Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Pennillion Pawb
| ← Gwlad y Gân—Y trydydd caniad | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Dydd Angladd Llew Llwyfo → |
PENNILLION PAWB.
Y BARDD.
Rhyfeddnodau,
Ansoddeiriau,
Coed a blodau,
A chadeiriau;
Ysnodennau
A medalau,
Cloi llyth'rennau
Mewn hualau;
Llais fel taran
Grynnai'r Aran,
Gwallt hir, tew,
Fel mwng llew;
Hen iaith Gomer,
Awen Homer,
Gwisg Herkomer—
Dyna rai o bethau'r Bardd.
Y CANTWR.
Seinfforch a baton a chôr,
A chân fach ar gopi mawr;
Llais cyn ddyfned a'r môr
Neu cyn uched a thorriad y wawr;
Safn all ymledu'n hir,
Gwddf all ymestyn yn hwy;
(Os merch, mae hi'n cani'n bir,
All hi ddim swnio'r "u," medden hwy);
Croen y sy'n dene sobor,
Tymer sy'n sydyn fel fflam;
Wastad yn ceisio'r wobr,
Wastad yn cael y cam,—
Dyna'r Cantwr.
YR OFFEIRIAD.
Het feddal (rhag brifo'r pen),
Côt o liw galar tragwyddol;
Cadach a choler wen,
Angau pob teimlad dedwyddol;
Credu'r peth fynno, neu fethu
A chredu dim byd, ond rhaid
Gofalu, pan fyddo'n pregethu,
Am wneyd yn ol credo ei daid,
Dyna'r Offeiriad.
Y PREGETHWR.
Gwel, dan "Offeiriad,"
Yn union 'run eiriad
Dyna'r Pregethwr.
YR YSGOLFEISTR.
Cansen (un iawn am frifo),
A phob stwff i grammio'r co',
Darllen, scrifennu, a rhifo
A thrwyddeda dyna fo
Yr Ysgolfeistr.
Y GOL.
Y dyn eilw'i hun yn "Ni,"
Wyr boppeth o dan y lleuad
Ac uchod, am a wn i,
I'r diwedd, ac o'r dechreuad;
Basced, siswrn, pot pâst,
A mwrdrwr o bensil glas,
Yn croesi milltiroedd yn wast.
A gadael rhyw linnell ddiflas;
Gelyn naturiol pob bardd
Ac awdwr fynn anfarwoldeb,
Dyn sydd a'i allu i wahardd
Yn nesaf i anfeidroldeb
Yw'r Golygydd.
YR IS OL.
Dyn wedi blino ar fyw,
Y pennaf o bob rhyw bechadur,
Mae'n rhaid iddo gyfri fel Duw
Berchennog y newyddiadur
A'r Gol., a'r hysbyswyr a'r clarc,
A'r twrne a'r pen cysodwr,
A druan, ni wneiff o byth farc
Ar ddim ond ar ambell athrodwr—
Dyna'r Is—olygydd.
Y GOHEBYDD.
Rhedeg i ddal y tren,
Crwydro o gwarfod i gwarfod;
Scrifennu areithiau'n glen
Y' mhell cyn i'w hanner ddarfod;
Dyn all roi araeth ddwy awr
I lawr mewn rhyw linnell neu ddwy:
Neu araeth bum' munyd i lawr
Mewn colofn a hanner neu fwy;
Trwsiwr grammadeg rhai
A elwir yn wyr dysgedig;
Scrifennwr pwffiadau difai—
Ambell i waith yn sychedig
Yw'r Gohebydd.
Y PLISMON.
Y dyn geidw drefn a rheol,
Ond pan fyddo unrhyw ymryson
Yn digwydd yn un pen i'r heol,
Bydd o'n y pen arall yn gyson;
Gelyn o galon i dramp,
A lleidr, a meddwyn, yw ef,
A chyfaill o stumog tan gamp
I holl gogyddesau y dref—
Dyna'r Plismon.
Y TWRNE.
Am urddas y gyfraith y mae
O'n traithu'n fawreddog ei stori,
Ond llwgu er hyny a wnae
Onibai am y rhai sy'n ei thorri;
Am dd'wedyd ar ddu a gwyn
Mai chi bia'ch eiddo eich hun,
Cewch dalu, a'r gyfraith a'i mynn,
Gryn draian o'i werth o i'r dyn.
Dyna'r Twrne.
Y SIOPWR.
Rhwbio'i ddwy law yn eu gilydd,
Ymgrymu a gwenu'n llon,
Gwneyd i chwi deimlo cywilydd
Wrth gael y fath sylw, bron;
Wiw i chi son am drafferthu-
Estyn pob peth, deyd ei bris,
A chanmol ei rinwedd, a'i werthu
Rai sylltau o leiaf yn is.
Dyna'r Siopwr.
Y MEISTR TIR.
Moethau diderfyn, segurdod,
Tyddynod, bythynod, a thai,
Swyddi di-waith ac awdurdod,
A'i gyfri'n rhagorach clai;
Parch a gwarogaeth byd,
A'r cwbl sydd ynddo'n llwyr,
Rhodded hwy iddo i gyd-
Gan bwy ac am beth, pwy a'i gŵyr ?
Dyna'r Meistr Tir.
Y FFARMWR.
Codi ben bore glas,
A gweithio hyd nos heb ffael,
Ymwisgo'n llwm ac yn fras,
Ymborthi'n brin ac yn wael;
Pesci phesannod yn rhad,
Gwningod a phetris 'run modd
(Na, wedi'r a'r saethwyr drwy'r wlad,
Caiff gwpwl o betris yn rhodd);
Peidio rhoi barn drosto'i hun
Namyn ar gnwd neu ar stent,
Anghofio ei fod o'n ddyn
A chofio am ddim ond y rhent.
Dyna'r Ffarmwr.
Y MEDDYG.
Gafael y' ngarddwrn dyn,
Edrych yn hir ar ei dafod,
D'weyd y daw ato'i hun—
'Doedd y drwg ar y dechre ond cafod;
Anfon potelaid i'r dyn,
A blychaid o beli bach, f'ella;
Daw bil wedi hynny, waeth p'run
Wnelo'r moddion—ai lladd ai gwella.
Dyna'r Meddyg.
YR ARTIST.
Dyn a gwallt mawr, megis bardd,
A'i drem agos iawn mor synllyd;
Dotio ar bethau hardd
A llunio rhai hyll ddychrynllyd;
Cael punt ambell waith am werth saith,
A saith ambell dro am werth punt,
Ond ran amla' ni phrynn neb mo'i waith,
A rhaid iddo fyw ar y gwynt.
Dyna'r Artist.
YR AELOD SENEDDOL.
Gŵr yn gwas'naethu ei wlad.
Gan dalu'n ddrud am fyn'd i fyny,
A diodde pob rhyw sarhad
Gan un hanner o'r bobol at hynny :
Agorwr basarau, a hael
Osodwr pob math ar sylfeini,
A thalwr dirwgnach y draul
Y sydd mewn cysylltiad a'r rheini,
Dyna'r A.S.
Y PROFFESWR.
Gwr gwybodusaf y byd,
A'i farnau yn anffaeledig,
Nes dengys oes arall fod hyd
Yn oed yntau yn gyfyngedig.
Dyna'r Proffeswr.
Y MORWR.
Straeon o bedwar cwrr byd,
Iaith, os yw'n gref, y sy'n gryno;
Nabod y ser i gyd,
A chastiau y gwynt, gwnaed a fynno.
Dyna'r Morwr.
Y GLOWR.
Ma'i wyneb e'n llawn o grithe,
A'i iaith e'n lled fras, ond taw sôn,
Os yw e'n sychedig withe,
Myn Jawl, ma e'n biwr yn y bôn!
Dyna'r Glowr.
Y CHWARELWR.
Gwr distaw a hoff o ganu,
A ffyddlon yw ef i'w gyfundeb:
Ar hindda bydd, braidd am wahanu,
Ar ddrycin, fo red at yr Undeb.
Dyna'r Chwarelwr.