Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Dyhuddiant (2)
| ← I'm Gwlad | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Pa le mae'r un wlad → |
DYHUDDIANT.
(I gyfaill mewn galar. Yn null yr hen feirdd.)
Gnawd deigyr am eigyr mygyr deithi,
Pefr Non, gnawd i galon galar erddi;
Gwrdd angau, angerdd cynni nis oerai
Draserch ae carai, caredd eiddi.
Cynhebyg gwynder gwenyg gweilgi
Dan ewyn gorwyn, a'i gorwych dal hi;
Prid geinwrid gwynros perthi, gruddiau Non;
Cyfliw bron manon manod llethri.
Graid lygaid lewyrch ser goleuni,
Gne nwyfre laswiw, lliw llachar feini;
Gwallt eurwiw, lliw llyweli haf, dros fron
Lliw meillion gwynion gwaen a chelli.
Y' medd oer gorwedd gorwen geinfri,
A'i bardd ni chwardd, no cherdd, namyn dyri
O gwynfan, ni chân, chwith gynni! Nis prof
Ond achreth annof cof corff heini.
Gan serch er gwenferch (gwynfyd eiddi !)
Ys iddo anhyfryd byd bod hebddi;
Ys cymrawd cymriw fyfi; ergyd grain
Rhoi is gro a main lliw cain cenlli!
Ys caeth ef o hiraeth herwydd colli
Calon ei galon; dan gêl dodi
Byd ei fyd; o'i fod hebddi, fardd dyfryd,
Gwerchyd ei gweryd hyd ddihoeni!