Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Dwy Weddi

Oddi ar Wicidestun
Y Gwron Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

I'm Merch fach

DWY WEDDI.

Bore Sul,
Wylo'n hidl,
Gwyneb cul,
Hir fel ffidl;
Dwfn ebychau
Am dangneddyf,
Curo'n sychau
Wnn a chleddyf;
Pawb yn frawd—
Du a gwyn,
Cyfoethog, tlawd,—
Duw, rho hyn!

Bore Llun
(Na ryfeddwch),
Gwae i'r dyn
Fynnai heddwch;
Rhegwch, dowch
A'ch dialeddau,
Brysiwch, trowch
Bob swch yn gleddau;
Lawr a'r brawd—
Du neu wyn,
Cyfoethog, tlawd—
Duw, rho hyn!





Nodiadau

[golygu]