Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Swyn y Wên
Gwedd
| ← Canu'r Nos | Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Non → |
SWYN Y WEN.
Mi welais liwus loer
Yn gloywi cwmmwl du,
Nes euro dunos oer
A gwên ei gwyneb cu.
II
Ei delw delaid wén
Oedd ddwfn y'mron y llyn,
Nes daeth cymylau'r nen
I guddio'i gwyneb gwyn
Ond ciliai'r cymmyl certh,
A gwridai'r lloer drachefn,
A phefrai'i delw ferth
Y'mron y llyn yn llefn.
A felly, f'anwyl fun,
Doed wên i'th wyneb di,
Daw hynny ohonno'i hun
A gwên i'm gwyneb i.