Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Arianwen
Gwedd
| ← Molawd Dyffryn Clwyd | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Y Gân a Fu → |
ARIANWEN.
(Yn null Rhys Goch ap Rhiccert.)
Gorne gwendon, gwynder meillion,
Pefr olygon, mal ser ceinion;
Glan dy galon, gloes fy nwyfron,
Gloes fy nwyfron,
Gwae fy nwyfron!
Mwyna' gwenferch, gwynfyd annerch
Di-ofal serch ar las lannerch;
Garw mor erch poen per draserch—
Gwae weir traserch,
Boenus draserch!
Dere, lanwen, hoff Arianwen,
At y dderwen laes ei changen;
Dwg im' deg wên, fwyna' feinwen—
Gwae fi, feinwen,
Gwae fi, feinwen!
Cywira'th oed ar fuandroed,
Brys i'r mangoed draw yn ddioed;
Un ddraen na roed drais i'th geindroed.—
Gwae fi geindroed,
Dybrys, geindroed!