Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Beulah

Oddi ar Wicidestun
Carno Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Bwlchyffridd

BEULAH.

Beulah (A) Nant yr Eira

Y mae y capel yma yn mhlwyf Llanerfyl, mewn ardal uchel, fynyddig, a elwir Nantyreira. Mae y lle yn hollol ddiarffordd, ond yn y cyfeiriad o Lanbrynmair i Cann-office, tua haner ffordd o'r naill i'r llall. Mae yn y gymydogaeth lawer o ffermydd; ac er mai mynydd-dir gwyllt yw y tir, ceir yma lawer o bobl gefnog eu hamgylchiadau. Driugain mlynedd yn ol, a chyn hyny, yr oedd amryw o'r trigolion yn aelodau yn Llanbrynmair, a chyrchent yno yn gyson i'r moddion ar hyd llwybrau corsiog, gwlybion, ac elai y diweddar Mr. John Roberts yno atynt yn achlysurol i bregethu iddynt. Yn Nghwmderwen y dechreuwyd pregethu; ac yr oedd Thomas Edwards, Cwmderwen, a'i wraig, a Hugh Sychnant, a'i wraig, a Susan o'r Myrddyn Llwyd, y rhai cyntaf o'r gymydogaeth a ymunodd a'r eglwys yn Llanbrynmair. Cyrchent yno bob wythnos yr holl ffordd i'r gyfeillach, a chyn ymadael wrth y Ddolgaregwen, cydymgryment gyda'u gilydd i weddio. Yn Nolgaregwen y pregethodd Mr. John Breese, wedi hyny o Liverpool, ei bregeth gyntaf. Yr oedd ar y pryd yn was yn Cwmcarnedd, ac yn gweithio yn Prisgwyneyll. Mae yma rai etto yn ei gofio, yn ei glocs a'i smockfrock, yn pregethu y noson hono. Pregethwyd llawer yn Cannon, Ffrwdfawr, a Phenffriddnewydd, cyn codi y capel. Adeiladwyd capel Beulah yn 1822, ar ddarn o dir ar etifeddiaeth Wynnstay; a thalwyd am dano trwy ffyddlondeb yr ardalwyr, a'r cymhorth a gafwyd gan y fam eglwys yn Llanbrynmair; ac wedi codi capel Llanbrynmair, cymerwyd areithfa yr hen gapel, y bwrdd, a pheth o'i ddodrefn eraill, i Beulah, ac y maent yno hyd y dydd heddyw. Prif ategwyr yr achos yma yn ei gychwyniad, ac am flynyddoedd wedi hyny, oeddynt deuluoedd Cwmderwen, Cannon, Bryngwyn, Penffriddnewydd, Hafod, Sychnant, Dolau, a'r Ffriddfawr; ac y mae hiliogaeth rhai o honynt yn parhau yn y lle, ac yn ffyddlon i'r achos.[1]

Bu Beulah mewn cysylltiad gweinidogaethol â Llanbrynmair hyd fynediad Mr. Samuel Roberts i America yn 1858. Er hyny ni bu yno weinidog sefydlog; ond gofelir am y lle yn benaf yn awr gan Mr. Evans, Llanbrynmair, a Mr. Evans, Foel, fel y ddau gymydog agosaf. Rhifa y gynnulleidfa tua 130 yn gyffredin, ac y mae o leiaf haner y nifer hwnw yn aelodau. Maent yn nodedig o ffyddlon i ddyfod i'r moddion, os na bydd hi yn dywydd afresymol i neb fyned o'i dy; ac y mae yn anhawdd cael cynnulleidfa o wrandawyr mwy astud; ac y mae ynddi nifer o ddynion deallus yn mhethau yr efengyl. Sonir ganddynt am adgyweirio yr hen gapel, neu adeiladu un newydd, ac y mae mawr angen am hyny.[2]

Nodiadau

[golygu]
  1. Llythyr Mr. S. Roberts.
  2. Llythyr Mr. O, Evans.