Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Molawd Dyffryn Clwyd

Oddi ar Wicidestun
In Memoriam, T E, Ellis Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Arianwen

MOLAWD DYFFRYN CLWYD.

"Car sa beauté pour nous,
C'est notre amour pour elle."—De Musset.

I.
Glan wyd, Ddyffryn Clwyd! i'n clau
A chedyrn hen serchiadau
Fel erioed. Fe lwyr edwir
Dy goedydd a'th ddolydd ir
Cyn y paid bod canu pêr
Am danat. Dyma dyner
Deimladau'n bronnau. Brenin
Pob dyffryn wyt, 'rwyt lawn rhin.
Gem ar fron hen Gymru fras,
Eden werdd dan ei hurddas
Nid oedd ail o nodwedd yt—
Ba le'n werth blewyn wrthyt?
O'th gwrr eitha', ger Rhuthyn,
Hyd Ryl, ar frig gweilgi gwyn,
Wyd em y cread yma,
Bid aua' hir, bid wiw ha'.
Is gwawr haf, di wisgi'r rhos.
Am y llwyni; meillionos
Lawer dardd hyd lawr y dyl—
Ol sangiad ceindlws engyl!
B'le dyry drem blode'r drain
Wenau mor lan a mirain?
B'le mae adar cynnarach
Yn y byd am gywion bach?
Delorwyr y dail irain,
Islaw'r rhod, oes ail i'r rhain?
Ar dy lasaf, frasaf fron,
Di ddygi goedydd ddigon;
Dy dderw, sawl chwerw chwaf
A rhewynt garw auaf,

Drwy'r oesau hydr heriasan'
Heb wyro dim berr o dan
Gadarn nerth y rhyferthwy?
Yn yr haf addurnir hwy
A gortho ddail-gwyrth ydd yw,
Ter rwydwaith natur ydyw.
Rhed y Glwyd a'i ffrydiau glân
Hyd wely teg rhwng dwylan
Gyscodol, megis cadwen
O arian gwiw; arni gwên
Disgywen haul; 'does gan hwn,
A wel afonydd filiwn,
Loywed drych a'r Glwyd i'w ran
Drwy wledydd daear lydan!


II.
Bro hen draddodiadau a chwedlau'a cyndadau
Hanesion hen oesau hunasan' cyn hyn;
Y lle yr ymdeithiai, Glyn Dwr pan ddiffeithiai
Garn ladron anrheithiai yn Rhuthyn.

Grey draws a'i orthrymder i dristwch a thrymder
A gwympwyd is llymder a dewrder Glyn Dwr;
Y costog a lusgwyd a'r castell a losgwyd
A'i furiau a fwriwyd yn bentwr.

A Dinbych, on'd enbyd fu rhedfa'i hir adfyd
Dan ormes creulonfryd y Norman a'r Sais;
Y lle bu ddyfeisio a chynllwyn a cheisio
Ein treisio a'u trawsedd a'u malais.

Ti Ddafydd ap Gruffydd! Digofaint nas diffydd
Bar cofio'th ddienydd-ba ddiafl yn y byd.
A'th lofrudd allase gigyddio yn unlle
Mor erch-Och! yr hunlle dychrynllyd!


Ac yma daeth Madog a'i Gymry llygadog
I ddial ar fradog ddifrodwyr ei wlad;
'Nol trechu Caernarfon a chrogi'r hen Bilston,
Dwyn Dinbych wnai'r dewrion di-dorriad.

Pan fu'r gadfa hynod parth rhinwedd Rhosynod,
Bythynod hen "Harlech a Dinbech bob dor"
Rhag Siaspar a grynne, ac yntau a fynne
Eu cynne—"Nan' Conwy yn farwor!"

Rhaid addef mai llencyn oedd Dafydd ap Siencyn
Chwareuodd gryn brencyn a'r hen Ustus Coch,
Ond d'wedwch wyr dawnus, oedd pranciau yr ustus
Bob pryd yn rhai gweddus, os gwyddoch.

Pan oedd Carl y Cynta' mewn helynt o'r brynta',
Ac Olfyr ac ynta'n ymgeintach yn groch,
Y dewraf o'i weision dan bob anfanteision
Fu'r hen 'Sane Gleision, chwi glywsoch.

Ni fynnai'r hen Frytwn, er Miltwn na Mytwn,
Roi'r castell i Bengrwn, mor bengry' oedd o,
Heb gennad y Goron; fe'i ca'dd, neu fe ddichon
Mai yno bae'r dynion hyd heno!

Llanelwy hynafol, bu'th eglwys gadeiriol,
Yn gyrchfa'r annuwiol, a'r duwiol, a'r da;
Bu hefyd, 'nol brwydyr, yn stabal a chysur
I brysur feirch Olfyr, fawr chwalfa!

A thyna'r gyn'lleidfa amhechadurusa
Fu yn yr addolfa erioed, ebe rhai;
Sut bynnag, 'rwyt gyfan; mae hynny'n werth cyfran
Dda rwan o'r arian i rywrai.


III.
Eithr mwyn heno swyn twyn, llwyn a llannerch,
Awel glaf hwyrnos haf glywaf i'm hannerch;
Ynddi daw oddi draw gwynaw y tonnau,
Yn ei bôn y mae ton gloesion yr oesau;
Ynddi hi clywaf fi gadgri Caradog,
I'm clyw tyrr hwrdd a gyrr brwydyr gynddeiriog;
Olaf roch dolef groch y froch gyflafan
A wnaeth "frad gwyr fy ngwlad ar Forfa Rhuddlan!"

Wele draw feiddiol drem castell adfeiliog
Dyrch yn lew dan ei dew wisg eiddew deiliog;
Trwm a gwyllt dremia gwg trwy'r iorwg gwyrddion,
Dwed am ru'r arfau dur, cadau'r gwyr gyrddion;
Hanes hynt Harri gynt, a cherynt galon
Rhwysc y wledd pan oedd medd yn tanio 'u calon;
Hanes mâd wyr ein gwlad, câd a chelanedd,
Godwrf pur arfau dur gwyr Owen Gwynedd.

Ond yn awr darfu gawr llafnawr llurigog.
Heno fo huna'n fwyn dan y llwyn brigog;
Heibio'r gaer heno'n glaer llifa'r Glwyd fywiog
Hefo'i mwyn, bruddaidd gwyn, lawn o swyn rhywiog:
Onid yw hithau'n d'weyd hanes hen oesau—
Suo lleddf hanes llid, gofid a chroesau
Wrtho fo, gertha' falch gastell digofus,
Ar ei thaith fythol faith mewn iaith wylofus?


IV.
A thraw o Ddyffryn Clwyd
Af yn awr yn fy nwyd,
I wrando'r tonnau'n cwyno'n brudd
Alarnad dewrion gaed
I roi eu gwerthfawr waed
I ddial estron drais a chadw Cymru'n rhydd!


I furmur dwfn y dón
Ar y traeth, o fy mron
Rhyw atteb na ddeil geiriau gwyd—
Pe collai Cymro 'i iaith
Am fil o flwyddi maith,
Er hyn daw rhai a ddial ddewrion Dyffryn Clwyd


Nodiadau

[golygu]