Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Dy Hunan
| ← Fy Mro | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Y Plentyn → |
DY HUNAN.
("Da-Hunan.")
Wyl holl ddagrau dy ddau lygad,
Wyl ar ol yr amser fu:
Drwy dy yspryd, dod yn fagad
Y mae hen adgofion cu;
Dim cyfeillach, dim anwylyd,
Colled hwy yn ymdrech bywyd;
Wyl! ac ocheneidia'n druan,
Canys weithian, 'rwyt dy hunan.
Yn eu henaint, dy rieni
Nid yn' agos attat mwy,
Pell oddiwrthyn' i'th drueni,
Dyddiau chwerw ddaeth it' mwy;
A'r nos yn dy wely caled,
Try dy ysyryd am ymwared
At dy fam a'th ddug yn fychan,
Eithr weithian 'rwyt dy hunan!
Unig! dyna oer a chreulon
Air a rewa'r galon ddofn!
Gair anobaith, gair y gofid,
Gair trueni yw, ac ofn!
Heb yn agos it' gydymaith
(Aeth y dòn a'r rheiny ymaith),
Unig wrth dy dân wyt weithian,—
Yn dy 'stafell oer dy hunan!
Hwyrach daw diwrnodau teccach,
Haul tirionach, awr a fo,
Awr o gariad pur, cywirach,
Gyda'th deulu, yn dy fro!
Ar dy delyn, cân, nes delon'
Gerddi gynt drwy bob gofalon;
Cwyna ar dy stad alargan,—
Ti a'i ceni hi dy hunan!