Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Dolanog

Oddi ar Wicidestun
Llanerfyl Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Trallwm (Saesonaeg)

DOLANOG

Yn y flwyddyn 1806, daeth un David Thomas, o ardal Penarth yma i gadw ysgol. Cymerodd ystafell i'r perwyl, mewn ty a elwid y Dafarn, oblegid ei fod wedi bod felly unwaith, ond nid oedd felly y pryd hwn. Rhoddid yr ystafell yn rhad gan David Harris, y perchenog, ond yn unig i'r athraw roddi addysg i ddau o'i blant. Gan fod David Thomas gethwr, gofynai genad i bregethu yn yr ystafell y Sabboth, a chafodd hyny; a deuai cryn lawer i'w wrando, oblegid yr oedd pregethu yn newydd-beth yn yr ardal. Dechreuodd gadw cyfeillachau crefyddol yno, ac yn mysg y rhai cyntaf a unodd a'r achos, yr oedd Ann Wood, ac Abraham Wood, y Gro, ac Elizabeth Williams, Maesyglynog. Yn fuan daeth y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, i gynorthwyo David Thomas; ac er fod y rhai a ddeuant yn nghyd yn aml yn afreolus ac anweddaidd, etto, daliodd y gwyr da hyn, ac eraill i bregethu iddynt. Codwyd y capel yn 1810, yn benaf drwy offerynoliaeth Mr. R. Jones, Llanfyllin, a bu ef ei hun ar daith trwy y Deheudir yn casglu ato. Cafodd daith galed, ond dychwelodd gyda digon o arian i orphen talu y ddyled.[1] Wedi symudiad yr athrofa i Lanfyllin, cafwyd llawer o help gan y myfyrwyr; a byddai Mr. W. Hughes, o'r Dinas, yma yn amlach na neb arall yn gweini yr ordinhadau, a sonir am dano gan yr hen bobl gyda serch mawr. Yn fuan wedi codi y capel, daeth Lewis Pugh, Llanwrin, yma i gadw ysgol, ac i bregethu, a bu yn y lle dros rai blynyddoedd. Wedi ei urddo yn Llanfair, deuai Mr. James Davies yma yn fynych; ond Mr. David Davies, Llanerfyl, ar ol ei urddo yn 1827, oedd y gweinidog cyntaf a fu yn gweini i'r eglwys yma gydag un math o reoleidd-dra. Bu yn dyfod yma am flynyddau, a'r cwbl a dderbyniai am ei lafur oedd swllt bob Sabboth; ond pan y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, i'r rhai y deuai fynychaf bob wythnos, er fod ganddo filldiroedd o ffordd, ni feddylid am gynyg ceiniog iddo. Yr oedd yma ary pryd hwnw gynnulleidfa luosog, ac eglwys yn gymharol gref. Wedi urddo Mr. John Jones, yn Penilys, yn 1841, cymerodd ef ei gofal, a bu yn llwyddianus tra yr arosodd yma. Wedi bod flynyddau heb weinidog, gan ddibynu ar weinidogion a phregethwyr yr eglwysi cylchynol, tua diwedd 1859, daeth Mr. Robert Fairclough yma, a chytunasant ag ef i gymeryd eu gofal am flwyddyn, ond pan y daeth y flwyddyn i ben, ni fynai ymadael, a helynt flin a ganlynodd; a rhwng annghallineb a chyndynrwydd, y naill a'r llall, llwyddasant i lwyr ysigo yr achos, fel y bu y lle am yspaid, mai anaml yr agorid y drws, oblegid na ddeuai neb yma i bregethu. Yn niwedd 1865, daeth Mr. Richard O. Evans yma i gadw ysgol, ac i bregethu; ac yn ystod ei arosiad ef yma, cafwyd moddion rheolaidd yn Sabbothol, ac yn wythnosol, ond yn Mehefin, 1867, ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Glynhafren, gerllaw Llanidloes; ac er hyny dibyna y lle ar weinidogaeth achlysurol.

Nodiadau

[golygu]
  1. Llythyr Mr. R. O. Evans.