Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Bwlchyffridd

Oddi ar Wicidestun
Beulah Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Llanwnog

BWLCHYFFRIDD.

Aberhafesp y gelwid yr achos yma gynt, am mai mewn gwahanol fanau yn mhlwyf Aberhafesp y cyfarfyddid; ond pan godwyd y capel, galwyd ef Bwlchyffridd. Saif o fewn pedair milldir i'r Drefnewydd, ar ddarn o dir sydd yn cysylltu dau ddyffryn prydferth, sef dyffryn Hafren, yr hwn a red i fyny i Gaersws, a dyffryn Creginog, yr hwn sydd yn rhedeg i fyny at Creginog Hall, palas Arglwydd Sudley. Ymddengys fod pregethu yn mhlwyf Aberhafesp er yn foreu iawn. Nid yw yr Ysgafell lle y preswyliai Mr. Henry Williams ond tua phedair milldir oddi yma, a phregethodd ef a'i gyd-lafurwyr lawer yn yr holl wlad oddi amgylch yma. Yn nyddiau Meistri Lewis Rees a Richard Tibbott, yr oedd llawer o aelodau Llanbrynmair yn preswylio yn y plwyf hwn, a chyfarfyddent a'u gilydd i gynal cyfeillachau crefyddol, a deuai eu gweinidogion yn fynych i bregethu iddynt. Pan oedd Mr. Evan Roberts, tad Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn byw yn mhlwyf Mochdre, at y gangen oedd yn Aberhafesp y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, er mai aelod yn Llanbrynmair ydoedd. Fel y crybwyllasom eisioes, yr oedd yn Llanbrynmair y pryd hwn nifer o Fedyddwyr yn aelodau; ac ymddengys mai y Bedyddwyr oedd luosocaf yn y gangen yn Aberhafesp, oblegid mae yn debyg eu bod yn fwy dan ddylanwad gweinidogion y Bedyddwyr yn y Dolau a'r Pentre, ac yn mwynhau mwy o'u gweinidogaeth. Adeiladodd y Bedyddwyr gapel heb fod yn nepell oddi yma, lle y maent yn ymgynnull etto; ac o hyny allan, parhaodd yr Annibynwyr i ymgynnull o dy i dy, gan gyfrif eu hunain yn aelodau yn Llanbrynmair, a deuai gweinidogion Llanbrynmair i bregethu iddynt.

Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y ffurfiwyd y gangen yn Aberhafesp yn eglwys Annibynol. Er fod y cyfamod eglwysig a dynwyd allan ganddynt yn awr ger ein bron, ac enwau yr aelodau cyntaf wedi eu cadw yn ddiogel; ond yn anffodus, nid oes dyddiad i'r cyfamod. Yn ol pob peth a allwn gasglu, yr oedd rywbryd wedi 1780, a chyn dechreu gweinidogaeth Mr. J. Roberts. Y mae un o hen aelodau yr eglwys, Mr. Charles Benbow, yn cofio yn dda am ymweliadau Mr. Tibbott â'r ardal i bregethu. Pregethai yn aml ar y maesydd, ac yn unrhyw dy y rhoddid derbyniad iddo, nes o'r diwedd y dechreuwyd cynal moddion yn sefydlog yn Brynygroes, tyddyndy bychan rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Yn fuan wedi hyny, agorodd Mr. Richard Lewis, Gareglwyd, ei dy, yr hwn oedd yn lle helaeth a chyfleus, a chafodd yr achos gartref yma dros lawer o flynyddau. Yr oedd Mr. Lewis, Gareglwyd, yn amaethwr cyfrifol, ac yn berchen ar amryw ffermydd yn y gymydogaeth, a bu o gynorthwy mawr i'r eglwys; ac y mae wyrion iddo yn glynu gyda'r achos yn y lle hyd y dydd hwn. Y mae yn debyg mai yn y Gareglwyd y corpholwyd yr eglwys, tua'r flwyddyn 1790, fel y gallwn farnu oddiwrth y gwahanol adroddiadau a roddir. Dyma y cyfamod ar yr hwn y cytunasant:

"Y Cyfamod Eglwysig y cytunwyd arno gan y Gymdeithas o Ymneillduwyr Protestanaidd yn Aberhafesp."

"Yr ydym yn cyfamodi yn ngwydd Duw â'n gilydd, yn enw Duw, a thrwy gymhorth yr Ysbryd Glan, y bydd i ni, fel aelodau o Grist, mewn undeb â'n gilydd, arddel ein hunain yn galonog ac yn ffyddlon yn ddisgyblion i Grist, ac na fydd arnom gywilydd o hono Ef na'i achos, ond ymdrechu yn wrol o blaid y ffydd a draddodwyd unwaith i'r saint; ac y bydd i ni ymarfer â'r ordinhadau y mae wedi osod yn ei dy yn gydwybodol, a rhodio yn ol y rheol y mae wedi osod i ni yn ei air gyda diwydrwydd.

1. Mewn perthynas i bynciau ein ffydd, yr ydym yn credu yr athrawiaethau sydd yn gynwysedig yn Nghatecism y Gymanfa yn Westminster.

2. Yr ydym yn cyfamodi ac yn addaw, trwy gymhorth yr Ysbryd Glan, y bydd i ni ymdrechu yn erbyn pob pechod, a phob achlysur ag y gall ein harwain i bechod; ac ymarferyd yn ddiwyd ac yn barhaus â phob moddion i wybod ewyllys Duw, ac i ymdrechu a'n holl galon i'w wasanaethu.

3. Yr ydym yn cyfamodi ac yn addaw, yn enw Crist, y bydd i ni, yn ddiwyd ac yn barhaus, ymarferyd â phob moddion y mae Duw wedi gorchymyn yn ei air, yn gyhoeddus ac yn ymneillduol, sef gweddio, darllen, a gwrando y gair, a chymuno, er adeiladu ein hunain â'n gilydd mewn gras a sancteiddrwydd.

4. Yr ydym yn ymgyfamodi ac yn addaw y bydd i ni yn ewyllysgar ymostwng i ddisgyblaeth a cherydd ty Dduw, yn ol gorchymyn Crist; ac y bydd i ni ymdrechu, pob un yn ei briodol sefyllfa, mor belled ag y gallwn, i gynal ac i arferyd y fath ddisgyblaeth tuag at droseddwyr ag sydd yn gyson â gair Duw, ac yn angenrheidiol tuag at ei ogoniant ac anrhydedd ei achos yn y byd.

5. Yr ydym hefyd yn cyfamodi ac yn addaw, os byddwn un amser yn bwriadu myned i sefyllfa newydd yn y byd ag y gall fod o bwys, neu mewn rhyw gyfyng: der, neu anwybodaeth mewn perthynas i lwybr ein' dyledswydd, na bydd i ni wneuthur dim yn fyrbwyll ac anystyriol: ond taer weddio ar Dduw am gyfarwyddyd, ac ymgynghori yn syml â'n cyfeillion crefyddol.

6. Yr ydym yn mhellach yn cyfamodi ac yn addaw na fydd i ni gynwys a lleteia meddyliau angharedig y naill am y llall, heb ymofyn yn ddiwyd ac yn ddiduedd a oes genym gyfiawn achos; ac na fydd i ni gredu pob chwedl ddrwg a glywn y naill am y llall, heb gyflawn dystiolaeth ei fod yn wir; ac yn enwedigol, na fydd i ni enllibio a thraflyncu ein gilydd, ond celu a chuddio beiau ein gilydd, mor bell ag y gallwn, yn gyson a chydwybod dda.

7. Yr ydym yn mhellach yn addaw, pob un yn ol ei ddoniau a'i gyfleusderau, i wneuthur ein goreu tuag at adeiladu ein gilydd yn yr Arglwydd, ac yn ffyrdd sancteiddrwydd, y bydd i ni yn daer ac yn gydwybodol weddio y naill dros y llall, yn neillduol dros y rhai o honom ag y gall fod mewn gorthrymder; y bydd i ni mewn cariad a ffyddlondeb wylio dros ein gilydd; y bydd i ni fod yn barod yn wastad i roddi y cynghor goreu, a'r cyfarwyddyd ffyddlonaf a allwn, i'n gilydd; y bydd i ni ymdrechu cadarnhau ein gilydd yn yr athrawiaeth ag y sydd yn ol duwioldeb, ac i ymddwyn yn garedigol ac yn faddeugar y naill tuag at y llall yn ol cyfraith Crist.

8. Yr ydym yn mhellach yn addaw y bydd i ni ymddwyn yn garedigol, mor belled ag y gallwn, yn ddidramgwydd tuag at broffeswyr o wahanol enwadau oddi wrthym ni, mor belled ag y byddo genym le i obeithio eu bod yn cytuno a ni yn y pethau hanfodol i grefydd, heb wyrdroi efengyl Iesu Grist.

9. Yn ddiweddaf, yr ydym yn bwriadu ac yn addaw gwneuthur cymaint o ddaioni ag a fedrom i bob dyn yn mhob sefyllfa, i fod yn gywir ac yn gyfiawn yn ein hymddygiadau; a thrwy ymarweddiad sobr, addfwyn, cymwynasgar, trugarog, ac uniawn, i wneuthur ein goreu i enill eraill i ddyfod at Grist.

Yr ydym hefyd yn cyfamodi ac yn addaw, pob un yn ol ei amgylchiadau, yn gydwybodol ac yn ffyddlon, i gyfranu tuag at gynaliaeth y cyfryw ag sydd, neu fydd rhyw amser i ddyfod, yn llafurio yn ein plith yn ngwaith y weinidogaeth."

John Reynolds, Richard Lewis, Evan Evans, Morris Griffiths, Francis Watts, Joseph Richards, Evan Morris, Elizabeth Lewis, Mary Watts, Jane Shutt, Margaret Morris, a Jane Griffiths. Y tri cyntaf ar y rhestr oeddynt brif gefnogwyr yr achos, ac yr oeddynt mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn ddynion o gymeriadau crefyddol nodedig. Sonir yn arbenig am John Reynolds fel un enwog yn ei ofal am yr achos yn y lle. Aeth y Gareglwyd yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuai yn nghyd. Mewn llythyr at ei frawd yn America, dyddiedig Chwefror 1800, dywed Mr. J. Roberts, Llanbrynmair:—" Bydd yn dda genych glywed fod y gymdeithas yn Aberhafesp wedi cynyddu cymaint yn ddiweddar nes ydyw ty Mr. R. Lewis yn rhy fychan i'w chynwys; ac yr ydym wedi cytuno am dir wrth Bwlchyffridd i godi arno addoldy yr haf nesaf." Yr oedd y llecyn ar yr hwn y saif y capel yn lle nodedig yn y dyddiau gynt. Yma yr arferid cyfarfod i ymladd ceiliogod, a dwyn yn mlaen chwareuon annuwiol ar y Sabbothau; a meddyliwyd nas gallesid gwneyd dim yn well na chodi y capel ar y llanerch lle yr oedd y diafol a'i weision wedi arfer cynal eu campau annuwiol, heblaw ei fod yn ganolog rhwng y tri phlwyf—Aberhafesp, Tregynon, a'r Bettws, trwy y rhai yr oedd yr aelodau yn wasgaredig. Cafwyd y tir yn rhodd ac yn rhad gan y boneddwr oedd y pryd hwnw yn berchenog y Creginog Hall. Agorwyd y capel yn 1800, ac yr oedd gofal yr eglwys ar y pryd, ac am flynyddau wedi hyny, ar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Deuai yma yn rheolaidd unwaith bob mis, ac elai oddi yma y prydnawn i Penarth. Nid ymddengys fod ffydd y cyfeillion yma yn gref yn nghodiad y capel cyntaf, oblegid gwelwyd yn fuan ei fod yn llawer rhy fychan; a chyn pen deng mlynedd, bu raid ei dynu i lawr, a chodi un llawer helaethach. Agorwyd hwnw yn 1810; a thra y buwyd yn ail adeiladu y capel, cynhelid y cyfarfodydd yn y Gareglwyd fel cynt. Wrth weled yr achos yn cryfhau, anogodd Mr. Roberts yr eglwys yma a'r eglwys yn Penarth i uno a'u gilydd i gael gweinidog cydrhyngddynt; a sefydlasant ar Mr. James Davies, myfyriwr o Athrofa Wrecsam, ac urddwyd ef yma Ebrill 18fed, 1811. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn; Dr. Jenkin Lewis, Wrecsam; Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd; a Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Machynlleth; D. Williams, Llanwrtyd; a W. Hughes, Dinasmawddwy. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ffyddlon a chyda mesur o lwyddiant. Derbyniwyd ganddo lawer o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith ddau a fu yn hynod o ddefnyddiol gyda'r achos, sef John James a George Morgan. Mae eu henwau yn parhau yn berarogl yn yr ardal. Arosodd Mr. Davies yma tua saith mlynedd, ac yna ymfudodd i America.[1]

Yn 1821, symudwyd yr Athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd, a daeth Dr. George Lewis i fod yn weinidog yn y dref a Bwlchyffridd, yn gystal ag i fod yn athraw yr Athrofa. Rhoddwyd galwad i'w fab yn nghyfraith, Mr. Edward Davies, yr hwn oedd yn athraw cynorthwyol, i fod hefyd yn gyd-weinidog a Dr. Lewis; ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd Ionawr 24ain, 1822. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Derbyniwyd cyffes y gweinidog gan Dr. G. Lewis. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Weaver, Amwythig. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Williams, Wern; ac i'r eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Bu Mr. Davies, gyda chynorthwy y myfyrwyr, yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1835, pan y rhoddodd i fyny ei gofal, gan gyfyngu ei lafur i'r Drefnewydd, ac i'w ddyledswyddau fel athraw yr Athrofa. Yn y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. T. Morgan, Trallwm. Gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Drefnewydd. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. James Davies, Llanfair; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Morgans, Machynlleth. Bu Mr. Davies yma yn gweinidogaethu am rai blynyddau yn dra derbyniol; ond am y tair blynedd diweddaf nid oedd pethau mor gysurus; ac yn y flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys i fyny; ond y mae etto yn byw yn y gymydogaeth, ac yn pregethu lle y gelwir am ei wasanaeth.

Yn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ond genedigol o Ffestiniog, ac urddwyd ef yma; ond ni bu tymor ei arosiad ef ond byr. Yr oedd yr achos drwy yr holl amgylchiadau a'i cyfarfu yn dal ei dir ac yn casglu nerth, fel yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, heblaw ei fod yn adfeiliedig. Penderfynwyd ei dynu i lawr, ac adeiladu un helaethach, a dechreuwyd arno o ddifrif. Agorwyd ef Mehefin 21ain a'r 22ain, 1848. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri L. Roberts, Sarnau; H. Morgan, Sammah; S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair; J. Thomas, Amwythig; ac A. Francis, Wrecsam. Cyhoeddwyd y capel newydd yn rhydd o ddyled ddydd ei agoriad. Gweithiodd y gymydogaeth a'i holl egni i gael yr amcan i ben; a dywedai pawb oedd yno, er yr holl bregethau da a gafwyd, mai y bregeth fwyaf effeithiol oedd pregeth fer Mr. Benbow, pan ddywedodd, The chapel is free." Yr un flwyddyn ag yr agorwyd y capel newydd, ac o gylch yr un amser, derbyniodd Mr. John Owen, Drefnewydd, alwad gan yr eglwys; a llafuriodd yma yn barchus a chymeradwy iawn hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny. Yn amser gweinidogaeth Mr. Owen, codwyd Bethel, capel bychan ar y Waun, rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Y John James at ba un y cyfeiriasom eisioes oedd y prif offeryn i'w godi. Rhoddodd y rhan fwyaf o'r arian ato ei hun, a chasglodd y gweddill; a chyn marw, gadawodd yn ei ewyllys 30p. i eglwys Bwlchyffridd, ar yr amod iddynt i ofalu am Bethel. Yr oedd cyn hyny wedi rhoddi 60p. at godi y capel presenol yn Bwlchyffridd; a gadawodd yn ei ewyllys hefyd 30p. i Cefnyfaenor, a 30p. i Bethany, yn agos i Ceri. Y mae enw y fath ŵr yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth.[2]

Yn Mawrth 1866, daeth Mr. Isaac Watkin yma, gwr ieuangc o Abergavenny, yr hwn a ddaethai oddiwrth y Wesleyaid. Bu yma ar brawf am dri mis, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1866. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Hughes, Cendl. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Lloyd, Marton; ac i'r eglwys gan Mr. D. M. Davies, Llanfyllin. Bu Mr. Watkin yma yn barchus gan ddosbarth o'r gynnulleidfa hyd Medi 29ain, 1867, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol, a symudodd i sir Amwythig.

Yn niwedd 1869, derbyniodd Mr. Roderick Lumley, Cwmbran, alwad gan yr eglwys, â'r hon y cydsyniodd; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Mehefin 22ain a'r 23ain, 1870, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Peters, Bala; J. Jones, Machynlleth; R. Hughes, Cendl; H. Oliver, B.A., Casnewydd; O. Evans, Llanbrynmair; D. Rowlands, B.A., Trallwm; D. M. Jenkins, Drefnewydd, ac eraill. Y mae yr achos yma wedi myned yn Saesonaeg yn llwyr, oddigerth un boreu Sabboth o'r mis. Y mae yma achos cryf, ac wedi cael gafael lled lwyr ar y gymydogaeth, ac y mae gan mwyaf yn meddiant y gynnulleidfa yn y lle. Y mae yr eglwys newydd godi ty cyfleus i'r gweinidog, yr hwn a gostiodd tua 250p., y rhai a gasglwyd oll yn y gymydogaeth, oddigerth y 30p. y rhai a adawyd gan Mr. John James. Rhif yr eglwys yn awr yw 130; a genym ddeall fod Mr. Lumley yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau mor addawus.

Crybwyllasom eisioes am Mr. Samuel Benbow a Mr. George Morgan, y rhai sydd etto yn fyw, er mewn gwth o oedran, ac y mae eu gwasanaeth wedi bod yn helaeth iawn i'r achos. Bu Mr. Williams, o'r Wern, yn y gymydogaeth hon am ychydig amser yn yr ysgol, pan yn ddyn ieuangc cyn ei fynediad i'r Athrofa i Wrecsam; ac y mae yma etto rai yn fyw yn ei gofio yn gwneyd y cynyg cyntaf i bregethu yn Saesonaeg, a phan yn methu yn troi i'r Gymraeg. Un Mr. Roberts oedd ei athraw.

Nid ydym wedi cael hanes ond am un pregethwr a gododd oddi yma. Thomas Peters, yr hwn a urddwyd yn Marton, ac a symudodd i Gaerlleon, lle y mae yn awr.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JAMES DAVIES. Yr oedd yn enedigol o gymydogaeth Neuaddlwyd. Ystyrid ef yn bregethwr rhagorol, ac o fywyd dichlynaidd a diargyhoedd. Yr oedd yn ddyn hynaws a siriol, ond yn gwbl benderfynol yn yr hyn yr ymaflai ynddo yn gyfaill ffyddlon a chywir—ac yn gymeradwy gan ei frodyr yn y weinidogaeth, a chan yr eglwysi yn gyffredinol. Llafuriodd yn ddiwyd yn y cylch y troai ynddo, ac y mae ei goffadwriaeth yn barchus gan bawb sydd yn ei gofio. Arferai bregethu unwaith y flwyddyn i'r bobl ieuaingc, a mawr y cyrchu a fyddai i'w wrando; a chafwyd profion fod rhai o honynt wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd trwy hyny. Yr oedd yn ymwelydd derbyniol yn y teuluoedd lle y llettyai, a derbynid ef yn roesawgar gan gyfoethog a chyffredin.[3]

Cyfarfu â siomedigaethau a ddyrysodd ei gynlluniau, ac ymfudodd i America o gylch y flwyddyn 1820. Blin a helbulus a fu ei yrfa yno, fel y deallwn, ac y mae wedi ei gladdu er's blynyddau yn rhywle yn Ohio.

Nodiadau

[golygu]
  1. MSS Mr. D. Morgan.
  2. Llythyr Mr. R. Lumley, Bwlchyffridd.
  3. Llythyr Mr. D. Davies, Ty'nyfawnog (gynt).