Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Cysur Bywyd

Oddi ar Wicidestun
Gem Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Gwlad yr Awenau

CYSUR BYWYD.

Llafur a lludded,
Gofid a chroes,
Rhyfedd cyn brudded
Ydyw ein hoes;
Ambell air mwyn,
A myrdd o rai sur—
Curio dan gŵyn
A chwyno dan gur.

Llawen obeithion
Heddyw y sydd;
Dioddef arteithion
Fory a fydd;
Cysgod yw bod,
A breuddwyd yw byw;
O b'le 'r ym ni'n dod—
B'le 'r awn, druan ryw?


Eto, er blynged
Hyd ein berr oes,
Ydyw ein tynged
Chwerw a chroes,
O boppeth hardd
Ac o boppeth mwyn
Rhyw wynfyd aur dardd
Er i ni fedru 'i dwyn.


Nodiadau

[golygu]