Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone/Y Dirprwywr Dros y Llywodraeth a'r Archwiliwr Dyngarol

Oddi ar Wicidestun
Yr Ymchwiliwr Cenadol Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone

gan Henry Morton Stanley

Yr Archwiliwr Daearyddol, y Cyfaill, a'r Arwr

PENNOD IV

Y DIRPRWYWR DROS Y LLYWODRAETH A'R ARCHWILIWR DYNGAROL

GWEDI cyhoeddi ei lyfr yn cynnwys "Hanęs ei Deithiau Cenadol," dirprwywyd y Dr. Livingstone i ddychwel at yr afon Zambesi—yn yr hon yr enynasid dyddordeb mawr gan ei ddarganfyddiadau e—mewn trefn i eangu y wybodaeth am y parthau trwy ba rai y rhedai yr afon fawr, ac i'r dyben o hyrwyddo trafnidaeth. Cyfarwyddwyd ef i drefnu cwmni archwiliadol cynwysedig o wyddonwyr, i gasglu gwybodaeth gywir am ddaearyddiaeth ac adnoddau mewnol ac amaethyddol Canolbarth a Deheubarth Affrica er budd a lles cyfunol Prydain a'r llwythau a geid yn y parthau hyny yn awyddus i gychwyn trafnidiaeth gyda chenedl wareiddedig. Dymunid arno annog a dysgu y brodorion i ddadblygu adnoddau eu gwlad, i attal y Gaethfasnach, ac yn gyfnewid am eu gwaith yn ymwrthod â'r fasnach ffiaidd mewn cnawd dynol, i gynnyg iddynt foddion i ymgyfoethogi trwy ddilyn trafnidiaeth gyfreithlon. Awdurdodwyd y genadaeth oruchel hon gan Iarll Clarendon, yr hwn oedd ar y pryd yn Brif Ysgrifenydd Tramor, ac o dan ei nawddogaeth garedig ef cychwynodd yr ymgyrch o Frydain am yr afon Zambesi ar y 10fed o Fawrth, 1858. Cynnwysai y cwmni ymgyrchol y Dr. David Livingstone, arweinydd; Mr Charles Livingstone, cynnorthwywr; Mr. Francis Skead, o'r Llynges Freninol, peiriannydd; Dr. John Kirk, llysieuydd; Mr. Richard Thornton, daearegydd; Mr. Baines, arlunydd; y Llywiadur Bendingfield, R.N., hwyliedydd. Yn mhlith darpariadau Dr. Livingstone yr oedd ystwymer fechan, yr hon a gludwyd yn dair rhan ar fwrdd y llong Pearl; ac ar gyrhaeddiad y cwmni at enau y Zambesi, cysylltwyd gwahanol ranau yr agerlong fechan, a chyda chynnorthwy y llestr hon dechreuwyd y gwaith archwiliadol. Galwyd y llong fechan ar yr enw a roddasid i Mrs. Livingstone gan y Makololo, sef "Ma-Robert." Y mae i'r Zambesi, gyda glanau yr hon y teithiasai Livingstone gymaint yn y canolbarth, bedair arllwysfa, sef y Milambe, y Kongone, y Luabo, a'r Timbwe.

Yn ystod y tymmor gwlawog, yr hwn a ddygwydd yn flynyddol ar y glanau hyn o Ebrill hyd Fai, pryd y bydd yr afon yn gorlifo ei glenydd, ceir camlas naturiol yn rhedeg yn gyfochrog a'r glenydd, a chan fod y gamlas yn amgylchedig gan gorsydd anhygyrch, ffurfia ffordd hwylus i'r trafnidwyr gario yn mlaen eu masnach felldigedig mewn caethion. Wrth fyned i fyny cangen Kongone o'r afon fawr, y cwmni a ganfyddasant dorlenydd y gangen hono am ugain milldir o ffordd yn orchuddiedig gan brysglwyni anhydraidd. Gwelid llwyni o redyn a phalmwydd yn tyfu o dan gysgodion cangenau crynedig coed uchel a phreiffion; ac yma a thraw gwelid palmwydden dalgref yn codi ei phen yn Ogyfuwch â'r prif-goed. Darganfyddwyd hefyd goed gwafa a lemon, yn nghyda math o balmwydd a ddefnyddir i wneyd cydau siwgr yn Mauritius. Yr oedd y coed cangenog a thalgryfion yn adsain caneuon buddugoliaethus teyrn yr adarbysg, ac udiadau herfeiddiol y pysg-eryr, heblaw ysgrechiadau craslyd yr ibis.

Tuhwnt i'r glanau coediog, yr archwilwyr anturiaethus a ganfyddasant wastadedd gorchuddiedig gan laswellt anferth o uchel, trwy ba un yr oedd braidd yn anmhosibl teithio. Gerllaw i'r afon, fel yr esgynent, hwy a ganfyddent, yma a thraw, bentref cwrtais yn codi ei ben o dan gysgod dail enfawr y coed ffrwythlon; a phreswylid y treflanau hyn gan bysgodwyr, neu gan lwythau ofnus a ddiangasant o fagl y caeth-heliwr. Cafwyd fod y pridd rhydd a thywodlyd yn nodedig o ffrwythlon, ac yn cynnyrchu pytatws melusion, pumkins, tomatoes, bresych, wynwyn, cotwm, a siwgrwydd. Mewn gair, y mae y wlad a ymestyn o'r tu cefn i gamlas cors Kongone i'r tuhwnt i'r Mazavo, am bedwar ugain milldir o hyd a haner cant o led, yn nodedig gyfaddas i dyfu coed siwgr.

Mawr ydoedd syndod y trigolion wrth weled yr agerlong, a dymunent wybod a oedd hi wedi cael ei thori allan o'r un goeden! Ebrwydded y deallent garedigrwydd y bobl wynion, yr oeddynt yn barod i fasnachu yn y modd hwylusaf. Dygent gawelleidiau o adar, reis, a grawn, a rhedent gyda glan yr afon gan; lefain "Malonda!" "Malonda!" sef nwyddau ar werth.

Yn Mazavo, yr oedd y bobl mewn rhyfel â gwrthgiliwr bradwrus o'r enw Bouga, ond croesawasant yr ymwelwyr a chymeradwyasant eu hamcanion. Oddeutu y pwynt hwn cafwyd y golygfeydd yn dirfawr wella. Yr oedd trumau coediog Shupanga, a llu o fryniau amryliw yn ymgodi yn y pellder. Islaw Mazaro, ni wneir unrhyw drafnidiaeth ar y Zambesi. Y mae ffrwd annibynol ar yr afon hon, ar hyd pa un y cerir yn mlaen y drafnidiaeth rhwng Kilmane ar y Mosambique, a Sena a Tette, yn y canolbarth. Ymarllwysa y ffrwd fechan hon i'r Keva Keva, neu Ason Kilmane. Yn Mazaro, dadlwythid y cychod a ddeuent i lawr o Tette, a chludid eu llwythi chwe' milldir dros y tir i gainc-afon Kilmane.

Ar ochr ddeheuol y Zambesi, y mae llwythau Zulu yn yr oruchaf, tra y mae deiliaid Portugaidd yn meddiannu y tir ar yr ochr aswy, Trwy dalu symiau arbenig yn flynyddol, caniateir iddynt dramwyo i fyny ac i lawr i'r afon yn ddirwystr. Heblaw hyn, rhaid iddynt hefyd dalu symiau blynyddol am freintiau ereill, megis caniatad i amaethu y tir, tori coed i adeiladu cychod ac i wneyd hwylbreni. Achosir hyn oherwydd fod y trigolion sefydlog yn rhy weiniaid i wrthsefyll nerth y gwibwyr lladronllyd sydd mor lluosog ar ochr ddeheuol yr afon.

Fel yr oedd y teithwyr yn ymwthio yn mlaen i fyny i'r afon tua Tette, prif ddinas y diriogaeth Bortuguaidd, hwy a ganfyddasant gyfansoddiad diffygiol y llong "MaRobert." Yr oedd ei ffwrneisiau mor anghyfaddas fel y llosgent goed agos cygyflymed ag y gellid eu tori, ac felly gwnaed taith yr ymchwilwyr yn arafaidd a blinderus. Yr oedd mordwyad y Zambesi hefyd yn nodedig o anhawdd. Fel yr ymledai yr afon, yr oedd hi yn dyfod yn fasach; a rhwng Shupanga a Seuna, yr oedd hi yn llawn o laid a banciau tywodlyd. Cyn cyrhaedd Seuna, canfyddasant eu hunain yn analluog i fyned yn mlaen yn uwch heb anhawsdra dirfawr, ar gyfrif basder yr afon.

Ar yr 8fed o Fedi, 1858, angorodd y "Ma-Robert" ar gyfer Tette, gwedi teithio y Zambesi o'i harllwysiad. Parhaodd y daith, yn cynnwys llawer o attaliadau, am ddau ddiwrnod a phedwar ugain. Ebrwydded y clybu y Makololo, y rhai a adawsid gan y Dr. Livingstone yn Tette oddeutu diwedd Ebrill, 1856, fod eu cyfaill wedi dychwelyd, hwy a ruthrasant at lan y dwr, gan arddangos y llawenydd mwyaf oherwydd ei weled. Hwy a fynasent ei gofleidio, oni bai i'r rhai doethion rybyddio y gweddill i ymattal, rhag ofn iddynt ddwyno ei ddillad newyddion!

Saif Tette ger glan y Sambesi, ar gyfres o drumau tywodfaenaidd. Gwasanaetha y pantleoedd rhwng y trumau fel heolydd, ac y mae'r tai ar gribau y trumau. Ceir y llysiau a elwir indigo, senna, a stramionium yn gorchuddio y parthau didraul o'r heolydd fel chwyn. Defnyddir y gaerfa a'r eglwys fel y prif gadarnleoedd; ac amgylchir y dref gan fur cyfansoddedig o laid a cheryg. Ychydig ydyw nifer y Portuguaid gwynion a breswyliant yma; ac y mae y mwyafrif ohonynt yn rhai a alltudiwyd i'r lle trwy orfodaeth, neu ynte yn swyddogion cyflogedig. Ffurfia y dref ganolbwynt mawr y Gaethfasnach. Y trigolion a brynant gaethion o'r canolbarth, ac a'u hyfforddiant ac a'u dygant i fyny fel helwyr cawrfilod, ac fel gweision a morwynion teuluaidd.

Y mae'r gymydogaeth gylchynol, ac yn enwedig gwelyau y ffrydiau, yn cynnwys aur, ond y mae difaterwch a diogi y trigolion, yn nghyda Llywodraeth anfoddhaol y lle, wedi attal cynnyrchiad llawer o hono.

Gwedi archwilio yr afon i'r gogledd o Tette, a chael boddlonrwydd ei bod yn hollol anfordwyol gydag agerlong wan, dechreuodd y cwmni ddisgyn y Zambesi. Ysgrifenodd Livingstone at y Llywodraeth Gartresol fod yn yn anymarferol ceisio esgyn y gwyllt-lifiadau Kelrabassa, i'r gogledd o Tette, gyda'r "Ma-Robert, grym agerol yr hon nid ydoedd ond nerth deg ceffyl, a gofynodd am i long gyfaddas gael ei hanfon at ei wasanaeth i'r Zambesi; ac wedi anfon y genadwri hon, efe a benderfynodd arwain ei ymgyrch i fyny y Shire. Y mae'r Shire yn un o gangenau pwysig y Zambesi, ac yn ymarllwys iddi oddeutu can' milldir oddiwrth y môr. Nid oedd Ewropeaid wedi esgyn y Shire yn flaenorol, ac o ganlyniad, nis gallai y Portuguaid roddi unrhyw hysbysrwydd o berthynas iddi. Ni threiddiasai y trasnidwyr i fyny i'r afon hon mewn ymchwil am gaethion, ac nid agorasid unrhyw gymundeb gyda'r llwythau anwar y dywedid eu bod yn preswylio ar ei glanau. Cychwynwyd y daith i fyny i'r Shire yn Ionawr, 1859. Oddeutu deng milldir ar hugain i fyny i'r afon, y teithwyr a ddaethant at bentref a lywodraethid gan benaeth o'r enw Timme, a daeth attynt bum' cant o frodorion, gan orchymyn iddynt sefyll. Gan ddilyn y cyfarwyddiadau a dderbyniasai gan y Llywodraeth i agor cymundeb â'r bobl cydsyniodd Livingstone â'r alwad i sefyll, a sicrhaodd Tingane fod y Prydeinwyr yn ffieiddio y fasnach mewn caethion, ac na ddymunent wneyd dim ond meithrin perthynasau cyfeillgar gyda'r llwyth oedd o dan ei lywodraeth ef a'r bobl a breswylient tuhwnt i derfynau ei wlad, a'u bod yn barod i brynu cotwm a phob cynnyrch tirol a swyddogion cyflogedig. Ffurfia y dref ganolbwynt mawr y Gaethfasnach. Y trigolion a brynant gaethion o'r canolbarth, ac a'u hyfforddiant ac a'u dygant i fyny fel helwyr cawrfilod, ac fel gweision a morwynion teuluaidd.

Y mae'r gymydogaeth gylchynol, ac yn enwedig gwelyau y ffrydiau, yn cynnwys aur, ond y mae difaterwch a diogi y trigolion, yn nghyda Llywodraeth anfoddhaol y lle, wedi attal cynnyrchiad llawer o hono.

Gwedi archwilio yr afon i'r gogledd o Tette, a chael boddlonrwydd ei bod yn hollol anfordwyol gydag agerlong wan, dechreuodd y cwmni ddisgyn y Zambesi. Ysgrifenodd Livingstone at y Llywodraeth Gartresol fod yn yn anymarferol ceisio esgyn y gwyllt-lifiadau Kelrabassa, i'r gogledd o Tette, gyda'r "Ma-Robert, grym agerol yr hon nid ydoedd ond nerth deg ceffyl, a gofynodd am i long gyfaddas gael ei hanfon at ei wasanaeth i'r Zambesi; ac wedi anfon y genadwri hon, efe a benderfynodd arwain ei ymgyrch i fyny y Shire. Y mae'r Shire yn un o gangenau pwysig y Zambesi, ac yn ymarllwys iddi oddeutu can' milldir oddiwrth y môr. Nid oedd Ewropeaid wedi esgyn y Shire yn flaenorol, ac o ganlyniad, nis gallai y Portuguaid roddi unrhyw hysbysrwydd o berthynas iddi. Ni threiddiasai y trasnidwyr i fyny i'r afon hon mewn ymchwil am gaethion, ac nid agorasid unrhyw gymundeb gyda'r llwythau anwar y dywedid eu bod yn preswylio ar ei glanau. Cychwynwyd y daith i fyny i'r Shire yn Ionawr, 1859. Oddeutu deng milldir ar hugain i fyny i'r afon, y teithwyr a ddaethant at bentref a lywodraethid gan benaeth o'r enw Timme, a daeth attynt bum' cant o frodorion, gan orchymyn iddynt sefyll. Gan ddilyn y cyfarwyddiadau a dderbyniasai gan y Llywodraeth i agor cymundeb â'r bobl cydsyniodd Livingstone â'r alwad i sefyll, a sicrhaodd Tingane fod y Prydeinwyr yn ffieiddio y fasnach mewn caethion, ac na ddymunent wneyd dim ond meithrin perthynasau cyfeillgar gyda'r llwyth oedd o dan ei lywodraeth ef a'r bobl a breswylient tuhwnt i derfynau ei wlad, a'u bod yn barod i brynu cotwm a phob cynnyrch tirol a allai efe a'i bobl gynnyg, a hyny am brisiau da. Galwodd Tingane ei bobl yn nghyd, y rhai a gymeradwyasant y cynnygiad rhesymol, canys yr oeddynt yn fasnachwyr call, ac yn meddu cywired syniadau a'r bobl wynion am uniondeb a thrawsder.

Gwedi treiddio i fyny i'r Shire am gan' milldir, attaliwyd hwy gan raiadrau ysblenydd, i ba rai y rhoddodd Livingstone yr enw Murchison, ar ol Syr Roderic Murchison, llywydd y Gymdeithas Daearyddol Freninol; ac wedi anfon cenadwri garedig ac anrhegion i ddau a reolant diriogaethau pellach, dychwelodd y "MaRobert" i Tetti."

Cychwynwyd yr ail daith i fyny Shire yn Mawrth, 1859. Erbyn hyn, yr oedd y brodorion yn gyfeillgar, a gwerthent i'r teithwyr bobpeth oedd arnynt eisieu gyda pharodrwydd. Gyda'r Penaeth Chibisa, yr hwn a breswyliai ddeng milldir islaw y rhaiadrau, daeth perthynasau y dynion gwynion i fod yn dra chyfeillgar. Gan adael y llong gyferbyn a phentref Chibisa, aeth Dr. Livingstone gydag un o'i gymdeithion a nifer o'r Makololo ar daith ymchwiliadol am Lyn Shirwa. Hwy a gymerasant gyfeiriad gogleddol ar draws gwlad fryniog. Oherwydd eu hanwybodaeth o'r iaith frodorol, cawsant gryn drafferth i argyhoeddi y bobl eu bod wedi dyfod ar neges heddychol, ond trwy eu dyfalbarhad, coronwyd eu llwyddiant yn y diwedd â darganfyddiad Llyn Shirwa—corff lled fawr o ddwr, yn cynnwys pysgod, crocodilod, ac afon-feirch. Ymddengys ei fod yn ddwfn, canys ymddyrchafai ynysoedd bryniog ohono. Cafwyd ei fod rhwng triugain phedwar ugain milldir o hyd, oddeutu ugain milldir o led, ac yn uwch na'r mor o 8000 o droedfeddi. Y mae'r wlad oddiamgylch ei derfyn gogleddol yn nodedig o brydferth a dymunol—y golygfeydd yn cael eu hamrywiaethau gan ddyffrynoedd a bryniau coediog.

Gan yr ofnent i'w hymchwiliadau parhaus enyn drwgdybiaeth y trigolion, Livingstone a'i gymdeithion a benderfynasant ddychwel i'r Shire, ac awd yn yr agerlong Tette, i'r hwn le y cyrhaeddwyd ar y 23ain o Ionawr, ac oddiyno disgynasant y Zambesi i Kongone i ymofyn cyflenwad o ymborth ac i adgyweirio y llong.

Gwelwyd fod gwaelod y "Ma-Robert" (yr hon oedd wedi ei gwneyd o ddur) yn llawn o fân dyllau ac agenau yn mhob cyfeiriad; a chyn gynted ag y clytid rhai tyllau i fyny gan y peiriannydd, darganfyddid ereill yn mhob cyfeiriad trwy gorff y llong,

Oddeutu canol mis Awst, 1859, dechreuodd y cwmni esgyn y Zambesi i'r dyben o ddarganfod Llyn Nyassa. Wrth fyned i fyny y Shire, hwy a welsant yrr o wyth gant o gawrfilod (elephants). Y mae'r doldiroedd oddeutu yr afon hon yn nodedig fel preswylfeydd cawr-filod; a cheir yma hefyd nifer lluosog o ddwfr-adar mawrion.

Gan adael y llong ar yr 28ain o Awst, 1859, arweiniodd Livingstone fintai dros y tir, yn gynnwysedig o bedwar dyn gwyn, 36 o'r Makololo, a dau ddryll. Gwedi croesi bryniau Milanje, rhwng pa rai y gwelsant ugeiniau o bentrefydd, yn cynnwys pobl dawel a heddychlon, hwy a ddaethant i fwrdd-dir eang, dair mil o droedfeddi uwchlaw arwyneb y môr, parth gogledd-ddwyreiniol pa un a ddisgynai i lawr at lan Lyn Shirwa. Swynwyd hwy gan odidowgrwydd y wlad i'r fath raddau fel nad oeddynt byth yn blino syllu ar ei gwastadeddau ffrwythlon, y bryniau lluosog, a'r mynyddoedd mawreddog. Yn ngheseiliau rhai o'r mynyddoedd canfu Livingstone flodau tlysion a ffrwythydd dymunol, y rhai oherwydd eu tebygrwydd i flodau a ffrwythydd Prydeinig, a'i hadgofient am ei gartref.

O'r rhandir yma, disgynodd y fintai i Ddyffryn y Shire Uchaf—tiriogaeth nodedig o ffrwythlon, ac yn cynnal poblogaeth luosog. Yr oedd eu ffordd yn Nyffryn y Shire Uchaf yn cydredeg â'r afon uwchlaw Rhaiadrau Murchison. Yma, ceid hi yn afon ddofn a llydan, a'i rhedlif yn nodedig o araf. Mewn un lle hi a ymledai nes ffurfio llyn a elwid Panalombe, yr hwn oedd o ddeg i ddeuddeg milldir o hyd, ac yn agos i chwe' milldir o led, ac yn llawn o bysgod breision.

Pan gyrhaeddasant i bentref oddeutu taith diwrnod o Lyn Nyassa, hwy a holasant y Penaeth Muau Moesi yn nghylch y corff o ddwfr y chwilient am dano, ac atebodd y Penaeth na chlybuasai efe erioed fod, y fath beth yn ei gymydogaeth. Y Makololo, yn ogystal a Livingstone, a edrychasant yn siomedig pan glywsant y newydd rhyfedd yma, ac un o honynt a ddywedodd, "Dychwelwn i'r llong; nid ydyw o unrhyw ddyben ceisio darganfod y llyn. Un arall a ddywedodd, "Ond y mae yma lyn, er yr oll a wadant hwy, canys dywedir amdano mewn llyfr." Profodd y "llyfr" ei hun yn gywirach na Phenaeth Manganja, oherwydd ar yr 16eg o Fedi, 1859, darganfyddwyd Llyn Nyassa. O'r corff ardderchog hwn o ddwfr y rhedai yr Afon Shire, ac oni bai Rhaiadrau Murchison, ni buasai fesur ar y dylanwad a allasai darganfyddiad Llyn Nyassa gael ar ddadblygiad Canolbarth Affrica.

Cafodd Livingstone brawfion sicr mai oddiamgylch y Llyn hwn yr oedd prif gyniweirfa y caethfasnachwyr. Deuai ugeiniau o Arabiaid yma yn flynyddol gyda brethyn ac arian, a phrynent heidiau lluosog, a'r canlyniad oedd fod diboblogiad cyflym yn cymeryd lle yn y fro. Yr oedd y Manganjas, trwy gael eu temtio gan y rhagolwg am ddyfod i feddu brethyn, gwelyau, a'r pethau a gyfansoddant gyfoeth yn y wlad hon, yn ymadael a'u plant eu hunain yn rhwydd i'r Ajawas, yr Arabiaid, a chaethfasnachwyr ereill. Y mae'n achos o syndod hefyd rated y cyfrifai y Manganjas eu plant a'u perthynasau. Gellid prynu dyn am bedair llath o lian cyffredin, a chyfrifid tair llath yn bris da am ddynes, tra nad oedd bachgen neu eneth yn werth dim ond dwy. Yr oedd y rhwyddineb cydmarol gyda pha un y gwnelai yr Arabiaid eu ffortun ar gyfrif prisiau isel y caethion, yn gwneyd cylchoedd y Llyn hwn yn brif gyrchfa i gaethfasnachwyr Kilwa a Zanzibar.

Cynllun arall a ddefnyddid gan y caethfasnachwyr i gael cyflenwadau oedd ymuno i ymosod ar y pentrefi, a chymeryd pob bod dynol a geid o'u mhewn yn alluog i weithio yn gaethion. Yn ol adroddiad y Cadfridog Rigby, y mae agos yr oll o'r caethion a werthir yn Zanzibar wedi eu cyrchu o ddosbarth y Nyassa, er y dygir hwy i'r farchnad trwy Kilwa a phorthladdoedd Portuguaidd y Mozambique. Canlyniad ymchwiliadau Livingstone ar Lyn Nyassa ydyw dynoethiad y fasnach ffiaidd a dychrynllyd hon; a thaerion a fuont ei annogaethau a'i gynghorion i'r Llywodraeth Brydeinig i fabwysiadu mesurau er attal y drafnidiaeth. Yn anffodus, modd bynag, ni welsom ei gynghorion yn cael eu cwblhau hyd yma, ac y mae'r felldith yn parhau, ac fel cancr ysol yn dinystrio cenedloedd syml rhandiroedd y Llyn mawr.

Taith o ddeugain niwrnod a ddygodd y fintai yn ol i'r Shire, ac wedi hyny hwy a hwyliasant i lawr i'r afon hono, a thracheln i fyny y Zambesi hyd Zette, lle y cyrhaeddasant ar y 25ain o Ebrill, 1860. Weithian trodd Livingstone ei sylw at gyflawni ei addewid i'r Penaeth Makololoaidd Seketu, ac wedi angori yr agerlong "MaRobert" gerllaw ynys ar gyfer Zette, efe a gychwynodd i Linyanti ar y 15 fed o Fai. I'r rhai oeddynt wedi gweithio gyda'r ymgyrch, talwyd cyflogau cyflawn am eu gwasanaeth cyn cychwyn, a phrynwyd brethynau, gwelyau, &c., i wneyd anrhegion, a cheisiwyd cyflenwad o ymborth gogyfer a'r daith.

Heblaw eu bod yn ddewrion a ffyddlon, yr oedd y Makalolo hefyd yn nodedig ar gyfrif eu difaterwch a'u gwreiddioldeb. Yn y gwersylloedd lle y gorphwysent y nos ar ol eu teithiau dyddiol, ceid dadleuon politicaidd yn rhedeg yn uchel rhyngddynt ambell dro, a chlywid hwy yn gwneyd sylwadau dyddorol pan yr ymresyment yn nghylch llywodraeth ddrygionus rhai penaethiaid arbenig. Cofnododd Dr, Livingstone y ddadl, yr hon a ddengys y meddyl-ddull a fodolai yn eu plith:

Un a ddywedai:—"Gallem lywodraethu ein hunain yn well, ac o ganlyniad pa ddaioni ydyw penaethiaid o gwbl?"

Un arall a ddywedai:—"Y mae'r penaeth yn dew, ac yn meddu cyflawnder o wragedd, tra yr ydym ni sydd yn cyflawni y caledwaith yn anghenus, ac heb feddu ond un wraig bob un. Yn awr, rhaid fod hyn yn ddrwg, anghyfiawn, a gwrthun."

Y gweddill a atebasant, "Eh! Eh!" yn gymeradwyol. Ond y rhai mwy teyrngarol, neu ddadleuwyr y penaeth, a ddywedasant:— Y penaeth ydyw tad ei bobl, ac a ddichon fod pobl heb dad, Eh?"

"Duw a wnaeth y penaeth. Pwy a ddywedodd nad ydyw efe ddoeth?. Y mae y penaeth yn ddoeth, ond ei blant ydynt ynfydion!"

Siampl arall o ddull y Makololo o ymresymu sydd fel y canlyn:—Yr oedd y fintai wedi sefyll mewn pentref, a daeth penaeth y pentref i erfyn yn daer am anrhegion, gan ddywedyd, "Yr ydych yn bobl wynion; a phaham na roddwch i mi frethyn?" i'r hyn yr atebodd un o'r Makololo—"Dyeithriaid ydym ni, a phaham na ddygi di ymborth ger ein bronau?"

Matonga, un o'r Makololo oedd wedi cytuno o'i wirfodd i gyneu tan y dyn gwyn, ar y telerau arferol o gael penau a gyddfau yr oll o'r adar a'r bwystfilod a leddid gan Livingstone, a flinodd ar amledd a lluosowgrwydd y penau a'r gyddfau adar, a phrinder y penau bwystsilod a ddeuent i'w ran, a chan wysio ei holl wroldeb, efe a ddywedodd:—

Fy Arglwydd, nis gall dyn newynog lanw ei ystumog gyda phen aderyn; a lleddir ef gan angen am gig, ac yn fuan efe a fydd farw o wendid, ac yn analluog i gario coed i wneyd tân. Efe a ddylai gael aderyn cyfan i'w waredu rhag newyn.".

Bryd arall, pan oedd penaeth a dderbyniasai anrheg braidd yn annyben yn dychwelyd y caredigrwydd mewn rhyw ffurf ar yr esgus fod arno beswch, Makololo dig, llawn a ofynodd:—

"A ydyw y peswch ar ei anrheg hefyd, fel na ddaw hi i ni? Ai dyma'r modd yr ymddyga eich penaeth tuagat ddyeithriaid—derbyn eu hanrhegion a pheidio anfon iddynt ymborth mewn cyfnewid?"

Ar y 18fed o Awst, 1860, gwelodd Livingstone a'i gwmni y penaeth Makololoaidd Seketu unwaith yn ychwaneg. Yr oedd cyfnewidiadau pwysig wedi cymeryd lle yn ffawd y penaeth Makololoaidd er pan ymadawsai y dyngarol Livingstone oddiwrtho yn Nhachwedd, 1855. Llawer o'r Makololoaid a ddyoddefasant adfyd chwerw. Daeth sychder crasboeth ar eu gwlad, yr hwn a ddinystriodd gnydau a phorfeydd Jinjanti. Yr oedd corff mawr o is-lwyth Barotae wedi gwrthryfela a dianc i'r gogledd. Yr oedd y Batoka, is-lwyth arall, yn herio awdurdod Sekeletu, a'r penaeth Mashotlane, gerllaw Rhaiadr Victoria, yn gwrthod talu gwarogaeth i Sekeletu fel ei uwch-benaeth neu ei ymherawdwr. Felly yr oedd yr Ymherodraeth deg a gyfodasid gan Sebituane, y rhyfelwr a'r tywysog dewr-galon—yr oedd yr Ymherodraeth odidog a ffurfiasid gan ei wroldeb a'i ddoethineb ef, yn cwympo'n ddarnau, ac yn dilyn ol yr oll o'r Ymherodraethau a'r Breniniaethau Affricanaidd lle na chaed addysg i gadw'n fyw ddoethineb eu sylfaenwyr.

Gan ein bod wedi dyfod i deimlo dyddordeb yn y Makololo druain ar gyfrif eu ffyddlondeb fel gosgorddlu a chyfeillion i Livingstone, gallwn gofnodi yn y fan ddarfod i'w cyfaill dderbyn adrodddiad yn 1865 i'r perwyl fod Sekeletu wedi marw yn 1864, a chwyldroad wedi tori allan yn nghylch dewisiad ei olynydd. Ymadawsai un blaid, gan gymeryd eu hanifeiliaid i'w canlyn, at Lyn Ngami, a'r rhai a arosasant a ddinystriwyd ac a wasgarwyd yn fuan gan wrthryfel cyffredinol yn mhlith y llwythau duon a ddarostyngasid gan Sebituane.

Ar yr 17eg o Fedi, ymadawodd Livingstone oddiwrth Sekeletu am y waith olaf, ac ar y 23ain o Dachwedd, efe a gyrhaeddodd i Zette gwedi' absennoldeb o chwe' mis. Yr oedd y morwyr Seisnig a adawsid i ofalu am yr agerlong wedi ymddwyn yn ganmoladwy yn ystod taith y cenadwr dros y tir, ac yr oedd eu hiechyd heb ei anmharu.

Gan fod y Zambesi yn isel, bu y fintai yn analluog i ymadael o Tette hyd y 3ydd o Ragfyr; a phan oeddynt wedi penderfynu a pharotoi i gychwyn i ymofyn meusydd newyddion i'w harchwilio, hwy a ganfyddasant mai gwaith tra anhawdd oedd cadw у "Ma-Robert" i nofio. Cawn Livingstone yn gwneyd yr adroddiad canlynol am ei long:-Canfyddid ynddi agenau newyddion bob dydd, daeth sugniedydd y peiriant i fod yn gwbl ddiwerth, torodd y bont, llanwyd yr oll o'r cwsg. gelloedd, oddigerth y caban, gan ddwfr, ac yn mhen ychydig ddyddiau sicrhawyd ni gan Rowe, morwr, Seisnig, fod yn anmhosibl iddi ddyfod yn waeth nag ydoedd. Ar foreu yr 21ain, tarawodd y Ma-Robert ar dywod-drum, a chan ddarfod i'r afon ymchwyddo yn ystod y nos, ni welid dim o'r llong erbyn y boreu, oddigerth oddeutu chwe' throedfedd o'i dau hwylbren. Aelodau y fintai a lwyddasant i lanio yn Ynys Chimba, ac wedi iddynt dderbyn cychod o Senna, hwy a aethant yn mlaen hyd y dref hono, lle y derbyniwyd hwy yn llettygar gan gyfaill Portuguaidd.

Ar y 31ain o Ionawr, cyrhaeddodd y "Pioneer," llong newydd Dr. Livingstone o Frydain, at enau yr afon, ond oherwydd y tywydd ystormus, nis gallodd hi fyned i mewn i'r afon hyd y 4ydd dydd o'r mis canlynol. Ar yr un adeg, cyrhaeddodd at enau y Zambesi Genadaeth o Brif Ysgolion Rhydychain a Chaergrawnt, o dan ofal ac arweiniad yr Esgob Mackensie, gyda'r amcano bregethu yr Efengyl i'r llwythau a breswylient lanau Llyn Nyassa. Cynnwysai y Genadaeth chwech o foneddigion Seisnig a ddysgasid i fyny yn y Prif Ysgolion, a phump o ddynion duon o Drefedigaeth y Penrhyn. A'r Esgob yn awyddus i ddechreu gwaith ei genadaeth yn ddiymaros, efe a archodd i'r Dr Livingstone ei gludo ef a'i gwmni i fyny y Shire; ond gan fod cynnifer o wrthwynebiadau pwysig i fabwysiad y cwrs brysiog hwn, gorfodwyd y Doctor i erfyn ar yr Esgob leddfu ei frys er mwyn ei ddyledswydd. Hyny a wnaed; a chan adael y gweddill o aelodau ei genadaeth yn Johanna, un o Ynysoedd Comoro, aeth yr Esgob gyda Livingstone i archwilio Afon Rovuma. Y mae genau y Rovuma yn meddu golygfeydd ardderchocach na glanau y Zambesi; ac yn wahanol i'r afon hono, nid oes dywod-wrym ar ei genau. Ond yr oedd rhedlif y Rovuma mor gyflym fel nad allai y "Pioneer," yr hon a dynai bum' troedfedd o ddwfr, ei mhordwyo. Yr oedd y llong wedi ei chynllunio i beidio tynu ond tair troedfedd o ddwfr, ond mewn trefn i'w chryfhau i groesi y mor dyfnasid ei thynfa, ac mewn trefn i geisio ei chyfaddasu i fordwyo trumau tywodlyd, &c., collwyd llawer o amser, achoswyd blinder mawr i'r teithwyr, a bu raid gwario llawer o arian. Cadwyd y fintai unwaith am bythefnos ar ben tywod-wrym. Pe buasai Livingstone yn gadael y llong i agor cymundeb gyda'r brodorion, yn niffyg gofal meddygol, gwenwynasid yr Ewropeaid yn ebrwydd gan afiachusrwydd yr iseldir o gylch yr afon, ac nis gallesid diogelu eiddo cenadaeth y Prif Ysgolion trwy ei symud. Wrth lusgó y "Pioneer" dros y tywod-wrymiau, cafwyd gan dri o'r cenadon, sef yr Esgob a'r Meistri Walter a Scudamore, y cynnorthwy mwyaf ewyllysgar.' Ond pe na buasai y "Pioneer" yn gofyn namyn tair troedfedd o ddwfr, yn lle pump, Ilaihasid gwaith y fintai, ac achubasid llawer o amser gwerthfawr.

Hyd yr amser presennol, buasai yr ymgyrch ar y Zambesi yn weddol lwyddiannus. Yr oedd aelodau y fintai wedi llwyddo i agor maes cotwm pedwar can' milldir o hyd, yr oeddynt wedi enill ymddiried y brodorion yn mhob cyfeiriad y teithiasent, a phe buasai cenadaeth y Prif Ysgolion gynnwysiedig o ddynion galluog, yr oedd pob rhagolwg y gwawriasai cyfnod o heddwch a llwyddiant ar y parth yma o'r Cyfandir. Ond yn awr, pan oedd y cenadon yn barod i ddechreu y gwaith da o wareiddio y brodorion a gwella eu sefyllfa foesol, canfu Livingstone ei fod ef wedi agor ffordd i'r caethfasnachwyr yn ogystal ag i'r cenadon. Ymddangosai fod dylanwad drwg a dinystriol y bydr elw allanol yn ymryson ymdywallt ar y brodorion syml ag y dymunai y dyngarwr Livingstone, yn enw Prydain Fawr, eu gwaredu o'u tywyllwch.

Yn Moame, hysbyswyd yr Ewropeaid y byddai i gwmni o gaethfasnachwyr yn fuan ddyfod trwy y pentref. Parodd y newydd cyffrous hwn i'r naill ofyn i'r llall a ddylesid goddef y fath beth. Yn mhen ychydig fynydau wedi iddynt dderbyn y newydd hynod, daeth y cwmni caethfasnachol heibio, gyda chadwyn hirfaith o ddynion truenus a golwg hirgystuddiedig arnynt, a'r gyrwyr duon yn marchogaeth yn llawen fel gorymdaith. Ebrwydded y gwelsant y Brydeinwyr, y caethfasnachwyr a ddiangasant nerth eu gwadnau i'r goedwig. Ond attaliwyd un caethfflangellwr, sef gwas Llywydd Milwrol Zette, yr hwn a ddaliwyd gerfydd ei law gan un o'r Makololo. Mewn atebiad i holiadau Livingstone, dywedodd y caethyrwr hwn fod y cwmni caeth wedi eu prynu, ond y bobl eu hunain a wadent hyny, ac a ddywedent mai eu caeth-gadwyno trwy orthrech a gawsent. Tra yr oedd yr ymholiad hwn yn myned yn mlaen, diangodd y diweddaf o'r caethyrwyr i'r goedwig; ac wedi cael y bobl yn hollol yn eu dwylaw, cyflym y darfu i'r dynion gwynion ryddhau y gwragedd a'r plant diamddiffyn o'u cadwynau. Yr oedd y dynion caethiwedig wedi eu rhwymo gyda baglau cryfion o goed, y rhai yr oedd raid eu llifio drwyddynt. Dyma'r gwrthwynebiad pendant a phenderfynol cyntaf a arddangoswyd gan y Prydeinwyr i'r gaethfasnach farbaraidd ac annuwiol yn Nghanolbarth Affrica.

Mawr ydoedd syndod y pedwar ugain a phedwar caethion rhyddedig weled unrhyw ddynion yn tosturio wrthynt hwy yn eu cyflwr truenus, ac yn barod i geisio gwella eu sefyllfa. Plentyn bychan, yn ngrym tanbeidrwydd ei galon syml, a ymgymerodd a bod yn llefarwr dros y bobl, gan ddyweyd yn ei ddull plentynaidd, "Y lleill a'n cadwynasant ac a'n newynasant; ond chwychwi a dorasoch ein rhwymau ac a barasoch i ni fwyta. Pa fath bobl ydych, ac o ba le y daethoch?". Y bobl syml a hysbysasant i'w rhyddhawyr fod dwy o'r gwragedd wedi cael eu saethu y dydd blaenorol am geisio dattod eu rhwymau. Curasant ymenydd baban diniwed un wraig allan, am nas gallai hi gludo ei baich gosodedig gydag ef! a holltasid corff un dyn gyda bwyell am ei fod yn llethedig ac analluog i gerdded oherwydd blinder.

Rhyddhawyd haner cant o gaethion ereill yn mhen ychydig ddyddiau; ac ymddengys fod eu gweithredoedd daionus wedi symbylu yr Ewropeaid i'r fath egnion ar ran y caethion, fel y buasent, a hwynthwy yn y fath ystad diamddiffyn, wedi cyflawni gweithredoedd annoeth a pheryglus i'w diogelwch personol pena buasai i Livingstone gymedroli eu haiddgarwch.

Pan welodd Livingstone nas gallai gyflawni nemawr waith gyda llestr mor ddofn a'r "Pioneer," a chan ofni trethu amynedd a phwrs y Llywodraeth yn ormodol, efe a anfonodd i Frydain i erchi gwneuthuriad agerlong na byddai yn ofynol cael mwy na thair troedfedd o ddwfr iddi nofio ynddo, a gorchymynodd i'w fancwyr dalu am dani allan o'i arian ef ei hun. Gwelai Livingstone, os gellid unwaith gael y fath long i nofio ar Lyn Nyassa, y ceid mioddion sicr ac effeithiol i attal y gaethfasnach a gerid yn mlaen gyda'r fath egni yn nghymydogaeth y Llyn mawr hwnw. I aros i'r agerlong ddysgwyliedig gyrhaedd y Zambesi, penderfynodd y Doctor ddefnyddio ei fintai i adeiladu cwch ysgafn pedair rhwyf, a'i gludo i'r llyn i'r dyben o gario yn mlaen archwiliadau pellach. Dechreuwyd y gwaith hwn ar y 6ed o Awst, 1861. Cludwyd y cwch ar ysgwyddau dynion am ddeugain milldir o ffordd dros y tir, ac yna nofiwyd ef ar yr Afon Shire Uchaf. Hwyliodd y fintai yn y cwch hwn i Lyn Nyassa ar yr ail o Fedi, 1860.

Wrth archwilio y Llyn, cafodd y fintai brofion o ffrwythlonrwydd diderfyn y tir o'i amgylch, lluosogrwydd y trigolion, amledd y pentrefi, cyflawnder dihysbydd y pysgod yn y dyfroedd, y rhai a gynnysgaeddent y pysgodwyr gyda digonedd o ymborth, a llawer o wrthddrychau ereill. Y mae y llyn yn 200 o filldiroedd o hyd a 40 milldir o led ar gyfartaledd, er fod ei led mewn un man o 50 i 40 milldir.

Gan ddychwelyd i'w llong, yr archwilwyr a gyrhaeddasant i'r Shire ar yr 8fed o Dachwedd, 1861, a chychwynasant i lawr yr afon i gyfeiriad y Zambesi. Cyrhaeddodd y Pioneer i'r Zambesi ar yr 11eg o Ionawr, 1862, ar ei thaith i lan y mor. Pedwar diwrnod ar bymtheg yn ddiweddarach, yr archwilwyr gwrolfrydig a gawsant yr hyfrydwch o groesawu y llong ryfel "Gorgon," yr hon oedd yn tynu ar ei hol long hwyliau, ar fwrdd pa un yr oedd Mrs. Livingstone a rhai boneddigesau ereill perthynol i'r cenadon. Yn yr unrhyw lestr hefyd dygid, yn bedair ar hugain o adranau gwahanol, yr agerlong fechan bwrpasol i fordwyo Llyn Nyassa, yr hon a gostiasai chwe' mil o bunnau į Livingstone yn bersonol. Yr oedd peiriannau y Pioneer mewn cyflwr mor nodedig o adfeiliedig, fel mai gydag anhawsdra dirfawr y gallai y llong weithio ei ffordd yn arafaidd yn erbyn llif ymchwyddol y Zambesi pan ddefnyddiwyd hi i gludo rhanau o'r llong newydd—Lady Nyassa—i fyny yr afon hono. Y Capten Wilson, o'r Gorgon, ac efe yn gweled awydd y boneddigesau perthynol i'r genadaeth am gyrhaedd i ben eu siwrnai, a fu garediced a chynnyg eu cludo i fyny yr afon yn nghwch y llong ryfel. Gwedi cyrhaedd ohono ef a'r boneddigesau hyd yn Chibisa ar y Shire, hwy a glybuasant gan y Makololo fod yr esgob daionus Mackensi a Mr Burns, un o'r cenadon, wedi marw; a'r ddwy foneddiges drallodus a ddychwelasant at enau y Zambesi yn galonddrylliog. Yn fuan ar ol hyn, oherwydd camgymeriad dinystriol a gyflawnwyd gan y cenadon, trwy ymadael o'r uchel-diroedd ac ymsefydlų yn rhandir afiach y Shire Isaf, bu farw dau yn ychwaneg o'u nhifer, sef y Parch. Mr. Dickinson a'r Parch, Mr, Scudamore.

Ar y 27ain o Ebrill, 1862, bu farw Mrs Livingstone, priod ddewr y dyngarwr a'r archwiliwr David Livingstone. Terfynwyd ei bywyd gwerthfawr hithau gan effeithiau dinystriol yr hinsawdd yn Shupanga, ar yr afon Shire; ac yno y claddwyd hi. Darllenwyd y gwasanaeth angladdol uwch y bedd gan y Parchedig James Stuart, o Eglwys Rydd Ysgotland.

Gwedi y cyfnod trychinebus hwn aeth Livingstone i archwilio y Ravuna, i'r hon y cansyddodd efe ddwy gangen bwysig yn ymarllwys, un o'r de-orllewin, gan darddu o Fynydd Nyassa, a'r llall o'r gorllewin-ogledd-orllewin. Ar ei ddychweliad o'r ymgyrch yma, efe a aeth yn mlaen gyda'i archwiliadau ar y Zambesi a'r Shire. Ar y 19eg o Fai, 1863, y Parch. Charles Livingstone a'r Dr. John Kirk, wedi dyoddef llawer oddiwrth effeithiau gwenwynig yr hinsawdd, a ymadawsant oddiwrth Dr Livingstone i'r dyben o ddychwel gartref. Dau fis yn ddiweddarach, pan yr oedd yr archwiliwr diflin ar fedr defnyddio ei agerlong newydd "Lady Nyassa," am yr hon y talasai efe yn gyfan allan o'i foddion personol, ac i'r unig ddyben o hyrwyddo yr amcan y dirprwyasid ef gan y Llywodraeth Brydeinig i arolygu ei gyflawniad—pan oedd efe ar fedr myned a'i agerlong i fyny i Lyn Nyassa, cyrhaeddodd cenadwri oddiwrth Iarll Russell yn ei gyfarwyddo i ddychwel i Frydain. Mewn ufudd-dod i'r cyfarwyddiadau yn y genadwri a nodwyd, dychwelodd Livingstone i enau y Zambesi, ac oddiyno i Zanzibar; ac oddiyno drachefn, gan lywyddu mordwyad y llong ei hun, efe a hwyliodd i Bombay, pellder o ddwy fil a haner o filldiroedd. Gwerthodd y "Lady Nyassa" yn Bombay am ddwy fil o bunnau, a dododd y swm hwnw yn nwylaw arianydd. Yn fuan gwedi hyn, fel megis i gwblhau y prawf chwerw o dan ba un y darostyngwyd ysbryd y dyn dewr hwn yn ystod y cyfnod rhwng 1858 ac 1864, daeth arianydd Bombay yn fethdalwr, a chollodd Livingstone yr oll o'r ddwy fil punnau.