Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Pob Tlawd sydd gydfrawd i gi

Oddi ar Wicidestun
Breuddwyd Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Ymson y Llyw Esgymmun

"POB TLAWD SYDD GYDFRAWD I GI."

Onid a rhan y diwyd,—holl ofal
A llafur ei fywyd,
I'w gwario ar feib seguryd,
A chadw'r beilch à da'r byd?

A'r diles yn gormesu,—a moethau
Amheuthyn o'i ddeutu,
Y' nghyni dwin angen du
Gwronedd tlawd ga' rynnu.

Tynghedfen front, ing adfyd—rydd hi ar
Ddewrion angenoctyd;
A hidla traha'i wawdlyd
Rêg ar ben goreugwyr byd.


Nodiadau

[golygu]