Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Llywelyn ap Gruffydd
| ← Dydd Angladd Llew Llwyfo | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Y Gwron → |
LLYWELYN AP GRUFFYDD.
["The attempt to secure subscriptions for a national
monument for Prince Llewelyn ap Gruffydd has proved a most lamentable failure."—PAPUR NEWYDD SEISNIG.]
Mae chwe' chan' mlwydd a rhagor er y pryd
Y cwympodd ef, drwy ystryw ffals a brad,
Dros freiniau cenedl a rhyddid gwlad—
Amlygiad uchaf bywyd yn y byd;
Ac etto, heddyw, wedi'r aberth drud,
Er maint ym yn ei fostio am ein dysg
A'n bas wareiddiad, nid oes yn ein mysg
Ond cysgod o'r edmygedd hael ei fryd
A edwyn wron, ac i'w enw rydd
Ei briod fawl, heb gymmorth undod trâs.
Ond ef, y dewr, dewisodd angau'r rhydd
Yn hytrach na chaethiwed cerlyn bâs;
Pa ryfedd waeled coffa iddo sydd
Gan oes na phiau namyn yspryd gwâs!
Er son am ryddid, pa ryw ryddid yw
Y rhyddid na chydnebydd hawliau dyn
I fyw yn ol ei briod nawd ei hun
Heb roi i arall wasaidd barch, ond byw
Gan wael ddynwared hwnnw? Ai peth gwiw
Yw rhyddid salw gaeth i blygu glin
I'w feistr, ac i fwrw dros ei fin
Ddi-ystyr druth am ryddid dynol ryw?
Ai rhydd yw'r gwr nas gŵyr am aberth drud
Gwroniaid godidocca'i briod wlad?
Ai rhydd yw yntau, ŵyr eu hynt i gyd,
Ond na fynn godi iddyn' wiw goffâd?
Na, dyma ffiaidd gaethion penna'r byd—
A hwy yn rhydd, ni haeddan' mo'u rhyddhad!