Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/I'm Gwlad
| ← Pa Leshad? | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Dyhuddiant (2) → |
I'M GWLAD
"Und was die innere Stimme spricht,
Das tauscht die hoffende Seele nicht."
—SCHILLER.
Mae genni gyngor bach i ti, fy ngwlad,
Sef Cymru, canys, er mai bach wyt ti,
Nid wyt ry gyfyng i'm galluoedd i,
Nad ydwyf ddim ond gwr o isel stad.
Ni roed i mi mo'r meddwl mawr y sydd
Yn trafod cyfandiroedd, megys duw,
Yn penderfynnu tynged dynol ryw
Wrth a f'o rheidiol er fy moeth a'm budd.
Ni raid i'm chwaith wrth wledydd byd i gyd
Cyn y b'o dichon immi wneyd fy rhan:
Pe medrwn wella cyflwr dim ond llan
Neu bentref ynnot, gwyn a f'ae fy myd!
Y'ngwawr y ganrif newydd, O, fy mro,
Ymagor it' mae ffyrdd gwahanol, ddwy,
A dewis raid i tithau rhyngddyn' hwy-
Na fwrw ddibris olwg ar y tro!
Y mae a ddywed itti 'n deg eu gair
Mai ynnill moeth yw amcan uchaf bod,
Mai gyda gorthrech y mae moeth yn dod,
Ac nad oes, idd a'i meddo, ddim nas cair.
Y mae a ddywed itti nad oes fudd
O feithrin mwy y myfyr dwfn a roes
It' allu gynt i gario llawer croes.
Heb fagu creulon fryd na cholli ffydd.
Na ddewis dithau rodio'r llwybyr du
A ddycodd bob rhyw wlad a'i cerddodd gynt
I eithaf distryw ar ei halog hynt,
Can's etto ni bydd amgen nag y bu.
O eisiau gole o'r dirgelwch hwnt,
Di gredaist hyd wrthuni lawer tro
Lle nad oedd sail, ond cred ai anghred, O,
Na ddewis lithrig lwybrau rhagrith brwnt!
Mynn ryddid llawn i'th fywyd di dy hun,
Ac na warafun gymmain' rhyddid chwaith
I bob rhyw wlad dros wyneb daiar faith,
Can's rhyddid ydyw trysor pennaf dyn.
Gwyneba ar y byd anhyspys t'wyll
A'th gred ar dda yn loyw fel y wawr;
Petae mai anfod fydd y dynged fawr,
Dos iddi 'n lan dy foes a chlir dy bwyll.