hanes yn drech na'i deimlad dros ei frawd. 'Gwilym,' meddai, gan ei ysgwyd yn ysgafn 'amboitu'r Tylwyth Teg 'rown i'n breuddwydo.'

'Amboitu'r Tylwyth Teg?' dywedai Gwilym, gan godi ar ei eistedd, a'i lygaid yn agor led y pen.

'Ie,' atebai Benni, gan wneyd y goreu o'r cyfle, rown i'n meddwl i fod e' a fi ym myn'd tua'r ysgol, ac ar dòp y Cae Hir mi aroson i bigo shifi ar y clawdd.'

'Hen freuddwyd amboitu shifi sy' gydag e' yto,' torai Gwilym i mewn yn siomedig. 'Rown i'n meddwl taw amboitu'r Tylwyth Teg o'dd e' wedi breuddwydo.'

'Arosw e' fyned, i fi ga'l gweyd,' atebai Benni Bach. Ac ar ol pigo'r shifi dyma ni'n starto wed'yn ac yn treio croesi'r sticil sy' ar ben Cae Hir, ond 'roen ni'n ffaelu'n lân!'

'Pa'm na allen ni groesi'r sticil?' gofynai Gwilym. 'Dyna beth o'en ni'n ffaelu diall,' meddai Benni. Ta shwt y byse ni'n treio, 'doedd dim posib ei chroesi hi. Ac yna dyma ni'n treio myn'd 'nol tua gatre ond 'do'dd dim posib i ni symud 'nol na 'mlân.'

'Hen freuddwyd dwl yw hwna,' ebai Gwilym yn wawdlyd.

'Gellw e' i fi ddybenu,' atebai Benni. A dyna lle. buon ni am wn i bwy cyd! Ag o'r diwedd dyma fi'n gweyd, 'Wi'n ffaelu diall be' sy'm bod A chyda hynny dyma ni'n clywed rhyw un yn gweyd yn y berth. 'Licset ti wbod, licset ti?'


'Pwy o'dd yn y berth te?' gofynai Gwilym yn syn.

'Dallen ni ddim gwel'd,' meddai Benni. A dyma fyne'n ateb miwn tipyn, Lyeswn.' A dyma'r llaish yn gweyd, 'Rwyt ti a Gwilym ynghenol cylch y Tylwyth Teg, a mae'n rhaid i chi'ch dou ddwad gyda fi.' Pwy 'ych chi, syr?' mynte ni. Fi yw Brenhin y Tylwyth Teg,' mynte fe. A chyda'r gair dyma fe'n dwad ma's o'r berth.'

'Shwt un o'dd e'?' dywedai Gwilym, yn fwy syn fyth.

'Hen ddyn bach bitw, bitw o'dd e',' dywedai Benni, 'lawer llai na babi Pen Cae, ond 'ro'dd gydag e' drâd mowr, mowr, ag 'ro'dd i wishgers e'n cwrdda'r llawr.'

'Ych y fi!' meddai Gwilym, 'wi'n falch nag y fi gwelws e'.'

Ag 'ro'dd i laish e' fel llaish Wil Tanlan yn canu bâs,' aeth Benni ymlaen i ddweyd.

A beth 'nath e' wed'yn?' gofynai Gwilym.

'Ro'dd gydag e' ffon fach yn ei law,' meddai Benni, 'a dyma fe'n bwrw'r llawr a hono, ag yn gweyd,

Cer ffor' hyn,
Cer ffor draw,
Hindda heddi,
Fory glaw.'

'Dyna beth mae Marged yn weyd,' torai Gwilym i mewn.

Ag yna,' dywedai Benni, 'dyma dwll mowr yn agor yn y ddaear na welse fe ddim o'r gwaelod! Dyna lle wi'n byw', mynte'r Brenhin, mae'n rhaid i chi ddwad gyda fi.' A dyma fe'n clymu hancisher dros ein llyged ni, fel ta ni'n myn'd i whare 'mangu lath,' a lawr o'en ni'n myn'd am oriau.'

'I genol y ddaear?' gofynai Gwilym.

'Ie, i genol y ddaear,' atebai Benni. Ag o'r diwedd. dyma ni'n dwad i'r cenol yn deg, a dyma'r Brenhin gweyd, Dyma'r lle wi'n Frenhin.' Ag wedyn mi dynws yr hancisher o ar ein llyged ni, ag O! dyna le pert o'dd yno!'

'Beth o'dd 'no?' gofynai Gwilym, yn lygaid i gyd. 'Yn y cenol 'ro'dd yno gader,' ebai Benni, gan siarad yn bwyllog, 'o'dd wedi ei gneyd o our i gyd, ag ar hono 'ro'dd y Brenhin yn ishte. Ag ar ei phwys hi 'ro'dd cader o arian i gyd, ag ar hono 'ro'dd meniw fach, 'run peth a'r feniw fach o'dd ym byw yn ei hesgid, yn ishte lawr. A rownd amboitu 'ro'dd milodd ar filodd o ddynon bach a wishgers hir yn ishte ar gadeire bach o our neu o arian. Pwy yw'r 'rhain?' mynte'r feniw fach, gan bointo ato ni—hi o'dd y Frenhines. 'Gwilym a Benni Bach,' mynte'r Brenhin. Bant â'u pene, bant â'u pene,' mynte'r dynon bach gyda'u gilydd.'

Beth 'nethon ni wedyn?' gofynai Gwilym, braidd yn ffaelu cael ei anadl gan ei ddychryn.

'Neson ni ddim byd,' atebai Benni, wa'th 'ro'dd arno ni ormod o ofon. Ond mynte'r Frenhines wrth Brenhin, ‘Beth mae nhw wedi 'neyd?' 'Roen nhw'n demshgyn ar y glaswellt yng nghylch y Tylwyth Teg,' mynte fe. Bant a'u pene, bant a'u pene,' mynte'r dynon bach i gyd wedyn.

Falle nag oen nhw ddim yn gwbod,' mynte'r Frenhines. Nag oen ni wir, yn wir,' mynte nine.'

Beth wedodd hi wedyn,' gofynai Gwilym.

'Peidwch tori pene nhw bant,' mynte hi, 'ond gnewch nhw i fyta'r fale sur.' 'Byta'r fale sur, byta'r fale sur,' mynte'r dynon bach gyda'u gilydd. A dyma'r hen Frenhin yn gofyn, 'P'un well geno chi gael tori 'ch pen chi bant ne fyta'r fale sur.' ' 'Byta'r fale sur,' medde nine. O'r gore, 'te,' mynte'r Brenhin, dewch chi gyda fi. A gydag e' yr ethon ni, nes i ni ddwad o'r diwedd i berllan fowr yn llawn o fale surion bach. 'Nawr,' mynte'r Brenhin, 'bytwch chi afal o'r pren hyn, gan bointo at y pren cynta'. A dyma nine'n byta'r fale, a 'doen nhw ddim yn sur o gwbwl!'

'Ddim yn sur?' dywedai Gwilym, 'Pa'm oen nhw'n galw nhw'n fale sur 'te?'

'O, nid am i bod nhw'n sur,' atebai Benni, ond am i bod nhw'n gneyd i'r dynon o'dd yn i byta nhw i ddryched yn sur.'

'Own i'n dryched yn sur?' gofynai Gwilym.

'Rown i ddim yn dryched arno fe ar y cynta,' meddai Benni. Wath gyda'n bod ni wedi dybenu byta'r fale, 'rodd y Tylwyth Teg wedi gneyd ring amboitu ni, a dyna lle'r oen nhw'n downso'n rownd i ni, fel ta nhw'n whare ring a ring a rosi, pic a pic a posi, ag yn sgrechen ag yn 'wherthin.'

Pa'm oen nhw'n 'wherthin?' dywedai Gwilym.

'Rown i'n ffaelu diall ar y cynta,' atebai Benni, 'ond fel 'roen nhw'n downso'n rownd i ni 'roen nhw'n canu,

Trwyn, trwyn,
Drych ar eu trwyn,
Ond ôs fath olwg ar eu trwyn.

'Hwfft!' meddai Gwilym, 'dyna beth mae Cariad yn ganu.'

'Wel, ta beth,' ebai Benni Bach, 'dyna beth o'dd y Tylwyth Teg yn ganu. A miwn tipyn dyma fi'n clwed rhwbeth mas o le ar 'y nhrwyn, a dyma fi'n dedi'n llaw arno fe.'

'O'dd rhwbeth yn rong arno fe?' gofynai Gwilym. 'Ro'dd e' wedi pryfo nes o'dd i flân e'n cwrdda'r llawr,' meddai Benni Bach yn ddifrifol.

'O'dd 'yn un i hefyd wedi pryfo?' gofynai Gwilym, gan deimlo i drwyn rhag ofn fod y stori'n wir.

'Ro'dd ei un e' yn wath na'n un i!' atebai Benni, 'ond 'ro'dd 'y nhrwyn i yn streit a yn rhwbio yn erbyn y llawr o hyd. Ond 'ro'dd i un e' yn gam fel cryman, a fel'ny do'dd e' ddim yn rhwbio yn erbyn y llawr, ond 'ro'dd i flân e' wedi rowndo rhwng i gose fe.'

'Ych getsh!' meddai Gwilym, a ïas o ychryd yn rhedeg drwyddo, rwy'n falch na weles i e', ta beth.'

Ag ar ol gneyd spri ar'n pene ni am amser, dyma'r hen Frenhin,' ychwanegai Benni, yn gweyd, 'Nawr, chewch chi ddim myn'd gatre cyn y gallwch chi froch-gau y gaseg hyddug.' O gellwch iddi nhw i ga'l y trwyne bant,' mynte'r Frenhines. Na na i,' mynte'r Brenhin. Wel, gadewch i un o honi nhw 'te,' medde hi wedyn. O'r gore,' mynte'r hen Frenhin.' 'P'un o ni gas i wared e'?' gofynai Gwilym gan gydio drachefn yn ei drwyn.

'O,' meddai Benni, 'mi wedodd y Brenhin y ceien ni redeg râs a'n gilydd, a'r un ffyste gese golli ei drwyn.'

A ph'un ffystodd?' gofynai Gwilym.

'O,' atebai Benni, ro'dd 'y nhrwyn i ym bwrw yn erbyn y llawr o hyd, ag un tro mi cices e' nes o'dd e'n pistyllo'r gwaed, ond ro'dd i drwyn e' yn camu rhwng goese fe, a mi alle fe redeg yn ôl reit, a mi ffystodd e' fi o hewl.'

'A shwt colles i'y nhrwyn?' dywedai Gwilym.

Ar ddiwedd y ras' ebai Benni, 'dyma'r Frenhines yn dwad ymlan ato fe, ac yn rhoi poeri'r gwew iddo fe ar ddeilen dafol, ac ar ol i rwbio fe, mi gwmpws i drwyn ar y llawr o'i flaen e'. A dyma'r dynon bach yn gwaeddi ag yn screchen ag yn cydio yn y trwyn a'i gario fe bant gyda'u gilydd, ag yn gwaeddi,

Trwyn, trwyn,
Drych ar eu trwyn,
Ond és fath olwg ar eu trwyn.

'Ag o'dd i drwyn e' yn aros o hyd?' gofynai Gwilym. 'O'dd,' atebai Benni, 'ond ar ol iddi nhw fyn'd bant i gyd, dyma'r Frenhines yn rhedeg 'nol ag yn rhoi deilen dafol arall i fi a phoeri'r gwew erni. Rhwbiwch chi e' ar unwaith,' mynte hi, a gyda hyny, dyma fi yn dechreu tishan, a mi gwmpws 'y nhrwyn ine ar y llawr!'

A ffordd deson ni 'nol gatre?' gofynai Gwilym. 'Miwn tipyn,' atebai Benni, 'dyma'r hen Frenhin yn dwad 'nol wrth i hunan, a dyma fe'n gorwedd i lawr i fyn'd i gysgu. 'Drych di ar ol y ddau fredych hyn,' mynte fe wrth i wraig, ag yna mi ddechreuodd hwrnu nes o'dd yr holl le yn crynu i gyd. A dyma'r Frenhines yn dwad ato ni, ag yn gweyd, 'Licech chi fyn'd gatre, mhlant i?' 'Licen,' mynte nine. 'O'r gore,' mynte hithe, mi 'na i gaseg hyddug i chi 'nawr.' A dyma hi'n myn'd i grynhoi côd 'sgynydd, ag ar ol ea'l coeled o heni nhw, dyma hi'n dodi nhw at eu gilydd ag yn cynu tân. 'Dringadwch chi i ben y pren 'na,' mynte hi, a man gwelwch chi wreichonen yn dwad i'r lan atoch chi, neidwch ar i phen hi a gwaeddwch

Gaseg hyddug
Der' i'r golwg.

a mi eiff hi a chi 'nol yn ôl reit.' A dyma nine'n dou yn dringad y pren, ag miwn tipyn 'rodd y tân yn cynu a'r gwreichon ym myn'd i'r lan, ond 'ro'dd dim un yn dwad yn agos ato ni. Ag o'r diwedd dyma'r Frenhines ym myn'd ar bwys lle 'ro'dd y Brenhin yn cysgu, a dyma hi yn plwco dou welltyn o'i ben e', ag yn eu towlu nhw i'r tân, ag yn gweyd wrthi nhw,

Wreichon mowr
Cerwch 'nawr.

A dyna ddwy wreichonen fowr yn neido mas o'r tân, a dyma un o heni nhw yn dwad ato fe ag un ata i, a dyma ni'n dou yn neido arni nhw, ag yn gwaeddi

Gaseg hyddug
Der' i'r golwg.

A gyda hyny, 'roen ni'n ishte bagal abowt ar gefn caseg hyddug ddu fowr fel ta ni'n brochgau ceffyl, a lan a ni drwy'r twll fel y gwynt!'

A 'ro'dd yr hen Frenhin yn cysgu o hyd?' gofynai Gwilym.

'O'dd,' atebai Benni, 'ro'dd e'n cysgu pan oen ni'n dechre'r ffordd, ond pan oen ni wedi bod yn brochgau am amboitu awr, mi glywsen yr hen Frenhin yn hydfan lan whyr, whyr, ar ein hol ni mor gynted ag y galle fe, ag 'roen ni'n clwed e'n dwad yn nes, nes o hyd. Ond 'rodd y gaseg hyddug yn gynt nag ê, a gyda'n bod ni yn gwel'd tòp y Cae Hir, dyma'r hen Frenhin yn rhoi sgrech ddychrynllyd,—a gyda hyny mi ddihunes.' ****** Nid oedd gan neb esboniad i roddi ar y fath freuddwyd, pan adroddodd Benni Bach ef yr ail waith ar frecwast. Er hyny, daeth 'Stori Brenhin y Tylwyth Teg' yn un o draddodiadau'r teulu, a mynych y gwnaeth Cariad i Benni Bach ei hadrodd ar hirnos gauaf wedi hyn, ac y mae'n rhaid cyfaddef fod y stori, cyn i'r gwr bach ddybenu a hi, wedi tyfu mor hired a'i drwyn ar ol bwyta afal sur y Tylwyth Teg.

PENOD VII.
CHWAREU INDIAID.

'Nwncwl,' meddai Gwilym wrthyf un diwrnod, 'a welsoch chi ddyn du ariod?'

Yr oedd Cariad, mae'n debyg, wedi bod yn dweyd rhywbeth wrth y plant yn ddiweddar am yr Ethiopiaid.

'Do, lawer gwaith,' meddwn inau.

'Allan nhw ddim ca'l i golchi yn wyn?' gofynai Gwilym.

'Na allan,' meddwn inau, 'wath ma'r lliw du yn i gwa'd nhw.'

'Odi gwa'd nhw yn ddu, 'te?' meddai'r gwr bach. wedyn.

'Nag yw, am wn i,' dywedais, 'do's dim gwahaniaeth rhyngddo fe a gwa'd dyn gwyn.'

Be' sy'n gneyd nhw'n ddu 'te?' gofynai Gwilym. 'Nawr, yr wyf mor ffond o blant a nemawr i neb, ac y mae cymaint o amynedd genyf ag sydd yn werth i wr ei feddu; ond mae yn rhaid cyfaddef nad oeddwn yn foddlon i gael fy holi a'm croesholi fel hyn gan Gwilym. Atebais ef, gan hyny, braidd yn swrth.

'W'i ddim yn gw bod, 'y machgen i,' meddwn. 'Beth sy'n gneyd rhai pobol yn felyn ag erill yn goch?'

'Os dynon melyn a dynon coch i gâl?' gofynai Gwilym.

'Os, ma pobol China yn felyn,' atebais, 'a mae'r Indied sy' yn America yn goch.'

'Shwd mae Indied, 'te, yn America? holai'r plentyn. 'Rown i'n meddwl taw yn India 'ro'en nhw'n byw.' Yr oeddwn yn y ddalfa, ac nid oedd modd diangid. Gwnes y goreu o'r gwaethaf, a chymerais haner awr, neu ragor, i ddweyd yr holl hanes wrth fy nai. Adroddais fel y darfu i Golumbus hwylio ymaith gan feddwl taro ar draws ffordd newydd i India, fel y darganfyddodd America ac y credodd mai India oedd y wlad, ac fel y galwodd y trigolion yn Indiaid.

'A nit Indied y'n nhw'n reit?' gofynai Gwilym.

Nage,' meddwn inau, 'do's dim shiwrans pwy y'n nhw. 'Ro'dd rhai yn arfer gweyd mai Cymry o'en nhw.'

'Shwt o'en nhw'n Gymry? holai Gwilym. 'Odi nhw'n gallu siarad Cwmrag?'

'Na, nit Cymry y'n nhw,' atebais, 'ond 'ro'dd yr hen bobol 'slawer dydd yn credu taw Madog, mab i un o frenhinoedd Cymru, oedd wedi câl gafel gynta' yn America, a mai plant Madog, neu y Madogwys, oedd yr Indied Coch. A mi dda'th un ffeirad 'nol i'r wlad hyn i ddweyd ei fod e' wedi bod yn trafaelu ar lan afon fowr yn America, ymhell o wrth un tre neu bentre, ag iddo gâl i ddala yn ddisymwth gan yr Indied coch. A dyma'r Indied, yn credu taw Sais oedd e', yn penderfynu ei ladd e'.

'O'en nhw'n lladd pob Sais 'te?' meddai Gwilym.

'O'en, y pryd hyny,' atebais.

'A fysen nhw'n lladd Mr. Hartland?' dywedai Gwilym.

'Gynta bysen nhw,' meddwn, gan chwerthin. A dyma nhw'n clymu'r ffeirad, â rhaff wrth stanc, medde fe, yn partoi gogyfer a'i losgi e'.'

'Pam o'en nhw'n i losgi e'?' gofynai Gwilym. '

O, dyna'r ffordd o'dd gyda nhw i ladd eu gelynion,' atebais. A phan oedd e' wedi câl ei glymu, a'r tân yn dechre cynu, dyma'r ffeirad yn gweddio'n Gymrag. Man clwodd yr Indied, dyma nhw'n dechre dryched ar eu gilydd, a dyma'u Capten nhw yn gweyd ym mhen tipyn, Hei'r dyn!' mynte fe, 'nit Sais 'ych chi?' Nage,' mynte'r ffeirad, Cymro bach w i o sir Drefald— wyn.' 'Cymry y'n nine hefyd medde'r dyn coch, a 'dyn ni ddim yn myn'd i ladd ein brawd.' A dyma fe yn gwasgar y co'd tân, ag yn tori'r rhaff, ag yn gellwn y ffeirad yn rhydd!'

Am mai Cymro o'dd e?' dywedai Gwilym.

Ie, medde fe; ond 'do's neb yn credu'r stori 'nawr.'

'Ond ta fe'n Sais,' ebai Gwilym, mi fysen nhw wedi ladd e'?'

'O bysen, yn go siwr,' atebais inau.'

Llawer gwaith bu yn edifar genyf ar ol hyn i mi ddechreu ar hanes y gwyr cochion. Ni chefais lonydd cyn i mi ddweyd yr oll a wyddwn—a mwy na'r oll— am Indiaid America,—fel y maent yn byw mewn wig-wams, ac yn dal ceffylau gwylltion a lassoes, ac yn 'scalpo' eu gelynion, ac yn tynu mwgyn o 'bib tangnefedd,' gyda llawer iawn o fanylion ereill oeddwn yn gallu eu cofio o ystorïau Fenimore Cooper a Mayne Reade.

Ychydig a wyddwn, serch hyny, i ba ddefnydd yr oedd fy neiaint yn dodi eu gwybodaeth newydd, a pha beth fyddai'r canlyniadau. Ni ddaethum i wybod y cyfan am fisoedd wedi hyn, oblegid bu raid i mi ddychwelyd yn gynt nag y disgwyliwn at fy nghleifion yn Abertawe. Ond gwnaf fy ngoreu i ddweyd yr helynt fel y clywais ei adrodd gan Elen a Henri a Chariad, er nad oeddwn yn llygad-dyst o hono.

****** Y mae yn debyg y byddai Gwilym yn ail—adrodd yr hanes am y bobl gochion wrth Tom Brynglas a phlant yr ysgol, ac yr oedd 'plant yr hewl isaf' yn gwybod, cyn bo hir, fwy am Indiaid America nag am drigolion un wlad arall dan haul. Un diwrnod teg, meddai Tom Brynglas yn ddisymwth,

'Beth ta ni'n gneyd wigwam, fechgyn?'

Rhoddwyd derbyniad croesawus i'r awgrym, ac ni fachludodd haul heb i'r cynllun gael ei berffeithio. Cyn pen wythnos yr oedd ty o wïail a rhedyn wedi ei godi yn y Cae Carw ar y ffordd rhwng Plas Newydd a'r pentre. Ni fu erioed gwmni mwy hapus na byddin Tom Brynglas un prydnawn dydd Gwener yn y Cae Garw. Yr oedd y wigwam, erbyn hyn, yn barod, act yr oedd Tom a Gwilym a Benni Bach yn dathlu yr amgylchiad drwy fitshan o'r ysgol. Eisteddai Tom. wrth ddrws y wigwam, a phib glai yn ei geg, yn smoco dail troed-yr-ebol. Eisteddai Gwilym a Benn Bach ar bob ochr iddo, a'u coesau wedi eu croesi, fel dau deiliwr bach. Yn eu llaw dalient bob i bib glai ddu—iddo Tom y Waginer ond nid oedd ganddynt na dail na dim ynddynt, er y gwnaent esgus dynu mwg drwy-ddynt. Gerllaw yr oedd darnau o raffau, a chwlwm dolen ar bob un, ac o'u blaen, er ei bod yn ddiwrnod twym ym Mis Medi, yr oedd tân coed yn mygu ac yn flamio. Yr oedd difrifoldeb nid bychan ar wynebau brwnt y tri, ac am beth amser ni wnaent siarad gair a'u gilydd.

A welsot ti y mustangs ffordd hyn yn ddiweddar?' gofynai Tom Brynglas o'r diwedd, heb wên ar ei wyneb.

Naddo ddim heddi,' atebai Gwilym yr un mor ddifrifol. Ond tynai Benni Bach wrth ei bib heb ddweyd gair. Nid oedd golwg rhy dda ar y gwr bach erbyn hyn. Yr oedd ei wyneb yn welw, ac, ym mhen tipyn, gollyngodd i'r bib gwympo o'i law.

'Be' sy'm bod, Benni?' meddai Tom Brynglas. 'Stim byd yn bod arna i,' atebai Benni yn benderfynol.

Odi e'n dost?' meddai Tom eilwaith.

'Ma'r bib yma'n gryf, hefyd,' torodd Gwilym allan i ddweyd, gan osod ei un ef ar y glaswellt. Gwyddai Gwilym beth oedd yn bod.

'M-m-ma'r hen luwch yma o'r bib yn stico yn 'y ngwddwg i,' dywedai Benni o'r diwedd.

'Mi ddweda i beth 'newn i,' meddai Tom Brynglas, 'mi bigwn fwyar coch. 'Do's dim, fel mwyar coch i wella dyn ar ol smoco gormod.'

'Mi liewn i ga'l mwyar,' atebai Benni. Ac ymaith yr aeth y tri i berth y cae i bigo mwyar a'u bwyta wrth eu pigo. A gwir a ddywedodd Tom Brynglas am effaith mwyar coch oblegid cyn pen haner awr уг oedd Benni Bach wedi llwyr wella o'i anhwylusdod.

Ond cafodd y mwyar effaith arall ar y plant. Edrychodd Gwilym ar benau ei fysedd, a gwelodd fod sudd y mwyar wedi eu cochi.

'Hei boys,' meddai, 'mae'n mysedd i fel bysedd y dynon coch.'

'Ga i wel'd?' dywedai Tom, gan redeg ato. Ac ar ol gweled y wyrth, daeth rhywbeth arall i'w feddwl. 'Beth ta ni'n lliwo'n hynen yn goch, boys?' meddai. 'Dyn ni ddim yn dryched fel Indied fel hyn.'

'Shwd gallwn ni?' gofynai Gwilym.

Wrth wasgu'r mwyar yn erbyn ein gwynebe,' atebai Tom, ag yna fydd neb yn ein nhabod ni o gwbwl.'

Nid cynt y gair na'r weithred. Paentiodd Tom Brynglas Gwilym a Benni Bach, a phaentiasant hwythau Tom, ac ni fu ar haid o Indiaid olwg mwy gwyllt a dieithr nag oedd ar y tri chrwt pan aethant yn ôl i'r wigwam.

Ond nid oes nyth heb ddraenen, ac nid oes dedwyddwch heb helbul. Tua thri o'r gloch y prydnawn pwy ddaeth atynt ond hen elyn Tom,—William Jones, y pupil-teacher.

'Nawr boys,' meddai fe, 'beth 'ych chi'n neyd man hyn? Pam na ddewch chi i'r ysgol?

'Whare Indied y'n ni ebai Tom Brynglas, yn araf, gan dynu mwgyn o'i bib, 'a 'dyn nhw ddim ym myn'd i'r ysgol.'

'Gewch chi wel'd fod yn rhaid i'r Indied hyn fyn'd i'r ysgol,' atebai William. Mae Mr. Hartland yn benwan mas natur, a mae e' wedi'n hala i i'ch moin chi. Dyma'r trydydd prydnawn 'r wthnos yma 'rych chi wedi mitshan o'r ysgol.'

Ond nid oedd yn bosibl gwneyd dim â Thom Brynglas wrth ymresymu âg ef, a gwyddai William Jones yn rhy dda mai gwell oedd peidio gwneyd dim ond trwy deg. Ond pan welodd nad oedd dim yn tycio, penderfynodd nad elai yn ol i'r ysgol yn waglaw. Credai fod ganddo ddigon o ddylanwad ar Benni Bach i wneyd iddo ef, beth bynag, ufuddhau.

'Nawr, Benjamin,' meddai, mae'n rhaid i chi, ta beth, ddwad 'nol gen i.'

Gadewch chi rhynta i a Benni Bach,' meddai Tom yn fawreddog.

'Na wna i,' atebai William Jones, gan dreio cael gafael ar Benni.

Ond yr oedd y gwr bach ar ddihun er ys meityn, a dechreuodd redeg o gylch y wigwam a William Jones ar ei ol. Coesau byr oedd gan Benni ar y goreu, ac yn fuan buasai wedi syrthio yn ysglyfaeth i fab hir-goes y Wern, oni bai am Tom. Cydiodd Tom yn un o'r rhaffau, taflodd y ddolen ar ei phen am ysgwyddau William Jones, a thynodd hi mor dyn nes y gwaeddodd William gan ei boen.

'Dyma fe wedi ddala, boys,' meddai Tom. Beth ta ni'n i rosto fe, hei?'

Gyda'r gair, yr oedd Tom wedi syrthio ar William, a chyn i hwnw gael amser i wybod yn iawn beth oedd yn digwydd, yr oedd yn garcharor, heb allu syflyd llaw na throed, oblegid yr oedd ei goesau a'i freichiau wedi eu cylymu.

'Beth ta ni'n ei beinto fe'n goch?' meddai Tom Brynglas.

'Dal di e' atebai Gwilym, yn llawn zêl, a mi af fi i moin rhagor o fwyar.'

Yn ofer yr ymbiliai William am drugaredd a rhyddhad. Mewn ychydig daeth Gwilym a Benni yn ol a mwyar yn eu dwylaw. Tom Brynglas fu yn paentio gwyneb William yn goch, ac ni chafodd Jezebel well hwyl ar y fath waith.

Ond odi e'n dryched yn bert,' meddai,, ar ganol ei orchwyl. Yr oedd William, erbyn hyn, ar ei hyd ar y llawr, a Tom yn eistedd arno, a Gwilym a Benni yn helpi dal ei ben. Wo, my beauty! Stand you steady! Tipyn bach rhagor o liw coch ar i drwyn e'— wo 'na ti, machgen i—dyna fe 'nawr, 'ryt ti'n dryched fel ta ti wedi hyfed cymaint o licer a Dai Llwyncelyn.'

Ac ni chai haid o Indiaid fwy o ddifyrwch wrth ddawnsio o beutu carcharor nag a gai y plant wrth neidio a bloeddio o gylch corff syrthiedig William Jones. Yn wir, nis gallai William lai na chwerthin, ynghanol ei holl drallodion, wrth weled Benni, a'i wyneb yn goch fel cwmwl pan fachluda haul ar ddiwrnod têg, yn carlamu yma a thraw a gambwlet yn un llaw a bwa yn y llall!

Ond daeth diwedd trist a buan i'w pleser. Cyn iddynt feddwl am berygl, yr oedd Mr. Hartland a mintai fawr o blant yr ysgol ar eu gwarthaf. Nid gwiw oedd iddynt wingo yn erbyn y symbylau, na cheisio dianc rhag y llid oedd yn eu haros. Yr oedd Mr. Hartland wedi trefnu ei fyddinoedd ym mlaenllaw, ac wedi llwyr amgylchynu'r gwersyll. Gwnaeth Tom i Gwilym a Benni blygu ar eu gliniau a bwa a saeth. yn eu llaw.

Penliniodd yntau hefyd, ac yn y modd hwn, fel y Piwritaniaid gynt, disgwyliai y tri ruthr y gelyn. Anelodd Tom ei fwa, saethodd saeth, a chlwyfodd un o'r gelynion. Ond nis gallai Gwilym a Benni gadw eu saeth ar y llinyn, gan gymaint eu dychryn, ac, felly, ar ol brwydr fèr ac anhyglod, gorfu iddynt daflu eu harfau i lawr, a chymerwyd hwy yn garcharorion gan fyddin yr ysgolfeistr. Datodwyd rhwymau William Jones, rhoddwyd Tom Brynglas i'w ofal, ac yna, cludwyd y tri mitsher, mewn gorymdaith orfoleddus, i'r ysgoldy.

Ni chawsant gyfle i amddiffyn eu hunain,—pe, yn wir, y gallent fod o'r wyneb i geisio gwneyd y fath beth. Adroddodd William Jones yr hanes fel y cafodd ei drin, ac heb ragor o ragymadrodd, disgynodd gwialen Mr. Hartland fel cawod o gesair ar eu hysgwyddau, eu cefnau, ac, hyd yn oed, ar eu coesau, nes yr oeddynt yn llosgi drostynt. Yr unig un o'r tri fethodd ddioddef y gosp heb lefain oedd Benni Bach. Yr oedd y dagrau yn rhedeg lawr dros ei ruddiau cochion, ac yn golchi ymaith y lliw mwyar, ac yn gadael rhychiau llydain o'i groen claerwyn ei hun yn y golwg. O'r diwedd, cafodd Benni Bach hyd yn ei le ei hunan yn Standard ii., ac eisteddodd i lawr gyda'r plant ereill wrth y desc. Nis gallai eistedd i'r lan yn syth, ond plygodd ei ben ar y desc, a dyrchafodd ei lef mewn wylofain.

'Sit up straight, sir,' crochlefai Mr. Hartland uwch ei ben.

Nid oedd llef nac ateb ond igian a wylo.

Cynddeiriogodd yr ysgolfeistr o'r newydd, a disgynodd gwïalenodau geirwon ar gefn Benni Bach.

'Sit up straight, sir,' meddai'r athraw, wedyn. 'C—c—can't, sir,' atebai Benni Bach rhwng ei ochneidiau.

'Why not, sir?' llefai Mr. Hartland yn sarug, gan afael yn dynach yn ei wïalen.

Nid oedd gan Benni Bach ddigon o Saesneg i'w ateb. 'Why not, sir?' gwaeddai'r athraw yn fwy bygythiol fyth.

'Wi wedi tori'n ngalasis, syr,' meddai Benni, a'r dwr yn bwrlwmu o'i lygaid.

Ac ni ddisgynodd y wïalen drachefn. ****** Ni fu Mr. Hartland yn hir yn Llanelwid ar ol hyn. Yr oedd efe ei hunan wedi hen flino ar these horrid little Welsh ruffians,' ac yr oedd aelodau'r Bwrdd wedi cael llawn digon ar un oedd yn defnyddio'r wïalen mor aml ac mor greulawn. Nid oedd Miss Bevan, hefyd, heb ddylanwad ar Henri. Dangosodd iddo y ffolineb a'r anghyfiawnder o gael Sais unieithog i ddysgu plant Cymreig, ac, felly, pan ddywedodd Mr. Hartland ar ddiwedd y flwyddyn ei fod wedi derbyn 'galwad' i fyned yn ol i'w wlad ei hun, ni chodwyd un gwrthwynebiad yn y Bwrdd.

Ond am Tom Brynglas, ni welwyd ef mwyach yn ysgol Llanelwid ar ol y dydd Gwener hwnw. Dydd Sadwrn aeth ei dad ag ef i Gaerfyrddin, a'r wythnos ar ol hyny, nid Tom Brynglas oedd y gwron mwy, ond Mr. Thomas Thomas, clerc yn siop yr Afr Aur yn hen dref Caerfyrddin.

PENOD VIII.
GWILYM A BENNI YN ABERTAWE.

Amser gwyliau yw'r Nadolig i bawb ond cooks a doctoriaid, a, digon tebyg, pe cymerai'r cogyddion eu gwyliau ar yr adeg hon, y cawsai'r doctoriaid fwy o hamdden hefyd. Ond fel mae pethau'n bod, amser prysur iawn i feddyg yw'r Nadolig. Nid oeddwn erioed wedi meiddio hebgor diwrnod i redeg i'r lan o Abertawe i Blas Newydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac, a dweyd y gwir, nid oeddwn wedi teimlo fy nghaethiwed yn faich. Yn wyf yn cofio yn dda fel yr hoffwn dalu ymweliad a'r farchnad y dydd Sadwrn cyn Nadolig yn y blynyddau cyntaf ar ol i mi sefydlu yn Abertawe. Nid oedd genyf lawer i wneyd yr amser hwnw, ond gwyddwn fod fy nghynhauaf gerllaw pan welwn y gwyddau a'r twrcis breisgion yn rhestri yn y farchnad.

'Ha gyfeillion,' dywedwn yn ddistaw wrthyf fy hun, 'chi yw'r ffryndiau goreu sy' gan ddoctor ifanc! Gwell ydych na'i berthynasau agosaf, mwy dylanwadol na'i enwad na'i gapel, rhowch fwy o waith na chymdeithas Insurance na chlwb! O ardderchocaf wyddau, cymerwch y deyrnged hon o barch i'ch gallu, ac o ddiolchgarwch am y nodded a estynwch i ddoctor bach wrth ddechreu ei fyd!'

Ond, rywfodd, y Nadolig ar ol y digwyddiadau a gofnodais ddiweddaf, teimlais am y tro cyntaf fy mod yn gaethwas i fy nghrefft. Yr oeddwn, erbyn hyn, wedi ymadael a fy lodgings, ac wedi dechru cadw ty' oddiar Calan Gauaf, ac yr oedd Marged, hen laethwraig Plas Newydd, yn deuluyddes i fi yn Cadog Street. Mawr fu fy nisgwyliadau a'm gobeithion pan es i fyw i dy fy hunan. Ffarwel mwyach, meddwn, i anghysur a diflasdod ac aflonyddwch; cawn bobpeth wrth fy modd yn fy nhy fy hun; ac yr oedd Elen. a chymaint ffydd. ym Marged fel y dywedai na wnai fadel a hi er mwyn neb ond myfi.

Treiodd Marged ei goreu glâs i fy ngwneyd yn gysurus. Yr oedd yn hoff iawn o ddyfod i mewn i'r study fach lle yr arferwn dreio cymeryd ychydig fwyd, pan fyddwn ar frecwast. Deuai i mewn i'r ystafell, gosodai y tê a'r tost a'r pethach ar y ford, dywedai Boreu da,' a gofynai os oedd y gwely yn gysurus, ac yna aethai allan ar ffrwst. Nid cynt, serch hyny, y gosodai un droed dros y trothwy nag y buasai yr ia oedd wedi rhewi ei thafod yn flaenorol yn dadlaith ar unwaith. Troiai ei gwyneb ataf, cydiai ym mwl y drws ag un llaw, a daliai y llestri yn y llaw arall, ac yna dylifai ffrwd ei hyawdledd am ysbaid hir.

Wi'n gobeitho, mishtir bach, meddai un diwrnod. ychydig cyn Nadolig, 'y gwedwch chi wrtha i os nad wi yn eich gneyd chi'n gysurus 'ma. Mae arna i ofan, yn yng ngwir i, nag w i ddim, ond wi'n gneyd 'y ngore, ag odw, ac os gwelwch chi fod yn dda i weyd wrtha i ost bydd rhwbeth yn rong,—wath mi fyse arna i gwilydd. i wel'd eich chwaer, Mrs. Morgan, os na fyddwch chi'n lico i. A beth fynwch chi i gino heddi? 'Stim ost gyda chi beth? Os, ôs, mae'n rhaid fod yn well geno chi rwbeth. Ga i bartoi whyad fach i chi, ne ffowlyn bach neis? Na? Wel, mi bryna i ribyn o beef—'rodd mystres yn arfer bod yn ffond iawn o hwnw, ag 'rodd hi'n wastod yn i fynid e' pan fydde'r Mis ym Mhlas Newydd, wath, fel odd hi'n arfer gweyd, 'rodd pawb yn rhoi ffowlyn neu whyad i'r pregethwyr, ag yr oedd tipyn o gig eidon yn foethyn iddyn nhw. 'Rodd gwel'd anghyffredin ym mystres! Glwsoch chi shwt mae nhw tua Plas Newydd, syr? Mae hireth ambeidus arna i weithe, i wel'd y plant. Odi nhw'n dwad lawr dros Nadolig? 'Rych chi ddim yn ceisio gweyd! O mae'n dda gen 'y nghalon i! Mi fydd fel ta ni ym Mhlas Newydd yto, ond bydd e'? Pryd mae'n nhw'n dwad? Heddi, wedsoch chi? O'r anwl fach, mae'n rhaid i fi ddodi dillad gwely i galedu ar unwaith. 'Dos dim iws i'r bitws bach ga'l gwely llaith. Mae gwely llaith wedi bod yn ange i ddyseni cyn hyn, ond cheiff neb weyd nag yw'r hen Farged ond dyna fanners sy gen i—yn siarad a chi, misthir bach, fel hyn a'r drws ar gil- agor! Cofiwch chi ganu'r gloch os bydd eishe rhwbeth arnoch chi. Ac ymaith a hi fel lluwch o flaen corwynt!

Yr oeddwn wedi gofyn yn fynych i Elen os cawsai Gwilym a Benni Bach ddod i aros gyda fi, ond yr oedd Elen ag ofn eu hymddiried i ofal lodgings. Ond yn awr yr oedd genyf dy fy hun a Marged yn ei gadw. Un noson, ar ol cau'r drws maes, a phan oeddwn yn tynu y mwgyn diweddaf yn fy study cyn myn'd i'r gwely, dechreuais, yn ol arfer hen lanciau, a chydymdeimlo a fy hunan yn fy unigrwydd. Meddyliais am y croesaw calon fyddai yn fy aros ym Mhlas Newydd; a dychmygais fy ngweled yn eistedd yn y gadair freichiau wrth dân siriol y neuadd, a Henri yn darllen wrth y ford, ac Elen yn cwyro sanau neu yn gwnïo botwm ar grys, a Gwilym a Benni Bach yn gwrando ar fy storhaus ar fy nglin. Golygfa lonydd, dawel, ymhell o swn a dwndwr tref a dinas, ond O! fel yr hiraethai fy nghalon am dani! A phaham y gwnaf wadu fod un gwyneb hawddgar yn ymddangos yn wastad yn narlun fy meddwl—gwyneb a welwn o flaen gwyneb neb— gwyneb a garwn yn fwy na gwyneb car na chyfaill na pherthynas yn y byd? Nis gallwn ymatal rhag codi oddiwrth y tân ac eistedd wrth fy nesc ar unwaith i ysgrifenu llythyr at Elen i ofyn iddi os y boddlonai i mi gael benthyg fy neiaint dros y Nadolig. A'r boreu hwnw, pan am yr ugeinfed waith y bu Marged yn esgusodi ei manners am gadw'r drws yn gil-agored wrth siarad â mi, yr oeddwn wedi derbyn llythyr o Blas: Newydd i ddweyd y byddai Gwilym a Benni Bach yn cyrhaedd stesion Abertawe gyda'r trên un-ar-ddeg o'r gloch, ac y byddai Miss Bevan, Bryn Hyfryd, yn d'od' i'w hebrwng.

Yn brydlon am un ar ddeg o'r gloch yr oeddwn yn y stesion yn disgwyl fy neiaint a Miss Bevan. Ond nid. oedd sôn am y trên erbyn i mi gyrhaedd yno. Daeth pum' mynud a deg mynud wedi un-ar-ddeg; am gwarter wedi, es at un o'r swyddogion a gofynais iddo beth oedd. wedi dod or trên.

'Odi chi'n dishgwl rhywun gyda'r trên, Dr. Davies?' gofynai'n eithaf didaro.

Odw, odw,' atebais, 'rwy'n dishgwl fy neiaint bach.'

'O,' meddai, rwy'n erfyn y bydd y trên yn ddiweddar heddi, wath dyma ddwarnod y farchnad Nadolig.' Cerddais ymaith ar frys, rhag i mi yn fy ngwylltineb felldithio'r dyn a'r trên. Garw mor lleied o gydymdeimlad a geir yn y byd! Dyna lle'r oeddwn i yn dychmygu fod pob math o ddrygau wedi digwydd, fod y tren wedi rhedeg oddiar y rails, neu ei fod wedi ei chwilfriwio gan drên arall, neu fod pont wedi tori dano, a degau o bethau ereill—ac nis gallwn gael dim gair oddiwrth un o'r swyddogion ond fod y trên yn ddiweddar!

Ond o'r diwedd, am haner awr wedi un-ar-ddeg, dyma'r trên yn ymlusgo, gan ei bwyll, i'r stesion. Credais, ar y cyntaf, na chawswn byth afael ar fy neiaint, gan gymaint nifer y bobl, a'r pasgedi, a'r bags a'r hores, a phob rhyw gitraments oedd yno. Ond wedi ymladd am amser â'r dorf, yn gwasgu penelin dan bumed ais un, a gwthio, goreu gallwn, heibio i fasged chwyddedig y llall, des i ben pella'r llwyfan, ac yno gwelais Gwilym a Benni ar ben pob i faril gwrw wâg, a Miss Bevan yn eu dàl i'r lan gan wenu yn ei modd siriolaf.

'Dyma ni wedi dwad, 'nwncwl,' gwaeddai Gwilym, ymhell cyn i fi gyrhaedd atynt.

'Ie, rwy'n gwel'd eich bod chi wedi dwad,' meddwn inau yn ol.

A-a-a- mae gyda ni whar fach i gâl,' dywedai Benni.

A mae mami'n gweyd,' ychwanegai Gwilym, 'taw Elen fydd i henw hi, ond yr y'n ni'n gweyd taw Cariad y galw ni hi.'

Shwd ych chi Miss Bevan?' meddwn wrth Cariad, gan siglo llaw. Mae arnai ofan ych bod chi wedi cael digon o waith gyda'r plant 'ma.'

O'r fath ffwdan fu ynghylch cael luggage y ddau grwt at ei gilydd! Ac ar ol ei gael dywedodd Miss Bevan ei bod yn myn'd i wneyd ei negeseion yn y dref.

'O, peidwch a myn'd, Cariad fach,' meddai Gwilym, dynu wrth ei braich.

'Mae hireth arna i ar eich hol chi, Cariad fach,' dywedai Benni, a'r dagrau parod ar ei ruddiau.

'Nawr, 'nawr,' meddai Miss Bevan, gan geisio siarad yn ysgafn, mi fyddwch chi gyda 'nwncwl.'

'Ishe chi sy' arno ni,' atebai Benni Bach, gan lefain yn uwch—ac ni allwn fod yn sarug wrtho, oblegid rhoddwn y byd am allu dweyd yr un peth wrthi.

'Wel, mi ddwa i i roi gwd bei i chi cyn af fi'n ôl heno,' meddai Miss Bevan, 'os ewch chi gyda 'nwncwl 'nawr yn blant neis.'

Ac ar ol rhoddi cusan i'r plant, a'i llaw a'i gwen i finau, trodd ymaith, a chollasom ein golwg arni yn y dorf.

Galwais gàb i fyn'd a ni i'r lan i'r ty, oherwydd yr oedd Elen wedi danfon hamper a digon o fwyd am wythnos gyda'r plant—twrci a phwdin Nadolig a falau ac nis gwn beth heblaw. Pan ddaeth y cerbyd atom, edrychodd Gwilym a Benni arno heb ddweyd dim. Dodais hwynt i eistedd ynddo, rhoddais y parseli i'r gyrwr, dywedais wrtho i ble yr oedd arnom eisieu myn'd, ac es i'r cerbyd fy hunan.

Beth yw hwn, 'nwncwl?' meddai Gwilym ar ol cychwyn.

Càb yw hwn,' meddwn inau.

'Pam mae nhw'n alw e'n gàb ?' holai wedyn. 'Wn i ddim,' atebais, enw Saesneg yw

A beth mae'r waginer yn neyd ar y top?' gofynai Gwilym.

'O mae e'n gallu gwel'd yn well,' atebais.

Ar ol cyrhaedd y ty, tynais swllt allan i dalu'r gyrwr. 'Odi chi'n gorfod talu am gâl eich driefo 'te?' holai Gwilym.

Odw,' meddwn inau, 'wath nid y fi bia'r càb.' 'Mae gyda ni gâr newydd, ag 'yn ni ddim talu am reido yndo fe,' meddai Gwilym.

Buasai'r gwr bach wedi holi llawer mwy, ond ar ganol yr ymgom, agorwyd y drws gan Marged, ac am y pum' mynud nesaf nid oedd dim i'w wel'd ond Marged yn cofleidio a chusanu Gwilym a Benni bob yn ail, yn haner chwerthin a haner llefain, ac yn cadw cymaint o swn fel yr oedd y cymydogion i gyd yn sylwi arni drwy'r ffenestri.

O'm mhlant anwyl i,' meddai, a dyma chi wedi dwad i wel'd yr hen Farged (cusan). O'r bitws bach, yr ych chi'n dryched yn neis (cusan)! Mae'r hen Farged wedi bod a hireth ar eich hol (cusan)! A dyna fachgen mowr i chi Gwilym wedi pryfo! A Benni Bach—o'r anwyl ag e' (cusan) o'r twlsyn ag e' (cusan), y mae e'n fachgen pert! Odi chi'n cofio'r hen Farged (cusan)? Odych wrth gwrs. O'r anwl, mae'n dda geni'ch gwel'd chi (cusan). A mae gyda chi whâr fach (cusan)? O ar ddoe (cusan)? Ond dyna! dewch chi gyda fi i'r gegin, 'nawr, i chi gâl twymo ar ol trafeilu. Mae'n ddigon i sythu brain, ag odi!

A chariodd Marged y plant ymaith yn ei chôl, ac nis gwelais hwynt wedyn cyn amser tê.

Bu'n amser caled ar y ddau blentyn wrth ymadael â Miss Bevan, pan alwodd i ffarwelio. Yr oedd y ddau yn glynu wrthi, a'u breichiau am ei gwddf, ac yr oedd y tri yn llefain dagrau o hiraeth. Ceisiodd Marged eu cysuro.

Dewch chi, 'mhlant i,' meddai, yn y llais a arferai wrth fwyda lloi bach Plas Newydd, dewch chi, mi ddaw Miss Bifan lawr i'ch gwel'd chi 'rwthnos nesa', ond dewch chi, Miss Bifan? A mi ddrychith yr hen Farged ar eich ôl chi, a gneiff. A mi ewn ni gyda nwncwl i'r cwrdd fory i glwed y machine yn canu. A—a—mi ewn—'

Ond gyda hyn torodd Marged hefyd i lawr, ac ni allais inau aros yn hwy yn y gegin.

Ond mae natur plentyn fel nant y mynydd,—llifa dros y ceulanau mewn amrantiad, ond nid yw'n hir cyn dychwelyd i'w hen gwrs, mor llon a grisialaidd a chynt. Ar ol tê, gwellodd y ddau blentyn a chafodd Marged ganiatad gan ei mheistr i fyn'd a nhw allan am awr i wel'd rhyfeddodau'r dref. Dychwelasant pan oeddwn yn cau drws fy surgery ar y claf-ddyn diweddaf am y dydd, ac am awr a rhagor diddanwyd fi gan ysteriau'r plant am yr hyn a welsant ac a glywsant ar hyd y strydoedd a'r farchnad, a'u holiadau llymion a gwreiddiol ynghylch pob peth. Ond y gas a'r electric light oedd y pethau a'u synasant yn fwyaf o ddim, a bu Benni Bach ar ben stôl am amser yn treio, nes oedd ei wyneb yn goch, diffodd y gas drwy ei chwythu.

O'r diwedd daeth yn bryd gwely. Aeth Marged gyda nhw i'w hystafell, ac ar ol ychydig aethum inau ar eu hôl er mwyn eu clywed yn 'dweyd eu pader.' Rhyw gymysgedd rhyfedd oedd eu gweddi fach. Yn gyntaf peth adroddent ar garlam Weddi'r Arglwydd, yna ychydig adnodau megis 'Iesu a wylodd' a 'Cofiwch wraig Lot,' yna rhyw benill Saesneg yn dechreu—

Gentle Jesus, meek and mild
Look upon a little child,'

yna rhyw emyn a gofiais ddysgu pan oeddwn yn blentyn, ond yr hwn sydd erbyn heddyw wedi syrthio allan o gydnabod a chydarfer y cyffredin bobl,—

Mewn coffin cul cyn hir cai fod
Heb allu symud llaw na thro'd
A'm corff yn llawn o bryfed byw
A'm henaid bach lle myno Duw.

Yr un 'bader' oedd ganddynt ag oedd genyf finau pan yn yr un oed, ac wrth edrych ar benau cyrliog y ddau yn erbyn y cwrlid, pan yn penlinio yn eu gynau nos, daeth awêl o hiraeth dros fy enaid am fy mhlentyndod. diniwed fy hun. Torwyd ar draws fy synfyfyrdod gan Benni Bach. Edrychodd i'r lan ataf yn ddisymwth, a dywedodd—

'Nwncwl, os dim drwg gweddio dros 'yn whar fach?'

'Nag os,' atebais inau, beth mae e' am weyd?'

'O Iesu Grist,' meddai Benni, 'gobeitho fod tyta a mami yn iach, a bod 'yn whar fach yn ôl reit. Amen.'

'Amen,' meddai Gwilym.

Yna dodais nhw i orwedd yn y gwely.

'Nwncwl, gofynai Benni ym mhen tipyn, 'pwy dda'th a'n whar fach i ni?'

'Ond, bachgen,' meddai Gwilym, ond wedodd tyta ta'r angylion dda'th a hi?'

'Pryd deso nhw 'te?' holai Benni.

'O,' atebai Gwilym, mi elwes i nhw yn hedfan amboitu bore bach bore heddi.'

'Chlwes i ddim o heni nhw, ta beth,' meddai Benni. 'Naddo,' ebai Gwilym, 'rodd e'n cysgu'n sownd ar y pryd, a mi ffeiles i â'i ddihuno fe.'

Shwd dethon nhw a'n whar fach, 'te?' gofynai Benni. Odd gyda nhw basged, ne beth?'

'O nag odd,' dywedai Gwilym, rodd hi'n cwato yn y plyf dan 'u hadenydd nhw.'

Nawr, blant bach,' torais inau i mewn, 'mrowch i gysgu 'nawr. Mi arosa i gyda chi nes ewch chi i gysgu.'

Yr oedd Benni Bach yn agor ei gêg led y pen.

'Dyna genad o wrth y gobenydd,' meddai Gwilym.

'Gwilym,' meddai Benni.

'Ie,' atebai Gwilym.

'Cynta i gysgu i whiban,' meddai Benni.

A chyn pen dwy fynud yr oedd y ddau ym mreichau cwsg.

PENOD IX.
Y PLANT A'R HEN DDOCTOR.

Er fod fy neiaint yn teimlo hiraeth am eu mham a Chariad a'u chwaer fach ar adegau, ac yn enwedig pan oedd yn bryd iddynt fyn'd i'r gwely, nid oes angen dweyd iddynt fwynhau eu hunain yn fawr yn Abertawe. Dydd Sul es a nhw i'r capel, a mawr oedd eu rhyfeddod wrth glywed yr organ—neu'r machine, fel y galwai Marged ef—a'r dorf fawr yn canu, a'r hen ddoctor anwyl yn pregethu. Nid oedd Gwilym a Benni yn cofio eu tadcu, tad eu mham,—yr oedd wedi marw cyn côf ganddynt ac yr oeddynt wedi cenfigenu lawer gwaith wrth blant ereill mwy ffortunus na nhw. Ond pan welsont уг hen ddoctor a'i farf wen hir, a'i wallt fel yr eira arian-deg, a'i wyneb rhuchiog yn llawn hynawsedd, ac yn enwedig pan glywsont ei dôn leddf yn rhoi emyn allan i ganu, credasant ar unwaith mai eu tadcu oedd. Gwnes fy ngoreu i'w hargyhoeddi o'u camgymeriad, ond buasai yr un peth i mi dreio dweyd wrth y gwynt i ble i chwythu a cheisio ffrwyno dychymyg y ddau blentyn ar ol iddo gael haner awr o flaen arnaf.

'Ond mae e'n gymws fel y llun sy' gyda mami yn yr album,' meddai Gwilym.

'Odi,' meddai Benni, a 'rodd y dynon i gyd yn llefain yn y crwdd fel mae mami yn gneyd wrth siarad amboitu tadcu.'

'Ag 'rodd Marged yn llefen hefyd, man gwedson ni wrthi hi, mai tadcu oedd e', ychwanegai Gwilym, mi wedodd hi wrth Benni, 'mae e'n ddigon da i fod yn dadcu i chi.'

'Wel, wel,' meddwn inau o'r diwedd. Os odi chi am i ga'l e'n dadcu, mi gynta bydd yr hen ddoctor yn eitha' bolon.'

Ac fel yna y terfynodd yr ymddiddan ar y pryd.

Prydnawn dydd Llun, sef dydd Nadolig, pan oeddwn yn dychwelyd i Gadog Street ar ol ymweled âg un o'r cleifion, beth oedd fy syndod pan welais y ddau blentyn yn cerdded i'r lan heibio'r farchnad, a rhyw ddyn mawr afrosgo rhyngddynt, a'i ddwy law yn eu dwy law nhw. Edrychais eilwaith. Rhwbiais fy llygaid. Ie; nis gellid camsynied y corff tàl, y gwyneb wedi ei dyllu gan y frech wèn, y dwylaw mawr, a'r cerddediad araf. Yr hen ddoctor oedd, ac yn nwylaw Gwilym a Benni Bach! Yr oedd ef mor dàl, a nhwythau mor fychain, fel yr oedd yn rhaid iddo blygu llawer cyn y gallai eu cyrhaedd. Ond nid oedd hyn fel pe yn ambaru dim ar ei fwynhad. Cerddai gan ei bwyll gyda'r ddau, clustfeiniai ar eu hymadrodd, ac yr oedd gwen foddhaus yn sirioli ei wynebpryd. Nid oeddwn yn ddigon agos atynt i glywed yr ymddiddan, a phan oeddwn eto gryn bellder oddiwrthynt canfyddodd llygad craff Gwilym fi, a gwaeddodd nes y troiodd pawb i edrych beth oedd yn bod.

'Tadcu, tadcu, dyco 'nwncwl yn dwad.'

Wel, doctor bach,' meddwn, gan chwerthin, oblegid yr oedd golwg mor ddigymorth ar yr hen bregethwr er ei holl fwynhad, ac yr oedd chwys ar ei dalcen er mai'r Nadolig oedd hi, 'shwd eich caethgludwyd chi fel hyn, hawyr?'

Cyn iddo gael amser i ddweyd gair, dyma Gwilym yn dechreu arllwys ei stori.

'O 'nwncwl,' meddai, pam o'ech chi'n gweyd mai nid tadcu oedd e? Mae e'n gweyd taw tadcu yw e'.

Mae e' wedi dwad lawr o'r nefodd i'n gwel'd ni,' dywedai Benni Bach.

A mae e' wedi promeisho dangos llun y nefodd i ni yn y Beibl sy' gydag e' gatre',' meddai Gwilym. mae e'n myn'd i roi llun Iesu Grist i fi.'

Ag un i finau,' dywedai Benni, ag un i'n whar fach.'

A mae e'n dwad i fyw gyda ni o hyd o hyd am byth ym Mhlas Newydd,' meddai Gwilym.

'A fydd mami ddim yn llefain wedyn,' dywedai Benni Bach.

Nis gwyddwn beth i ddweyd na pheth i wneyd tra yr oedd y siarad hyn yn cymeryd lle. Yr oedd tuedd arnaf i chwerthin, ond pan edrychais ar wyneb yr wr, ar ei olwg ddifrifol, er fod gwên siriol ar ei wyneb, a'i lygaid yn llawn dagrau gloewon, a chanfod fel yr oedd, yn wir, wedi aros ar ganol yr heol, ac wedi colli pob ymwybyddiaeth o hono ei hun, a'r lle yr oedd yn aros, a phob peth yn y byd, ond yn unig ei fod yn clywed lleisiau'r ddau blentyn, a'r modd tyner yr oedd yn cydio yn dyn yn nwylaw fy neiaint fel pe yn ofni eu colli— diflanodd pob tuedd chwerthinllyd o fy meddwl, ac nis gallwn inau lai na theimlo peth o'r gorfoledd oedd yn bwrlymu allan o galon gynhes yr hen wr duwiol.

'Doctor Davies bach,' meddai yn ei lais araf, dwfn, crynedig, 'yr ych chi wedi eich breintio'n fawr yn eich neiaint. Plant nobl ydyn nhw, a mi fydd son am dni nhw yto, os cânt fywyd a iechyd.'

'Rych chi ddim yn myn'd 'nol i'r nefodd, tadcu? ' meddai Gwilym, pan yr oedd yr hen ddoctor yn treio cael ei law yn rhydd.

'Nagw, nagw, 'machgen i,' atebai'r Doctor, 'garw na fyswn i'n fwy ffit i fyn'd yno.'

'O, wi'n falch,' dywedai Gwilym, mi wedwch chi wrthon ni am yr angylion ond gwnewch chi, tadcu?'

'Gweda, gweda,' atebai'r hen wr, mor ufudd a'r oen.

'Os gyda chi adenydd i ga'l, tadcu?' gofynai Benni Bach.

Methodd yr hen ddoctor a pheidio chwerthin wrth glywed hyn.

'Wel, glanach i ti grwt,' meddai 'mi golchest hi'r tre yma.'

'Ond mae adenydd i ga'l gan angylion,' ebai Benni 'Shwd ych chi'n gwbod hyny?' gofynai'r doctor. 'O, mi welws Gwilym ein whar fach yn cwato yn y plyf,' atebai Benni.

'Wel, wi'n meddwl hyny,' meddai Gwilym gyda phwyslais.

'Na, mhlant i' dywedai'r doctor, 'nid angel w i, a nid o'r nefodd y des i, a mae arnai ofan nag af i byth упо. '

'O ble deso chi, 'te, tadcu?' holai Gwilym. 'Mae mami'n credu taw yn y nefodd ych chi.'

'Ie, ïe, machgen bach i,' atebai'r hen wr.

'Mae ch mam yn eitha' reit. 'Ro'wn i'n nabod eich tadcu yn dda, a mae e'n siwr o fod yn y nefodd.'

'Welsoch chi e' yno, 'te?' holai Gwilym.

'Naddo i,' meddai'r hen ddoctor yn ddyryslyd. 'Shwd 'ych chi'n gwbod ei fod e yno 'te?' gofynai Gwilym.

Bu'r hen dduwinydd yn petruso ffordd i ateb am fynud. Yna dywedodd yn ei ddull tirion ei hun,

Mae'r Beibl yn gweyd mai i'r nefoedd yr aiff pob dyn da wrth farw, ac ni fu gwell gwas erio'd gan Iesu Grist ar y ddaear na'ch tadcu.'

'A nid chi yw'n tadcu ni 'te,' dywedai Gwilym yn llawn siomiant

'Mi lcwn i i fod yn dadcu i chi'ch dau fach, os 'ych chi'n folon,' meddai'r doctor.

'Dyna chi, 'nwncwl,' torodd Gwilym i mewn yn orfoleddus, ro'n ni'n siwr taw tadcu oedd e'.

A'r dwthwn hwnw bu fy neiaint yn treulio'r Nadolig gyda'r doctor hyd nes i leni'r hwyr i ddisgyn ar y dref. Buont yn ymweled âg ef yn ei gartref, a bu yntau yn dweyd ystoriau wrthynt am y baban bach ym Methlehem, ac am lawer gwr enwog fu'n ymladd dros y gwir,—yng ngwlad Canaan, yn Rhufain, yn trengu wrth y stanc yn Smithfield, ac yn dioddef merthyrdod ar y maes cenhadol, ac yn enwedig am hen wroniaid y groes yng Nghymru. Daeth, hefyd, i'w hebrwng yn ol ar ddiwedd y dydd i ddrws yn nhy, er ei fod yn hên a'r tywydd yn flin a'r ffordd ymhell. Ceisais esgusodi fy neiaint wrtho ar drothwy'r drws am y drafferth yr oeddynt wedi roddi iddo.

'Fy machgen i,' meddai'r hen wr, ni fues i mewn diwygiad mor agos i'r nefodd, ag a fues i heddi. 'O eneu plant bychain y perffeithir moliant,' ac ond i chi edrych i galonau pur y ddau fach hyn, gellwch wel'd llun y nefoedd arnynt. 'Dyn nhw ddim wedi 'madel â'r nefo'dd am gyment o amser a ni, a 'dyn nhw ddim wedi ei anghofio hi fel ni. Na, na, y fi ddylai ddiolch am gael profiad calonau diniwed, a meddyliau eneidiau sydd heb eu dallu gan bechodau'r byd. Ac y mae'r gair dwad i'm meddwl i'n fyw iawn, Doctor Davies, ac oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain. Trwbwl, doctor anwyl; na, nid trwbwl yw bod gyda nhw, ond braint. Nos dawch, 'y mhlant!. Mi ddaw tadcu i'ch gwel'd chi yto cyn bo hir.'

Ac ymostyngodd yr hên batriarch a chusanodd y ddau blentyn. A hwythau a daflasant eu breichiau am ei wddf garw, ac a'i carasant fel y carasent eu mham neu Gariad o'r Ty Prydferth. A dywedasant wrtho ddistaw yn ei glust am brysuro yn ôl eto i'w gweled ac i ddweyd wrthynt yr hanes am breseb Bethlehem, ac yntau a addawodd yr eilwaith a'r trydydd waith. Dywedasant wrtho hefyd y byddai iddynt edrych yn fynych ar ddarlun o'r nefoedd oedd efe wedi roddi iddynt, ac y byddent yn dweyd wrth eu chwaer fach am y lle dedwydd, ac y byddent yn rhoddi cusan bob nos. wrth fyn'd i'r gwely i'r darlun a gawsant o Iesu Grist. Ac yntau a'u bendithiodd hwy drwy ei ddagrau, ac a erfyniodd ar Dduw i'w nhoddi a'u hymgeleddu a'u cadw rhag profedigaethau a phechodau'r byd, a'u dwyn yn ddiogel i'r mynyddoedd bendigaid. Ac yna, efe a ffarweliodd drachefn, ac a ddychwelodd yn ôl i'w le ei hun.

Ffarwel, hen Gristion addfed! Nis gwelodd Gwilym a Benni Bach ef mwyach. Cyn iddynt ddychwelyd i Blas Newydd yr oedd yr hên weinidog wedi ei gymeryd yn glaf, a chyn pen blwyddyn yr oedd wedi ei osod i orwedd yn nhir ei hir gartref. Y tro diweddaf y gwelais ef, siaradai, gyda theimlad dwys, ond nid heb londer ysbryd, os nad hefyd beth digrifwch diniwed, am y dydd Nadolig hwnw dreuliodd yng nghwmni fy neiaint, a chredaf mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth ar ol cyrhaedd adref oedd chwilio am dadcu Gwilym a Benni Bach i ddweyd y stori wrtho—oblegid ni fu ei fath erioed am ddweyd stori—am ei wyrion bach yn Abertawe.

PENOD X.
Y DOCTOR YN TROI'N FARDD.

Nid oes genyf gof eglur iawn am ddigwyddiadau ereill yr wythnos Nadolig hono. Yr oeddwn mor llawn o waith drwy y dydd fel nas gallwn hebgor ond ambell i haner awr gyda'r plant cyn i'r nos fy rhyddhau oddiwrth fy ngorchwylion. Ond pan ddelai'r hwyr, gwnawn fy ngoreu i wasgar y cymylau hiraeth oedd yn fynych yn tywyllu ffurfafen bywyd bach Gwilym a Benni, drwy eu dwyn i fy ystafell fy hun a'u gosod i eistedd o flaen y tân, ac adrodd wrthynt ystoriau diddan. Pe ceisiwn ddifyru plantos y dyddiau hyn a'r fath hanesion, ofnaf mai ychydig fyddai fy niolch, ond am Gwilym a Benni, nid oeddynt hwy wedi cyfarwyddo a chwedlau, ac yr oeddynt yn falch i glywed hen ystoriau oedd wedi difyru cenhedlaethau o blant o'u blaen.

Un noswaith yr oeddwn wedi bod yn dweyd wrthynt stori am y ferch dlawd, yr hon, ar ôl llawer o helbulon, a briododd fab y Brenhin, ac ebai Gwilym,

'Odd hi'n ferch bert iawn, 'nwncwl?'

'Odd,' atebais inau, 'hi odd y ferch lana yn y byd.'

'Odd hi'n bertach na Chariad?' holai Gwilym.

'Nag odd,' meddwn, gan wrido, 'dalle hi ddim a bod yn bertach, galle hi?'

'Na alle,' atebai Gwilym, 'wath dos dim neb i gal yn bertach na Chariad, os e', 'nwncwl?'

'Nag os, dim neb yn y byd' ychwanegai Benni Bach.

'Nwncwl,' gofynai Gwilym, 'odi chi'n caru Cariad?'

'Wel, wi'n ffrynd anghyffredin iddi,' atebais, ar ol tipyn o ystyriaeth.

'Odi chi'n ffrynd i Marged?' holai Gwilym.

'O odw,' meddwn, 'wi'n ffrynd i Marged hefyd.' 'P'un well gyda chi Marged neu Cariad?' gofynai Gwilym wedyn.

'P'un sy'n well gyda chi?' meddwn, oblegid yr oeddwn wedi cael gafael erbyn hyn ar y ffordd oreu i ateb gofyniadau Gwilym.

'O mae'n well gen i, meddai Gwilym, gyda phwyslais ar yr i, mae'n well gen i Gariad o lawer.'

'A mae'n well gyda fine hefyd,' ebai Benni Bach.

A man bydda i wedi pryfo yn ddyn mowr,' dywedai Gwilym, wi'n mynd i briodi Cariad.'

'Ie, ie, machgen i, meddwn, ond beth ta hi ddim yn folon?

'Ddim yn folon i beth?' gofynai Gwilym yn syn.

'Ddim yn folon i fod yn wraig i chi,' dywedais inau.

'Ond mi wedodd wrtha i y byse hi'n folon,' ebai Gwilym.

'O mi wedodd hyny, 'do fe?' meddwn.

'Do,' atebai Gwilym, yn y gegin dydd Sadwrn dwetha cyn iddi fynd 'nol gatre.

'Dier mi,' meddwn, 'ac yn y gegin y gofynsoch chi iddi, ie fe?'

'Ie,' atebai Gwilym, 'a 'rodd Marged yn gweyd ta chi a'ch llyged yn eich pen y byse chithe wedi gofyn iddi es llawer dydd.'

'Mae gyda Marged a chithe lawer rhytach gwaith na siarad rhw ddwli fel yna,' meddwn yn llym, 'a mae'n hên bryd i chi'ch dou fyn'd i'r gwely.'

'Chewn ni ddim aros tipyn bach rhagor ar y llawr?' ymbiliai Gwilym.

'Mae eisieu bara menyn arna i,' dywedai Benni Bach, mewn tôn ddolefus.

'Mi licwn ine gal bara menyn, meddai Gwilym.

'Wel, mi geiff Marged roi tocyn o fara menyn i chi yn y gwely' atebais.

Ac yna galwais ar Marged i fyn'd a nhw i'w hystafell.

'Gwd neit, 'nwncwl bach,' meddai'r ddau, gan ddodi eu breichiau am fy ngwddf, a'm cusanu.

'Nos da, 'mhlant i,' meddwn inau, gan gauad y drws ar eu hol.

Ar ol cael gwared ar y plant, diosgais fy esgidiau oddiam fy nhraed, gwisgais fy slippers, tynais fy mhib. felusaf o'i chuddle yn y cwpwrdd, troes y gadair freich iau esmwythaf at y tan, gosodais fy nhraed, un ar ben y llall, ar y pentan bach, a rhoes fy hun i fyny i weu dychmygion yn ol fy ffansi wrth wylio'r cymylau mwg yn esgyn at y nenbren. Rhedai fy meddwl yn ol ar draws geiriau Gwilym, a'i adroddiad diniwed o farn Marged. Ac wrth i mi fyfyrio, syrthiodd arnaf ryw awydd na theimlais oddiwrtho na chynt na chwedyn— awydd i gyfansoddi barddoniaeth! Ymladdais cyhyd ag y gallwn yn erbyn y fath ffolineb. Dywedais wrthyf fy hun nad oedd dim barddoniaeth yr un groen a mi, na wyddwn ddim am y rheolau, ac na wnes, yn ystod yr wyth mlynedd ar hugain o'm bywyd, geisio cyfansoddi nac englyn na phenill erioed o'r blaen. Ond ni thyciai dim, na rheswm na synwyr cyffredin nac, hyd yn oed, fy niogi cynhwynol yr hwn sydd yn gryfach na'r ddau.

Eisteddais wrth y ford. Llenwais fy mhib drachefn. Pigais gwilsen newydd, yr hon oedd heb ei llychwino erioed ag inc. Taenais o fy mlaen ddalen lydan o bapur gwyn,— a disgwyliais am yr awen. Nis gallaf byth anghofio'r poen a ddioddefais y noson hono. Bum yn brwydro, fel pe bae fy mywyd yn y glorian, am ddwy awr a haner, ac yr oedd fy ysbryd ystormus yn cynghaneddu â swn y gwynt oedd yn chwythu o gylch y ty. Nis gallaf gyfrif pa sawl tudalen a bapyr a lenwais ac a ddistrywiais. Treiais Gymraeg a Saesneg, a phe gwyddwn iaith arall buaswn wedi ei threio hithau hefyd. Gwnes restr o eiriau oedd yn odli yn Gymraeg ac yn Saesneg; ond methais yn lân a chael brawddegau i'w taro, a phan y cawswn afael mewn brawddeg, yr oedd yn rhaid i mi ddefnyddio'r gair yn rhywle cyn diwedd y llinell. Pan orffwysais oddiwrth fy llafur—oblegid byddai yn anghywir dweyd i mi ei orffen—yr oedd y tân wedi myned allan, fy mhib wedi syrthio ar y llawr, a'r chwys mawr, er gwaethaf yr oerfel, yn dalpau ar fy nhalcen! Es drwy lawer profiad chwerw yn fy nydd a'm tymhor, ond byddai yn well genyf sefyll yr arholiad anhawddaf yn Hospital Sant Bartholomew neu gyflawni yr operation afrwyddaf, na threio byth eto ysgrifenu barddoniaeth. Gwell genyf osod coes nag odl yn ei lle, a rhwyddach asio esgyrn briw chwareuwyr pel droed, na chlymu pedair llinell wrth eu gilydd! Byth oddiar y noswaith hono, y mae yn destyn syndod i mi fod golwg mor siriol ar ein beirdd. Mae Elfed a Watcyn Wyn a Dyfed yn troi allan bob dydd o'r flwyddyn fwy o benillion nag a gyfansoddais i ar hyd fy oes, ac nid ydynt yn edrych yn ddim gwaeth ar ol gwneyd. Ond dyna, ys dywedodd y gwaddotwr wrth yr offeiriad pan y gwelwyd ef yn dal gwaddod ar ddydd Sul: 'Pob un a'i grefft, syr, chi a'ch pader a finau a'n nhrap.'

Nid, gan hyny, am fy mod yn teimlo unrhyw falchder yn y penillion, y rhoddaf hwynt yma, ond yn unig am fod yn rhaid i mi wneyd, os mynaf egluro'r hyn a ddigwyddodd ar ol hyn. Nid oeddwn wedi cyfansoddi ond pedair llinell, a dwy odl ym mhob penill. Gobeithio na syrthiaf yn isel iawn ym meddwl neb, os cyfaddefaf i mi ddarllen y penillion drosodd a throsodd cyn myn'd i'r gwely, weithiau yn ddistaw, bryd arall yn uchel. Teimlwn, hefyd, fod ysbryd y peth byw yn trigo ynof, ac nad oedd eisieu i mi ond ymroddi i'r gwaith i enill cadeiriau godidocaf ein Heisteddfodau! Na wged neb wrth ddarllen hyn o gyfaddefiad gonest. Y nos oedd hi, a phan ddarllenais y penillion liw dydd, gwridais wrth gofio fel yr ymfalchiwn ynddynt y noswaith hono. Ar ôl eu darllen drachefn a thrachefn, eisteddais eilwaith wrth y brwdd, a chopiais hwynt mewn llaw frâs a thêg, gan drafferthu nid ychydig gyda'r lythyren gyntaf ym mhob llinell. Fel hyn y rhedent:—

Paham y cwynfani, y gwynt,
Wrth dramwy tuallan i'm ty?
O gwn mai galaru yr wyt
Oherwydd it' fadel â Hi!

O dychwel yn glau yn dy ôl,
Nac oeda ar fôr nac ar dir,
A sisial fy neges yng nghlust
Y llances a garaf yn bur.

O dywed it' wel'd ar dy daith
Ryw lencyn yn wael iawn ei lun,
Yn marw o gariad, am na
Chaiff Gariad yn eiddo ei hun.

Ac os hi a blyga ei phen
Ac addaw y gwellith ei friw,
D'wed nas gall ef dalu ond hyn,
Ei charu tra byddo fe byw.

A phan oeddwn yn dringo i fyny'r steiriau, ac yn clywed y gwynt yn chwythu oddiallan, adroddwn yn ddistaw wrthyf fy hun linell gyntaf y penillion, a'r peth diweddaf cyn cysgu, addawais unwaith wedyn ei charu tra fyddwn i byw.'

PENOD XI
LLWYN AREL PLAS NEWYDD.

Ychydig ddiwrnodau ar ol hyn derbyniais lythyr o Blas Newydd i ddweyd fod eisieu'r plant yn ol arnynt, ac os na allwn ddyfod i'w hebrwng gartref, y deuai Henri i Abertawe i'w hymofyn. Erbyn hyn yr oedd yr amser stresol wedi pasio, ac nid oeddwn heb deimlo chwant i gael esgus a'm dygai i Ddyffryn Tywi. Ac felly, ar ryw foreu dydd Gwener yn gynhar yn Ionawr, wele ni ein tri—fy neiaint a finau yn cychwyn o Gadog Street tuag yno. Yr oedd Marged yn sefyll yn ben-noeth wrth y cab, yn galaru ar ol Gwilym a Benni, ac yn wylo gan. hiraeth am Blas Newydd.

Gwd bei, 'y nghalon fach i,' meddai gan wasgu Benni at ei mhynwes, 'a 'neiff e' ddim anghofio'r hen Farged, 'neiff e'? Mi fydda'n siwr o hala ffolant i chi'ch dou, a bydda.—Gwd bei, Gwilym bach, a gwedw e' wrth Twm y waginer os meiddith e' hala ffolant salw i fi, mi fydd yn well iddo fe i feindo ei hits! Cofiwch fi etyn nhw i gyd, mishtir bach, a gwedwch wrth mystres 'y mod bron marw eisieu gweld hi a'r babi.'

'O'r goreu,' meddwn inau, 'a mi ddweda 'r un peth wrth Tom y waginer, hefyd.'

'Twm, yn wir!' atebai Marged rhwng llefain a chwerthin. Mae Twm ym meddwl digon am i hunan ishws heb i chi ddweyd hyna wrtho fe.'

Ac yna gyrwyd ni ymaith, tra yn arosai Marged ar y grisiau o flaen y ty yn ysgwyd ei ffedog yn y gwynt hyd nes i ni droi'r cornel a'i cholli o'n golwg.

Yr oedd cymaint o awydd ar y plant, ar ol cychwyn, i gyrhaedd pen eu taith fel na chefais fawr llonydd. ganddynt cyn i ni ddyfod i Langoediog. Nid yw'r rheilffordd yn rhedeg drwy Lanelwid, ac felly disgynasom yn Llangoediog. Tu allan i'r stesion safai poni a thrap Plas Newydd, a Tom y waginer ynddo.

'Tom, Tom,' gwaeddai'r plant pan ei gwelsant, 'dyma ni wedi dwad 'nol.'

'Wel, yr ych chi wedi pryfo hefyd!' atebai Tom. Yr ych chi'n dwad yn ddynon mowr ar unwaith.'

'A mae gen i slash whip i chi,' meddai Benni Bach.

'A mi ddes ine a ffeirins i chi,' dywedai Gwilym. A shwd i chi, syr?' meddai Tom gan droi ataf fi. 'A Blwyddyn Newydd Dda i chi.'

'O rwyf fi'n dda iawn,' atebais, 'ond 'dyw Marged yco ddim yn haner da.'

'Nag yw hi, wir?' ebai Tom, a'i wynebpryd llon. yn syrthio ac yn gwelwi. Dos dim twymyn na dim byd fel'ny, rwy'n gobeitho?'

'Na,' meddwn inau, mai arnai ofn mai dolur galon sy' arni. 'Rodd hi am gal i chofio ato chi.'

'Odd hi, 'te, wir?' gofynai Tom, a'i ysbryd yn codi drachefn. A wedodd hi hyna 'te, syr? Hen lodes. biwr odd Marged, a 'ryn ni wedi cal colled ar i hôl hi ym Mhlas Newydd.—Gobeitho 'i bod hi'n eich taro chi, syr?'

'O, odi,' atebais merch syber, drefnus iawn yw Marged, a mi fues i'n lwcus iawn i chal hi.'

'Ie,' meddai Tom, 'rodd Marged yn gallu gneyd dyn yn gyffyrddus, ag odd; ag am 'neyd cawl, 'dodd dim o'i gwell hi i gal yn y shir, a'i dyngu.'

Wel, dyma rywbeth yn galenig i chi,' meddwn, gan estyn fy llaw.

Na, na wir, Doctor, na chyffra i byth o'r fan 'ma, chymera i ddim gyda chi,' tystiai Tom.

'Nawr, 'nawr, Tom,' meddwn inau, mae'n rhaid i chi,' gan saco darn arian yn eu gilddwrn.

Wel, yn 'y ngwir i, 'down i ddim yn dishgwl dim, Doctor,' atebai Tom, gan roddi'r awenau yn fy law. Ac yna, trodd ei gefn arnaf, cymerodd gipolwg ar y swllt oedd yn ei law, a chyn ei ddodi yn ei boced poerodd arno er ei wneyd yn 'ebol glâs lwcus.'

Ar ol cryn helynt, cychwynasom o'r diwedd tua Phlas Newydd y fi a Gwilym a Benni y tu blaen, a Thom y tu ol. Er nad yw Plas Newydd ond milltir o ffordd o'r stesion, buem dros haner awr cyn dyfod yno. Ychydig yr ochr arall i'r stesion saif Bryn Hyfryd,—'Ty Prydferth' Gwilym. Pan ddaethom ato, gwelsom Gariad a'i mham yn aros wrth y glwyd sydd yn arwain i'r ty. Ac yno yr arosasom am amser, pawb yn siarad yr un pryd, ac yn holi, ac yn ateb, ac yn chwerthin, ac ni fuasem wedi gallu tynu ein hunain yn rhydd o'r diwedd, oni bai i Gariad addaw y deuai i dê i Blas Newydd yn y prydnawn. Yna, wedi dyfod at yr efail, yr oedd Nat, tad Marged, yn disgwyl am danom, a bu raid i ni aros am amser gydag ef, yn ateb ei holiadau ynghylch ei ferch. Ond o'r diwedd cyrhaeddasom Blas Newydd, ac o'r fath ffair a ffwdan fu yno! Rhedodd y morwynion allan i'r clôs i helpi fy neiaint lawr o'r trap ac i'w croesawi gartref. Yr oedd Dafi'r gwas mawr wedi cael rhywbeth i wneyd yn y siop waith,'—lle yr arferai helpi'r clwydydd, neu osod coes newydd mewn rhaw, ar ddiwrnodau glyb,—a phan ddaeth y cerbyd i'r clôs yr oedd yntau yno yn ein disgwyl. Yr oedd John y cow— man yn un o'r beudyau, a gwaeddodd flwyddyn newydd dda i ni drwy'r drws agored. Cyn i'r plant gael amser i fyn'd i'r ty, yr oedd Henri wedi dod allan. Credai Henri fod penteulu yn iselhau eu hunan drwy ddangos ei deimlad yn rhy eglur, a threiodd roddi cusan i̇r ddau blentyn, fel pe byddai heb deimlo ei galon yn dychlamu wrth eu gwel'd. Ond dyma'r tro cyntaf erioed iddynt fod oddicartref, ac nis gallai Henri, er ei dawelwch. digyffro arferol, lai na dangos ei falchder a'i lawenydd wrth eu derbyn yn ôl gartref. Ar ol eu croesawi a'u cusanu yn garuaidd, meddai:

Cerwch yn glou 'nawr i'r nouadd. Mae mami yn eich disgwyl yno ers amser.'

Ac ymaith y rhedodd y ddau am y cyntaf at eu mham gan fy ngadael ar y clós gyda Henri. Pan ddaethom. ninau yn ein tro i'r neuadd, yno gwelsom Elen a'r babi bach ar ei gliniau, a gwên gariadlawn a boddhaus ar ei gwyneb, a Gwilym a Benni Bach yn syllu ar eu chwaer newydd.

Odi hi'n gallu siarad, mami?' gofynai Gwilym. 'Grwt bach,' atebai Elen, nag yw yto. Ond mi ddaw hi i siarad digon, mi fentra, neu mi fydd yn ots i ti.'

Edrychai y pedwar mor brydferth gyda'u gilydd, ac yr oeddynt yn gwneyd darlun mor gyflawn ynddynt eu hunain, fel y teimlwn am y tro cyntaf yn ddieithr—ddyn yn nhy fy chwaer. Gyda ein bod ni wedi croesi'r troth— wy, gwelodd Elen ni, a galwodd arnaf, yn eu dull serchog, i eistedd wrth y tan i dwymo, a dechreuodd ofyn cwestiynau lawer i fi ynghylch Marged a'r hen ddoctor ac ereill o'i chydnabod yn Abertawe. Ac felly ni pharhaodd y teimlad o ddieithrwch yn hir.

Ar hyd y dydd hwnw yr oedd gan Gwilym a Benni Bach ddigon o waith i ymweled a'u hoff fanau ynghylch y ty. Aethant drwy'r ysgubor, a'r tri beudy, a'r stabal, a'r cartws, a'r storws, a'r briwdy, a'r glody, a'r gegin. maes. Ymwelasant a nythod y gieir, a chasglasant un wy ar ddeg o honynt oblegid ni wyddai neb o gylch y ty, ond y nhw, am bob nyth. Aethant am dro hefyd i'r ardd a'r berllan, lle yr oedd beddrod Moss, hen gi defaid ffyddlon, fu'n chwareu llawer gyda nhw; a buont yn gwario peth amser yn y llwyn arel o flaen y ty, yn yr hwn yr oeddynt wedi hongian cloch, a'r lle y byddai Gwilym yn arfer pregethu, ac y gwasanaethai Benni Bach fel clochydd. (Oblegid rhyfeddwn yn fynych fel y mynent ganu y gloch cyn dechreu'r wasanaeth, er mai Salem ac nid yr Eglwys yr arferent fynychu.)

Rhaid i mi gyfaddef na wariais erioed ddiwrnod mwy diflas ym Mhlas Newydd. Disgwyliwn beunydd am yr awr dê i ddod, ond nid yn amyneddgar. O'r diwedd es allan i'r ardd, cerddais yn ol ac ymlaen ar hyd yr ale, ac er mwyn hala'r amser rywffordd, tynais y penillion oeddwn wedi gyfansoddi allan o'm poced, a darllenais nhw drostynt gyda llawer o flas a boddlonrwydd. Blin— ais ym mhen tipyn ar gerdded yn yr ardd, a dych— welais i'r ty. Yna es i'r llofft i ymolchyd a thrwsio tipyn erbyn tê: a phan ddes lawr drachefn, dywedodd Elen wrthyf, a gwên yn chwareu ar eu gwefusau:

Mae Miss Bifan wedi dwad, John.'

'Odi hi?' gofynais, mor ddidaro ag y gallwn.

Odi, mae hi wedi mynd mas i whilo am y plant a'u mhoin i dê,' meddai Elen. A fyddech chi'n gweld bod yn dda i fynd i ddryched am deni nhw, a gweyd wrthi nhw fod te yn barod?'

'O'n gore' meddwn inau, gan gydio yn fy hat, a chychwyn yn ebrwydd.

Pan ddes yn agos at y llwyn arel clywwn swn fy neiaint yn siarad yn uchel a Miss Bevan.

'Ie, chi pia fe,' meddai Gwilym, 'waith 'rodd 'nwnc— wl yn gweyd ei fod e yn ffrynd anghyffredin i chi.'

'Hisht, hisht,' meddai Miss Bevan, rhaid i chi beido gweyd rhywbeth fel yna.'

'Rodd Marged yn gweyd,' ychwanegai Benni Bach, 'i fod e bron dwlu am danoch chi.'

Nawr, 'nawr,' atebai Miss Bevan, gan chwerthin, os ych chi myn'd i siarad fel hyn, mi eiff Cariad 'nol gatre'.'

O peidwch a myn'd, Cariad fach,' ymbiliai Gwilym.

Odi chi'n promeisho 'te?' gofynai Cariad.

'Odyn,' atebai'r ddau gyda'u gilydd.

'A mae'n rhaid i chi roi'r papyr 'ma 'nol i 'nwncwl,' aeth Cariad ymlaen i ddweyd, a gweyd wrtho fe lle cesoch chi e'.'

'O'n gore,' meddai'r plant.

Yr oeddwn, yn ystod y siarad hyn, wedi cael fy nharo a chymaint o syndod fel yr oeddwn wedi methu syflyd o'r man. Ond, ar hyn, fflachiodd rhywbeth ar draws fy meddwl, dodais fy llaw yn fy mhoced, ac wele! nid oedd y papyr ar yr hwn yr ysgrifenais y penillion, yn fy meddiant! Dyna'r papyr yn ddiau oedd yn nwylaw Gwilym, a dyna'r papyr, hefyd, a ddarllenwyd gan Miss Bevan. Nis gwyddwn beth i wneyd—pu'n a'i bod yn brudd neu yn llon. Teimlwn yn falch fod Miss Bevan yn gwybod os oedd yn gwybod, hefyd—beth oedd cyflwr fy meddwl tuag ati; ond ofnwn y buasai ei hateb yn fy amddifadu o'm hunig gysur, y gobaith o'i henill yn wraig. Nid oedd amser i fyfyrio. Beth ddywedai Miss Bevan wrthyf pe gwelai fi yn gwrando wrth y llwyn arel? Gwir i mi ddyfod yno yn eithaf diddichell, ac mai hap yn unig a berodd i mi glywed eu hymddidd— Ond ni fuasai yn hawdd gwneyd hyn o esboniad; ac felly, brysiais ar flaenau fy nhraed, oddi— wrth y llwyn. Ar ol cyrhaedd drws y ty drachefn gwaeddais à llef uchel ar fy neiaint. Atebwyd fi o'r llwyn arel, a thuag yno y cyfeirias fy nghamrau drachefn, gan deimlo mor euog a lleidr pen—ffordd.

Nawr, blant bach,' meddwn, mae mami am chi fyn'd i'r ty ar unwaith, i chi gael 'molchyd cyn tê.'

'Os cramboithe i dê, 'nwncwl?' gofynai Benni Bach.

'Os, 'rwy'n meddwl,' atebais, gan chwerthin, ond os na 'newch chi hast, chewch chi ddim o heni nhw.'

Yr oedd Gwilym wedi bod yn edrych yn ddyryslyd am beth amser. Ond dyma fe'n tynu papyr ym mhen enyd o'i boced ac yn ei estyn i fi, gan ddweyd,

Dyna bapyr gwmpws o'ch poced chi, 'nwncwl, a mi gas Benni a fine afel yndo fe, a mae Cariad yn gweyd—

'Nawr, Benni Bach,' torodd Miss Bevan i mewn, newch hast i ddwad at mami.'

Ac yr oedd yn amlwg am redeg ymaith i'r ty gyda fy neiaint, a'm gadael eto heb ateb. Ond syrthiodd ar fy ysbryd ryw benderfynolrwydd newydd. Dodais y papyryn yn fy mhoced heb edrych arno, a dywedais wrth y plant,

'Nawr, rhedwch i'r ty ar unwaith.'

Ac wedi iddynt gymeryd at eu traed, gosodais fy llaw ar ysgwydd Miss Bevan, a gofynais iddi am aros am fynud cyn eu canlyn.

Llwyn arel yng nghornel gardd syml Plas Newydd! Dyna'r lle anwylaf yn y byd i mi. Cyfyd ei ddelw yn fyw i'm cof wrth ysgrifenu, a mynych yr adroddaf wrthyf fy hun yr ymddiddan a gymerodd le yno flynyddoedd yn ôl rhwng Cariad a minau. Cofiaf fy ngeiriau trwsgwl i, ac y mae ei hatebion tyner hi wedi eu cerfio yn anileadwy ar lech fy nghalon. Ond. er cofio, ni chaiff neb yr hanes genyf, ond feallai fy mhlant neu'm hwyrion yn y dyfodol pell; canys y mae rhai pethau mor gysegredig fel na sieryd neb ond ffol am danynt tuallan i gylch cyfrin ei deulu. Digon i ti wybod, ddarllenydd caredig, i ddau ddyn ieuanc, y dwthwn hwnw, gyflwyno eu bywyd, un i ofal y llall, ac i minau wneyd adduned, yr hon ni thorir, mi obeith— iaf, ond gan law oer angeu, i garu ac ymgeleddu rhag pob cam a niwed, rhag pob trallod a drychin, un of ragorolion y ddaear!

A phan aethom i mewn i'r ty, a dywedyd wrth Elen, bu Elen yn chwerthin rhwng ei dagrau, ac yn dweyd ei bod yn gwybod er's llawer dydd mai fel hyny y buasai pethau yn troi maes. Ac yna aeth Elen a Chariad gyda'u gilydd i ystafell arall, ac yr oedd yn hawdd deall pan ddaethant allan iddynt fod yn wylo, fel y gwna gwragedd pan fyddo'n adeg o lawenydd mawr. A phan ddaeth amser tê, yr oedd Elen wedi parotoi 'wishgon' fawr o gramboithau moethus, a dywedwyd wrth y plant y gallent fwyta faint fyd fynent, heb fwyta bara menyn gyda nhw; oherwydd fod 'nwncwl Abertawe a Chariad yn myn'd i briodi yn yr haf.

Ar ol tê, dywedais nad oeddwn yn dychwelyd yn ôl i Abertawe y noson hono, ond yr aroswn dros y Sul ym. Mhlas Newydd, er nad oeddwn wedi bwriadu gwneyd hyny o'r blaen. Ond dywedodd Cariad wrthyf fod yn rhaid i mi ddychwelyd, ac na wnaethai hi mo'r tro i esgeuluso bywioliaeth er mwyn pleser, ac addawais inau i ddychwelyd os deuai hi i'm hebrwng, gyda Tom y Waginer, yn y càr. Wedi hyny, aeth Cariad a finau— fraich ym mraich—allan i'r ardd, a daeth Gwilym a Benni Bach ar ein hol, ac aethom i'r llwyn arel drachefn, a bu Benni yn canu'r gloch a Gwilym yn cyhoeddi gostegion priodas. Ni welwyd mewn un lle o fyd gwmni mor llawen a ni, ac yr oedd ein crechwen yn gwneyd i'r adar bach oedd yn dechreu cysgu ar ganghenau coed yr ardd i ganu 'twit twit' cysglyd rhwng hun ac effro. A phan ddaeth amser cychwyn, daeth Gwilym a Benni i'n gweled yn esgyn i'r càr, oblegid rhoddodd Elen ganiatad iddynt i aros ar lawr yn hwy nag arfer a phan gychwynasom, Cariad a fi y tu blaen, a Thom y Waginer y tu ol, y geiriau olaf a glywsom oedd, 'Gwt neit, 'nwncwl a 'nanti,' oddiwrth Gwilym a Benni. Daethom i'r stesion yn llawn hwyl, a gwasgais haner coron i law Tom y Waginer,—ond yr oedd Tom, erbyn hyn wedi clywed yr hanes, a derbyniodd yr ail galenig heb geisio gwneyd esgusawd, ond meddai yn ddrygionus,

'Beth yw hwn, syr? Arian i dalu'n nhrên i ddwad i wel'd Marged?'

Ie, ie,' atebais gan chwerthin, 'a gore' i gyd pwy gynta', neu mi fydd yn rhy ddiweddar; wath mae llawer yn rhedeg ar ol Marged yco.'

Os e'n, wir?' gofynai Tom, Wel. peidwch a synu, syr, os gwelwch chi fi lawr yco un o'r dwarnode nesa' 'ma, wath, ar lw, syr, chewch chi a Miss Bifan ddim myn'd wrthoch eich hunen i glwb y rhacs.'

Yna cafodd Cariad a minau bum' mynud felus gyda'n gilydd, ac addawais dd'od i'r lan yn fynych i'w gweled. Ac yna daeth y trên, ac o'm llwyr anfodd gorfu i mi gychwyn tua Abertawe, gan adael Cariad yn edrych yn hiraethlon ar fy ôl.

PENOD XII.
AR OL LLAWER O DDYDIAU.

Y mae llawer blwyddyn wedi dianc oddiar y digwyddiad diweddaf a gofnodais. Nid yw Cariad bellach yn byw yn y Ty Prydferth gerllaw Llangoediog, oblegid unwyd hi mewn glân briodas yn Salem yr haf canlynol a John Davies, M.D., o Abertawe. Am beth amser buom byw yn yr hen dy yng Nghadog Street, a bu Marged yn gweini arnom hyd nes y ganwyd ein plentyn henaf, merch a alwasom yn 'Cariad,' er mwyn yr hen adgofion. Wedi hyn, ymadawodd Marged â ni, ac y mae hi a 'Tom y Waginer'—Tomos y gweithiwr, fel ei gelwir yn awr yn byw mewn tyddyn ar dir Plas Newydd, a llon'd ty o blant gyda nhw. Y mae i ni erbyn. hyn dri o blant merch a dau fab—ac os gellir credu eu mham, y nhw yw'r plant glanaf a ffelaf yn y wlad. Dywed fod yr henaf o'r bechgyn yn gymhwys yr un peth a Gwilym, ac y mae'r ieuengaf, yn ei ddiniweidrwydd a'i allu breuddwydiol yn tebygu, meddai hi, i Benni Bach. Beth bynag am hyny, y mae'r tri o'r farn nad oes neb yn y byd a ddeil eu cymharu â'u cefnderoedd o Blas Newydd. Hwy yw eu harwyr a'u hesiampl, a'u cynghor hwy a ganlynant ym mhob peth. Nid ydym ninau, chwaith, yn gwrthwynebu y duedd hon, oblegid ni welsom blant yn unman sydd wedi cael eu dwyn i fyny yn well na Gwilym a Benni. Yn hytrach, yr ydym yn gwneyd ein goreu i gryfhau dylanwad y ddau ar y plant, a'n huchelgais a'n gobaith yw y tyf ein plant ninau i fyny yn debyg i'w dau gefnder o'r wlad. Bu llawer yn cynghori Cariad i godi'r plant yn Saeson mewn iaith ac arferion. Dywedwyd wrthi y byddai'r Gymraeg yn rhwystr ar fordd eu llwyddiant, ac na fyddai iddynt byth gael gwared ar yr acen Gymreig, os mai yr iaith hono a ddysgent yn gyntaf. Ni wnai Cariad ateb rhyw lawer, ond y cyntaf peth a ddysgodd i'r plant ei adrodd oedd llinellau Ceiriog, wedi eu nhewid ychydig,

Fy mhlentyn bach, tyr'd yma
Ac ar fy neulin dysga,
Iaith dy fam yn gynta'r un
Ac wedy'n iaith Victoria.

Ac ni chewch well Cymry bach yn yr holl fyd na phlant Doctor Davies, Bro Dawel, Abertawe. Y maent, yn wir, yn gallu deall a siarad a darllen Saesneg mor rhwydded a'r Gymraeg, a meiddiaf ddweyd ei fod yn well Saesneg nag a glywir o eneuau llawer o'r Cymry hyny sydd heb ddysgu'r Gymraeg. Gan eu bod yn deall eu heniaith, y maent hefyd, pan yr ymwelant a Phlas Newydd a'r Ty Prydferth yn yr haf, yn gallu gwerthfawrogi cymdeithas eu perthynasau, ac yr wyf yn gobeithio y deuant i ganfod ac i ymfalchio ym mhrydferthwch a swyn y bywyd Cymreig, pan dyfant i fyny, fel eu mham a'u tad. Hyn a wn yn sicr. Ni fuasent wedi gallu gwneyd ffryndiau a'u dau gefnder mor gynted oni bai am eu llwyr Gymreigdod, canys ni allai na Gwilym na Benni ymddiddan yn rhwydd yn Saesneg cyn iddynt gael eu danfon i'r Ysgol Ramadegol.

Balch ydwyf heddyw, gan hyny, fod fy mhlant wedi meddianu, er yn ieuanc, ddwy etifeddiaeth deg. Deallant ffrwyth athrylith Shakespeare a Milton; ond teimlant hefyd ddylanwad melus Pantycelyn a Cheiriog. Pan y cyrhaeddant oedran gwr, byddant yn gynefin a iaith masnach a iaith y byd; ond byddant hefyd yn gallu siarad a'u newyrth a'u mhobryb yn eu hiaith eu hunain, a gwybyddant y ffordd i ddefnyddio'r unig allwedd a egyr y porth sydd yn arwain i'r wlad hyfryd, lle ceir y Mabinogion a Dafydd ab Gwilym, a hanes, a chyfrinion calon, eu cenedl eu hun.

Fel yr oedd y teulu, a'm gwaith, yn cynyddu, symudasom i dy mwy yn y dre, yr hwn a alwasom yn Fro Dawel. Cynghorodd llu o'n cyfeillion ni i beidio mynychu Ebenezer mwy, ond i daflu ein coelbren, o hyn allan, gyda'r achos Seisnig.

Ond nis gallwn, rywfodd, ymadael a'r hen gapel, lle y dychmygwn ambell waith y gallwn weled unwaith eto yr Hen Ddoctor yn y pwlpud a chlywed ei lais lleddf yn llefaru. Er nad oedd dim hen adgofion fel hyn gan Gariad, teimlai hi yn gryfach ar y pwnc na myfi. Dywedai hi nas gallai addoli ond yn iaith ei mhebyd, ac nas gallai fwynhau hyd yn oed brofiadau'r Salmydd ond yn Gymraeg. Ambell i noson pan y byddem i gyd o gylch y tan, byddai'r wraig yn cael hwyl garw, ys dywed gwyr y Gogledd, wrth ddweyd y drefn ynghylch hyn.

'Dall Cymro ddim addoli ond yn Gymraeg,' meddai, a lliw'r rhosyn yn gwrido ei gruddiau. 'Odi e'n werth. rhoi Ann Griffiths i fyny er mwyn cael Mrs. Alexander? Neu Williams Pantycelyn er mwyn Cardinal Newman? Neu Tomos Lewis, Talyllychau, er mwyn Watts? A yw Parker gymaint yn well na Herber? Neu Doctor Pentecost na Doctor Saunders?'

Ac ni fyddai neb yn gallu eu hateb pan fuasai'r dwrn bach ar lan, a'r llygaid siriol yn goleuo gan frwdfrydedd.

Aros yn Gymreig yr ydym wedi wneyd, gan hyny, ar hyd y blynyddoedd, ac yr ydym yn taer erfyn yr erys ein plant hefyd yn Gymry pur, mewn iaith a moes ac arferion a chrefydd, tra fyddant byw. Prif ogoniant Cymru yw ei Chymreigaeth. Tra yr erys y wlad yn Gymreig ei hiaith a'i hyspryd, y mae gobaith mawr am ei dyfodol. Ond nid cynt y collir y Gymraeg, nag y collir gafael hefyd ar y diwylliant sydd yn hynodi ein gwerin. Nid Islwyn yn unig ymhlith ei bobl sydd wedi dal cymdeithas ag angel y dyffryn ac awen yr afon; ond pan gilia'r Gymraeg, lleda yr angel ei adenydd, a'r afon nid edwyn mwy ei hawen. Cyll anian ei llais; try Paradwys yn ddiffaethdir gwyllt, lle ni thyf ond drain a mieri. Y blodau ni fyddant, fel y cana ein beirdd, yn 'ser gloewon y llawr,' ond porfa ych a dafad. Cerdd eos ni fydd ond swn i oglais clust, fel crwth mewn tafarn. Y fwyalchen a'r deryn du, ni fyddant ond lladron yr ardd, ac nis danfonir hwynt yn llatai at Forfydd neu Ddyddgu. Y dydd ni fydd ond amser bwyd a gwaith, a'r nos ni fydd ond amser gor— ffwys. Y bugail a'r gweithiwr, ni chlywant, yn nhrigfanau tawelwch, sibrwd o'r wlad tu draw i'r llen. Diflana prydferthwch a barddoniaeth bywyd; ac ni fydd y Cymro, heb hanes iddo na gobaith, yn ddim. gwell na pheiriant cywrain i ddadblygu cynheddfau materol y wlad.

******

Meddyliais, ar y cyntaf, roddi rhagor o hanes fy neiaint, Gwilym a Benni Bach, ond mae fy ngorchwyion yn cynyddu o hyd, ac y mae fy amser yn brin. Pan gaf egwyl, ac os bydd hyn o ysgrif yn ddyddorol neu yn adeiladol i'm cyfeillion—oblegid ni ddisgwyliaf darllenir hi gan neb arall—rhoddaf, feallai, rywbryd eto, ragor o hanes y ddau. Y maent, erbyn hyn, fel y dywedais, yn yr Ysgol Ramadegol—Gwilym a'i fryd ar fyned i Aberystwyth er graddio ym Mhrifysgol Cymru cyn cystadlu a'r byd yn Rhydychen, a Benni yn paratoi ar gyfer un o ysgolion meddygol y brifddinas. Hyn a ddywedaf am danynt,—na fagwyd yn un cartref yng Nghymru gyfan decach plant, mwy addawol yn yr ysgol, mwy ufudd i'w rhieni, mwy siriol i'w cydymdeithion, mwy caredig i bawb o'u hamgylch. Y mae iddynt erbyn hyn ddwy chwaer a brawd, a diau genyf eu bod mor ffel a'r ddau henaf. Ond nis gallaf fi deimlo yr un ffordd tuag at eu brodyr a'u chwiorydd ag y gwnaf at y ddau a ddygodd Gariad i'm cartref, a'r rhai a gyhoeddodd ein gostegion priodas yn llwyn arel Plas Newydd. Nid wyf heb gredu weithiau fod Elen a Henri, hefyd, yn meddwl yn wahanol am eu cyntafanedigion, ond mae cariad rhieni at eu plant. yn rhywbeth rhy gyfrin i neb i geisio ei ddiffynio a'i ddosbarthu. Ond gwn fod gan Elen a Henri olwg fawr ar eu mheibion henaf, a chredaf yr erys y ddau yn gysur i'w rhieni ac y byddant yn ogoniant i'w gwlad.

******

Nis gallaf adaw i'm hysgrifbin syrthio o fy llaw heb droi i edrych, am yr ugeinfed waith yn y nos, ar y cymhar bywyd a syrthiodd i fy anheilwng ran y dydd hwnw yin Mhlas Newydd. Beth allaf ddweyd am dani? Teimlaf fod cyfoethogrwydd y Gymraeg yn pallu pan geisiaf ddweyd y filfed ran o'r hyn yr wyf yn deimlo pan edrychaf ar ei hawddgarwch. Gwraig rinweddol meddai'r gwr doeth sydd goron i'w gwr,' ac ni chafodd Lemuel Frenhin well gwraig na myfi. Pan fo blinderon bywyd yn fy nirwasgu, y mae ei sirioldeb a'i chydymdeimlad dihysbydd hi yn fy nghysuro. Pan fo llwyddiant yn gwenu arnaf, y mae hi wrth fy ochr i gydlawenhau a mi. Pan y'm bwrir i'r llawr gan afiechyd, y mae ei llaw dyner yn barod i'w gosod ar fy nhalcen poeth, ac i lyfnhau y gobenydd garw. Pan wnaf anghofio i bwy y dylwn ddiolch am fy myd da, ac yr af i gredu mae fi fy hunan sydd wedi enill y cwbl a ddaeth i'm rhan drwy rym fy mraich a disgleirdeb fy athrylith, y mae llais addfwyn, caruaidd wrth law, yn fy rhybuddio i beidio gadaw i fy enaid syrthio i drwmgwsg. nac i ymffrostio yn y dydd yfory. O na fuasai genyf ysgrifbin o aur, nas gallwn gerfio ei henw mewn llythyrenau o dân ar bob craig yng Nghymru, fel y gallai cenhedlaethau i ddod ei adnabod a'i garu! Hyn sydd tuhwnt i'm cyrhaedd, ond hyderaf mas anghofiaf tra fyddaf byw yr adduned a wnes flynyddau yn 'ol, i'w chadw rhag pob gelyn a'i hymgeleddu rhag pob tywydd garw. Safle a golud bydol nid oes genyf i'w cynyg iddi, a da genyf feddwl nad yw hi yn prisio'r fath deganau darfodedig. Gwyliaf hi rhag pob storom; amgylchynaf hi a chariad nas gall ond y bedd ei ddiffedd.

Nis gallaf fi dalu ond hyn,
Ei charu tra fyddaf fi byw.






DIWEDD.


EGLURIADUR.

Tafodiaith y De a'r Gogledd.

A

  • Aer—awyr
  • Ais—asen
  • Ambeidus—enbyd
  • Amboitu—oddeutu; ynghylch
  • Ar bwys—gerllaw..
  • Arei,—laurel; llwyn arel, laurel grove

B

  • Bagal abowt—ar fforchog, astride
  • Bant—ymaith, ffwrdd
  • Benwan mas natur—allan o'i gof"
  • Berth—gwrych
  • Bib—bibell
  • Bitw—bychan
  • Bledren chwysigen,—pledren, bladder.
  • Bore bach—yn gynar yn y boreu
  • Briwyd—drylliwyd
  • Brwnt—budr
  • Bwys y ty—gwel "ar bwys"

C

  • Cramboithe—crempogau, pancakes.
  • Crwt—hogyn, crwtyn
  • Cwato—cuddio
  • Cywain gwair &c.—cario

CH

  • Chyffra—gwel "na chyffra"

D

  • Demshgyn, demsgyn—sathru tread
  • Diraen—dilun, unkempt, rough
  • Dost—gwael, ill
  • Dyn, ag yw dyn,—un amhersonol, One does not like.

DD

  • Ddior—atal, rwystro
  • Ddyfrio—dwrdio, hel, scold
  • Ddynon—ddynion
  • Ddyseni—ddwsinau

F

  • Feindo'i hits—edrych ati, look out
  • Fioledan—crinllys, violets
  • Fitshan—chware triwant
  • Fredych—imps
  • Frochgau—marchogaeth..
  • Fwyar—mafon

FF

  • Ffolant—valentine
  • Ffrimpan padell ffrio, frying-pan
  • Ffwrwm—mainc, form
  • Ffysto—curo, cael y goreu ar, beats

G

  • Gambwlet—gwn pren, pop-gun
  • Gawl—cawl, potes, broth
  • Gesair—cenllusg
  • Glanach i ti—wift i ti
  • Gitraments—taclau, accoutrements
  • Gleren—gwybedyn, jy
  • Glos—buarth, yard
  • Glou—glau, buan, soon
  • Glwyd—llidiart
  • Gwaddod—tyrchod daear,
  • Gwaddotwr—tyrchwr, mole-catcher
  • Gwyro—trwsio; sanau i gwyro —stockings to mend
  • Gynta—mi wranta i, mi gynta,—I daresay

NG

  • Ngalasis—galasis, braces

H

  • Hadel—attal.
  • Halith—yrrith, gyrru
  • Helpi—drwsio'r llidiardau
  • Hewl—heol, ffordd
  • Hits—gwel "feindo'i hits "
  • Howyr hawyr
  • Hydfan—hedeg
  • Hyddug huddugl, soot.

J

  • Jacoise stryd fachau, stryd
  • fache, stilts

L

  • Làn—fyny; i'r lan—i fyny
  • Los—lodes, herlodes, hogen

LL

  • Llatal—genadon serch
  • Llefen—llefain, crio, wylo

M

  • Maes—allan; drws maes, outer door
  • Mamgu—nain..
  • Mangu lath—mamgu ddall (7),
  • mwgwd yr ieir, blindman's buff
  • Mis mis i gymeryd, neu letya pregethwyr
  • Mynte—medde

N

  • Na chyffra i—'da i byth o'r fan yma, &c
  • Nhrap,—trap
  • Noundd—neuadd, ystafell,hall
  • Nwnewl—ewyrth, uncle

O

  • Our—aur

P

  • Pert—tlws, prydferth
  • Phobo biner phob un ei frat
  • Piwr—pur, gonest
  • Pownd pwll, pond
  • Preimin—clwb troi, ploughing match

R

  • Rhastal—rhesel gwair
  • Rhewyn ffos fach

S

  • Saco—gwthio
  • Sciw—serin, settle
  • Shifi—mefus, strawberries
  • Stâr—grisiau, ysteiriau
  • Sticil camfa, stile
  • Stresol—prysur, stressful
  • Syber—glanwaith, clean
  • Syfien—mefusen, strawberry
  • Taro—siwtio
  • Taw—mai

T

  • Tadcu—taid
  • Taliedd; bow taliedd—neat or polite bow
  • Twlayn—tlysyn; O'r twlsyn ag me'—O you little love
  • Tyta—tada, tad

W

  • Whado—curo, beat
  • Whar—chwaer
  • Whiban—chwibianu, whistle
  • Wishgon—pentwr, pile

Y

  • Ychryd—gryndod, shiver


ERRATA Tud. 34, lin. 2, agurando yn lle "gwrando'; tud. 34,

llin. 3, drodd yn lle "adrodd"; tud. 71, ambaru yn lle "amharu."

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.