Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Y Plentyn

Oddi ar Wicidestun
Dy Hunan Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Mynegai

Y PLENTYN.
("Ar Bugel.")

Braf yw gwel'd y mor a'i dòn,
Braf yw llewyrch gwybren lòn;
Braf yw'r nos, a'r lleuad lân
Dros y wybr yn lledu'i thân;
Braf ynt oll! Ond mil mwy iach
Trem agored plentyn bach!

Ganol gauaf, glân yw'r iâ,
Glan yw blode ganol ha',
Glân yw'r gwlith ar ddraenen wèn
Ac ar ddeilos glas y pren;
Glân ynt oll! Ond mil mwy iach.
Llygad pur y plentyn bach!

Cain y lili fwyn a gwèn,
Ddwg y gorsen ar ei phèn,
Cain yw bottwm aur y llawr,
Leinw'r lle a pheraidd sawr;
Cain ynt oll! Ond mil mwy iach
Gruddiau gwridog plentyn bach!



Nodiadau

[golygu]