Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Dydd Angladd Llew Llwyfo
| ← Pennillion Pawb | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Llywelyn ap Gruffydd → |
DYDD ANGLADD LLEW LLWYFO.
(DDYDD IAU, MAWRTH 21AIN, 1901.)
'Roedd eira 'r gauaf ar Eryri fàn
Y diwrnod hwnnw, megys mantell wèn,
A haul y gwanwyn, rhwng cymylau'r nèn,
Ar brydiau 'n chwerthin ar yr amdo gàn;
Y' meusydd Mon, a chyda choediog làn
Y Fenai, gwenai gwyrddni 'r gwanwyn mwyn,
A chân aderyn dd'oi o ambell lwyn
Pan ddeuai'r heulwen grwydyr dros y fàn;
Ond yna llwydai 'r gwawl, ac oddi fry
Y deuai cawod chwern o genllysc mân;
Fe bylai'r gwynder cain a'r gwyrddni cu
A chŵynai 'r gwynt lle rhoisai 'r edn gân.
Ymryson oedd y dydd rhwng gaua' du
A bywyd ac ysplander gwanwyn glân.
Debycced oedd y dydd i oes y bardd
Yr oeddym yn ei ddodi yn ei fedd—
Oes na bu heb ei horiau claer o hedd
A wisgai 'r eira à goleuni hardd,
Oes na bu heb y gwyrddni teg a dardd
O wresog nwyf ac aspri bywyd; oes
Na bu heb gwmmwl du ac awel groes.
Ond os, ar ddydd o wanwyn, pan y chwardd
Addawol flagur mán y bywyd cudd,
Y delo cwmmwl du ac awel lem
I lwydo 'r llawr a throi y gân yn brudd,
Nid anial gwyw, serch hynny, ydyw'r drem,—
Mae ambell yspaid ferr o heulwen sydd
A'i gwawl yn troi pob gronyn ôd yn em.
Ac felly, wedi cyfnewidiol hynt,
Dygasom ef i fynwent Peblig Sant;
A Natur wnaeth farwnad un o'i phlant,—
Hiraethus gwynfan oedd y' môn y gwynt,
Ac ambell ru, fel ffrwst y dyddiau gynt
A dreuliodd ef; ac yna cwmmwl du
Yn dod a myned; eithr pan y bu
Ei ollwng ef i lawr i'r bedd, dros gant
Y nef ymledodd ffrwd o heulwen lwys
A roes ar boppeth wawr o burdeb llwyr.
Ai lledrith gwag yw r holl feddyliau dwys.
A ddel i'r galon weithiau? Dyn nis gwyr.
Ond dir fod rhagor, wedi cymmain' pwys—
Mae siriol wawr ar ol y pruddaf hwyr.
