Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/In Memoriam, T E, Ellis

Oddi ar Wicidestun
Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Molawd Dyffryn Clwyd

In Memoriam
T. E. ELLIS.

Fab cartre hud traddodiad hen, a swyn
Y fore gan a aned cyn bod co',
Roedd d'enaid araul ynddo'i hun yn dwyn
Cyfaredd bywyd oesau Celtig fro;
Rhoist drwy ffurfafen heddyw lachar dro,
Gorchfygaist fawredd a'th hynawsedd mwyn,
Rhoist newydd lais i hen, wylofus gŵyn,
A'r hen, hen dan i obaith newydd do,—
O! pam diangodd d'yspryd dewr ar ffo?
Ffo! Nid adwaenai ffoi! O bant i dwyn
Yn egni byw trig fyth ei effaith o,
Can's yspryd cenedl oedd nad edwyn ffrwyn!
O wreiddiau calon Cymru terddaist ti,
Rhychwennaist eithaf rhawd ei bywyd hi.


Nodiadau

[golygu]