Neidio i'r cynnwys

Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant)/Sylwadau ar Nodweddiad, Gwaith, a Ffraethineb Twm o'r Nant

Oddi ar Wicidestun
Hunangofiant Twm o'r Nant Hanes Bywyd (Dic Aberdaron a Twm o'r Nant)


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Bu THOMAS EDWARDS fyw rai blynyddoedd ar ol iddo ysgrifenu yr hanes blaenorol: preswyliai yn nhref Dinbych; ond bu am beth amser cyn terfynu y fuchedd drangcedig hon, yn Nhan'r Allt, Tremadoc, yn mwynhau nawdd a chroeso gyda'r hybarch a'r anfarwol wladgarwr W. A. MADDOCKS, Ysw., yr hwn a fynodd gael tynu ei lun ef, yn ei lawn faint, gan luniedydd enwog ag oedd yn ei balas ar yr amser. Mae y Darlun hwn, medd y rhai a'i gwelsent, ac a adnabuent ei berson, yn ddarluniad cywir a pherffaith o hono yn ei ddyddiau diweddaf.

Dychwelodd o Dremadoc i Ddinbych yn lled afiach a phesychlyd; ac o'r afiechyd hwn y terfynodd ei einioes ar y trydydd dydd o Ebrill, 1810.

Er fod bywyd y Bardd clodwiw hwn wedi bod yn dra helbulus a thrallodus, cafodd y fraint o weled ei blant wedi sefydlu yn barchus a dedwydd mewn bywioliaethau llawnion a chysurus! yr hynaf a briododd Mr. ED. EVANS, Masnachydd yn Abergele; yr ail a briododd Mr. ED. WILLIAMS, Masnachydd yn Ninbych; a'r drydedd a briododd y Parch. ARTHUR JONES, D. D., yn awr o Fangor. Yr oedd Mrs. Evans, ei ferch hynaf, yn meddu ar gryn lawer o athrylith farddonol.

Yr oedd ei Gynhebrwng yn barchus a lluosog. Claddwyd ef yn mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych. Yr oedd wedi parotôi cist—fedd iddo ei hun, ac wedi dechreu tori arni; ond diweddodd ei oes cyn tori ond y tri gair a ganlyn:— "LLYMA Y CLADDWYD"—Y mae hyn wedi ei adael yn anorphen ar un pen i'r gareg, a'r arysgrif gyflawn ar y pen arall. Anfonodd hybarch Gymdeithas y Gwyneddigion, Llundain, Faen Marmor costfawr er coffâd am dano, yr hwn sydd wedi ei osod ar y mur gorllewinol, oddifewn i'r Eglwys Wen, act yn gerfiedig arno lûn yr Awen yn wylo uwchben ei fedd, yn nghyda'r arysgrif ddilynol:—

Y MAEN HWN A OSODWYD GAN
GYMDEITHAS Y GWYNEDDIGION LLUNDAIN,
ER COF AM
THOMAS EDWARDS, NANT,
Bardd rhagorol yn ei oes.
Bu farw Ebrill y 3ydd, B.A., 1810.—Ei oed 71.


Geirda ro'i i gywirdeb;—yn benaf
Ni dderbyniai wyneb:
A rho'i sen i drawsineb,
A'i ganiad yn anad neb.

Er cymaint oedd braint a bri—ei anian
Am enwog farddoni,
Mae'r Awen a'i hacen hi,
Man tawel, yma'n tewi.


Yr oedd Thomas Edwards yn feddiannol ar nodweddiadau tra anarferol, yn enwedig fel ffraethebydd a phrydydd; y fath nad oes ac na fu gan Gymru ei gyffelyb. Y mae yn wir fod yn mhlith ein cenedl heddyw, fel hefyd y bu mewn oesau a aethent heibio, wŷr yn rhagori yn mhell o ran y nodweddiad wrth ba un y gelwir hwynt yn FEIRDD. Ond yr oedd ganddo ef ddawn sydd brinach o lawer, trwy ba un y gellid priodoli iddo yr enwad o Brydydd poblogaidd. Yr oedd yn medru y gelfyddyd o gydnawseiddio ei ganeuon âg archwaeth ei oes a'i genedl, a hyny i'r fath raddau, fel nad oedd odid ddyn o'i ddydd nad oedd rhai o'i linellau ar ei dafod, yn barod i'w defnyddio fel gwrth—hoel yr ymddyddan, bydded y testun y peth y byddai, ai syber ai ysmala: ie, yr oedd y fath amledd ac amrywiaeth yn ei gyfansoddiadau, fel nad oedd odid fater na ddeui efe ar ei draws, gan mor ëang cedd ei feddylddrychau, a'i gynefindra yn helyntion y byd. Ar y golyg—iad yma, priodol iawn yr ysgrifenodd rhyw fardd arall, a dan ei bortread :—

"Llun gwr yw, llawn gwir Awen,
Y byd a lanwyd o'i ben."

Ymddengys yn eglur ei fod yn feddiannol ar

"For o ddawn y farddoniaeth,"

eto nid cymaint yr ymdrechodd yn y mesurau sydd yn ardderchogi iaith a barddoniaeth y Cymry; eithr y mesurau Cymreig rhyddion oedd ei brif hyfrydwch.

Er fod llawer o feirdd a beirniaid wedi bod yn haeru nad oedd Thomas Edwards yn WIR FARDD, a hyny ar sail ei aflerwch gyda'r mesurau caethion; dymunem sylwi nad yw hyny yn brawf nad oedd yn eu deall. Byddai Bardd Nantglyn, yr hwn oedd yn berffaith gydnabyddus âg ef, yn sicrhau ei fod yn eu deall, a'i fod yn feistrolgar arnynt. Mae ei Englynion i Dr. Dd. Samuel,—ei Broest i'r Angau, —ei Englynion i Dref a Morglawdd Madocs, ac amrai ddarnau ereill, yn profi hyn tu hwnt i bob dadl.

Fel Prydydd Chwareuyddiaethol, mynych y priodolwyd iddo yr enwad "The Cambrian Shakespeare." Bryd arall cydmarid ef i Aristophanes, y Prydydd Groegaidd. Byddai hwn yn cyfansoddi ei Chwareuau fel yr oeddynt i ymddangos ger bron y werin; ac felly Thomas. Cymerai Aristophanes gyfleusdra yn ei brydyddiaeth i weled bai, ac i geryddu amryw ddrwg-dueddau oedd yn gyffredin yn ei oes; felly hefyd Twm o'r Nant. Yr oedd Aristophanes yn brydydd poblogaidd, ac er boddio archwaeth ei wrandawwyr, brithai ei waith â nifer mawr o ymadroddion masweddol felly hefyd Twm o'r Nant. Tebygolent hefyd mewn llawer o bethau ereill.

Ei waith yn gyffredinol a ddengys ei fod yn feddiannol ar y cymhwysderau hyny yn gyflawn ag sydd yn anhebgorol angenrheidiol i Fardd fod yn feddiannol arnynt, sef, "Llygaid yn canfod anian, Calon yn teimlo anian, a Glewder a faidd gydfyned âg anian."

Yr oedd yn beth lled ryfedd iddo ar ol ei ddychweliad o'r Deheudir gael y gwaith o osod beddfaen ar y cyfreithiwr a fu gynt yn ei erbyn; gwedi iddo ei osod, a thori yr arysgrif, cymerai ddarn o chalk, ac ysgrifenai yr Englyn canlynol ar ei fedd;—

"Hen elyn melyn i mi—a fuost
Yn dy fawaidd groesni;
Minnau ges osod meini,
Dew faedd d{{bar|2))l ar dy fedd di.'"

Aeth ryw dro, pan yn byw yn Nghaerfyrddin, ar ryw neges i Lanymddyfri a chafodd ar y mwyaf o wirod yno, ac wrth ddychwelyd adref, syrthiodd i'r ffos; gofynai rhyw un wrth fyned, pa sut y daeth yno; i'r hyn yr atebai—

Y brandy coch godymodd gant,
Roes godwm teg i Twm o'r Nant.

Dygwyddai fod ryw dro mewn parlwr ty tafarn, yr hwn oedd yn llawn o fasnachwyr parchus, a chyfansoddai Englyn i bob un o honynt yn ddiatreg. Ond yr oedd un yn eu plith wedi ei hebgor, swydd yr hwn ydoedd baili, a phan ganfyddodd nad oedd ef yn cael yr un fraint a'r lleill, ebai ef, Gwnewch Englyn o glod i minau, Thomas. Atebai—

"Heriwr a bwliwr yw'r baili,—labrwr
Hyd lwybrau trueni;
Aeth ganwaith, do, werth gini,
Dew ful dwl, i dy fol di."

Bardd Nantglyn a gyfarfu Thomas un diwrnod, ac a'i cyfarchai fel hyn,—

"Dyma Tomas a dwy res o fotymau?"

I hyn yr atebai, gan gyfeirio at swydd y Bardd,

"Y teiliwr a'm twyllodd 'gael tâl am y tyliau."

CAERNARFON: ARGRAFFWYD GAN H. HUMPHREYS,

Nodiadau

[golygu]