Neidio i'r cynnwys

Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant)/Hunangofiant Twm o'r Nant

Oddi ar Wicidestun
Wynebddalen Hanes Bywyd Twm o'r Nant Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant)


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Sylwadau ar Nodweddiad, Gwaith, a Ffraethineb Twm o'r Nant

HANES BYWYD, &c.


Ysgrifenwyd ef ganddo ei hun, yn ei 67 flwyddyn o'i oedran: at yr hwn
yr ychwanegwyd Sylwadau ar ei Nodweddiad, ei Waith, a'i Ffraethineb.



Yr wyf yn gyntafanedig i dad a mam, ac yn tarddu o genhedlaeth tu mam, trwy Prysiaid Plâs Iolyn, ac o du tâd, o hil trigolion Dyffryn Clwyd; sef Cawryd, Cadfan, ac ereill, hyd onid aethant fel yn wehilion y genedl hòno cyn i mi ddeillio o honynt; sef gan mwyaf, yn dylodion, ac yn annysgedig, o ran medru ar lyfrau, ond y medr oedd ynddynt yn ol natur gyffredin, fel creaduriaid ereill. Ac o lwynau pa ai fe'm dygwyd i'r byd, mewn lle a elwir Penparchell isaf, yn mhlwyf Llannefydd, ar dir ag a fu yn etifeddiaeth Iolo Goch, arglwydd Llechryd; sef ei dŷ ef oedd Coed y Pantwn; ac ef a'i feibion a gladdwyd yn monachlog Eglwysegl, gerllaw Llangollen.

Ond i ddyfod at fy addewid, mewn perthynas i'm treigliad yn y blaen: mae yn debygol ddarfod blino ar gwmpeini o'r fath ag oeddym ni, yn nhŷ fy nhaid a'm nain; fe orfu iddynt symud i'r naill gwr i'r tir, i le a elwir Coed Siencyn, lle buwyd gylch blwyddyn neu ragor, a hyny cyn y rhew mawr, pryd yr oedd y farchnad yn ddrud iawn; a'r Gwanwyn canlynol fe ddaethwyd i'r Nant, gerllaw Nantglyn, yn nghwr plwyf Henllan, lle mae lle a'i enw Cwm Pernant, neu Gwm Abernant, lle bu un Sion Parry, prydydd, ag oedd yn perchenogi y lle hwnw; a'r Nant sydd ganol o dri thŷ yn y cwm hwnw, sef y Nant isaf; ac yn y Nant uchaf yr oedd pobl a chanddynt fachgen ar yr un pryd ag yr oeddwn inau yn dechreu codi allan; ac oblegid eu bod hwy yn fwy ardderchog o ran pwer ac ablwch, gan nad oedd yno ond dau blentyn, ac o honom ninau ddeg, o barthed hyny fe y'm galwyd i yn TWM o'r NANT, ac yntau yn Thomas Williams.

Ond cyn neidio yn rhy bell o'r dechreu, yr wyf yn cofio, pan oeddwn ychydig dros dair blwydd oed, a myfi yn dyfod gyda'm mam oddiwrth y pistyll o nol dwfr, ac yr oedd ar gornel y tŷ ysgol, cylch wyth llath o hyd, wedi ei rhoi i rwystro y gwynt godi y to; minau, yn lle dilyn fy mam, a aethym i ben uchaf yr ysgol, ac ewythr i mi frawd fy nhad, a'm tad-bedydd inau, a ddaeth heibio; minau a ddywedais, Edrych yma tada bedun lle'dw'i—Yntau, dan ddywedyd yn deg wrthyf, rhag i mi ddychrynu a thori ngwddf, a ddaeth ac a'm cymerodd i law:; ac ni chafodd fy mam ddim gwybod y pryd hyny, rhag iddi gael dychryn.

Gwedi hyny ar fyr, pan oedd fy mam wedi fy ngadael i a fy chwaer yn y gwely ein hunain y bore, a myned i ryw neges i dŷ cymydog, pan ddeffroais i, a dechreu galw Mam, heb neb yn ateb, mi a gymerais fy esgidiau am fy nhraed, a'm het am fy mhen, ac a aethym i dŷ fy nain yn noeth lymyn; ond fy nain a'm cymerodd, ac a'm rhoddes mewn gwely cynhes; a chyn pen hir dyma fy mam yn dyfod, wedi ammeu pa le gallwn fod, a'm dillad yn ei ffedog, a'r wialen fedw yn ei llaw. Fe fu yno ffwndwr fawr; un am fy achub, a'r llall am fy ngheryddu; ond beth bynag mi gefais fy hoedl gyd rhyngddynt. Yr oedd fy mam yn fy ngwarchae, fel ag y daethym yn y blaen; ni feiddiwn i na thyngu nag enwi Duw yn ofer: ec yn wir drwy drugaredd, fe safodd yr addysg hòno wrthyf byth.

Pan oeddwn yn blentyn, fe fyddai arnaf ofn Duw, ac ofn pe buasai i mi alw y cythraul y daethai fe i'm nol yn y funud.

Ond y'mhen ychydig, o ddeutu chwech neu saith mlwydd oedran, daeth ysgol rad i Nantglyn, mi a gefais fyned yno i ddysgu y llythyrenau; ond yr oedd llawer o sôn yn mysg hen wragedd cyfarwydd y wlad, y byddai iddynt fyned â'r holl blant i ffordd pan ddelent yn fawrion, oblegyd eu bod yn rhoi eu henwau i lawr; ond beth bynag, ni chlywais i un o honom fyned. Ond fe aeth y frech wên a myfi adref yn sâl; ac yn ol gwella o hono yr oeddwn yn rhy gryf i allu hyfforddio colli gwaith ac amser i fyned i'r ysgol; fe orfu i mi ddysgu gyru yr ychain i aredig a llafurio, yn hytrach na dysgu darllen; ond fe fyddai fy mam yn adgofio i mi yr egwyddor yn fynych iawn.

Yr oeddwn erbyn hyn cylch wyth oed; a'r haf hwnw mi a gefais fyned i'r ysgol drachefn am dair wythnos; a phan gyntaf y dysgais yspelio a darllen ambell air, mi a ddechreuais fyned yn awchus iawn i ysgrifenu; mi heliais gnotiau yr ysgaw i wneyd inc; ac a deilais hyny o ochrau dalenau llyfrau ag a ddown o hyd iddynt. Ond o ddamwain fe aeth siop yn y dref ar dân, ac a losgodd gan mwyaf oll, ond ambell ddarn a safiwyd; ac yn mhlith y darnau llosgedig, fe gafodd fy mam, am geiniog, ryw gynnifer o bapyrlenau llosgedig eu cornelau, ac a wniodd i mi gopi. Minau a aethym at y gôf i Waendwysog, ac fe ysgrifenodd yr egwyddor yn mhen uchaf y dalenau; a gofalus iawn a fu'm yn canlyn ar lanw yr holl bapyr, yn gyffelyb i ôl traed brain. Cefais bapyr ae inc, ac ambell gopi gan hwn a'r llall, hyd nes dysgais ddarllen Cymraeg, ac ysgrifenu ar unwaith.

Mi a ysgrifenais lawer, o gerddi, a dau lyfr Interlude, cyn bod yn naw oed; ac wrth weled fy athrylith i ddysgu, fe ddaeth hwn a'r llall i edliw i'm rhieni na baent yn fy rhoi i ddysgu Saes'neg; ond wrth hir addaw, hwy a'm gadawsant i fyned i'r dref i'r ysgol, lle bu'm am bymthengnos yn dysgu Saes'neg; a dyna'r cwbl. Fe orfu i mi ddyfod adref i wneyd rhyw beth am fy mara, a thu ag at gynnal y plant ereill.

Ond gan faint oedd fy awydd i ddysgu, mi a ganlynais arni o hyd. Pan ddown o'r maes i'm pryd bwyd, mi awn at y dresser, lle yr oedd drawer a phapyrau genyf, ac ysgrifenwn, er a allent hwy yn peri i mi gymeryd bwyd; a'm heithaf lawer pryd oedd cipio tamaid o frechdan yn fy llaw, a hyny gyda llawer o ddrwg, eisieu bwyta llaeth neu bottes, yn lle'r ymenyn.

Ond ar un tro, wrth yru'r wedd gyda'r clawdd, fe rwygodd, draenen, neu fieren, fy labed oddi wrth fy nghoat, fe'm tarawodd fy nhad, gan fy rhegu, ac edliw, mai gwell oedd genyf drin fy mhapyrau c——l, na thori mieri oedd yn rhwygo fy nillad, ac yn tynu gwlan y defaid. Minau tan ysnwffian crio, ac yn addunedu os fi âi byth i'r tŷ, y llosgwni yr holl bapyrau. Ac yn fy ystyfnigrwydd y noswaith hono, mi losgais ryw becyn o ysgrifeniadau, o'r fath ag oeddynt hwy.

Byddai 'mam yn drwyn-gam dro,
'Ran canwyll oedd rhinc hono;
Fy nghuro'n fwy anghariad,
A baeddu'n hyll byddai 'nhad.
Minau'n ddig o gynfigen,
Cas o'm hwyl yn cosi 'mhen,
Ac o lid, fel gwael adyn,
Llosgi 'ngwaith, yn llosg fy nghwyn.


Yr oeddwn erbyn hyn cylch deg oed; ac er llosgi y llyfrau yr oedd yr hen natur yn llosgi ffordd arall, am gael canlyn yn mlaen ar drin papyrau; mi aethyn yn gyfaill a hen Gowper gerllaw Nantglyn, yr hwn oedd yn fawr ei athrylith am ysgrifenu gwaith prydyddion, sef, cerddi, carolau, &c. Ac ar fyr amser wedi, mi aethym ya gyfaill âg un arall, o'r un fath natur am hel llyfrau; sef hen ddyn oedd yn Mhentre'r Foelas, yn darllen yn y capel y Suliau, ac yn clocsio amseroedd ereill. Cefais fenthyg hen lyfrau gan hwnw lawer gwaith. A thrwy bob peth a'u gilydd, mi ddysgais ysgrifenu yn lled dda yn y cyffredin o'r gymydogaeth hono.

Yn ganlynol mi aethym yn gyfaill âg un arall oedd yn brydydd, heb fedru darllen nag ysgrifenu; ac yr oedd ef yn un naturiol iawn o ran llithrigrwydd ei awen am y mesurau tri neu bedwar ban; efe a gyfenwyd Twm Tai yn Rhôs. Fe wnaeth i mi englyn, i'w roi mewn llyfyr oedd genyf o gasglad cerddi:

Twm Ifan wiwlan alwad,—yn bwer
A biau'r darlleniad;
Heliai gerddi i lenwi'r wlad,
Dew gywaeth, rhwng dau gauad.


Twm neu Thomas Evan, yr oeddwn i yn ysgrifenu fy enw, cyn myned y pymthengnos hyn i'r dref, i ddysgu Saes'neg; dyna'r pryd i'm cyfenwodd hwnw fi yn Thomas Edwards, oblegid mai Evan Edwards oedd enw fy nhad; ac na fyddai ond bastardiaid yn myned ar ol yr enw cyntaf.

Beth bynag, mi gefais yr anrhydedd o fod yn ysgrifenydd i'r hen brydydd; pan wnai ef gân, fe'i cofiai hyd nes deuwn ato. A phan fyddai yr hen wr yn dywedyd ei waith, mi godwn weithiau i ymresymu âg ef, oni byddai y peth yn well ffordd arall; braidd nad oedd ef yn eiddigeddu wrthyf, rhag fy mod yn gwneyd artaith ar ei waith ef.

Ond cyn fy mod yn ddeuddeg oed, fe gododd saith o lanciau Nantglyn i chwareu Interlude, a hwy a'm cymerasant inau gyda hwynt, rhwng bodd ac anfodd i'm tad a'm mam, i chwareu part merch; oblegid yr oedd genyf lais canu, a'r goreu ag oedd yn y gymydogaeth. Mi gefais y part i'w ddysgu, mewn cwrw gwahawdd i ddyn tylawd, yn y Fach yn agos i Felin Segrwyd, lle y telais y tair ceiniog gyntaf erioed am gwrw. Felly ni a ddysgasom chwareu yn ganolig yn ol y dull ag oedd y pryd hyny. Minau yn hogyn â'm holl ddymuniad ar ddarllen ac ysgrifenu, oeddwn yn athrylithgar iawn at ganu; mi wnaethym Interlude (ar y llyfr elwir Priodas Ysprydol, gan John Bunyan) braidd i ben; a hyny heb. wybod i neb; ond fe ddaeth rhyw lanc o Sir Fôn heibio y Nant, ac a gafodd letty; ac ef oedd ysgolhaig, a thipyn o'r natur ynddo; minau mewn caredigrwydd yn dangos pob peth iddo ag oedd genyf; yntau wrth fyned ymaith a ddygodd gan mwyaf o'm llyfyr. Braidd na ddigalonaswn y pryd hyny rhag prydyddu rhagor.

Mi a aethym gyda llanciau ereill o gylch Nantglyn i chwareu drachefn, pan oeddwn gylch 13 oed. Yr oeddwn erbyn hyn, os yr un yn ddoethach na hwy, oblegid y mater. Fe ddaeth fy natur yn rhy gref i'w gorchuddio; yr oedd hwn a'r llall yn dechreu taeru fy mod yn brydydd; a'm tad a'm mam yn ysgyrnygu yn arw rhag fy mod yn fy ngwneyd fy hun yn brixiwn. Ond pe buaswn fwy gwaradwydd, neu brixiwn, im' fy hun a'm cenedl hyny a fu.

Mi a wnaethym Interlude cyn bod yn 14 oed yn lân i ben; a phan glybu fy nhâd a'm mam nid oedd i mi ddim heddwch i'w gael; ond mi beidiais a'i llosgi; mi a'i rhoddes i Hugh o Langwm, prydydd enwog yn yr amser hwnw; yntau aeth hyd yn Llandyrnog ac a'i gwerthodd am chweugain i'r llanciau hyny, pa rai a'i chwareusant yr haf canlynol. Ond ni chefais i ddim am fy llafur, oddieithr llymaid o gwrw gan y chwareuyddion pan gwrddwn â hwynt. Yr oedd hyn i ganlyn pethau ereill, yn annogaeth i'm dal yn ol rhag prydyddu, pe buasai ddim yn tycio.[1]

Ond yn ganlynol, fel yr oedd fy natur i fel yn anorchfygol, mi a wnaethum Interlude drachefn, ar y testyn 'Jacob yn dwyn bendith Esau; a hòno a actiwyd gan lanciau Nantglyn a minau.

Ac yn ol hyny y gwnaethum Interlude 'Jane Shore.' Hono a actiwyd yn gyntaf gan lanciau Llannefydd; ac yn ganlynol, gan lanciau Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Ac yn ol hyny, pan oeddwn gylch 20 oed, gwnaethym Interlude yn nghylch 'Cain ac Abel,' i'w hactio rhwng pedwar dyn; ac mi a fum yn bedwerydd, gyda llanciau Llansanan; a ni a ganlynasom arni am flwyddyn.

Ac yn ol hyny, oblegyd euogrwydd cydwybod, ac hefyd, fy mod yn caru merch ag oedd yn tueddu at grefydd, wrth i mi ddyfod o le elwir Roe Wên, gerllaw Tal y Cafn, mi a deflais y cap cybydd tros ochr yr ysgraff i Afon Gonwy.

'Rwyf wedi blino'n wawd i blant;
Nid dyma'r ne' i Dwm o'r Nant!

Ac yn 24 oedran mi a briodais fy ngwraig ar y 19 dydd o Chwefror, yn y flwyddyn 1763. A merch i ni a anwyd yn yr un flwyddyn, Rhagfyr 26.

Ni a gychwynasom sefydlu ein bywioliaeth yn y Bylchau, ar fin y ffordd o Nantglyn i Lansanan, tyddyn ag oedd yn perthyn i'r Nant; ond fy mhobl i, yn enwedig un chwaer, oedd yn erbyn i ni aros yno; a minau a gymerais ryw le bach islaw tref Dinbych, a elwid yr Ale Fowlio. Buom yno gylch dwy flynedd, yn cymeryd gwair a phorfa oddi amgylch, ac yn cadw tair buwch a phedwar ceffyl, a'm gwaith i oedd cario coed o Waenynog i Ruddlan: ac yr oeddwn yn rhagori ar bawb o'r carriers ereill ar lwytho, ac ar bob trinogaeth oedd yn perthyn i drin coed; ac o ran hyny byddai raid i mi helpu a ffwndro gyda hwynt yn y coed, hyd onid aeth fy ngwraig i rwgnach fy mod mor fföl a chadw y ceffylau oddiwrth eu bwyd, a'm poeni fy hunan gyda phobl ereill. Felly y wraig a'm cynghorodd i ddyfod i lwytho brydnawn, pryd na byddai neb arall, y deuai hi gyda myfi i'm helpu; ac felly fu.

Ond wrth hir ddal at hyny, a hithau yn anystwyth, o herwydd y cyflwr yr oedd ynddo, i droi yn rowel y crane gyda throsolion heiyrn, mi a ddyfeisiais fachu y ceffylau wrth y rhaff i godi y coed i'w llwytho. Ac yn ol dysgu y ceffylau i dynu ac i ddal, yr oedd llwytho yn dyfod yn esmwythach i'r wraig a minau; a dyna'r bachu cyntaf wrth raff crane yn Nghymru ac yn Lloegr, ac yn ganlynol, yr oeddym yn cael llonyddwch a hwylustra, o ragor bod yn trafferthu yn mysg carriers ereill.

Rhyw dro ni a aethom i'r coed, ac a edrychasom am lwyth, beth a welwn yn ochr nant Gwaenynog, ond llawer o ôl traed ceffylau, ac arwydd fod yno drafferth fawr yn ceiso pren i fynu, ac yn lle iddo ddyfod, fe aeth yn mhellach i'r nant nag oedd yn y dechreu, a bu orfod i ddau garrier ag wyth o geffylau ei adael yno. Minau a synais beth uwchben y pren; ac yna, gyda fy nhri cheffyl a pheth ysgil, mi a'i tynais allan ac a'i llwythais, dim ond y wraig a'r ceffylau a minau.

A Chalanmai, yn mhen y ddwy flynedd, ni a ddaethom o'r Ale Fowlio, i ben isa'r dref, i ryw hen dŷ, ac mi ail adeiladais hwnw, ac a wnaethym ystablau a chyfleustra yno.

A'r haf canlynol yr oedd coed Bychymbyd i'w cario, a chyda rhei'ny y ba'm hyd ddiwedd y flwyddyn hono; ac yna fe ddaeth y clafr ar y ceffylau, a rhei'ny yn meirw, a'r gusb neu'r staggers i orphen, a chwedi hyny y rhent, a'r merchant oedd arno arian gwedi myned i'r môr; ac yno fe redwyd arnaf am yr ardreth; a'r pryd hyny mi a guddiais ddau geffyl, ac fe brynodd cyfaill y waggon, ac fe'm trystiodd am dani; ond fe werthwyd y cwbl oedd yn y tŷ; nad oedd genyf un gwely i orwedd, ond gwellt a rhyw faint o ddillad a brynodd un o'r cymydogion, a'u benthycio imi am dro. Yna nid oedd genyf ddim i'w wneyd, ond cymeryd rhyw ddynan, ag oedd ganddo dri cheffyl, yn rhanog, ei dri ef a'r ddau oedd genyf finau, a rho'i gwêdd ar gerdded; ac efe yn dweyd mai efe oedd biau hòno, ond ei fod ef yn talu i mi am help o lwytho. Felly cario yr oeddym i' Dref-ffynon, a manau ereill; ac yr oedd yno walch o ŵr boneddig, a elwid Mostyn o Galcoed, ac yr oeddwn yn ddyledus i hwnw am beth rhent am borfa; ond nid oedd ef yn medru cael craff ar y wêdd, gan ei bod yn enw un arall.

O'r diwedd mi a darewais wrth finers o Sir Fflint, a hwy. a'm denasant i wneyd Interlude; minau a wnaethym ar "Weledigaeth Cwrs y Byd," yn nechreu y Bardd Cwsg; a chwareu buom bedwar o honom; ac wrth chwareu fe'm daliwyd yn y Brickill, dros Mostyn Calcoed, i fyned i'r Jail. Minau a roddais feichiafon tan y session; a rhwng hyny oedd y wêdd yn ei enill, a minau wrth chwareu, mi a delais yr arian gyda llawer o gost.

A phan ddaeth hi yn ddiwedd blwyddyn, mi a gedewais y waggon, ac un ceffyl, a mi a roddais heibio chwareu gyda rhei'ny, ac a wnaethymn Interlude i'w hactio rhwng dau, a mi a ganlynais hono dros flwyddyn, yn mhell ac yn agos, ac a enillais lawer o arian. Ei thestyn oedd Yn nghylch Cyfoeth a Thylodi.'

Ac yn ol hyny, mi a wnaethym un arall rhyngom ein dau, 'Am Dri Chydymaith Dyn, sef y Byd, a Natur, a Chydwybod; ac a'i dilynasom mor ddyfal a'r llall.

Ac wedi blino ar hono, mi a wnaethym un ar destyn, 'Y Brenin a'r Ustus, a'r Esgob a'r Hwsmon;' a ni a ganlynasom lawer ar hono.

Mi a fyddwn yn arfer, pan yn min troi heibio chwareu, eu hargraffu, a'u gwerth; a gwerthu hwylus oedd arnynt, a thâl da oddi wrthynt.

Ac yn ol blino yn canlyn chwareu, mi a godais wêdd, ac a aethym i gario o Gaer i dref Ddinbych, i siopwyr ac ereill. Yr oeddwn erbyn hyn yn lled gryno, gwedi cael pethau yn tŷ, a gwedd ganolig i gario. Ac felly dal at gario y bum, hyd onid aeth y waggon sengl yn waggon ddwbl, a chwech o geffylau da yn ystlysau eu gilydd; a phedwar o rai gweddol wrth y waggon gul. Fe dynai y chwech o gylch pum tunell o bwysau; a'r waggon arall gylch dwy dunell a haner. Mi a fum felly yn dal i gario o Gaer cylch 12 mlynedd, nes y daeth rhyw genedl wenwynig o'r dref i ymryson ac i ostwng ar y cyflog, ac i wneyd pob cenfigen a ellynt.

Yna mi aethym yn lled ddi-fater am Gaer, ac a dröais i gario coed. Mi a fu'm yn cario haner blwyddyn o goed y Fron, sef coed Rug, oddiwrth Gorwen i Ruddlan: ac ambell waith i Gaer; ond yr oeddwn y pryd hyny drwy bob peth, gylch gwerth 300p. o'm heiddo fy hun. Ond fel yr oeddwn yn ffyrnig am wneyd fy ngoreu, mi ymroisym i gario coed o lawer o fanau, pan aeth cario Caer yn waeth.

Mi a fu'm yn cario coed mawr o Bathafarn, a Pharc Pysgodlyn, ac Euarth, a'r Plas Uchaf, Llanfair, ac o'r Gyffylliog, ac o Fychymbyd Bach a'r Fronheulog, a thrachefn o Waenynog, a Segrwyd Uchaf, ac o'r Ty'n y Pwll, ac amryw fanau ereill.

Ac ar ryw dro pan oeddwn, fel y brenin Dafydd ar nen ei dŷ, yn ysgafala gartref, fe ddaeth ewythr i mi frawd fy nhad, a'm tad-bedydd inau, i'r dref, wedi ei ddal i fyned i Ruthyn am 30p. o ddyled, ac yr oedd ef yn ddigon abl i dalu, ond cael peth amser; felly fe yrwyd am danaf, i fyned yn feichiai iddo ympirio y session. Felly yr aethym, a phan ddaeth yr amser, mi aethym âg ef at ei ŵr o gyfraith, yr hwn a'i daliasai, i Wrexham, a'r hwn a'i cynghorodd ef a minau, iddo dalu fel y gallai, y cymerai fe nhwy felly, yn swm bychan, a hyny a fu. Ond beth bynag, yr hen ŵr oedd yn oedi talu, a'r cyfreithwr yn rhoi cost bob tro, hyd nes aeth yr arian yn fwy; ac o'r diwedd fe dòrodd fy ewythr i fynu; ac yna fe ddaeth ataf finau dri o failiaid; minau yn lled gyfrwys-ddrwg yn fy meddwl, a ddywedais yn deg wrthynt, ac a'u meddwais, a'r un oedd a'r writ ganddo a ddaeth i'm gwely i at y gwas i gysgu a phan gysgodd ef, mi a hwyliais forwyn oedd genyf i nol ei bocket book ef i gael i mi'r writ; ac felly fu. Ac ar fyr mi ofynais i'r bailiaid, pa le yr oedd eu pwer i aros yno; ac yna hwythau gan edrych ar eu gilydd, a'r naill yn rhegu'r llall; a chwedi y cwbl, nid oedd ond troi cefnau y tro hwnw. Minau aethym at yr hwn yr oedd fy ewythr yn ddyledus, ac a gytunais i'm hewythr a minan dalu yr arian iddo ef fel y gallem; a hyny a fu. A'r cyfreithiwr a yrodd genad bwrpasol o hyd nos at y gofynwr drachefn, yntau a roddes ei law wrth ryw bapyr i'r Attorney gyda'r genad yn ol. Yna y cyfreithiwr a wnaeth writ â'i law ei hun, heb un Sirydd na Deputy wrthi, ond ei waith ef ei hun. Minau a insistiais am gael ei gweled, ac adnabum, ac ereill gyda mi, a'r hen writ yn tystio llaw y Sirydd. Beth bynag mi yrais gyd-rhyngwyf â'm cymydogion chwech neu saith o geisbyliaid i ffwrdd ar unwaith.

Rhwng fod cario o Gaer wedi myned yn waeth, a blinder ac ofn y gwalch hwnw, mi a gymerais goed, gan un Sion Stoakes, o Groes Oswallt, a'r coed oedd ar dir Dolobran yn Swydd Drefaldwyn. Mi a gymerais y coed a'r fferm hefyd; ac yno yr aethym. Yr oedd yno fferm dda, a melin yn ei chanlyn, ac heb fod yn rhy ddrud. Mi a fu'm yno yn cario, ac yn hwylio i drin y tir, a gosod llawer o hono. Ond yn nghanol y cwbl, yr oedd y diawl ar waith, a chanddo dwrnel yno i bobi i mi fara lefeinllyd. Fe gafwyd yno writ yn fy erbyn; a minau a ddeallais, ac a ddaethym at gyf- reithiwr Dinbych, i ddeisyf heddwch am amser, fy mod mewn cychwynfa bywioliaeth yn y wlad hòno; yntau a ysgrifenodd i mi lythyr, ae yn bur fwyn wrthyf, a pheri i mi ei roddi â'm llaw fy hun i'r Attorney hwnw, y byddai pob peth yn burion.

Minau yn llawen a aethym ar gefn fy merlen adref; ac yno mi ystyriais beth a allai fod yn y llythyr; cymerais. bibell ac a'i dodais yn tân, ac a chwythais trwyddi i agoryd y sél; a phan agorais, yr oeddwn fal y rhei'ny â'r arian yn ngenau'r ffetanau, yr oedd yno yn gynhwysedig am i'r gwalch hwnw ganlyn arnaf, mai goreu y cam cyntaf, fy mod yn ddigon abl i dalu.

Pan welais beth oedd yno, mi a losgais y llythyr, ac a gymerais y carnau i'r Deheudir, at ŵr o Eglwys Fach, oedd gwedi pryau coed Abermarlais, yn Swydd Gaerfyrddin. Yr oedd yn Meifod, (y plwyf lle'r oeddwn) Exciseman o'r wlad hòno, cefais ddirection o'r ffordd ganddo ac ymaith â mi. Cychwynais ddydd Sadwrn, ac yno nos Sul, heb son wrth neb o'm teulu, ond with fy merch hynaf.

Ac ar ol lled gytuno am waith cario, am 6ch. y droedfedd o'r coed i Gaerfyrddin, daethym adref gyntaf gellais, ac a heliais y waggon ddwbl a'r ceffylau, wyth o honynt, ac a wnaethym y goreu o'm ffordd. Ac mi adewais y waggon fach yno, a'r teulu, dim ond y llanc a minau aeth y pryd hyny; yr oedd rhy-hwyr genyf gychwyn o Swydd Drefaldwyn. Ac yn ol cyrhaedd yno mi a gefais le da i'r ceffylau, a gadewais y llanc a hwythau yno, ac a ddaethym i nol fy ngwraig a'm tair geneth. Pacio rhyw betheuach, i'w rhoi gyda charrier i Fachynllaeth. Yr oedd genyf lonaid cŵd llestraid o lyfrau, a dillad hefyd mewn sachau. Ar o! i mi a'r merched ddyfod i ffordd, ni welais fyth ddim o'r eiddo, y waggon, na'r dillad, na'r llyfrau. Gyda llawer o flinder a thrymder calonau, ni a ddaethom oll i ben ein siwrnau yn lled iach. Ni a fuom ryw hyd heb gael lle i settlo i fyw, heblaw ar aelwyd ereill; ond trwy ryw ragluniaeth fe ddarfu ein meistr y timber-merchant, gymeryd gate turnpike am 108p, yn y flwyddyn o rent, y ni i gael arian y gate at ein bywioliaeth, a settlo y rhent wrth gario. Buom felly yn dechreu bwrw ein henflew yn rhyfedd, a minau yn cario coed mawr iawn, na welwyd ar olwynion yn y wlad hóno mo'u cyffelyb, nac yn odid o wlad arall, am a glywais i. Llawer o goed a lwythais, ac aethym i ben eu siwrneu; rhai yn 100 troed- fedd, a 150, a 200, yn un darnau; a'r mwyaf oeddynt yn ei alw brenin-bren, oedd yn 244 troedfedd. Yr oedd genyf dri-phar o olwynion yn cario hwnw; y waggon oedd â dau fraich cryfion ar ei hyd, a rowl ar y canol, a'r trydydd pâr o'r tu ol yn cyd-gario, fel pe buasai ond pedair olwyn. Ond wrth ddyfod i'r coed i lwytho y pren hwnw, fe gododd pobl y wlad, o'r llanau a'r ffyrdd, fel pe buaswn yn y wlad yma yn chwareu Interlude; a llawer o'r bobl gyfarwydd yn dywedyd na lwythwn byth mono, na ddaliai y taclau ddim i godi y fath bwysau. Yr oedd ef 45 troedfedd o hyd, a chwedi ei ysgwario yn lan; minau a godais y crane uwchben ei flaen ef, ac fe'i cododd y ceffylau ef yn esmwyth; ac yna rhedais y pâr olaf mor belled ag y medrwn dano; ac yna symud y crane at ei ben bôn, a deisyf ar y segurwyr oedd yno neidio ar y gynffon; ac yna codi'r bôn, a'i lwytho ar y waggon; ac yna gyru yn mlaen ac ail settlo yr olwynion olaf; yna myned i'r ffordd, ac i Gaerfyrddin, heb gymaint a thori link tres. Ond wedi myned i'r dref, at borth Heol y Brenin, a'r ceffylau yn nwbl, ac yn llonaid y porth, a thalcen y pren yn taro yn yr arch, dyna luoedd o bobl y farchnad yn dechreu ymgasglu o'm cwmpas, ac yn tyngu nad awn byth y ffordd hòno; minau wedi synu peth a gefais gan rai oedd yno, trwy addaw yfed atynt, fy helpu i facio yr olwynion yn eu holau; ac felly, trwy fod amryw yn taro llaw at y peth, mi a'i cefais hi yn ol; a chwedi hyny, ni a aethom, dri neu bedwar, i yard yr Ivy Bush, tŷ tafarn, lle yr oedd crystiau coed (yslabs) ag a gawsom eu benthyg, a mi a'u gosodais hwynt o flaen yr olwynion olaf, yn glwt. i godi rhei'ny fal y byddai i'r pen arall ostwng tan y bwa maen, ac felly y bu, a'r edrychwyr a roddasant fanllef groch wrth weled y fath beth, ac amryw o honynt a yfodd at y llanc a minau am ein gwyrthiau.

Gwedi yr holl bethau hyn, yr oedd yr hen ganer yn perthyn i mi eto. Beth a'm cyfarfu un diwrnod, ond tri o'r hen deulu, ceisbyliaid Swydd Drefaldwyn; hwy ddechreuent ymaflyd yn y wedd, a myned â hi i'r tŷ tafarn yn Llandeilo Fawr, yn agos i'r lle yr oeddwn yn cadw y gate; minau a aethym yn greulawn am i'r ceffylau gael myned i'w ystabl eu hunain, ac iddynt hwythau settlo dranoeth. Beth bynag yn ymrafael yr aeth hi, a dechreu ffusto a wnaethym, a mi a gefais ddau i lawr, ac a ddeliais i guro gyda hyny, dyma'r trydydd yn dyfod. Pan welodd hwnw ei gyfeillion ar lawr, fe ddaeth tu cefn i mi, ac a ddechreuodd fy mesur: ond dygwyddodd i hen was Rice o'r Dref Newydd ddyfod yno, ac fe gafwyd heddwch; a'r bailiaid a fynasant gonstabliaid, a chyda hwynt y bu'm i yn ddrwg fy nghwrs trwy'r nos. A chyfeillion i mi oedd o amgylch y drysau: pe cawsant ryw faint o gyfleustra, hwy a fuasent yn dybenu y tri cheisbwl maes o law; ond ustus heddwch yn y dref a ddeisyfodd arnaf fod mor heddychol ag y medrwn, y mynai ef wastadhau mater y boreu; ac felly y bu. Fe roddwyd ar ddau ŵr, un o'u tu hwy, ac un o'm tu inau; a gofyn yr oeddynt oedran y ceffylau, minau yn eu rhoi yn hen iawn, a rhai yn ddeillion, fel y rhoid digon bychan o bris; ac felly fu. Mi a ddaethym yn well nag y disgwyliais; un yn prynu a'r llall yn gwerthu, mi a'u cefais yn ol, trwy dalu yn nghylch 50p.

Ac ar ol hyny, mi a ddaethym yn fwy adnabyddus ac yn fwy fy mharch yn mhlith estroniaid, nag o'r blaen, trwy iddynt. ddeall mai cam oeddwn yn ei gael.

Y gate oedd y flwyddyn gyntaf yn lled gwla o ran profit; yr oedd fy merch hynaf yn rhoi y cwbl i lawr a dderbynid ynddi; ond yr ail flwyddyn, hi a dalodd yn bur dda; a'r drydedd fe godwyd arni 15p. ond nid drwg oedd hi yno.

Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw yn gyheureth neu ledrith; weithiau hearses a mourning coaches, ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor amlwg ag y gwelir dim, yn enwedig liw nos.

Mi a welais fy hun, ryw noswaith, hearse yn myned trwy'r gate, a hithau yn nghauad; a gweled y ceffylau a'r harness, y postillion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hearses, a'r olwynion yn pasio'r ceryg yn y ffordd fel y byddai olwynion ereill: a'r claddedigaeth yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen: ac weithiau y gwelid canwyll gref yn myned heibio.

Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gate, Edrychwch acw, ebr ef, dacw ganwyll gorph yn dyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw; felly ni a ddaliasom sylw arni yn dyfod, megis o'r tu arall i'r lan; weithiau yn agos i'r ffordd, waith arall ennyd yn y caeau; ac yn mhen ychydig bu raid i gorph ddyfod yr un ffordd ag yr oedd y ganwyll; oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o eira.

A thro arall rhyfedd am hen wr o Gaerfyrddin, a fyddai yn cario pysgod i Aberhonddu, a'r Fenni, a Monmouth, ac yn dyfod â Gloucester cheese teneuon ganddo yn ol; yr oedd fy mhobl i yn gwybod ei fod ef ar ei daith, ac yr oedd yr hin yn ddrycinog iawn, o wynt ac eira lluchio; a chanol y nos, fe glywai fy merched i lais yr hen ŵr yn y gate, a'u mham a'u galwodd hwynt ar frys, ac erchi ar i'r hen wr ddyfod at y tân. Codi a wnaeth y ferch; erbyn myn'd allan nid oedd yno neb; a thronoeth dyma gorph yr hen ŵr yn dyfod ar drol, gwedi marw yn yr eira ar fynydd Tre'r Castell: a dyna'r gwir am hwnw.

Llawer yn rhagor a ellid adrodd o'r fath bethau; ond nid ydynt ddim gwerth eu hadrodd, am nad oes fawr a'u coeliant. Ond ar ol y drydedd flwyddyn yn y gate, mi a gymerais lease yn Llandilo Fawr, ac a wnaethym dŷ i'r merched i gadw tafarn, a minau o hyd yn cario coed; fe ddarfu i'r merchant yn Abermarlais adeiladu llong fechan, a gariai gwmpas 30 neu 40 tunell; fe'i gwnaeth hi yn y coed, cylch milltir a chwarter oddiwrth afon Tywi, pa un a fyddai yn cario llestri bychain ar lif i Gaerfyrddin; ond hon a wnaed yn rhy drom i'w llusgo at yr afon yn y dull yr oedd y gŵr yn bwriadu; sef i bobl ei llusgo, o ran sport; fe roes gri mewn pedair o lanau, bod llong yn Abermarlais i gael ei launchio ryw ddiwrnod penodol, ac y byddai bwyd a diod i bawb a ddelai i roi llaw at yr achos. Felly fe ddarllawwyd pedwar hobed o'n mesur ni yn Ninbych, sef dau dêl yno; ac fe bobwyd ffwrnaid fawr o fara, ac fe brynwyd rhyw lawer o gaws ac ymenyn, a chig i'r bobl oreu: yr oedd y llong wedi rhoi pedair olwyn tani fel pedair o fothau troliau mawr, a'u cylchu â haiarn, ac echelau mawr yn y bowliau hyny; ac wedi eu hiro erbyn y dydd cysegredig. Minau oeddwn yn dygwydd llwytho yn y coed y diwrnod hwnw; ac ar ol gyru y wedd yn ei blaen, mi arosais yno i weled yr helynt; a helynt fawr a fu: bwyta yr holl fwyd, yfed yr holl ddiod, a thynu y llong o gylch pedwar rhŵd o'i lle, a'i gollwng i ffos clawdd ddofn. Erbyn hyny yr oedd hi agos yn nos, ac ymaith â'r gynulleidfa; rhai yn o feddwon, a'r lleill ag eisieu bwyd, a llawer o chwerthin oedd yn mhlith y dorf. A'r merchant a dorodd i gwyno, o ran ei ffolineb yn gwneyd y fath beth, ac yn dywedyd wrthyf, y byddai raid ei thynu oddiwrth ei gilydd cyn byth y caid hi o'r clawdd.

Minau a ddywedais y medrwn fyned a hi i'r afon ond cael tri neu bedwar o ddynion i'm helpu; yntau a ddywedodd y cawn y peth a fynwn, os medrwn fyned a'r llong i'r afon. A deisyf yr oedd arnaf am ddyfod boreu dranoeth, os gallwn minau a ddaethym, a'r llangc, a phedwar o'r ceffylau; a mi ddaethym o flaen y wêdd, a rhoddais y dynion ar waith, i dori twll mewn hen wal fawr, oedd megys o flaen y llong; ac yno rhoi darn o bren ar draws y twll, y tu pellaf, i roi chain i fachu y tacl, sef rhaff a blociau, a bachu y pen arall wrth y llong, a rhoi y ceffylau wrth y rhaff i dynu. Felly hi a ddaeth o'r clawdd yn lled hwylus; ac yna bachu drachefn wrth bren yn tyfu, a dyfod yn mlaen felly: ond pan ddoed i dir meddal, yr oedd yn rhaid rhoi planciau tan yr olwynion o ran y pwysau, ac ar ol tynu i ben blaen y planciau, symud y rhai olaf yn mlaen, ac felly o hyd; a lle na byddai cyfle i fachu wrth bren yn tyfu, byddai raid rhoi post yn llawr i fachu; ac o bost i bared hi a aeth i'r afon, mewn ychydig ddyddiau; ac addawwyd i minau gyflog da, ond ni chefais i yn y diwedd un ddimai byth, ond addaw, a'm canmawl: rhai pobl a fyddai yn dyfod i edrych arnom ac yn rhoi peth arian ini i geisio cwrw, a dyna y cwbl. A phan ddarfu hyny, cario fy ngoreu a wneis i.

Pan ddaeth coed Abermarlais yn wâg, mi a aethym i Daliaris, ac i Allt y Cadno, a Chil y Cwm, a Myddfai, Llangenyrch, a Gwâl yr Hwch, a Llanedi.

Mi a fu'm yn cario i forge Llandyfan, ac i Bont-ar-ddulas, ac i Abertawe, ac o Aberafan i Gastellnedd, ac yn cario o le a elwir y Ffrwd i Gaerfyrddin, ac o Wenpa i Gaerfyrddin; ac o amryw leoedd ereill nad wyf ddim yn cofio.

Fe fu farw i mi yn Ninbych gwmpas 50 o geffylau, ac yn swydd Gaerfyrddin 27.

Ac ar ol yr holl helyntion, fe aeth y merchant coed yn ol llaw yn y byd, ac fe droes yn bur gnafus ac anonest yn ei gyfrif ac yn ei dâl. Fe aeth oddiarnaf ar unwaith wrth geisio settlo 54p. 6s.—Fe fu llawer o'm ffrindiau yn y wlad hono yn ceisio ganddo beidio a gwneyd cam âg un oedd wedi dyfod o'r un wlad ag yntau, ac wedi cario coed na chariasai neb oedd yn y wlad hono mo'nynt. Gwedi yr holl gythryfwl, nid oedd genyf ond wylo weithiau, a chreuloni waith arall, a dywedyd wrtho ef un tro, nad oedd dim help, y byddwn i yn Dwm o'r Nant yn y North, pryd na byddai efe ddim yn Feistr Lewis nac yno nac yma; ac felly fu. Mi a gefais yr anrhydedd o'i weled ef ar geffyl yn Ninbych gyda'r bailiaid yn myned i garchar Rhuthyn, ac a ddywedais â llef uchel, mai dyna yr olwg oreu a ddymunwn weled arno, oni b'ai i mi gael yr olwg arno yn myned o'r Jail i'r Gollegfa, lle byddid yn crogi lladron.

Ond yn mhen enyd fe ga'dd ef fyned yn fankrupt, i safio talu i neb; ac y mae efe yn awr, am wn i, mewn gwlad nad oes gorphen talu byth. A rhyfedd y mae pob peth yn tynu i'w elfen: yr wyf yn cofio i mi settlo gydag ef yn Llandeilo; ac yr oedd ganddo orders i ddal chweugain oedd arnaf yn ferry Tal y Cafn, pan fuaswn yn myned gydag organ i Fangor, a minau a settlais âg ef am hwnw; mae y cyfrif i'w weled eto yn y llyfr lle yr oeddym yn cyfrif; ni thalodd ef ddim: fe fuwyd yn fy ngofyn yn mhen saith mlynedd, minau a ddangosais y lyfr, fy mod wedi settlo iddo ef: a llawer o'r cyffelyb bethau a wnaeth ef â mi ac ereill.

Ond ni waeth tewi-adref y daethymi o'r Ddeheubarth, heb na cheffyl na waggon; ac nid oedd dim genyf i droi ato, oddieithr gwneyd Interlude: a hyny a wnaethym.

Yn gyntaf, mi a aethym i Aberhonddu, ac a breintiais Interlude Y Pedwar Penaeth; sef Brenin, Ustus, Esgob, a Hwsmon," a dyfod at fy hen bartner i chwareu hono, a gwerthu y llyfrau.

Yr oeddwn gyda hyny yn cynnull subscribers at argraffu llyfr caniadau: sef, "Gardd o Gerddi." Fe argraffwyd hwnw yn Nhrefecca; mi a delais am hyny 52p., ac a ymadewais â dwy fil o lyfrau. Ac yn ganlynol, mi a wnaethym Interlude "Pleser a Gofid," ac a chwareusom hòno. Trachefn gwnaethym Interlude yn nghylch "Tri Chryfion Byd, sef Tylodi, Cariad, ac Angau." Canlyn hyny yr oeddwn i, a'm teulu yn Llandeilo yn gorphen cadw tafarn, a gorphen hefyd hyny oedd. o eiddo.

Mi a ddaethym a'r ferch ganol o'r tair gyda myfi i'r North yn gyntaf, ac a'i prentisiais yn Nghaer yn Filliner, ac a'i cedwais â chynnaliaeth bwyd a dillad, wrth chwareu.

Ac o'r diwedd fe ddaeth y wraig adref, gyda'r ddwy ferch ereill, ac a baciasant ryw faint o bethau gwely, a dillad a llyfrau; ac fe aeth y pac trwy Lundain; fe gostiwyd am eu cario yn nghylch cymaint ag a dalent.

Ond fe ddygwyddodd i mi gael arian oedd ar Cynfrig o Nantclwyd i mi, am gario coed o Ruddlan pan oeddwn yn cario coed Rug; ac hefyd arian am gario centre pont Rhydlanfair o Gaer. Yr oedd hyny gyda chwareu yn dipyn o help at gynnal y teulu.

Pan ddaethom i Ddinbych, nid oedd un tŷ, nes y dygwyddodd i mi gael rhyw ddau dy bychain, a minau a'u gwnaeth yn un, ac a'u taclais; a dyna lle yr wyf fi a'm gwraig eto.

Ac yr oedd gan fy nhad dŷ a thipyn o dir, rhwng Nantglyn a Llansannan; ond pan fu fy nhad farw fe aeth cyfreithiwr Dinbych, am yr hen felldith, ac a droes fy mam i'r mynydd, ac a feddiannodd y tir; a chyda chwaer i mi, wrth Lanelwy, y bu fy mam farw.

Ac ar fyr wedi hyny, fe ddaeth clefyd ar y cyfreithiwr; minau a ysgrifenais ato yn lled erchyll, ac a ddechreuais osod rhai o ddychrynfeydd uffern ger ei fron; yn niffyg na byddai i mi gael fy nhir, y byddai fy melldith yn ei gnoi dros dragywyddoldeb yntau oedd mewn cyflwr truenus yn yr ystafell lle yr oedd ei wely, yn gwaeddi, ac yn drewi gan ryw ffieidd-dra oedd yn dyfod allan o'i gorph; yr oedd yn gorfod i'r dyn ag oedd yn tendio arno daflu finegr hyd y llofft, cyn y gallai fyned yn agos ato. Nid oedd un forwyn na doctor yn myned. ar ei gyfyl yn y diwedd; ac felly yr oedd ef yn ysgrechian yn ofnadwy, ac yn gwaeddi ar y mab i'w glyw, ac yn dywedyd, Ow! y tir i Dwm o'r Nant; ac felly fu.

Mae y tir genyf, drwy drugaredd, ac a brynais yleni werth 118p. ato o'r mynydd. Ond, fel y dywed Solomon, "Gwae a adeilado ei dŷ âg arian rhai ereill:" felly fe orfu i minau fenthyca; ac eto y mae arnaf ofid yn fy nghynnal fy hun i walio a chloddio o'i amgylch; ond yn enw Duw, mi wnaf hyny, os caf fi fywyd ac iechyd.

Mi a ddaethym drwy'r byd yn rhyfedd hyd yn hyn: mi a fu'm rhwng Sir Drefaldwyn a Deheubarth saith mlynedd: myned o'm gwlad mewn ofn a phrudd-der, a dyfod yn fy ol dan chwareu, gwedi ymadael âg ofn a'r achos o hono, o ran y byd, ond bod achos pwysig i ofni a chrynu o herwydd pechod; ac achos mwy i ddiolch ei bod hi cystal arnaf, ac fel y gallasai hi fod yn waeth.

Mi a gefais fy iechyd yn rhyfedd, trwy bob troion hyd yma; ond yn unig pan aeth y waggon ar fy nhraws wrth bont Rhuddlan, lle cefais brofedigaeth fawr, a gwaredigaeth fwy.

Pan godais ar ol i'r olwyn fyned trosof, mi a eisteddais ar ganllaw y bont, ac yna y clywn lais eglur yn dywedyd wrthyf, Dôs ac na phecha mwyach, rhag dygwydd i ti beth a fo gwaeth: ac felly yn dal i ddywedyd hyd oni ddaeth pobl ataf. Mi a ofynais i'r rhei'ny a oeddynt hwy yn clywed dim llais? hwythau a ddywedasant, Nac ydym ni.

A phryd arall y cefais waredigaeth neillduol wrth lwytho pren mawr yn nghoed Maes y Plwm. Yr oedd cario y pryd hyny, cyn unioni y ffyrdd, a'u gwneyd yn durnpikes, a'r waggons a ffrâm arnynt, a rowel ar y canol, tebyg i'r peth a elwir boulster; minau oeddwn yr ochr nesaf i Nant ddofn, yn troi yn y rowel, gyda throsol haiarn cryf ar olwg; fe dorodd hwnw yn nhwll y rowel, onid oedd y dynion ag oedd yn edrych yn fy ngweled yn troi fel mountebank, ac yn disgyn yn nghanol tomen o gordwood, oedd wedi eu taflu ar eu gilydd yn ngwaelod y nant. Mi a gefais beth dychryn, ond ni friwais i ddim, gymaint a thori crimog.

Felly trwy ryw ragluniaethau, mi a gefais fy achub hyd yn hyn. Hi a fu yn lled gyfyng arnaf lawer gwaith; ond yr oedd i mi beth ffafr, mewn gweithio, pan flinais yn chwareu. Mi a fu'm y blynyddoedd cyntaf, ar ol dyfod o'r Deheudir, yn Saer maen, yn cymeryd gweithiau, ac yn cadw gweithwyr; ac un haner blwyddyn, mi acthym at y bricklayers i Lan y Wern, i ddysgu peth o'r gelfyddyd hòno; ac felly mi a ddysgais weithio yn lew ar briddfeini.

Ac yn awr, er ys pedair neu bump o flynyddoedd, fy ngwaith yw gosod ffyrnau haiarn, neu bobtŷau, medd rhai: ae hefyd gosod ffwrneisiau, at bob achos, a gratiau, a stoves, a boilers; ac aml iawn y byddaf yn smoke doctor.

Yr wyf yn enill cyflog lled fawr; ond yr wyf yn fwy methianllyd am weithio, rhwng henaint ac argraff ambell godwm a gefais yn fy nghorph, i'm coffàu yn fynych.

Yn mhen blwyddyn ar ol i mi ddyfod o'r Deheudir, mi a darewais wrth hen gariwr coed a fuasai gyda myfi lawer gwaith yn cyd-gario; ac yn yr Hand yn Rhuthyn yr oeddym, gydag amryw ereill; ond ar ryw ymddiddan, ebe fy nghyfaill wrthyf, Twm, yr ydwyt yn llawer gwanach nag oeddit pan oeddym yn cyd-gario coed. Minau a atebais, fy mod i yn meddwl nad oeddwn ddim gwanach: ac yn y cyfamser fe ddygwyddodd fod sacheidiau o wenith yn y neuadd hòno, i fyned i Gaer gyda waggon y cariwr: ac yr oeddynt â thri mesur yn mhob sach; mi a ddywedais, os cawn dair sach ar y bwrdd, a'u cylymu yn nghyd, y cariwn hwynt yn ol ac yn mlaen i'r ystryd; ac felly y gwnaethym; ac fe ffaeliodd pob un arall ag oedd yno.

A rhyw dro arall, pan oeddwn yn Nghaer, mi a godais faril o borter i ben ol y waggon o'r ystryd, o nerth cefn a breichiau. Mi a fu'm, dro arall, yn cario wyth droedfedd o bren derwen ar fy nghefn; a llawer o ryw wâg wyrthiau felly a wnaethym, nad wyf ddim gwell heddyw o'u herwydd.

Oblegyd fy mywyd anwastad, y mae achos mawr i mi ystyried fy ffyrdd, ac ymofyn am Waredwr, gan na allaf mo'm gwared fy hun, heb gaffael adnabyddiaeth o deilyngdod y Cyfryngwr; yn yr hwn, gobeithio, y bydd i mi derfynu fy amser byr ar y ddaear, yn heddwch Duw i dragywyddoldeb.

Amen.

THOMAS EDWARDS.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mi a wnaethum ddwy interlude, un i bobl Llanbedr, Dyffryn Clwyd, a'r llall i lanciau Llanarmon yn Iâl, un ar destyn "Gwahanglwyf Naaman." a'r llall ynghylch "Hypocrisia." megys ail wneuthuriad o waith Richard Parry o'r Ddiserth.— Pan oeddwn yn ieuangc, yr oedd cymaint o gynddaredd, neu wylltineb ynof, am brydyddu, mi a ganwn braidd i bob peth a welwn; a thrugaredd fu i mi na buasai rhai yn fy lladd, neu yn fy llabyddio am fy nhafod ddrwg. Llawer a beryglodd fy rhieni arnaf, mai hynny a fyddai, oni chymerwn ofal rhag dilyn y ffordd honno. Rhyw dro yr oeddwn gyda chyfeillion drwg fel fi fy hun, mi a ddigwyddais daflu gair penrhydd, lle yr oedd tri neu bedwar o garwyr, oedd yn arfer o gadw cwmpeini merch ieuanc o'm cymydogaeth, oedd yn byw mewn lle a elwid Tŷ Celyn. Minnau a ddywedais mewn dysgwrs mai c——d y Tŷ Celyn oeddynt hwy. Fe glybu'r ferch, ac a gymerodd yn angharedig oblegid fy ngeiriau drwg; ac yr oedd iddi frawd o ymladdwr creulawn. Fe gymerodd hwnnw blaid neu bart ei chwaer i'm ceryddu; ac ryw nos Sul fe a'm gwaetiodd yn dyfod o Nantglyn ac yr oedd ffordd pob un i ddyfod gyda'n gilydd hyd y llwybr adref; ac ef oedd a'i fwriad ganddo am fy nghuro, ac yr oedd ganddo ddarn o bren derwen taclus at yr achos; ac ar ol ymdderu peth hyd y ffordd, fe daflodd y pren i lawr, ac a dynnod yn noeth lymun, minnau a dynnais fy nghwat a'm cadach, ac a gymerais ei bren ef yn fy llaw, yntau a aeth i'r gwrych ac a gymerodd bawl, a churo wnaethom yn ffyrnig iawn. Erbyn curo ennyd, yr oedd y prennau yn ddelft, ac yn lled fyrion. Yr oeddem weithiau ar lawr, a dal i guro er hynny; ond fe ddaeth rhagor o edrychwyr i feddwl ein rhwystro; ac ni fynnai ef mo'i rwystro. Felly ni a gytunasom i dynnu polion ffres a churo a fu, hyd nes oni aeth i fethu sefyll: mae y creithiau arno ef a minnau hyd heddyw. Ond yn y diwedd, yn llawn o waed colledig, fe ddarfu i'w gymydogion ei gynllwyn ef adref, a sâl iawn a fu, a rhai yn barnu y byddai farw; a thrannoeth fe ddaeth alarwm o'i blegid; minnau a ddiengais dros y mynydd i Bentre'r Foelas, at yr hen Sion Dafydd, i drin hen lyfrau. Ac wrth ddarllen rhyw bethau ar gist wrth y ffenestr, yr oeddwn yn arogli drewi mawr; meddwl weithiau fod gan yr hen wr ryw ffieidd-dra tu cefn i'r gist; ond erbyn chwilio'r mater, fy mraich i oedd yn drewi, ar ol cael ei bydru wrth ymladd. Oddiyno, ar ol i ryw wraig ymgeleddu peth arnaf, mi a fum yn ffoadur bythefnos neu ragor, ym mhlwyf Bryneglwys yn Iâl, mewn lle a elwir Pennau'r Banciau, weithiau yn dyrnu, weithiau yn dal aradr a chloddio, a phob peth angenrheidiol, ac yn cymeryd gofal o hyd rhag i neb wybod fy helynt. Ond o'r diwedd mi aethum adref; yr oedd yntau yn dechreu codi allan. Fe fynnwyd peth cyfraith arnaf, ond nid llawer. Ac yn ganlynol i'r cythrwfwl hwn, a dymuniad fy mam, mi a beidiais ag ymladd ar ol hynny, rhag digwydd ini beth a fyddai gwaeth.