Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Non

Oddi ar Wicidestun
Swyn y Wên Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Dyhuddiant (1)

NON.

Gwen ton pan torro, terwyn ei throchion.
A thrychwyllt gynnwrf a ganna ei bron:
Claer a llathrwyn llethrau is lluwchion
A llachar od newydd dan huan llon;
Glanach na'r ewyn a'r iâ yw pur galon
A golwg f'anwylaf wén eilun, Non.

Euraid yw'r wawr hyd ororau goleuder,
Goludog aur wawl ydyw'r heulwen dêr:
Glân hithau loerwen, lariaidd ei lleuer,
Lliwus dyrch eurain derch oror yw'r ser;
Harddach na'u heurwedd yw'r hirwallt a dyner
Ymdonna am wyneb fy meinwen bêr.


Pêr y cân eos yn nhywyll nos dawel,
Diwall delori o'r dail irain a wnél;
Llafar rhwng deilos y dylif yr awel,
Rhywiog yw cwrnad y corneint cêl;
Mwynach na'r dil, na'r delyn, a'r dwsmel
Rhed esmwyth lais Non pan i'm dwylo'n chwim dêl.


Nodiadau

[golygu]