Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Carno
| ← Cemmaes Road | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Beulah → |
CARNO.
Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon gan y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair; ac ar ol pregethu llawer o dy i dy, sicrhawyd darn o dir at adeiladu capel ar dir Mr. Joseph Thomas, Creigfryn. Dyddiad y weithred ar y tir ydyw Chwefror 1af, 1811, ac fel ymddiriedolwyr yr ydym yn cael enwau John Davies, Rhydlydan, Llanwnog; John Roberts, Llanbrynmair; James Griffiths, Machynlleth; James Davies, Bwlchyffridd; David Roberts, Llanfyllin, y rhai a ddynodir fel gweinidogion yr efengyl; a John Jones, masnachydd, Machynlleth; Richard Tibbott, masnachydd, Machynlleth; Charles Jones, masnachydd, Llan- fyllin; Richard Jones, Tymawr, Llanbrynmair; David Davies, Cwmclegyrnant, Llanbrynmair; a John Roberts, Ieuaf., Llanbrynmair. Y mae yn debygol i rai o'r rhai olaf gael eu hychwanegu mewn blynyddau diweddarach. Agorwyd y capel Hydref 18fed, 1811. Yn Ebrill 1812 y bu y cymundeb cyntaf ynddo, a derbyniwyd pump o'r newydd.
"Aeth traul ei adeiladiad yn fwy na 350p. Bernir na ddylasai fyned yn gymaint. Derbyniwyd 100p. o Loegr tuag at y ddyled. Talwyd y gweddill gan gyfeillion yn yr ardal, ac yn Llanbrynmair. Erys cof hir a chynes am ffyddlondeb teuluoedd y Creigfryn, Trawsgoed, Pentre'rne, Plasau, Pikins, y Beudy-hir, y ddau Glanhanog, Evan Humphrey o'r Capel, ac eraill, yn eu llafurus gariad ar gychwyniad yr achos yma. iogaeth rhai o'r teuluoedd hyny wedi bod yn ddefnyddiol gydag achos y Gwaredwr mewn llawer man yn Lloegr ac America.[1]"
Bu y lle dan ofal gweinidogion Llanbrynmair hyd ddiwedd y flwyddyn 1848, pan y symudodd Mr. John Roberts i Rhuthyn (nid 1847, fel y cam hysbyswyd yn hanes Llanbrynmair), ac y rhoddodd Mr. S. Roberts i fyny ofal Carno, oblegid fod y cylch yn rhy eang iddo heb gyd-lafurwr. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Jones, Penllys, yr hwn a ddechreuodd yma yn 1849, ac a fu yma hyd 1851, pan y symudodd i sir Amwythig i ffarmio. Wedi ei ymadawiad, derbyniodd Mr. Edward Roberts alwad, yr hwn oedd wedi bod dros chwe blynedd yn llafurio yn y Foel a Llanerfyl. Daeth Mr. Roberts yma yn 1852, a llafuriodd gyda chymeradwyaeth a mesur o lwyddiant hyd 1865, pan y symudodd i Coedpoeth, sir Ddinbych. Bu adfywiad grymus ar yr achos yn adeg gweinidogaeth Mr. Jones, ac un arall nerthol iawn yn 1861, yn nhymor gweinidogaeth Mr. Roberts. Yn 1866, derbyniodd Mr. Robert Ellis, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg yn Manchester, alwad, ac urddwyd ef Hydref 13eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Coedpoeth. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Conway. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. Morgan, Sammah. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Ellis, Brithdir (tad yr urddedig), ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Smethcott. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair; H. James, Llansantffraid; H. Ellis, Llangwm; a J. Watkins, Bwlchyffridd. Mae Mr. Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth, a'r achos ar y cyfan mewn agwedd lwyddianus.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llythyr Mr. S. Roberts.