Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Y Rhufeiniaid

Oddi ar Wicidestun
/Y Cenhedloedd Crwydr Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
Y Rhufeiniaid
gan Owen Morgan Edwards

Y Rhufeiniaid
Y Goncwest

Y FENAI AC YNYS MON,—GER PORTHAMEL

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD III.- Y RHUFEINIAID.

Urbem fecisti orbem terrarum.

TRA'R oedd cenedl ar ôl cenedl yn crwydro tua'r gorllewin, i'r ynys oedd y pryd hwnnw a'r ymyl eithaf y byd, yr oedd dinas yn codi a'r lan Môr y Canoldir, dinas oedd i roi terfyn am rai canrifoedd i grwydradau'r cenhedloedd, dinas oedd i estyn ei theyrnwialen dros ynysoedd eithaf y ddaear, dinas oedd i wneud tylwythau gelynol yn gyd-ddinasyddion, dinas oedd i wneud gwledydd y ddaear yn un ymherodraeth. Y mae gwaith Rhufain wedi ei ddarlunio'n gyflawn yn y geiriau ddywedwyd wrthi gan un o'i beirdd,

Yn ddinas ti a wneist y byd i gyd.

Ond, ymhell cyn sylfaenu Rhufain, yr oedd dychmygu wedi bod yn heolydd dinasoedd gorwych, pa ynysoedd orweddai draw y tu hwnt i golofnau Moloch, yn y môr y tybid nad oedd terfyn iddo. Gwelwyd llongau Tyrus yn chwilio holI gilfachau Môr y Canoldir, ac yn meiddio hwylio rhwng y colofnau i'r môr dieithr di-lan. Yr oedd medr morwyr Tyrus yn ddihareb, - dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long lywiawdwyr. Yr oedd llongau Tyrus yn syndod y byd, - eu rhwyfau o dderw a'u meinciau o ifori, lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti, glas a phorffor o ynysoedd Elisah oedd dy do. Ymsefydlodd y Phoeniciaid hyn yma ac acw hyd lannau Môr y Canoldir, - a dwy ferch enwocaf Tyrus a Sidon oedd Carthage a'r dueddau Affrig a Tharsis a'r lan Hispaen. Tarsis oedd y bellaf i'r gorllewin o ferched Tyrus, a daeth mor gyfoethog fel y gofynnodd proffwyd Hebreig am ei llongau,

Pwy yw y rhai hyn ehedant fel cwmwl Ac fel colommenod i'w ffenestri?

I Darsis y doi cyfoeth Prydain a'r gorllewin, - yr arian a'r haearn a'r alcan a'r plwm â'r rhiai y marchnatai ei marsiandwyr yn ffeiriau Tyrus. Ond daeth dydd cwymp Tyrus, y ddinas sylfaenesid a'r y graig, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer. Ymadnewyddodd wedi i Nebuchodonosor ei dinistrio, - dy derfynau oedd yng nghanol y môr, dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Ond, yn y flwyddyn 332 cyn Crist, dinistriwyd hi gan Alecsander Fawr a'i Roegwyr, a'r ynysoedd y rhai oedd yn y môr a drallodwyd wrth ei mynediad hi ymaith.

Wedi cwymp Tyrus, ymholodd y Groegiaid o ba le yn y gorllewin y deuai ei gollid. Tua'r adeg yr oedd Alecsander yn gwarchae a'r Dyrus, yr oedd llong Groegwr yn hwylio allan o Fôr y Canoldir, rhwng colofnau Moloch, i chwilio am ynysoedd y gorllewin. A daeth colofnau Moloch, duw Tyrus, yn golofnau Hercules, enw Groeg. Erbyn hyn y mae magnelau Prydain ar graig Gibraltar, yn lle temlau'r hen genhedloedd fu'n anfon morwyr i chwilio am dani.

Pytheas oedd enw'r Groegwr anturiodd allan i fôr y gorllewin. Un o frodorion Marseilles Roegaidd oedd,—efrydydd lledredau, a sêr, a dylanwad y lleuad ar y tonnau. Wedi dod allan i Fôr y Werydd, hwyliodd i'r gogledd, gyda gororau Spaen a Llydaw, ac o'r diwedd cyrhaeddodd Brydain yn gynnar yn yr haf.

Gwelodd drigolion yr ynys yn dyrnu eu gwenith, ac yn gwneud medd o wenith a mêl, ond y mae'n amheus iawn a aeth yn ddigon pell i'r gorllewin i weled ardaloedd yr alcan. O Brydain hwyliodd i'r gogledd, gan gadw gyda thraethell y Cyfandir. Gwelodd Gimbrir Iseldiroedd yn gorfod ffoi yn awr ac eilwaith a'r eu ceffylau cyflymaf i osgoi'r llanw ddoi dros eu gwlad, gwelodd y fforestydd tywyll oedd yn gorchuddio gogledd Ewrob, hwyliodd a'r hyd glannau mynyddig danheddog Norwy tua Phegwn y Gogledd, hyd nes y cafodd ei hun mewn gwlad lle gellid gweled yr haul ganol nos, ac ymysg pobl dangosent iddo y lle'r oedd yr haul yn cysgu. O fôr oer marw'r gogledd trodd Pytheas yn ôl tua Phrydain, ac oddi yno adre, wedi dechrau masnach, feallai, rhwng Marseilles ac ardaloedd alcan Prydain, a rhyngddi ac ardaloedd amber rhuddgoch y Baltic.

Wedi ei farw, ni chredid Pytheas. Tybid mai cread ei ddychymyg ei hun oedd y petha welsai, ac ni roddid gwerth a'r ei ffeithiau ond fel defnyddiau rhamantau. I gyfoedion Pytheas,—megis Plato ac Aristotl,—nid oedd ynysoedd y gorllewin ond enw ar wlad o fwnau heb eu darganfod, rhywbeth fel enw Peru i'r rhai ganasant emynau Pant y Celyn gyntaf.

Collwyd Prydain eilwaith yn niwl a hud dychymyg y Groegiaid.

Wedi cwymp Tyrus, a thra gwywai Groeg, cododd Rhufain. Ei gwaith hi oedd uno gwledydd y ddaear, a gwneud ffyrdd i bob man. Erbyn 275 c.c., yr oedd yr Eidal yn eiddo iddi; erbyn 202 yr oedd wedi gorchfygu Hannibal, ac yn ymbaratoi at ddinistrio Carthage: erbyn 190 yr oedd Macedonia, Groeg, a Syria wedi eu gorchfygu: erbyn 133, yr oedd Spaen wedi ei hennill a Charthage yn lludw: yr oedd holl lannau Môr y Canoldir yn eiddo Rhufain. Yna trodd y ddinas aniwalladwy ei llygaid tua'r dwyrain a thua'r gogledd. Croesodd Iwl Cesar, hoff arweinydd y bobl, yr Alpau, yn y flwyddyn 58 c.c.: a chyn pen y deng mlynedd yr oedd Gallia, yr holl wlad rhwng y Rhein a Môr y Werydd wedi dod yn wlad Rufeinig, - ffyrdd Rhufeinig yn rhedeg drwyddi i'r môr eithaf, a'i thrigolion yn ddeiliaid ffyddlon. Pan oedd Cesar yn gorchfygu trigolion Gallia, gwelodd eu bod yn cael cymorth o ynys Prydain oedd a'r eu gororau. Ac er mwyn cwblhau ei goncwest, penderfynodd ddarostwng yr ynys honno hefyd. Croesodd y culfor, gyda'r ail a'r seithfed leng, yn niwedd Awst 55 c.c. Nid oedd ei fyddin yn ddigon i orchfygu'r wlad, ac yr oedd yn hwyr ar y flwyddyn. Aeth yntau'n ôl, a daeth yn gynharach yn y flwyddyn wedyn, gyda byddin gryfach. Dywed ei hanes ei hun yn gorchfygu Caswallon, tywysog y Brytaniaid, yn cymeryd dinas noddfa ei lwyth, yn derbyn ymostyngiad llwythau dwyrain yr ynys, ac yn troi ei gefn a'r Brydain. Casglodd beth gwybodaeth am ganolbarth a gorllewin yr ynys, - dywed fod eu pobl yn gwisgo crwyn ac yn byw ar gig a llaeth eu praidd, fod yr Iwerddon y tu hwnt i Brydain, ac Ynys Môn rhwng y ddwy.

Am gan mlynedd wedyn ni ddaeth milwyr Rhufeinig i Brydain. Yr oedd y can mlynedd hyn yn gan mlynedd rhyfedd yn hanes y byd. Ynddynt y cyrhaeddodd Rhufain binacl ei gogoniant, ac y dechreuodd wywo. Ynddynt y gwelwyd Iwl Cesar yn gorchfygu cyrrau'r byd, o Balestina i Brydain, ac yn dod yn ymerawdwr mewn popeth ond enw, hyd nes y llofruddiwyd ef gan garedigion yr hen weriniaeth. Ynddynt rhoddwyd enw ymerawdwr, yn gystal â'r gallu, i Augustus. Yn ystod ei ymherodraeth ef y canodd beirdd gorau Rhufain, - daw cyfnod aur llenyddiaeth bob amser yn adeg gorthrwm a llwyddiant, - Virgil a Horas ac Ovid. Yn ystod ei ymherodraeth ef yr oedd hen gredoau'r byd wedi gwanhau, yr oedd yr hen dduwiau wedi mynd mor lluosog fel nad oedd gan un awdurdod ar feddyliau a bywydau dynion. Ac yn nheyrnasiad Augustus, pan oedd wedi anfon gorchymyn allan i drethu yr holl fyd daeth teulu tlawd o Nazareth i Fethlehem Judea, a'r gyrrau eithaf yr ymherodraeth, i'w trethu yn eu dinas eu hun.. A thithau Bethlehem Ephratah, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Judah, eto o honot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel: yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwvddoldeb.

Yr oedd y baban hwnnw aned ym Methlehem yn amser y dreth i newid mwy a'r y byd ac a'r gymeriad dynion nag a wnaeth Rhufain, gyda'i holl gyfoeth a'i hathrylith a'i llengoedd. Ond cyn i'r newydd am yr Iesu ddod â'r hyd yr ymherodraeth i Brydain, yr oedd dyddiau blin a chynhyrfus. a chyfnewidiadau mawrion, i gyfarfod yr ynyswyr. Wedi i Iwl Cesar droi ei gefn, i lywodraethu byd yn lle gorchfygu ynys, yr oedd enw Rhufain, heb long rhyfel na milwr, yn gorchfygu ym Mhrydain. Yr oedd rhyw dywysog beunydd yn apelio at ymerawdwr y byd. Yn Ancyra bell darganfyddwyd carreg yn dweud fod brenhinoedd o Brydain wedi dianc o'u gwlad a dod at Augustus i gwynfan, ac ar gais rhyw ffoadur pendefigaidd y penderfynodd yr ymerawdwr Claudius orchfygu'r ynys.

Erbyn ail ddyfodiad y Rhufeiniaid, yr oedd Rhufain wedi dechrau gwywo, - yr oedd Augustus wedi marw, yr oedd Tiberius wedi ymroddi i ddrygioni gwarthus cyn ei fygu, ac yr oedd Caligula wedi gwallgofi cyn ei lofruddio. Yr oedd calon yr ymherodraeth wedi dechrau pydru, ac yr oedd dirywiad y brifddinas yn dinistrio'r gallu ddaliai'r byd yn un, yn gwanhau nerth y llengoedd oedd yn gorfod cilio'n ôl o gam i gam o flaen cenhedloedd y gogledd. Yr oedd y trethi'n drymion, yr oedd y swyddogion yn drahaus, yr oedd y milwyr yn greulon, yr oedd caethiwed y gorchfygedig ymron yn anioddefol, pan ddygodd Rhufain ein hynys dan ei hiau. Ar yr un pryd, yr oedd Prydain yn prysur ddadblygu, - yr oedd celf yn blodeuo, yr oedd mwnau'n cael eu gweithio, a hwyrach y buasai Caradog wedi gwneud yr holl ynys yn un ymherodraeth. Y maen anodd dweud pa un ai ennill ai colli wnaeth Prydain wrth golli Caradog a gorfod ymostwng i iau haearn Rhufain. Pe buasai'r Rhufeiniwr heb ddod ni fuasai Prydain wedi cael ei ffyrdd, ei dinasoedd, ei phlasau, ei hamaethyddiaeth, ei gweithfeydd, a'i hundeb mor fuan; ni fuasai wedi dioddef gorthrwm y llengoedd ychwaith, ni fuasai ei hamaethwyr a'i mwnwyr wedi talu trethi trymion Rhufain, ni fuasai wedi ei gwanhau ar gyfer ymosodiad y barbariaid Teutonaidd dorasant gaerau'r ymherodraeth ac a ddylifasant iddi, i ddinistrio pob peth. Yn lle ymddadblygu yn ei nerth ei hun, daeth Prydain yn rhan o ymherodraeth yr oedd ei sylfeini wedi dechrau gollwng. Yn narluniadau byw Tacitus, ac yn ysgrifeniadau Lladinwyr diweddarach, cawn hanes ein cyfnod Rhufeinig. - y goncwest, y trefnu, yr amddiffyn, y gwrthryfela, y colli.