Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant)/Hanes Bywyd Dic Aberdaron
| ← Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant) | Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant) golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Wynebddalen Hanes Bywyd Twm o'r Nant → |
COFIANT, &c.
Dringodd o ddyfnder angen—yn delaid,
A'i dalent ddisgywen;
Daliodd, derbyniodd i'w ben
Dwysg leithoedd uwch dysg Athen.—GWYNDAF ERYRI.
NID dim llesiant neillduol a weinyddodd RICHARD ROBERT
JONES i gymdeithas sydd wedi galw am gofiant iddo, ond ei
hynodrwydd yr hyn sydd wedi gwneyd ei enw yn dra hysbys. Darfu i natur ei gynnysgaethu âg amrywiol o bethau gwahanol i ddynion ereill: megys, pen hynod, gwyneb hynod,
llygaid hynod, a llais hynod. Gwnai yntau ei hun yn fwy
hynod fyth, drwy adael ei farf yn hirllaes, ac arfer bob amser
fwng tew o wallt ar ei ben, yr hwn a ddisgynai ar ei ysgwyddau a'i wàr grymedig. Hefyd, ymwisgai yn wastadol â
rhyw wisgiad hynod—yr oedd ei ddull o fyw yn hynod—ei
arferion yn hynod—ac nid anhynod fyddai ei atebion yn gyffredin ond yr hynodrwydd mwyaf ag oedd yn perthyn iddo.
oedd, hoffder a medrusrwydd anarferol at ddysgu gwahanol
ieithoedd.
RICHARD ROBERT JONES a anwyd yn mis Gorphenhaf, yn y flwyddyn 1780, mewn tŷ bychan o'r enw Carn Eos, o fewn milldir i Aberdaron; pentref bychan ar lân y môr, yn nghwr eithaf gorllewinol Llëyn, swydd Gaernarfon. Ystyrir y cŵr hwn o Lëyn yn mhellach yn ol mewn gwareidd-der a dysg nag un parth o'r swydd—"Gwirioniaid Aberdaron" sydd ddiareb arferedig yn Nghymru. A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? neu, yn hytrach, a ddichon dim dysgeidiaeth ddyfod o Aberdaron sydd ymholiad, pan y dywedir fod Dic Aberdaron yn feistr ar luaws o ieithoedd. Buasai yn haws perswadio gwerinos ein gwlad fod enwogrwydd yn perthyn i Richard, pe cawsem ganddynt annghofio mai yn Aberdaron y ganwyd ef—ond gwaith anhawdd fyddai hyny, canys mor fynych ag yr enwir ef ganddynt yn Dic, nodir lle ei enedigaeth fel cyfenw iddo, Dic Aberdaron. Enw ei dad ydoedd Robert Jones, ond a elwid yn fwy cyffredin gan ei gymydogion yn Robert Siôn Edward; tyddynwr bychan, ond saer coed o gelfyddyd, ac arferai weithiau a'r gorchwyl o bysgota; ac ambell dro cymerai fordaith cyn belled a Lerpwl. O'i wraig, Margaret Richards, y bu iddo dri o feibion, John, William a Richard, ac un ferch, Jane; a gwrthddrych y cofiant hwn ydoedd eu trydydd mab: dodwyd ei enw cyntaf, Richard, yn ol enw morwynol ei fam, a'i gyfenw, Roberts, yn ol enw cyntaf ei dad; ac wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef y rhan gyntaf o'i oes; ond y mae yn awr er's llawer blwyddyn wedi cymeryd cyfenw ei dad at y ddau uchod, ac yn galw ei hun yn Richard Robert Jones.
Dywedir fod yr hen ŵr yn saer tra chywrain, ac yn gymeradwy yn ei ardal; dysgodd y ddau fab, John a William, y gelfyddyd o saerniaeth gyda'u tad, ac arferent ei gynorthwyo i drin y tyddyn, a physgota.
Yr oedd John â rhyw duedd prydyddu ynddo, gwnai rigwm duchanaidd, 'nawr ac eilwaith, i'r cyfryw a'i hanfoddlonai, a chlywais iddo gyhoeddi rhyw lyfryn o Emynau cyn diwedd ei oes; a dywedir fod gan hwn fab, ag sydd yn meddu parth o ddawn a thuedd Richard at ieithoedd.
Bwriadodd tad Richard ei ddwyn yntau i fynu yn yr un gelfyddyd, gan feddwl y buasai o gynorthwy iddo fel ei frodyr, ond yn hyn fe'i siomwyd, nid oedd yn bosibl cael ganddo gymeryd hoffder mewn un math o waith, canys rywfodd neu gilydd aeth holl feddylfryd ei galon ar ddysgu ieithoedd, at yr hyn yr oedd ganddo ddawn dra neillduol. Pa un a oedd y ddawn yma yn feddiannol ganddo ef yn naturiol rhagor ereill, ynte dim ond effaith damwain a dewisiad, ni chymerwn arnom benderfynu yn bresenol; ond, modd bynag, hyn sydd amlwg, er ei fod wedi dangos y fath alluoedd yn hyn, ag a fuasai mewn amgylchiadau mwy ffafriol, yn ei alluogi i sefyll tir gyda Buxtorf neu Lipsius enwog, eto, gyda phob peth arall braidd, dangosai ymddifadrwydd o alluoedd cyffredin—ni feddai y callineb hyny i arferyd y ddysgeidiaeth a gyrhaeddai i unrhyw ddyben llesol, fel dyn arall, nac hyd yn nod i ofalu yn briodol am ei angenrheidiau.
Clywais ei chwaer yn dyweyd, ei fod yn medru darllen Cymraeg pan oedd yn chwech oed, a bu am flynyddoedd yn difyru llawer mewn llyfrau Cymreig, yn neillduol 'y Bardd Cwsg,' gan Ellis Wynne. Pan oedd o 10 i 12 mlwydd oed, dechreuodd ddysgu yr iaith Seisonig, drwy gynorthwy ei frawd William; ond tybiai ddysgu yr iaith hon yn orchwyl tra anhawdd, a hyny (fel y sylwodd yn ddiweddarach) am fod yr orgraff a'r seiniaeth mor gyfnewidiol; mewn gwirionedd, ni ddarfu iddo gynnyddu cymaint yn yr iaith Seisonig ag mewn ieithoedd ereill ag y rhoddodd fwy o'i sylw iddynt. Tua 15eg mlwydd oed, dechreuodd ddysgu Lladin, drwy gynorthwy bachgen ag oedd yn ysgol plwyf Aberdaron, o'r enw John Evans. Er na chafodd efe erioed gyfleusdra i fyned i'r ysgol yn rheolaidd, fei plant ereill, eto, dyfeisiai ryw ffordd yn fynych i fyned iddi, ar ol i'r lleill fyned allan, a thrwy ddefnyddio eu llyfrau hwy felly, (fel y sylwodd un ag oedd yn ei adnabod ar y pryd) dysgodd fwy mewn mis nag a fedrai yr un bachgen arall mewn chwech; ac yn nghylch yr un pryd efe a ddysgodd ysgrifenu hefyd, nid mewn dull celfydd mae'n wir, eto yn hynod o eglur, ysgrifenai bob iaith a fedrai gyda chryn hylawwch.
William ei frawd ydoedd yr unig un o'r teulu a gafodd ysgol reolaidd, ac yr ydym yn deall iddo gyrhaedd dysg gyffredin yn lled rwydd; a bu yn ychydig o gynorthwy i Richard, yn ei ymchwiliadau cyntaf. Ond, bu farw y brawd hwn yn lled. ieuanc; yr oedd yn proffesu gyda y Bedyddwyr, ac â gair da iddo gan bawb fel dyn diniwed, a nodedig o dduwiol. Yr oedd colled gwrthddrych ein cofiant yn fawr ar ol hwn.
Pan yr oedd Richard oddeutu pedair-ar-bymtheg oed, efe a brynodd Ramadeg Groeg, gan ryw brydydd Cymreig o'r enw Evan Prichard (Ieuau Llëyn); a thrwy ei ddiwydrwydd gyda y llyfr hwnw, efe a ddaeth yn raddol i allu darllen ychydig o'r iaith hono. Yn yr hyn y cynnyddodd ar ol hyny i raddau helaeth, ac a ddarllenodd gyfanodddiadau y prif ysgrifenwyr Groegaidd, yn neillduol y Beirdd, yn eu hiaith wreiddiol; prif amcan Richard yn eu darllen ydoedd ëangu ei wybodaeth ramadegol o'r iaith; ychydig a sylwai ar y ffeithiau a gynwysent, a': wybodaeth hanesol a gyflëent.
Yn y flwyddyn ganlynol daeth ar draws talfyriad o Ramadeg Hebreig Buxtorf, yr hyn a'i tueddodd i ddysgu yr iaith hono hefyd. Cymerodd y gorchwyl hwn ei feddwl i fynu yn llwyr, am ryw gymaint o amser, fel y gellid casglu oddiwrth y cofnodiad canlynol a gafwyd yn ei law-ysgrifen ef ei hun. "Oni buasai fy sefyllfa anffodus, mi a fuaswn yn ceisio dysgu ychydig o beroriaeth Hebreig. Ryw enyd o amser cyn i mi ddechreu dysgu yr iaith hon, mi a freuddwydiais fy mod yn gweled Johan Buxtorfius yn canu Salmau Hebreig gyda'r delyn, sef, tra yr oedd yn canu y Salmau â'i lais, efe a chwareuai y delyn â'i ddwylaw; tybiwn ei fod yn sefyll ar y boncyff gyferbyn a thŷ fy nhad."
Pan y gofynwyd iddo, gan gyfaill, pa fodd y gwyddai mai Hebraeg oedd Buxtorf yn ei ganu, gan ei fod heb ddechreu dysgu yr iaith i hyn yr atebodd, y "Gwyddai ychydig o Hebraeg pan welodd y breuddwyd; ac mai y 12fed Salm a ganai, (yna adroddodd Richard yr holl Salm yn Hebraeg, yn rhugl, canys yr oedd ganddo ar ei gof,) a bod gan yr hwn a ymddangosodd iddo, pwy bynag oedd ef, lyfr Hebreig gyda nodau yn ei ymyl, a bod y delyn a welodd yn un fawr iawn, tebyg i un o'r hen delynau Cymreig o ran ffurfiad. Yr oedd ganddo braidd fwy o hoffder at yr Hebraeg nag un iaith arall, yr hyn, yn nghyda'i farf hirllaes, a barodd iddo gael ei alw yn fynych, The Welsh Jew."
Yr oedd y ddysgeidiaeth a gyrhaeddodd hyd yma, mewn gwahanol ieithoedd, yn rhyfeddod, ac ystyried yr annghyfleusderau dirfawr ag oedd ar ei ffordd—dim llyfrau priodol—dim dysgawdwyr—na dim amser ond a ladratai oddiar gwsg a'i orchwylion dyddiol. Ac fel yr oedd yn ddigon naturiol, gwrthwynebiad grymus oddiwrth ei deulu, yn enwedig ei dad a'i frawd hynaf, canys yr oedd iselder eu hamgylchiadau yn gosod rhaid arnynt hwy i weithio mwy na'u rhan, o herwydd ymlyniad Richard gyda'i lyfrau. Mynych yr arferent weinidogaeth greulonach tuag ato na geiriau chwerwon, pan y deuent. hyd iddo yn darllen,—ymosodent arno gan ei guro yn greulawn. Ond, er y cyfan, yr oedd ganddo y fath hoffder at ddysgu ieithoedd, ag a greodd ynddo benderfyniad anhyblyg a didroiynol i weithio yn mlaen, er yn erbyn y llif, nes drwy ei diwydrwydd, a'r dalent hynod oedd ganddo at y gorchwyl, y gorfuodd yr anhawsderau, ac y daeth yn Ddic Aberdaron, The Wonderful Linguist.
Tua y flwyddyn 1804, gwnaeth ei dad fordaith o Aberdaron. i Lerpwl, mewn llong fechan, a chymerodd Richard gydag ef i'w gynorthwyo. Y peth cyntaf a wnaeth pan gyrhaeddasant. yno ydoedd, chwilio am siop lyfrau. A darfu i'w ymddangosiad hynod yn y fath le dynu sylw rhyw rai, ac achosi iddynt ymchwilio i'w amgylchiadau, ac wrth ddeall ei fod yn meddu rhyw gymaint o wybodaeth am ieithoedd, darfu iddynt roi iddo ychydig arian; ac wedi hyny a'i hanrhegasant â nifer o lyfrau Lladin, Groeg, Hebraeg, &c. Yr oedd ganddo feddwl mawr o'r anrhegion hyn, ac ystyriai ei hun mor ffawdus o'u cael a phe buasai etifeddiaeth wedi dod i'w ran; yr oedd ganddo gofnodiad manwl o honynt, ond nid hir y mwynhaodd efe hwynt, canys wrth ddychwelyd adref cawsant dywydd tra anffafrol, gyrwyd eu llestr i'r làn gerllaw Llanaelhaiarn, yn sir Gaernarfon, ac fe'i llanwyd â dwfr, ac felly ei lyfrau oll yn mron a ddyfethwyd neu a gollwyd.
Ond ni ddarfu y siomedigaeth hon a'i cyfarfyddodd, liniaru dim ar y duedd gryfach ag oedd wedi cael ei genhedlu ynddo at ddysgu gan y llyfrau newydd, canys pan gyrhaeddodd gartref, ymosododd ar y gorchwyl o astudio yn ddyfalach nag erioed. Ei dad, wrth ei weled nid yn unig yn parhau gyda'i lyfrau, ond yn myned yn fwy ymlyngar wrthynt, ac felly yn gwneyd dim tuag at ei damaid, a ymddygodd tuag ato yn erwinach nag erioed—un diwrnod cafodd deimlo pwys y pocer haiarn ar ei wàr, yn nghyda bygythiad o gael dyrnodiau trymach y tro nesaf. Wrth hyn, Richard druan a welodd os oedd am hoedl a chroen iach, fod yn rhaid iddo naill ai rhoi heibio ymhel â'i lyfrau, neu ynte adael ei gartref; a rhyfedd meddwl, o'r ddau, dewisodd yr olaf: ac yn ddioed, crynhodd yr ychydig lyfrau oedd ganddo yn ei feddiant, a chymerodd y ffordd tua. Chaernarfon, heb gymaint ag un geiniog yn ei boced; a than yr amgylchiadau hyn bu raid iddo werthu rhai o'i lyfrau i gael ychydig at ei gyuhaliaeth. Fel hyn yr oedd ei faich yn ysgafnhau, a chyrhaeddodd Gaernarfon yn llwyddiannus. Ond ysywaeth, er cyrhaedd, nid oedd ond iselder a thylodi yn ei aros—bu mor gyfyng arno yma nes y bu raid iddo werthu gweddill ei lyfrau, oddigerth rhyw ddarnau o Eiriadur Lladin a Groeg, a Chymraeg a Lladin, a gadwodd—nid oedd gerwindeb newyn ac eisieu yn ddigon galluog i beri iddo ymadael â'r rhai hyn.
Er ei fod o duedd mor isel ar un llaw, fel yr ymddygai tuag ato ei hun yr un fath a phe buasai casineb greddfol ynddo at lanweithder; eto, ar y llaw arall, yr oedd o duedd mor uchel fel mai anfynych yr ymostyngai i ofyn cerdod—dysgwyliai a derbyniai gerdod yn ddiolchgar, ond braidd byth y gofynai, hyd yn nod yn ei gyfyngderau mwyaf—dyoddefai—gwerthai ei lyfrau hoffaf—ie, gwnai bob peth braidd cyn yr âi i ofyn cerdod.
Heb gyfarfod â nemawr o swcwr yn Nghaernarfon, aeth rhagddo tua Bangor, lle y bu mor ffawdus ac enill sylw y Dr. William Cleaver, Esgob y lle y pryd hwnw; yr hwn, wrth ganfod fod ei ymgyrhaeddiad mewn ieithoedd yn beth allan o'r ffordd gyffredin, i ddynion o'i sefyllfa ef, a'i dilladodd yn drwsiadus, ac a'i hanogodd yn mlaen yn ei ymdrechion, drwy ei anrhegu âg amryw lyfrau gwerthfawr; yn mhlith y rhai yr oedd Testament Groeg, o gyhoeddiad Robert Stephen, a Geiriadur Groeg, gan Schrivelius. Hefyd, darfu ei arglwyddiaeth yn drugarog ei gymeryd i'w wasanaeth, i gyflawni rhyw fân-orchwylion yn ei erddi a'i faesydd; ac wedi bod yn y sefyllfa. hon am oddeutu dau fis, naill ai o herwydd cael rhy fach o amser gyda'i lyfrau, neu ryw achos arall o anfoddlonrwydd a gododd rhyngddo ef a'r Esgob, dechreuodd anesmwytho ar ei sefyllfa, ac ymadawodd, gan gydsynio â gwahoddiad y Parch- edig John Williams, o Dreffos, i ddyfod yno i anneddu gydag ef. Bu yma am oddeutu chwe mis o amser, a threuliodd y rhan fwyaf o hono yn astudio Groeg. Ond, dygwyddodd i'r Esgob ymweled â'r lle hwn, a rhoddodd brawf nad oedd ef a Richard ar delerau da iawn gyda'u gilydd y pryd hwn, dywedodd wrtho am beidio a dychwelyd yn ol i Fangor, gan na byddai derbyniad iddo mwy i'w wasanaeth. Ac effeithiodd ymweliad yr Esgob yn Nhreffos i wneyd croesawiad Richard yn llai yno hefyd. Yn fuan ar ol hyn ymadawodd oddi yno, gan gwyno fod y gweision wedi ymddwyn tuag ato yn lled greulawn, a hyny, meddai ef, o herwydd rhyw freuddwyd a ganfyddodd yno, yr hwn a adroddodd wrthynt.
Tra y bu yn Môn cyfarfyddodd a rhyw eneilwyr o Ffraingc, gan y rhai y cafodd Ramadeg o iaith y wlad hòno; trwy gynorthwy yr hwn, a'u cyfarwyddyd hwythau, y cafodd y fath wybodaeth ynddi ag a'i galluogodd nid yn unig i'w derllen, ond hefyd i'w siared yn dra naturiol. Cyrhaeddodd gyffelyb. wybodaeth o'r Italaeg. Ymddiddanai yn y ddwy yn dra. rhugl. Pan ymadawodd a Threffos (mis Mawrth, 1806) cyfeiriodd ei daith unwaith yn ychwaneg tua Lerpwl, lle y cyfarfyddodd â charedigrwydd mawr oddiwrth y personau hyny a'i cynorthwyasant yno pan ymwelodd o'r blaen, yn neillduol oddiwrth Stanley Roscoe, Ysw. Yr oedd ei ymddangosiad personol y pryd yma yn anarferol o hynod: nid oedd dim o'i wyneb braidd yn y golwg, ond ei lygaid taeogaidd, gan y sioch anferthol o wallt a barf oedd ganddo o amgylch ei ben. Yr oedd ei wisg wedi ei gwneyd i fynu o amrywiol garpiau breision amrywliw, darnau wedi eu gwnïo ar ddarnau; a rhwng y plygion yr oedd rhesau o hen lyfrau wedi eu gwthio, nes oedd wedi ei orchuddio â llyfrau o'i wàr i'w àrau, nes y byddai, pan yn cerdded, yn ymddangos fel "Llyfrfa yn ymsymud!" Yr oedd y llyfrau hyn wedi eu gosod ganddo yn ol eu maintioli, y naill o dan y llall; ac yr oedd mor gyfarwydd yn nhrefn eu gosodiad, fel y medrai estyn ei law at yr un a fynai heb y camgymeriad lleiaf. A chymaint fyddai ei fyfyrdod ar eu cynwysiad, fel pan elai i dŷ neu ystafell na chymerai sylw o ddim a fyddai o'i ddeutu, a phrin y medrai gofio y ffordd y daethai i mewn! Byddai ganddo yn wastadol lyfr yn ei law, i'r hwn yn fynych y cyfeiriai, fel i dderbyn neu gyfleu rhyw hysbysiaeth. Ystyriai fod pawb a gyfarfyddai yn llawn cymaint eu myfyrdod ar ieithoedd ag ef ei hun. Y mae yn ddiau mai un achos fod ymddiddanion Richard mor dywyll oedd, ei fod yn ymddiddan à phawb fel pe buasent yn gwybod cymaint ag yntau; ei ddywediad cyffredin wrth ymddiddan oedd, "Chwi wyddoch fod y peth a'r peth fel a'r fel." Yr oedd ei olwg braidd yn fyr, a'i lais yn wichlyd ac aflafar, ac yr oedd chwithigrwydd neillduol yn perthyn i'w holl agweddau; ond er hyn i gyd yr oedd rhyw belydryn i'w ganfod yn ei wedd yn argoeli dealltwriaeth, a rhyw ddiniweidrwydd dirodres yn ei ymddygiad ag oedd yn enill sylw.
Yn fuan ar ol ei ddyfodiad i Lerpwl, rhai o'i ewyllyswyr da a wnaethant ymgais am ei ddodi at rhyw waith cyfaddas, ac, wedi tacluso ei ddiwyg, gofynwyd iddo, pa orchwyl oedd fwyaf cynnefin iddo, i'r hyn yr atebodd, mai llifio. Cafwyd lle iddo gyda dyn ag oedd yn cadw llawer o ddynion at y gorchwyl, a rhoddwyd Richard i lawr yn y pwll llif, a dechreuodd arni yn o lew, ond yn fuan rhoes brawf na wyddai fawr am y gwaith, canys dylynodd y llif nes y syrthiodd ar ei wyneb ar waelod y pwll, ac yno y bu yn llefain nes y daeth cynorthwy ato, a deallwyd mai yr achos iddo syrthio oedd, na wyddai fod eisieu iddo symud ei draed gyda y ilif. Troes ei gefn yn ddioed, ac aeth at y neb a'i hanfonodd yno, gan gwyno yn ddychrynllyd o herwydd y gam-driniaeth oedd wedi ei gael gan y dynion,—eu bod wedi ei roddi mewn rhyw bwll yn y ddaiar. Pan ofynwyd iddo pa fodd yr oedd wedi gosod ei hun allan yn llifiwr, atebodd na bu ef erioed yn arfer un math o lifio, ond traws-lifio ambell i bren a dorid yn nghoedwigoedd Cymru.
Gan nad ymddangosai fawr o obaith y gellid ei ddysgu na'i ddenu i ddylyn un math o alwedigaeth lafurol, gadawyd iddo ganlyn ei duedd ieithyddol faint a fynai, a darfu ei noddwr, Stanley Roscoe, Ysw., dalu i lety-wraig am ei gynnaliaeth mewn sefyllfa fanteisiol i hyny; yr hon a gymerodd arni edrych ar ol ei ymddygiad, yn neillduol i'w ymarfer i lanweithder, a chyflawnodd yr ymddiriedaeth hyd eithaf ei gallu.
Fel hyn y treuliodd Richard ei oes heb wneyd ond y nesaf peth i ddim at ei gynnaliaeth; fel y cydnabyddodd unwaith yn un o'i ffraeth atebion i ryw Weinidog a ofynodd iddo, Beth a feddyliai am ysgrifeniadau Paul, "Ho," meddai, "gwneyd 'Pistol oedd gwaith yr Apostol, gwnaeth ddau i saethu y Corinthiaid, yr oedd y rhai hyny yn Ganons mawr yn yr eglwys, a gwnaeth un i fy saethu inau." Pa beth oedd hwnw, ebai'r Gweinidog, "Os byddai neb na fynai weithio, na chai fwyta chwaith," atebai Richard.
Yr oedd ef yn un hynod o anesmwyth; anfynych yr arosai yn yr un man yn hir, pa mor ddymunol bynag fyddai ei sefyllfa: felly, cyn pen haner blwyddyn blinodd ar ei fyd yma, er ei fod yn nghanol ei lyfrau, ac yn cael ymlid yr ieithoedd faint a fynai. A chan y crybwyllai yn fynych y dymunai yn fawr droi yn ol i'w hen wlad, anrhegwyd ef gan Roscoe â phum punt, er ei alluogi i gael ei ddymuniad; felly yn ddioed cy- merodd ei daith tua sir Gaernarfon, gan gario gydag ef amrywiol o lyfrau ag oedd wedi cael eu rhoddi iddo yn Lerpwl yn mhlith y rhai yr oedd Thesaurus Linguæ Sanctæ, gan Sanctes Pagninus, y Grammatica Arabica, gan Erpenius, Lyra Prophetica gan Bythner, a gweithiau gramadegol ereill. A chyrhaeddodd yn ddiogel i Borth-yn-Lleyn, lle y cyfarfyddodd â'i dad, yr hwn, meddai, pan ddeallodd fod ganddo ychydig arian ar ei helw i dalu iddo am ei gynnaliaeth, a'i derbyniodd yn lled groesawus. Ond pan ddarfyddodd ei dipyn arian, bu raid iddo droi i gynorthwyo John ei frawd i lifio coed i adeiladu cychod pysgota. Ond ewynai Richard ar ol hyn, nad oedd ei dad wedi eu defnyddio i'r dyben hyny, ond iddo eu gadael ar làn y môr yn Mhorthneudy, nes myned yn ddiwerth. gan bydrni.
Tra y bu Richard gartref y tro hwn, darfu iddo ef a John ei frawd gyfieithu "Commissiwn Crist i'w Apostolion," gan Archibald M'c Lean, i'r Gymraeg, yr hwn a gyhoeddwyd wedi hyny yn Nghaernarfon, dan olygiad Mr. Edmund Francis.
Ond nid hir y bu gartref na ddechreuodd hi o'r newydd. fyned yn ddrwg rhyngddo ef a'i dad o herwydd yr hen achos, sef, ei ymlyniad wrth ddysgu ieithoedd, a'r triniaethau creulawn a ddyoddefai gynt a adnewyddwyd: o herwydd hyny, ymadawodd eto a thŷ ei dad, a thros ryw gymaint o amser a gafodd achles gyda y Parch. Benjamin Jones, Gweinidog Ymneillduol yn Mhwllheli. Oddiyma cyfeiriodd drachefn i Lerpwl, ond ni chafodd gystal swcwr yno y tro hwn ag a gafodd y troion o'r blaen; felly y bu yn llawn trallod a blinder yno am yspaid o amser; ie, bu mor gyfyng arno nes y gorfu iddo werthu ei Feibl Hebreig, gyda Nodau, &c., ar ol yr hwn yr oedd ei alar mor fawr, fel y penderfynodd gymeryd taith i Lundain i chwilio am un yn ei le; ac hefyd i ymofyn am ychydig gyfarwyddyd yn y Galdaeg a'r Syriaeg, ac ni chollodd ddim amser i roddi ei benderfyniad mewn gweithrediad. I'r dyben hwn, cychwynodd tua'r brif ddinas, yn haf y flwyddyn 1807, a phecyn bychan ar ei gefn, a phastwn hir yn ei law, am yr hwn yr oedd darlunlen o'r ffordd ganddo; a'r ychydig weddill o'i lyfrau wedi eu gwthio i'w wahanol logellau, &c. Wrth ymholi am Feibl Hebreig yma a thraw, daeth ar draws rhyw foneddwr, Dr. Collyer, yr hwn a'i hanrhegodd â Thestament Groeg. Ond fel y bu gwaethaf ei hap ni lwyddodd yn un o'r amcanion oedd ganddo yn myned yno; ac yn waeth na'r cwbl, methodd gael yno orchwyl na chynorthwy mewn un modd nac o un math.
Prysurodd Richard o Lundain, a chyfeiriodd tua Dover, gyda bwriad, mae'n ddigon tebygol, i fyned trosodd i'r Cyfandir, os llwyddai i gael ei gario. Ond er na chafodd ei amcan yn hyny, bu mor ffawdus yn Dover ag enill sylw Capt. Ford, Arolygwr llong-weithfa I y brenin, yr hwn a'i cymerodd i symud lludw yn y weithfa, ac a ganiatâodd iddo ei foreubryd, a chist i gadw ei lyfrau, ac a roddodd iddo ddau swllt a grot yn y dydd fel cyflog.
Un o'r pethau cyntaf a enillodd ei sylw yn Dover, oedd St. Georgia, llong Roegaidd, gyda dwylaw yr hon y bu mewn hir ymddiddan amryw weithiau, a dywedai iddo dderbyn. cryn lawer o hysbysrwydd ganddynt yn yr iaith Roeg ddiweddar, I
Gan fod Richard yn nodedig o ddiwastraff mewn bwydydd a gwisgoedd, ac na byddai yn arfer gwario ei arian am ddiodydd meddwol, fel y mae arfer rhai, yr oedd y cyflog a dderbyniai yma yn ddigon i'w alluogi, nid yn unig i dalu am ei gynnaliaeth, ond i roddi rhyw gymaint i Rabbi Nathan, yr hyglod. ddysgawdwr Hebraeg, am ei hyfforddi yn yr iaith hono, ac i brynu llyfrau angenrheidiol i'r dyben hwnw. Yr oedd yn amgylchiad dra hynod i weled dyn fel hyn, mewn gwlad estronol yn llafurio yn galed am ei luniaeth, ac yn treulio rhan fawr o'i enill i gyraedd gwybodaeth o hen ieithoedd. Bu yn y sefyllfal hon am dair blynedd, ac y mae yn ymddangos iddo eu treulio yn fwy dedwydd nag un yspaid arall o'i fywyd.
Yn y flwyddyn 1810 dychwelodd Richard o Dover i Lundain, pryd hyn cyflwynwyd ef i ystyriaeth y "Gymdeithas er taenu Crist'nogaeth yn mhlith yr Iuddewon," a thalwyd ryw gymaint o sylw iddo; ond os rhoddir pwys ar ei ddarluniad ef o bethau, ymddengys nad oedd eu caredigrwydd o fawr barhad, ond ei fod yn fuan wedi ei droi yn greulondeb a gormes; ie, i'r fath raddau nes y cwynai ei fod wedi ei wasgu i'r fath gyfyngder ac eisieu nes y bu raid iddo werthu ei lyfrau rhag newynu i farwolaeth. Ond fe ddylem gofio, mai un o ffaeleddau Richard oedd rhoi cam-olwg ar ddybenion ac ymddygiadau ei gyfeillion, yn neillduol os arferent un math o orfodaeth tuag ato.
Pan oedd wedi gwerthu ei holl lyfrau, a'i galedi wedi codi i'r man uchaf, daeth i'w feddwl amlygu ei sefyllfa i gymdeithas o'i gydwladwyr, ag sydd yn Llundain dan yr enw Cymdeithas y Cymmrodorion; a darfu iddynt dosturio wrtho a'i gynnysgaethu a modd i ddychwelyd i'w hen wlad.
Tiriodd yn ddiogel mewn llong fechan yn yr Abermaw; oddi yno cymerodd ei daith i Fangor, lle y darfu ei wybodaeth a'i fedrusrwydd rhyfeddol yn yr Hebraeg dynu sylw y diweddar Barchedig Richard Davies, yr hwn a'i cynnaliodd ef am chwe mis yno; ac yn ystod yr amser hwnw copiodd i'w Noddwr hynaws yr holl eiriau Hebraeg o Eirlyfr Lladin Littleton gydag amryw ddiwygiadau, yn ol Geiriadur Hebraeg Sanctes Pagninus, talfyredig gan Raphelengius.—Hoffai yn fawr bob amser wneyd cydnabyddiaeth i'w gymwynaswyr; yn gyffredin pan yr anrhegid ef â llyfr cynnygiai yntau lyfr arall yn ei le, neu fe roddai lun telyn a dynai, neu gopi o'r egwyddor Groeg neu Hebraeg a ysgrifenai. Ar ol hyn darfu i Mr. Davies a'r Parch. Samuel Rice gyd-dalu cost ei daith i Lerpwl drachefn, lle y cynnygiodd ei hun unwaith eto i dosturi ei hen ymgeleddwyr, y rhai gan ei ystyried bellach yn gryn ysgolaig, a amcanasant wneyd Argraffydd o hono, ac i'r dyben hyny anfonwyd ef i Swyddfa yn Water-street i gael ei addysgu, ond ar ol ychydig wythnosau o brawf, deallwyd na wnai byth Argraffydd, o herwydd ei fod yn rhy anhylaw at gelfyddyd mor fanylaidd; ond y mae yn ddigon tebygol mai nid dyna yr unig achos o'r siomedigaeth y gwir yw, yr oedd ei holl feddw! a'i duedd wedi eu troi ar ol ieithoedd, fel na byddai byth yn dawel na dedwydd pan mewn sefyllfa a fyddai yn attalfa iddo ddylyn ei duedd.
Ar ol hyn lluosogodd ei drallodion fwy-fwy; cwynai tra y bu yn gwneyd ei gartref gyda rhyw Wyddelod, ei fod wedi cael ei yspeilio o Ramadeg Caldaeg P. Martin, ac amryw lyfrau ereill, a bod y gweddill wedi cael eu taflu i'r heol trwy y ffenestr. Tua'r amser yma dechreuodd ysgrifenu gwreiddiau yr iaith Roeg, gan Casper Seidelius, gan eu troi o Groeg a Lladin i Groeg a Saesonaeg; ac yr oedd wedi myned mor bell a'r llythyren Chi pryd y dygwyd hwn oddiarno hefyd. A'r un modd lladratäwyd y geiriau Hebraeg a gopiodd o Eiriadur Lladin Littleton: ond, trwy y cwbl dyogelodd y copi o'r Beibl Hebraeg oedd ganddo, Gramadeg Arabaeg, gan Erpenius, a Geiriadur Groeg, gan Schrivelius. Ond cymaint fu ei gyfyngder ar ol hyn nes y gwystlodd y ddau flaenaf am ychydig sylltau, gyda y rhai y cyrhaeddodd Gaernarfon: lle y bu o dan yr angenrheidrwydd i werthu yr olaf i gael ychydig at ei gynnaliaeth. Dan yr amgylchiadau hyn yr oedd ei amynedd bron a phallu; cwynai yn chwerw-dost o herwydd ei fod yn cael ei nacâu o un math o orchwyl i enill ei fara, er ei fod yn dyoddef gan newyn a noethni, a'r cyfan, meddai, o herwydd ei ymdrechion i astudio y Groeg a'r Hebraeg.
Ar ol hyn treuliodd amryw o flynyddoedd yn crwydro o'r naill fan i'r llall heb i ddim neillduol ddygwydd, heblaw ei fod fel arferol yn ymlid ar ol ieithoedd ac yn llawn trafferthion. O'r diwedd ymsefydlodd yn Magillt a chafodd ei gynnal yno. am o ddwy i dair blynedd. Dechreuodd ysgrifenu y Cydymaith i'r Ysgolor, gan Alecsander Rowley, yn Hebraeg, Groeg, a Seisonaeg: ond cwynai na chafodd ei orphen ddim pellach na'r llythyren Nun, a hyny o herwydd ei fod yn rhoddi i fynu mewn llety hynod o annymunol i ysgrifenu, gan y byddai yn ddibaid, braidd, yn cael ei aflonyddu gan swn y plant ag oedd gan y weddw, gyda yr hon y lletyai. Ond gan na chai y difyrwch o fyned yn mlaen gyda Rowley troes i ymddifyru gyda rhyw hen gorn hwrdd, a dyna lle bu wedi hyny yn gwneyd rhyw oernadau ar hyd y gym'dogaeth er mawr gythrudd ac aflonyddwch i bawb o'i amgylch. Ac wrth weled fod ganddo ryw fath o dast at fiwsig, darfu i ryw un ei anrhegu â French Horn; pan gafodd hwn, troes yr hen gorn hwrdd heibio; a bu mor ddyfal yn ei ymarferiad â'i offeryn newydd nes y daeth i allu chwareu rhyw gymaint o donau arno, ond mewn dull mwy nodedig am dwrw nag am fanylrwydd. Erbyn hyn yr oedd yn meddwl ei hun yn gryn chwareuwr, a thybiai y gallai enill ei fara gyda'i gorn, ac i'r dyben hyny gwnaeth ei ffordd tua Chaerlleon, lle y dygwyddodd fod y Cadflaenor Grosvenor newydd gael ei ethol yn farchog dros y lle, ac fel arwydd o orfoledd am oruchafiaeth yr oedd y seindorf (band) yn tramwy ar hyd yr heolydd, gan chwareu eu hofferynau yn y modd mwyaf medrus; ond er mor ogoneddus oeddynt, tybiodd Richard y gallai, â'i gorn, ychwanegu at eu hardderchawgrwydd, ac yn ddioedd clywid ef yn
Chwythu dolef chwith ei dyli,
Aflawen oedd ei hacen hi.
Y fath annghydgord yn y beroriaeth a barodd gythrwfl nid
bychan ond y Cadflaenor, yn lle ymlid Richard, a'i galwodd ato, ac a ymddiddanodd âg ef, a chafodd y fath ddifyrwch yn ei atebion, nes y rhoddodd ryw anrheg hardd iddo,
a chaniatâd i chwythu ei gorn faint a fynai.
Yr oedd ganddo ryw duedd neillduol at ganu bob amser; mynych y canai Gân Moses yn yr Heberiaith yn ol yr addysg a gafodd gan y Rabbiniaid, ac yr oedd yn ddifyrwch mawr gan y diweddar Barchedig R. Davies o Fangor, ac ereill ei chlywed; ond yn ol canau rheolaidd nodyddion ein gwlad ni, gellid ystyried Cân Moses gan R. R. Jones yn un o'r rhai mwyaf afiafar a glywsom erioed. Tebygol fod canau yr hen Batrieirch a'u lleisiau, yn briod—ddull iddynt eu hunain, ac nid i neb ereill, Hefyd heblaw y cyrn a nodwyd, bu ganddo yn ei feddiant ddwy hen delyn, gyda y rhai y dyfyrai ei hun yn fawr. Byddai yn bur hoff ganddo dynu llun ei delynau i anthegu ei gymwynaswyr—gellir canfod amryw o'i waith ar hyd y wlad.
Peth arall oedd yn perthyn i Richard oedd hoffder anarferol at gathod—yr oedd ynddo er yn fachgen, ac a barhaodd ynddo ar hyd ei oes—nid allai oddef eu gweled yn cael cam; arferai bob amser, braidd, i gadw cath ei hun, ac yn ei eisieu mwyaf ni chymerai ymborth nes diwallu ei gath yn gyntaf; a chlywais ddyweyd na byddai byth yn gallu cysgu yn dawel os na byddai y gath ganddo yn ei gesail; cymaint oedd ei hoffder am danynt nes y mae amryw o'i lyfrau wedi eu britho â lluniau cathod, wedi eu tori ganddo oddiar hen gerddi, a phob man arall a allai gael gafael arnynt.
Y mae y wyneb-ddalen sydd genym i'r cofiant hwn yn cynwys Richard a'i wahanol hoff—bethau, sef, llyfrau o wahanol ieithoedd y delyn—y corn hwrdd, yn yr hwn y cadwai ei arian—telescope o'i wneuthuriad ei hun, am yr hon yr oedd ganddo gryn feddwl, byddai yn arfer ei gario o'r naill fân i'r llall gydag ef—ac hefyd y gath, yr hon a alwai yn gyffredin, y mew.
Erbyn i Richard ddychwelyd yn ei ol o Gaer i Fagillt, yr oedd ei holl lyfrau wedi ei dwyn, yr hyn a'i llanwodd â'r fath ofid fel na wyddai pa beth i wneyd, ac i ddifyru ychydig arno ei hun yn ei drallod, dechreuodd chwareu yr hen French—horn, a dyna lle y bu ddydd a nos yn chwythu hwnw nes oedd bron a syfrdanu ei lety—wraig, yr hon, am na thawai ar ei harch, a anfonodd am Gwnstabl i'w hel allan, yr hyn yn nghyda'i drallod blaenorol, a'i taflodd i'r fath ddrwg dymherau nes yr oedd yn ymddangos mewn cynddaredd gwallgofus, ei lygaid yn gwreichioni, a'i dafod yn bytheirio geiriau caledion ac yn plethu cableddau o wahanol ieithoedd yn y fath fodd nes taflu arswyd ar bawb o'i amgylch. Nid hawdd oedd ei gynhyrfu i deimladau fel hyn, ond pan ei cynhyrfid, yr oedd yn ddychryn i bawb a'i canfyddai.
Ymadawodd â Bagillt yn fuan ar ol hyn, ac aeth i Ler- pwl, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser wedi hyny; a bu am flynyddoedd yn derbyn yno ryw gymaint o arian yn wythnosol at ei gynnaliaeth gan nifer o foneddigion, yn benaf gan Stanley Roscoe, Ysw., yr hwn a ddangosodd yr un caredigrwydd iddo tra y bu fyw, ac yr ydys yn deall na ddarfu iddo ei annghofio with wneyd ei lythyr-cymun, er na fwynhaodd Richard mo ewyllys ei hen gymwynaswr ffyddlon, yn hir wedi ei farwolaeth.
Tua yr amser yma (1821) y dechreuodd gyfansoddi y Geiriadur Cymraeg, Groeg, a Hebraeg, yr hwn yn ddiau ydoedd brif orchwyl ei oes. Tra yn Lerpwl y tro hwn. ysgrifenodd hefyd yr holl eiriau Hebraeg sydd yn y Cydymaith i'r Ysgolor, gan Alecsander Rowley, yn Hebraeg a Groeg. A'r holl eiriau Syriaeg ag sydd yn niwedd Testa- ment Newydd Ægidius Guthirius. a ysgrifenodd yn Syriaeg. Groeg, a Seisonaeg. Ac wedi ei orphen, rhoes ef, yn nghyd â'r Geir-restr Hebraeg a Groeg, a gyfansoddodd dro yn ol, yn anrheg i'r diweddar John Copner Williams, Ysw., Dinbych, fel cydnabyddiaeth am y cymwynasau di-rif a dderbyniodd oddiar ei law.
Fel hyn y treuliodd flynyddau yn Lerpwl, yn astudio yn galed; ond, ar rai amserau, gallesid ei weled allan yn rhodio. ar hyd yr heolydd, a llyfr dan ei gesail, heb sylwi ar ddim, na dyweyd gair wrth neb, os na byddai iddo gael ei gyfarch yn gyntaf, pryd yr atebai mewn iaith dra gostyngedig ac addas. Pan gynygid elusen iddo, efe a'i derbyniai gyda llawer iawn o betrusder, gan ddyweyd, yn gyffredin, 'Nad oedd efe yn teilyngu dim. Nid oedd y gwawd a wneid o'i wisgoedd, neu ei mddangosiad yn cael un math o effaith arno. Arferai y pryd hyn gylymu ei wallt yn gydynau â thâp gwyrdd, yr hyn a roddai ymddangosiad tra chwithig iddo. Ac fe ddarfu un o'i gyfeillion roddi iddo hen jacket amryliw un o'r gwŷr-meirch, yr hon, yn nghyda'i farf a'i wallt hirlaes, a barai iddo ymddangos fel un o'r rhyfelwyr Iuddewig, y rhai y canfyddir eu lluniau mewn hen lyfrau. Byddai yr olwg yma yn cynhyrfu iluoedd o blant i'w ganlyn ar hyd heolydd y dref; ond ni wnai ef y sylw lleiaf o honynt, ac ni ddangosai mewn un modd ei fod yn ddigofus neu yn anfoddlawn o'u herwydd.
Byddai yn neillduol o gynil yn ei ymborth, neu yn hytrach yn ddifater—nid ai ond i ychydig iawn o draul gyda'i gynnalineth ei ddiod gyffredin oedd dwfr, ac weithiau laeth, os deuai yn ei ffordd. Byddai ganddo, yn dra chyffredin, ryw gymaint o sylltau ar ei elw, a chymerai y gofal mwyaf na wariai ond a fyddai yn hollol angenrheidiol.
Nid hawdd ydoedd gwybod ei ddaliadau crefyddol, gan y byddai yn nacâu ateb ond ychydig o gwestiynau, ac yn cerdded ymaith pan ofynid rhywbeth iddo yn nghylch hyny; ond y mae yn ddigon amlwg, oddiwrth yr ymadroddion sydd wedi eu hysgrifenu ganddo mewn amrywiol ieithoedd yn ei gof-lyfrau, fod ganddo barch i Dduw, ac y credai fod dyn yn greadur cyfrifol.
Dros ryw amser efe a gydymgyfeillachodd gryn lawer â'r Iuddewon, ac elai yn fynych i'w synagogau, o herwydd yr hoffder oedd ganddo i glywed darllen Hebraeg; ond yn mhen amser rhoddodd ryw dramgwydd iddynt, a chymerodd amrafael le rhyngddynt, ac yntau a wnaeth rai sylwadau cellweirus ar eu seremoniau, yr hyn a fu yn foddion i osod terfyn hollol ar eu cyfeillgarwch.
Yr oedd tymherau Richard yn dra hynaws, a'i ymarweddiad yn foesgar a gostyngedig; ac yr oedd hefyd yn hynod am ei ymlyniad diysgog wrth y gwirionedd; yr oedd hefyd (fel y crybwyllwyd o'r blaen) radd fawr o haelioni yn perthyn iddo, gan y byddai yn fynych yn rhoddi llyfrau tra gwerthfawr yn ei olwg ef, yn gyfnewidiad am unrhyw garedigrwydd a ddangosid iddo, neu fel arwydd o'i barch a'i ewyllys da; ie, ymadawodd droiau â'r llyfrau a roddasant y boen a'r llafur mwyaf iddo wrth eu hysgrifenu, yn eithaf rhwydd galon; a phan ddangosid hwy iddo eilwaith, edrychai arnynt gyda'r difaterwch mwyaf. Yn y peth hwn, y mae efe yn rhoddi desgrifiad cywir o'i gymeriad ei hun mewn ysgrif fechan a gafwyd yn mysg ei bapyrau: "Pan ddangosir unrhyw garedigrwydd neu gymwynas i mi, gan ryw bersonau neu gyfeillion, fy ewyllys a thueddiad fy nghalon yw dychwelyd y cyfryw iddynt mewn rhinwedd a gweithredoedd da, ac nid mewn rhai drwg; a phe rhoddid i mi waith caled i'w wneuthur, ymdrechwn ei gyflawni hyd eithaf fy ngalluoedd."
Byddai atebion Richard yn hynod o ffraeth ar brydiau. Pan oedd unwaith yn sefyll ar heol yn Lerpwl, canfuwyd ef gan hen ŵr ag oedd yn cydfyned âg amryw o'i gyfeillion, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Dacw Dic, âf ato, a chewch glywed y caf ryw ateb ffraethgall ganddo; er y tybir gan lawer ei fod yn wirion: gofynodd iddo, Pa sawl iaith a fedrwch chwi siared, Richard? atebodd yn ddioed, Dim ond un ar unwaith;' ac y mae hyny yn ddigon i bob dyn ar unwaith. Ryw dro, pan ymwelodd â thŷ rhyw foneddwr, yn agos i Gaernarfon, darfu i un o ferched ieuaingc y boneddwr hwtio Richard yn nghylch ei farf hirlaes, a gofyn iddo, Pa'm na bâi yn ei thòri? I hyn yr atebodd yn dra ffrom, "Ho! madam, pan ewch chwi yn farber cewch chwi roddi shave i mi." Dygwyddodd pregethwr gyfarfod âg ef, mewn siop lyfrau yn Lerpwl; cynygiodd y llyfr-werth wr iddo lyfr ar Geomancy, "Ho," ebai Richard, "dysgu dyweyd ffortun wrth gardiau y mae hwn, nid wyf yn hoffi dyweyd ffortun wrth gardiau, gwell genyf fi y planedau;" gofynodd y pregethwr iddo, A oedd yn tybied ei fod yn beth posibl rhag-ddyweyd ffawd dynion 'trwy y fath wyddoriaeth? Ni fu erioed beth hawsach na hyny," atebai Richard, "oblegyd nid oes ond ffortun neu anffortun am dani, ac y mae felly mor bosibl i chwi ddyweyd yn iawn ag ydyw i chwi fisio.
Er fod Richard, yn ddiamheuol, wedi cyrhaedd llawer iawn o wybodaeth ieithyddawl, ac wedi darllen llawer o'r awdwyr penaf, hen a diweddar, eto, o herwydd amrywiol achosion, nid yw yn hawdd gwybod helaethrwydd gwirioneddol ei gyrhaeddiadau. Trwy ei ddyfal olrheiniad o ieithoedd tramor, ymddengys iddo i raddau mawr golli ei archwaeth at ei iaith enedigol, er ei fod yn abl a rhugl ynddi mewn ymddiddanion cyffredin â'i gyd-genedl. Ac nid oedd y Seisonaeg, er y cwbl, ond megys iaith estronol iddo ef, ac nid heb lawer o anhawsder y dysgodd yr hyn a wyddai o honi, a hyny, y mae yn debygol, am nad ymarferodd â hi yn ieuangach; felly nid rhyfedd ei fod yn ei hysgrifenu yn lled anmherffaith, neu fod y Saeson yn edrych ar ei gynygiadau i gyfansoddi ynddi, fel yn debygol yr edrychai un o'r hen Roegiaid neu Ladiniaid ar gynygiadau ysgrifenwyr diweddar yn yr ieithoedd hyny.
Dywedir y gallai Richard ymddiddan mewn Pedair-ar-ddeġ o wahanol ieithoedd! A sylwyd arno yn fynych, y byddai yn parhau yr ymddiddan yn yr iaith y dechreuid ymddiddan âg ef, oddieithr fod ereill yn troi i un arall yn gyntaf. Ond un o'r pethau mwyaf nodedig yn ei nodweddiad yw, nad oedd efe wedi dal nemawr iawn o'r materion y traethid am danynt yn yr holl luaws llyfrau amrywiaethog a ddarllenodd efe! ARWYDDOCAD GEIRIAU, A CHYFANSODDIAD IEITHOEDD, oedd holl wrthddrych ei ymofyniad! Y dygwyddiad canlynol a brawf hyn:—
Dr. Parr, aelod dysgedig o Brif Ysgol Rhydychain, a ddygwyddodd alw ar un o gyfeillion Richard, pan yr oedd Richard ei hunan wrth law, a meddyliodd ei gyfaill y boddlonid ei ymwelydd dysgedig yn fawr trwy gael ymddiddan â pherson mor hynod. Gan hyny, Richard a ddygwyd i'w bresenoldeb, a hysbyswyd natur ei ymgyrhaeddiadau; yr olwg hynod oedd arno a darawodd y Doctor à syndod ar y cyntaf, ond wedi i hyny fyned ymaith, gofynodd iddo amryw ofyniadau yn y Ffrangeaeg a'r Eidalacg, y rhai atebodd efe gyda'r parodrwydd a'r diniweidrwydd a berthynai yn neillduol iddo ef. Yna gofynwyd iddo, a oedd efe yn deall Lladin a Groeg; ac wedi iddo ateb yn gadarnhaol, ceisiwyd ganddo ddarllen brawddeg yn Homer: Richard yn ddiatreg a roddodd ei law yn ei fynwes, ac a'i gwthiodd hi i lawr i drigle yr hen brydydd enwog, ac a'i tynodd allan o'r dyfnderau, ac a'i cynygiodd i'r ymwelydd fel y dewisai frawddeg o hono; ond dymunwyd arno ef agor y llyfr yn rhywle, a darllen y frawddeg a gynygiai i'w sylw gyntaf. Yn ganlynol, efe a'i agorodd, ac a ddechreuodd ddarllen ryw linellau yn yr Iliad, gyda llawer o arafwch a chywirdeb; ac fel yr elai yn mlaen gwnelai lawer o sylwadau synwyrlawn ar yr ymadrodd, y rhai a ddangosent wybodaeth drwyadl o'r iaith, ac a synasant y bonedddig dysgedig yn fawr. Yna dymunwyd arno gyfieithu yr hyn a ddarllenasai, ac efe a wnaeth hyny yn ei Seisonaeg arferol, yn araf a gochelgar, ond gyda'r fath gywirdeb ag oedd yn profi ei fod yn deall y synwyr yn berffaith, can belled ag yr oedd cystrawen yr iaith yn myned tuag at hyny. Yna cymerodd yr ymddiddan canlynol le:—
Gof. Da iawn Richard; yr ydych wedi cyfieithu yr ymadroddion hyn yn bur dda. Attolwg, a ddarllenasoch chwi erioed brydyddiaeth Homer?
At. Do, fe ddarfum.
Gof. A pha beth ydych chwi yn ei feddwl am gymeriad Andromache?
At. (Gwedi aros ychydig, gofynodd), Andromache?
Gof. Ie, Beth ydych yn ei feddwl am gymeriad Andromache?
At. (Gwedi arosiad arall), Ymladdfa o ddynion ydyw.
Gof. Ie, ie; hyny yn ddiau yw tarddiad yr enw: ond beth ydych yn ei feddwl am Andromache, gwraig Hector?
A. Nid wyf fi yn gwybod dim am hyny.
"Yn ddiau," ehe'r ymwelydd, dyma y dygwyddiad hynotaf a gyfarfum âg ef erioed. Er fod y dyn hwn yn berffaith wybodus o'r iaith, nid yw yn ymddangos fod ganddo y drych-feddwl lleiaf am destyn a sylwedd yr hyn a ddarllenodd."
Gwedi i'r gŵr bonheddig fyned ymaith, gofynwyd i Richard pa fodd na roddodd efe ateb mwy rhesymol.
Atebodd yn hollol ddifater, "Meddyliais ei fod yn gofyn i mi yn nghylch y gair, ac nid yn nghylch y ferch." Pan ofynwyd iddo beth efe oedd yn ei feddwl am y Doctor, ei atebiad oedd, "Yr wyf yn ei ystyried yn un o'r rhai callaf yn y fyddin ddu."
Ar achlysur arall, pan ddygwyddodd yr ymddiddan fod ar natur ieithoedd, yn nghyd a'r ffordd oreu i'w dysgu, efe a roddodd, nid yn unig brawf o helaethrwydd ei wybodaeth ieithyddol, ond hefyd o'r parodrwydd gyda yr hwn y medrai ddefnyddio y wybodaeth hòno.
Un o'i gyfeillion a wahoddodd i giniawa amryw o'i gydnabyddion, y rhai oeddynt gan mwyaf, yn nodedig am eu dysgeidiaeth: ac wedi i'r wledd fyned trosodd, trwy gamsyniad un o'r gweision, agorodd y drws, ac er syndod i bawb ag oedd yn bresenol, daeth Richard i mewn. Gwedi i'r boneddigion syn edrych, dros ychydig, ar ei ymddangosiad hynod, a chael hysbysrwydd o'r camsyniad a'i dygasai i'w gwyddfod, gofynasasant iddo amryw gwestiynau yn yr iaith Ffrangcaeg, i'r rhai y rhoddodd efe yr atebion mwyaf cywir a pharod. Yna trowyd yr ymddiddan i'r Italaeg, ond dangosodd yr un rhwyddineb yn yr iaith hono drachefn. Yna trowyd i chwilio ei wybodaeth yn y Lladinaeg a'r Groeg: ac yntau a ddarllenodd ac a gyfieithodd rai ymadroddion yn yr ieithoedd hyny, er boddlonrwydd cyflawn i bawb ag oeddynt yn bresenol. Yna. un o'r boneddigion a gymerodd arno ei holi yn fwy neillduol, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le:—
Gof. Gan eich bod chwi yn dysgu llawer o ieithoedd, attolwg, dywedwch wrthyf pa ffordd a fyddech yn ei gymeryd i ddysgu iaith?
At. Y mae hyny yn ol y byddo natur yr iaith yn gofyn.
Gof. Pa ffordd a gymerech i ddysgu un o'r ieithoedd diweddar?
At. Pe bâi yr Yspaenaeg, er enghraifft, cymerwn eir-restr o'r iaith hono, a chwiliwn pa eiriau a gawn yn cyfateb, neu yn tebygoli i eiriau mewn ieithoedd ereill ag y buaswn yn adnabyddus â hwynt, megys y Lladinaeg, y Ffrangcaeg, a'r Italaeg; a'r cyfryw eiriau a gawn felly a gymerwn allan o'r geir-restr, gan adael yn unig y rhai a berthynent yn wreiddiol i'r Yspaenaeg; ac yna, trwy gynorthwy Gramadeg, deuwn yn fuan yn adnabyddus â'r iaith hono.
Yr holl foneddigion a ganiatâsant mai ffordd gall a hynod dda oedd hono; a Richard a ymneillduodd wedi derbyn canmoliaeth pawb ag oedd yn bresenol.
Peth arall priodol i'w grybwyll yma ydyw, y cydfynedai â'i alluoedd mawrion i ddysgu ieithoedd, ryw duedd neillduol i drosglwyddo y wybodaeth a gyrhaeddai ynddynt i ereill; byddai yn ystyried mai ei ddyledswydd arbenig oedd cynyg ei wasanaeth lle bynag y meddyliai y byddai yn dderbyniol; ond, o herwydd bod ei agwedd bersonol mor aflerw, ei foes-ddull mor anniwyll, a'i ffordd o gyfleu ei syniadau mor ddidrefn, nid hawdd y dygymai neb â'i addysg, hyd yn nod pe caniatêid y dichonai hyny fod yn adeiladol iddynt. Y siomedigaethau ag oedd efe yn eu cyfarfod yn feunyddiol yn y peth hwn, yn nghyda'r difaterwch a ddangosid at y cyfryw olrheiniadau o ieithoedd, oeddynt destynau gwastadol ei ofid; a mynych yr achwynai ei fod yn cael ei ddirmygu a'i erlid am ei ymdrechiadau yn achos dysgeidiaeth a gwirionedd. Nid wyf yn dysgwyl," meddai ef, mewn ychydig linellau a dderbyniwyd oddiwrtho, cael fawr o barch na chynorthwy yn Nghaernarfon, yn fy nghynygiadau i ddysgu Groeg a Hebraeg; canys yr wyf yn gwybod eisioes, fy mod yno yn cael fy ngwawdio a'm casau gymaint o'r achos hwnw fel yr ystyriant nad wyf deilwng o unrhyw gefnogaeth." Brydiau ereill ymddangosai fel pe buasai yn ofni ei fod mewn perygl o gael ei erlid ar gyfrif ei ddaliadau crefyddol. "Llawenhaf," meddai ef, fy mod yn cael fy nghyfrif yn deilwng i ddyoddef yn yr achos cyfiawn hwnw, dros yr hwn yr wyf yn foddlawn i osod fy einioes i lawr, pe rhoddid fy nghorff i'w losgi, neu y dedfrydid fi i ddyoddef y poenau creulonaf." Yr ymadroddion hyn a ddangosant ar unwaith y fath rym mewn penderfyniad, a gwendid mewn deall, ag sydd braidd yn anmhosibl eu cysoni â'r medrusrwydd a ddangosid ganddo yn ei ymchwiliadau i ieithoedd.
Pa fodd bynag, ni ddarfu y siomedigaethau aml, y cyfarfyddodd Richard â hwy yn ei ymdrechiadau i helaethu ei wybodaeth o'r ieithoedd, ei rwystro rhag gwneuthur pob peth a allai i gyrhaedd ei amcan, fel yr ymddengys oddiwrth amryw gyfansoddiadau o'i eiddo, yn y rhai y dangosir llafur a gofal dirfawr. Yn ychwanegol at yr hyn o'i weithiau a nodwyd eisioes, y mae Geiriadur Groeg a Seisonneg helaethfawr, yr hwn, gydag ychydig ddiwygiadau, a ellid ei wneuthur yn waith tra gwasanaethgar. Cyfrol arall o'i ysgrifeniadau a gynwys Gynnulliad o Ddyfyniadau Hebraeg, at yr hyn y mae wedi ychwanegu Geir-restr yn Hebraeg a Seisonaeg, yn nghyda Thraethawd byr ar Gerddoriaeth ac Aceniad yr Hebraeg. Ond y gorchwyl mwyaf llafurus o'i eiddo ydyw y Geiriadur Cymraeg, Groeg, a Hebraeg, y crybwyllasom am dano eisioes. Y gwaith hwn, fel yr ymddengys oddiwrth nodiad yn ei goflyfr, a gymerodd efe mewn llaw ar ddymuniad y Parch. Richard Davies, a Fangor. Cynwysa yr holl eiriau Cymraeg sydd yn Ngeiriadur Cymreig a Lladin y Dr. Ioan Davies. Bu Richard wrth y gorchwyl hwn uwchlaw deng mlynedd; dechreuodd ef yn y flwyddyn 1821, a gorphenodd ef yn mis Ebrill, y flwyddyn 1832. Ac wedi iddo edrych drosto, a'i gywiro, cychwynodd gydag ef, yn mis Awst dylynol, i Beaumaris, lle yr oedd Eisteddfod o Feirdd a Llëenyddwyr Cymreig i gael ei chynnal tua'r amser hyny; dywed iddo fyned yno gyda dysgwyliad y cawsai gefnogaeth i ddwyn ei Eiriadur trwy y wasg, ond ymddengys na ddarfu iddo lwyddo yn ei amcan. Ac wedi iddo grwydro ychydig o'r naill fan i'r llall ar hyd Gymru, dychwelodd yn ol i Lerpwl, lle y bu hyd y flwyddyn 1834.
Cwynai iddo gael ei drin tua'r amser yma yn annheilwng iawn gan un George Williams ag oedd yn byw yn Lerpwl; ymddengys fod Wm. Humphreys, lletywr Richard, yn ol o dalu ardreth ei dŷ; ac i George Williams anfon ceisbwliaid i gymeryd meddiant o'i eiddo, y rhai a symudwyd i Arwerthfa, ac yn eu plith cymerwyd holl lyfrau Richard, a'i ddwy hen delyn. Ac nid heb lawer o drafferth y gallodd attal eu gwerthiant; ond ni lwyddodd, er ei holl lafur a'i daerineb, i'w cael yn ol i'w feddiant, ond fe'i symudwyd i dŷ George Williams, ac yno y buont hyd y flwyddyn 1834; pryd y danfonodd ei gymwynaswr, John Copner Williams, Ysw., Mr. Marc Luc Lewis i'w gynorthwyo i ddyfod o'i drallodion, a llwyddodd i adfer yn ol i Richard y gweddill o'r llyfrau ag oedd heb eu dinystrio, yn nghyd a'r ddwy hen delyn, y rhai oll a ddanfonwyd yn ddyogel i Ddinbych.
Bu Richard yn lled wael ei iechyd am rai misoedd ar ol hyn, o herwydd y driniaeth greulawn a gafodd gan un James O'Hara, cyfaill i George Williams, yr hwn a daflodd ei ysgwydd o'i lle, ac a dorodd dair o'i asenau. Tra y bu y llyfrau, &c.. o'i feddiant, yr oedd fel dyn wedi colli pob llywodraeth arno ei hun, ni chaid dim o'i hen ond cablu a melldithio George Williams, (ac y mae yn digon tebyg mai hyny fu yr achos o ymosodiad O'Hara arno.) Cydmarai ef i Achme Dyezzar, Pacha d'Acre, yr hwn oedd yn cael edrych arno fel rhyw anghenfil rbeibus, hyd yn nod gan y dynion mwyaf creulawn a barbaraidd ag oedd yn y Dwyrain.
Ymadawodd Richard o Lerpwl gan fwriada treulio gweddill ei oes yn Ninbych, a dyna lle y bu am ryw gymaint o fisoedd yn edrych dros a chywiro ei Eiriadur; ond blinodd yn dra buan yno, a dychwelodd yn ol i Lerpwl; yn ddioed ar ol cyraedd yno, cyfarfyddodd â Mr. Benjamin Jones, (P. A. Mon) yr hwn a'i dygodd i sylw Cymdeithas y Cymreigyddion yno; ac addawodd, ond cael Copi y Geiriadur i'w feddiant, y gwnai ei gyhoeddi yn enw y cyfryw Gymdeithas, ac yr âi yn ddioed trwy Gymru i grynhoi enwau ato. Ar ol derbyn y Geiriadur anfonodd ef at un o Ddysgawdwyr Athrofa y Bedyddwyr yn York i edrych drosto; anfonodd hwn ef yn ol gan dystio ei fod mewn cyflwr addas i'r Wasg. Felly cyfeiriwyd ef at Mr. John Jones, argraffydd, Llanrwst. Argraffwyd cynygiad i'w gyhoeddi yn rhifynau swllt, ond cael 200 o enwau. Hefyd, rhoddwyd hysbysiad o'r Geiriadur, a'r cynygiad o'i gyhoeddi, yn y Liverpool Mercury, a gwnaed rhyw fath o ymdrech tuag at gael derbynwyr; ond galarus i'w meddwl fod yr ymdrech wedi bod yn ofer; felly attaliwyd ei gyhoeddiad gan ddiffyg cefnogaeth: bu hyn yn achos o alar dirfawr i Richard, digalonodd a syrthiodd i anobaith o weled ei gyhoeddiad byth. Wrth grybwyll fod Mr. J. Jones, Llanrwst, wedi argraffu cynygiad amser yn ol i gyhoeddi Geiriadur Cymraeg a Lladin y Dr. Davies a Geiriadur Lladin a Chymraeg y Dr Thomas Williams, a'i fod wedi methu a chael cefnogaeth, cwynai Richard yn erbyn ei gydwladwyr mewn geiriau fel a ganlyn:—[rhoddwn hwynt i lawr fel y cawsant eu hysgrifenu ganddo.] Wherefore the printing of this most valuable book was stopped, and I think after all my labour, &c., that so it will happen to mine: and though the enemies of learning know that they love darkness more than they love the light, and that he that hateth wisdom loveth death, and is an enemy to his own soul, yet they take no consideration from this, but they run forward with stiff neck into destruction in spite of God and men; for they hate discipline, and cast the words of God behind them.-LUKE xii. 39." Cwynai Richard fod P. A. Mon wedi troi yn dra anffyddlon iddo, ac iddo wystlo copi y Geiriadur yn nghydag amryw lyfrau ereill o'i eiddo, i ryw dafarnwr yn Nghonwy; a dyna lle bu y Geiriadur am amser maith, hyd nes y rhyddhawyd ef gan ryw berson o Gaerlleon. Ond rhyw gymaint o flynyddau yn ol, darfu i un Griffiths, Gweinidog y pryd yma gyda y Bedyddwyr yn Nghaernarfon, berswadio Richard y mynai weled ei gyhoeddi ond iddo gael y copi i'w feddiant; a chan fod Richard yn llawn awydd am ei weled yn cael ei roddi yn y wasg, cydsyniodd yn ddioedi i roddi awdurdod iddo i anfon i Gaer am dano, a llwyddodd i'w gael, ac yn meddiant y cyfryw un y mae yn bresenol. Ond yr ydys yn deall fod amryw o foneddigion Llanelwy a'r gymydogaeth yn ymdrechu cael meddiant o hono, ac fe sonir eu bod yn bwriadu rhoi tansgrifiad ar droed tuag at ei roddi yn y wasg.
Yn ystod ei ymchwiliadau am lyfrau Hebreig, dygwyddodd iddo gyfarfod â llyfr a elwir, "Y Darlleniadur Hebreig, neu Arweiniad Ymarferol i ddarllen yr Ysgrythyrau Hebreig, &c." Argraffiad Llundain, 1808. Wrth chwilio y gwaith hwn, canfu nad oedd, ar y cyfan, yn ateb y dyben y bwriadesid ef; a hyny yn neillduol am na roddai gyfarwyddiadau yn nghylch dyben a defnydd y nodau Hebreig, y rhai ydynt nid yn unig yn angenrheidiol er pereidd—sain a chywir aceniaeth yr iaith, ond hefyd er ei deall yn berffaith. I'r dyben o gyflawni y diffyg hwn, efe a gyfansoddodd Ramadeg arall dan yr un enw, oddieithr ei fod hefyd yn proffesu dysgu yr Hebraeg â'r nodau; yr hyn sydd yn gwneyd ei waith ef yn hollol wahanol i'r llall, gan ei fod yn dechreu â chyfarwyddiadau i ysgrifenu a defnyddio y cyfryw nodau, ac y mae efe yn gwneyd defnydd o honynt trwy yr holl ddyfyniadau a'r gwersi. Er hyny nid yw efe wedi egluro dim ar y pwngc dadleugar hwn yn y gwaith yma; ond oddiwrth Ramadeg llai o'i waith ef, a fwriedid er addysg cyfaill, ymddengys y gwyddai o'r goreu fod rhai yn ystyried y nodau yn sefydliad diweddarach; o herwydd hyny ymdrecha yn y rhagymadrodd, brofi hynafiaeth y nodau trwy amryw o sylwadau synwyrol, a dyfyniadau o waith R. Neconia ben Hakana, yr hwn a flodeuodd ddeng mlynedd ar hugain cyn geni Crist, ac hefyd o waith R. Simeon ben Jochai, yr hwn a flodenodd lawer o flynyddoedd cyn dechreu y Talmud. Gwnaeth Richard ryw dro mewn cyfeillach y sylwadau canlynol ar y mater dan sylw: sef, fod yr Hebraeg, heb lefariaid, fel telyn heb dannau; fod hyd yn nod yr enw llefariad yn profi mai hi sydd yn rhoddi y llais, ac nad yw yr holl lythyrenau ereill ond yr hyn eu gelwir yn briodol, sef cydseiniaid.
Nid oes genym ddim neillduol i roddi i lawr yn nghylch blynyddoedd diweddaf ei oes, heblaw ei fod yn cymeryd arno y medrai hysbysu dygwyddiadau dyfodol, a threuliodd ran fawr o honynt yn rhodio oddiamgylch, nid gan wneuthur daioni, ond gan ddyrysu meddyliau pobl ieuangc a hen ferchetos ein gwlad, trwy eu twyll—hudo i gredu y gallai adrodd eu ffawd wrthynt. A dywedir i ni ei fod yn lled hyddysg yn ngwaith Cornelius Agripa; modd bynag, yr oedd yn bur hoff' ganddo son am dano, a bygythiai ei boenydwyr y byddai iddo ei arfer. Yr oedd y rhan ddiweddaf o'i oes fel y rhan flaenaf, yn llawn helbulon. Daeth o Lerpwl i Lanelwy ar y 10fed o fis Hydref, 1843,— yr oedd yn bur wael ei iechyd ar y pryd—a pharhaodd i nychu hyd y 18fed o Ragfyr, ac efe a fu farw yn y 64 mlwydd o'i oedran. Ei hoff ymborth yn ystod ei afiechyd ydoedd bara ceirch a dwfr. Dangoswyd tiriondeb mawr tuag ato yn ei afiechyd gan drigolion Llanelwy, yn neillduol gan yr Esgob, a'r Rector Cleaver (mab i'r hen Esgob Cleaver, yr hwn a wnaeth sylw gyntaf o'i dalentau, gan fod yn noddwr iddo.) Hefyd, talodd y boneddigion canlynol ymweliad cyson iddo yn ei gystudd, y Parch. J. W. Edwards; Parch. J. Jones, Llan St. Sior; a'r Parch. W. R. Wyatt; tri ficer perthynol i'r Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy. Yr ydys yn deall fod eilun (cast) o'i ben a'i wyneb, yr hwn oedd—
"Fel y gath yn flew i gyd,"
wedi ei dynu gan Mr. Crofft Roberts, Treffynon, ac un arall gan Mr. Sullivan. Hefyd, y mae amryw o'n prif ddarlunyddion wedi tynu darlun o Richard; ond y diweddaf a dynwyd, mae yn debygol, ydoedd gan Mr. Richard Wiliams, Llan St. Sior— tynodd ddau ddarlun o hono yn mis Awst 1843—gwnaeth rafil am un o honynt yn y Bee Hotel, Abergele, ychydig amser ar ol ei farwolaeth, a daeth i feddiant Lady Gardner, Kinmel Park. Claddwyd ei ran farwol ef yn barchus yn monwent. Llanelwy, yr 21ain o Ragfyr; yr ydys yn deall i draul ei gladdedigaeth gael eu talu gan y boneddigion canlynol, y rhai a ddylynasant y corph hyd lan y bedd:—Parch. J. Jones, Llan St. Sior; Parch. Wynne Edwards, Rhuddlan; Parch. Mr. Wyatt, Dyserth; Edward Williams, Ysw., Rhyl; John Williams, Ysw., Bronwylfa; Richard Humphreys, Ysw., Rose Hill; W. Joseph Humphreys, Ysw.; O. Roberts, Ysw. M.D.; Kyffin Roberts, Ysw.; Mr. Green, White Lion; Mr. Davies, Eagles; Mr. John Roberts, Draper; Mr. R. P. Roberts; Mr. George Kerfoot; Mr. Richard Williams, Artist; Mr. H. K. Roberts; Mr. Marcus Louis, &c., &c.
Y mae ymdrech yn cael ei wneyd yn awr i grynhoi ei holl lyfrau ag sydd yn wasgaredig ar hyd y wlad, gyda bwriad i'w gwerthu, mewn rhan, er budd i hen chwaer o'i eiddo, ag sydd yn byw yn agos i Aberdaron, ac hefyd i gynorthwyo casgliad ag sydd wedi ei roddi ar droed er codi COF—FAEN ar ei fedd; yr hyn a fydd yn foddion i gynnal coffadwriaeth am DIC YR IEITHOEDD i'r oesau a ddylynant.
"IEITHOEDD a naturiaethau
Yn denu bryd un dyn brau;
I arall diball y daeth
Mawr feddwl am Rifyddiaeth;
Tuedd y llall at Awen,
A chân fydd beunydd i'w ben.
Hwn yn dda, llyma y llall
Yn oreu mewn dawn arall.
Ni edrydd craff reithydd ffraeth
Mo reol yr amrywiaeth,
Rhy uchel yw'r dirgelwch
I'w ddyall i bridd a llwch."
DEWI WYN.