Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Y Gwron

Oddi ar Wicidestun
Llywelyn ap Gruffydd Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Dwy Weddi

Y GWRON.

Llafurwr cyffredin oedd Ned Stryd y Nant,
A chanddo wraig ifanc a phedwar o blant.

Un noson fe godwyd y stryd gyda braw
Gan weiddi fod tân yn nhy'r weddw ger llaw.

"Mae'r plant yn y llofft!" oedd y gri dros y lle,
"A'r fam wrthi'n golchi 'mhen arall y dre!"

Fe dorrwyd y ffenest, ac yna'r plant bach
Ollyngwyd gan rywun i'r heol yn iach.

"Pwy fentrodd drwy ganol y tân at y plant?"
Oedd cwestiwn pob un namyn Ned Stryd y Nant.

Pan drechwyd y fflamau, caed colsyn bach du—
Lle gwag yn nhy Ned a ddangosodd beth fu.

Bu cwest, a bu canmol ar Ned Stryd y Nant,
Wrth gwrs, "cydymdeimlwyd a'r weddw a'r plant."

Fe welwyd rhyw ddwsin o weithwyr, dim mwy,
Yn danfon y gwron i fynwent y plwy'.

Ei hebrwng gan fawrion yr ardal ni chadd,
Can's achub bywydau wnaeth Ned, ac nid lladd.

Grwgnachai'r gwarcheidwaid 'mhen wythnos neu ddwy
Fod gweddw mor ifanc yn faich ar y plwy'.


Nodiadau

[golygu]