Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Gem

Oddi ar Wicidestun
Paid ag wylo, taw a'th gŵyn Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Cysur Bywyd

GEM.

Em dlos, y mae dy lais i mi
Mal alaw hoft mêl awel haf
A wyla'n glaf drwy lwyn y glyn
Ar ol y glaw.


Felusa lais! Fel isel lef
Y don, yw ef, pan daeno hi
Furmurol lif o'r môr i lán
Freuddwydiol haf.

Anwyled yw! i'm nol y dêl;
Y galon gêl, fe'i geilw'n gu
O feiau lu, a'i ddwyfol iaith.
Ddyfala hi.

O, felus su â'i ddwyfol swyn
A ddel i 'nwyn o'r ddyla' nos
I wenwawr glos, i awyr glir
Calonnau glân.


Nodiadau

[golygu]