Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Fy Mro

Oddi ar Wicidestun
Cân i'r Morwr Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Dy Hunan

FY MRO.
("Va Bro.")

Draw mae fy mro yn y pellter,
Lle na chwytha'r un garw wynt,
Lle na ddaw na thymhestl na chroesder,
Na thrafferth na dolur ar hynt;
Ond gwybren ddisglair sy yno,
A beunydd dwymder haul mad;
Ac awel dyner a chwytha
Dros ddeilos glasgoed fy ngwlad.

Draw mae fy mro yn y pellter,
Y lle mae cân lawen barhaus!
O bob pren a changen a gaffer
E ddisgyn cán edn chwareus;
Tyf yno y blode prydfertha',
Liliod hyd lannau y lli,
Nis ceir, 'mysc y broau teleidia'
Un fro a fo hafal i ti.

Draw mae fy mro yn y pellter,.
Tu arall i drumau y dòn,
Mi garwn ehedeg drwy'r awyr
Hyd atat, fro 'nghalon, yn llon;
Mi garwn gael dwy asgell fuan,
Fel rhai y golomen fach wèn,
A thrwy yr ehangder llydan
Gael myn'd tua'm Bro drwy y nen!

O, Fro, y sy draw yn y pellter,
Hiraethu am danat a wnaf;
A phan y b'wy'n cofio dy geinder,
Och'neidia fy nghalon yn glaf;
Pryd ca'i fyn'd i'r hen fro a garaf,
Y fro lle mae serch fy mron?
Nis gwn! ond am dani meddyliaf,
Fy Mro, dros ddyfnderoedd y dòn


Nodiadau

[golygu]