Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Canu'r Nos
Gwedd
| ← Y Gân a Fu | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Swyn y Wên → |
CANU'R NOS.
Mae hafnau'r glyn yn duo
Dan wyll cysgodion nos,
A'r awel gref yn rhuo
Ar waen a dôl a rhos.
Er garwed mae'n taranu,
Er dued ydyw'r nos,
Mae'r eos bêr yn canu
Mewn rhwysc y'min y rhos.
Mae f'oriau finnau'n duo
Dan ael fy nudew nos,
Ac edyn gofwy'n suo
O famgylch, fenyw dlos.
Er garwed mae'n taranu,
Er dued yw fy nos,
Myfinnau wyf yn canu
Mal eos min y rhos.
Dy eos ydwyf, meddet ti,
Ryw dro, fy enaid dlos,
A thyna bam y canaf fi
Dan niwl fy nudew nos.