Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanbrynmair
| ← Sir Drefaldwyn | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Llanfyllin → |

LLANBRYNMAIR
Mae yr eglwys enwog hon yn hen iawn, ond nid yw yn gwbl eglur pa bryd, na thrwy lafur pwy, y casglwyd ac y ffurfiwyd hi. Mae yn dra thebygol mai ffrwyth gweinidogaeth Walter Cradock ydyw, yr hwn a fu yn pregethu yn Ngwrecsam gydag arddeliad anghyffredin yn y flwyddyn 1635, ac am y tair blynedd canlynol a deithiai yn achlysurol trwy siroedd Maesyfed, Maldwyn, a Brycheiniog. Yr oedd hefyd un Roberts yn bregethwr galluog yn y Sir hon, ac yn Maesyfed mor foreu a'r flwyddyn. 1634. Mae yn debygol mai hwn yw y David Roberts am yr hwn y dywedir ei fod yn ddefnyddiol iawn yn Llangurig tua y flwyddyn 1646, a fu wedi hyny yn Llandinam, ac a symudodd i Drefaldwyn, Ebrill 29ain, 1654.[1] Cafodd y dyn da hwn ei erlid yn ddidrugaredd gan Esgob Tyddewi, yn y blynyddoedd 1634 a 1635.[2] Nis gwyddom pa cyn belled yr effeithiodd ei lafur ef yn Llanbrynmair, ond gan nad oedd ond prin un pregethwr galluog ar gyfer pob Sir yn Nghymru y pryd hwnw, mae genym bob sail i farnu fod y lle hwn yn cael rhan helaeth o'i weinidogaeth.
Ar derfyniad y rhyfel cartrefol, yn 1646, a sefydliad rhyddid crefyddol, cafodd Sir Drefaldwyn ran helaeth o weinidogaeth rhai o'r pregethwyr galluocaf yn y Dywysogaeth. Tua y flwyddyn 1650, neu cyn hyny, daeth yr enwog Vavasor Powell i fy w i Ceri, ac o hyny allan, hyd ei garchariad yn 1660, mwynhaodd Siroedd Trefaldwyn a Maesyfed rhan fwyaf o'i lafur gweinidogaethol. Cafodd amryw bregethwyr galluog eraill eu sefydlu mewn gwahanol blwyfydd, megis David Roberts yn Llandinam, Rees Jones yn y Bettws, Henry Parry yn Cemmaes, a Symon Swayne yn Machynlleth. [3] Cyn terfyniad tymor llywodraeth y senedd ac Oliver Cromwell, yn ol tystiolaeth Vavasor Powell, yr oedd un-ar-bymtheg o bregethwyr galluog yn y Sir hon, a deg o'r cyfryw wedi cael eu haddysgu yn y prif athrofau. Un eglwys y cyfrifid crefyddwyr yr holl sir o 1646 hyd yn agos at derfyniad yr erledigaeth, yn 1688, er eu bod yn cyfarfod i addoli mewn deuddeg neu bymtheg o wahanol fanau tra phell oddiwrth eu gilydd. Mwynhaodd Eglwys Sir Drefaldwyn, dangnefedd hyfryd hyd nes i rai o genhadau y Crynwyr, tua y flwyddyn 1652, ddyfod i daenu eu golygiadau yn eu plith, ac ennill rhai dysgyblion, nid anenwog o blith yr aelodau, megis Richard Davies, o'r Trallwm, a Charles a Thomas Lloyd, Ysweiniaid, a rhai eraill lled bwysig o ran eu talentau a'u safle mewn cymdeithas. Cyn fod y gofid a'r terfysg, a achlysurwyd gan gyfodiad y Crynwyr, wedi tawelu, tua diwedd y flwyddyn 1655 newidiodd Vayasor Powell ei farn am fedydd, yn dra disymwth, a chymerodd ei drochi. Gan ei fod ef yn enwog a phoblogaidd, a bod ei ddylanwad yn mysg crefyddwyr y Sir yn ddirfawr, dilynwyd ei siampl gan amryw o aelodau yr eglwys wasgaredig, a chymerasant hwythau eu trochi ; ac er i Mr Powell a'i blaid ddal yn selog hyd y diwedd dros gymundeb cymysg, etto dygodd yr amrywiaeth golygiadau ar fedydd lawer o ddadleuon a theimladau annymunol i fysg yr aelodau. Gydag adferiad Siarl II, yn 1660, ac adnewyddiad yr erledigaeth, anghofiodd y crefyddwyr i raddau, eu gwahaniaeth golygiadau, a chydunasant i gydweithredu a chyd-ddyoddef dros yr egwyddorion mawrion yr oeddynt oll yn cydolygu arnynt.
Gan fod Vavasor Powell yn wr cyhoeddus ac enwog iawn, ac nid yn unig yn Ymneillduwr selog, fel crefyddwr, ond hefyd yn werinwr o ran ei olygiadau gwladyddol, a bod amryw o'i bobl yn cydolygu ag of yn y pethau hyn, dechreuodd ystorm erledigaeth ruthro ar bobl grefyddol Sir Drefaldwyn gyda y rhai cyntaf yn Nghymru ar ol adferiad Siarl II. Yn Mai 1660 y daeth y brenin i Lundain, ac yn Mehefin, yr oedd rhai o grefyddwyr Maldwyn yn ngharchar, fel y dengys y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd gan Mr Powell tua diwedd Mehefin, 1660:—
"At fy anwyl frodyr, Henry Williams, Capt. L. Price, a Thomas Fudge, carcharorion yn y Trallwm.
Anwyl Frodyr,—Yr oeddwn yn teimlo yn ddwys oherwydd eich dyoddefiadau er pan y clywais gyntaf am eich trallod, ond oherwydd fy ymrwymiadau i bregethu mewn gwahanol fanau, yn nghyda marwolaeth a chladdedigaeth y chwaer dduwiol hono yn Sir Faesyfed, nis gellais ddychwelyd hyd yn hwyr lawn y chweched dydd ; er hyny, y ddoe yn foreu, penderfynais ymdrechu sicrhau eich rhyddhad chwi, er i mi wrth hynny, o bosibl, beryglu fy rhyddid fy hun, ac felly siaredais yn gyntaf a'r Is-Sirydd, yna aethum i'r Drefnewydd gyda bwriad siarad a'r Uchel-Sirydd, heb wybod llai na fuasai yn fy anfon yna atoch chwi, canys cefais ar ddeall ei fod wedi penderfynu fy nedfrydu inau i garchar. Felly, ar ol ystyriaeth ac ymgynghoriad, mi a ysgrifenais lythyr ato, copi o ba un yr wyf yn amgau yn hwn, ac hanfonais iddo gyda Mr. Payne, yr hwn yn wir a amlygai deimlad dwys tuag atoch a throsoch chwi ; ac o'r diwedd atebodd yr Uchel-Sirydd fel y canlyn gyda golwg arnoch sef y cewch eich rhyddid y foru, ond i chwi anfon rhyw gyfeillion cyfrifol ato ef i fachnio yr ymddangoswch chwi ger ei fron ef pa bryd bynag y galwo am danoch. Gwnewch, gan hyny, yn ddioed yr oll a fedroch yn hyn, rhag i eraill etto droi ei feddwl, a rhag y dichon i hanes y cyffroadau mawr sydd yn awr yn Llundain, gyda y Post nesaf, rwystro y cwbl. Yr wyf fi dan addewid ddychwelyd y foru i Sir Faesyfed i bregethu, pe amgen buaswn yn dyfod atoch fy hun. Yr oeddwn wedi bwriadu bod gyda chwi neithiwr, ond methais orphan fy ngwaith hyd ar ol machlud haul. Yr wyf fi yn barod i ymrwymo drosoch cyn belled ag y mae fy meddianau, ac hyd yn nod fy mywyd yn myned. Yr wyf yn anfon i chwi yn y llythyr hwn un bunt a deg swllt y rhai yr wyf yn dymuno arnoch eu rhanu rhyngoch yn ol fel y mae eich hamgylchiadau yn gofyn. Dymunais yn daer trwy Mr. Payne am ryddhad i'm cyfaill gonest Sam, ond nis gellais gael un addewid am hyny nes y clywo ef rywbeth am Sir Richard Saltonstall, pa un a ydyw wedi rhoddi ei hun i fyny yn Llundain ai nad yw. Yr Arglwydd a santeiddio i chwi ac ninau ein dyoddefladau. Gallwn ddisgwyl ychwaneg o ddyoddefiadau neu waredigaeth ryfeddol yn fuan. Nid ychwanegaf gan fy mod mown brys mawr.
Eich gwir serchog Frawd,
Bore Dydd yr Arglwydd.V. Powell.
OY. Cofiwch fi at y brawd Quarrell, a'r lleill. Ar ol i chwi ddarllen y copi amgauedig, cedwch ef yn ddiogel i mi."
Ymddengys i'r brodyr gael eu rhyddhau dranoeth i ysgrifeniad y llythyr uchod, ond ychydig ddyddiau o ryddid a gawsant ; oblegid yr ydym yn cael i'r Uchel-Sirydd, Syr Mathew Price, yr hwn oedd erlidiwr creulon, anfon Capt. Price, Henry Williams, a V. Powell, i garchar drachefn yn nechreu Gorphenaf 1660.[4] Nid oedd hyn ond dechreuad gofidiau. Yn fuan, llanwyd y carcharau yn y Sir gan Ymneillduwyr i'r fath raddau, fel nad oedd yno le i ladron ac yspeilwyr ; a chymaint oedd creulondeb yr awdurdodau, fel y trinient y crefyddwyr gyda llawer mwy o anmharch a chreulondeb nag y trinient y drwgweithredwyr; ie, gosodent y drwgweithredwyr mewn ystafelloedd clud ar lofftydd y carchardy, tra y gosodent yr Ymneillduwyr i orwedd ar ychydig wellt ar y lloriau lleithion; ac yr oedd amryw o honynt wedi cael eu gosod yn ymyl y geudy (privy), o'r hwn y rhedai ysgarthion y carcharorion atynt. Yr oedd yn mysg y dioddefwyr hyn amryw amaethwyr parchus a gwragedd tyner, a rhai a fuasent ychydig fisoedd cyn hyny yn ynadon heddwch yn y sir.[5] Nis gwyddom pa nifer o bobl Llanbrynmair oedd yn mysg y dioddefwyr hyn; ond gan i'r erledigaeth barhau, agos yn ddiattal, o 1660 hyd 1688, mae yn ddiau i amryw o honynt hwy gael eu rhan o'r tywydd garw.
Bu carchariad V. Powell, Captain Price, a Henry Williams, yn nghyd a llawer ereill o aelodau " Eglwys Sir Drefaldwyn," yn 1660, a'r blynyddau canlynol, yn foddion i wasgaru y dysgyblion, ac i wneyd y winllan, i raddau pell, yn anrhaithedig; ond methodd yr holl ystormydd a'i llwyr ddifrodi. Cyfarfyddai yr amrywiol ganghenau mewn anedd-dai yn ngwahanol barthau y Sir, i gynal moddion crefyddol, er holl enbydrwydd yr amseroedd. Mae yn ddiamheu fod y gangen yn, ac oddeutu, Llanbrynmair yn cynal moddion crefyddol yn y tymor hwn, er nad ydym wedi taro wrth un crybwylliad am hyny mewn un llyfr argraffedig na llawysgrifen, fel y cawn am rai lleoedd ereill. Yn llawysgrifau Lambeth, enwir amryw leoedd yn Maldwyn lle y cynhelid cyfarfodydd gan yr Ymneillduwyr yn 1669; ac mewn hen lyfr yn y Record Office yn Llundain, sydd yn cynwys enwau y lleoedd a drwyddedwyd at bregethu yn 1672, enwir rhai manau yn y sir hon, ond ni sonir am Lanbrynmair yn y naill na'r llall o'r hen lawysgrifau hyn. Dichon mai y rheswm am hyn ydyw fod y lle yn mhell oddiwrth yr ynadon, y boneddigion, a'r offeiriaid mwyaf erlidgar, a bod yr ychydig grefyddwyr a breswylient yn y cymoedd dirgel hyn, fel y Waldensiaid yn Nyffrynoedd Piedmont, i raddau wedi dianc sylw eu herlidwyr. Yr ydym yn cael yn nyddlyfr Henry Maurice, am Awst 30ain, 1672, iddo ef y diwrnod hwnw bregethu i gynnulleidfa luosog yn Llanbrynmair, pan yr oedd ar ei daith o'r Amwythig i Leyn.
Ar ol i'r gynnulleidfa fod am lawer o flynyddau yn cyfarfod o dy i dy yn yr ardal, tua'r flwyddyn 1675, cafodd yr arch gartref sefydlog mewn amaethdy o'r enw Ty Mawr. Neillduwyd ystafell o'r ty yn lle i addoli, ac yno y buwyd yn ymgynull am bedair blynedd a thri ugain, nes y codwyd y capel yn 1739. Nid oedd yr ystafell ond bechan a diaddurn, ond bu yn gartref i'r arch nes ei dwyn i'w thrigfan sefydlog yn y capel newydd, a elwir erbyn hyn yn Hen Gapel.
Wedi carchariad Mr Powell, bu y gangen yn Llanbrynmair, yn gystal a'r canghenau ereill trwy y sir, yn mwynhau gweinidogaeth Mr Hugh Owen, Bron y Cludwr; Mr Henry Williams, o'r Ysgafell; Mr Raynallt Wilson, o Aberhafesp; Mr John Evans, o Groesoswallt, tad y Dr. John Evans, Llundain, a thri phregethwr cynorthwyol, y rhai a ddesgrifir gan yr erlidwyr fel y canlyn:—David Phillips, dilledydd, o blwyf Llandyssil; Richard Baxter, gwas amaethwr, o blwyf Tregynon; a Morris Williams, cylchwr (cooper), o Llanfyllin Mae yn ymddangos mai Mr Hugh Owen yn unig a gydnabyddid fel y gweinidog o 1660 hyd 1672. Ar yr 28ain o Awst, yn y flwyddyn hono, urddwyd Mr Henry Williams yn gynorthwywr iddo. Yr oedd Mr Henry Maurice, ac ereill, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, a gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr James Quarrell, o'r Amwythig. Bu farw Mr Williams tua y flwyddyn 1685. Yn mhen rhyw ychydig amser ar ol hyny, urddwyd un o aelodau yr eglwys drachefn yn gynorthwywr i Mr Owen, sef Mr Raynallt Wilson, o Aberhafesp, yr hwn oedd yn pregethu oddiar y flwyddyn 1669, os nad cyn hyny. Haera Mr Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, mai Bedyddwyr oedd Mr Henry Williams a Mr R. Wilson, ond nid ydym wedi gweled un prawf o hyny yn ein holl ymchwiliadau, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. Dengys cofnodion y Bwrdd Henadurol yn Llundain fod Mr Wilson yn derbyn cymhorth blynyddol o'r drysorfa hono o 1690 hyd 1713. A ydyw yn unwedd yn debygol y buasai y Bwrdd Henadurol, y rhai oeddynt yn yr oes hono mor ragfarnllyd tuag at y bobl a alwent yn Ail Fedyddwyr, yn cyfranu arian am dair blynedd ar hugain i un o weinidogion sect y coleddent y fath ragfarn tuag ati? Mae yn hysbys fod yr Henaduriaid o'r dechreuad yn cynorthwyo gweinidogion yr Annibynwyr, fel eu gweinidogion eu hunain; ond ni ddeallasom erioed eu bod yn ddigon rhyddfrydig i gynorthwyo gweinidogion y Bedyddwyr, nes iddynt tua diwedd y ganrif ddiweddaf fyned yn Ariaid ac Undodiaid—yna taflasant eu trysorfa i raddau yn agored i Ymneillduwyr selog o bob plaid. Bu farw Mr Hugh Owen yn 1699; a'i fab Mr John Owen, yr hwn a fuasai am ychydig yn gynorthwywr i'w dad a Mr Wilson, a fu farw yn lled ddisymwth yn 1700. Tua yr amser hwn, yr oedd Mr Francis Turner, un o aelodau yr eglwys, a Bedyddiwr o farn, wedi ei alw i gynorthwyo yn y weinidogaeth, ond ymadawodd i gymeryd gofal eglwys o Fedyddwyr yn Warrington. Mehefin 16eg, 1702, cafodd Mr Rees Protheroe ei urddo gan Mr Mathew Henry, Mr D. Jones, o'r Amwythig, a Dr. Charles Owen, i fod yn weinidog i'r eglwys yn Sir Drefaldwyn; ac y mae yn sicr i'r gangen yn Llanbrynmair gael ei rhan o'i weinidogaeth yntau. Bu Mr Protheroe yn llafurio yn y Sir hon hyd 1712, pryd y symudodd i Gaerdydd. Dilynwyd ef gan Mr William Jervice yn 1713. Yr oedd amryw Fedyddwyr yn yr eglwys er dyddiau Mr V. Powell, ac nid ymddengys iddynt gael un gweinidog sefydlog yma o'u golygiadau eu hunain er ymadawiad Mr Powell, ond Mr Francis Turner, dros ychydig o amser fel gweinidog cynorthwyol. Ymddengys fod y Bedyddwyr yn anfoddlon i ddewisiad Mr Jervice, am y chwenychent gael gweinidog o'u barn eu hunain. Pa fodd bynag, aeth pethau yn mlaen yn lled dawel hyd ar ol marwolaeth yr hen weinidog Mr Wilson, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng 1715 a 1720. Yna, gan fod holl eglwysi y Sir dan ofal Mr Jervice, nis gallasai ymweled a Llanbrynmair a'i changhenau ond anfynych; ac er mwyn boddloni y rhai oedd yn yr eglwys dros fedydd trochiad, cydunwyd i gael cymhorth gweinidogion y Bedyddwyr o'r Dolau a'r Pentref yn Sir Faesyfed. Gan fod ychwaneg nag un gweinidog yn mhob un o'r eglwysi hyny, yr oeddynt yn gallu dyfod i Lanbrynmair a'r canghenau mor fynych fel yr oedd rhyw ran o'r eglwys yn cael pregeth gan y naill neu y llall ohonynt agos bob Sabboth trwy y flwyddyn. Esgorodd hyn yn raddol ar fesur o oerni rhwng y Bedyddwyr a Mr Jervice, fel mai y canlyniad fu iddo ef tua y flwyddyn 1730, neu yn i an ar ol hyny, ymadael yn hollol a Llanbrynmair, a chyfyngu ei lafur i Lanfyllin a'r canghenau perthynol i'r lle hwnw. Ymhyfhaodd y Bedyddwyr bellach yn Llanbrynmair, fel y llwyddasant i gael gan yr eglwys i roddi galwad i Mr Benjamin Meredith, o Lanwenarth, Mynwy, Bedyddiwr proffesedig. Mae yn ymddangos fod Mr Meredith yn bregethwr poblogaidd iawn, ac i'r gynnulleidfa gynyddu yn fawr yn y tymor byr y bu ef yn llafurio yno. Ar ol bod yno ar brawf am flwyddyn neu ychwaneg, cafodd ei urddo yn 1733; ond cyn pen blwyddyn ar ol hyny, ymwrthododd yr eglwys ag ef, oherwydd y barnent nad oedd yn iachus yn ei farn ar rai o brif athrawiaethau crefydd. Yn y flwyddyn 1734, galwodd yr enwog Edmund Jones o Bontypool heibio i Lanbrynmair, ac arweiniodd sylw yr eglwys at Mr Lewis Rees, gwr ieuangc gobeithiol oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Athrofa y Llwynllwyd, Sir Faesyfed.
Galwodd hefyd sylw Mr Lewis Rees at Lanbrynmair a'r amgylchoedd, fel maes nodedig i ddyn ieuangc gweithgar i lafurio ynddo. Boddlonodd Mr. Lewis Rees i fyned i Lanbrynmair ar yr amod i'w gyfaill ddyfod i'w hebrwng yno, ac a hyny y cydsyniodd yr "hen broffwyd" o Bontypool. Rywbryd yn gynar yn y flwyddyn 1734, dacw y ddau gyfaill yn cychwyn, a phan ar fynydd Carno goddiweddwyd hwy gan gysgodau yr hwyr, a chan fod y ddau yn gwbl ddyeithr aeth yn ddyryswch hollol arnynt. Maent yn Nghoedyfron yn myned yn mlaen yn araf a lluddedig, ac wedi colli y ffordd yn lan. Crwydro y maent yn ol ac yn mlaen dan gysgodau yr hirnos; ac yn ei byw ni fedrent gael allan o'r dyryswch. Yn eu penbleth dyna y ddau yn troi i ymddiddan a'u gilydd am Dduw a'i bethau. Gwresogwyd eu calon yn yr ymddiddan — llanwyd hwy a'r Yspryd Glan — a phrofasant y fath gymundeb a Duw nes yr oedd y lle iddynt yn borth i'r nefoedd. Yr oedd eu meddyliau mor dawel a gorfoleddus fel nad oeddynt yn gofalu am fyned allan oddiyno. Ond yn ddisymwth dacw hwy allan o'r coed, ac yn ddiarwybod. iddynt eu hunain pa fodd, cyrhaeddasant y Ty Mawr erbyn dau o'r gloch y boreu. Wedi cyrhaedd y ty, yn lle galw am wely fel y gallesid disgwyl i un yn ei ludded mawr wneyd, wele Edmund Jones yn myned i ystafell o'r neilldu, ac y mae yno mewn ymdrech meddwl yn gweddio dros ei gyfaill ieuangc Lewis Rees am nodded ac amddiffyn y Goruchaf drosto, ac am lwyddiant ar ei weinidogaeth. Daeth allan o'r ystafell " a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel," a phrofodd Llanbrynmair, a phrofodd gogledd Cymru i weddi Edmund Jones gael ei gwrando.
Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Rees, a bu yn rhyfeddol o ddefnyddiol yma, ac mewn amryw fanau eraill yn y gogledd, am lawer o flynyddau. Yn fuan ar ol sefydliad y gweinidog ieuangc lluosogodd y gwrandawyr ac amlhaodd y cymunwyr yn fawr. Cynhyrfodd hyny lid rhai o elynion yr achos fel y llwyddasant i droi y gynnulleidfa allan o'r Ty Mawr, lle buasai yn ymgynnull er's mwy na thriugain mlynedd. Yn wyneb hyn bu raid iddynt edrych allan am le i adeiladu capel, yr hwn a adeiladwyd, fel y crybwyllasom eisioes, yn 1739, a thrwy ymdrech egniol Mr Rees casglwyd digon yn fuan i dalu traul yr adeiladaeth. Bu Mr Rees yn llafurio yn Llanbrynmair, a'r ardaloedd cylchynol, o 1734 hyd 1738, cyn iddo gael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Yn Mlaengwrach, Cwmnedd, Morganwg, ei fam eglwys, yr urddwyd ef, Ebrill 13eg, 1738, pryd y gweinyddodd Meistri James Davies, Merthyr; Roger Howells, Cwmllynfell; Joseph Simons, Chwarelau Bach; Edmund Jones, Pontypool; David Williams; Richard Rees; a Henry Davies, gweinidog y lle. Dichon mai y rheswm paham yr urddwyd ef yno yn hytrach nag yn Llanbrynmair, maes ei lafur, ydoedd prinder gweinidogion yn y gogledd i weinyddu ar yr achlysur, tra yr oeddynt yn gymharol luosog ac agos at eu gilydd yn y Deheudir. Yn mhen tair neu bedair blynedd ar ol adeiladu y capel, derbyniodd Mr Rees alwad oddiwrth yr eglwys yn Maes-yr-onen, Maesyfed, a symudodd yno yn groes iawn i ewyllys ei gyfeillion yn Llanbrynmair. Yn y ty bychan wrth Hen Gapel Llanbrynmair y ganwyd Dr. Abraham Rees, mab Mr L. Rees, yr hwn wedi hyny a ddaeth yn wr enwog yn ei oes.
Yr ydym yn casglu oddiwrth ryw awgrymiad o eiddo Mr J. Thomas yn Hanes y Bedyddwyr mai yr achos penaf o'i ymadawiad oedd yr anghydwelediad oedd yn yr eglwys yn nghylch bedydd. Ond nid yw yn ymddangos iddo dori ei gysylltiad yn llwyr a Llanbrynmair, oblegid cyrchai yno yn rheolaidd bob mis drwy yr holl amser y bu yn Maesyronen; ac yn mhen tair blynedd dychwelodd yno yn llwyr er llawenydd mawr i'w gyfeillion. Yr ydym yn barnu mai yn y flwyddyn 1746 y dychwelodd. Ar ol llafurio yma drachefn gyda llawer o ddiwydrwydd a llwyddiant hyd flwyddyn 1759, symudodd i'r Mynyddbach, gerllaw Abertawe, lle treuliodd weddill ei fywyd.
Dilynwyd Mr Rees yn y weinidogaeth yn Llanbrynmair gan Mr Simon Williams. Nid ymddengys iddo ef aros yma ond rhy brin dair blynedd. Symudodd oddiyma i Dredustan, Brycheiniog lle y bu hyd ei farwolaeth. Gallwn grybwyll yma i Mr John Tibbott, un o aelodau yr eglwys, fod am rai blynyddau— yn gynorthwywr i Mr Rees yn y weinidogaeth yn Llanbrynmair, ac iddo fod yno yn llafurio am bum mlynedd ar ol ei ymadawiad. Yn 1763, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Esgeirdawe, Sir Gaerfyrddin, lle y bu farw yn 1785. Nis gwyddom pa un a gafodd ei urddo yn Llanbrynmair ai naddo.
Ar ol ymadawiad Mr Simon Williams rhoddwyd galwad i Mr Richard Tibbott, brawd Mr John Tibbott, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys ond a fuasai am bum mlynedd ar hugain yn llafurio yn mysg Methodistiaid. Urddwyd ef yn mis Tachwedd 1762, a pharhaodd i lafurio yma gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes yn 1798. Ymddengys iddo yn nhymor ei weinidogaeth, o Tachwedd 1762 hyd Ionawr 1798, dderbyn pum cant ond pedwar o aelodau i'r eglwys. Cafodd ei loni gan ddau adfywiad nodedig yn y gynnulleidfa. Y cyntaf yn 1778, pryd yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys, ac y lluosogodd y gwrandawyr fath raddau fel y bu raid helaethu y capel; yr ail oedd adfywiad bythgofiadwy 1787, yn yr hwn yr oedd dylanwadau anorchfygol yn cael eu teimlo, ac yr ychwanegwyd tua phedwar ugain a deg at yr eglwys mewn yspaid o ddeuddeg mis.
Yn nechreu y flwyddyn 1795, penderfynodd Mr Tibbott a'r eglwys, gan fod llesgedd henaint yn ei rwystro ef i gyflawni ei waith fel gynt, i roddi galwad i Mr John Roberts, un o'r aelodau, yr hwn oedd yn awr ar orphen ei amser yn Athrofa Croesoswallt, i ddyfod yn gynorthwywr yn y weinidogaeth. Urddwyd Mr Roberts, Awst 25ain, 1796 Ar yr achlysur, traddodwyd y gynaraeth gan Mr J. Griffiths, Caernarfon. Derbyniwyd ei gyffes gan Dr. George Lewis. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Tibbott. Traddodwyd y cyngor i'r gweinidog gan Dr. Jenkin ac i'r eglwys gan Mr B. Jones, Pwllheli; a bu ef a'r hen weinidog yn cydlafurio gyda'r brawdgarwch mwyaf. Ar ol marwolaeth Mr Tibbott, yn 1798, rhoddodd yr eglwys ail alwad i Mr Roberts i fod yn ganlyniedydd iddo, ac i gymeryd y gofal gweinidogaothol yn gyflawn. Bu Mr Roberts yn llafurio yn y cylch pwysig hwn, gyda llwyddiant mawr, a chyda chymaint o barch ag un gweinidog yn Nghymru. Gan fod ysgol Dr. Daniel Williams yn Llanbrynmair, a chylch y weinidogaeth yn eang, a Mr Roberts yn heneiddio, teimlid fod angen cynorthwywr arno, ac fel yr oedd yn hollol naturiol disgwyl, dewisodd yr eglwys ei fab hynaf, Mr Samuel Roberts, yn gynorthwywr iddo, ac ar derfyniad ei amser yn Athrofa y Drefnewydd, derbyniodd Mr S. Roberts yr alwad, ac urddwyd ef Awst 15fed, 1827. Ar yr achlysur, traddodwyd y gynaraeth gan M. Jones, Llanuwchllyn. Gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Griffith, Tyddewi. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr Jenkin Lewis, Casnewydd.. Pregethwyd i'r gweinidog ieuangc gan Mr Edward Davies, Drefnewydd, ac i'r eglwys gan Mr W.Williams, Wern. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan Meistri C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Llanrwst; D. Morgans, Machynlleth; T. Griffiths, Hawen; J. Breese, Llynlleifiaid; W. Morris, Llanfyllin; W. Jones, Rhydybont; Williams, Llanfairmuallt; D. Williams, Llanwrtyd; J. Davies, Llanfair; J. Jones, Main; J. Ridge, Bala. [6] Llafuriodd Mr S. Roberts fel plentyn gyda thad am naw mlynedd, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar fywyd defnyddiol yr hybarch John Roberts, Gorph. 21ain, 1834.
Bu y gofal yn hollol ar Mr S. Roberts, am fwy na blwyddyn wedi marw Mr Roberts; ond ar derfyniad tymor Mr John Roberts, ail fab yr hen weinidog yn Athrofa y Drefnewydd, rhoddodd yr eglwys alwad iddo i fod yn gyd-weinidog a'i frawd, Mr S. Roberts, yn yr Hen Gapel, a'r canghenau cysylltiedig. Urddwyd Mr John Roberts Hyd. 8fed, 1835. Darluniwyd natur eglwys gan Mr J. Griffiths, Tyddewi. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog a'r eglwys gan Mr D. Morgan, Machynlleth. Gweddiodd Mr E. Davies, Drefnewydd, am fendith ar yr undeb. Anerchwyd y gweinidog gan Mr D. Williams, Llanwrtyd, a'r eglwys gan Mr J. Breese, Caerfyrddin. Gweinyddwyd hefyd mewn cysylltiad a'r Urddiad yn Llanbrynmair a Charno gan y Meistri H. Lloyd, Towyn; H. Pugh, Llandrillo; C. Jones, Dolgelleu; M. Jones, Llanuwchllyn; J.Griffiths, Rhaiadr; J. Roberts, Capel Garmon; R. Rowlands, Henryd; E. Price, Ruthin; T. Lewis, Llanfairmuallt; W. Jones, Amlwch; W. Rees, Heol Mostyn; D. Price, Penybont; T. Jones, Minsterley; W. Morris, Llanfyllin; J. Williams, Dinas; H. Morgan, Samah; J. Williams, Llansilyn; J. Davies, Llanfair . E. Evans, Abermaw; ac E. Hughes, Treffynon. [7]
Bu y ddau frawd yn cyd-lafurio am flynyddau, gyda pharch a dylanwad mawr, fel canlynedyddion eu tad parchedig. Trwy gysylltiadau priodasol, symudodd Mr J. Roberts am dymor, yn 1838, i Lansantsior, a bu am yspaid blwyddyn yn gofalu am yr eglwysi yn Llansantsior a Moelfra; ond heb lwyr dorri ei gysylltiad a'r eglwys yn Llanbrynmair. ystod ei absenoldeb ef bu Mr Hugh James, yn awr o Lansantffraid, yn gofalu am yr ysgol ddyddiol, yn Llanbrynmair; ac yn cynorthwyo Mr S. Roberts yn y weinidogaeth. Dychwelodd Mr J. Roberts yn mhen y flwyddyn i Lanbrynmair, a bu yno yn cydlafurio a'i frawd hyd 1847, pan y derbyniodd alwad o Ruthin, ac y symudodd yno, ac ni ddychwelodd mwyach i Lanbrynmair. Yr oedd y gofal bellach yn llwyr ar Mr S. Roberts, ond trwy gael cynorthwy athraw i'r ysgol ddyddiol, a rhoddi eglwys Carno i fynu, a chyfyngu ei weinidogaeth i'r Hen Gapel a Beulah; yr oedd yn gallu gwneyd heb gydlafurwr.
Yn 1857, gwnaeth Mr. S. Roberts ei feddwl i fyny, er galar i filoedd o'i gyfeillion yn Llanbrynmair a holl Gymru, i ymadael a hen faes ei lafur ef a'i henafiaid, ac ymfudo i America. Yr oedd canoedd, o bryd i bryd, o aelodau Hen Chapel Llanbrynmair, wedi ymfudo i America; ac yn eu plith lawer o'r dynion goreu a fu yn yr eglwys yn mhob cyfnod yn ei hanes. Dichon nad oes yr un eglwys yn Nghymru ag y mae cynifer o'i haelodau wedi ymfudo i America ag eglwys Llanbrynmair. Nis gellir myned i unrhyw sefydliad amaethyddol Cymreig, braidd trwy yr Unol Dalaethau, na welir yno rai o Lanbrynmair. Mae y cysylltiad yma sydd rhwng pobl Llanbrynmair a'u cyfeillion yn America, yn gwneyd fod yn hawdd iawn ganddynt ymfudo; a chariodd hyny, y mae yn lled sicr, yn mysg pethau eraill, ddylanwad ar feddwl Mr Roberts, er ei ddwyn i benderfyniad i adael gwlad ei dadau.
Wedi ymadawiad Mr S. Roberts, bu yr eglwys am dymor heb sefydlu ar weinidog. Ond yn gynar yn y flwyddyn 1861, rhoddasant alwad i Mr David Rowlands, B.A., myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef Mehefin 5ed a'r 6ed. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Williams, Castellnewydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Williams, Aberhosan. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr H. Morgan, Samah. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr W. Ambrose, Porthmadog, ac i'r eglwys gan Mr J. Roberts, Conway. Yr oedd yn bresenol ar yr amgylchiad tua 30 o weinidogion. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Rowlands, adgyweiriwyd y capel, a muriau y fynwent o'i amgylch, a'r rhan fwyaf o'r ysgoldai, a chafwyd Harmonium i'r capel, a thalwyd yr oll o'r ddyled. Derbyniodd Mr Rowlands alwad oddiwrth yr eglwys Seisnig yn y Trallwm, a phenderfynodd symud yno; a Hydref 30ain, 1866, cynhaliwyd cyfarfod ei ymadawiad yn Llanbrynmair, pan yr anrhegwyd ef a phwrs ac £20 ynddo, fel arwydd o'u teimlad da tuag ato; ac y cyflwynwyd anerchiad iddo wedi ei arwyddo gan y diaconiaid.
Yn Mawrth 1867, rhoddwyd galwad i Mr Owen Evans, o Wrecsam, i weinidogaethu yma, ac efe yw y gweinidog presenol.
Yr ydym yn llafurio dan anfantais i roddi hanes manwl o rif a chynydd yr eglwys hon yn ngwahanol gyfnodau ei hanes o ddiffyg defnyddiau, ac yn neillduol o herwydd fod agos holl Ymneillduwyr y sir yn cael eu cyfrif yn un eglwys hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac am rai blynyddau wedi hyny. Dywedir fod yr achos yn lled gryf a'r gwrandawyr yn lluosog yn Llanbrynmair yn amser gweinidogaeth Vavasor Powell, Hugh Owen, a Henry Williams; ond ymddengys iddo wanychu o flwyddyn i flwyddyn o amser marwolaeth Hugh Owen hyd ddechreuad gweinidogaeth B. Meredith; ac mai dan weinidogaeth effeithiol Lewis Rees y cyfodwyd ef i rym cyffelyb i'r hyn ydoedd yn nhymor gweinidogaeth y gweinidogion cyntaf. Yn 1715-17, pan gasglodd y Dr. John Evans, Llundain, ystadegau yr eglwysi Ymneillduol, nid oedd cynnulleidfa Llanbrynmair ond pedwar ugain a deg o rif, yn aelodau a gwrandawyr. Un tirfeddianwr oedd yn eu plith, a dau o'r gynnulleidfa oedd a phleidlais — un dros y Sir, a'r llall dros y bwrdeisdrefi. Yr oedd cangen o'r eglwys y pryd hwnw yn ymgynnull yn Nhrefeglwys, ac yn gant o rif, ond oll yn bobl dlodion, heb un tirfeddianwr, amaethwr, na masnachwr yn eu mysg. Dywed Mr Thomas yn Hanes y Bedyddwyr i'r achos gryfhau yn fawr yn mlynyddau cyntaf gweinidogaeth Mr Rees, ond ei fod wedi gwanychu drachefn cyn iddo symud o'r lle, ac mai tua chant ac ugain oedd rhif yr aelodau pan ymadawodd ef. Ond y mae yn lled sicr mai ffurfiad eglwysi gwahanedig mewn lleoedd eraill a wanychodd yr achos yn Llanbrynmair, ac nid aflwyddiant gweinidogaeth Mr Rees. Dan weinidogaeth fywiog Mr Tibbott, cynyddodd yr eglwys yn raddol a chyson, fel yr oedd yr aelodau yn y flwyddyn 1777 yn 240 o rif, o ba rai yr oedd 16 yn Fedyddwyr o ran golygiadau. Parhaodd yr achos i ychwanegu ei gryfder trwy holl amser Mr Tibbott, a'i ganlyniedydd Mr Roberts, fel yr oedd eglwys Llanbrynmair yn hir cyn marwolaeth Mr Roberts yn un o'r eglwysi gwledig lluosocaf, cyfoethocaf, a mwyaf haelionus yn y Dywysogaeth. "Am y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes, bu y gynnulleidfa heb un lle rheolaidd i addoli, ond cyfarfyddent mewn ty, neu mewn coedwig, yn ol eu cyfleusdra a'u hamgylchiadau. O gylch y flwyddyn 1675, neillduwyd ystafell ganddynt yn y Ty Mawr at wasanaeth crefyddol, a chawsant lawer cymdeithas felus yn ystod y pedair blynedd a thri ugain y buont yn cyfarfod yno. Adeiladwyd yr addoldy yn 1739. Cafodd ei helaethu yn 1778, a'i ail adeiladu yn 1821; ac heblaw ail adeiladu yr addoldy, yr hyn a gostiodd i'r gynnulleidfa saith cant o bunau, darfu iddynt yn y pymtheg mlynedd diweddaf godi chwech o adeiladau cryfion a helaeth er cyfleusdra i wahanoh ganghenau yr ysgol Sabbothol, o werth yn nghyd dros bum cant o bunau; a darfu iddynt hefyd, yn ychwanegol at eu tanysgrifiadau tuag at gynal y weinidogaeth, a'u casgliadau at yr achos Cenhadol, Gymdeithas Feiblaidd, Athrofa Gwynedd, a sefydliadau eraill, gyfranu oddeutu chwe' chant o bunau at gynorthwyo cynnulleidfaoedd ereill yn adeiladiad eu haddoldai."[8]
Heblaw Aberhafesp a Phenarth, y canghenau o'r fam eglwys a ffurfiwyd yn eglwysi Annibynol yn y ddeunawfed ganrif, cafodd Carno, Llanerfyl, a Beulah eu gollwng i fod yn eglwysi Annibynol yn y ganrif bresenol, a gellir ystyried y rhan fwyaf o'r eglwysi o'r Drefnewydd i Fachynlleth, i raddau mwy neu lai, fel canghenau o'r hen gyff yn Llanbrynmair. Ac er fod ei merched yn lluaws, y mae yr hen fam etto yn gref a llewyrchus, heb arni ddim arwyddion henaint a methiant.
Cafodd llawer o bregethwyr, a rhai o honynt yn ddynion enwog iawn, eu cyfodi yn yr eglwys hon. Nid ydym yn sicr ein bod wedi dyfod o hyd i enwau pawb ohonynt. Wele yn canlyn gynnifer ag y gallasom ddyfod i wybod am danynt:—
Francis Turner. Bu am dymor yn weinidog cynorthwyol yn ei fam eglwys. Tua dechreu y ddeunawfed ganrif, symudodd i Warrington, lle y bu farw yn 1727, yn 73 oed. Bedyddiwr o farn ydoedd.
Richard Jenkins. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog eglwys Annibynol yn Bromesgrove. Mae yn ein meddiant lythyr a ysgrifenodd at ei hen weinidog Mr Lewis Rees, dyddiedig Ionawr 25ain, 1777, yn yr hwn y dywed ei fod yn dri ugain ac wyth mlwydd oed, a'i fod wedi bod yn y weinidogaeth yn Bromesgrove am naw mlynedd ar hugain. Tebygol iddo fod yn gweinidogaethu mewn rhyw fan neu fanau eraill cyn myned yno. Nis gwyddom pa bryd y bu farw.
John Tibbott. Gweler ei hanes ef yn nglyn ag Esgairdawe.
Richard Tibbott. Daw ei hanes ef yn ein Cofnodion Bywgraphyddol.
Benjamin Cadman. Darfu iddo yntau, fel ei gyfaill R. Tibbott, ymuno a'r Methodistiaid, a bu gyda hwy fel cynghorwr am tua thair blynedd, yna dychwelodd at ei hen frodyr. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog yn Mitcheldean, Sir Gaerloew. Yr oedd newydd fyned oddi yno yn 1777. Nis gwyddom yn mha le na pha bryd y bu farw. Dywed Mr Thomas, Hanesydd y Bedyddwyr, ei fod yn wr duwiol, er ei fod. dros fedydd plant.
David Jervice. Cymeradwywyd ef gan yr eglwys i Athrofa Abergavenny Rhagfyr 28ain, 1781. Nis gwyddom ychwaneg am dano. Mae yn debygol ei fod yn rhyw berthynas i'r hen weinidog Mr W. Jervice.
John Roberts. Gweler ei hanes ef yn nes yn mlaen.
George Roberts, brawd Mr John Roberts. Ymfudodd i'r America yn 1795, a bu yno yn enwog a defnyddiol iawn fel gweinidog a gwladwr am yn agos i dri ugain mlynedd.
David Lewis. Dechreuodd bregethu yn 1808. Ymsefydlodd yn gyntaf yn Newport, Sir Amwythig. Symudodd oddi yno i Erdington, gerllaw Birmingham. Yn 1831, ymfudodd i'r America, ac ymsefydlodd yn Pennsylvania, lle yr oedd llawer o'i geraint. Yr oedd yn nai i'r Meistriaid John a George Roberts.
John Breese, o Liverpool, ac wedi hyny o Gaerfyrddin. Rhoddir ei hanes yn nglyn a Chaerfyrddin.
Evan Davies (Eta Delta). Daw ef dan ein sylw yn nglyn a Newmarket, lle y terfynodd ei weinidogaeth.
Samuel Roberts. Dechreuodd bregethu yn 1820. Mae ei enw a'i hanes yn hysbys i bob darllenydd Cymreig. Hyderwn na fydd galwad neb am flynyddau etto ysgrifenu ei gofiant.
John Roberts, yn awr o Gonwy. Mae yn adnabyddus trwy holl Gymru wrth y ddwy lythyren J. R. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1830.
Thomas Owen. Ymfudodd i'r America.
John Davies. Yn awr o Spring Green, Wisconsin, America.
Evan Lewis. Gorphenodd ei yrfa pan yn parotoi i'r Coleg.
David Jones. Yn awr o Abersoch, Arfon.
Morris Jones. Gwr ieuangc o'r eglwys yma a aeth drosodd i America, a ddechreuodd bregethu yno, ac a urddwyd yn gynorthwywr i Mr George Roberts, Ebensburgh.
Y mae hen eglwys Llanbrynmair o oes i oes wedi magu llawer o wyr a gwragedd talentog, rhagorol mewn crefydd, a chedyrn yn yr Ysgrythyrau, heblaw y rhai a aethant yn bregethwyr; ond nid oes genym ddefnyddiau wrth law i roddi eu hanes, ond anfonwyd i ni y crybwyllion canlynol am rai o honynt:-
Richard Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, yr hwn oedd yn fwy ei ddylanwad o blaid trefn, mewn byd ac eglwys, nag unrhyw Ynad Heddwch yn y Sir. Meibion iddo ef oeddynt Cadben William Hughes, yr hwn yn ngwres ei wladgarwch a ymrestrodd i'r Milisia pan oedd y gair allan fod Napoleon y Cyntaf yn parotoi at oresgyn Lloegr, a'r hwn yn nyddiau cyntaf ei ymarferiadau milwraidd, a nychodd ei iechyd, ac a gymerwyd i orphwysfa gwlad yr hedd, ar gychwyniad gyrfa nodedig o obeithiol fel gwladwr ac fel crefyddwr; a'i frawd Ezekiel Hughes, o Cleves, Ohio, cymydog a chyfaill i'r Arlywydd Harrison, a thad ynghyfraith y cariadus a'r gweithgar B. W. Chidlaw, A.C., Brawd Richard Hughes, hynach nag ef, Edward Hughes,o Gwmcarnedd-isaf, roddodd dir, ar amod hael, yn y cwr mwyaf cyfleus ar a feddai, at godi yr Hen Gapel a chael claddfa yn ei ymyl; yr hwn nas gallesid gael y pryd hyny mewn unrhyw gwr arall o'r ardal; a da genym feddwl fod yspryd hael yr hen dadau, o'r ddau Gwmcarnedd, mor wresog ag erioed, yn eu hwyrion a'u gor-wyrion. Samuel Breese, o'r Coed, yr hwn a ymollyngodd i weddio o'r galon pan ddiffoddodd ei ganwyll uwchben y weddi ysgrifenedig oedd Lewis Rees wedi gyfansoddi iddo. Yn Felin Dolcadfan, mewn cymundeb rhydd a chynes gydag eglwysi yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd, ar ol bod yn ddefnyddiol yn Mochdref a Llanwnog, y gorphenodd y dirodres Evan Roberts, tad John a George Roberts, ei yrfa yn bump a phedwar ugain. oed. Thomas Williams, o'r Felin, yr hwn oedd yn athraw tyner i ddysgyblion ieuangaf y gymdeithas grefyddol. Richard Thomas, Trefolwern, cynes iawn ei galon, a gwlithog iawn ei ddoniau gyda'r ysgol Sul. Shon Humphrey ffraeth ei ymadrodd a gwresog ei brofiad, - a'i wir weddw Catrin yr hon a gadwai " ddyledswydd'" lawn reolaidd, ar ei haelwyd isel fechan heb fod neb yno gyda hi ond teulu y nefoedd. Y cywir a'r gonest a'r diwyd Josia Jones, Braichodnant, blaenor y gan am lawer o flynyddoedd; a'i frawd ynghyfraith pwyllog, y diacon Richard Davies, Dolydan; a'r athrawus Edward Evans, Llawrycoed, yr hwn a arferai ddarllen anerch o'r Evangelical Magazine, neu bregeth o waith rhyw hen Buritan, pan y byddai y gweinidog oddicartref. Roland Dafydd, Cwmclegernant, ewythr yr efengylydd hyawdl Thomas Davies o Lanuwchllyn, a Samuel Breese o Gwmcalch, y rhai oeddynt yn enwog am eu ffyddlondeb yn dyfod dros y bryniau i'r capel yn brydlawn a difwlch, drwy bob tywydd er garwed eu llwybr. A John Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, nodedig am ei garedigrwydd fel cymydog, ei foneddigeiddrwydd fel gwladwr, a'i ffyddlondeb fel crefyddwr. Byddai ei air yn yr eglwys yn " derfyn ar bob ymryson," ac ar ei ol ef ni ddywedid mwyach. A'i gyd-ddiacon arafaidd Athelstan Owen (brawd Mr. John Owen, T.C.), yr hwn ar gychwyniad achos Dirwest, a drodd ei Fragdy mawr yn dai annedd, rhag iddo brofi yn brofedigaeth i deuluoedd yr ardal. A'r dirodres a'r addfwyn Richard Jones, Tymawr; a'r hynaws Thomas Jones, o'r Plas, a Stephen Rees, Clegerddwr, nodedig o ran eu ffyddlondeb a'u gofal am achos Iesu Grist.
Ond yr amser a ballai i ni grybwyll am yr hen dadau a'r mamau o Gwmderwen a'r Beudyhir, a Thynygors, a Phantywaun, Ty Llwyd, Bryngwyn, a'r Hendref, a'r Pandy, a Phenygeulan, a'r Dafarn Newydd, a'r Ddolfach, y rhai a daenent berarogl Crist yn mhob cylch ac yn mhob cyfarfod lle y byddent. [9]
Diau fod llawer eraill o rai rhagorol wedi bod yn yr hen eglwys barchus hon, ac na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Nid ydym am grybwyll enwau y ffyddloniaid sydd yn aros; ond siaredir yn barchus am wasanaeth yr hen frawd William Jones, Tawelan, sydd yn awr yn Allen Co., Ohio, ac mor ymdrechgar y bu, yn enwedig gyda chodi yr Ysgoldy yn y Bont. Yr ydym yn gobeithio y megir yma lawer o oes i oes i fod yn ddilynwyr teilwng o'u tadau, "y rhai trwy ffydd ac amynedd sydd wedi etifeddu yr addewidion."
Mae yr hen eglwys enwog hon trwy yr oesau wedi bod yn nodedig ,am ei heddwch a'i hundeb, oddi eithr fod ychydig o rwgnachrwydd distaw wedi bod ynddi yn y ddwy ganrif ddiweddaf oherwydd amrywiaeth barn am fedydd. Parhaed heddwch o fewn eu rhagfuriau, a ffyniant yn ei phalasau hyd derfyn oesau y ddaear.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
VAVASOR POWELL. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn Cnwcglas, yn sir Faesyfed, yn y flwyddyn 1617. Yr oedd yn perthyn i rai o'r teuluoedd mwyaf parchus yn siroedd Maesyfed, Maldwyn, ac Amwythig. Ar ol bod rai blynyddau mewn ysgolion rhagbarotoawl, aeth i Goleg Iesu, yn Rhydychain, lle y dywedir iddo fyned rhagddo yn enwog mewn dysgeidiaeth. Wedi dychwelyd adref o'r Brif-athrofa, bu am ychydig amser yn cadw ysgol yn y Clun, sir Amwythig. Ei ewythr, Erasmas Powell, oedd person y plwyf hwnw, a byddai ef yn arfer ei gynorthwyo trwy ddarllen y gweddiau; ond nid ymddengys iddo erioed gael urddau esgobol. Er ei fod wedi cael addysg dda, a'i fod yn nghylch myned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yr oedd, hyd nes yr oedd yn gyflawn ugain oed, yn hollol ddibrofiad o grefydd ysbrydol; ie, yn ddyn ieuangc coeg a difeddwl, ac hyd yn nod yn flaenor yn mysg ei gyfoedion mewn ynfydrwydd a drygioni; ond ymwelodd Ysbryd Duw yn rasol, ac i raddau yn annysgwyliadwy, ag ef. Fel yr oedd ar un Sabboth, mae yn debygol ar ol bod yn darllen y gweddiau yn yr Eglwys, ac yn ei wisg offeiriadol, nen "wisg bugailffol," fel y galwai efe hi, yn edrych ar nifer o bobl yn halogi y Sabboth gydag amryw o chwareuon ynfyd, daeth un o'r bobl a elwid y Puritaniaid yn ddygwyddiadol heibio, a chyfarchodd ef mewn modd hynaws gan ddywedyd, "A ydyw yn gweddu i chwi, Syr, yr hwn ydych yn ysgolhaig, ac yn un sydd wrth eich swydd yn dysgu eraill, i dori dydd yr Arglwydd yn y modd hwn?" Atebodd yntau yn ngeiriau y gwawdwyr yn Malachi; "Yn mha beth yr wyf fi yn ei dori? Yr ydych yn gweled nad wyf fi yn gwneyd dim ond sefyll yma. Nid wyf yn chwareu o gwbl." "Ond," ebe y dyn, "yr ydych yn ymbleseru yn yr hyn a wnant hwy wrth edrych arnynt, ac y mae Duw yn gwahardd hyny yn ei Air santaidd." Gyda hyny efe a agorodd ei Fibl, ac a ddarllenodd Esay lviii. 13, yn neillduol yr ymadrodd, "Heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd santaidd." Cafodd y geiriau y fath effaith ar feddwl y gwr ieuangc fel y penderfyn- odd na throseddai felly byth mwyach, a chynorthwyodd Duw ef i sefyll at ei benderfyniad. Ond yr oedd etto heb ei lwyr argyhoeddi o'i gyflwr colledig, a'i angen o Grist. Tua blwyddyn ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1639, arweiniwyd ef gan ragluniaeth i wrandaw "hen bregethwr ardderchog;" Mr. Wroth, mae yn bosibl, geiriau yr hwn a adawsant argraph annileadwy ar ei feddwl, yr hwn a ddyfnhawyd ar ol hyny wrth ddarllen "Y gorsen ysig," gan Sibbs, yn nghyd ag un o lyfrau Mr. Perkins. O'r diwedd, trwy weinidogaeth rymus Mr. Walter Cradock, ac amryw foddion eraill, cafodd ei arwain i ymgyflwyno yn hollol i'r Arglwydd. Nid yw yr amser, yn gywir, y dechreuodd bregethu, yn hysbys. Yn y flwyddyn 1640, pan yn pregethu mewn anedd-dy yn sir Frycheiniog, cafodd ef, a thua thriugain o'i wrandawyr, eu dal gan bymtheg neu un-ar-bymtheg o erlidwyr, y rhai a gymerent arnynt fod ganddynt warant oddiwrth yr Ynad Williams, o Lanfairmuallt. Y noson hono cawsant eu cloi mewn eglwys, a'r dydd canlynol arweiniwyd hwy i dy yr Ynad, yr hwn a'u rhoddodd dan ofal heddgeidwaid. Dranoeth, cawsant eu holi ger bron yr Ynad hwnw, a dau neu dri o Ynadon eraill, yn nghyda chwech neu saith o offeiriaid; ond ar ol hir ymgynghoriad gollyngwyd hwy gyda llawer o fygythion. Ychydig amser ar ol hyny, cafodd Mr. Powell, pan yn pregethu ar faes, yn sir Faesyfed, ei ddal a'i anfon i garchar, gan Mr. Hugh Lloyd, yr Uchel-Sirydd, yr hwn oedd yn berthynas agos iddo. Yr oedd gweinyddiad y warant wedi ei ymddiried i ddau-ar-bymtheg o heddgeidwaid, ond darfu iddynt oll ond un wrthod gwneyd dim o honi. Darfu i'r un hwnw, wrth fyned a Mr. Powell tua'r carchar, ganiatau iddo letya noswaith yn ei dŷ ei hun, yr hwn oedd ar eu ffordd tua'r carchardy, ac effeithiodd ei weddiau yn y teulu y noson hono mor ddwys arno fel nas gallasai fyned ag ef yn mhellach. Efe a adawodd y carcharor yn ei dy ei hun, ac a aeth ymaith, ond darfu i'r gweinidog erlidiedig, er rhagflaenu unrhyw ofid i'r heddgeidwad, ymrwymo gyda dau feichiau i ymddangos yn mrawdlys nesaf Maesyfed. Yn y brawdlys cafodd ei ryddhau yn anrhydeddus oddiwrth y cyhuddiadau a ddygesid yn ei erbyn, ac er mawr siomedigaeth i'w erlidwyr, gwahoddwyd ef i giniawa gyda'r barnwr. Parhaodd yr Uchel-Sirydd er hyny yn elynol iddo, ac ni orphwysodd hyd nes iddo ei erlid allan o'r wlad. Er achub ei fywyd, efe a ffodd i Lundain. Cyrhaeddodd yno yn Awst, 1642. Efe a arhosodd yn Lloegr am bedair blynedd a chwe' mis. Bu am y ddwy flynedd gyntaf yn pregethu yn Llundain, ac am y ddwy flynedd a haner ddiweddaf yn Dartford, yn Kent. Yr oedd yn rhyfeddol o boblogaidd a defnyddiol yno. Cyn gynted ag y tawelodd ystorm y rhyfel, aeth rhai o aelodau yr eglwys Ymneillduol yn sir Faesyfed, yr holl ffordd i Kent i wahodd eu bugail parchus i ddychwelyd atynt hwy. Cyn ei ddychweliad, efe a ymddangosodd ger bron Pwyllgor Cymanfa y Duwinyddion yn Westminster, yr hwn oedd wedi ei bennodi gan y Senedd i holi a chymeradwyo pregethwyr cyhoeddus, lle yr holwyd ef. Yr oedd rhai o'r Pwyllgor am iddo dderbyn urddiad Henadurol, ond gan ei fod yn Annibynwr diysgog, ac fel y cyfryw yn amheu hawl Pwyllgor o Weinidogion i urddo neb heb gydsyniad yr eglwys y bwriedid yr urddedig i weini ynddi, efe a wrthododd gymeryd ei urddo ganddynt. Ar ol ychydig ddadl rhyngddo ef a Mr. Stephen Marshall, un o aelodau y Pwyllgor, cydunwyd i roddi iddo y gymeradwyaeth ofynedig, heb iddo gymeryd ei urddo, yr hon a law-nodwyd gan ddau-ar-bymtheg o'r Pwyllgor, yn mysg y rhai yr ydym yn cael enwau Joseph Caryl, William Greenhill, Jeremiah Burroughs, Christopher Love, William Strong, Jeremiah Whitaker, Phillip Ney, &c.
Ar ei ddychweliad i Gymru, daeth yn un o'r dynion mwyaf llafurus ae effeithiol i daenu yr efengyl yn mysg ei gydwladwyr. Pregethai yn fynych ddwy a thair gwaith y dydd, ac anfynych y byddai am ddau ddiwrnod o un wythnos trwy y flwyddyn heb bregethu. Nid oedd braidd un eglwys, capel, na neuadd tref trwy yr holl Dywysogaeth lle nad oedd wedi bod yn pregethu. Byddai yn fynych yn pregethu mewn ffeiriau, marchnadoedd, ar y maesydd, ar benau y mynyddoedd, a pha le bynag y gallai gael pobl i bregethu iddynt. Mae yn anmhosibl ffurfio drychfeddwl cywir am helaethrwydd ei lafur yn Nghymru o'r flwyddyn 1646 hyd 1660.
Yr oedd Mr. Powell yn un o'r pregethwyr effeithiolaf a mwyaf poblogaidd yn ei oes, a dydd y farn yn unig a ddatguddia pa faint o ddaioni y bu yn offerynol i'w wneyd. Gan nad yw y goreu o blant Adda yn berffaith, nid oedd yntau heb ei wendid. Dichon iddo ar rai achlysuron drin offeiriaid anwybodus a boneddigion rhagfarnllyd Cymru gyda gormod o lymder, a bod angerdd ei ddyoddefiadau yn ei flynyddoedd diweddaf i'w briodoli i raddau i hyny. Efallai y gellid hefyd ddweyd ei fod i raddau yn rhy ymyrgar gyda phethau gwladol, ac yn gwneyd yn rhy eofn, yn y fath oes derfysglyd a'i oes ef, wrth wthio i'r cyhoedd ei olygiadau fel gwerinwr. Bu ei ymosodiad diarbed ar Oliver Cromwell a'i Weinyddiaeth, yn nghyd a newidiad disymwth ei farn ar fedydd yn 1655, yn gryn niwed i'w ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn Nghymru; ond wedi y cwbl, dylai ei goffadwriaeth fod yn anwyl a pharchus gan holl Ymneillduwyr Cymru.
Dichon na ddoyddefodd un Cymro yn ei oes ef gymaint dros ei grefydd a Vavasor Powell. Cafodd ei ddal yn Ebrill 1660, a'i gadw am tua naw wythnos yn ngharcharau y Trallwm a'r Amwythig. Yn Gorphenaf 1660 daliwyd ef drachefn, gan Uchel-Sirydd Maldwyn, am nad attaliai bregethu ar fygythiad y gwr hwnw. Ar ol bod am rai misoedd yn garcharor yn Maldwyn, symudwyd ef i'r Fleet Prison yn Llundain, lle y cadwyd ef yn gaeth mewn ystafell fechan, afiachus, ac aflan, am yn agos ddwy flynedd. Ar y 30ain o Fedi, 1662, symudwyd ef o Lundain i Gastell Southsea, ger llaw Portsmouth, lle y bu yn garcharor am fwy na phum mlynedd. Ar gwymp Clarendon, a lleddfiad yr erledigaeth i raddau, cafodd ei ollyngdod unwaith etto trwy orchymyn y brenin. Cyn pen llawn ddeng mis ar ol hyn, cafodd ei ddal drachefn a'i garcharu. Aethai i'r Bath a Chaerodor er mwyn ei iechyd, ac wrth fyned oddi yno adref, trwy Ddeheudir Cymru, pregethodd i gynnulleidfaoedd lluosog mewn gwahanol fanau yn sir Fynwy. Aeth i Ferthyr Tydfil, lle y pregethodd i tua mil o bobl yn agos i Eglwys y Plwyf, oddiwrth Jeremiah xvii. 7, 8. Tra yr ydoedd yn pregethu, darfu i George Jones, offeiriad y plwyf, gychwyn gyda brys tua Chaerdydd i ymofyn awdurdod i'w ddal. Yn mysg pethau eraill, tyngodd fod Mr. Powell yn cael ei ddilyn gan dorf o ddynion arfog. Yn foreu y dydd canlynol, daeth un Major J. Carne, a nifer o filwyr, i Ferthyr, a daliasant Mr. Powell yn ei letty. Pan ofynodd iddynt ar ba awdurdod yr oeddynt yn ei ddal, ysgydwodd Carne ei gleddyf, a dywedodd mai ar awdurdod hwnw. Wedi myned ag ef i Gaerdydd, rhoddwyd ef yn ngharchar yno. Cymerodd hyn le tua Hydref 1668. Ar ol llawer o ffug brawfiadau, yn Nghaerdydd a'r Bontfaen, darfu i gyfaill i Mr. Powell yn Llundain fynu cyfodi yr achos i lys uwch; ond methwyd cael gan Uchel-Sirydd Morganwg i ollwng ei ysglyfaeth o'i balfau nes ei fygwth a dirwy o gan' punt. Mai 16eg, 1669, symudwyd ef o Gaerdydd i Lundain. Ymddangosodd ger bron y Court of Common Pleas yno ar yr 22ain o'r un mis; ac er nas gellid profi un o'r cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn, ni chaniatawyd ei ryddid iddo, ond anfonwyd ef drachefn i'r Fleet Prison, yn unig er boddio ei elynion gwaedlyd. Yn y carchar hwn y bu o hyn allan nes i angau ddatod ei gadwynau am bedwar o'r gloch yn y prydnawn, Hydref 27ain, 1670. Dywedir i un o wyr y llys boreu dranoeth ddweyd wrth brenin Siarl II. "Y mae Vavasor Powell wedi cael ei ollwng yn rhydd." Pwy," ebai y brenin, "a'i gollyngodd yn rhydd?" "Brenin uwch na'ch Mawrhydi," oedd yr ateb. Ar hyny edrychai y brenin yn syn, ac aeth yn fud.
Darfu i Mr. Powell ysgrifenu tua thri ar ddeg o lyfrau. Yn yr iaith Saesonig yr ysgrifenwyd y rhan fwyaf os nid pob un o honynt, ond cyfieithwyd amryw o honynt i'r Gymraeg yn yr oes hono. Yn mysg y llyfrau a gyhoeddodd, y mae un bregeth a draddododd o flaen y senedd yn Rhagfyr 1649.[10]
HENRY WILLIAMS. Yr oedd y gwr da hwn yn byw yn yr Ysgafell, ger llaw y Drefnewydd. Mae lle ac amser ei enedigaeth yn anhysbys. Yr oedd wedi dechreu pregethu ryw gymaint o amser cyn 1660. Cafodd, fel y gwelsom, ei garcharu yn y Trallwm yn Mehefin y flwyddyn hono, a dywedir iddo fod naw mlynedd o garchar i garchar am bregethu yr efengyl Yn nghanol ei holl ddyoddefiadau parhaodd yn ffyddlon i Dduw a'i eglwys, a phregethai yn ddibaid tra y byddai allan o'r carchar. Pan gafwyd ychydig o ryddid yn 1672, cynhaliwyd cyfarfod yn agos i'r Drefnewydd, mewn lle o'r enw Gwnle, neu Gwynle, ar yr 28ain o Awst, pryd yr urddwyd Mr. Williams yn gynorthwywr i Mr. Hugh Owen, fel gweinidog amrywiol ganghenau yr eglwys Ymneillduol yn sir Drefaldwyn. Bu y dyn da a'r dyoddefydd ffyddlon hwn farw yn 60 oed tua y flwyddyn 1685. Cafodd deulu lluosog. Bu iddo ddeuddeg o blant, y rhai a dyfasant oll i'w cyflawn oed. Bu naw o honynt yn briod. Rosamond, un o'i ferched ef, oedd gwraig yr enwog Richard Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Rowell, sir Northampton. Cyhoeddodd Mr. Davies farwnad er coffadwr- iaeth am ei dad yn nghyfraith, yn yr hon y crybwylla am lawer o'i ddyoddefiadau yn achos crefydd. Dichon na ddarfu i nemawr o un Cymro, yn yr oes hono, oddi eithr V. Powell, ddyoddef mwy am ei grefydd na Henry Williams. Ymosodwyd arno unwaith pan yr oedd yn pregethu, ac wedi ei lusgo allan o'r ty, curwyd ef mor farbaraidd, fel y trodd yr erlidwyr ymaith gan dybied ei fod, fel Paul yn Lystra, wedi marw. Unwaith, pryd yr oedd yn ngharchar, ymosododd haid o erlidwyr ar ei dy, a rhoddasant ef ar dân nes ei losgi i'r llawr. Dro arall, torasant i'r ty gan ddinystrio yr holl ddodrefn; a holl ddodrefn; a thra yr oedd yr hen wr, tad Mr. Williams, yn sefyll ar y grisiau i'w hattal i'r llofft, rhuthrasant arno a lladdasant ef yn y fan. Yr oedd ei wraig ar y pryd yn feichiog, ac wrth ei bod yn ceisio dianc ag un plentyn yn ei chol, ac un ieuangc arall yn ei llaw yn cerdded, anelodd un o'r erlidwyr lawddryll ati, gan ei rhegu a bygwth ei saethu; a buasai wedi ei lladd, oni buasai fod un o'i gyd-erlidwyr yn llai ffyrnig nag ef, ac i hwnw ei rwystro. Wedi hyny, yspeiliwyd ef o'i holl anifeiliaid a chnwd ei dir, gan adael y teulu lluosog ac erlidiedig heb ddim at eu cynhaliaeth. Ond fe ddarparodd Rhagluniaeth yn garedig ar eu cyfer. Yr oedd yno gaeaed o wenith ar y pryd yn dechreu egino, yr hwn nis gallasai y gelynion ei gario ymaith. Darfu i'r cae hwnw gnydio mor anghyffredin nes peri syndod i'r holl wlad. Bu cynyrch y maes hwnw yn ddigon i wneyd i fyny am holl golledion y flwyddyn flaenorol Bu cynyrch y cae gwenith, yr hwn a ymddangosai yn debyg i wyrth, yn nghyd a diwedd truenus amryw o'r prif erlidwyr, yn foddion i lenwi yr ardal ag arswyd, fel y cafodd y gwr da lonyddwch o hyny allan. Yr oedd dau o flaenoriaid yr erledigaeth yn ynadon yr heddwch. Bu un o honynt farw yn ddisymwth wrth fwyta ei giniaw; a'r llall, wrth ddychwelyd adref o'r Drefnewydd yn feddw, a syrthiodd i'r afon Hafren ac a foddodd. Un arall, naill ai yr Uchel-Sirydd neu yr Is-Sirydd, yr hwn fuasai yn weithgar iawn yn yspeiliad y gwr da o'i anifeiliaid a chnwd ei dir, a syrthiodd oddiar ei geffyl yn ngolwg ty Mr. Williams, ac a dorodd ei wddf. "Yr oedd Henry Williams," medd Dr. Calamy, "yn ddyn cyfiawn a da, yn weithgar iawn dros Dduw, ac yn bregethwr bywiog.[11]
HUGH OWEN. Yn Mron y Clydwr, yn mhlwyf Llanegryn, Meirionydd, yr oedd ef yn byw, a thebygol mai yno y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1637. Efe oedd perchenog y lle hwnw. Yr oedd yn fyfyriwr yn mhrif Athrofa Rhydychain pan basiwyd Deddf Unffurfiaeth yn 1662. Gan nas gallasai gydymffurfio, ymadawodd oddi yno, ac aeth am ychydig amser i Lundain, ond dychwelodd yn fuan i le ei enedigaeth, lle y treuliodd weddill ei oes i bregethu yr efengyl gyda diwydrwydd a ffyddlondeb apostolaidd i'w gydwladwyr. Yr oedd ganddo chwech o leoedd yn sir Feirionydd, a'r un nifer yn sir Drefaldwyn, lle y byddai yn arfer pregethu yn rheolaidd ; felly, nis gallasai ymweled a phob un o'r lleoedd hyn ar y Sabboth yn fynychach nag unwaith bob tri mis. O ran ei amgylchiadau bydol yr oedd yn dra chysurus; yn byw ar ei dir ei hun, ac yn berchen rhai tiroedd eraill. Fel dyn, yr oedd o dymer hynod garedig, ac yn nodedig o ofalus i beidio dolurio teimladau neb, os gallasai mewn un modd ochelyd hyny. Yr oedd yn enwog am ei ostyngeiddrwydd. Er ei fod yn uwch yn ei sefyllfa fydol na'r rhan fwyaf o'r rhai y cyfeillachai fwyaf a hwynt, etto yr oedd mor ostyngedig fel yr oedd yn wastad yn cyfrif eraill yn well nag ef ei hun. Yr oedd fel Cristion yn hynod am ei dduwiolfrydedd a'i agosrwydd at yr Arglwydd. Yr oedd yn ddigyffelyb yn ei effeithiolrwydd fel gweddiwr. Unwaith, yn nheyrnasiad Iago II., daeth Is-Sirydd Meirionydd i Fronyclydwr, a gwarant i'w gymeryd i garchar am bregethu yr efengyl. Dywedodd y gwr da ar unwaith ei fod yn foddlon myned gyda'r swyddog, ond dymunodd gael caniatad i fyned i weddi gyda ei deulu cyn ymadael, yr hyn a ganiatawyd iddo. Effeithiodd ei weddi gymaint ar y swyddwr fel y methodd a chael ar ei galon i gyffwrdd ag ef pan gyfododd oddiar ei liniau, ac aeth ymaith gan adael ei garcharor yn wr rhydd. Dro arall, cymerwyd ef trwy warant am yr un trosedd ger bron Arglwydd Powys, i'r Castell Coch. Bu yno am rai dyddiau yn garcharor, ond clywodd ei arglwyddiaeth ef yn gweddio, a thoddwyd ei deimladau i'r fath raddau, er ei fod yn Babydd, fel y dywedodd wrth ei offeiriad—"Yn sicr Cristion da yw y gwr hwn." Gollyngodd ef yn rhydd, a gwnaeth iddo addaw wrth ymadael i ymweled a Chastell Powys bob Nadolig.
Fel pregethwr, yr oedd yn hollol efengylaidd, yn effeithiol a dengar nodedig, ac felly ymgasglai lluaws i'w wrandaw i bob lle yr elai. Yr oedd yn nodedig am ei ryddfrydigrwydd. Er ei fod yn ddiysgog yn ei ymlyniad wrth ei olygiadau ei hun, yr oedd yn anwylo pawb a ddygent ddelw y Gwaredwr, pa faint bynag fuasent yn gwahaniaethu yn eu barn ar ryw bynciau oddi wrtho ef.
Cyfarfyddodd yn ystod ei fywyd llafurus â llawer o beryglon, ond gwaredwyd ef braidd yn wyrthiol amryw weithiau. Unwaith, pan yn dychwelyd adref ar noswaith dywyll iawn, collodd y ffordd, a deallodd ei fod mewn lle enbyd. Yn ei gyfyngder a'i berygl, disgynodd oddiar ei geffyl, ac aeth i weddi am gyfarwyddyd a nodded Duw. Cyn ei fod wedi gorphen gweddio, cliriodd yr wybr uwch ei ben, fel y gallodd yn rhwydd weled pa le yr oedd, a dianc o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i'w daith i bregethu trwy y rhew a'r eira, goddiweddwyd ef gan y nos ar y mynydd, a chyfododd ystorm ddisymwth, fel y chwythid yr eira yn ei wyneb nes y methai y ceffyl fyned rhagddo. Gollyngodd ef gan hyny i fyned lle y gallai, hyd nes y cafodd ei fod yn agos i gorsydd peryglus, fel nas gallasai fyned yn mhellach. Wedi rhoddi ei ofal i'r Arglwydd mewn gweddi, gadawodd y ceffyl i fyned rhagddo, a cherddodd yntau trwy yr eira dwfn hyd haner nos, nes y teimlai ei hun mor lluddedig ac oer fel yr anobeithiai am ei fywyd. Yn Rhagluniaethol, yn mhen ychydig funudau, cafodd ei hun yn ymyl beudy, i'r hwn y ceisiodd fyned i mewn, ond cafodd fod y drws yn gloedig. Wedi ymdrechu myned i mewn am tuag awr, a phan oedd pob gobaith agos a'i adael, daeth o hyd i dwll yn y mur, trwy yr hwn y gallodd ymwthio i mewn. Gorweddodd yno rhwng y gwartheg hyd y boreu, ac yna aeth allan yr un ffordd ag y daethai i fewn. Canfu dy heb fod yn mhell, a thynodd tuag ato. Pan gurodd, cyfododd gwr y ty i'w ollwng i mewn. Cafodd fod ei wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwy- law yn ddideimlad gan oerni, ei ddillad mor ddiblyg ag estyll gan y rhew a'r eira, ac yntau braidd yn rhy wan i siarad. Cyneuodd y dyn dân da, rhoddodd iddo laeth berwedig, a gosododd ef mewn gwely cynes, lle y gorweddodd am rai oriau. Yna cyfododd, wedi adfywio yn lled dda, ac aeth y boreu hwnw i bregethu i'r lle y disgwylid ef, a phregethodd yno gyda ei fywiogrwydd arferol.
Nis gallasai llafur dibaid a theithio gwlad noeth a mynyddig ar bob math o dywydd lai nag effeithio ar y cyfansoddiad cryfaf. Felly, rhodd- odd ei iechyd yntau ffordd yn raddol, a bu farw yn y flwyddyn 1699, yn 62 oed. Pregethwyd yn ei angladd gan Mr. James Owen, Croesoswallt, yn ol dymuniad yr ymadawedig, ond gorchymynodd i'r pregethwr beidio son dim am dano ef wrth draddodi ei bregeth angladdol. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei gyfrif yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll. Ychydig cyn ei farw, ysgrifenodd Mr. Owen lythyr o gyngor caredig i bobl ei ofal yn Meirionydd a Maldwyn, yr hwn a alwodd ei Lythyr Cymun diweddaf. Y mae o ran sylwedd fel y canlyn:—"Gochelwch fydolrwydd, rhag, fel yr ofnwyf, i'r byd, fel cancr, fwyta i fyny bob daioni mewn llawer o honoch, gan adael eich heneidiau fel cregyn sychion. Gosodwch eich hwynebau yn erbyn balchder calon, a gofelwch gadw i lawr bob meddwl uchel am danoch eich hunain ar bob cyfrif. Ymroddwch i arfer y ddyledswydd bwysig o hunan-ymwadiad; ie, llawenhewch yn mhob cyfleu i ymddarostwng i'r llwch er mwyn Iesu; gan ymdrechu bod yn barod i faddeu, anghofio, a myned heibio unrhyw beth a wneler yn eich erbyn; ymgeisiwch o flaen pob peth am heddwch. Gwyliwch rhag y dymer uchelfrydig sydd yn barod bob amser i ddywedyd, Hwy yw y troseddwyr, nid myfi; eu lle hwy yw plygu i mi, ac nid myfi iddynt hwy. Nid yw hyn ond effaith balchder, a mwy o gariad atom ein hunain nag at yr Arglwydd Iesu Grist a'i ffyrdd." Ar ol rhoddi cyfarwyddiadau i swyddwyr, ac aelodau henaf yr eglwys, gyda golwg ar y callineb a'r arafwch gofynol er rhagflaenu dadleuon yn nghylch bedydd, sylwa fod y dadleuon hyny wedi achlysuro rhwyg mawr yn Ngwrecsam, er dianrhydedd i enw Duw a mawr niwed i grefydd; a bod y rhai a gymerasent ran yn y cyfryw ddadleuon wedi cyfaddef wrtho ef iddynt wrth groes ddadleu golli presenoldeb Duw, ac iddynt osod ataliad ar y gwaith o achub eneidiau. "Yr wyf yn dymuno gwasgu hyn at eich ystyriaeth," meddai, "canys dylech oll ddymuno yn fwy am helaethu terfynau teyrnas Crist, a chael ei ddelw Ef wedi ei hargraffu ar eneidiau dynion, na'u cael wedi eu nodi gan eich hopiniynau neillduol eich hunain. Os yw delw Crist wedi cael ei hargraffu ar fy enaid, yr wyf yn sicr o gael myned i'r nefoedd; ond gallaf gael y ddau ddull o fedydd, a myned i uffern wedi y cwbl."
JOHN OWEN. Mab Mr. Hugh Owen. Yr oedd yn weinidog ieuangc gobeithiol a chymeradwy iawn, ac, ar ol marwolaeth ei dad, yr unig weinidog Ymneillduol yn Meirionydd. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa yr enwog Mr. Frankland, yn Rathmel, yn sir Gaerefrog, lle y dechreuodd ei fyfyrdodau, Tachwedd 23ain, 1639, yr un amser a Mr. Thomas Baddy, o Ddinbych. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, dewiswyd ef yn gydweinidog a'i dad yn ei gylch gweinidogaethol eang, yn siroedd Meirion a Maldwyn. Ond er rhagored gwr ieuangc ydoedd, fe fachludodd ei haul a hi etto yn ddydd. Aeth ar neges i'r Amwythig, a chymerwyd ef yn glaf yno, yn nhy Mr. Orton, (tadcu Job Orton, bywgraphydd Dr. Doddridge), a bu farw, ar ol naw diwrnod o gystudd, yn ddeg-ar-hugain oed, Mehefin 27ain, 1700. Aeth Mr. James Owen i'w weled y nos cyn ei farwolaeth, ac amlygodd obaith a dymuniad am i'r Arglwydd arbed bywyd un oedd mor ddefnyddiol ac angenrheidiol yn Nghymru; atebodd yntau yn addfwyn, "Balchder fyddai tybied fod ar Dduw eisieu neb o honom." Pregethodd Mr. Mathew Henry ei bregeth angladdol, a dywed yn ei ddyddlyfr, wrth gyfeirio at yr amgylchiad, "Yr oedd galar dirfawr ar ei ol, ac nid heb achos, oblegid nid oedd nemawr o wyr ieuaingc cyffelyb iddo i'w cael." Bu farw y gweinidog ieuangce gwerthfawr hwn o fewn ychydig gyda blwyddyn ar ol ei dad.
RAYNALLT WILSON. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes Mr. Wilson. Dywedir yn Llaw-ysgrifau Lambeth ei fod yn 1669 yn ysgolfeistr yn Aberhafesp, a'i fod yn Ymneillduwr gweithgar. Yn nghofnodion y Bwrdd Henadurol am 1690, crybwyllir am dano ef fel pregethwr teithiol yn Maldwyn. Y flwyddyn hono, fel yr ymddengys, y derbyniodd gymhorth arianol y waith gyntaf oddiwrth y Bwrdd, ac yn 1713 y derbyn- iodd y swm olaf. Yr oedd yn fyw yn 1715, ond nid ymddengys iddo fyw yn hir wedi y flwyddyn hono. Dywedir ei fod yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ysgol feistr effeithiol. Hyn yw y cwbl a wyddom am dano.
REES PROTHEROE. Gweler hanes Caerdydd a'r Watford.
WILLIAM JERVICE. Gweler Hanes Llanfyllin.
BENJAMIN MEREDITH. Nid oes genym ddim i ychwanegu at yr hyn a nodasom mewn perthynas iddo ef.
LEWIS REES. Gweler hanes y Mynyddbach, Morganwg.
SIMON WILLIAMS. Gweler hanes eglwysi Rhaiadr, Llandrindod a Thredwstan.
RICHARD TIBBOTT. Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn Hafodypant, yn mhlwyf Llanbrynmair, Ionawr 18fed, 1719. Efe oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Yr oedd ei rieni yn bobl dduwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys yn Llanbrynmair, a chawsant yr hyfrydwch o weled pump o'u chwech plant yn proffesu crefydd, a dau o honynt yn weinidogion yr efengyl. Yr oedd Richard yn ofni yr Arglwydd o'i febyd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys cyn ei fod yn llawn bymtheg oed. Felly yr oedd mewn cymundeb eglwysig yehydig fisoedd cyn i Lewis Rees ddyfod i Lanbrynmair. Dechreuodd bregethu cyn ei fod yn gyflawn ugain oed, sef tua y flwyddyn 1738. Yn fuan wedi hyny, aeth i'r ysgol i Landdowror, dan ofal yr enwog Griffith Jones. Dichon mai Mr. Rees, ei weinidog, a'i cynghorodd i fyned yno. Y canlyniad o hyny fu, iddo ymuno a'r Methodistiaid, a bu yn aelod gwasanaethgar a defnyddiol o'r cyfundeb hwnw hyd y flwyddyn 1762, pryd y derbyniodd alwad oddi- wrth ei fam eglwys yn Llanbrynmair, ac yr ymunodd drachefn a'r Annibynwyr. Yn nghymdeithasfa y Methodistiaid, a gynhaliwyd yn y Watford, Morganwg, yn Ionawr, 1742, penderfynwyd iddo fod yn ymwelwr cyffredinol a'r cymdeithasau neu yr eglwysi ieuaingc. Mewn cymdeithasfa a gynhaliwyd yn Llanddeusant, sir Gaerfyrddin, yn Chwefror, 1742, penderfynwyd iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol, ond nid ymddengys i'r penderfyniad hwnw gael ei gario allan. Wedi hyny gosodwyd ef yn arolygydd y cymdeithasau Methodistaidd yn sir Drefaldwyn; a thra y parhaodd ei gysylltiad a'r Methodistiaid, bu yn ddiattal yn llenwi swyddau o anrhydedd ac ymddiried yn eu mysg. Yr oedd ei weithgarwch diflino, mwyneidd-dra ei dymer, a'i dduwioldeb seraphaidd, y fath, fel nas gallasai neb a'i hadwaenai lai na'i barchu a'i anwylo.
Wedi iddo ddychwelyd at yr Annibynwyr, ac ymsefydlu fel gweinidog yn Llanbrynmair, ymroddodd a'i holl egni i gyflawni dyledswyddau ei gylch eang a phwysig. Heblaw y llwyddiant cyson fu ar ei weinidogaeth, cafodd, fel y crybwyllwyd eisoes, ddau dymor o adfywiad nerthol, a threuliodd ei holl dymor gweinidogaethol yn serchiadau pobl ei ofal, a'r wlad yn gyffredinol. Y Sabboth olaf y pregethodd oedd Ionawr 21ain, 1798. Pregethodd ddwywaith y Sabboth hwnw, a gweinyddodd Swpper yr Arglwydd mewn dau le. Ymddangosai fel pe buasai ei gorph yn gryfach, a'i deimladau yn fwy nefolaidd nag arferol y diwrnod hwnw. Sylwai un o'i wrandawyr ei fod wrth siarad am ddyoddefiadau Iesu Grist fel pe buasai braidd yn y nefoedd, heb feddwl fawr mai dyna y tro olaf iddo yfed o ffrwyth y winwydden gyda yr eglwys ar y ddaear. Y dydd Mawrth canlynol pregethodd ei bregeth olaf, yn nhy cyfaill iddo. Dychwelodd adref dydd Mercher yn lled lesg, ond yn ddiboen, a llawn fwriadai bregethu y Sul canlynol, ond fel arall y gwelodd yr Arglwydd yn dda ordeinio. Cymerwyd ef yn glaf iawn nos Sadwrn, gan y graianwst, (gravel), a bu mewn poenau dirdynol agos yn ddiattal o'r pryd hwnw hyd Ddydd yr Arglwydd, Mawrth 18fed, 1798, pryd y rhyddhaodd angeu ef o'i holl boenau. Amlygai ymostyngiad hollol i ewyllys yr Arglwydd yn ei gystudd, a bu farw mewn cyflawn fwynhad o'r nefoedd, Claddwyd ef y dydd Iau canlynol, a'r Sabboth ar ol hyny pregethodd Mr. Roberts, ei ganlyniedydd, ei bregeth angladdol, oddiwrth 2 Sam. iii. 38, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel?" Bu Mr. Tibbott yn briod dair gwaith. Ni chafodd gyfoeth gydag un o'i wragedd, ond cafodd beth llawer rhagorach—duwioldeb amlwg. Cafodd bymtheg o blant, a bu deg o honynt fyw ar ei ol ef. Mab iddo ef oedd y diweddar addfwyn Mr. Richard Tibbott, Llanfyllin.
Yr oedd Richard Tibbott yn ddiarhebol am ei dduwioldeb, ei lafur crefyddol, a'i ryddfrydigrwydd. Ymddangosai ei fod yn dal cymundeb diattal a'r Arglwydd, a thrwy ei fywyd cyhoeddus o driugain mlynedd parhaodd yn sicr a diymod a helaeth yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol. Dyoddefodd beth erledigaeth. Bu am un noswaith yn garcharor yn Nolgelleu, a chafodd ei guro gan erlidwyr unwaith yn sir Gaernarfon, nes iddo lewygu dan yr ergydion. Er iddo fod mewn cysylltiad a dau enwad, cadwodd ei gymeriad a'i barch trwy ei oes gyda y ddwy blaid: ie, yr oedd yn sefyll mor uchel yn ngolwg y byd crefyddol yn gyffredin, fel y croesawid ef i bulpudau y tri phrif enwad—y naill fel y llall. Cyhyd ag y parhaodd ei nerth, teithiai yn fynych trwy Ogledd a De, a phregethai yn ei deithiau yn ddiwahaniaeth yn nghapeli pob enwad. Er na chawsom le i ddeall ei fod yn bregethwr anghyffredin o fawr, etto yr oedd yn boblogaidd iawn ar gyfrif ei gymeriad santaidd, ei ysbryd nefolaidd, ei athrawiaeth nefolaidd, ei synwyr cyffredin cryf, a'i dymer fwyn a diragfarn. Ni chafodd nemawr o fanteision addysg, heblaw ysgol gyffredin yn y wlad, ac ychydig fisoedd yn Llanddowror, ond yn ol tystiolaeth Dr. Edward Williams, yr hwn a ysgrifenodd gofiant iddo i'r Evangelical Magazine, am 1802, yr oedd, trwy ei ddiwydrwydd personol, wedi dyfod yn gryn gyfarwydd yn y Groeg a'r Lladin, ac i wybod ychydig o'r Hebraeg. Etto nid ar ei ysgolheigdod, ond ar ei ddaioni a'i ddefnyddioldeb, yr ymddibynai ei enwogrwydd.
JOHN ROBERTS. Ganwyd y gwr enwog ac anwyl hwn yn Bronyllan, plwyf Mochtref, Maldwyn, Chwefror 25ain, 1767. Yr oedd ei rieni yn ddynion duwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys Annibynol yn Llanbrynmair, ond yn perthyn yn benaf i'r gangen o honi a ymgynnullai yn Aberhavesp. Bu ei dad yn aelod eglwysig am ddeng mlynedd a thriugain. Yr oedd ei dad a'i fam yn ofalus iawn am ddwyn i fyny eu teulu lluosog yn ofn yr Arglwydd. I ymddyddan a gymerodd le rhyngddo a'i fam y priodola Mr. Roberts ei argraffiadau crefyddol cyntaf. "Pan o gylch pedair oed," meddai, "cefais yr hyfrydwch un noson o gysgu gyda'm mam. Wedi i ni orwedd yn y gwely, treuliwyd ganddi beth amser i ddysgu i mi weddi yr Arglwydd. Gofynais iddi, A oedd raid i mi farw? Attebodd hithau, Fod pawb i farw, a'm bod inau i farw; ond fod genyf enaid i fyw byth mewn byd arall: ac wrth geisio gwasgu ar fy meddwl fy mod i fyw byth, torodd allan i wylo, ac wrth ei chlywed, ymollyngais inau i wylo, a gwnaed argraff y pryd hyny ar fy meddwl nas gellir byth ei ddileu. Mynych iawn y cofiwn ar ol hyn, pan, dichon, yn nghanol difyrwch fy mebyd, fod genyf ENAID I FYW BYTH; a byddai pob adgofion o'r tro hwnw yn gwneyd dwys argraffiadau ar fy meddwl, ac yn peri i mi wylo llawer; a diau genyf y gallai mamau etto fod o fythol les i'w plant bychain, wrth geisio gwasgu yn fore ar eu meddyliau eu bod i fyw byth. Dros lawer o flynyddoedd ar ol hyn, parhaodd fy meddwl mor dyner, nes bod arnaf arswyd bron beunyddiol rhag gwneuthur dim a anfoddlonai yr Arglwydd. Pan oeddwn o gylch un ar ddeg oed, bu farw fy mam, a pharodd hyny i mi feddwl gyda mwy o ddwysder nag erioed am angeu, a byd tragywyddol. Ar ol hyn cefais y budd a'r fraint o gysgu gyda'm tad, yr hyn a fu o fendith neillduol i mi, am ei fod ef, drwy hyny, yn cael mynychach hamdden i'm hyfforddi yn y pethau a berthynent i'm heddwch diddarfod. Yr oeddwn weithiau y pryd hyny, pan yn wan a chlaf yn y gwely, yn teimlo hyfrydwch nas medraf ei ddarlunio, wrth glywed fy nhad yn darllen a gweddio yn y teulu, ac wrth fyfyrio ar dosturi a chariad y Gwaredwr yn ymostwng i farw dros euog bechadur; a melus iawn genyf heddyw ydyw adfeddwl am ddwysder a serchogrwydd y cynghorion a'r cyfarwyddiadau a roddwyd i mi gan fy rhieni o gylch triugain mlynedd yn ol."
Pan yn ddwy ar bymtheg oed ymadawodd a thy ei dad ac aeth i fyw
at geraint iddo yn Aberhafesp, ond ni chafodd nemawr o fanteision crefyddol yno. Denwyd ef i gymdeithasu a dynion ieuaingc diofn Duw, ac yn
raddol i hoffi eu cyfeillach ac i ddysgu eu ffyrdd. Er na ddarfu iddo
syrthio i unrhyw anfoesoldeb cyhoeddus, ymollyngodd i raddau pell o
ddideimladrwydd am achos ei enaid. Ar ol bod yno ddwy flynedd arweiniodd Rhagluniaeth ef i ardal Llanbrynmair, a thrwy ddylanwad ei
chwaer henaf, yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb, cafodd ei ennill i
fyned yn gyson i'r cyfarfodydd crefyddol, ac yn fuan daeth i deimlo dylanwad crefydd ar ei enaid. Hydref 29ain, 1786, ymunodd a'r eglwys yn Llanbrynmair, ac ymroddodd ar unwaith i fod yn weithgar a defnyddiol; dywed nad oedd dim a roddai fwy o hyfrydwch i'w feddwl na chael
cyfleusdra i ymddyddan a'i gyd-ieuengetyd am bethau tragywyddol. Yn
fuan ar ol ei dderbyniad i'r eglwys teimlodd awydd yn ei feddwl am ymroddi i waith y weinidogaeth, ond bu am rai blynyddau mewn petrusdod
rhag ofn mai oddiar gau ddybenion yr oedd y meddyliau hyny yn ymgodi
ynddo. Pa fodd bynag, ar anogaeth Mr. Tibbott a'r eglwys, dechreuodd
gynghori ychydig yn y cyfeillachau; ac ar y Sabboth, Ionawr 21ain,
1790, pregethodd ddwywaith yn gyhoeddus yn Mnafon a Phenarth. Yn
y Mawrth canlynol aeth i'r Athrofa i Groesoswallt, ar ei draul ei hun, a
bu yno yn dysgu Lladin hyd y Sulgwyn y flwyddyn hono. Treuliodd
wyliau y Sulgwyn yn Llanuwchllyn gyda Mr. Abraham Tibbott, ac aeth
yn mlaen yno gyda y Lladin gyda mwy o rwyddineb braidd nag yn
Nghroesoswallt. Yn niwedd Gorphenaf yr un flwyddyn aeth o Lanuwchllyn i Bwllheli, lle yr arosodd hyd y Nadolig dan addysg Mr. Benjamin
Jones. Yn Ionawr, 1791, derbyniwyd ef i'r Athrofa yn Nghroesoswallt
ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain. Bu yno am flwyddyn dan
ofal Dr. Edward Williams, ac y mae ei athraw dysgedig yn ei adroddiad o
sefyllfa yr Athrofa yn Rhagfyr, 1791, yn dweyd fel y canlyn am dano:—
"John Roberts, a ddechreuodd ei fyfyrdodau yn Ionawr, 1791. Y mae
efe wedi mynel rhagddo yn araf ond yn sicr (slow and sure). Gyda'r
Lladin a'r Gramadeg Groeg y mae ef wedi bod yn benaf trwy y flwyddyn.
Mae yn debygol y gwna efe bregethwr difrifol a phrofiadol." Yn nechreu
y flwyddyn 1792 rhoddodd Dr. Williams ei swydd i fyny fel athraw ar ei
symudiad i Birmingham, yr hyn oedd yn ofid mawr i Mr. Roberts, am ei
fod yn edrych ar ei athraw fel un o'r dynion goreu a adnabuasai erioed.
Ar ymadawiad Dr. Williams symudwyd yr Athrofa i Wrecsam i fod dan
ofal Dr. Jenkin Lewis, a chafodd Mr. Roberts bob peth a ddymunai yn ei
ail athraw drachefn. Bu dan addysg Dr. Lewis am dair blynedd, a pharhasant yn gyfeillion mynwesol tra ar y ddaear. Aeth Mr. Roberts y
holl ffordd o Lanbrynmair i'r Casnewydd i bregethu pregeth angladdol ei
hen athraw, yn 1831.
Tua naw mis cyn terfyniad ei amser yn yr athrofa, derbyniodd alwad serchog oddi wrth ei fam eglwys yn Llanbrynmair, i ddyfod yn gynorthwywr i'w hen weinidog Mr. Tibbott. Atebodd hi yn gadarnhaol, a dechreuodd ei weinidogaeth yno y Sul cyntaf o Ionawr 1795. Ei destynau y Sabboth hwnw oedd, yn y boreu, 1 Cor. ii. 2; ac yn y prydnawn, 2 Thes. iii. 1. Cynhaliwyd cyfarfod ei urddiad Awst 25ain, 1795. Bu Mr. Tibbott a Mr. Roberts yn cydlafurio yn gysurus a thangnefeddus hyd derfyn oes yr hen weinidog yn 1798; yna rhoddodd yr eglwys alwad newydd iddo ef i fod yn ganlyniedydd i Mr. Tibbott. Parhaodd i lafurio yn y maes eang a phwysig hwn gyda llwyddiant a pharch digyffelyb hyd derfyn ei oes weithgar a defnyddiol.
Bu y gweinidog rhagorol hwn farw, fel y bu fyw-mewn cymundeb agos a'r Arglwydd. Cafodd rai misoedd o gystudd cyn i'w ysbryd gael gollyngdod o'r babell bridd, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel a chydag ymostyngiad i ewyllys ei Arglwydd. Bu farw mewn tangnefedd ychydig funudau wedi dau o'r gloch y boreu Gorphenaf 21ain, 1834. Claddwyd ef yn meddrod ei dad yn mynwent eglwys blwyfol Llanbrynmair, a dilynwyd ei gorff i'r gwely pridd gan dorf ddirfawr o alarwyr. Gweinyddwyd ar achlysur y claddedigaeth gan Mr. Morgans, Machynlleth; Mr. Griffiths, Tyddewi; Mr. Williams, Wern; Mr. Jones; Dolgellau; Mr. Jones, Llanuwchllyn; a Mr. Davies, Drefnewydd.
Mae yr enwau Llanbrynmair a John Roberts wedi eu cysylltu yn anwahanedig a'u gilydd, ac y maent yn rhwym o ddisgyn yn nghyd i'r oesau dyfodol. Nid oedd un gweinidog yn Nghymru yn ei oes a'i enw yn fwy adnabyddus trwy Gymru, Lloegr, ac America, na "Roberts Llanbrynmair." Nid ei fawredd a'i hyawdledd fel pregethwr a ennillodd yr enwogrwydd yma iddo, ond cydgyfarfyddiad amryw bethau eraill, y rhai nad oes gan un gweinidog ieuangc, yn enwedig yn yr oes hon, un esgus am fod yn amddifad o honynt.
Yr oedd John Roberts yn ddyn boneddigaidd a gweddaidd iawn yn ei ymddangosiad; cadwai lwybr canol rhwng y gwladwr trwsgl ac afler, a'r coegyn dirmygus. Mae mwy o gysylltiad rhwng ymddangosiad corfforol dyn a'i barch neu ei anmharch mewn cymdeithas nag a feddylia llawer. Nid ychydig o ddynion, da ar y cyfan, sydd wedi anafu eu defnyddioldeb a'u parch i raddau mawr trwy drwsgledd ac anfoesgarwch eu hymddangosiad.
Yr oedd ei serchogrwydd a mwyneidd-dra ei dymer yn gwneyd llawer iawn i'w gymeradwyo i ffafr y cyhoedd. Er mwyneiddied a boneddiced dyn ydoedd, nis gallodd fyned trwy anialwch y byd hwn heb gael llawer brathiad i'r byw gan ddrain a mieri cymdeithas; ond dioddefodd y cwbl gyda mwyneidd-dra a boneddigeiddrwydd teilwng o weinidog a Christion. O herwydd iddo fabwysiadu golygiadau duwinyddol mwy rhydd ac eang ar drefn yr efengyl na'r hyn a gyhoeddid yn gyffredin yn yr oes hono, cafodd lawer o'i enllibio a'i erlid, nid yn unig gan enwadau eraill, ond hefyd gan rai brodyr lled ddylanwadol yn ei enwad ei hun; ond dyoddefodd bob ymosodiad a wnaed arno yn addfwyn ac heb roddi sén am sén. Nis gwyddom iddo erioed ad-dalu ymosodiadau ei wrthwynebwyr arno gyda chwerwder annghristionogol mewn gair nac ysgrifen. Er ei fod yn nodedig am ei fwyneidd-dra, etto ni oddefai i'w dynerwch beri iddo waeddi ïe gyda phawb a phob peth. Er mwyneiddied ydoedd, yr oedd yn ddigon gonest a gwrol i ddweyd wrth ei gyfeillion a'i gydnabod ei farn am eu colliadau, ond gwnelai hyny yn y fath fodd hynaws nas gallasai un dyn a gradd o deimlad crefyddol ynddo lai na'i garu a'i barchu am ei onestrwydd.
Yr oedd yn enwog am ei synwyr cyffredin, a'i ofal i beidio gwneyd na dweyd dim yn anheilwng o'r swydd santaidd yr oedd ynddi. Mae diffyg synwyr cyffredin wedi bod yn fynych yn llawn cymaint o niwed i ddefnyddioldeb gweinidogion a diffyg duwioldeb. Dymunwn alw sylw pob pregethwr ieuangc at y frawddeg ganlynol a ysgrifenodd Mr. Roberts tua deunaw mis cyn ei farwolaeth: Rhydd i mi gryn hyfrydwch i feddwl na ffurfiais erioed, gyda golwg ar briodi, unrhyw gyfeillach â neb, ond â'r un ag y mae genyf le i feddwl oedd wedi ei hamcanu i mi." Pe byddai pob pregethwr yn ofalus na byddo dim yn ei eiriau na'i weithredoedd yn anheilwng o'r swydd gysegredig y mae wedi ymgymeryd â hi, rhagflaenid llawer o waradwydd i grefydd a gwawd annuwiolion. Dylai pregethwr yr efengyl fod yn mhob peth yn un nas gellir ar dir teg ei feio; ac yr oedd John Roberts, yn ol tystiolaeth ei gydnabod yn gyffredinol, yn un o'r fath. Yr oedd yn ddyn llafurus a defnyddiol anghyffredin. Ymddengys mai gwasanaethu Duw ac achub eneidiau dynion oedd holl waith a hyfrydwch ei fywyd. Yr oedd yn dal ar bob cyfleusdra i wneuthur daioni, trwy siarad, ysgrifenu, ac ymddwyn yn ddoeth a theilwng o'i swydd. Un hynod ydoedd am ymddyddan yn bersonol â dynion mewn oed ac à phlant am fater eu heneidiau. Dywed ei hun iddo gael mwy o brofion ei fod wedi bod yn ddefnyddiol i bersonau neillduol trwy ymddyddanion personol na thrwy ei weinidogaeth gyhoeddus. "Dymunwn," meddai, fod bob amser yn barod i ymddyddan am grefydd; a bod yn daer mewn gweddi am gyfleusdra beunyddiol i wneuthur neu ddywedyd rhyw- beth er iachawdwriaeth dragywyddol fy nghyd-anfarwolion." Anfynych, os un amser, yr ysgrifenai lythyr cyfrinachol at neb heb son rhywbeth am grefydd ynddo, a chafodd amryw brofion fod llythyrau a ysgrifenasai wedi bod yn foddion i achub eneidiau.
Ond yr hyn a osododd arbenigrwydd arno, a'r hyn a wnaeth ei enw yn enw cenedlaethol, ydoedd y rhan neillduol a gymerodd yn nadleuon duwinyddol y ganrif bresenol. Mae ei enw yn adnabyddus fel un o'r rhai blaenaf, yn wir y blaenaf oll yn Nghymru, o amddiffynwyr yr hyn a elwid yn system newydd. Yr oedd Andrew Fuller a Dr. Edward Williams o'i flaen wedi datgan yr un golygiadau yn Lloegr; ond efe oedd y cyntaf i'w cyhoeddi yn Nghymru, ac ni wnaeth neb fwy drostynt nag a wnaeth efe. Eglurai hwy yn bwyllog a manwl, ac amddiffynai hwy yn gryf a phenderfynol, ac etto yn ddoeth a boneddigaidd. Goddefodd wg ac anfoddlonrwydd llawer o'u herwydd—triniwyd ef fel heretic a chyfeiliornwr peryglus ymosodwyd arno mewn cynhadleddau a thrwy y wasg—a chauwyd rhai o bulpudau ei enwad ei hun yn ei erbyn; ond daliodd y cwbl heb gyffroi na chythruddo, na dywedyd geiriau caledion am ei wrthwynebwyr cryfaf. Cael allan y gwirionedd oedd ei amcan ef, ac yr oedd ganddo hyder diderfyn yn hwnw y dygai farn i fuddugoliaeth. Mr. James Griffiths, o Fachynlleth, wedi hyny o Dyddewi, oedd un o'r rhai cyntaf o'i gyd-lafurwyr a syrthiodd i mewn a'r un golygiadau; a chawsant ill dau lawer cyfle i ymddyddan a'u gilydd arnynt cyn anturio eu pregethu yn gyhoeddus. Yn Nghymanfa Treffynon, a gynhaliwyd yn 1809, yr anturiasant gyntaf i draethu eu golygiadau mewn Cymanfa; ac yr ydym yn teimlo yn dra sicr yn ein meddwl iddynt wneyd hyny oddiar ragfwriad, fel rhai yn teimlo fod eu rhwymedigaeth i'r gwirionedd yn galw arnynt i'w datgan yn gyhoeddus. Pregethodd Mr. James Griffiths yn y Gymanfa hono y noson gyntaf oddiar Heb. v. 9-"Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo." Ni chawsom gyfle i weled pregeth Mr. Griffiths, gan na chyhoeddwyd hi; ond gallwn gasglu mai y wedd ymarferol i'r gwirionedd a ddelid allan ganddo fod ufudd-dod i'r efengyl yn hanfodol er derbyn rhinwedd yr iachawdwriaeth. Nid oedd y gwirionedd hwnw mewn un modd yn dderbyniol yn y dyddiau hyny. Edrychid ar yr iachawdwriaeth fel rhyw drefniant mawr i ddyogelu cadwedigaeth, yn annibynol hollol ar bob ymddygiad o eiddo dynion. Dichon na ddywedid yn eglur nad oedd gan ddyn ddim i'w wneyd er ei gadwedigaeth; ond yr oedd tôn yr athrawiaeth yn amlwg yn cyfleu syniad felly. Ofnent hwy alw ar ddyn i wneyd ei waith, rhag i hyny gymylu graslonrwydd yr iachawdwriaeth. Ac yr oedd gwaith Mr. Griffiths yn pregethu—fod ufudd-dod i'r efengyl yn hanfedol er derbyn rhinwedd yr iachawdwriaeth-yn athrawiaeth newydd a dyeithr gan lawer.
Pregethodd Mr. J. Roberts dranoeth ar Sancteiddhad, oddiar Lev. xx. 7, 8 "Ymsancteiddiwch gan hyny a byddwch sanctaidd; canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. Cedwch fy ngorchymynion a gwnewch hwynt, myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd." Sancteiddiad fel gwaith Duw ac fel dyledswydd dyn yw baich y bregeth; ac ni ddarllenasom ddim erioed sydd yn fwy clir a goleu ar y mater; ac y mae mor gynil a chymedrol fel y mae yn syndod i ni beth a allasai fod yn dramgwyddus ynddi i neb. Cyhoeddwyd y bregeth yn y Dysgedydd am Mai 1834, yn mhen pum mlynedd ar hugain ar ol ei thraddodi, wedi ei hanfon i'r Swyddfa yn llawysgrif Mr. Roberts ei hun, gyda nodyn o'i blaen yn hysbysu iddi gael ei thraddodi yn Nghymanfa Treffynon, a chyda dymuniad am iddi gael ei hargraffu. Yr oedd hon yn un o'r pethau diweddaf, os nad yn wir y peth diweddaf oll, aysgrifenodd Mr. Roberts i'r wasg, oblegid bu farw cyn pen deufis ar ol ei hymddangosiad; lle y gwelwn fod yr hybarch Mr. Roberts yn glynu hyd y diwedd wrth y gwirioneddau goruchel a gredasai ac a bregethasai dros ei holl fywyd. Ail gyhoeddwyd y bregeth yn yr Annibynwr am Chwefror ac Ebrill 1864, o'r un llawysgrif ag y cyhoeddwyd hi yn y Dysgedydd ddeng mlynedd ar hugain cyn hyny; wedi ei hanfon gan Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr hwn oedd bresenol yn Nhreffynon, ac yn gwrando y bregeth. Gwrandawai y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn Nhreffynon ar Mr. R. yn amheus iawn, canys yr oedd "yn dwyn rhyw bethau dyeithr i'w clustiau." Addefai Mr. Williams, o'r Wern, yr hwn oedd yn bresenol yn y Gymanfa, ac yn gwrando y ddwy bregeth, wrth gyfaill i ni yn mhen deng mlynedd ar hugain ar ol hyny, ei fod yn meddwl ar y pryd eu bod yn cyfeiliorni yn ddychrynllyd; ond ni bu yn hir cyn mabwysiadu yr un golygiadau, ac ni wnaeth neb wedi hyny yn ei oes fwy, o'r pulpud yn arbenig, i wrthweithio llifeiriant Antinomiaeth oedd wedi dyfod yn genllif dros eglwysi ein gwlad.
Cyhoeddodd Mr. Roberts ddau draethawd ar y mater yma—y cyntaf yn 1814, dan yr enw Cynygiad Gostyngedig, mewn ffurf o ddau lythyr at gyfaill; ac yn y flwyddyn 1820, cyhoeddodd Galwad Difrifol, neu y Llyfr Glas, fel y gelwid ef yn gyffredin, yn yr hwn yr eglura yn helaethach yr un egwyddorion. Dadleuodd lawer ar ddalenau y Dysgedydd a'r Seren Gomer, ar y pynciau sydd mewn dadl rhwng Calfiniaid ac Arminiaid; ac ar y pynciau y gwahaniaetha Calfiniaid oddi wrth eu gilydd arnynt. Yr oedd yn un o'r dadleuwyr tecaf a mwyaf boneddigaidd a ymaflodd mewn ysgrifell erioed. Ni chymerai byth fantais annheg ar ei wrthddadleuydd —ni phriodolai iddo olygiadau na ddatganwyd ganddo—ni chynygiai ei ddal yn gyfrifol am ei gasgliadau ei hun oddi wrth ei olygiadau—ni roddai hyd yn nod, yr hyn oedd weithiau yr ystyr mwyaf naturiol i ymadroddion, os gwyddai nad y meddwl hwnw a gysylltai yr ysgrifenydd a hwy—ni wnai ddim mewn un modd a fyddai i'r gradd lleiaf yn anghydweddol a'r ymchwiliad gonestaf a mwyaf diffuant am gael allan y gwirionedd. Dadleuodd gymaint ag odid neb yn ei oes; ond dadleuodd fel ymofynydd didwyll am wybod ewyllys ei Arglwydd.
Ond coron ei holl ragoriaethau eraill, a'r hyn a roddai fywyd a dysglaerdeb yn y cwbl oedd ei dduwioldeb amlwg, a'r cymundeb agos a chyson a ddaliai a'r Arglwydd. "Dyn Duw" ydoedd yn llawn ystyr yr ymadrodd. Yma yr oedd "cuddiad ei gryfder." Nid oedd uwchlaw llawer o'i frodyr am nerth ei alluoedd meddyliol; ac yr oedd ar ol i lawer o honynt yn yr elfenau hyny a ystyrir yn angenrheidiol i wneyd pregethwr poblogaidd, etto trwy gydgyfarfyddiad y pethau rhag—grybwylledig; a'r oll wedi eu bedyddio a duwiolfrydedd anarferol, daeth i fod yn un o'r dynion mwyaf enwog, parchus, a defnyddiol yn ei oes; a darllenir gan yr oesau a ddel ar ol gydag edmygedd, am "lafurus gariad" yr bybarch John Roberts, Llanbrynmair.
Nodiadau
[golygu]- ↑ State Papers, Interregnum, Vol. 319.
- ↑ The Lambeth MSS., Vol. 943.
- ↑ State Papers, Interregnum, Vol. 319 a 286.
- ↑ State Papers, Charles II 's reign, vol. viii.
- ↑ Hanes bywyd R. Davies y Crynwr.
- ↑ Dysgedydd 1827. Tudal. 276
- ↑ Dysgedydd 1835. Tudal. 380.
- ↑ Hanes bywyd y Parch. J. Roberts,tudal, 11.
- ↑ Llythyrau. Meistri S. Roberts, ac O. Evans
- ↑ Rees's Nonconformity in Wales, p.p. 114-123.
- ↑ Rees's Nonconformity in Wales, p. 162.