Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Foel, Llangadfan
| ← Braichywaun | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Llanerfyl → |
FOEL, LLANGADFAN.

Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y cymydogaethau hyn cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Hughes, a'i wraig, Susan Hughes, Nantysaeson, tad a mam Mr. Hugh Hughes, gweinidog y Foel wedi hyny, yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i groesawi pregethu i'w ty. Yr oedd gwraig Nantysaeson, yn ferch Ffriddfawr, Nanty reira, ac fel yr ymddengys, yn arfer myned yn achlysurol, os nad yn rheolaidd, i Lanbrynmair i wrando. Wedi priodi, aeth Evan Hughes a'i wraig i fyw i Nantysaeson, rhwng y Foel a Mallwyd, a dechreuasant fyned i wrando i Ddinas Mawddwy, a chyn hir, derbyniwyd y ddau yn aelodau упо. Yn mhen amser, prynodd Evan Hughes dyddyn, yn mhlwyf Garthbeibio, a elwid Llechwedd-bach, ac ar un Sabboth, daeth Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yno i bregethu. Yn y ty lle y cedwid y gwair y pregethai, ac afreolus iawn oedd y gwrandawyr. Daeth Mr. Hughes, Dinas, i gynorthwyo Mr. Roberts, a thrwyddedwyd y Llechwedd-bach yn lle addoli; ac wedi i bobl yr ardal ddeall hyny, ymddygasant yn llawer mwy gofalus. Pregethwyd llawer yn y Llechwedd gan Meistri Azariah Shadrach, H. Pugh, ac R. Roberts, o'r Brithdir; D. Richards, Tynyfawnog; R. Roberts, Tyddynyfelin; J. Lewis, Bala, ac eraill. Wedi codi ty newydd yn y Llechwedd, a thrwyddedu hwnw at bregethu, medd- yliwyd am droi yr hen dy i gadw ynddo ysgol ddyddiol. Bu hen ŵr crefyddol, o'r enw John Llwyd, yma yn cadw ysgol am ychydig. Ar ei ol ef, daeth Rees Davies yma i gadw ysgol, a bu yn y lle dros dro, ac yn llafurus iawn yn pregethu yn mhob man y cawsai ddrws agored. Yn ei amser ef, ennillwyd yma dri at grefydd, fel yr oedd nifer y dysgyblion yn bump, a theimlent erbyn hyn yn galonog iawn i fyned yn mlaen. Tua'r flwyddyn 1797, ymwelodd Mr. Hughes, Dinas, ag ardal y Foel, a phregethodd ar fuarth Llettypiod; ac ar y diwedd, rhoddodd gyhoeddiad i fod yno drachefn, a derbyniwyd ef i'r ty yr ail waith. Trwyddedwyd y ty hwn hefyd i bregethu, a bu pregethu cyson am flynyddau yn y Lletty a'r Llechwedd; yn un y boreu ac yn y llall y prydnhawn. Yn 1805, cafwyd darn o dir gan Mr. Davies, Siop, i adeiladu capel y Foel arno. Nid oedd ond bychan, ond yr oedd dan yr amgylchiadau hyny yn gaffaeliad gwerthfawr. Yr oedd yr ardal yn dywyll ac anwybodus, a llawer o weddillion hygoeledd yn aros; ond llafuriodd Mr. Hughes, o'r Dinas, yma gyda ffyddlondeb mawr am fwy nag ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1820, rhoddodd yr eglwys alwad i un Hugh Hughes, Llechwedd, pregethwr a godasid ganddi, i fod yn weinidog iddi; a llafuriodd yn ffyddlon yma am bedair-blynedd-ar-hugain, nes y bu raid iddo, oblegid gwaeledd a nychdod, roddi i fyny. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Edward Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala; ac urddwyd ef Gorphenaf 9fed a'r 10fed, 1844. Pregethodd Mr. D. Morgan, Llanfyllin, ar natur eglwys. Holwyd y gweinidog ieuange gan Mr. M. Jones, Bala, yr hwn hefyd a weddiodd. Dywedodd Mr. D. Davies, Llanerfyl, a Mr. Hugh Hughes, Foel, y ddau hen weinidog, air o'u teimladau ar yr achlysur. Pregethodd Mr. H. James, Brithdir, i'r gweinidog; a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Thomas, Dinas; W. Roberts, Llanrhaiadr; D. Evans, Llanidloes; R. D. Thomas, Penarth; J. Thomas, Bwlchnewydd; J. Jones, Penllys; J. Davies, Llanfair; a J. Davies, Glasbwll[1]. Bu Mr. Roberts yma am wyth mlynedd, a symudodd oddiyma i Carno. Ar ei ol ef daeth Mr. John Hughes yma, yr hwn a urddasid yn Victoria, sir Fynwy, a bu yn y lle am saith mlynedd, a symudodd i Hanley, swydd Stafford. Yr oedd yr eglwys yn parhau i gasglu nerth yr holl flynyddoedd hyn, ond yn 1859 ac 1860, bendithiwyd hi ag ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd. Ychwanegwyd lluaws o bobl ieuaingc at yr eglwys, ac y mae llawer o honynt yn glynu yn eu proffes. Yn y flwyddyn olaf a nodwyd, rhoddwyd galwad i Mr. Caleb Evans, efrydydd o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Gofynwyd yr holiadau gan Mr. J. Williams, Aberhosan. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Evans, Penarth. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, a'r eglwys gan Mr. H. Morgan, Sammah. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Williams, Dinas; H. James, Llansantffraid; W. Roberts, Penybontfawr; E. Roberts, Carno; R. Hughes, Trallwm; a B. Evans, Sardis[2]; ac y mae Mr. Evans yma etto, yn parhau i lafurio. Yn 1846, yn fuan wedi sefydliad Mr. E. Roberts yma, rhoddwyd darn newydd yn yr hen adeilad; ond yn 1866, adeiladwyd ef yn gapel hardd, ac agorwyd ef wythnos y Pasg, 1867, a'r ddyled wedi ei thalu; ac y mae yr achos yn parhau mewn gwedd siriol, pan gofiom farweidd-dra yr amseroedd presenol ar grefydd.
Wedi ymadawiad y teulu o'r Llechwedd-bach, teimlid fod angen lle i addoli at wasanaeth y cwr hwnw o'r ardal, ac yn 1842, codwyd Beersheba. Nid oes eglwys wedi ei chorpholi yma, ond y mae yn gangen berthynol i'r Foel, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddi, a phreg- ethu achlysurol; ond y mae yr ardalwyr gan mwyaf yn dyfod i'r Foel i'r odfa ddau o'r gloch bob Sabboth.
Codwyd yma i bregethu:—
Hugh Hughes. Yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yma.
David Rowlands. Yr oedd yn enedigol o'r Dinas. Yr oedd yn was yn Maes Garthbeibio. Priododd, ac aeth i'r America, ac y mae wedi marw упо.
John Morris. Dechreuodd bregethu yn 1863. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala; ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanrhaiadr Mochnant, lle y mae etto.COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
HUGH HUGHES. Ganwyd ef yn 1792. Yr oedd ei rieni, fel y crybwyllasom, yn byw yn Nantysaeson, ac wedi hyny yn Llechwedd-bach. Yr oedd yn ei febyd yn hynaws a charedig, a chymerodd iau Crist arno yn foreu. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn diniwed, mor nodedig felly, nes bod mewn llawer o bethau yn blentynaidd. Urddwyd ef yn 1820, a llafuriodd yn ddiwyd yn ol mesur y dawn a rodded iddo. Ymgymerodd a chodi capel yn y Ddol-lwyd, a gwnaeth hyny gan mwyaf ar ei draul ei hun; ond y mae y lle hwnw wedi ei roddi i fyny er's wyth-mlynedd-ar-hugain. Nid oedd ei alluoedd yn gryfion na'i wybodaeth yn eang, ond yr oedd ei ffyddlondeb yn fawr, a gwir ofalai am yr eglwys dan ei arolygiad; ac yr oedd ei bryder am yr achos yn ei wneyd yn bruddaidd a chwynfanus. Codai yn foreu y Sabboth, ac elai o gylch i gymell pobl i'r cyfarfod gweddi saith o'r gloch. Ni bu erioed yn briod, ac yr oedd holl hynodion hen lanc ynddo. Mae gan ei gydoeswyr a'i frodyr yn cwbl y weinidogaeth lawer o chwedlau dyddan am dano, ond y mae y yn esboniad o'i ddiniweidrwydd, ac mor unplyg yr ydoedd gyda phob peth. Dyoddefodd yn dost oddiwrth ddiffyg anadl, a theimlodd fod angenrhaid arno i ymneillduo o'r weinidogaeth, fel y gallasai yr eglwys ddewis rhyw un ieuengach a chryfach. Wedi rhoddi yr eglwys i fyny, aeth i Lanfyllin i fyw at nith iddo, ac yno y gorphenodd ei yrfa. Yn ei gystudd, cwynai ei bod yn dywyll arno; ond cyfododd goleuni iddo yn y tywyllwch, a bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, Tachwedd 15 fed, 1846, yn 54 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Pendref, Llanfyllin, lle yr erys ei weddillion marwol gydag eiddo llawer o rai rhagorol y ddaear.