Neidio i'r cynnwys

Gwreichion y Diwygiadau (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwreichion y Diwygiadau (testun cyfansawdd)

gan Richard Griffith (Carneddog)

I'w darllen cerdd wrth bennod gerdd gweler: Gwreichion y Diwygiadau
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Richard Griffith (Carneddog)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llyfrau ab Owen
ar Wicipedia
Y Tadau Ymneillduol.

ARGRAFFWYD A CHYHOIDDIR, I AB OWEN
GAN GWMNI'R CYHODWYR CYMREIG CAERNARFON

Rhagymadrodd.

AMCAN cyhoeddi y casgliad hwn yw dwyn yr hen fynyddoedd ar gof; blynyddoedd deheulaw Duw, ar lawer cyfrif, yn ein cenedl ni. Adlais mwyn, erbyn hyn, yw pob hen emyn yn y gyfrol hon; adlais o orfoledd cenedl wrth deimlo ei bod megis yn codi o farw i fyw. Rhoddant fwynhad ar lawer orig dawel, deuant ag adgofion melus am ryw Sabboth heulog neu odfa rymus. Deuant a hanes gyda hwy hefyd, oherwydd yn y Diwygiadau y deffrodd cenedl y Cymry i fywyd gwell. Diwinyddiaeth yr emynnau yw athroniaeth hanes Cymru; o'i chred mewn etholedigaeth ac iawn y cafodd gwerin Cymru ei hunan-hyder ai phenderfyniad i dynnu'r gwys yn union tua'r pen. "Awel o Galfaria fryn sydd wedi darostwng cewri a chodi'r gwan i fyny: ffafr Duw sydd wedi codi cenedl o'i hisel radd, a rhoddi iddi nerth i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun.

Nid yw y 330 emyn sydd yn y gyfrol hon ond hanner casgliad Carneddog. Os yn dderbyniol, cyhoeddir cyfrol arall o'r un faint a'r un dull. Bydd y casglydd a minnau yn ddiolchgar am emynnau, ac am unrhyw fanylion o'u hanes,—pwy a'u gwnaeth, ac ar ba achlysuron y bu canu arnynt. Hoffwn fedru gwneyd y nodiadau ar waelod y dalennau yn llawnach.

Dymunwn hefyd gyhoeddi cyfrol o weddiau y Diwygiadau. Yr oedd y rhai hyn yn darawiadol oherwydd beiddgarwch athrylith, dwyster llethol teimlad, a phurdeb chwaeth. Wele esiampl o'r gweddiau hoffwn gasglu. O adroddad gohebydd am un o gyfarfodydd Mr. Evan Roberts yn Lerpwly mis diweddaf y daw.

"Dacw wraig yn codi yn y set fawr; ac mewn llais mwyn a threiddgar, yn graddol orchfygu pob gweddïwr arall, ac yn ennill clust a chalon yr holl gynulleidfa. Pe heb weled ei hwyneb, gwybuaswn mewn eiliad mai merch y seraff o Dalysarn ydoedd—yr oedd delw ei ddychymyg beiddgar a fflap ei edyn eryraidd i'w glywed ymhob brawddeg. Yr ydym yn teimlo'n hunain ar ddibyn y byd ysbrydol, meddai, yn ddigon agos i glywed can yr angylion yn y gogoniant, ac yn ddigon agos i glywed gwaedd y colledigion yn y trueni! Ac wrth son am ymdrechion y Diwygiwr ar ran esgeuluswyr,—O! dyma lafur ! Dy lafor Di! Ddoe megis y dechreuodd dy was, ac fe fydd yn darfod yfory. Ond pwy wyr pa bryd y dechreunist Ti? Y mae swn Dy lafur i'w glywed draw yn yr hen arfaethau a'r bwriadau tragwyddol, a dacw fe eithaf ar ben Calfaria!' neu rywbeth cyffelyb, oblegid yr oeddwn wedi rhoi heibio gofnodi ers meityn."

OWEN M. EDWARDS.

Rhydychen,
Mai 1, 1905.

Rhagymadrodd y Casglydd.

AR ol i'r tadau Ymneillduol gynneu y tân ysbrydol, daeth angenrhaid am ganiadau i arllwys mawl i'r "Hwn a'n prynnodd ar y ar y Groes." Gwnaeth. llyfrau hymnau bychain Pant y Celyn fwy o gynhorthwy i Daniel Rowland a Howel Harris, a'u brodyr efengylaidd, na nemawr gyfryngiad, i ennyn yr Adfywiad bendithiol cyntaf. Tra'r oedd tyrfa o gantorion newydd yn "cadw gwyl i'r Arglwydd" yng Nghymru, daeth Robert Jones Rhoslan a "Grawnsypiau Canaan" i'w diwallu.

Yn bur fuan, torrodd "Diwygiad Mawr Beddgelert," gan wneyd grymusderau, a thystiolaethir mai pennill, adnod, gweddi, a phregeth a lanwai fyfyrdodau gwerin oreu ein gwlad yn y cyfamser dedwydd hwnnw. Oherwydd prinder y llyfrau hymnau, gorfyddid i'r hen bregethwyr ledio eu hemynnau bob yn ail linell wrth eu canu. Ond buan y cynhyddodd y gwres a'r moliant, fel y daeth pob enwad yn effro i waith, a dygasant drwy'r wasg gasgliadau o emynnau, hen a newydd. Daeth Diwygiad '59 i "ail-diwnio telynau," nes oedd cymoedd a phentrefi ein gwlad "fel porth y nefoedd, neu fynedfa i ogoniant." Nis gall neb gyfrif yr hymnau,—syml eu gwisg, ond tarawiadol eu syniadau,—a luniwyd ac a ddysgwyd yn ystod blynyddoedd gogoneddus yr hen Ddiwygiadau.

Wrth ystyried fod cymaint o rai campus wedi eu cyfansoddi gan hen werinwyr, anadnabyddus gan mwyaf, tybiais (ers pymtheng mlynedd yn ol), nad anfuddiol fyddai casglu hynny ellid gael o'r gwreichion gwasgaredig a ddisgynnodd oddiar yr hen allorau tanllyd, cyn iddynt lwyr ddiffoddi. Trwy gryn ddyfalwch, llwyddais i gasglu cryn ystôr o honynt. Y mae lluoedd heb fod yn brintiedig erioed, a'r mwyafrif wedi eu sicrhau oddiar gof ugeiniau lawer o hen dduwiolion gororau mynyddig Gwynedd. Hapus dyrfa! buont yn sugno maeth o'u mêl yn yr anial garw, a hedasant ar eu pwys i'r gwynfyd. "A chanu y maent gân Moses a chân yr Oen."

Archwiliais yn ofalus yr holl gasgliadau emynnau cyrhaeddadwy, a ymddangosodd yng Nghymraeg, gyda'r amcan o geisio cadw y "geiriau colledig." Ni roddais nemawr bennill i mewn a ymddangosodd yn llyfrau Pant y Celyn, 1756 hyd 1762.; casgliadau ei fab, John Wiiliams, 1811; "Grawnsypiau Canaan," Robert Jones, Rhoslan. (ail-argraffiad y Bala), 1805; "Caniadau Salem," John Jones, Trefriw, 1823; "Hymnau a Salmau." y Parchn. Richard Williams a Joseph Williams, Lerpwl, 1840; "Y Salmydd Cymreig," y Parch. Roger Edwards a Mr. Ebenezer Thomas (Eben Fardd), 1841 a 1856: "Casgliad o dros ddwy fil o Hymnau," S. R., 1849: a'r lluoedd casgliadau enwadol. Onid yw rhifedi ein holl emynnau yn ddigon o syndod?

Gan fod cymaint o ddefnyddio wedi bod ar y llyfrau bychain hylaw, a gyhoeddwyd yn Llanrwst, Bethesda, y Wyddgrug, &c., at alwad arbennig y Diwygiadau gynt, rhoddais amryw emynnau o honynt i mewn, gan eu bod wedi glynu mwy yng nhgof a serch yr hen wladwyr. Arhosant fel rhyw gynysgaeth genedlaethol, heb eithrio sect na phlaid. Hwyrach y ceir rhyw ddwsin o'r emynnau—mewn gwisg wahanol, yn "Emynau y Cyssegr," casgliad mawr Mr. Thomas Gee, 1888. Detholais y rhai tebycaf i fod yn ychwanegiad at drysorau emynnol ein cenedl, a chroniclais hwynt yn eu dullwedd wreiddiol a chartrefol. Dyma dywysennau breision o "hen yd y wlad." Gobeithiaf y gwledda miloedd arnynt.

Dymunaf dalu fy niolchgarwch gwresocaf i'r cymwynaswyr hyn am eu trafferth yn holi hen bererinion eu broydd, ac yn anfon at fy ngwasanaeth luaws o'r emynnau,—Meistri John E. Jones (Ioan Gwynant), Rhesdai'r Cambrian, Llanberis; Owain Llew. Owain, Bryn y Coed, Tal y Sarn: Wm. Lewis, Llanbedr, Meirion; Wm. Ryder (Gwilym Artro), Llundain; J. W. Jones, Cae'r Ffridd, Tanygrisiau; Cenin, a Tom Lloyd. Pwllheli; O. J. Williams (Owain Bryncir), Penygroes; John Parry, Ty Eiddew, Beddgelert; Wm. Gilbert Williams, Rhostryfan; Robert Williams. Trefriw; John Roberts, Llain Wen Uchaf, Llanberis; Griffith Thomas, Swan, Clynog; Wm. Williams, Dôl Pandy, a John Rhagfyr Hughes, Glyn Ceiriog; Mrs. M. Owen, Talybont, ger Conwy; y Parchn. Wm. Williams (Einon). Rhostryfan: J. Roberts-Evans, Birmingham; J. T. Job. y Carneddi, Bethesda; Henry Hughes, Bryncir: ac amryw ewyllyswyr da eraill.

CARNEDDOG.
Nanmor, ger Beddgelert,
Ebrill 29. 1905.

Y Darluniau

Y Tadau Ymneilltuol. Wynebddarlun
Hafod y Llan —
"Syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn clywed y Gair."
—S. Maurice Jones.
John Elias.
Pregethwyr y Diwygiadau.
John Jones Tal y Sarn.
Cadwaladr Owen, Dolyddelen.
John Jones, Blaen Annerch
Pregethwyr y Diwygiadau
Torf o bregethwyr mawr y Bedyddwyr yn 1857.
John Davies, Nerquis


JOHN ELIAS.


GWREICHION Y DIWYGIADAU.


`1 AR DDECHREU ODFA


Emynnau a lediodd hen bregethwyr a saint o
flaen pregethau, neu ar ddechreu seiadau, &c.


I.


O NA welwn odfa un
Heb y diafol;
A delw hawdagar Mab y dyn
Ar y bobol;
A chael Ysbryd y peth byw
I'r olwynion,
I ddadle o du gogoniant Duw
Ymhob calon.



II


O Arglwydd Dduw Jehofah
Tro yma'th wyneb llon,
Ac edrych ar dy bobol
Sydd yma ger dy fron;
Rho ras i'r bobol ifanc.
A nerth i'r canol oed,
A chymorth i'r hen bobol
I gyrchu at y nôd.



III


Unwaith eto mi anturiaf
Fwrw'r rhwyd i'r ochor dde.

P'run a ddalia i 'nawr ai peidio,
Mentra'r gair a ddwedodd E;
O am helfa,—
Dod i'r ddalfa'n 'r odfa hon.


IV.


Y mae'r waedd ar hanner nos,
Bron a dyfod,
Ge'st ti d' olchi 'ng ngwaed y groes?—
Wyt ti'n barod ?
Paid a hepian gyda'r plant.
Bydd yn effro,
Cais wir olew yn dy lamp,
Cyn y delo.[1]



V


At ffynnon Jacob Iesu a ddaeth,
Ac ar ei daith yn flin,
Ac yno'n fwyn eisteddai i lawr
Fel rhyw ddieithr ddyn;
Daeth yno wraig i dynnu dŵr,
A'i phiser yn ei llaw,
Ac ni feddyliodd yno fod
Duw Jacob pur gerllaw.



VI


Cwch y bywyd sydd yn awr
Ym Moeltryfan.
'N derbyn pechaduriaid mawr
Fel fy hunan;
O gymydogion, iddo dewch
Am y cynta';
Mwya'n byd a ddêl i'r cwch
'Sgafna nofia.


VII.


O AM gymnorth i bregethu
Cenadwri Brenin ne;
O am gymorth i weddio,
Canu, gwrando ymhob lle;
Duw'r bendithion, gwna gyfrannu,
Mae dy deulu heddyw'n cwrdd;
Help dy Ysbryd i'th addoli,
Help i amgylchynu'r bwrdd.


VIII.


O ISRAEL bydd barod i gyfarfod â Duw,
Daw galwad am danat i'r nefoedd i fyw;
Mae yno drigfannau a gwleddoedd yn llawn,
O Israel cais gychwyn, a chychwyn yn iawn.



IX.


BOED gras ein Harglwydd Grist, fel gwlith.
A chariad Duw y Tad i'n plith;
Cymdeithas bur yr Ysbryd Glân,
Fo gyda ni byth yn ddiwahan.



X.


DEWCH blant bychain. gwych yw'ch gweled.
Ar y drydedd awr o'r dydd,
Dewch rai ereill ar y chweched,—
Croesaw i mewn i'r winllan sydd:
Dewch rai ereill ar y nawfed,
Cyn yr elo yn brydnawn,
Dewch hen bobol cyn y ddeuddegfed,
Hi aeth yn ddiweddar iawn.



XI.
WELE'R brenin Dafydd.
Yn dod a'i dafl a'i ffon.
A phump o gerrig geirwon
A ddaeth o'r afon hon:

Rhyfela yn y frwydr
Yn enw'r Brenin Mawr,
A'r garreg gyntaf daflodd
Gadd ben Goliah i lawr.[2]


XII.


RHYFEDDOD welodd Ioan,
Y wraig o Ganan wlad,
Yn gwisgo'r heulwen oleu,
A'r lleuad dan ei thraed;
Ac ar ei phen 'roedd coron
O ddeuddeg seren hardd,
Yn ganmil mwy rhagorol
Nag Adda'n Eden ardd.



XIII.


PLANT ffyddlon Seion, dewch,
A llawenhewch i gyd,—
Ymlaen a chwi fel milwyr da
Yn llon er gwaetha'r llid;
Mae hyfryd ddedwydd awr—
Messiah mawr a gaed,
Henffych i'r dydd, a'r bore ddaeth.
Ag iachawdwriaeth rad.



XIV.


ARGLWYDD, anfon Di Dy Ysbryd,
Gweithia'n danllyd trwy Dy Air,
Tawdd y galon galed, gyfan,
Fel yr arian yn y pair;
Estyn allan fraich Dy allu,
Ac ymafael yn Dy ordd,
Disgyn fel pe rhwygai'r nefoedd,
Tawdd fynyddoedd, myn Dy ffordd.[3]


XV.


Daw priodasferch Gwraig yr Oen,
Yn iach adra,
Ar ol bod yma'n fawr ei phoen,
Ar ei siwrna;
Talu wnaed ei dyled hi
Gan y Meichia',
Marw wnaeth ar Galfari
Wrth groesi bilia.[4]


XVI.


DUWIOLDEB yw'r perl pennaf
I'w feddu dan y rhôd,
A'r elw gwerthfawrocaf
O fewn ein byd yn bod;
Mae'n elw digyffelyb
I farw ac i fyw,—
Mae'n anian ddwyfol ynnom
O blaniad gras ein Duw.[5]



XVII.


DAU Dywysog sy' ar y maes
Yn rhyfela,
Duw'r byd hwn, a Duw pob gras,—
Pwy orchfyga?
Os yr Arglwydd Ior sy' Dduw,
Ewch i'w ganlyn.
Ceidw'i filwyr oll yn fyw
Rhag y gelyn.[6]


XVIII.


MAE'R fiynnon yn agored,
Dewch, edifeiriol rai,
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu 'difarhau;
Dewch chwithau gafodd galon lân,
Dewch chwithau na chadd un,
I olchi'ch aml feiau
Yn haeddiant Mab y dyn.


XIX.


DEWCH, ac yfwch o'r bendithion
Sydd yn llifo fel yr afon,
O Galfaria'i maes yn gyson,—
Haleliwia llawenhewch!



XX.


DEWISODD Lot le bras,
Cadd boeni ei enaid byw,
Pen mynydd gwell fu'r blas,
Gadd Abraham gyda'i Dduw;
Mae'n well yn wir, na braster tir,
Gael rhan o'r sur sydd gyda'r saint.



XXI.


NA ddigied f' Arglwydd os gofynnaf
Beth yw'r twrf sydd yn y gwynt?
A oes tymhestl fawr i ddyfod,
Megis yn y dyddiau gynt?
Raid i'r Eglwys eto fyned
I gaethiwed Babel fawr,
I gael nithio ûs-ragrithwyr
O fysg y gwenith sy' ar y llawr?[7]


XXII.


DAW dydd i chwilio Seion,—
Bob calon cyn bo hir;
Mae'n bryd i bawb ddihuno.
A cheisio crefydd bur.
Y drwg a'r da ddidolir—
Fe lwyr lanheir y llawr;
O Dduw rho fodd i sefyll
O flaen y Wyntyll fawr.


XXIII.


O'n goedwig fawr fe dorrwyd
Rhyw geinciau ceimion iawn,
'Roedd rhaid eu cael i'r demel
Cyn gwneyd y gwaith yn iawn;
Mae eto rai wedi'u marcio
Yn y goedwig fawr yn wir,—
Fe ddaw y Gwr a'u prynodd,
I'w 'mhofyn cyn bo hir.



XXIV.


FE drefnwyd draw mewn arfaeth bell
I gadw myrdd, a'u gwneyd yn well,—
A beth oedd well i'w wneyd a hwy
Na'u cuddio yn ei farwol glwy?[8]



XXV.


MAE rhai ar feirch yn dyfod
Yn hardd i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau
Yn harddach na'r rhai hyn;

Mae'n dda i rai fod mulod.
Ac elor-feirch yn bod,
I gario'r claf a'r clwyfus,—
I Iesu byddo'r clod.


XXVI.


MAE llong yn nhref Caersalem,
A'i henw'n "Gadarn Dwr,"—
Mae'n nofio brig y tonnau,—
Ni sudda dan y dŵr;
Mae'n cario pererinion
Oddi yma i dŷ eu Tad,
A'u gwaith ar ol mynd adre'
Fydd canu am y gwaed.



XXVII.


MAE'N bryd i'r caethion ganu,
O'r diwedd daeth y dydd,
Y gadarn rwyd a dorrwyd,
A'r fagl ddaeth yn rhydd:
Daw'r hen delynau adre,
Fu'n segur ar y coed,
I ganu i'r Hwn fu farw
Yn fwy melus nac erioed



XXVIII.


O DEUWCH, bechaduriaid,
Medd Duw o'r nef yn awr,
I geisio iachawdwriaeth
Yn Iesu'r Meddyg mawr:
A deuwch yn ddi-oedi
Yn fuan at ei draed,
I dderbyn llwyr faddeuant,
Yn haeddiant mawr ei waed


XXIX.


O BECHADURIAID, deuwch,
A llawenhcwch yn un,
Mae trefn i olchi'ch beiau
Yn haeddiant. Mab y dyn,—
Pe byddent fel ysgarlad
Hwy ant fel eira man,—
Pe cochent fel y porffor,
Cewch ddod yn wyn a glan.[9]


XXX.


FFARWEL frodyr, 'rwy'n eich gadael
Yn y rhyfel ar y maes,
Ysbryd Iesu fo'n eich nerthu,
I ddal i fyny faner gras,
Neb yn cilio draw o'r fyddin,
Na 'chwaith yn dilyn o hir bell,
Ond cyflawni ein milwriaeth,
Nes dod ynghyd i'r wlad sydd well.[10]



XXXI.


I SARA bydd plant, er iddi heneiddio,
Addewid fy Nuw sy'n sicr o lwyddo;
Y tywod a'r ser roed yn gyffelybiaeth
O nifer y plant sy'n ngolwg yr Arfaeth.[11]


XXXII.


Pwy yno fydd leader y gân,
Ai Moses, ai Abram, ai pwy?
Ai'r llanciau fu'n nghanol y tân,
Neu Daniel, neu rywun sydd fwy?
Ond prin y caiff leader y gân
Ond taro'r sill gyntaf—rhyw un,
Na bydd yr holl nefoedd yn dàn
Yn moli ei Harglwydd ei hun.[12]


XXXIII.


PLANT caethion Babilon.
Sydd yno'n brudd eu bron,
Don't adre'n llon i dir eu gwlad;
Jerusalem a fydd,
Drachefn eu dinas rydd,—
O ddedwydd ddydd, fydd eu rhyddhad.[13]



XXXIV.


GRAS, gras,—
Eginyn byw, eginyn bras;
Er cwrdd a 'stormydd ar y maes,
Fe ddeil yn las, fe wreiddia i lawr,
Mae'i fywyd yn y nef ynghudd,—
Fe ddeil yn nydd y 'storom fawr.[14]



XXXV.


YN lle damnio pentewynion,
Haeddodd fod yn uffern dân,
Gwisg a gwledd sydd i'r afradlon,—
Bellach, noethion, seiniwch gân;

Y marw'n derbyn bywyd yma,
Wele ffynnon i'w lanhau,
Ffordd dragwyddol rad i faddeu,
Cyfoeth Meichiau i'w ryddhau.


XXXVI.


EDRYCH, Seion, gwel dy Briod,
A'th garodd yn dy isel radd,
Parod yw i roi it ollyngdod,
Maddeu'th bechod heb dy ladd;
Carodd ferch yr hen Amoriad,
Er mor aflan ac er mor ddu,
Ac o'i fawr anfeidrol gariad
Fe dosturiodd wrthi hi.

Priod yw a'i diogela
Mewn cystuddiau yn y byd;
Amser newyn fe ofala
Am ei bara yn ei bryd;
Mae'n rhoi dŵr i'w disychedu,
Mae'n ei nerthu i ddod ymlaen;
Daw ar fyrr dan lawenychu
Adre i ganu i Salem lân.



XXXVII.


FE grynnodd yr hen Belsassar
Mewn dychryn, och, a braw,
Wrth weled ar y pared
Waith yr ysgrifen law;—
A'r 'sgrifen oedd,—"Fe'th bwyswyd,
Yng nghlorian Brenin ne,
Fe'th gafwyd yn rhy ysgafn
Yn uffern bydd dy le.[15]


XXXVIII.


MELUS iawn oedd gwledd Belsassar,
With weld y gwin yn goch ei liw,
Efo'i wraig a'i ordderchadon,
Mewn llestri aur o deml Duw;
"Mene Tecel" ar y pared,
Wnaeth i'w liniau grynnu 'nghyd,
Hyn all fod i rai o'm ninnau,
Pan ddelo Duw i farnu'r byd.


XXXIX.


DIM llai na chorfi a gwaed yr Oen,
Fu ar y pren yn dioddef poen,
Er mwyn ein budd fe aeth i'r bedd,—
O dowch i'r nefol lwyddol wledd.



XL.


PA fodd diengwn ddiwrnod angeu,
Os esgeuluswn fodd i fyw,
Ac yn y Farn a ddaw,
Pan ddelo dydd ein Duw?
Wele heddyw mae E'n galw
Eto'n groew yn udgorn gras—
Ar Gwr ar y March Gwyn
Gyhoedda hyn heb gas.[16]



XLI.


TANGNEFEDD Duw arhoso.
O fewn i'r gronglwyd hon,
A thriged yng nghalonnau
Y teulu oll o'r bron;
O arwain hwynt a'th Ysbryd,
A dal â'th gadarn fraich,
Nes dont i dir y bywyd,
Cant roddi i lawr eu baich.


XLII.


GWELWYD rhan o'r byd crefyddol,
Am ryw ysbaid maith ei hyd;
Nid oedd son yn hwn am swper,
Ond rhyw brinder oedd bob pryd;
Byw ar goel, a gweithio'n galed,
Dim ond taniaid bach wrth law;
Lunch ar dro i'w gario adre',
At y wledd yr ochor draw.[17]


XLIII.


TRIGED Cwmwl y gogoniant
Ar y Babell newydd hon,
Cluder iddi yn finteioedd,
O'i hardalwyr oll o'r bron;
Na foed yma eisieu gweision
I gyhoeddi Efengyl gras,
Hyd nes treulio'r garreg ola',
Yn y muriau hyn i maes.



XLIV.


ARGLWYDD tyred, rhwyga'r cwmwl,
Gwlawia o'th fendithion rhad;
Ffrwythau'r hen addewid rymus,
Pwrcas clwyfau'r Cen a'i waed;
Dyro i mi eli llygaid,
Difa'r gorchudd, rhwyga'r llen,
Fel y gwelwy'r ystlys anwyl,
Waedodd droswyf ar y pren.

Dyma'r gwaed sy'n golchi'r aflan,
Dyma'r gwaed sydd yn glanhau;
Dyma'r gwaed a bura'r euog,
Dyma'r gwaed sy'n cyfiawnhau;

Dyma'r gwaed a ffrydiodd allan,
Fel rhyw afon loew lan,
O galon Iesu ar Galfaria,
Fenaid byth am dano gan.

Dyma'r gwaed a gaf fi ddadleu,
Tra f'wy ar y ddaear las;
Am faddeuant o'm pechodau,
Ar fy ngliniau wrth orsedd gras.
Cân telynau nef a daear,
Fyth am dano hyfryd sain:
O fy enaid, seinia dithau,
'Th delyn fechan gyda'r rhain.


XLV.


BOED troed i ysgol Jacob,
Yn Salem yn cael lle;
A thramwy fyddo beunydd,
Oddiyma i'r drydedd ne';
Oddiyno'n dwyn anrhegion,
Mwy gwerth na pherlau'r byd,
A gwledda'n dangnefeddus
Ar ffrwythau'r Ganan glyd.

Boed hon yn gangen ffrwythlon,
A'i gwraidd wrth afon gras,
A blagur ieuanc beunydd
Yn dod o honi i maes;
Y meibion yn lle'r tadau
Yn dod yn do i do,
Ac oll yn dwyn anrhegion.
Gwir fawrion yn y fro.



XLVI.


Duw mawr,
Yn dy awdurdod tyrd i lawr,
A phar mai heddyw fyddo'r awr
I hyfryd wawr o oleu ddydd;

Lewyrchu trwy'r carcharau caeth,
Dwg miloedd maith oddiyno'n rhydd.


XLVII.


AWN, awn,
Oddiyma i'r lan yn awr pe cawn,
Ar ryw foreuddydd neu brydnawn,
I ganu'n iawn am rin y gwaed,
Dywalltwyd ar Galfaria fryn,
Heb ddiffyg dim yn Nhy fy Nhad.

Gwawr, gwawr,
Sydd wedi torri yma'n awr,
O'r nefoedd uchod hyd y llawr
Daeth haulwen fawr a'i goleu clir;
Ni welwn dros y bryniau pell
"Tifeddiaeth well tu draw i'r mur.



XLVIII.


Y Gwr wrth fynnon Jacob.
Eisteddai gynt i lawr,
Dramwyodd drwy Samaria,—
Tramwyed yma'n awr;
'Roedd syched arno yno
Am gael eu hachub hwy,—
Mae syched arno eto
Am achub llawer mwy.



XLIX.


DYHUNWCH, mae'n llawn-bryd,
Mewn bywyd bob un,
A gwisgwch mewn hoenwedd
Eich cledd ar eich clun;
A'ch gwnn ar eich ysgwydd,
Yn rhwydd dewch i'r rhes,
Rhag dod o'n gelynion.
Anunion yn nes.


L


Daw merch yr Amoriad ryw fore
O'i chystudd a'i rhwymau yn rhydd,
Yn canu tu draw i'r Iorddonen,
Ar ddelw ei Phrynwr y bydd;
Cysgodau yr hwyr a ant heibio,
Fe dderfydd y t'wyllwch i gyd;
Bydd melus yn ddiddan yng Nghanan
Am angeu lachawdwr y byd.


LI.


GWYLIWN, frodyr, byddwn sobor,
Ydyw cynghor Crist ein Duw,
Byddwn ddiwyd yn y llafur,
Dyna'r llwybyr ini fyw;
A gochelwn fynd yn 'smala
Gyda'r lân Ddalilah ffol,
Onite cawn ein harcholli,
Pan yn cysgu yn ei chol.[18]



LII.


ER cael breintiau, er cael doniau,
Er cael Beiblau, mynd i dân,
Mynd a wnawn ni er cael popeth
Os heb waith yr Ysbryd Glân;
Creu, ail eni, plannu'r anian,
Pwy all ond dy Hunan mawr?
Yn ddiatal atoni ninnau,
Fendigedig.—tyrd i lawr.[19]


ANIBYNWYR Y DIWYGIADAU.
(O'r Oriel Gymreig).

LIII.


MAE hen arfaethau dwyfol Ior,
Wedi 'magor
Ar ryw anherfynol stor,
Dwfwn gyngor,
Y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân,
Draw yn forau,
A drefnodd ffordd i wneyd yn lân
Blant y tonnau.


LIV.


O PA le mae'r nerthoedd grymus,
Ddrylliodd gaerau lawer gwaith?
Ple mae Arglwydd Dduw Elias
Yn ymddangos gyda'i waith?
Braich yr Arglwydd,
Deffro yn y dyddiau hyn.[20]



LV.


IESU, tyrd i ledio'r fyddin,
I fyny tua'i gwlad ei hun.
Y mae Moses yn rhy fychan,
Er ei fod yn ffyddlon un;
Saif y gwersyll, er ei gychwyn,
Oni byddi yn ein plith,
Rho Dy gwmni yn yr anial,—
Cei glod gan dorf na rifir byth.[21]


LVI.


MAE gennym drysor mwy ei werth
Na'r byd mewn llestri pridd,
Y godidowgrwydd sydd o Dduw,
A'r budd i ni trwy ffydd.[22]


LVII.


ARGLWYDD, deffro dy forwynion,
Dyro waedd ar Seion wiw,
Gogonedda di dy enw,
Trwy gyfodi meirw'n fyw;
Rho filwyr da ar furiau Seion,
Er dofi llid y gelyn llyn,
Gan ddal yn deg y weinidogaeth,
A'r ddisgyblaeth yn ei grym.[23]



LVIII.


FFORDD gul yw ffordd y Cristion,
A chyfyng iawn erioed,
Mae weithiau'n ameu'n galed
Nad oes un ffordd yn bod;
O'r braidd y bydd cadwedig,—
Er hyn cadwedig fydd,
Newidia Duw ei fwriad
Cyn collo hwn y dydd.



LIX.


O NA welid yr hen ddyddiau,
A brawdgarwch pur ein tadau;
O na byddai mwy cynhesrwydd
Yng nghalonnau plant yr Arglwydd.


O na chaem ni brofi hyfryd
Ddylanwadau pur y bywyd;
Cariad nef yn asio dynion
Yn un enaid, yn un galon.

Ysbryd Duw a ddelo arnom,
Gweithied a phreswylied ynnom;
Ail enynned dan brawdgarwch,—
Fel yr afon boed ein heddwch.

Iesu mawr ar ben Calfaria,
Golwg arno Ef a'n hasia;
Profi o rinweddar'i gariad
A'n gwna ninnau i garu'n wastad.[24]


LX.


DEWCH tua'r hyfryd wlad,
Dewch, dewch yn glau,
Wrth lais yr alwad rad,
Dewch heb nacau;
Nid oes o fewn ei mur
Bechod, trallod, poen, na chur,
Ond gwynfyd perffaith pur,
Byth i barhau.



LXI.


FRY, yn y ddedwydd wlad
Uwch, uwch y ser,
Mae'r seintiau mewn mwynhad
Byth gyda'u Ner;
Hwy ganant yn ddiboen,—
"Teilwng yw y Nefol Oen!"
Mewn hwyl a hyfryd hoen,
Byth, byth yn ber.


Disgleiriant yno'n llon,
Oll fel y ser,
Mewn bywyd ger ei from
Yn moli eu Ner;
Llawenydd ar eu pen,
Fydd gorfoledd nefoedd wen,
Eu mawl, "Amen! Amen!"
Fydd byth yn ber.

Yr ardal bur ei braint—
Gwlad, gwlad y wledd,
Yw holl breswylfa'r saint
Draw, draw i'r bedd;
Ymnerthed Seion wan,—
Yn y diwedd daw i'r lan;
Saif yno yn ei rhan
Fyth, fyth mewn hedd.


LXII.


O LAFUR ei enaid, ryw ddydd,
Diwellir yr Iesu yn llawn,
Ei feibion yn llawen a fydd,
Uwch cyfrif un angel yn llawn:
Ni chwennych ei enaid ei hun,—
Yr enaid sy'n gariad fel môr,
Ni chwennych ychwaneg o un,
Faint gynnwys digonedd yr lor?



LXIII.


Pwy, pwy,
Rydd ddim yn erbyn rheiny mwy,
Ymguddiodd yn ei ddwyfol glwy'
Eu dyled hwy gorffennodd ef
Ei thalu'n llwyr ar ben y bryn,—
Ni blediwn hyn o flaen y nef.


LXIV


MAE myrdd o ryfeddodau
Yn rhagluniaethau Duw,
Mae'r gorchwyliaethau chwerwa'
Yn dda i Seion wiw;
Olwynion mewn olwynion.
Sy'n rhoi eu tro i ben,
I ddwyn eu saint o'u trafferth,
'Nol arfaeth brenin nen.[25]


LXV.


Tu fewn i faes efengyl Iesu,
Mae rhyw berl o uchel bris,
O bechadur, tyrd i'w brynnu,
Gan na thal it' berl fo'n is,
Rhaid it' werthu pob un arall,
Cyn cael meddiant llawn o hwn,
Ond mae mwy o urddas ynddo,
Nac ym mherlau'r byd yn grwn.[26]



LXVI.


CYDRODDWN fawl i'n Harglwydd glân,
Na fydded diwedd ar ein cân,
Am iddo'n caru cyn ein bod,
A'r cariad purr oedd ynddo erioed,
Nes rhoi ei Fab—etifedd Ne—
I fyw a marw yn ein lle.



LXVII.


O! NA ddeuai awel eto
I chwilfriwio creigiau'r oes;
Cestyll anuwioldeb syrthio,
Uffern grynno wrth y groes;

Addewidion arfaeth fore,
A esgoro ar ein byd;
Doniau dinam Daw a'n tanio,
Ufel gân fo'i fawl i gyd.

Genedigion wrth y miloedd,
Newydd deithio i fynydd Duw;
Iesu gasglo ei fyddinoedd,
At ei waith i Seion wiw;
Ardderchawgrwydd nerth ei Ysbryd,
Eto'n rymus doed i lawr;
Seion welo ei hanwylyd
Yn ei bryd fel bore wawr.


LXVIII.


DAW Arglwydd y bydoedd a'r ffan yn ei law,
I buroi lawr dyrnu ar fyrder fe ddaw,
Y gwenith a'r efrau a welir ar wahan—
Y gwenith i'r 'sgubor, a'r efrau i'r tân.



LXIX.


O ARGLWYDD gwna dy drigfan,
O fewn i'r muriau hyn,
Byth na chyhoedder yma,
Ond Iawn Calfaria fryn;
Er mwyn yr aberth hwnnw,
A'r taliad gwerthfawr drud,
Llewyrcha'th wyneb grasol,
Tra pery oes y byd.

Dy hyfryd bresenoldeb,
Fo yma'n llanw'r lle;
A'r pur awelon nefol,
Fel ffrwd lifeiriol gre;

Pelydrau o'th ogoniant,
A gwedd dy wyneb llon;
Arhoso yn dragwyddol
O fewn i'r Salem hon.

O cadw'th deulu'n wastad,
Mewn hinsawdd o'r fath ryw,
Nas gall bwyst filod aflan
Gael lloches yma i fyw;
Mor agos i Galfaria,
A'r pur awelon fry;
Tanbeidrwydd Haul Cyfiawnder
Fo yma'n llanw'r ty.


LXX.


MAE marchnad y Gair yn agored,
Mae hefyd wahoddiad i hon;
Mae'n farchnad mor llawn ei hamrywiaeth.
Mae'n darpar ei lluniaeth yn llon;
Mae'n rhoi ei gwin goreu i'r gweiniaid,
Mae'n farchnad gogyfled a'r Gair;
Hi ranna holl gynnyrch gwlad Canan
I'r truan heb arian nac aur.[27]



LXXI.


MAE plant y byd yn gwawdio.
Ein bod yn canu c'uwch,
Mae eto ddydd i ddyfod
Y cawn ni ganu'n uwch;
Fe ganodd yr angylion
Pan anwyd Brenin nef,—

O pam na chanwn ninnau,
Ein Ceidwad ydyw Ef.[28]



LXXII.


TRAGWYDDOLDEB pell ac amser,
A gyfarfu yma'n un,
Duwdod, dyndod, a chyfamod,
Ym Mherson hawddgar Mab y dyn,
Arfaeth gadarn, llwon sicir,
Dyfais cariad calon Duw,
A ddatguddir oll yn eglur,
Yn iachawdwriaeth dynol ryw.[29]



LXXIII.


Bu'n Ceidwad yn gruddfan yn groch,
Ai ddagrau yn rhedeg yn lli.
A'r ddaear o'i gwmpas yn goch
Wrth offrwm gweddiau'n ddi-ri,—
Bu'n ymbil wrth orsedd yr Ion,
A'i galon yn toddi fel cwyr,
Wrth yfed digofaint ei Dad,
Un dyn am ei deimlad nis gwyr.[30]


LXXIV.


MAE edrych, dim ond edrych,
I ben Calfaria fryn,
Yn tynnu ofnau ymaith,
Yn gwneyd y du yn wyn;
Mae gweld y drain plethedig,
A dwfr y waew ffon,
Yn creu rhyw bur dangnefedd
Digymysg dan fy mron.


LXXV.


MAE'R iachawdwriaeth rasol
A drefnodd Tri yn Un,
Yn llawn o ryfeddodau—
Uwchlaw amgyffred dyn;
Yn ffrydiau hon ni nofiwn
I mewn i'r gwynfyd pur,
I ganu byth yn ddiau
Am glwyfau'r hoelion dur.[31]



LXXVI.


FE welodd Io'n ryw dorf aneirif,
'Dall neb eu cyfrif yn ei fyw,
Yn dod i'r lan o'r cystudd garw
Wedi eu gwisgo a delw Duw;
Rwy'n gobeithio y byddaf yno.
Wedi'm clirio yn y gwaed,
Crist roes berffaith Iawn i'r gyfraith,
Cana am iachawdwriaeth rad.


LXXVII.


Y DDAEAR gron a grynnai,
Pan drengodd Crist drwy angau,
O'i boenau a'i benyd;
A'r beddau o gur 'magorai,
A chyrff y saint a godai
O gyrrau'r gweryd.
Tair awr bu twyllwch—myrllwch mawr,
Y byd a siglodd, a'r llen a rwygodd,
A'r haul dywyllodd,—ni welodd neb mo'i wawr,
A gwaed ein Brenin Seilo yn llifo hyd y llawr,
O'i ben ni ddaeth un saeth na sen,—
Bu mor foddlonus nes marw eisus,—
Ond milwr dibris wahanai'i ystlys wen;
Ow! gwelwch faint ei g'ledi
I'n prynnu ar y pren.[32]


LXXVIII.


PA le mae'th golyn, angau du?
A'th allu, uffern drist?
Diddymwyd eich hawdurdod caeth,
Trwy rin marwolaeth Crist.



LXXIX.


GRISTION, gwrando, a rhyfedda,
Gwel ryfeddod benna'r byd,
Y gwir Dduwdod mewn gwir ddyndod,
Mewn un person yma ynghyd;
Hyn fydd testyn cân a moli,
Tragwyddoldeb maith ei hun,

Holl berffeithrwydd Duw a dyndod;
Yn yr Iesu oll yn un.[33]


LXXX.


AR Calfaria gwelwyd Iesu
Dan y goron ddrain yn gwaedu;
Wedi hoelio'i draed a'i ddwylo
Nes i Seion gael ei chlirio.



LXXXI.


Enw anwyl pen Calfaria,—
'R enw pennaf dan y nef,
Man y rhwymwyd ein gelynion.
A thragwyddol gadwen gref;
Man y sigwyd pennau'r dreigiau,
Nas dichon meddyg wella'u briw,
Diolch byth am ben Calfaria,
Lle cymodwyd dyn a Duw.[34]



LXXXII.


AR Gaifaria rhwng y lladron.
Y gorffenwyd agor ffynnon
I olchi'n lân y rhai aflana',
Pwy a ŵyr na olchir finna'?



LXXXIII.


MAE Iesu Grist ein Ceidwad,
Yn hawddgar ac yn hardd,
Fel lili y dyffrynnoedd,
A pheraidd lysiau'r ardd;

Gwir rosyn Saron ydyw,
Mae'n degwch penna'r nef,—
O fewn i'r nef a'r ddaear,
'Does tebyg iddo Ef.[35]


LXXXIV.


BYDD canu byth, a channmawl,
Diderfyn yn y nef,
Am enedigaeth Iesu,
A'i fywyd sanctaidd Ef;
A'r Iawn anfeidrol roddodd
Ar fynydd Calfari,
Wrth farw ar y croesbren
O'i fodd i'n prynnu ni.[36]



LXXXV.


Fy unig noddfa yw,
Yr Hollalluog Dduw,
Yr hwn a fu ar Galfari
Yn prynnu dynol ryw;
Os nerth a gaf, pa elyn saf,
O flaen fy Naf o'r nef?
Caiff Satan ffoi, ei drin a'i droi,
Dan rwymau'i roi, ei g'lymu a'i gloi
Er maint ei ddigder ef.[37]


LXXXVI.


CYFAMOD sicr yn ei lwyddiant,
Cyfamod cadarn yn ei sail;
Cyfamod eang ei derfynau,
Llawn o berlau rif y dail;
Gwelir byd a'i gyfamodau,
Oll yn ddarnau mân ryw ddydd,
Ond cyfamod hedd ni syflir,—
Cadarn yn y farn a fydd.

"Ie" Duw, heb "nage" wedyn,
Ydyw y cyfamod hedd;
Modrwy aur priod ferch Iesu
Ddeil heb lygru yn y bedd;
Modrwy gyfan ddydd y codi,
Modrwy gron y farn a ddaw,
Bydd am fys y briodasferch,
Ceidw hi am byth heb fraw.[38]


LXXXVII.


CHWI segurwyr, dewch i'r winllan,
Taer yw'r alwad heddyw sydd,
Nid rhy gynnar dechreu gweithio
Gwaith y nef ar doriad dydd;
Ar y drydydd awr a'r chweched,
Eto'r alwad sy'n parhau,
Os arhoswch hyd y nawfed,,
Trymach gwaith fydd 'difarhau.

Pam y cloffwch rhwng dau feddwl?
Mae'n llawn bryd gwasnaethu Duw,
Mae'r cynhaea'n fawr a gwerthfawr.
Nid pryd i segura yw;

Clywch, wrthgilwyr! pam 'madawsoch?
Gwelwch, gwelwch, mae'n hwyrhau;
Rhoddwch help eich llaw dros ennyd,
Amser gorffwys sy'n neshau.


LXXXVIII.


NID ar feddwl cadw 'chydig
Daeth Iesu Grist i'n daear ni,
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Aeth i fyny i Galfari,
Nid ar feddwl cadw 'chydig
'R aeth i lawr i waelod bedd,
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Daeth i fyny'n hardd ei wedd.[39]



LXXXIX.


WEL dyma hwy'r gadwedig hil,
A gadwyd ar y llwybyr cul,
Trwy for o we, trwy 'storm o wynt,
Y buont hwy yn teithio gynt.



XC.


TYRED, Broffwyd mawr cenhedloedd.
Anadla'n rymus drwy dy ras,
Nid yw'r gweision ddim yn ddigon,
Heb gael y Meistr mawr i'r maes;
Y mae'r bobol yn rhy gelyd,
Er doniau euraidd dynol ryw,

Rho dy lef yn adnewyddol,
Ar y bobol i gael byw.[40]



XCI.


RHYW dyddd y ddau broffwyd dan rodio
Ymddiddan y maent am y ne,
Daeth cerbyd o dân i'w gwahanu,
A gosgordd angylaidd oedd gre;
Er cymryd Elias i'r nefoedd,
Fe syrthiodd y fantell i lawr,
Pan godo Duw rywun i'w gwisgo,
O dwyllwch y golled daw gwawr.[41]



XCII.


CRYNED uffern fawr, os myn,
Nid aiff colled,
Myn Iesu werth ei waed yn wyn,
Er ein dued;
Ni thry ewyn iddo'n ol,
Mae'n resolfo,
Ac aed a'i eiddo ar ei ol,—
Llwyddiant iddo.


XCIII.


MAE sel heb ddim gwybodaeth
Fel aberth heb ddim tân,
Mae crefydd yn ddifywyd
Heb waith yr Ysbryd Glin;
Peth ofer yw proffesu
Heb gael ein geni o Dduw,—
Pa les i enaid marw
Gael enw o fod yn fyw?


XCIV.


MAE Swn ein Duw yn Seion,
Diolch byth, diolch byth!
Yn rhoi tafodau i fudion
Diolch byth!
Mae'r plant yn canmol Iesu,
Gan uchel lawenychu
A'r mamau'n cydfoliannu,
Diolch byth, diolch byth!
Ymwelodd Duw a'i deulu,
Diolch byth!



XCV.


CRIST sy'n galw, clust ogwyddwch,
O gwrandewch, mae yn eich gwadd,
Deuwch ato, ymresynwch,
Gwrendy arnoch heb eich lladd;
Dwedwch am eich dirfawr feiau,
Dywed yntau am ei waed,
Deuwch, llechwch yn ei glwyfau,
Fel na'ch mathrir dan ei draed.


JOHN JONES TAL Y SARN

XCVI.


MAE'R Cristion yn ail i'r wenynen,
Mae mel o bob ddalen yn dod;
O'r ddalen fo suraf a chwerwaf
Y tyn y mel gloewaf ei glod;
Yn angau ca fel yn ei angen,
Mae'n curo'r wenynen yn hyn.
Fe gasgla hwn fel yn ei esgyll,
O ddail y glyn tywyll fe'i tyn."[42]


XCVII.


MOR hawdd yw gwisgo proffes.
A chario cyffes ffydd,
Areithio a phregethu,
A dadleu'n deg bob dydd;
Gweddio saint i syndod,
Rhyfeddnod, braidd bob darn,
A mynd ar ol y cyfan,
Yn fudan yn y farn.



XCVIII.


PA le mae'r hen hwyl a'r awelon,
Fu'n llanw bro Seion a'u sain?
Pa le mae yr hen ymweliadau?
Pa le mae y llef ddistaw fain?
Rho'r cywair yn nhelyn Calfaria,
Fo'n chwaren hen donau ein Duw,
A'r Ysbryd fu'n fywyd, ail anfon.
I godi hen feirwon yn fyw.



XCIX.


O IENCTYD, dewch at Iesu,
Paham y sefwch draw?
Peth trwm yw bod heb grefydd
Ym more'r farn a ddaw;

Pan ddelo plant Caersalem
I'r wledd heb 'run ar ol,
Arswydus bod oddi allan,
Fel bu'r morwynion ffol.


C.


JERUSALEM! dinas cyfarfod
Yr had etholedig i gyd,—
Ei seiliau ni syfl yn oes oesoedd,
'Rol llosgi dinasoedd y byd;
Ei Brenin yw Arglwydd Jehofah,
Ei deddfau sydd uniawn a da,
Ei heddwch sydd lawn fel yr afon,—
Ddaw iddi byth elyn na phla.[43]



CI.


GWEDDI gadwodd Sadrac, Mesach,
Abednego rhag y tân,
Gweddi 'stynnodd ddyddiau Hezeciah.
Bymtheng mlynedd yn ei blaen;
Gan fod gweddi yn ein cadw,
Pwy na weddiai,—ond un ffol?
Dwed yr hanes yn Esaiah
I'r haul fynd raddau yn ei ol.



CII.


"DACW'R gelyn," ebai f'Arglwydd,
"Ganwaith faeddodd d'enaid gwan,
'Nawr yn methu gan y tonnau,
Godi ei wyneb dig i'r lan,
Tyn ymlaen, dechreu'th gan,
Dy oll elynion boddi wnan."


CIII.


O PAID a chwenych, Gristion gwan,
Rhyw grefydd esmwyth ymhob man;
Rhag ofn terfynu d' unig oes,
Cyn rhoi dy ysgwydd dan y groes.[44]


CIV.


Y CEILIOG a ganodd,
Fe dorrodd y wawr,
Mae'n bryd ini ddeffro,
Y c'naeaf sydd fawr;
Mae gweision y Brenin
Ymhell ar y blaen,—
Awn ninnau ar eu holau
Trwy ddŵr a thrwy dân.[45]



CV.


MAE'R Efengyl ar farch gwyn
Wedi cychwyn,
Teithio mae trwy fro a bryn
Gan ymofyn
Am y rhai a brynodd E
Ar Galfaria,
Dont yn lluoedd o bob lle,
Haleliwia.[46]


CVI.


ON'D ydych chwi'n dywedyd
Fod eto bedwar mis,
Ac yna daw'r cynhaeaf
Toreithiog gyda brys?
"Dyrchafwn fry ein llygaid,"
Medd Iesu, Brenin nef,
Can's aeddfed ydyw'r meysydd,
Lle mae ei wenith Ef.[47]


CVII.


DAETH blwch yn llawn o berlau
I lawr o'r nefoedd wen,
Cyfiawnder a'i hagorodd
Yn llydan ar y pren;
Trugaredd redodd allan
A bywyd yn ei llaw,
Bydd myrdd yn canu am dani
Ryw fore ddydd a ddaw.[48]



CVIII.


DYMA Sabboth wedi gwawrio
Ar drueiniaid gwael y llawr,
Dydd i gofio angau Iesu,
Dydd ei adgyfodiad mawr,
Dydd o ryddid
Er rhoi cynnydd yn ei waith.[49]


CIX.


DAETH awel o Galfaria.
I chwythu gyda gwres,
Mae'r oerfel yn mynd heibio
A'r Haul yn dod yn nes,—
Yr egin yn blaendarddu
Hwy ddont yn aeddfed yd,
Ni chollir un a hauwyd
Draw yn yr arfaeth ddrud.[50]


CX.


A DDRYLLI di y gorsen
Sy'n ysgwydedig wan?
A losgi di y soflyn
Sy bron a mynd yn fflam?
O paid er mwyn yr Aberth
Fu ar Galfaria fryn,—
Lle bu yr Iesu'n dioddef,—
Bydd myrdd yn canu am hyn.[51]



CXI.


Os gofyn neb sydd yma
Beth yw'r gorfoledd mawr
Sydd gan y saint i fyny,
A chan y saint i lawr;
Y Tad sy'n gogoneddu
A'i gwmni gydag Ef,
Wrth weled afradloniaid
Yn dyfod tua'r wledd.[52]


CXII.


WELE Sabboth wedi gwawrio
Ar bechadur gwael ei wedd,
I gael gafael ar y bywyd
Cyn ei roddi 'ngwaelod bedd;
Yno y byddaf fi ar fyrder,
Wedi cyrraedd pen fy nhaith;—
Dyro afael ar y bywyd
Bery i dragwyddoldeb maith.[53]


CXIII.


YN y cawell brwyn caed Moses
Yn yr hesg ar fin y dŵr,
Yn y ffwrn caed llanciau'r caethglud,
Yn y waredigaeth siwr;
Caeodd angel safnau'r llewod
Cyn i Daniel fynd i lawr,
A chyn bwrw Jonah i'r dyfnder,
Darparwyd un pysgodyn mawr.



CXIV.


WEL, dyma odfa newydd,
O Arglwydd, dyro rym,
I ymladd a phla calon,
A llid gelynion llym;
Mae llawer mil o bethau.
Am gael fy mhen i lawr,
Nid oes a'm ceidw'n unig,
Ond gallu'r Meddyg mawr.



CXV.


DEWCH adre, blant afradlon,
I Salem lawen lon,
Gadewch y moch a'r cibau,
Gwell seigiau sydd yn hon;

Cewch wisg i guddio'ch noethni,
Cewch fara peraidd flas,
Cewch delyn aur i ganu
A chanol golud gras.


CXVI.


MAE drws trugaredd heddyw,
Heb gael gan Dduw ei gau;
Mae Ei ei Hun yn galw,
O dewch i mewn bob rhai;
Cewch wledda gyda'r Iesu,
Yn llawen uwch y nen,
A chanu eich Hosanna,
I'w enw byth,—Amen.



CXVII.


CAPTEN mawr ein hiachawdwrieth,
Welaf yn y frwydr hon,
Holl elynion ei ddyweddi,
Yn gorfod plygu ger ei fron;
Plant afradlon sy'n dod adre,
A fu 'mhell o dir eu gwlad,
Y rhai fu'n fudion sy'n clod fori
Duw, am iachawdwriaeth rad.[54]

Wele'r Iesu, pen rhyfelwr,
Yn dod i'r lan o Edom wlad,
Ei wisg yn goch, ei fraich yn ymus,
A'r ddraig yn glwyfus dan ei draed;
Am yr hyfryd fuddugoliaeth,
Mi gana'm telyn fach yn awr,
Hyd nes delo'r hyfryd fore
Y caf fi ganu'r delyn fawr.[55]


Dull arall, o'r rhan ddiweddaf,—

Am yr hyfryd fuddugoliaeth,
Mi gana ronyn ar y llawr,
Hyd nes delo'r hyfryd fore,
Ca'i ganu'n nhragwyddoldeb mawr.


CXVIII.


MILOEDD sydd yn canu'n beraidd,
Fry oddeutu'r Orsedd lân,
Fuont yma rhwng y tonnau'n
Ofni'r aent yn ddrylliau mân;
Daliwyd hwy, er maint eu hofnau,
Yn yr afon ddyfnaf, ddu,
'Nawr o flaen y Drugareddfa
Maent heb boen yn canu fry.



CXIX.


Y GALON garreg tynn yn llwyr,
Un dyner rho'n ei lle,
Ac ar ei llechau argraff llawn
O gyfraith bur y ne.[56].



CXX.


YMRWYMODD ar ein rhan
Yn nhragwyddoldeb pell,
Cymerodd blaid y gwan
Yn y cyfamod gwell;
Aeth yn ein lle a than ein baich,
A'i gadarn Hollalluog fraich.[57]


CXXI.


O AROS, Haul, heb fynd i lawr,
Aros uwchben y gwersyll mawr,
Tra fyddo etifeddion gras
Yn ymlid ar y gwaedlyd faes.[58]


CXXII.


BYDD miloedd yn rhyfeddu
Wrth weld eu henwau fry.
Yn ddiogel yn yr Arfaeth
Ddadglowd ar Galfari,
A'u beiau wedi'u maddeu,
A'u cuddio yno i gyd,
Pryd hyn bydd uchel ganu
Am waed Iachawdwr byd.



CXXIII.


LLIN yn mygu'n wan heb ddiffodd,
Corsen llawn o 'sigdod wy',
Wedi'i magu ymysg bleiddiaid,
Er mor ddiriaid oeddynt hwy:
Y blewyn lleia' all fy maglu,
Yr awel leia' a'm deil i draw,—
Rhaid cael Bugail Da i'm gwarchod
Tra bo'r llewod ar bob llaw.[59]


CXXIV.


Y SEREN fore ddaeth,
O cyfod, 'enaid caeth,
O'r twyllwch mawr;
Mae twrw plant y dydd,
A gadd eu traed yn rhydd
Yn llawenhau trwy ffydd
Yng ngoleu'r wawr.


CXXV.


UN o'r hen angylion hynny
Oedd yn Gethsemane gynt,
Wedyn drannoeth ar Galfaria
'N dyst o'r boeth ofnadwy hynt;
Tybed nad oedd yma heddyw
'N gwrando uwchben y llwyddiant mawr,
Ac yn canu gyda ninnau
Yn ein gwledd with gofio'r awr?

Gweled ffrwyth y frwydr honno
Wedi ei selio ar heddwch byw,
Ac yn hardd flaguro yng Nghymru
Oddifewn i winllan Duw;
Os oedd yma, diau iddo
Gludo'n dagrau tua'r nef,
Fel rhyw ernes deuwn ninnau
I glodfori gydag ef.[60]



CXXVI


WITH fynd i lawr i'r afon,
Ni phrisiaf wawd na 'stwr,

'Roedd Iesu Grist ei hunan.
Yn un o wyr y dŵr.[61]


CXXVII.


EDIFEIRWCH! gair estronol,
Dieithr yng nghyfrolau'r llawr,
Nid oedd swn na son am dano
Yma cyn y codwm mawr;
Camwedd roddodd iddo'r enw,
Pechod roddodd iddo sail,
Pechod ymddangosodd gyntaf
Ymddangosodd yntau'n ail.[62]



CXXVIII.


BETH yw'r symud sy' ar y dodrefn?
Chwilio am yr arian sydd;
Perlau'r Iesu sydd yn gorwedd
Yn y llwch ers llawer dydd;
Yn lle damnio pentewynion,
Haeddant fod yn uffern dan,
Gwisg a gwledd sydd i'r afradlon,
Deuwch gaethion, seiniwn gân.[63]



CXXIX.


DAETH bore'r adar man,
Ar dan i foli Duw,
Yn awr mae'r haul a'r hyfryd hin,
Ar rai o'r werin wiw,

Fe ddaeth y Jubili
A braf yw'n bri a'n braint,
Cawn fynd i dre ar fyr o dro
I seinio gyda'r saint.



CXXX.


MAE enwau'i blant i gyd,
Gan Iesu yn y nef,
Ni chollir un o'r rhain,
Tra paro'i fywyd Ef;
Fe arddel ei aelodau mân
Ar ol i'r ddaear fynd ar dan.



CXXXI.


MAE Seion wan yn gruddfan am y wawr,
Bydd hon cyn hir yn fam i dyrfa fawr;
Mae'r arfaeth rad a'r dwyfol waed yn un,
A gair y llw i gyd am gadw dyn.[64]



CXXXII


ER twylled yw yr awr,
Mi wn y tyrr y wawr
Ar Seion wiw;
Ac fe ddaw lluoedd maith.
O bob rhyw lwyth ac iaith,
I 'mhoffi yn y gwaith
O ganmol Duw.[65]


CXXXIII.


FFOWCH bellach, oll ar frys,
Edrychwch yn y blaen,
Mae golwg hyll yn ol—
Sodoma sydd ar dân;
Ymlaen, ymlaen, i'r creigydd byw,
I Soar deg dan aden Duw.


CXXXIV.


O ARGLWYDD Dduw'r gwirionedd,
Rho sylwedd ini i gyd,
Na ad i'n fyw'n rhagrithiol,
A deddfol yn y byd;
Rho ini wir dduwioldeb,
A wnelo'n henaid gwan,
Yn bwysau yn y glorian.
Sancteiddlan yn y man.[66]



CXXXV.


MAE dyddiau griddfan i mi'n hir,—
Caethiwed Babel fawr;—
O na chawn deimlo Jubil fwyn
Yn agor dorau'r wawr.



CXXXVI.


WELE eto ddydd yr Arglwydd,
Sabbath newydd mewn mwynhad,
Dydd y cododd Iesu grasol,—
Blaenffrwyth mawr y dwyfol had;
Dydd i gofio'r Oen bendigaid,
Dydd i wledda'r enaid yw,
Dydd y cafodd myrdd o ddynion
Yn y moddion gwrdd â Duw.


CXXXVII.


MIL o filoedd, myrdd myrddiynau,
A fu'n disgwyl wrth dy ddor,
Ac er rhoddi'n helaeth iddynt,
Para'n gyflawn mae dy stor;
Rho i ninnau,
Fendith newydd, anwyl Dad.


CXXXVIII.


Dyw hi ond dechreu gwawrio,
Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lan;
Teyrnas Satan gaiff ei dryllio
A'r Iesu'n Frenin ymhob man:
Cynhaeaf ddaw, maes o law,
Cesglir 'sgubau yma a thraw.



CXXXIX.


MAE Capten byddin Seion.
Yn eistedd ar farch gwyn,
A chanddo fwa nerthol,
A'i saethau'n hynod lym;
Mae yn rhyfelwr medrus,
Ni fetha byth ei nod,—
Doedd neb o'r Benjaminiaid
Yn debyg iddo 'rioed.



CXL.


FE welir y seintiau ryw ddydd
O'u cystudd a'u helbul prydnawn,
Yn 'madael â'u teiau o bridd,
I feddu llawenydd yn llawn;
Eu gwisgoedd yn ddisglaer a gwyn,
Yn hyfryd a hynod o hardd,

Yn meddu mwy pleser pryd hyn,
Nac Adda cyn pechu'n yr ardd.


CXLI.


MELUS swn y telynorion,
O fewn muriau Seion fry,—
Pawb a'u tannau am y tynna',
Mewn "Hosanna "i'w Priod cu.—
Ni bydd yno,
Delyn neb a'i llais yn groes.



CXLII.


FE dderfydd galar Seion,
Cyn bo hir,
Ei gofid a'i thrallodion,
Cyn bo hir,
Fe dderfydd gorthrymndera',
Daw plant y gaethglud adra'
O'u blinfyd a'u cystuddia',
Cyn bo hir,
I seinio gyda'r seintia',
Cyn bo hir.



CXLIII.


AR ol hirnos fe ddaw gwawr ar ferch Seion,
A'i thymp i esgor yn y man, ar ei meibion;
Gwel y rhai oedd gynt ymhell, ei goleuni,
Gan hiraethu am wlad well, rhedant iddi.



CXLIV.


DARFYDDED son am bob ymryson mwy,—
Partiol farm, a rhagfarn.—lawr a hwy;
'Doed ysbryd hedd, tangnefedd yn eu lle,
A chariad pur, fel cariad sy'n y ne'.


CXLV.


IESU yw'n hedd,
Fy noddfa a'n gwledd,
A'm sail am drugaredd i gyd;
Fy nghysgod a'm cân
Mewn dwr ac mewn tân,
Gwnaed uffern ei hamcan o hyd.


CXLVI.


Yn babell y bydd,
Rhag poethder y dydd,
A chedyrn lifogydd y fall;
Mewn cysgod mor dda,
Holl uffern a'i phla,
Er chwennych eu difa,—nid all.



CXLVII.


O DYMA fawr ryfeddod,
I un ag oedd yn Dduw,
Dioddef marw drosom,
Er mwyn i ni gael byw;
O gariad digyffelyb,
O gariad pur, didrai,
Ddanghoswyd ar Galfaria.
I ni sydd lawn o fai.



CXLVIII.


RHAID ymadael dros ychydig,
C'lymed Duw ni oll yn un,
Arfau'r nefoedd i ryfela,
Gwisg a'i ddelw Ef ei hun;
Ar ein taith o bererindod,
Hyn yn unig fyddo'n llef,—
Cael cyfarfod y tro nesaf,
Yn fwy tebyg iddo Ef.[67]


CADWALADR OWEN. (O'r Oriel Gymreig.)

II. MOLIANT I'R CEIDWAD.


CXLIX.

CAED gwaed ar ben Calfaria.
I olchi'r du yn wyn,
Ac am y gwaed mi ganaf,
'Mhen oesoedd ar ol hyn;
Gwaed Iesu bendigedig,
Fu farw yn fy lle—
A dyma'r gwaed a gliriodd,
Holl filiau mawr y ne.

Dyma'r gwaed a olchodd feiau
Pechaduriaid mawr eu bai,
Dyma'r gwaed a'm golchi'th innau,
Er fy mod mewn ty o glai;—
Sef gwaed Iesu ein Gwaredwr,
A'n hanwyl Geidwad ydyw Ef,
Mae e'r awrhon wedi eistedd
Ar orseddfaine fawr y nef.

Dyma'r gwaed a flotiodd feiau,
Pechaduriaid rif y dail,
Dyma'r gwaed a'm golchi'th innau,
Sef cyfiawnder Adda'r ail;
Am y gwaed bydd canu'r antheni
Na chlywir diwedd arni mwy,—
Am y gwaed mi ganaf innau,
Sef haeddiant Iesu a'i farwol glwy.

Dyma'r un sy'n haeddu ei garu,
Tra bo'm yma ar y llawr,
Hwn yw'r Person gawn foliannu,
Yn y tragwyddolfyd mawr,

Sef Iesu Grist ein hanwyl Geidwad,
'Rhwn ddioddefodd angau loes;
Yn awr mae'n eistedd mewn gogoniant.
Yn eiriol drosom ddydd a nos.

Gogoniant iddo yn dragwyddol,
Am iddo 'ngharu cyn fy mod,
Minna' ymdrecha i'w garu yntau,
Ac i roddi iddo'r clod,—
Bendigedig fyddo ei enw
Am iddo farw, i ni gael byw;
Mi ddymunwn ei wasnaethu
A'm holl galon tra bwyf byw.[68]



CL.


DYMA syndod penna'r nef,—
"Yr Arglwydd fynnai'i ddryllio Ef;"—
Efe a'i clwyfodd ar y groes
Daeth hedd i lawr trwy'i ddwyfol loes.



CLI.


'DOES arnaf ddim e'wilydd proffesu
Y Gwr a fu'n chwysu'n yr ardd,
Er cymaint mae dynion'n ei wawdio,
'Rwyf fi'n ei weled yn hardd;
O'r carchar y cefais ollyngdod,
Nid aiff y diwrnod o'm co,
Gogoniant, medd f'enaid, drwy'r holl fyd,
Fe safodd fy mywyd i, do.



CLII.


FE orfoleddodd uffern.
Pan fwytwyd ffrwyth y pren,
Fe grynnodd ei sylfaeni,
Pan anwyd Brenin nen:

Y chwys yn Gethsemane,
A'r gwaed ar Galfari,
Yw'r perlau gwerthfawrocaf,
A fedd ein daear ni.


CLIII.


ER cymaint gŵr oedd Moses,
Mae'r Iesu'n fwy, medd Duw;
Mae Moses wedi marw,
Mae Iesu heddyw'n fyw;
Ni welais ail i Iesu,—
Mae'n medru trin pob clwy;
Ac am ei fod mor fedrus,
Ffarwel i Moses mwy.[69]



CLIV.


RHYFEDDOD welodd Moses—
Y berth yn llosgi'n dân,
Yn para heb ei difa,
Yn tyfu fel o'r blaen.
Mwy rhyfedd gweled Iesu,——
Preswylydd mawr y berth,
Yn faban yn y preseb,
Heb arian ac heb werth.



CLV.


RHYFEDDOD gweled Isaac
Ar ben Moriah draw,
Ac Abram wrth yr allor
A'r gyllell yn ei law;
Mwy rhyfedd gweled Iesu
Yn rhwym dan law ei Dad,
A'r cleddyf yn ei ystlys,
Yn marw yn ei waed.


RHYFEDDOD gweled Joseph
A'i frodyr o un fryd,
Heb gofio'r hen gamweddau,
Ond maddeu 'r rhain i gyd;
Rhyfeddach gweled Iesu
Yn derbyn dyn i'w gol;
A ddarfu gynt ei werthu
Am ryw bleserau ffol.

RHYFEDDOD oedd i Judas
Fradychu Iesu Grist,
'Rol iddo weld ei wyrthiau
Yn gwella cleifion trist;
Mwy rhyfedd gweld pechadur,
Fu'n gwrando am ei waed,
Yn barnu'i fod o 'n aflan
A'i sathru dan ei draed.[70]


CLVI.


Enw'r Iesu sydd yn werthfawr,
Ynddo mae rhyw drysor im';
Enw'r Iesu yw fy mywyd—
Yn ei enw mae fy ngrym;
Yn ei enw mi anturiaf
Trwy bob rhwystrau maith ymlaen,
Yn ei enw mae fy noddfa—
Am ei enw bydd fy nghan.



CLVII.


Fy sylfaen fawr dragwyddol
Yw'r Crist fu ar y groes;
Ni cheisiaf ond ei hunan
Tra pery dyddiau f'oes;

Mi ymorffwysaf arno
Yng ngwyneb 'stormydd blin;
Mae Iesu Grist, y Cyfiawn,
Yn ddigon im' ei hun.


CLVIII.


Am ei hanfod ogoneddus.
Anwybodus ydyw'r byd;
Goruwch dirnad pob creadur,
Mor difesur yw o hyd;
Wrth ei orsedd 'rydwyf weithian,
Yma i raddau'n gweld ei wedd;
Ond caf ei weled fyrdd disgleiriach
Pan gyrhaeddwyf wlad yr hedd.



CLIX.


GWR anwyd ym Methle'm ryw fore,
Fu'n achos caniadau'r llu hardd;
Gŵr lwyr anrhydeddodd y gyfraith.
Gŵr perffaith fu'n chwysu'n yr ardd;
Gŵr fu farw 'nol llefain: "Gorffennwyd,"
Gŵr gladdwyd, a seliwyd â ma'n;
Gŵr gododd,—gŵr blygodd y napcyn,
Yw sylfaen a thestyn fy nghân.



CLX.


CLWYFAU'R Iesu ydyw'r ffynnon—
Ffynnon loew, oreu ei rhyw,
Dyma'r ffynnon canaf iddi
Wnaeth fy enaid marw'n fyw.
Haleliwia!
F'enaid, cân am dani byth!


CLXI.


BOED clod a mawl i'r Iesu mawr,
Am ddod i'r llawr i'n lle,
Fe brynnodd ffordd â'i briod waed,
A rhyddid gaed i'r ne.

Bydd myrddiwn o goronau aur,
Yn haenau ar ei ben,
A'r saint yn canu "Iddo Ef,"
O gylch yr orsedd wen.

Bydd yr angylion yno'n un,
Yn gwerthfawrogi'r fraint,
O gael cyfeilio ar y gerdd,
I beraidd fawl y saint.[71]


CLXII.


WRTH eu ffrwythau'r adnabyddir
Y prennau blennir yn yr ardd,
Nid o berth yr heliant rawnwin,
Nid oes yno frigyn hardd;
Caru Iesu—rhoi iddo elusen,
Dry y glorian ddydd a ddaw,
Y rhai a wnaeth ag Ef drugaredd
A eistedd ar ei ddeheu-law.[72]



CLXIII.


ER edrych yma ac edrych draw,
Is ac uwchlaw'r ffurfafen,
Ni welaf imi'n Gyfaill pur
Ond Iesu'n wir yn unman;

A rhag im' fyned byth ar goll,
Gwisg fi a'th holl arfogaeth,
A nertha f'enaid yn Dy ffydd,
Nes caffwy'r fuddugoliaeth.[73]


CLXIV.


Pwr yw'r Gwr a welaf acw,
Yn rhwym gan dyrfa'r gwaew-ffyn,
Yn cario croes ar gefn briwedig
Tua phen Calfaria fryn?
Iesu hawddgar,
Ydyw'r Gwr sy'n cario'r groes.

I farwolaeth rhwng dau leidar
Rhoddwyd Iesu, Prynnwr byd,
Methodd daear ddal'r olygfa—
Crynnodd drwyddi oll i gyd;
Gwisgo gorchudd,
Ddarfu'r heulwen ganol dydd.

Er y dirmyg a'r gwaradwydd
Gafodd Iesu ar y llawr,
Fe enillodd fuddugoliaeth
Ar holl allu'r fagddu fawr,—
Llyncodd angeu,
A bu'n dranc i wanc y bedd.

'Nawr mae'n eistedd ar ei orsedd
Mewn gogoniant yn y nef,
Ac mae agoriadau uffern
A marwolaeth ganddo E,
Haleliwia!
Dyma Frenin ini'n Frawd.[74].


CLXV.


FE anwyd ini Fachgen
Mab a roddwyd in,
Fe'i ganwyd yn y preseb,
Fe'i lladdwyd ar y bryn;
Fe'i claddwyd yn y ddaear,
Hyd fore'r trydydd dydd,—
Mae'n eiriol yn y nefoedd,
A'i draed a'i ddwylo'n rhydd.


CLXVI.


WELE Seren yn y dwyrain,
'Dwn i amcan beth all fod?
Bachgen bychan yn ei rwymyn,
Yn sathru'r gelyn dan ei droed.



CLXVII.


Y BABAN bach a anwyd draw
Ym Methlem Judah,
Aiff a 'mywyd yn ei law
Tuag adra';
'Fe yw pilot Seion wiw
Ar y tonna'
'Fe yw Twysog byddin Duw,
Haleliwia.[75]



CLXVIII.


CARIAD Crist, a 'mhechod innau,
A bwyswyd yn y clorian mawr,
Ac er trymed oedd fy mhechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr;
Y gair "Gorffennwyd,"
Wnaeth i'r glorian bwysig droi.


Pur gyfiawnder Duw foddlonodd,
Pan ddioddefodd yn fy lle,
A'm holl ddyled drom a dalodd,
Ac a groesodd filiau'r ne;
Y gair "Gorffennwyd,"
A wnaeth i'r glorian bwysig droi.


CLXIX.


O'R nefoedd clywch ar fore clir,
Newyddion ddaeth i Fethlem dir,
Fod ini wedi ei eni Un
Yn gadarn Dŵr i gadw dyn.



CLXX.


GAIR mawr oedd y "Bydded" a dd'wedodd Jehofah,
Gair mwy oedd "Gorffennwyd" ar fynydd Calfaria;
Fe greodd y "Bydded" ryw fydoedd heb fesur,
Ond yn y "Gorffennwyd" mae bywyd pechadur.



CLXXI.


Ni welaf neb fel Iesu,
I fyny'n nhŷ fy Nhad;
Ni charaf neb ond Iesu,
Sy'n Llywydd ar y wlad;
'Does neb mor hardd a'r Iesu,
Mae'n harddach na deng mil,
Mi af ar ol yr Iesu,
Serch rhodio'r llwybyr cul.



CLXXII.


YNG ngwersyll bach Calfaria,—
Rhyfeddod mawr a gaed;
Rhoed manna'r nef i orwedd
O dan y gaenen waed;

I mewn ar frys i'r gwersyll,
I'w gynnull, f'enaid, dôs,
A chofia lenwi'th omer
Cyn iddi fynd yn nos.


CLXXIII.


COFIO'R wyf yr awr ryfeddol,
Awr wirfoddol oedd i fod;
Awr a nodwyd cyn bod Eden,
Awr a'i diben wedi dod;
Awr wynebu ag un aberth,
Awr fy Nuw i wirio'i nerth;
Hen awr anwyl prynnu enaid,
Awr y gwaed pwy wyr ei gwerth?



CLXXIV.


BYTH ni welsid y ddynoliaeth,
Mewn uwchafiaeth yn y nef,
Oni bae yr Iawn a roddwyd
Ac a gafwyd ynddo Ef:
Byth ni chawsai gras a chariad
Ddangos eu teimladau'n llawn,
Na thrugaredd sychu'i dagrau,
Ond a thywel coch yr Iawn.



CLXXV.


YMILITH ideau gwynion
Oedd yn fy Nuw erioed,
Roedd un idea borffor
Na wyddai neb ei hoed;
Ni wyddai meibion Gwynfa
Ddim am ei lliw na'i llun.
A dyma'r hên idea
A ga'wd i gadw dyn.[76]


CLXXVI.


PAM y duodd haul goleuni?
Pam 'r aeth twllwch dros y byd?
Pam y crynnodd nerth sylfaeni,
Daear gadarn oll i gyd?
Pan yr holltodd creigiau cedyrn?
Y daeth meirw o'u beddau'n fyw?
Am fod Crist mewn cnawd yn marw
Er codi dyn i ffafor Duw.[77]


CLXXVII.


MAB unig anedig, un odiaeth,
'Run fath ei naturiaeth a'r Tad,
'Run oedran, 'run anian, 'run enw,
'Run ddelw—hardd loew, 'run wlad;
'Run iaith, yr un waith, yr un ethol,
'Run 'wyllys i'w bobol gael byw.
'Run nerth. yr un gwerth. yr un gwyrthiau,
'Run geiriau, 'run deddfau, 'run Duw.[78]



CLXXVIII.


MINNAU glywais yn fy ngwlad
Son an Iesu,
Ei fod Ef ar fam a thad
Yn rhagori:

Daear faith, ac uchder nef
Byth ni ffeindia,
Arall tebyg iddo Ef,—
Haleliwia!


CLXXIX.


Mi welais haf a gaeaf,
Mi welais ddydd a nos,
Mi welais foli a dawnsio,
Mi welais gario'r groes;
Mi welais waethaf Satan,
Ni welais oreu Duw;
Hosanna! Haleliwia!
Fy Nhad sydd wrth y llyw.[79]



CLXXX.


Y MAEN wrthododd gweithwyr caeth.
O'r diwedd aeth i'w le,
Yn ben y gongl y mae bob awr
Yng nghyntedd mawr y ne.[80]



CLXXXI.


YNG ngwydd yr haul yr hoeliwyd
Yr Haul ar ben y bryn,—
Yr Haul wnai haul dywyllu,—
Bydd cof o hyd am hyn;
Rhoed Haul heb haul i orwedd
Yng ngwaelod bedd ynghudd,—
"Dau Haul" i gyd-gyfodi
Ar fore'r trydydd dydd.


CLXXXII


Dwy fflam ar ben Calfaria
Gwrddasant yno 'nghyd,
Fflam cariad at bechadur,
Fflam goch o ddwyfol lid;
A'u mwg yn dringo'i fyny
Nes cuddio ser y nen,
A'r Iesu rhwng y ddwy-fflam
Yn marw ar y pren.


CLXXXIII.


ER i'r haul naturiol fachlud,
Eto cyfyd yn ei bryd,
Er i'r Arglwydd guddio'i wyneb,
Fe bery'r hen gyfamod drud;
Er i Jonah wrthryfela,
A mynd i fol y morfil ffôl,
Am fod gwaed yr Oen yn eiriol
Rhaid cael Jonah eto'n ol..



CLXXXIV.


CARAF hardd lythrennau'i enw,—
"I," ag "E," ag "S." ag "U,"
"I," am iachawdwriaeth rasol,
"E," am etifeddiaeth fry,
"S" am sylfaen fawr safadwy,
"U" am undeb gyda Duw,
Bydd llythrennau Iesu i'w gweled
Yn y nef yn hardd eu lliw.



CLXXXV.


DIOLCH byth am Iawn Calfaria,
Trefnwyd ffordd i gadw dyn,
Crist ddioddefodd tros bechodau,
Fe offrymodd, do, ei hun,
Minnau bwysaf
F'enaid ar ei Aberth Ef.


O fy enaid, cwyd i foli
Am y gwaed roed ar y bryn,
Gwaed a olcha fy nihechodau,
Ac am canna oll yn wyn;
Gad im brofi
O rinweddau gwaed y groes.

Gwaed y groes a ddichon buro
Y gydwybod waethaf gaed,
A chymodir y gelynion
Mwyaf, drwy rinweddau'r gwaed:
Dyma destyn
Per ganiadau llu y nef.[81]


CLXXXVI.


EDRYCH i Galfaria fryn
Wna i mi wylo,
Gweled Iesu a'i ddwy law.
Wedi eu hoelio,
Ar ei ben mae coron ddrain,
Bigau hirion,
Yn ei galon bicell fain,—
O mor greulon!



CLXXXVII.


UN ergyd eto ar ben y ddraig,
Drwy Had y Wraig sy'n eiriol,
Ac am fod Iesu ar ein rhan—
I'r lan, i'r lan, yn wrol.[82].


CLXXXVIII.


MAE'R gwaith i fyned rhagddo,
Er gwaethaf lid y ddraig,
I fyny daw'r adeilad
Mae'r sylfaen ar y Graig;
Safadwy ydyw'r Sylfaen,
A chadarn ydyw'r Graig,
Cydymaith i bechadur
O hyd yw Had y Wraig.[83]


CLXXXIX.


Haws fuasai i'r brithyll bychan
Lyncu Mor y De'n ei ddig,
Haws fuasai i'r 'deryn egwan
Gario'r Andes yn ei big;
Haws fuasai i'r morgrugyn
Yrru'r Alps o'i flaen i'r môr,
Nac i ddyfais dyn na diafol
Ddadychwelyd arfaeth Iôr.



CXC.


PAN siglo'r bryniau cedyrn,
Pan gryna'r ddaear faith,
Pan losgo'r byd yn ulw,
Pan ferwo'r moroedd maith,
Pan elo'r haul yn dywyll,
Pan syrthio sêr y ne,
Fe saif arfaethau'r nefoedd
Yn gedyrn yn eu lle.


CXCI.


EMMANUEL,—"Duw gyda ni,"—
Fu'n gruddfan draw ar Galfari;
Duw byw, dan friw, a chwerw loes.
Ar agwedd gwas ar bren y groes,
Y Bywyd yn y bedd,
Heb degwch pryd na gwedd:
Cof, cof, a fydd am hyn
O fewn i fro Caersalem fryn.


CXCII.


MAE'R Iesu'n fwy na'i roddion,
Mae'r Iesu'n fwy na'i râs;
Mae'n fwy na dim a welwyd
Tu fewn, ac o'r tu faes.



CXCIII.


SEREN fore, gwreiddyn Dafydd,
Llew o Judah, yw Mab Duw,
Noddfa i lofrudd, cyfaill beunydd,
Arch i gadw dyn yn fyw;
Aberth, Allor, Archoffeiriad,
Cerbyd, Cariad, Meddyg rhad,
Pren y bywyd, arogl hyfryd,
Ffordd i'r euog at y Tad.

Enw melus ydyw'r Iesu,
Enw gwerthfawroca' 'rioed;
Enw gorfydd i bob enw
Blygu'n isel wrth ei droed;
Dyma'r enw sy'n pereiddio,
Fel yr enaint gwerthfawr drud:
Taenu wnelo'i beraroglau,
Hyd nes llenwi conglau'r byd.


JOHN JONES BLAEN ANNERCH. (O'r Oriel Gymreig).

CXCIV.


PE byddai'r moroedd mawrion.
Yn inc o'r dua'i liw,
A'r tywod di—rifedi,
I gyd yn ddynion byw,
A'r byd i gyd yn bapyr,
Pob un a'i 'sgrifen bin,
Ni allent gynnwys cariad
Yr Oen fur ar y bryn.

Pe byddai sêr y nefoedd
I gyd yn fydoedd maith,
A'r rhain yn llawn angylion,—
A dynion o bob iaith;
Pob un a'i euraidd delyn
Yn canur'r nefol dôn,
Ni allent ganu digon
Am haeddiant gwaed yr Oen.

Pe byddai pob creadur
A greodd Duw ar lawr,
Holl 'hediaid y ffurfafen,
A physg y moroedd mawr.
Dyffrynoedd a mynyddoedd,
Y coedydd a'u holl ddail,
Byth, byth ni chanent ddigon
O glod i Adda'r Ail.


CXCV.


PE bai gwellt y ddaer yn binnau,
A'r môr yn inc o'r dua'i liw,
Y nefoedd faith i gyd yn bapyr,
A'r tywod mân yn ddynion byw,

A phawb yn sgwenu hwyr a bore
Y molawdau goreu i lawr,
Byth ni phrisiant etifeddiaeth.
'Run o blant yr Arfaeth fawr.[84]


CXCVI.


HOSANNA, Haleliwia fydd,—
Tôn newydd byth a llawn;
Am angau'r groes a roes yn rhydd
I'n cael yn ddedwydd iawn.

Am gyflawn brynedigaeth rad,
Am gariad Tri yn Un;
Ac am y grâs, ragorol rodd,
Achubodd euog ddyn.[85]



CXCVII.


GOGONIANT byth a fo ar gan,
I'r Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân;
Fel gynt yr oedd, y mae, y bydd,
O oes i oes, o ddydd i ddydd.



CXCVIII.


PETH rhyfedd iddo roddi ei serch
Ar ferch yr hen Amoriad,
A dryllio'i Fab ar Galfari,
I'w phrynnu o'i chaethiwed.



CXCIX.


CLYW lais dy Grist,—clyw ochain trist,
Clyw waedd dy Frawd yn marw,
Clyw hoel a'r ordd yn tyllu'r ffordd
Trwy'i gnawd i'r croesbren garw.


CC.


Mi glywais newydd, do,
Mi ai delais ar fy nghô,
Nis gwn pa lun;
Fod Iesu maddeu bai,
Yn hoffi trugarhau,
I'r pennaf un.[86]


CCI.


BRYNWR byd—o'i gryd i'w groes,—
Anwyl Iesu Grist!
Ddioddefodd lawer loes,—
Anwyl Iesu Grist!
Ger ei groes,—er beiau ri',
Plediwn farw Calfari,—
Dyna sail ein bywyd ni,—
Anwyl Iesu Grist!

BYRDWN:—
Iesu Grist! Iesu Grist!
Dyna sail ein bywyd ni.—
Anwyl Iesu Grist!



CCII.


IESU, Ceidwad pechaduriaid,
Ddaeth o'i gariad at y tlawd,
Ac a dalodd ein holl ddyled
Pan yn dioddef llid a gwawd:
Moliant iddo,
Iesu yw ein ffyddol Frawd.[87]



CCIII.


O! DIOLCH byth i'r Arglwydd Dduw,
Am roddi hedd i ddynol ryw,
Ac edrych ar bechadur gwael,
Yn ei drugaredd hyfryd hael.


CCIV.


Mi welaf ar Galfaria fryn,
Ffynnon a olchodd fyrdd cyn hyn,
Ac yno rhedaf fel yr wyf,
I olchi ynddi'm fiaidd glwyf.[88]


CCV.


Er anifeiliaid filoedd,—
Teg yrroedd gynt a gaed;
Wyn, teirw, pob naturiaeth,
Rhywogaeth oreu o waed;
Ei hunan pan offrymodd
Aberthodd Iesu byw,
Y llyncodd môr dioddefaint
Lyn tân digofaint Duw.



CCVI.


Ar Galfaria, rhwng dau leidar,
Wele frwydyr fwya 'rioed,—
Yr Oen yn fud heb air o'i enau,
Yn sathru'r dreigiau dan ei droed;
Lladd euogrwydd, clirio'r euog,
Prynnu hwn o gaeth yn rhydd,
Maeddu'r Cadarn, marw ei hunan,—
Codi'n fyw y trydydd dydd.



CCVII.


GOGONIANT i Fab Duw o'r nef,
O'i anwyl gorfi briwedig Ef
Daeth gwerthfawr ffrwd o fywiol waed.—
Bywyd i'r meirw a rhyddhad.


CCVIII.


RHO'WN glod i'r Ysbryd Glân bob pryd,
Hwn, yn ein calon ddrwg a ddŷd
Ei râs, fel ffynnon fywiol hardd,
Ac i ogoniant byth y tardd.


CCIX.


Tu draw i'r llen bydd tyrfa
Tu hwnt i rif y gwlith,
O frodyr o'r un anian,
Heb estron yn eu plith;
Y blaena' 'mhlith y dyrfa.
Yw'r Iesu fu ar y pren,
A phawb wrth fodd ei galon
Yn rhoi'r goron ar ei ben.



CCX,


A DDICHON fod arnat afiechyd
A Meddyg o'r fath yn y fan?
Ni ddichon i ti gael y bywyd
Heb farw dy Feddyg i'th ran;
Rhyfeddol yw natur y clefyd,
Nid oes feddyginiaeth yr un,
A laesa'r doluriau a'r penyd,
Ond gwaed y Physygwr ei hun.[89].



CCXI.


BOB dydd, bob awr, bob munud,
Cyfnewid y mae dyn,
Ond Iesu'r cyfaill ffyddlon,
Sy'n para eto'r un.
Pan ddarffo'r haul ddisgleirio,
Pan syrthio ser y nen,
Ni dderfydd Iesu wisgo
Y goron ar ei ben.[90]


CCXII.


Y MANNA pur, a'r Golofn dân,
Yr Arch, a'r Drugareddfa lân,
Y dŵr o'r graig. i'w gael bob pryd,—
Fy Iesu yw y rhain i gyd.[91]


CCXIII.


CRIST yw'n hanwyl Fugail ffyddlon,
Mae Fe'n dirion nos a dydd.
Fe a'm dwg i o'r anialwch
Ac o'r dryswch oll yn rhydd;
Ar ei 'sgwyddau dof tuag adrau,
I gorlannau'r defaid mwyn,
Mae'n coleddu y mamogiaid,
Mae'n mynwesu'r gweiniaid wyn.[92]



CCXIV.


BARA Duw yw'r Arglwydd Iesu.
Hwn o'r nef a roddwyd ini;—
Bywyd ydyw i farwolion—
Iachawdwriaeth colledigion.[93]



CCXV.


FE welwyd Craig mewn dalfa
Gan wyr y gwaew ffyn,
Fe welwyd Craig yn hongian
Ar ben Calfaria fryn:
Rhoed Craig mewn craig i orffwys
Hyd fore'r trydydd dydd,
Er gwaetha'r maen a'r milwyr.
Daeth Craig o'r graig yn rhydd.



CCXVI.


'ROEDD Craig yn canlyn Israel,
Caed dŵr o'r graig, gwir yw,
Mae Craig yr Oesoedd eto
Yn sylfaen Eglwys Dduw;
Yng nghanol gorthrymderau,
Wrth deithio tua'u gwlad,
Caiff teulu Seion ganu
A'r Graig o dan eu traed.


CCXVII.


MAE Iesu wedi marw,
Ac wedi mynd i'w fedd,
Ac wedi adgyfodi—
Mae hyn yn gloewi'r wledd:
Mae wedi esgyn adre'
I'r hen drigfannau i fyw;
'Does eto dddim i'w dalu
Ar neb o delu Duw.



CCXVIII.


DYMA Geidwad i'r colledig.
Wedi ei eni yn blentyn gwan,
Etifedd nefoedd wen a daear
Yn y preseb gyd a'i fam;
Gwisgodd natur dyn am dano
I ddiodde angau ar y pren.
Duw a dyn mewn undeb agos
Aeth a'r gwaith yn llwyr i ben

Dyma godiad byth a gofir,—
Codi hen bechadur gwan,
Oedd yn gorwedd mewn trueni,
Ei ddal i fyny ymhob man:

Yn uwch na'r donn yn afon angau,
Yn uwch na dreigiau uffern lás,
Yn uwch na'r haul yn nhir y bywyd,
O anchwiliadwy olud gras!


CCXIX.


Bu, bu
Dywyllwch ar ein daear ni,
O'r chweched hyd y nawfed awr;
Bydd canu am yr oriau hyn
Gan dyrfa fawr ar Seion fryn,
Oll yno'n hardd a'u gynau'n wyn.[94]



CCXX.


DAETH Samson i fyny o dre Gaza,
Er gwylied ei phyrth yn y nos,
Daeth Iesu i fyny o Bozra,
Er iddynt ei ladd ar y groes.[95]



CCXXI.


WATH fynd i'r ardd i chwysu,
Fe ddwedodd—"Daeth yr awr,"
I dalu dyled Seion,
Er bod ei swm yn fawr;
I'r ddeddf fe roes foddlonrwydd,
Ac i gyfiawnder Iawn,—
Fe dalodd Iesu'r cwbwl,
Cyn tri o'r gloch prydnawn.[96]


CCXXII.


HEN lestr Iachawdwriaeth.
A ddaeth i'n daear ni,
Mordwyodd foroedd cariad
Hyd borthladd Calfari;
Dadlwythodd ei thrysorau
Mewn teirawr ar y groes;
Rhoes fodd i dorf nas rhifir
I fyw trag'wyddol oes.[97]


CCXXIII.


PAN hoeliwyd Iesu ar y groes
Aeth hanner dydd yn hanner nos;
Pan aeth ein Meichiau mawr yn rhydd.
Aeth hanner nos fel canol dydd.



CCXXIV.


Nis gall Satan ar y gora',
Ond cas edliw, a sigo sodla';
Fe fedyr Iesu mawr diderfyn,
Gyrraedd eto i sigo'i goryn.



CCXXV.


MAE Iesu Grist, ein Ceidwad,
O'n hochor ni yn awr,
Fe gymrodd Ef ei wawdio
Gan ddynion is y llawr;
Bu farw ar Galfaria,
Er mwyn i ni gael byw,
Ac heddyw mae E'n eiriol
Fry, ar ddeheulaw Duw.


CCXXVI.


DAETH Crist o'r bedd, gwir awdwr hedd, yn Iawn,
Tystiolaeth glir gan dystion cywir gawn;
Ac yn y byd o hyd, er pob rhyw haint,
Ei fywyd pur a sêlir yn ei saint.


CCXXVII.


TAIR, tair,—
Arglwyddes feichiog dda eu gair,—
Arfaeth, Addewid, hefyd Mair,
A'u tymp i esgor daeth 'run awr;—
Un mab a anwyd, tair gwraig rydd,—
Mae'n rhaid y bydd o'n Rhywun mawr.



CCXXVIII.


MAE llawer yn rhyfeddu
Pam 'rym yn canu c'uwch,
Neshau'r mae'r hyfryd fore
Pan gaiff Seion ganu'n uwch;
Haleliwia
I'r Gŵr fu farw ar y pren.



CCXXIX.


CRIST ddaeth mewn natur dyn,
Yn wael ei lun a'i wedd.
Bu farw dros rai caeth,
O'i fodd yr aeth i'w fedd;
Am hynny byth. bendithiwn Dduw,
Can's marw wnaeth i ni gael byw.[98]



CCXXX.


YN wyneb Crist llewyrcha i maes,
Y ddelw decaf oll o'i ras;

Gwnaeth Duw ym Mherson Iesu glân,
Waith mawr tuhwnt i ddim o'r blaen.


CCXXXI.


CADARN ydyw trefn y cadw,
Trefen loew Adda'r Ail;
Arfaeth Duw, a threfn y Cymod,—
Hyn er syndod yw ei sail."



CCXXXII,


Yn rhad fe'n cododd ni
O'r glyn truenus trist;
Goruwch angylion bydd y saint,
Drwy haeddiant Iesu Grist.



CCXXXIII.


YR Iesu 'nol dwedyd "Gorffennwyd,"
A gosod caethiwed yn gaeth,
Orffwysodd dri diwrnod yn dawel,
A chododd o'r bedd hel fod gwaeth;
Ac wedi diddanu'r disgyblion,
Esgynnai tu'r dwyrain i'r dref,
Awgryma wrth dywallt ei fendith,
Ei fwriad o fyned i'r nef.

Ac yna oddiar fryn yr Olewydd,
Mewn mawredd a mwynder a gras.
Cyfeiriai tua dinas Caersalem,
Trwy ganol 'merodraeth ei gas;
Aeth nefoedd y nefoedd i gyffro
Wrth weled ei Brenin ei hun,
A'i weld wedi concro cythreuliaid
Mewn undeb a natur y dyn.


CCXXXIV.


Y GRONYN gwenith roed i lawr
Ym mhriddellau ein daear ni;
Daw ffrwyth toreithiog yn y man
O'r marw ar Galfari.[99]


CCXXXV.


COFIO'R nos bradychwyd Iesu,
O mor ryfedd!—cofio'r ardd,
Cofio Judas, cofio'r fyddin
Ddaeth i ddal y Person hardd;
Cofio'r chwys, a llys y profi,
Cofio'r groes—a Chalfari,
Cofio'r syched.—cofio'r lludded
Pan yn marw drosom ni.



CCXXXVI.


FY enaid, gwel dan hoelion
Y Meichiau mawr yn gaeth,
A'r enaid dan wasgfeuon,
A thanynt marw wnaeth;
Ein cosb a'n gwae oedd arno,
Er hynny daeth yn rhydd,
A phardwn ini ganddo
Ar fore'r trydydd dydd.+



CCXXXVII.


BUGAI. ffyddlon, da yw'th enw,
I'th grwydredig ddefaid ffol,
Nid oes le iddynt gyfeiliorni,
Byth nas gelli eu dwyn yn ol;
Ni all Aifft, na thir Assyria,
Guddio'th wyn o'th olwg Di,
Mae yn Dy Enw fodd i'w dychwel
I Gaersalem dan eu rhi.


CCXXXVIII.


I'R Drindod yn yr Undod,
I'n tirion Arglwydd Dduw,
Cyd-unwn oll mewn moliant,
Am iddo'n cadw'n fyw;
Mawr seiniwn Haleliwia,
Hyd entrych nefoedd wen;
Boed iddo barch a moliant
Oddiwrthym byth,—Amen.[100]


CCXXXIX.


FE ysgrifennodd Iesu
Ei destament i gyd,
Pob sill a gwaed ei fynwes,
Mae'n rhaid ei fod yn ddrud;
Bu farw'r Testamentwr,
Mae'r testament mewn nerth,
O Gristion, cwyd dy galon,
'Does undyn wyr dy werth.[101]



CCXL.


FE gladdwyd credo Moses,
Yn ol y waew-ffon;
Diffoddwyd mellt deddf Sina
A gwaed y ffynnon hon;
Yr hen ysgrifeniadau
Oedd yn ein gofyn ni,
Ddilewyd bob llythyren
A rhudd waed Calfari.[102]



CCXLI.


YNG Nghalfaria mae fy mywyd,
Yng Nghalfaria mae fy hedd,
Yng Nghalfaria byddaf farw,
Yng Nghalfaria boed fy medd;

O Galfaria adgyfodaf,
O Galfaria af i'r nef,
Ac a ganaf am Galfaria,
Tra b'wyf yma iddo Ef.[103]


CCXIII.


FAINT o elw gesglais heddyw,
Erbyn marw—chwerw loes?
Faint o aur Calfaria gefais
O ariandy mawr y groes?
Hen ariandy llawn Calfaria,
Pwy a draetha faint ei stor?
Mae e'n Alpha ac Omega,
A'i gyflawnder fel y môr.[104]



CCXLIII.


PAN oedd cyfiawnder dwyfol
Yn llosgi megis tân,
A swn taranau Sinai
Yn gyrru'r gwres ymlaen;
Gwaed Iesu croeshoeliedig
A roes foddlonrwydd llawn,—
Bydd pechaduriaid mawrion
Yn canu am yr Iawn.



CCXLIV.


ADNABOD Crist yw cael y bywyd,
Adnabod Crist yw cael yr hedd,
Cael rhan ynddo yw cael nefoedd,
Yma a thu draw i'r bedd;
Bod a Christ yw bod a phopeth.
Bod heb Grist yw bod heb ddim,
O na chawn i wir adnabod
Iesu Grist yn eiddo im.


III. PROFIADAU A GWEDDIAU
CYFFREDINOL Y SAINT.

A adroddid ac a genid yn y seiadau a chyrddau crefyddol.


CCXLV.


O NA bae fy mhen yn ddyfroedd,
Fel yr wylwn ddyddiau maith,
Wrth weld Seion wedi hepian
Yn yr anial ar ei thaith;
Y byd yn gorwedd mewn drygioni,—
Seion wedi cysgu'n drwm;
O am floedd yr Adgyfodiad
I ddadebru'r dyffryn hwn.



CCXLVI.


O NA roddid calon imi,
Fo'n galaru am bob bai,
Nid oes drefn im gael fy nghadw,
Byth heb imi 'difarhau;
Plant y dagrau a'r och'neidiau
Welir fry yn dyrfa hardd,
Yno'n canu am yr ucha'
I'r Gŵr fu'n chwysu yn yr ardd.



CCXLVII.


Dysc im' fod yn wyliadwrus,
Mewn enbydus ryfel boeth,
Dysg im' gwrdd a'm holl elynion,
Gyda'th gledd, a'i fin yn noeth;
Dysg fi handlio hwnnw'n hwylus,—
Mae'n druenus methu ei drin,
Wrth dy air pywerus, nerthol,
Ant yn farwol wrth ei fin.


CCXLVIII.


Ar yr ysgol welodd Jacob,
Minnau wyf am roddi 'nhroed,
Er ei maint, ac er ei huchder,
Chwympodd neb oddi arni 'rioed;
Grym i sefyll mewn addewid,
Ac i sengyd ar ei ffyn,
Ac i ddringo ar hyd ddi i fyny,
Ac i waeddi,—"Arglwydd, tynn."


CCXLIX.


OFEREDD fy meddwl, O maddeu,
A'm hangof o'th eiriau bob dydd,
A maddeu ngweithredoedd anghywir,
A'm geiriau rhy sicir i sydd;
Mae gennyt Ti foddion i faddeu,
Heb gyfrif fy meiau i mi,
Datguddir dy drefn yn fwy amlwg,—
Rwyf yma, atolwg i Ti.[105]



CCL.


Mr dreiaf Orsedd Duw
Er dued yw fy lliw,
Am wir iachad;
Pwy wyr nad dyma'r awr.
A drefnodd Arfaeth fawr,
Im gael fy meiau i lawr
Oll dan fy nhraed.



CCLI.


Dysg fi dewi gydag Aron.
Dan holl droion dyfnion Duw,
A dywedyd gydag Eli,—
"Gwnaed a fynno, 'r Arglwydd yw:"


Bod, fel Job, yn amyneddgar,
Peidio dwedyd geiriau mawr,
Yr Arglwydd sydd yn codi i fyny,
Yr Arglwydd sydd yn tynnu i lawr.[106]


CCLII.


'Rwyf wedi cyfeiliorni,
A hynny lawer tro,
A rhodio llwybrau dyrus,—
Ti wyddost Arglwydd,—do:
O, maddeu, maddeu 'mhechod
Atolwg Arglwydd Dduw,
A dwg fi lwybrau Seion,
Os cennad y ca'i fyw.



CCLIII.


PAN bwy'n edrych ar y llwybrau
Gwyrgam gerddais yn y byd,
Rwy'n rhyfeddu fod trugaredd
Wedi'm harbed yma cy'd;
Diolch am arbediad bywyd,
Diolch an drugaredd râd.
Diolch byth fod daear maddeu
Hyd yr awrhon dan fy nhraed.[107]



CCLIV.


An lan afon yng ngwlad Babel,
Dyma'r man 'rwyn trigo'n awr,
Gweld fy nhelyn ar fy helyg,
Methu'r wyf a'i chael i lawr;
Disgwyl 'rwyf o odfa i odfa,
Y derfydd y caethiwed hyn,
Ac y gwelir f'enaid eto.
Yn seinio cân ar Seion fryn.


CCLV.


Rwr's disgwyl wrthyt, Iesu,
Ymddiried yn Dy waed,
Am iachawdwriaeth berffaith,
Mor fawr, ac eto'n rhad;
Ymddiried am fy ngolchi
Yn lân fel eira gwyn,
Yng ngwaed y ffynnon ryfedd
Ar ben Calfaria fryn.[108]


CCLVI.


MAE gallu mwy rhagorol
Nawr gan fy Mhrynwr drud,
Na rhoddi'r haul fel lusern
I d'wynnu uwch y byd;
Ysbeilio uffern greulon,
Dwyn arfau'r ddraig yn siwr,
A gwneyd i'm calon galed
I doddi fel y cwyr.[109]



CCLVII.


O FY enaid, paid a hepian,
Amser defiro i weithio yw,
Perygl cysgu dim yn rhagor,
Rhag in wario amser Duw;
Colli tymor ochor achub,
Sydd yn bosib yn y byd:
Mae yn bryd in wir alaru
Mod i wedi cysgu cyd.[110].



CCLVIII.


O NA bawn i yn nhrigfannau,
Hardd ororau'r nefoedd draw,

Byth i aros gyda'r Iesu,
Uwchlaw gofid, poen, a braw;
Lle mae telyn aur i'm dwylo
Gwedi nofio tonnau'r glyn,
Gyd a'r disglaer lu seraffaidd
Moli'r gŵr fu ar y bryn.


CCLIX.


O AM nerth i gredu geiriau,
Brenin nef a daear lawr,
Gan ymorffwys ar yr haeddiant
Byth ym mynwes Iesu mawr;
Bod yn dawel yn y noddfa
Gawd yng nghlwyfau'r Iesu cu,
A rydd destyn i fy ngenau
I ganu am angau Calfari.



CCLX.


Mi ddifyrra'm hamser bellach
Wrth y dalent rowd i'm rhan,
Mi farchnataf, ac mi enillaf,
Er nad wyf ond eiddil gwan;
Byth ni bydda'n segur mwyach,
Mi wna'r dalent fach yn ddwy,
Ac os nerth rydd f'Arglwydd imi,
Gwnaf hi'n ddeg, neu 'fallai fwy.



CCLXI.


PAN fyddo fy nhraed mewn ehangder,
Mi rodiaf, mi redaf yn rhydd,
Trwy gystudd fy mhechod farweiddia,
Ond f'enaid mwy hoenus a fydd;
Fy enaid a brofodd gyfyngder.
Ond f'Arglwydd a'm gwelodd yn glau,
Ei gariad a welaf yn eglur,
Ei enw 'rwyf yn ei fawrhau.


CCLXII.


Mi ga'n nhalu o flaen y frawdle
Am yr hyn roes nef i'm rhan,
Nid myfi, ei ras Ef ydyw
'Roll a feddaf, adyn gwan;
Fe biau'r dalent, fe biau'r gweithio,
Fe biau'r gallu, a'r gras yn un,
Ac mae'n talu yn y diwedd
Am ei ryfedd ras ei hun.


CCLXIII.


GAN ddued fy lliw, mae 'nghalon yn friw,
Mae Satan yn rhuo, taer geisio nid gwiw;
Er hyn mi a'n hy at orsedd Duw fry,
Caf gymorth yn gysur i'm gwneuthur yn gry'.



CCLXIV.


TYNN fi atat, Iesu Mawr,
Tyrr gadwynau'r fall yn awr;
Os gollyngi Di fy nhraed,
Canaf byth am rin Dy waed.



CCLXV.


NA ad i bechod fy ngorchfygu
Tra bwy' ar y ddaer yn byw,
Na fy rhwystro i gymdeithas
Yn fynych, fynych â fy Nuw;
Na ad ei fod yn awr marwolaeth
Megis mynydd mawr o blwm,
Pan y bwy am ddringo i fyny
I fy ngwasgu i lawr yn drwm.



CCLXVI.


CRED yn yr Arglwydd Iesu Grist,
Fy enaid trist, lluddedig;
Ac ynddo Ef, ymddiried di,
A byddi yn gadwedig.


CCLXVII.


AM wreiddyn mawr y mater,
Fel Job, y bydd fy nghri,
A'r puredd gaed yn Daniel,—
O Dduw, rho hynny i mi,—
A 'nabod yr ail-eni,
O am gael hyn yn rhodd,
A'th gwmni yn y moddion,—
Wna'm henaid with ei fodd.


CCLXVIII.


I HOLLTAU Craig yr Oesoedd
Dysg i mi, Arglwydd, ffoi,
Nes i mi gyrraedd yno,
Na ad i mi ymdroi;
Mae yno gadw bywyd,
Gorffwysfa glyd, a gwledd,
Mae yno fodd i ganu
Pan 'wy'n gwynebu'r bedd.



CCLXIX.


Er dued, er dyfned fy mhla,
Mi welaf yn haeddiant y groes,
Ryw ddigon o fodd i'm glanhau,
Er holl gamsyniadau fy oes;
Y Cyngor tragwyddol cyn byd,
Cyfamod na syflir mo'i sail,
Yw sylfaen fy nghysur i gyd,
Er beiau cyn aniled a'r dail.



CCLXX.


YMHLITH y gwahangleifion
'Rwyf finnau'n estron pell,
Yn dyfod atat, Iesu,—
Tydi yw'r Meddyg gwell;

Yn aflan fel yr ydwyf,
Rwyf atat yn neshau,
Gan gredu'n llwyr, os mynni,
Y gelli fy nghlanhau.


CCLXXI,


DUWIOLDEB ond ei meddu,
Yw'r trysor goreu erioed,—
Mae ynddi bob cyflawnder
Sydd eisieu fyth yn bod;
Hi ddaw, fel clomen Noah,
Ar ddydd y diluw dig,
A'r felus fwyn addewid
Fel deilen yn ei phig.



CCLXXII.


O FY enaid, paid a disgwyl
Am ddiddanwch yn y byd,
Nid oes iti mewn addewid,
Ond gorthrymder bron i gyd;
Cwyd dy olwg tua'r bryniau,
Lle mae pleser canmil mwy,
Yn llifeirio megis afon.
O rinweddau dwyfol glwy.



CCLXXIII.


Mr ganaf am fy ngolchi,
Mi ganaf am y gwaed,
Mi ganaf am Dy gariad
A'm cododd ar fy nhraed;
Ei law a roddodd imi.
Rhoes olew ar fy mriw,
A'r gair a dd'wedodd wrthyf,—
"Ti yn fy ngwaed bydd fyw."[111]


CCLXXIV.


DAETH hen anghrediniaeth i'm herbyn fel cawr,
A phastwn o lygredd fe'm t'rawodd i lawr;
Ces arfau da reiol, a chleddyf dan gamp,
Er ised y cwympiad. mi godais yn glamp.


CCLXXV.


ARGLWYDD Iesu, rho im feddu
Gwedd dy wyneb—digon yw,
Nefoedd f'enaid gwan yw gweled
Gwedd dy wyneb Di, fy Nuw;
Gwedd dy wyneb yw fy mywyd,
Gwedd dy wyneb yw fy hedd,
Gwedd dy wyneb ydyw'r cwbwl
Yma, a thu draw i'r bedd.



CCLXXVI.


WRTH forio rhwng y tonnau
Rwy'n ofni lawer pryd,
Mai'r dyfnder fydd fy nhrigfa
Ar ol fy ngwaith i gyd;
Er hynny, penderfynaf
I forio yn y blaen—
Os boddi wnaf, mi foddaf
Yn ymyl Salem lan.



CCLXXVII.


'RWYF yma fel y lleuad.
Yn llawn o frychau i gyd,
Cyfnewid mae fy mhrofiad
Yn fynych yn y byd;
Os byth y caf fynd adref
Trwy haeddiant Adda'r Ail.
Ni byddaf fel y lleuad,
Ond disglaer fel yr haul.


CCLXXVIII.


О AM grefydd ddeil ei phrofi
Ar fy nhaith wrth fynd ymlaen,
Ddeil ei threio yn y tywydd,
Ddeil ei phuro yn y tân,
Ddeil ei phwyso yn y glorian,
Ddeil ei mesur wrth y Gair,
Ac wedi'i selio â sêl y Brenin,
A fu gynt ar liniau Mair.


CCLXXIX.


'Rwy'n awr yn gweld yn eglur
Na thal im sefyll draw,
Na chloff rhwng daw feddwl—
Mae'r bore nawr gerllaw;
Pan fyddo'r môr yn berwi,
A'r tân yn llosgi'r byd,
Duwioldeb ydyw'r elw,
A bery'r un o hyd.



CCLXXX.


TESTYN pennaf fy myfyrdod
Fyddo'r Iesu, a'i farwol glwy',
Yna, ni wna byd a drallod
Ddifa cysur f'enaid mwy;
Aros wrth ei draed yn gyson,
Edrych arno'n talu Iawn,—
Hyn orchfyga fy ngelynion,
Ac a rydd im' heddwch llawn.



CCLXXXI.


O NA bae fy mhen yn ddyfroedd,
Fel yr wylwn nos a dydd,
Am y degau lladdedigion,
Heddyw o amgylch Seion sydd;

Yn ein noddfa, Ior, anadla,
Yma gweithia, er mwyn y gwaed,
Fel bo meirwon yn cyfodi
O'u trueni ar eu traed.


CCLXXXII.


Duw, rho im' gledd yr Ysbryd,
A channon gweddi'r ffydd,
A helm yr iechydwriaeth,
'Rwy'n credu caf fi'r dydd;
Bwledi o fan och'neidiau,
A'r powdwr goreu'i ryw,
A sicrwydd diamheuol,
A than o gariad Duw.[112]



CCLXXXIII.


UN peth sydd angenrheidiol,
Sef gwir adnabod Duw,
Y peth hwnnw sydd yn ddigon
I farw, ac i fyw;
Y rhan ddewisodd Mari,
Boed honno'n rhan i mi,—
Ac yna aed y ddaear
I'r sawl a'i caro hi.[113]



CCLXXXIV.


Y GWR fu ar Galfaria,
A welir ddydd a ddaw,
Yn eistedd ar y cwmwl,
A'r glorian yn ei law;
A phawb a gesglir ato
I'w pwyso ger ei fron,
O f'enaid, cais dduwioldeb,
A dry y glorian hon.[114]


CCLXXXV.


PECHADUR wyf a redodd
Yn gyflym tua'r tân,
Trugaredd oedd gyflymach.
A redodd o fy mlaen;
Ymleddais à thrugaredd,
Nes iddi 'nghael i lawr,
Trugaredd a orchfygodd,—
'Rwy'n foddlon iddi'n awr.


CCLXXXVI.


O ARGLWYDD, dyro grefydd—
A honno'n grefydd bur,
I farwhau fy llygredd,
A chadarnhau fy ffydd;
A gwaith y grefydd honno,
Fydd gogoneddu Duw,
A dyma'r grefydd oreu
I farw ac i fyw.



CCLXXXVII.


AR for o wydyr teithio'r wy'—
Lle garw, enbyd yw,
Lle suddodd myrdd a mwy cyn hyn,
A mi trwy ras yn fyw.



CCLXXXVIII.


YCHYDIG ffydd, lle 'rwyt ti'n trigo?
Tyred allan, gwna dy ran,—
Gobaith eiddil, tyred dithau,
Cwyd dy gledd o blaid y gwan;
Anghrediniaeth, cilia o'r frwydyr,
Ni phery'r frwydyr ddim yn hir,
Er mai eiddil a gwan wyf finnau,
Yn nerth fy Nuw, 'rwy'n ennill tir.


CCLXXXIX.


FY enaid, paid a gildio,
Er bod yr oriau'n faith,
Mae Mab y Brenin Alpha
Ers dyddiau ar ei daith;
Er maint mae Pharo'n yrru,
Mae Iesu'n cario'r blaen,
A minnau'n fyw hyd heddyw,
Rhwng niwl a cholofn dân.


CCXC.


DEFFRO f'enaid i weddio,
Paid a blino wrth orsedd gras;
Dal i guro wrth ddrws trugaredd,
Na ad i 'mynedd golli'r maes,
Rhag i'r drws fod yn gloedig,
Minnau'n wrthodedig un,
Heb ddim olew yn fy llestr
Pan ddatguddir Mab y Dyn.



CCXCI.


MAE Satan a'i blant yn edliw fy meiau,
Gan ddweyd fod fy mhechod yn ormod i'w faddeu,—
A minnau yn methu a gweled diangfa.
Nes codi fy ngolwg i fynydd Calfaria.



CCXCII.


O NA byddai cariad Iesu
Megis fflam angerddol gref,
Yn fy nghalon i'w chynhesu,
Fel y carwn innau Ef;
O na chawn i brofi nerthol
Weithrediadau'r Yspryd Glân,
Fel y gallwn yn wastadol,
Yn lle cwyno seinio can.


CCXCIII.


GWELAIS draw ymhlith yr achau,
F'enw mewn llythrennau llawn,
Fod fy nyled wedi ei thalu
Ar Galfaria un prydnawn;
Nid oes modd ei dynnu ymaith.
Nid oes bil i'm gofyn mwy,
Y mae llw fy Nhad yn ddigon.
Nes mynd yno atynt hwy.


CCXCIV.


'RWYF yma yn yr anial,
Heb roddi i fyny'n lân,
Er lleied yw fy llwythau,
'Dwy'n symud fawr ymlaen;
Er cymaint yw fy meiau,
Trugaredd Duw sydd fawr,
Rwyf eto yn y winllan
Heb gael fy nhorri i lawr.



CCXCV.


Fr enaid, paid ag ofni,
Wrth weld gelynion lu;
Duw cadarn sydd o'th ochor—
Concwerwr uffern ddu;
Mae'r llewod mewn cadwynau,
A'r dreigiau dan eu traed
Fe'th ddeil, fy enaid egwan,
Cei goncwest yn y gwaed.



CCXCVI.


Rio gymhorth i ryfela
Yn lew ar faes y gwaed,
Nes cael y gelyn ola
O'r diwedd dan fy nhraed;

Rho lygad ffydd i edrych
Yn graff i'r ochor draw;
Ac ymhob profedigaeth,
O cadw fi'n dy law.


CCXCVII.


GAD imi gael fy ngwisgo
A'th holl arfogaeth Di,
A gwregys am fy lwynau,
A goleu gyda mi;
Yn un o'r gweision ffyddlon
Yn disgwyl bryd y daw
Y Priod-Fab o'r neithior,
A bendith yn Ei law.



CCXCVIII.


O ARGLWYDD Dduw, rho dduwiol nerth,
I'm henaid gwan.—mae'r rhiw yn serth;
Gael imi ddod i'm cartref clyd,
O gyrraedd 'stormydd blin y byd.

O, 'nawr, na byddai tan fy mron
Rhyw deimlad cryf o gariad llon,
At Iesu Grist, y Meddyg rhad,
Am roddi imi wir iachad.[115]



CCXCIX.


WEL, bellach, f'enaid gwan, distawa dan y groes,
A gwêl yn angau Calfari oleuni dan bob loes;
Cei drysor yn y nêf, gwna'th gartref gyda Duw,
Cei fwy na'r ddaear is y nen, a'r nefoedd wen i fyw.


CCC.


O GEIDWAD pechaduriaid,
Rho imi olwg llawn,
Ar fy nhruenus gyflwr,
Ac hefyd ar yr Iawn;
Rho imi edifeirwch,
Rho im' faddeuant rhad,
Fel gallwyf ar ol hynny
Byth ganu am y gwaed.


CCCI.


RHO grefydd im' a ddalia dân,
O blaniad pur yr Ysbryd Glân,
A'i haddurniadau hi bob darn,
A ddalia eu chwilio ddydd y farn.



CCCII.


Mr benderfynaf fynd yn gloff
I mewn i deyrnas nef;
Gwell gennyf golli cwmni f'oes
Na cholli ei gwmni Ef.



CCCIII.


PAN yn elyn Duw fe'm gwelwyd
Yn cyflymu tua'r tân,
Ac yn gwrthod gwaharddiadau
Tirion grasol 'r Ysbryd Glân;
Ond, o'r diwedd. fe'm gorchfygodd,
Diolch iddo am ei waith!
Bydded imi yn arweinydd
Diddan cywir ar fy nhaith.



CCCIV.


TRUGAREDD na fuaswn yn uffern fel Cain,
Trugaredd na chauodd y nefoedd o'm blaen;
Trugaredd yn unig a'm cadwodd yn fyw,
Ac am ei drugaredd, rhof foliant i Dduw.


CCCV.


Pwy wyr na welir finnau
Yn diolch am y gwaed,
Ar dir Caersalem Newydd.
A'r Graig o dan fy nhraed?
Pwy wyr na welir finnau,
A'r goron ar fy mhen,
Yn canu'n uwch na Gabriel
I'r Gŵr fu ar y pren?


CCCVI.


O ARGLWYDD grasol, trugarha,
Wrth f'enaid clwyfus trist, a chla;
A gad i'm hysbryd dy fwynhau.
Yn Iawn ac Aberth Iesu clau.[116]



CCCVII.


CLYWAIS Iesu, son am danat,
Cyn i'm gychwyn o fy ngwlad,
Dy fod yn gwella pechaduriaid,
Ac yn gwneuthur hynny'n rhad;
Dyma'm cododd oddicartref
I gael gweld dy wyneb pryd,
'Rwyt ti'n well i bechaduriaid
Na meddygon penna'r byd.



CCCVIII.


Mi redais tua'r fflamau,
'Doedd neb o'r bron ymlaen,
Rhyfeddu'r gras 'rwyf heddyw,
Na buaswn yn y tan;
Trugaredd rad yn unig,
Sydd wedi 'nghadw'n fyw,
Mae arnaf ddirfawr rwymau
I ganmol gras fy Nuw.


CCCIX.


MAE pechod yn fy nilyn,
Yn elyn drwg ei ryw.
Mae'n taro'n groes i'm cysur,—
Mae'n groes i natur Duw;
Er cymaint yw ei orchest
I'm cael i lawr dan draed,
Mi waedda' ngrym yr ernes,
Fod concwest yn y gwaed.[117]


CCCX.


FE welwyd Saul o Tarsus—
Yn hen erlidiwr cas,
Fe'i gwelwyd wedi hynny
'N pregethu Crist a'i ràs;
Pwy wyr na welir finnau,
Er dued yw fy lliw,
Ryw ddiwrnod, wedi'm golchi,
Yn canmol gras fy Nuw?



CCCXI.


Ti achubaist y rhai gwaethaf—
Annheilyngaf a fu'n bod,
Achub yma, achub eto,
Achub finnau er dy glod;
Ti gei'r mawl pan danio'r ddaear,
A phan syrthio ser y nen.
Ti gei'r enw yn dragwyddol,
Ti gei'r goron ar dy ben.



CCCXII.


GOLWG newydd ar ei glwyfau.
Golwg newydd ar ei waed,
Golwg ar ei berffaith haeddiant,
Golwg ar ei Ganan wlad;


JOHN DAVIES NERQUIS.(O'r Oriel Gymreig).

Golwg ar fy hun a'm llymder,
Golwg ar ei lawnder E',
Golwg arno'n talu nyled—
Golwg oreu is y nê!


CCCXIII.


BETH dal byw mewn gwlad Efengyl?
Beth dal crefydd oddi maes?
Nid yw moesau ddim yn ddigon,
Heb gael cadwedigol râs;
Gellir cyrraedd doninu helaeth,
Dysgu'r 'Sgrythyr Lân bob darn,
A bod yn ol yng ngwyneb Iesu,
Yn casglu parddu ddydd y farn.



CCCXIV.


'RWYF wedi newid meister,
Ces feister gwell yn awr,
Ces ernes wrth gyflogi
Fwy'i gwerth na'r ddaear lawr;
Ysbeilio roedd 'rhen feister,
Ond rhoi mae Hwn o hyd,
Os byddai'n ffyddlawn iddo,
Caf gyflog da ryw bryd.



CCCXV.


MAENT yn dywedyd hyd y fro,
Mai meddw wyf, neu o fy ngho;
'Dwy'n ameu dim nad medd'dod yw,
Ar felus win o seler Duw.



CCCXVI.


HEN arweinydd pererinion,
Clyw ddeisyfiad plentyn gwan,
Sydd yn llwfr, yn llawn amheuon,
Eto'n ceisio dod i'r lan;

Tra bwy'n teithio'r byd helbulus,
Arglwydd, arwain fi'n dy law,
Nes im ddod yn orfoleddus
Atat i'r baradwys draw.


CCCXVII.


Y MAE'R Iesu imi'n ddigon.
Yn y dŵr ac yn y tân,
Ac a bery imi'n ddigon
Ar y ffordd wrth fynd ymlaen;
Digon yw yn afon angau,
Digon yn y farn a ddaw,
Ac a bery imi'n ddigon
Yn y byd sy 'rochor draw.



CCCXVIII.


SANCTEIDDIA 'nghof, O Arglwydd,
I ddal dy bethau mawr,
Sydd ganmil mwy dymunol
Na phethau oreu'r llawr:
Mae pethau'r byd yn darfod,
Hwy ant i gyd ar dân;
Rho afael ar y Person
Sydd yn yr Iesu glân.



CCCXIX.


AF ar ol yr apostolion
Aeth yn ffyddlawn o fy mlaen,
Y rhai gladdwyd yn y dyfroedd
Fel gorchmynnodd Iesu glân;
Rhai yn Ainon, gerllaw Salem,
Rhai yn yr Iorddonen fawr;
O am ffydd i 'nabod Iesu,—
Brenin nef a daear lawr.[118]


CCCXX.


Tu draw i'r llen, wrth chwilio'r llyfrau,
Pwy wyr na cheir fy enw innau,
Ar ddwyfron hardd yr Archoffeiriad
A gondemniwyd gynt gan Pilat.


CCCXXI.


TEITHIO'R ydwyf tuag adref,
Trwy anialwch maith y byd,
Suddo weithiau 'nghors anobaith,
Methu gweld y Ganan glyd;
O am ddringo i ben Nebo,
Er cael golwg ar y wlad,
Nod fy enaid yno fyddai
Euraidd furiau Ty fy Nhad.

O am glywed yn yr awel,
Swn telynau seintiau fyrdd,
A mawl-odlau pererinion
Sydd yn cario'r palmwydd gwyrdd;
Mae fy enaid yn hiraethu
Am gael uno gyda hwy,
I gyd-byncio'r beraidd anthen——
Na bydd diwedd arni mwy.[119]



CCCXXII.


YNG ngolwg dyn 'rwy'n aflan,
O'r gwadan hyd y pen,
Yng ngolwg Duw rwy'n gyfiawn,—
Pur yw fy mantell wen;
Cyfiawnder y Messia,
A haeddiant Adda'r Ail,
'Does ellyll yng ngwlad annwn
All gloddio dan ei sail.[120]


CCCXXIII.


Os gwelir fi mewn goleu barn,
Bechadur aflan, noeth,
Rhyfeddu wnaf tra byddaf byw
Fod gennyf Dduw mor ddoeth;
Cydganu'r anthem fydd fy ngwaith,
I oesoedd maith diri,
Bydd swn y delyn fawr yn dal
Am angau Calfari.


CCCXXIV.


ER im gael enw o Gristion
Gan ddynion is y nen,
Rhy fach fydd hynny o grefydd
Ryw ddydd i ddal fy mhen;
Rhaid cael y dduwiol anian,
A rhan ym maban Mair,
Cyn gwelir chwi na minnau
Yn canu'r delyn aur.



CCCXXV.


O ARGLWYDD Dduw y duwiau,
Gwna faddeu'n beiau i gyd,
Pechadur wyf o'r gwaetha',
Sut bynnag daeth i'r byd;
O Dduw, rho ysbryd gweddi,
I waeddi "Abba Dad,"
A maddeu'm holl gamweddau
Trwy faith rinweddau'r gwaed.[121]


CCCXXVI.


Fy enaid, dos at Dduw,
Sef gwrthrych mawr dy gred,
Trwy gystudd o bob rhyw,
A phob temtasiwn rhed;
Cei ynddo Ef gysuron gwir,
Fwy nac ar foroedd nac ar dir.


CCCXXVII.


ANWYL Iesu, rho d'adnabod,
I bechadur isel iawn,
Sydd yn gruddfan yn y tonnau
O foreuddydd hyd brydnawn;
D'adnabod Di a gwyd fy meddwl
Yn y tonnau mawr i gyd,
D'adnabod Di yw'r unig drysor
Ga'i feddiannu yn y byd.

Mewn tywyllwch 'rwyf yn aros,
Ac anialwch mwya' erioed,
Mewn tywyllwch byddaf eto
Nes cael pob gelyn dan fy nhroed;
Dyma 'nghysur yn yr anial,
Yn y byd sy'n llawn o wae,
Y caf goncro fy 'ngelynion,
A gweled Iesu fel y mae.

O na chawn i fod yn barod,
I fynd i'r tragwyddolfyd maith,
O na chawn i'r anian nefol,
O na chawn i ddysgu'r iaith;
Canmol Iesu a'i glodfori,
Ydyw gwaith y dorf i gyd,
Cofio'i angeu ar Galfaria,
Yn diodde' dros bechodau'r byd.


Mae arnaf hiraeth yn fy nghalon
Am gael gweld fy Mhrynwr byw,
'R Hwn fu'n gorwedd yn y preseb,
Mae'n wir ddyn, ac yn wir Dduw,
'R Hwn fu'n dioddef rhwng y lladron.
I fy mhrynnu trwy fawr boen,
Minnau ganaf "Haleliwia,
Gogoniant byth, i Dduw a'r Oen."

Yn dy law, O cymer fi, Arglwydd,
Yn dy law y dof i'r lan,
Yn dy law dymunwn aros,
Am nad ydwyf fi ond gwan;
Wrth dy draed mewn edifeirwch.
Nes y treuliwy' nyddiau i ben,
A chael adnabod yn fwy ffyddiog
'R Hwn fu farw ar y pren.

Cadw fi, O Geidwad, cadw,
Cadw fi heddyw yn dy law,
Nes dof allan o'r anialwch,
A'r tywyllwch maes o law;
I floeddio canu "Haleluwia '
I'r Gŵr fu'n diodde ar y groes,
Mi ddymunwn ar y ddaear,
Ei foliannu ddydd a nos.

Rho dy Yspryd imi, Arglwydd,
I fy arwain ar fy nhaith,
Yspryd fyddaf innau'n fuan
Yn y tragwyddolfyd maith;
Yn y gwaeau yn dragywyddol,
Os heb Iesu Grist yn frawd.
Iesu anwyl, rho d'adnabod,
Er gwaetha Satan, byd, a'r cnawd.


Arglwydd, tywallt ar fy yspryd,
O fendithion nef i lawr;
Dwg fi i feddwl bob munudyn
Am y tragwyddolfyd mawr;
Mae yno Briod anwyl imi,
Ac y mae E'n uchel iawn,
Iesu hawddgar yw ei enw,
Mae yno'n eiriol droswy'n llawn.[122]


CCCXXVIII.


GOFYNNODD anghrediniaeth,—
Paham yr wyt mor hy'?
Fy ateb parod ydyw,—
Fy mrawd yw Gŵr y tŷ;
Ce's ganddo enw newydd,
Na choila'i mo'no'n wir,
Tragwyddol ddiolch iddo,—
Af ato cyn bo hir.



CCCXXIX.


AR fynydd Seion, O! na bawn,
Mi ganwn yno glod yn iawn,
Mi ganaf beth yn 'fan lle 'rwy',
Pan elwy'r nef mi ganaf fwy.

WRTH orsedd gras gweddio wnaf,
Ac os na chaf fy ngwrando,—
'Rwyf fi'n ddiau y cyntaf oll
A gyfrgollir ynddo.

RHYFEDDU, a rhyfeddu,
Rhyfeddu 'rwyf o hyd,—
Rhyfeddu, a rhyfeddu,—
A wnaf tra bwy'n y byd;


Rhyfeddu pob rhyfeddod
Os gwelir f'enaid gwan,
Yn canu ar fynydd Seion.
'Nol stormydd yn y man.[123]


CCCXXX.


DYCHWEL, Arglwydd, i'th orffwysfa,
Pam y cuddi'th wyneb pryd?
Pa hyfrydwch fydd i'r rheiny
Sy'n dy garu yn y byd?
Colli'th gariad yw pob colled,
Colli'th heddwch yw pob gwae;
Fyth ni alla'i heb dy gwmni,
Ond och'neidio a llwfrhau.

O er mwyn y gwaed a gollwyd,—
Dŵr a gwaed o'i ystlys Ef,
Tynn bob cwmwl dudew, tywyll,
Ar sydd rhyngwy'n awr a'r nef;
Gad im' brofi ffrwyth ei glwyfau,
Gad im' brofi o rin ei waed,
Gad im' weled gwedd dy wyneb,—
O fy Mhrynwr, a fy Nhad.

Fel bo'm dyddiau oll yn ganu,
Nid yn alar, fel mae'n awr;
Cariad fo'n concwerio'm henaid,
Ac yn boddi swn y llawr;
Ar d'adenydd gad im' hedeg,
Trwy bob rhwystrau maith ymlaen,
Credu, caru. gorfoleddu,
Nes im' ddod i Salem lân.


Nodiadau

[golygu]
  1. Owen Prisiart, y Waen Fawr, gerllaw Caernarfon.
  2. Adroddwyd gan Mrs. Ellis Evans, Porthmadog. Clywodd ei ledio yn Nantglyn pan yn ieuanc.
  3. Parch. John Hughes, Pont Robert.
  4. Beggi Llwyd, Dolwyddelen. Cafwyd gan ei mab, Mr. Wm. Lloyd Jones, Nanmor (gynt o Flaenau Ffestiniog).
  5. Daniel Jones, Gwrecasm.
  6. Hoff bennill Mr. John Wheldon, Llwyn y Celyn. Llanberis.
  7. Pennill o'i waith ei hun a roddodd Hywel Gruffydd, Beddgelert, ar ddechreu seiat tua 1829.
  8. Wrth draddodi darlith ar Henry Rees yng nghapel y Garth, Porthmadog, nos Fawrth, Awst 25ain. 1885, dywedodd Dr. Owen Thomas ei fod yn cofio ymweliad cyntaf Mr. Rees a Chaergybi yn 1822 pan nad oedd ef ond deg oed. Dyma'r pennill a roddodd allan ar y pryd, ac ni chlywodd ef gan neb byth wedyn.
  9. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig, Arfon.
  10. Adroddwyd hwn gan Sion Risiart, Pen y Bryn, ar ddiwedd seiat yn y Gwynfryn, ar nos Sul, cyn iddo ef a'i deulu ymadael i'r Amerig, ac yr oedd pawb o dan deimladau dwys.
  11. Gwaith hen wraig o'r enw Cadi Lloyd ydyw hwn. Dangosodd ef i daid Wm. Lewis, Tymawr, Llanbedr. Rhoddodd yntau ef allan mewn cyfarfod gweddi, ac yr oedd Cadi Lloyd yno yn orlawn o lawenydd wrth iddynt ei ganu.
  12. Wrth ddyblu a threblu canu hwn mewn cwrdd gweddi dechreuodd Diwygiad mawr yn y Bont Uchel, sir Ddinbych, unwaith.
  13. Cyfansoddwyd hwn gan Roger Edwards, y Wyddgrug, tra ar ei daith oddiyno i'r Gwynfryn, Meirion.
  14. Hoff bennill y Parch. John Davies, Nerquis.
  15. Beggi Llwyd, Dolwyddelen.
  16. Hywel Gruffydd, Beddgelert, adeg Rhyfeloedd Boni yn 1803-4.
  17. Alltud Glyn Maelor.
  18. Azariah Shadrach, Aberystwyth.
  19. Clywyd gan Mr. John Hughes, blaenor yn y Brithdir. Llanfyllin. Bu canu mawr arno yn Niwygiad '39 a '40.
  20. A roed allan ar ddiwedd pregeth gan Daniel Williams, Tregynon.
  21. Rhoddai yr hen bregethwr tanllyd, Moses Jones Lleyn, hwn allan yn aml ar ddechreu ei odfaeon. Byddai y sylw ar y ddau Foses yn taro'n dda bob amser, a byddai yn sicr o gael hwyl.
  22. A lediwyd gan Daniel Evans, Capel Drindod, wedi pregethu ar 2 Corinthiaid ii. 4.
  23. Pennill o'i waith ei hun, a lediodd Hywel Gruffydd,ar ddechreu seiat yng nghapel Beddgelert, yn 1826.
  24. Y Parch. James Hughes (Iago Trichrug), Llundain.
  25. Azariah Shadrach.
  26. Alltud Glyn Maelor.
  27. Alltud Glyn Maelor.
  28. Rywbryd yn y rhan gyntaf o'r ganrif o'r blaen, dychwelai mintai o hen chwiorydd, o dueddau Eifionnydd, o Sasiwn Pwllheli, dan gydganu hymnau hyd y ffordd. Mewn un lle, fe'u lluchiwyd hwy â cherrig, pryd y dywedodd un o honynt y pennill hwn.
  29. Cadwaladr Owen. Dolwyddelen.
  30. Tua 1846, cafodd John Jones Talysarn arddeliad grymus ym Meddgelert, wrth bregethu ar "Ddioddefaint Crist." Wrth ei wrando lluniodd yr hen Gristion Hywel Gruffydd y pennill hwn, ac aeth i dŷ'r capel i'w adrodd wrth "Bregethwr Mawr y Bobl." Y flwyddyn ddilynol, yn ystod ei deithiau yn y Deheudir, clywodd John Jones, Bryn'rodyn, ei gydymaith, ef yn ei adrodd yn aml gyda theimladau dwys. Cefais innau ef gan yr hen weinidog hybarch "Sion Fryn'r Odyn."
  31. Azariah Shadrach.
  32. John Edwards, Glyn Ceiriog. Bu canu mawr ar y pennill hwn—ar fesur neillduol, yn amser "Diwygiad Beddgelert."
  33. Daniel Jones, Gwrecsam.
  34. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen.
  35. Daniel Jones, Gwreesam.
  36. Daniel Jones, Gwreesam.
  37. Priodola amryw hen wladwyr awduriaeth hon i'r hen gerddor Dafydd Sion James, o Benrhyndeudraeth. Nid yw hyn yn wir. Yn amser y "Diwygiad Dirwestol," trodd Dafydd Sion James y gair "Satan" yn Fedd'dod," a chaed llawer o hwyl wrth ei ganu felly. Treblid y darn olaf fel "ton gron." Ceir ef gyntaf yn "Llyfr Hymnnu," &c., a gyhoeddwyd gan John James, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberystwyth. Argraffwyd ef yn 1811.
  38. Alltud Glyn Maelor.
  39. Dyma hoff bennill hen weithiwr duwiol Flaenau Ffestiniog. Lediodd ef, fel arfer, mewn un cyfarfod gweddi, a thrannoeth cyfarfyddodd a'i ddiwedd yn y chwarel, ac aeth at ei bethau. Alltud Glyn Maelor yw'r awdwr.
  40. Cafwyd gan Mr. Evan Jones, Tre Ddafydd. Pen y Groes, Arfon.
  41. Wedi i'r Parch. Wm. Roberts Amlwch orfen traddodi ei bregeth goffadwriaethol am y Parch. John Elias, yn Sasiwn y Bala, 1841, rhoddodd y Parch. Humphrey Gwalchmai bapuryn yn ei law ac arno y pennill hwn. Lediodd William Roberts ef wedyn, a bu canu toddeidiol arno. Dywedai John Elias ychydig cyn ei farw—"Rwyf yn gobeithio y byddaf yng ngwely cystudd ar ddydd Cymanfa y Bala, canys dymunwn fod y diwrnod hwnnw, naill ai yn y Bala, neu yn y nefoedd." Rhoed ef i huno y dydd blaenorol.
  42. Alltud Glyn Maelor.
  43. Y Parch, John Jones Talysarn.
  44. Alltud Glyn Maelor.
  45. Byddai hen gymeriad doniol o Lanbedr, Ardudwy, yn ledio hwn heb ganiatad ar ganol yr Ysgol Sul. Byddai raid i'r arolygwr edrych fod ganddo bennill arall yn barod, neu hwn roddai allan bob amser.
  46. Ledini Thomas Thomas neu "Twm yr Hwntw" hwn yn aml. Bedyddiwr oedd, ac yn Galfin o ran ei olygiadau. Gwrandawai bob pregeth ar ei draed, a byddai ei "Amennu" yn diaspedain drwy'r capel.
  47. Unwaith, pan oedd Williams Pant y Celyn yn Aberdar, rhoddodd emyn allan fel arferol ar ol ei bregeth. Nis gellid cael ton arni i'w chanu, a chyfansoddodd yr uchod yn fyrfyfyr, a chanwyd hi gyda hwyl.
  48. Rhoddwyd ef allan yng nghapel Bont Fechan ("Engedi," Llanystumdwy, ar hyn o bryd), gan Mr. John Griffith, Chwilog Fawr.
  49. Evan Hughes, Talysarn.
  50. Rhoddwyd hwn yng nghapel Uchaf Clynog yn '59, mewn cyfarfod gweddi, gan yr hen Sion Jones, Tyddyn Du.
  51. Cafwyd gan hen wr o Glynog.
  52. Cafwyd gan Mrs. Ann Griffith, Treddafydd, Pen y Groes, hen wraig oedrannus iawn.
  53. Thomas Williams, gynt o Dy Capel Jerusalem, Llanberis.
  54. Morgan Rhys, Capel Isaac, sir Gaerfyrddin.
  55. David Williams, Llandeilo Fach. Dyma oratorio. Diwygiad Mawr Beddgelert." Dywed rhai mai Morgan Rhys a'i piau.
  56. A roed allan ar ddiwedd pregeth oddiar Eseciel xxxvi. 25—29, gan Wm. Morris, Cilgeran
  57. A roed allan gan John Philips. Bangor, ym Meddgelert.
  58. A roed allan gan John Jones Talysarn ar ol pregeth fendigedig ar "A Haul Cyfiawnder a gyfyd i chwi," ym Meddgelert.
  59. A lediwyd yn hen gapel Dolwyddelen, gan D. Charles Caerfyrddin, wedi pregethu yn rymus ar "Lin yn mygu ni's diffydd."
  60. Efan Dafydd, o sir Aberteif, yng Nghymanfa Llangeitho.
  61. Canai J. R. Jones o Ramoth y pennill hwn yn aml pan yn bedyddio ei ddeiliaid yn afon y Parc, Llanfrothen.
  62. Y Parch. William Roberts, Amlwch. Cafwyd gan Mr. Hugh Lewis, Bron y Fuches, Dinorwig, Arfon.
  63. Adroddwyd gan Mr. Morris Thomas, Swan, Clynog.
  64. Griffith Jones, Clwt y Bont, Arfon, mab i Dafydd Sion, Garreg Wen, Llanberis, awdwr "Mae Seion wan yn gruddfan dan y groes."
  65. Dafydd Evans, Morfa, Aber Aeron. Hoff emyn Dr. O. Thomas.
  66. Azariah Shadrach.
  67. Hoff bennill John Elias ar ddiwedd pregeth.
  68. Ellinor Roberts, Llain Wen Uchaf, Llanberis, luniodd y pum pennill.
  69. Alltud Glyn Maelor.
  70. Adroddwyd gan Mr. Edward Williams, "y Bugail," Garn Dolbenmaen.
  71. John Davies. Bryn Dauionyn, Eglwys Bach.
  72. Hywel Gruffydd, Beddgelert.
  73. Gwaith hen wr 85ain mlwydd oed o'r enw John Parri, o Biwmaris, ar ol bod yn orweddiog am lawer o fisoedd yn 1803.
  74. John Davies. Bryn Dauionyn, Eglwys Bach
  75. Cafwyd gan Mr. Owen Jones, y Fachwen, Dinorwig, Arfon.
  76. Alltud Glyn Maelor yw awdwr clxxi.—clxxv.
  77. Daniel Jones, Gwrecsam.
  78. Ei awdwr oedd John Roberts, Lleiniau Hirion, Llannalhaiarn, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen. Lluniodd ef ar hen camfa ger y capel ar awr canol dydd, tra'r plant yn chwareu o'i amgylch. Yr oedd newydd fod yn gwrando ar John Elias yn pregethu yn nerthol ar "Berson Crist." ym Mhwllheli. Aeth i fermdy Gwnus i adrodd y pennill newydd wrth yr hen wraig, ac aeth y ddau i orfoleddu wrth ganmol y Mab. Honno a'i cofiodd.
  79. Hoff bennill Hannah Ifan, y Tylyrni. Nanmor, Beddgelert.
  80. Sion Rhisiart, Pen y Garth, Llanbedr, neu "Sion Ebrill."
  81. Gwen, merch y Parch. John Jones Talysarn, biau y tri. Adroddwyd gan Mrs. Owen, Bryn y Coed, Talysarn.
  82. Cafwyd y ddau uchod gan Ioan Eifion, Talysarn
  83. Rhoddwyd hwn allan mewn cyfarfod gweddi o flaen pregeth y Parch. Richard Owen, y Diwygiwr. gan John Hughes (teiliwr). Ty Newydd, Aberdaron. Pregethai yn Tan y Foel. Rhiw.
  84. Hywel Gruffydd, Beddgelert.
  85. J. R. Jones o Ramoth.
  86. Clywyd gan hen wr o'r Gaerwen, Mon.
  87. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig, Arfon.
  88. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig, Arfon.
  89. James Hughes (Iago Trichrug)
  90. Cafwyd gan Mr. James Lewis, Talysarn.
  91. Clywyd gan Hugh Jones, Bron Rerw, blaenor yng Nghapel Uchaf Clynog.
  92. Azariah Shadrach.
  93. Pennill a roddodd Thomas Richard. Abergwaun, ar ol pregeth ar y geiriau, "Myfi yw bara y bywyd."
  94. Clywyd gan hen flnaenor o'r enw Elias Pritchard. Cae'r Ferch, Eifionnydd.
  95. Clywyd mewn wylnos gan hen flanenor gyda'r Anibynwyr o'r enw Robert Evans, Ffactri, Llanaelhaearn.
  96. Owen Prisiart, Waen Fawr.
  97. Daeth fel hyn o Fon a Dinas Mawddwy.
  98. Daniel Jones, mab Mr. Owen Jones, y Fachwen, Dinorwig, pan yn bymtheg oed.
  99. John Jones, Gwynfryn.
  100. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen.
  101. Alltud Glyn Maelor.
  102. Alltud Glyn Maelor.
  103. Alltud Glyn Maelor.
  104. Alltud Glyn Maelor.
  105. Clywyd gan y Parch. David Evans, y Bermo.
  106. Siarl Marc, yr hen bregethwr dall o Leyn.
  107. Hoff bennill y Parch. Thomas John. Cilgeran.
  108. Hoff bennill Modryb Nansi Morus, Nanmor.
  109. Hoff bennill Rhisiart Roberts, Cae'r Gors, Beddgelert.
  110. Clywyd y Parch. — James, Rhos y Meirch, Mon
  111. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen.
  112. Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach.
  113. Clywyd gan Mr. Hugh Lewis, Llanberis.
  114. Adroddwyd gan Mr. Griffith Thomas, Bryngro, Cwm y Glo, Arfon.
  115. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig.
  116. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig.
  117. Azariah Shadrach
  118. Clywyd yn fynych gan J. R. Jones o Ramoth.
  119. John Davies, Bryn Dauionyn, Eglwys Bach.
  120. Unwaith yr oedd yr hen bregethwr Dafydd Morris yn lletya yn nhy capel y Waenfawr, ger Caernarfon, yr hwn a gedwid gan chwaer Dafydd Ddu Eryri, ac a elwid gan bawb Meri y Waenfawr. Yr oedd Meri yn hynod am ddysgu a chofio pregethau, adnodau, a phenhillion. Ganol nos clywodd Dafydd Morus yn ledio pennill gyda llais cryf. Neidiodd o'i gwely i wrando. Bore drannoeth adgofiodd ef am y ffaith. "Fedri di o?" meddai yntau. "Medra bob gair," meddai Meri. A dyna fo.
  121. Azariah Shadrach.
  122. Ellinor Roberts, Llain Wen Uchaf, Llanberis, luniodd yr wyth pennill uchod. Hunodd yn yr Iesu ar yr ail o Fawrth, 1879, yn 64 mlwydd oed.
  123. Adroddwyd y pedwar pennill uchod gan Mrs. Owen. Bryn y Coed, Talysarn. Hoff ddeisyfadau Diwygiad '50.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.