Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Morfudd

Oddi ar Wicidestun
Gwlad yr Awenau Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Deio'r Gwas a Betti'r Waen

MORFUDD.

Llifai dwfr y Ddyfrdwy lafar
Heibio hen leiandy prudd,
Llifai, gan drymeiddio afar
Calon fu mor llon a'r dydd;
Dan y llwyni pêr, garlantaidd,
Crwydrai un, a'r defion santaidd
Fel cadwyni adamantaidd
Yn ei gwasgu nos a dydd.

Cathlu yno 'roedd yr eos,
Cathl foddus, felus, fwyn,
Ond i bleser ni fydd lle os
Llawn fo'r fynwes hefo chŵyn;
Felly crwydrai'r lleian wirion
O dan frigau'r coedydd irion,
Ac ni chlywai'r ganiad dirion.
Ganai'r eos yn y llwyn.

"Dychwel Forfudd!" oedd y geiriau
Brudd adseiniai yn ei chlyw,
Blode meirwon oedd y creiriau
Wasgai at ei chalon wyw,
Blode gwyllt fu'n tyfu'n irion.
Gynt ar odre'r Berwyn tirion,
Ac a gadwyd fisoedd hirion.
Er fod myrdd o flode byw.

Syllai ar y rhos gwywedig,
Gwelwach aeth ei gwelw wedd,
Megys golwg y siomedig
Pan syrth gobaith idd ei fedd;
Fel yr haul ar fore dylaidd,
Gwenodd wên a ddarfu'n bylaidd;
Ar ei gwyneb trist, angylaidd,
Angau roddes wên o hedd.


Daeth yr holl leianod santaidd
Yno gyda goleu'r wawr,
Ac o dan y llwyn garlantaidd
Rhodded Morfudd dlos i lawr.
Ond mae un yn crwydro, crwydro,
Fyth â'r stormydd oll mae'n brwydro,
Fyth mae'n ceisio'r beddrod llwydro
Lle rhoed Morfudd dlos i lawr.


Nodiadau

[golygu]