Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Y Gân a Fu

Oddi ar Wicidestun
Arianwen Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Canu'r Nos

Y GAN A FU.

Gynt, gwelais gwcw gu
Delore fore o Fai,
A daeth y 'deryn du
I wrando'i deunod chwai.

Fe ganai'r gwcw gu
Bob bore wedi hyn,
A daeth y 'deryn du
Dan swyn i wrando'n synn.

Ac felly'r gwcw gu
Bob bore bynciai'n fwyn,
A deuai'r deryn du
Bob dydd o'i lonydd lwyn.

Ond ffoes y gwcw gu
Cyn pen Mehefin fwyn,
Gan ado'r 'deryn du
Mor unig yn ei lwyn.

Myfinnau fuais fel
Y buo'r 'deryn du
Yn gwrando ar gwcw ddel—
Fu nemmor gân mor gu.

Ond buan delai'r awr
I golli'r gwcw gu,
A finnau wyf yn awr
'Run dôn a'r 'deryn du.


Nodiadau

[golygu]