Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Main

Oddi ar Wicidestun
Domgay Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Meifod

MAIN.

Ar ben mynydd y Broniarth, tu cefn i'r Fantmawr, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes Llanfyllin, saif anedd-dy bychan o'r enw Llidiartfechan. Nid oes o bellaf fwy na haner milldir rhwng y ddau le. Preswyliai un o'r enw William Hughes yn Llidiartfechan, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, ac yn y flwyddyn 1798, os nad yn foreuach, agorodd ei dŷ i dderbyn pregethu, ac i gynal Ysgol Sabbothol. Y rheswm am hyn mae yn debyg ydoedd, am na oddefai John Wynne, Pantmawr, iddynt ddyfod i'w dŷ, ond ar y Sabboth yr oedd yn rhaid iddo, yn ol cytundeb cymeriad ei dir, agor y drws iddynt. Aelod o'r Sarnau, fel y gallwn gasglu, oedd William Hughes, canys cawsom ei enw fel un o dystion bedyddiad plentyn i un o aelodau yr eglwys hono; ond yn y dyddiau hyny nid oeddynt yn cyfyngu gweinyddiad yr ordinhadau i ryw un lle penodol. Ar foreu Sabboth, yn y flwyddyn 1800, yr ydym yn cael Dr. Lewis, Llanuwchllyn, yn pregethu yn Llidiartfechan, ac yn derbyn dau aelod oeddynt wedi hyny i fod yn golofnau cryfion o dan achos yr Arglwydd yn yr ardal, sef John Griffiths, Cil; ac Edward Ellis, Ceunant-bach. Cyn hyn, arferai Mr. Griffiths wrando yn eglwys y plwyf, ac yr oedd yn un o'r dynion mwyaf moesol a dichlynaidd yn yr holl wlad; ond argy hoeddwyd ef nad oedd bywyd moesol ddim yn ddigon heb gyfnewidiad cyflwr. Agorodd Mr. Griffiths ei dy i dderbyn yr efengyl, a ffurfiwyd yno eglwys, ac efe, ac Edward Ellis, oeddynt y diaconiaid. Tarawyd Mrs. Griffiths, (mam Mr. Griffiths, canys hen lanc oedd efe), gan afiechyd trwm, a chan fod swn yr addoliad yn peri poen iddi, symudwyd y preg ethu a'r cyfeillachau i'r Main, lle yr oedd Edward Ellis erbyn hyn wedi symud i fyw o'r Ceunant—bach. Wedi marwolaeth Mrs. Griffiths, yn 1804, symudwyd yr achos yn ei ol i'r Cil, ac yno y cartrefodd hyd adeiladiad y capel, yn y flwyddyn 1819. Yr oedd golwg obeithiol ar yr achos, fel y cymerodd yr eglwys galon i roddi galwad i Mr. John Jones, oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin. Adnabyddid of fel "Jones bach, Llundain," oblegid mai o Lundain y daeth i'r athrofa yn Llanfyllin. Sefyd lodd Mr. Jones yma yn Chwefror, 1819. Nis gallasom gael hanes ei urddiad, ond agorwyd y capel yn nghorph y flwyddyn hono, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; a Morris Hughes, Sardis. Yr oedd y pryd hwnw yn adeg lewyrchus ar grefydd, a pharhaodd y Main am flynyddau, i raddau mwy neu lai, dan effeithiau y diwygiad. Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr bywiog, tanllyd, cyfaddas iawn at adeg felly ar grefydd.

Ni chwblhawyd y weithred yn yr hon y rhoddai Mr. Griffiths y capel i'r enwad hyd 1824. Cofrestrwyd hi y 24ain o Fawrth y flwyddyn hono. Y swm a enwyd gan Mr. Griffiths am y tir a'r capel oedd 18p. ond nid ymddengys iddynt gael eu talu, gan mai ei ddymuniad of oedd rhoddi y capel i'r enwad yn rhad. Wedi llafurio yn y Main a'r cylchoedd am un-flynedd-ar-ddeg, derbyniodd Mr. Jones alwad o Lanidloes, a symudodd yno yn nechreu haf 1830. Yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Heol-y-felin, Casnewydd, (tu dal. 63), gwnaethom gam hysbysiad gyda golwg ar amser ei farwolaeth, a lle ei gladdedigaeth; ac nis gallwn wneyd yn well na'i gywiro yma. Bu Mr. Jones farw Awst 31ain, 1851, yn 63 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandysilio, gerllaw Domgay, Maldwyn.

Digwyddodd yn nodedig, pan yr oedd Mr. Jones yn pregethu ei bregeth ymadawol yn y Main, i Mr. Edward Williams, y pryd hwnw o Bethesda'r fro, Morganwg, ddyfod i'r capel yn hollol annisgwyliadwy, ac yn ei ddull sydyn arferol dywedai Mr. Jones, "Wele weinidog i chwi, gafaelwch ynddo;" ac felly fu, a derbyniodd Mr. Williams eu gwahoddiad, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma yn ddioed. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Tachwedd 29ain a'r 30ain, 1830; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Williams, Ffestiniog; W. Morris, Llanfyllin; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Williams, Dinas; D. Morgan, Machynlleth; D. Davies, Llanerfyl; T. W. Jenkyn, Croesoswallt; J. Davies, Llanfair; H. Morgan, Sammah; a J. Jones; Llanidloes. Yspaid dwy flynedd yr arhosodd Mr. Williams yma, canys yn Tachwedd, 1832, ymadawodd i Lansantsior a Moelfra, sir Ddinbych. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, aelod o eglwys Llanfyllin, yr hwn a neillduwyd yn gyhoeddus yn y Main, Ebrill 10fed, 1833. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, o'r Wern. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr. J. Jones, Forden. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Morris, Llanfyllin. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, o'r Wern. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri D. Davies, Llanerfyl; J. Williams, Llansilin; Josiah Jones, Caernarfon; J. Rees, Sarnau; D. Price, Penybontfawr; ac H. Hughes, Penllys.[1] Bu Mr. Morris yn weinidog yma am o gylch deng mlynedd; pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, ond parhaodd i bregethu tra y bu byw. Wedi ymadawiad Mr. Morris, bu Mr. D. Jones, Llansantffraid, yn gofalu yn benaf am y lle, ond yn y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh D. Pughe, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Tachwedd 11eg a'r 12fed y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Bala. Holwyd y gweinidog gan Mr. H. James, Llansantffraid. Offrymwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. W. Roberts, Penybontfawr. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn, ac i'r eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin; pregethwyd hefyd gan Meistri E. Thomas, Trallwm; J. Jones, Penllys; R. Thomas, Croesoswallt; L. Roberts, Sarnau; ac R. D. Thomas, Penarth. Bu Mr. Pughe yma yn ddiwyd am bedair blynedd, nes y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Pughe, derbyniodd Mr. Evan Thomas, Trallwm, alwad oddiyma, a dechreuodd ei weinidogaeth yn 1850, a llafuriodd yma am fwy na deunaw mlynedd, hyd 1869, pan y rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac y derbyniwyd ef ar Drysorfa yr Hen Weinidogion. Mae yn awr yn byw yn Llanfyllin, ac yn pregethu fynychaf bob Sabboth.

Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Trevor Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd yma, Gorphenaf 27ain a'r 28ain; ond llai na blwyddyn yr arosodd yma, canys derbyniodd alwad o Pantteg Morganwg, a symudodd yno; ac yn nechreu 1871, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. Evans, Penarth.

Ni bu yr achos yma erioed yn gryf a lluosog mewn nifer; a gwelodd dymhorau isel a digalon, ond y mae yma ffyddloniaid wedi bod, ac yn bod, sydd yn glynu wrth yr Arglwydd yn ddi-ildio trwy bob tywydd. Bu Mr. J. Griffiths, Cil, yn golofn gref i'r achos am dymor hir. Erys capel a mynwent y Main yn golofnau o'i haelioni; a rhoddodd dri o dai anedd, ardreth y rhai sydd tuag at gynal ysgol ddyddiol yn y Main. Yr oedd ynddo lawer o bethau hynod, ond yr oedd ei galon yn caru y Gwaredwr, a gwasanaethodd ei achos fel diacon ffyddlon yn y Main am 43 mlynedd. Bu farw yn y flwyddyn 1843. Edward Ellis hefyd oedd ŵr da a ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.

Nid ydym yn cael ond am un a godwyd i bregethu yn yr eglwys hon, sef Evan Ellis, mab Edward Ellis. Yr oedd yn ŵr ieuangc crefyddol a gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai, ac yn bregethwr cymeradwy. Derbyniwyd ef i'r Ysgol Ramadegol yn nglyn ag athrofa y Drefnewydd, yn Hydref, 1827, a bu yno hyd y Sulgwyn canlynol; ond dychwelodd adref yn fuan wedi hyny, a'i iechyd wedi rhoi ffordd, ac nid hir y bu byw ar ol hyny; ond bu farw mewn hyder cryf yn ei Bryniawdwr. Cyhoeddwyd bywgraffiad helaeth iddo yn y Dysgedydd am 1829; tu dal. 193, gan y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN MORRIS. Ganwyd ef yn Llanfyllin yn y flwyddyn 1793; a derbyniwyd ef yn aelod yno pan yn ddyn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn 1825; a bu am dymor dan addysg dan ofal Dr. Phillips, yn athrofa Neuaddlwyd. Dychwelodd adref oddiyno, a bu am yspaid yn pregethu i'r eglwysi lle y gelwid am ei wasanaeth. Urddwyd ef yn y Main, Ebrill 10fed, 1833, a llafuriodd yno am fwy na deng mlynedd, yna symudodd i Grimp, sir Amwythig, lle yr arhosodd wyth mlynedd, ac oddiyno dychwelodd i'r Carneddau, yn agos i Groesoswallt, lle y bu byw dair blynedd. Nid oedd gofal unrhyw eglwys arno, ond pregethai fynychaf bob Sabboth, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei lafur gan angeu, Awst 10fed, 1860, yn 63 oed; a chladdwyd ef yn Nghroesoswallt. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn da, ac yn bregethwr sylweddol, ond yr oedd tipyn o surni ac afrywiogrwydd yn ei dymer, yr hyn a laddai ei ddefnyddioldeb. Cadwai yn mhell oddiwrth bawb, fel y cyfrifid ef yn ddyn digymdeithas. Ymladd a'r byd y bu o ran ei amgylchiadau bydol trwy ei oes; ond cadwyd ef i ymddiried yn yr Arglwydd trwy y cwbl. Y mae ei wraig a'i unig ferch etto yn fyw yn Nghroesoswallt.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dysgedydd, 1833. Tu dal, 159.