Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Gwlad yr Awenau

Oddi ar Wicidestun
Cysur Bywyd Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Morfudd

GWLAD YR AWENAU.

Gwlad yr Awenau! Gwalia dirionaf,
Mwyn yw dy swyn dan wrid hyfwyn yr haf.

Gwyrddion dy ddyl ac heirddion dy ddeilos,
Fore hin hefin, mor iesin dy ros.

Gorwyrdd marianíryn, mireinfrig llwyni,
Melodus cerdd d' adar, llafar twrf lli.

Gloyw dy nentydd dan anterth huan,
Lle dylathra mill hyd dy lethrau mân.

Gad immi ddwad o ddüwch y ddinas
I arogledd a gwlith dy weirgloddiau glas.

Lle dawns morwyndod mireindeg anian
Dan berlau'r gwlith—dyna barlwr glân!

Iechyd di gŵyn sy'n byw rhwng dy lwyni,
Gwynfa'm mabandod, mae'm bendith i ti.

Wele rodd Ior ryddiriwn hyd ddiwedd—
Canu dy glod byth ac ynnod gael bedd.

Gwan awel hwyrnos a gwyno alarnad
I mi, nos fy nghloi y' mynwes fy ngwlad


Nodiadau

[golygu]