Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Gwlad y Gân—Y trydydd caniad

Oddi ar Wicidestun
Gwlad y Gân—Yr ail ganiad Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Pennillion Pawb

Y TRYDYDD CANIAD.

O, Wlad y Gân a'r Enwad! pwy na'th welai
Yn fyg a chain (sef ydyw hynny, hardd);
Bu Natur hael yn afrad pan y'th wnelai—
Peth od na faget weithiau ambell fardd!
Y mae dy hanes hefyd, pe'i 'scrifennid,
Yn llawn o yspryd ac o ymdrech arwyr,
Mae'n hanes allai ddeffro 'r nwyd gynhennid
A wnai ein tadau gynt y fath wladgarwyr;
Gwladgarwch heddyw sy lawforwyn masnach—
Mae'r Cymro'n caru 'i iaith a'i wlad yn Sasnach.

A gwr rhyfeddol yw Gwladgarwr heddyw,
Hynafol iaith ei dadau sy'n ei swyno,
Fo ddwed o ddifrif mai o Omer deddyw,
A phaid a'i siarad rhag ofn iddo 'i d'wyno;
Fo ddywed hefyd ambell waith dan wenu
Mai dyma'r iaith siaradai Adda ac Efa,
A dwed mai hi fydd iaith y gorawenu,
Gan bob rhyw sant o fewn y nef gartrefa;
Os felly, i'r fan arall yr aiff e',
On'te fe ddysgai siarad iaith y lle.


Fo ddwed na ddylid meddwl am benodi'r
Un dyn i swydd y' Nghymru oni b'o
Yn medru iaith y bobl y gosodir
Rhyw ran o'u busnes dan ei ofal o:
Os digwydd rhywun wneuthur tro mor wrthun,
Fe ddaw'r Gwladgarwr, a chan hanner fy gu,
Fo ddwed y drefn yn llym a chwerw wrthyn',
A thwng fod Cymru wedi ei dirmygu;
A phan êl adre wed'yn bron na wyla
Ar couch, mewn sitting-room yn Saxon Villa.

Fo aiff yn syth i gwrdd y School Board wedyn—
Fo yw'r cadeirydd (er nas gŵyr neb pam),
Ac wedi cael y gwynt o dan ei edyn,
Fo ddwg gynnygiad i gondemnio'r cam
A wnaeth y rhai bennododd Sais uneithog
I swydd y' nghanol gwlad Gymreig ei thafod;
Ar ol i amryw siarad Saesneg creithiog
O blaid y cynnyg, gan ei drin a'i drafod,
Fe ddyry pawb ei lais o du'r cynnygiad,
A pheth ond gwladgar ydyw'r fath ymddygiad?

Y' mhen rhyw fis y Board drachefn gyferfydd
I ddewis athro newydd ar yr ysgol,
A dengys yn lled eglur cyn y derfydd
Ei fod yn cwbl ddallt y pwnc addysgol,
Can's dywed y cadeirydd faint a gais
Y lle, a dwed fod eisieu cryn ragoriaeth,
Ac os ceir Cymro cystal gwr a Sais,
Fo ddwed y dylai'r Cymro gael blaenoriaeth;
Ond rywfodd, Sais unieithog a benodir,
A'i gymmwysderau i'r cymylau godir—
(Ac yno yn ddiau'r arhosan' hwy—
O leia', welir byth mohonnyn' mwy).


Ond os gofynnwch i'r Gwladgarwr dwyfol
Paham y rhoes dros ŵr un iaith ei lais,
Fo ddwed nad ydych ond gwladgarwr plwyfol,
Mai cadw Cymru i'r Cymry yw eich cais;
A phe gofynnech sut y dichon gŵr
Na ddeyll air o iaith y plant, eu dysgu,
Fo ddywed ich' y gellwch fod yn siwr
Nad oedd y Board, pan wnaeth ei waith, yn cysgu:
Wrth gwrs, chwi fynnech amme'r atteb gwammal,
Ond—wel, mae'r gwallco'n methu cysgu'n amal.

Drachefn, fo aiff i gwrdd y Cynghor Tref
(Neu'r "Cynghor Trefol," chwedl y "newyddiadur").
Ac yno etto fo a gŵyd ei lef
Gan dreisio iaith ffasiynol y Pennadur;
Bydd yno eisieu gwr i hel y dreth,
Neu gadw golwg ar fudreddi'r dre,
A'r Gwladgar etto ddwed mai mawr o beth.
Yw pennu gŵr fo gymmwys at y lle;
Ond dyna yw'r cymmwysder goreu allan—
Rhoi uwch y bobl swyddog na ddeallan'.

Cyn hir, dwed Sais fod Cymru'n ymseisnigo,
A bod yr iaith Gymraeg yn prysur farw,
Ond gwyliwch, dyna'r Gwladgar yn ffyrnigo,
Gan ddechreu curo ar y Sais yn arw;
Mae'r hen Gymraeg, eb ef, yn gref a hoyw,
Ac ni fydd marw tra f'o mor a mynydd,
Mae arni heddyw olwg fil mwy gloyw
Nag a fu gynt, rhagorol yw ei chynnydd;
Y mae 'n ei siarad filoedd o drigolion,
A'i dysgu'r ys i'r plant yn yr ysgolion.


Ni ddwed y gŵr pa sut gall hyd yn oed
Y Sais caletta'i wyneb dan yr huan
Addysgu iaith nas gwybu hi erioed—
Ond beth sy wnelo hynny a Chymru druan?
Y sawl a fynno'i alw yn Wladgarwr,
Ni raid i hwnnw geisio bod yn gyson,
Dim byd ond gwybod enw ambell arwr,
(Dim draen o bwys am beth y bu'n ymryson),
Son am y "cymmwysderau" tra thoreithiog
Y sydd bob amser yn y Sais unieithog.

Chwi ellwch draithu'n ddoeth am enwau llefydd,
A galw 'ch ty yn London House, neu Villa;
Dweyd mai'r Gymraeg yw iaith naturiol crefydd,
A chodi mân achosion Seisnig tila;
Myn'd i'r Eisteddfod, a dymuno'n dduwiol
Am "Oes y byd i'r iaith Gymraeg." a throi
I ddarllen maith feirniadaeth go unrhywiol
Yn Saesneg, nes bo'r bobol yn cyffroi;
Chwi ellwch wneuthur hyn yn lled ddidrwbwl,
A chael eich cyfri'n wladgar wedi'r cwbwl.

Chwi ellwch fynd i gwarfod politegol,
(Mae cwarfod, am wn i, yn eitha' iawn,
Mae'n fyrrach beth, ac nid yw'n llai mynegol
Na'r gair cyfarfod, wedi'i roi yn llawn)—
Chwi ellwch fynd i gwarfod politegol,
A sôn am "Gymru Fydd" nes troi yn wyrdd,
(Os dichon i'ch,—a bod yn rhesymegol—
Droi'n wyrddach, felly, nag y'ch wrth eich urdd)
Chwi ellwch fynd—ond, 'rhoswch hanner munyd,
Gwnaf bennill arall—gwnaiff y tro'r un ffunud.


Chwi ellwch fynd i gwarfod politegol
A sôn am "Gymru Fydd" nes b'och yn wyrdd,
Sôn am ysgolion Cymru 'n ychwanegol,
A throi i broffwydo pethau fil a myrdd;
Chwi ellwch wneuthur hyn, a gyrru 'ch arawd
I bapur Saesneg erbyn boreu drannoeth,
Fe fydd rhyw "bapur clodwiw" 'n ddigon parawd
I'w throsi i'r Gymraeg—ai doeth ai annoeth—
O, botes eildwym! eitha' ffâr i Gymru,
Mae'n rhattach na chartrefol uwd a llymru.

Peth hawdd yw canu 'n enbyd o farddonol,
A dweyd na fydd yr iaith Gymraeg byth farw,
A lladd yn gethin ar yr iaith estronol,
Ei galw 'n fain, a'i thrin fu 'rioed mor arw;
Ac wedi gorffen y barddonol gablu
Mynd ar eich union, er eich holl fileindra,
I ennill cregin heddwch drwy barablu
Yr iaith ddirmygech gymmaint am ei meindra
Ond hi'n ddirwgnach ddigon a lefarwch—
Enrhyfedd aruthr ydyw ffyrdd gwladgarwch!

Os digwydd rhywun ddangos ei wladgarwch
Drwy rywfodd mwy sylweddol nag areithiau,
Cyhuddir ef yn chwap o hunangarwch,
A bwrir dirmyg arno ef a'i weithiau;
Os digwydd iddo fod yn ŵr coethedig,
Neud, crochach fyth fydd crechwen y corachod,
Can's gwag haerllugrwydd hanner addysgedig
Yw pattrwm ucha' coethder i'r conachod;
A fynno glod Gwiadgarwr unrhyw adeg,
Gocheled ddysgu hyd yn oed rammadeg.


Tydi, Wladgarwch! 'rydwyt fel cyfflogyn,
Mae'th gorff yn fyrr, ond O! mae'th big yn hir;
Ai ti yw "noddfa ola'r dyhirogyn?"—
'Rwy'n ofni bron y rhaid fod hynny'n wir
O, Gymru anffortunus! pwy a'th wared
O law y genfaint honno sy'n amlygu
Eu cywir gariad attat drwy ddynwared
Pob peth y Sais ffroenuchel, gan ddirmygu
Dy holl anghenion di a'th gyfleusterau
Dan rith cyflogi'r "ucha' 'i gymmwysterau"?

Ai oni fyddet lawer iawn cysonach
Pe peidiet mwyach a'th wladgarol dwrw,
Pe cym'ret siampl ambell bwt o gonach
A heliodd bres wrth werthu glo neu gwrw,
A siarad dim ond Saesneg o hyn allan—
Pa waeth 'tae hwnnw 'n Saesneg go dolciedig,
Pa waeth pe dwedai'r bobl na ddeallan',
Ti gaet eu galw 'n ysgentynnod gwledig;
Ni chai'r Gymraeg—di, gochel beth cyn erched—
Beryglu mo wastadrwydd gweflau 'th ferched.



Nodiadau

[golygu]