Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/I'm Merch fach

Oddi ar Wicidestun
Dwy Weddi Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Y Dirgelwch

I'M MERCH FACH YN FLWYDD OED.

Angyles fach wen!
Deuddeg o fisoedd aeth dros dy ben,
Blwyddyn heb ynddi ofid na chroes,
Ac etto, pwy draitha dy oes?
Weithion, ni cherddaist gam,
Ac etto, ti deithiaist hyd
Y cyrhaedd eneidiau mam a thad;
Ychwaith, namyn "dad" a "mam,"
Nis d'wedaist ti fawr ddim byd,
Etto, pa iaith o'i chyflawnder âd
Draithu a dreithaist ti?
Mud yw holl ieithoedd y byd i mi
Wrth a gynnwys gair,
Nad yw ei lythrennau onid tair,
Dros dy wefus fach a ddaw,
A threm dy lygad a thro dy law!
Chwardd neu wyla,
Y sain anwyla'
Yw'th lais a dorrodd ar glyw erioed;
Dysgaist im' fwy nag a ddysgodd oed,
Can's canwyll fy llygad wyt ti,
A chalon fy nghalon wyt ti!


Nodiadau

[golygu]