Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Gwlad y Gân—Yr ail ganiad
| ← Gwlad y Gân—Caniad cyntaf | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Gwlad y Gân—Y trydydd caniad → |
YR AIL GANIAD.
Er gwaetha'r cwbwl, 'rwyf yn byw a chanu—
Nid ar fy nhir fy hun ychwaith, ysywaeth—
(Ni feddaf lath o dir, er mod i'n hannu
O deulu gynt fu enwog am ei gywaetli);
A byw go fain i Gymro yw llenora,—
Ni chai gefnoctyd ond un arwynebol
Pe d'wedai'i feddwl yn yr iaith ragora'
Os na thrydd at "lenyddiaeth gyfundebol; "
Os hynny wna, bydd "awdwr dylanwadol,'
A'i ganmol wna pob papur bach enwado!.
Wrth feddwl am bapurau, mae digonedd
Ohonyn' hwy ar hyd a lled y wlad;
Ni fynnwn i gynhyrfu mo'u digllonedd,
Can's enbyd fyddai hynny, pwy a wad?
Peth eitha fyddai llochi'r golygyddion,
Ond dweyd y gwir a raid i mi, pe digien;
Am add yr iaith 'does odid well cigyddion,
A chofio 'u bod yn cael cryn ddeg ar hugien
O sylltau yn yr wythnos am eu gwaith
Gan rai wyr lai na hwythau an y aith!
Y'mlaenaf (fel y dywed y pregethwyr),
Cyfeiriwn (fel y dywed gwyr y wasg),
At waith y golygyddion, prif ddifethwyr
Grammadeg, inc, a phapur; penna' dasg
Y rhei'n yw trosi barn papurau'r Saeson
O Saesneg gweddol i Gymraeg echrydus;
Mi wn y ffraean' eto fel y ffraeson'
Am immi fentro dweyd y gwir adfydus,
Ond caraf Gymru gystal ag un dyn,
A dwedaf, dylai ddweyd ei barn ei hun.
Hwy wnan ar ambell fater cartre felly
(Y golygyddion wy'n olygu'n awr),
A garw dosted hefyd yw'r fflangellu,
A'r cynnwys bychan gymmer le mor fawr:
Rhaid dweyd "yr ydym eisoes wedi dwedyd "
Yn lle "dwedasom "—waeth mo'r llawer beth,
Can's nid yw'r peth a dd'wedwyd nemor gredyd
I undyn ond i 'fynedd mawr di-feth
Y sawl ddarllenno'r oll heb—wel, heb wneyd
Y peth na waeth i mi heb drwblo 'i ddweyd.
Yn nesaf (dyna ddull y pulpud etto),
Mae gennym i gyfeirio (dyna ddull
Y wasg, a gwae i'r truan a ddywetto
Ddim yrr ohebwyr hon i dymmer hyll):
Beth ddwedais?—O! mae gennym i gyfeirio
Yn nesa' peth at waith y gohebyddion;
Maen' hwy fel peten' wedi ymgyngreirio.
I wneuthur a ddylasai'r golygyddion,
Sef gwneyd sylwadau ('n mesur tua throedfedd
Ar ffaith na fesur fwy na chwarter modfed).
Os digwydd rhywun digon dinod farw,
Yrwan, bobol anwyl! am ohebu;
Fe geir colofnau am y golled arw
(Nid dwl o dro a fa'i eu hystrydebu,
Arbedai dalu cyflog i'r cysodydd):
Yr oedd y sawl fu farw 'n wir Israeliad,
Yn Nasaread, pen pob cyfarfodydd,
Tywysog mawr yn Israel, a chaffaeliad
I'w ardal, a "derbyniwr cyson hefyd.
O'r papur hwn" (gnawd ddwyn o hynny glefyd).
Ar ol rhoi hanes maith a thra gwasgarog,
Gweddio mae'r gohebydd yn doredig,
Fo erfyn, "Bydded nawdd y Nef drugarog
I'r weddw a'r amddifaid trallodedig;"
Fo ddywed hefyd, "Gyfaill anwyl, huned,
Nes byddo dorau beddau'r byd yn agor,
A gwyrdd fo'i fedd," deil atti i ddymuned
Cyffelyb bethau, ond ni ddwedaf ragor
Heblaw fod gweddi'n eitha i bechadur
Cyhyd na ddodo hi mewn "newyddiadur."
Pan rydd gohebydd gwrs o'i farn ei hunan
Y' nghylch cwrdd te neu am ryw gwrdd llenyddol,
Bydd amryw yn yr ardal na chytunan',
A dyna ryfel doniau gohebyddol:
Bydd un yn galw'r llall yn anwybodus,
Yn llawn o ragfarn ac o lid maleisus.
'Scrifenna'r llenor gwych" a'r "bardd hyglodus '
Golofnau i dd'wedyd a ddywedwyd eisys,
A'r "Gol." a dd'wed y' mhen rhyw flwyddyn gron,
"Boed hyn yn derfyn ar y ddadl hon."
Ond wedi'r cwbl, rhaid cael "copi" rywsut,
A chan fod hwn, ran amla, 'n "gopi" rhad,
Wyr gŵr y papur newydd yn ei fyw sut
I dalu am newyddion tref a gwlad;
A thyna'r holl bapurau Seisnig, wel,
Mae'r rheini'n cwbwl loffa pob newyddion,
A rhatach fil na thalu am eu hel
Yw talu tipyn bach i gyfieithyddion;
Os papur Sais dd'wed "John Jones sang," peth anodd
Cael papur Cymro heb "John Jones a ganodd."
Ffordd dda i ohebu yn llwyddiannus ydi
Disgrifio'r lle fel "pentre bychan tawel,
Yn gorwedd rhwng mynyddau llawn mawrhydi,
Màn trwy y gwyrdd-goed troella'r dyner awel,"
Neu ddweyd "anaml bydd neb oddiyma 'n curo
Wrth ddor eich papur clodwiw am dderbyniad,"
A mynd y' mlaen i draithu ac egluro
A fyddo 'ch meddwl chwi eich hun a'ch syniad.
Am hyn a'r llall, ac eitha peth, ran hynny,
Yw son am "sychu'r 'sgrifbin" wrth derfynnu.
Os na cha'r druth (gobeithio y maddeuwch.
I mi am beidio galw'ch gwaith yn llythyr,
A chredu'r ydwy' rywfodd nad amheuwch
Fod eisieu parchu'r gwir, fel dwed y 'Scrythyr).
Os na cha'r druth "ymddangos," fel y dwedir,
Y' mhen yr wythnos, peidiwch digalonni,
'Does wybod ar y ddaear na chaniedir
I'r byd y' mhen y mis gael peth ohonni,
Can's mae yr ystyr wir i'r dydd o'r blaen "
Ran amla'n fis neu ddau—na faliwch ddraen.
Ond dyna, hwyrach, ddigon am y tro,
Rhag ofn i ryw ohebydd daro arna 'i—
Er nad wy' ddim yn barod, gwyped o,
I ddilyn Keats er plesio'r gŵr a'm barnai;
Ond waeth cyffesu'r gwir i gyd na pheidio—
(Ac mae cyffesu 'n lles i'r enaid, meddir)—
Egwyddor a grammadeg! 'rwy'n ocheneidio
Fod cyfraith gwlad yn dweyd "a laddo a leddir,"
Rwy' newydd edrych dros y "newyddiadur,"
Ac, wel, mae pen ar 'fynedd pob pechadur.