Neidio i'r cynnwys

Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill/Ymson y Llyw Esgymmun

Oddi ar Wicidestun
Pob Tlawd sydd gydfrawd i gi Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Hiraethgan

YMSON Y LLYW ESGYMMUN.
["Yr oedd Llywelyn dan esgymundod, ac ni fynnai ei elynion drugarhau wrth ei lwch. Gwrthododd archesgob dynnu'r esgymundod oddiarno, ac y mae llwch Llywelyn, pa le bynnag y mae, eto dan felldith yr eglwys."—Erthygl yn "Y LLENOR."


"Ys mau gan ddefnydd ymddifanw a Duw."
—GRUFFYDD AP YR YNAD COCH.


Esgymmun wyf, am feiddio codi arf
Yn erbyn gormes draws y Norman balch:
Mae Melltith Dduw yn tynnu min fy nghledd,
Yn pylu 'm picell ac yn torri 'm saeth;
Mae 'i lid ar warthaf pawb a'm canlyn i,
A phoenau uffern dân a'u herys hwy:
Yr wyf yn herrio Duw i faes y gâd,
O saif y gair a'm hesgymmunodd i!
A raid im' wadu'm gwlad a thorri'm llw,
A gwerthu iawnder fal y prynwy' nef?
A ddyry Grist ei râd i ddengyn bas
A blycco'i ben i dderbyn cam a gwarth,
A ddodo 'i warr o dan yr iau rhag ofn,
Dirmygus lwfrdra, nad oes, namyn carl,
Na b'ai ddewisach gantho uffern bwll
Na meithrin based yspryd yn ei fron?
A wrthyd Grist ei nawdd a'i râd i'r sawl
Wrthotto warth a phechadurus frâd,
A dyngodd gadarn lw i gâr a brawd
Y trengai cyn y gwerthai 'u rhyddid hwy,
Na fynnai fwy na chadw 'i briod wlad
Rhag creulon raib a gorthrech estron traws?
Diau! Esgymmun wyf, ac nid oes frawd
A eirch ar Fair un arch o'm plegid i,
Rydd olew im' nac angen pan y bwy'
Yn nygnaf boenau angau! Dorau nef
Nis detgly Pedr borthor, onis rhof

I draws fy ngwlad, ac oni thorra'i 'm llw
Neud, dewis agwrdd yw fy newis i!
Un waith fe roddais i, er traserch gwraig,
Yn aberth fwy nag a fuasai rhoi
Fy mywyd erddi—gwae, Elinor wiw,
Na thycciodd hynny rhag dy golli di !—
Ond weithian, dewis di, esgymmun lyw,
Rhwng Nef ac Uffern!
Och! ba chwerw gri
Oedd yna ger y porth—ai cennad oedd.
I'm rhoi ar ochel fel na herriwy' Dduw?
Di, lyw y dewis agwrdd, cymmer bwyll!
Llef etto—ie, dolef plentyn yw,
Mae cri a rhuthyr yn y cyntedd—ust!
Esgymmun lyw, clyw'r genadwri erch—
"Brad a chelanedd! wele erchyll waith,
"Mae'i glustiau wedi eu torri, druan bach,
"A'i lygaid wedi eu dallu!"
Eppil diawl!
Bid fyth esgymmun ef nas tanio hyn
I dynnu cledd a'i drochi yn eich gwaed!
Mynn cethrau Crist, o phlygaf dan y gwarth,
I'm herbyn clöed Pedr ddorau nef,
Naw poethach immi fyddo uffern dân !
Och, ddewis agwrdd ! eithyr bid a fo,
Myfi lyfasaf nas llyfasodd dyn—
Od wyf esgymmun, mi a gadwa'm llw!"



Nodiadau

[golygu]