Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Paid ag wylo, taw a'th gŵyn
| ← Beth? | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Gem → |
PAID AG WYLO, TAW A'TH GWYN.
Pan yr wylwn gerdd allwynin
Chwerw, ar yr unig ros,
Clywais lais o frig y llwyni'n
Galw arnaf fin y nos;
Ebai'r llais yn wan, grynedig,
"Paid ag wylo, taw a'th gwyn!"
Minnau syllais yn synedig
Tua'r llannerch yn y llwyn.
Huliai deilos gwyrdd y llannerch,
Llanwai blode pêr y lle,
Man y clywais lais i'm hannerch,
Llais a ddaeth o wynfyd ne';
Darfu'r byd a'i ddig ymryson.
I'w anialwch crâs fy nwyn,
Ond mae'r llais yn galw'n gyson—
"Paid ag wylo, taw a'th gŵyn!"
Mae blynyddau wedi myned,
Ymaith ffoes ieuenctid glân;
Ar fy mhen mae gwallt cyn wynned,
Lawer un, â'r eira mân;
Aeth gwrthrychau'r byd yn salw,
Nid oes yn ei bethau swyn,—
Ond mae'r llais o hyd yn galw,—
"Paid ag wylo, taw a'th gŵyn!"
Cyn bo hir daw llaw marwolaeth
Im' i roi anadfer glwy',
Gofid wywodd fy mabolaeth,
Angau wywa'r cwbwl mwy.
Mae'r distawrwydd yn fy llethu,
Ond mi glywa'r geiriau mwyn
Gyda'm galar yn ymblethu,—
"Paid ag wylo, taw a'th gŵyn!"