Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Brawdoliaeth

Oddi ar Wicidestun
Pa le mae'r un wlad Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Breuddwyd

BRAWDOLIAETH.

Hwda am funyd! Wyt ti'n ddyn tlawd?
Fu dy dlodi di'n destyn gwawd?
Do? Dyro'th law! 'r yden ni'n ddau frawd,
Ac mae'n dda gen i weled dy wedd.

Gwn ar dy lygad a'th wyneb prudd—
Peth garw yw dioddef am lwydo grudd!—
Fod gofid dwfn yn dy fron di 'nghudd—
Mae'r meddwl yn 'stumio 'r wedd.

Oes, mae gonestrwydd pur ar dy ael—
Gonestrwydd! mae o'n beth anodd i'w gael—
Rhyfedd fod iddo fo daliad mor wael
Ac yntau mor brin yn y byd!

Fuost ti'n crwydro yn nyfnder nos
Ar ol caledwaith ar faes neu mewn ffos,
Heb gâr na dim, ond fod llais yn d'weyd "dos,"
Na wyddet i b'le yn y byd?

Fu'st ti'r pryd hwnnw mewn hiraeth dwys
Am ddysg a gwybodaeth, a than ei bwys,
A wylaist ti'n brudd? Fu rhyw goegyn brwys
Yn chwerthin ryw dro am dy ben?


Do, mi wn, Bu'n chwerthin mewn gwawd
Llym, am dy ben di, druan tylawd;
Mi glywais i'r brath fy hun, fy mrawd,
Mi wn beth yw min y senn.

Dyro dy law—mae hi'n galed, frawd,
Ydyw pa waeth? nid yw calon y tlawd
Ddim yn galed fel maen, nac yn nythle gwawd.
Fel mae calon y coegfalch brwnt.

Welaist ti frawd âg eisiau bwyd,
Efo'i lygad prudd, a'i wyneb llwyd;
Ddarfu 'ti 'i regi'n flin dy nwyd,
A'i wawdio fo'n greulon hwnt?

Naddo! Pam? 'Rwyt ti'n ddyn tylawd,
A bu dy dlodi'n destyn gwawd;
Do, dyro'th law, cymer groeso brawd—
Mae'n dda gen i weled dy wedd!



Nodiadau

[golygu]