Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Derwenlas

Oddi ar Wicidestun
Glasbwll Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Sammah

DERWENLAS.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Derwen-las
ar Wicipedia

Pentref bychan ddwy filldir o Fachynlleth ar y ffordd i Aberystwyth. Pregethwyd yma gyntaf o gylch y flwyddyn 1802, gan Meistri Rees Davies, ac Azariah Shadrach, yn nhy un Robert Evans, Joiner. Bu Mr. Shadrach yn cadw ysgol yn y lle hwn am dymor cyn myned i Lanrwst. Yn y flwyddyn 1810, priododd Mr. Davies, Rhiwlas, â merch ieuangc grefyddol o Brynaere, Llanbrynmair; ac ar ol hyn, cafwyd llofft yn y pentref i gynal moddion crefyddol. Gwnaed pulpud ynddi, ac un seat at wasanaeth teulu y Rhiwlas. Bu Mrs. Davies yn ffyddlon iawn gyda'r achos, a thrwy ei llafur hi ceid pregethu yn aml yn y llofft; ac yr oedd bwyd a lletty i'r pregethwr yn y Rhiwlas. Bu pregethu yn y llofft hon hyd 1849, pryd yr adeiladwyd capel ar etifeddiaeth y Rhiwlas; ond oblegid fod yr etifeddiaeth dan ymddiriedolwyr, ni chafwyd pryd-les ar y tir hyd 1859. Yn y flwyddyn 1861, ail adeiladwyd a helaethwyd y capel, a thalwyd am dano heb gael ceiniog o un man tu allan i'r ardal.[1] Mae enwau Robert Evans, Joiner, Shôn William, a Walter Thomas, yn nodedig fel rhai a gymerodd lawer o boen gyda'r achos ar ei gychwyniad. Bu dyfodiad Mr. Rowland Evans a'i deulu o'r Dinas i'r Morben yn 1845 yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos yma. Yr oeddynt hwy yn Annibynwyr goleuedig a deallgar, a'u ty yn wastad yn


agored i lettya y rhai a ddelai heibio, a thrwy eu bod yn deulu lluosog yr oeddynt yn gaffaeliad pwysig. "Mam yn Israel" oedd Mrs. Evans. Canmolai ei gwr hi yn y pyrth, a chododd ei phlant i'w galw yn wynfydedig. Bu eu mab Mr. John Evans ar eu hol, a'i ewyllys tua thy yr Arglwydd, a'i law, a'i logell, a'i dy bob amser yn agored. Ac er fod y teulu yn awr wedi eu gwasgaru, y mae llawer o honynt yn fyw, ac yn eu gwahanol gylchoedd yn gwasanaethu Duw eu rhieni. Y mae yn weddus i ni goffau mai mab Robert Evans a wnaeth yr holl waith coed ar y capel cyntaf, a hyny heb godi yr un geiniog am ei waith. Y mae etto yn fyw yn 80 oed. Drwg genym ychwanegu nad yw, ac na bu erioed, yn proffesu crefydd.

Er fod pregethu yma er yn foreu yn y ganrif hon, a chapel wedi ei godi er 1849, ni chorpholwyd yma eglwys hyd 1853, pan y darfu cysylltiad Mr. S. Edwards â'r Graig ar uniad y ddwy eglwys yn y dref; ac y torodd y canghenau yn Soar, a'r Glasbwll, a'r Dderwenlas eu cysylltiad â'r eglwys yn y dref, a ffurfiwyd eglwysi Annibynol yn y tri lle, ac y mae eu gofal ar Mr. Edwards; ac er pob colledion a gafwyd trwy symudiadau ac angau, y mae yr achos yn "dal ei ffordd, ac yn ychwanegu cryfder."

Nodiadau

[golygu]
  1. Llythyr Mr. S. Edwards.