Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Cân i'r Morwr

Oddi ar Wicidestun
Hiraethgan Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Fy Mro

CAN I'R MORWR.
("Kanaouen ar Martolod.")

"Dywed, forwr, gyfaill difyr,
Red y mor o ben i ben,
Am ba beth y bydd dy fyfyr
Pan y'th guro'r waneg wen?"

"Meddwl byddaf am fy rhian,
Wylo wrth fy nisgwyl wna,
Draw yn Lokrist, plwy' Trebrian,
A fy yspryd ymgryfha!"

"Mab yr aig, fy nghyfaill difyr,
Morwr Llydaw, dwed yn awr,
Am ba beth y bydd dy fyfyr
Pan ar ben yr hwylbren mawr?"
"Pan ä'r llestr gyda'r tonnau,
Cofio byddaf bethau fu,
A fy enaid ad ei gloriau,
Dianc tua'm henwlad gu!"

"Dywed, forwr, gyfaill difyr,
Pan fo'r gynnau mawr yn ffrwydro,
Am ba beth y bydd dy fyfyr,
Tra parha'r llofruddiog frwydro?"
"Meddwl am fy awr ddiwedda',
Am fy anwyl fam sy' acw;
Erfyn ar i'r Santes Anna
Fy mendithio awr fy marw!"

"Dywed, forwr, gyfaill difyr,
Pan fo't bell o'r wlad a geri,
Am ba beth y bydd dy fyfyr,
Pan i'th hamoc clyd y cysgi?"
"Pan i'm hamoc byddaf ddiddos,
Cofio am fy nghartre bychan,
Am y chwedlau ddwedir beunos
Yno gylch yr aelwyd lydan."

"Dywed, forwr, gyfaill difyr,
Gwedi rhyw bellennig fordaith,
Am ba beth y bydd dy fyfyr,
Ar yr hynt i Lydaw eilwaith?"
"Am fy rhiaint, fynnwn weled,
Eglwys fach fy mhlwy' fy hunan,
A'r briodas yno drefned.
Rhyngof fi a'm hanwyl rian."


Nodiadau

[golygu]